Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth/Pregeth II
← Pregeth I | Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth gan John Evans, Abermeurig |
Pregeth III → |
PREGETH II.
TRALLOD AR BRYDNHAWN.
"Ac wele drallod ar brydnhawn, a chyn y bore ni bydd.”—Esa. xvii. 14.
MAE yn ddiau fod y geiriau yn cyfeirio at y cyfyngder y bu Judah a Jerusalem ynddo, pan ddaeth byddin liosog yr Assyriaid i osod gwarchae yn erbyn y ddinas, a'r waredigaeth ryfedd a gawsant.
Chwi wyddoch fod dau ddosbarth o ddynion yn y byd, y rhai y mae y Beibl yn talu llawer o sylw iddynt, sef yr eglwys a'r byd, neu y duwiol a'r annuwiol, favorites Duw a'i elynion. Pan ystyr- iwn fod pob llywodraeth yn llaw Duw, fel na all yr un gelyn na phrofedigaeth gyfarfod a'i bobl heb ei ganiatad, ai ni buasai. synwyr dyn anianol yn barod i benderfynu ar unwaith, na chawsai. dim annymunol gwrdd a'i bobl Ef byth, na chawsai yr un awel groes chwythu arnynt; ond y byddai rhagluniaeth yn gwenu arnynt. trwy eu holl fywyd, ac y cawsant farw yn y diwedd yn eu nyth? Ond y ffaith gyda golwg ar hyn yw, "Na wyr dyn gariad neu gas wrth yr hyn a wneir dan haul," oblegid yr un peth a ddigwydd i bawb. Ac os oes gwahaniaeth, phiol y duwiol sydd lawnaf o drallodau lawer pryd.
Mae rhyw awydd neillduol mewn llaweroedd o blant y byd hwn am gael gwybod eu tynged (fortune) yn y dyfodol, ac y mae rhyw ddosbarth cythreulig i'w cael a haerant y gallant hwy fynegu hyn,, ond iddynt gael gwybod dydd ac awr genedigaeth pob dyn. Ac y mae rhyw ddosbarth yn credu y rhai hyn. Ond dyma hen lyfr sydd yn darllen ffortiwn i'r dim, yn onest ac yn rhad, ond i chwi wybod beth yw hoff bethau eich bywyd, "Os ydwyf annuwiol,. gwae fi. "Yr hwn sydd heb gredu i'r Mab, ni wel fywyd, eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef." Ond os ydwyt yn dduwiol,. os wyt yn gwir ddymuno myned i'r nefoedd, dywed dy ffortiwn yn: onest wrthyt tithau, mai "trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid myned i mewn," bod "porth cyfyng" i fyned trwyddo, a "ffordd gul" i'w theithio, ac aml gerydd gan dy Dad nefol, er dy ddysgu i adnabod dy hun, a ffieiddio dy lwybrau, a dyfod i'w adnabod yntau yn well. Ond y mae wedi hyny yn rhoddi “heddychol ffrwyth cyfiawnder," ac yn sicrhau boreu teg, pryd y gellir dweyd am bob trallod, "Ni bydd." Sylwn,
I. FOD TRALLODAU YN RHAN I BOBL DDUW AR Y DDAEAR.—Wrth i ni ddarllen hanes yr eglwys dan yr hen oruchwyliaeth, ni a'i cawn yn fynych yn goddiweddyd trallodau, megis caethiwed y priddfeini, a'r 70 mlynedd yn Babilon. Yr oedd y rhai yna yn drallodau dros brydnhawn. Ond y mae genym hanes am drallodau eraill yn ei chyfarfod ar brydnhawn, rhyw drallod disymwth, neu brofedigaeth am amser byr. Dyna oedd cyfyngder Môr Coch; pan oeddynt yn meddwl eu bod wedi dianc o law eu gorthrymwr, wele hwy wedi cael eu goddiweddyd ganddo bron yn hollol wedi hyny, pryd nad oedd ganddynt le i ddianc rhagddo, a phryd nad oedd ganddynt arfau i'w wrthsefyll. Nid oedd dim yn ymddangos ond llwyr ddinystr neu ail gaethiwed. Ond medr Duw waredu o bob cyfyngder, ac felly yma, erbyn y bore, cafodd Israel ganu yr ochr draw, a'r gelyn yn yr eigion.
Mae ein testyn yn cyfeirio at siampl hynod arall o drallod ar brydnhawn, sef pan oedd brenin Assyria a'i luoedd wedi dyfod yn erbyn Jerusalem, ac yn herio pob gallu, hyd yn nod yr eiddo eu Duw i'w gwaredu o'i law ef. Nid oedd gallu na chalon gan neb yn Jerusalem i wrthsefyll y fath elyn, oblegid y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond heb rym i esgor." Dyna fel yr oedd y prydnhawn, ond erbyn y boreu, yr oedd grym y fyddin fawr wedi ei lladd, a'r gweddill wedi dianc, a thrigolion Jerusalem wedi colli eu dychryn.
Gallwn weled yr un peth yn hanes y tri llanc a fwriwyd i'r ffwrn dân, ac yn hanes Daniel a fwriwyd i ffau y llewod. Dyna drallod onide ? Ond trodd y ffwrn dân yn gyfleusdra iddynt gael gweled y pedwerydd, a ffau y llewod yn ystafell mil mwy cysurus na phalas y brenin, gwelwyd mai fel yna yr oedd erbyn y boreu. Carwn grybwyll un siampl neillduol arall o drallod ar brydnhawn, sef trallod y disgyblion ar brydnhawn y croeshoeliad, a'r pryd y bu Iesu yn gorwedd yn y bedd. Dyna ystorm ofnadwy, a thywyllwch a ellid ei deimlo i brofiad y disgyblion! Yr oeddynt mewn tristwch; ac nid rhyfedd, wedi colli cyfaill mor hoff, a'u siomi mewn cynifer o ddisgwyliadau; ond erbyn boreu y trydydd dydd "nid oedd."
"Daeth boreu teg a hyfryd
'Nol stormus ddu brydnhawn.”
Mae trallodau a thywyllwch yr oesoedd a aethant heibio wedi eu chwalu, a bywyd ac anllygredigaeth wedi eu dwyn i oleuni. Yr achos o drallod y disgyblion nid yw, gan fod yr hwn a fu farw yn fyw, a'u tristwch wedi troi yn llawenydd na all neb ei ddwyn oddi arnynt, gan ei fod i fyw yn oesoesoedd.
II. FOD TERFYN LLWYR I FOD I'W HOLL DRALLODAU.—Mae yr hanesion hyn wedi eu cofnodi gan ddwyfol ysbrydoliaeth, er mantais i bobl Dduw ymhob oes. Fel y mae byddin, neu ryw gwmni, wrth fyned i wlad anhygyrch, yn ceisio pioneers i weithio, a dysgu y ffordd iddynt trwy yr anialwch, fel y bu gyda'r fyddin Brydeinig yn ddiweddar yn Abyssinia, yn dyfod o fantais i oesoedd dyfodol wrth fyned yr un ffordd ; felly y mae y ffyrdd a deithiodd eglwys yr Hen Destament, yn fantais fawr i bob credadyn wedi hyny. Profant fod boreu i bob Cristion pan na bydd y trallodau presenol. Enwaf dri math o drallodau fydd yn sicr o ddarfod ar bobl Dduw.
1. Trallod yr argyhoeddiad.—Mae hwn yn cael ei ganlyn â theimlad dwys o euogrwydd ac edifeirwch. Yr wyf yn hyderus fod yma rai sydd yn gwybod am dano yn wirioneddol. Nid yw ond arwydd o dywyllwch fod rhai yn medru byw yn ddidrallod yn eu pechodau. Mae elfenau trallod yn y byw diweddi, ac yn y llawenydd pechadurus. Ond adeg o drallod rhyfedd yw adeg yr argyhoeddiad, tra fyddo llewyrch gobaith heb ei gael. Gwelir hyn yn y newyn gyfarfyddodd yr afradlon yn y wlad bell, pan oedd. ofnau marw wedi ei oddiweddyd. Yr oedd cofio y modd y gadawodd dŷ ei dad, ac y gwariodd ei eiddo bron a'i lethu. Ond goruchwyliaeth trugaredd a greodd duedd yn ei feddwl i droi adref. Ac wele ef yn cychwyn gyda chylla gwag, gwisg garpiog, ac euogrwydd dwys. "Wele drallod ar brydnhawn, ond erbyn y boreu nid oedd." A weli di ef wrth y bwrdd, yn y wisg oreu, ac yn gwledda ar y llo pasgedig, a'i dad yn edrych yn fwy llawen na neb arno?
Felly y mae pechadur pan yn teimlo ei drueni, mae gweled purdeb deddf Duw a chyfiawnder yr orsedd yn ei lethu. Ond enaid, os cei olwg felly arnat dy hun, a chael tuedd i ddychwelyd, gallaf anturio dweyd am dy drallod, "Erbyn y boreu ni bydd. Daw i dy feddwl ryw ddarnau o adnodau fel y rhai hyny, "Mi a gyfarfyddaf â thi yno." "Ha fab, cymer gysur, maddeuwyd i ti dy bechodau," nes y byddo "Euogrwydd fel mynyddau'r byd yn troi yn ganu wrth y groes."
2. Iselder crefydd a chaledwch y byd.—Mae yn peri trallod mawr iddynt fod enw Duw yn cael ei gablu, ordinhadau Duw yn cael eu dirmygu, a Seion yn ddiepiledd. Mae gweled caledwch ac anystyriaeth, a'r rhwystrau i'w gorchfygu, yn peri iddynt feddwl na welir effeithiau fel a fu byth mwy gyda'r efengyl. Ond pan ddaw y dylanwad, gwna i'r mynyddoedd doddi fel cwyr o'i flaen. Gwraig wrth esgor sydd mewn tristwch am ddyfod ei hawr," ond wedi geni y plentyn bydd yr oll drosodd. Felly y bydd tristwch
3. Trallodau teuluaidd ac amgylchiadol.—Mae aflwyddiant rhagluniaethol, a dyryswch yn yr amgylchiadau yn cyfarfod weithiau â theulu Duw. Ond aml yw y profion a allem eu dwyn fod Duw yn medru gwaredu o honynt. O! y newyn mawr oedd yn Samaria, ryw brydnhawn, "pan oedd pen asyn er 80 sicl o arian a phedwaredd ran cab o dom colomenod er 5 sicl o arian." Ond erbyn y boreu nid oedd. Mae digon o lawnder yn Samaria boreu dranoeth, a'r farchnad yn is nag y gwelwyd hi nemawr erioed. "Ni fyrhaodd llaw yr Arglwydd fel na allo achub eto, ac ni thrymhaodd ei glust fel na allo glywed." Mae colli perthynasau a chyfeillion, cario corff afiach am dymorau meithion, yn gystal a chyfyngderau eraill yn yr amgylchiadau, yn cael eu cynwys yn y trallodau ar brydnhawn. A mwy na'r cyfan o'r trallodau yw pla y galon. I'r teulu duwiol dros brydnhawn y mae, dros brydnhawn yr erys wylofain, ac erbyn y boreu y bydd gorfoledd. Nid yr un fath yr oedd Jacob yn esbonio Rhagluniaeth pan welodd y cerbydau o'r Aifft, na phan welodd y siaced fraith. Yn yr adgyfodiad, bydd "pob gwahanglwyf wedi myned ymaith,"—pla y galon, corff y farwolaeth, afiechyd a gwaeledd, pob temtasiwn a phrofedigaeth, ni cheir eu gweled byth ond hyny.
Mae rhyw gymeriad arall yn bod, y rhai y gellir troi y testun, wrth feddwl am eu llawenydd, dros brydnhawn y mae, erbyn y bore ni bydd. Felly y mae gyda gwledd Belsassar, yn y prydnhawn mewn hawddfyd a llawenydd, gyda'r mil tywysogion a'r gwragedd, yn yfed gwin o lestri'r deml; ond erbyn y boreu, yr oedd y llawenydd wedi troi yn dristwch tragwyddol. Yr un fath yn nameg y gwr y cnydiodd ei feusydd, ac a ddywedodd wrth ei enaid, "Y mae genyt dda lawer, wedi eu rhoddi i gadw dros lawer o flynyddoedd," ond cyn y boreu, yr oedd ef a hwythau yn ddigon pell oddiwrth eu gilydd.
Nid trallod i gyd yw rhan y duwiol yn y byd hwn, ac nid llawenydd i gyd yw rhan yr annuwiol, ond cymysg ydyw yma, a'r naill a'r llall yn tynu at ystad o berffeithrwydd. Fel yr oedd y greadigaeth yma ar y cyntaf yn un gymysgfa, y tir a'r dwfr yn un chaos, nes y daeth y dydd i gasglu y dyfroedd i'r un lle, a'r sychdir yntau i ymddangos ; felly y mae y duwiol a'r annuwiol yn gymysgedig yn awr, a graddau o lawenydd yn eiddo y ddau, ond ei fod yn wahanol o ran natur. Ond y mae Ysbryd Duw yn graddol symud yr annrhefn, ac erbyn y boreu ni bydd yr un gronyn o lawenydd yn eiddo yr annuwiol, na gronyn o drallod yn rhan i'r duwiol. A pha faint bynag o drallod gaiff yr annuwiol yn y byd hwn, nid yw ond megis dim at yr hyn sydd yn ei aros "erbyn y boreu."