Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/At Gofiant Y Parch. R. Everett, D. D.

Oddi ar Wicidestun
Gemau Everett Cofiant y diweddar Barch Robert Everett

gan David Davies (Dewi Emlyn)

AT GOFIANT Y PARCH. R. EVERETT, D. D.

Da genyf, fel y mae gan y cyhoedd yn gyffredin, ddeall fod parotoadau ar droed i ddwyn allan gofiant i'r Parch. R. Everett, D. D., a gyfrifir gyda'r mwyaf teilwng o'r teitl hwnw, ac o gofiant anrhydeddus. Cyfyngir yr ychydig hanes allaf roddi am dano i foreuol a chanol dymor ei oes lafurus. Y cof cyntaf sydd genyf yw am ei darawiad allan mor gyhoeddus o'r athrofa, a'i gyfaill cu y diweddar J. Breeze, gynt o Liverpool, ar y daith gyntaf, a thebyg y ddiweddaf, trwy Ddeheudir Cymru, a thrwy ein hardal ni, Abertawe, Morganwg, a'i chylchoedd. Cyfrifid ef y pryd hwnw gyda'r mwyaf doniol a phoblogaidd o bregethwyr y Dywysogaeth. Mynent yn Abertawe roddi galwad unfrydol yn uniongyrchol iddo. Yr oedd yr eglwys enwog hono yn debyg i'r eglwys yn Corinth gynt, yn gyfoethog o ddoniau, agos yn barod megys i addoli doniau; ac nid oedd neb mwy parod na mwy chwaethus na medrus i adnabod a gwerthfawrogi doniau. Hi gafodd ei geni a'i magu dan weinidogaeth swynol yr enwog D. Davies—"Tafod Arian Cymru."

Ar eu dychweliad adref cafodd y tri enwogion, agos yr un pryd, eu hordeinio—y Parch. R. Everett yn Dinbych, J. Breeze yn Liverpool, a T. Davies, genedigol o ardal Dinbych, yn Abertawe. Nid annhebyg mai trwy ohebiaeth a dylanwad Mr. Everett y cafodd Mr. Davies alwad yr eglwys hono.

Wed'yn, pan aeth dau o honom allan o'r Neuaddlwyd, lle yr oeddem dan ofal y Dr. T. Phillips, ar daith bregethwrol trwy'r Gogledd, a disgyn ar Sabboth yn Newmarket, cawsom ymweliad parchus a charedig iawn â rhieni—tad a mam Mr. Everett, a'i frawd Lewis, yr hwn a ddaeth at ddrws y pwlpud i siglo llaw yn wresog â ni. Yr oedd hyny oddeutu yr amser y dechreuodd y brawd Lewis bregethu yr efengyl, yr hwn waith a ddilynodd yn llafurus trwy ei oes i'w diwedd. Yr oedd iddynt, fel teulu, air da gan bawb a welsom, fel teulu cyfrifol a chrefyddol iawn, ac yn enwedig yn ol tystiolaeth enwogion eu dydd, y ddau Jones o Newmarket a Threffynon.

Ond yr adnabyddiaeth bersonol gyntaf â'r Dr. Everett oedd yn Utica, N. Y., yn 1833, yr ail flwyddyn ar ol fy nyfodiad i'r wlad hon, pan oeddwn yn meddwl dychwelyd gyda brys i Gymru yn ol; ond bu fy ymweliad hoffus ag ef, a'i diriondeb fel tad i mi mewn gwlad estronol, yn foddion i loni fy meddwl, gyda'm bod yn gwellhau yn fy iechyd, pan oedd agos pawb ar fy ymadawiad â Chymru hoff, wedi fy rhoddi i fyny i farw; canys ar gyngor y meddyg goreu genyf y cymerais y fordaith i'r America, fel yr unig foddion o'm hadferiad. Profodd felly trwy diriondeb y Nefoedd. Ac wrth fy mod yn hoffi trefniadau a llywodraeth y wlad, yn unol a'i ddwys gyngorion haelfrydig ef, arosais ynddi agos i saith mlynedd. Ond o herwydd pellder y lle yr oeddwn yn aros ynddo ni chefais y fantais o'i gyfrinach ef, ond ar ben pob blwyddyn, pryd y gwahoddid fi i Gymanfaoedd Utica a Steuben; pan yr anadlwn mor hyfryd allan o blith y Saeson, er cystal oeddent hwy, awyr fresh gyda'r Cymry serchog a charedig iawn yn y Gymanfa.

Gwyr pawb o ddarllenwyr y cofiant fod enwogrwydd ei wrthddrych mor adnabyddus i Gymry a Saeson hefyd, trwy ei lafur a'i lwyddiant yn y weinidogaeth mewn amryw leoedd, yn nghyda'i gysylltiad â'r Cenhadwr mewn llenyddiaeth grefyddol, fel nad oes achos i mi wneyd rhagor na galw i gof ei hanes, a chadw cof o hono. Dylai ei gofiant ddod allan yn Gymraeg ac yn Saesonaeg, er lles y wlad hon ac ynys Prydain.

Dyn i'r byd, a thros les goreu y byd, oedd ef. Ni a'i carwn fel cenedl fyth eto tra fyddom byw, fel gwladgarwr o'r fath oreu; ond mwy eto y dylem ei edmygu fel gwir garwr dynoliaeth, o bob gwlad a chenedl. Fel ei Feistr, carai ddynoliaeth druan yn ei hisel radd, a gwnai ei oreu i'w dyrchafu i'r anrhydedd mwyaf.

"Diwygiwr" America yn deg yw'r Cenhadwr, o'i ddechreuad. Cafodd well mantais na Diwygiwr Cymru, er cystal y carem hwnw, dan ofal y diweddar Barch. D. Rees, o Lanelli, D. C., i ddadleu dros y diwygiadau goreu yn yr oes. Yr oedd brwydrau celyd America yn rhagorach na brwydrau yr Hen Wlad. Trwy lawnder ac amrywiaeth ei faterion, a thlysni a choethder ei argraffwaith, yr oedd y Cenhadwr wedi ei wisgo yn hardd; ond eto bu raid i'w olygydd ddod i fyny o'r rhyfel, fel ei Geidwad, "A'i wisg wedi ei lliwio gan waed." Dirwest a rhyddhad y caethion sydd ddiwygiadau a gofir byth, er cymaint a gostiasant i'n dadleuwyr!

Pan oedd y Dr. gwrol, er lleied ei faint corphorol, yn nghanol poethder yr ymdrechfa, cofus gan lawer o honom sydd eto yn fyw, am y cyfarfod yn nghapel helaeth Dr. Aiken, yn Utica, yn y flwyddyn 1833, pan oedd Wm. L. Garrison a G. Smith yn dadleu mor rymus dros ryddhad, fel y byddem agos oll yn crynu gan ofn i fyned at y drws i'r heol, oedd wedi ei hamgylchu gan y fath dorf gymysglyd, rhag cael ein mobio, os nid ein lladd.

Nid oedd hono ond un o fil o engreifftiau trwy yr Unol Dalaethau ar y pryd. Dewrion arwraidd yn eu dydd oedd Dr. Everett, a Dr. Leavitt, y N. Y. Evangelist, &c. "Gad" oedd y Dr., yn wir, a llu yn ei ganlyn. Nis rhaid i mi ddywedyd dim am ei enwogrwydd fel pregethwr a duwinydd, gan ei fod mor adnabyddus. Nid annhebyg i glefyd a gafodd effeithio i raddau ar ei leferydd, hyny yw ar ei nervous system, i beri ychydig o ataliad ar droion ar ei leferydd; ond da gwyddom oll, pan gaffai hwyl, ac nid anaml y byddai hyny, ehedai mewn awel nefolaidd ar y tarawiad i fyny fel eryr uwchlaw pob atal, a chodai ei wrandawyr gydag ef mewn difrifol bleser tua'r nefoedd. Bendith ar ei lwch ef; a diolch i Dduw byth am ei fath ef dros y gwirionedd.

LLEWELYN R. POWELL.

Alliance, O., Awst 28, 1879.

[Ymddengys fod ychydig o gamayniad yn yr erthygl uchod; yr oedd Dr. Everett wedi ei urddo yn Ninbych dros flwyddyn a haner cyn marwolaeth Davies, Abertawe. Rhaid gan hyny mai nid fel myfyriwr o'r Athrofa, ond fel gweinidog Dinbych, yr ymwelodd ef ag Abertawe.]

Y DIWEDD.