Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/Gemau Everett

Oddi ar Wicidestun
Sylwadau ar Natur Eglwys Cofiant y diweddar Barch Robert Everett

gan David Davies (Dewi Emlyn)

At Gofiant Y Parch. R. Everett, D. D.

GEMAU EVERETT.

Dechreu Diwygiad.—Mae dechreu i fod ar ddiwygiad mewn crefydd, fel pethau eraill, a rhaid iddo ddechreu mewn rhyw fynwes; a phaham, ddarllenydd, na ddylai ddechreu gyda thi?

Yr Iesu fel Rhosyn.—Fel y mae'r olwg naturiol ar y rhosyn yn hardd a deniadol, felly mae yr olwg foesol ac ysbrydol ar Fab Duw, yn ei berson a'i waith, yn hawddgar, ac yn tynu bryd miliynau o'r nefolion a'r daearolion hefyd. Y rhosyn sydd amryliw, a chyfartalwch y lliwiau sydd brydferth; felly mae amrywiaeth a chyfartalwch gogoneddus yn rhinweddau a doniau y Cyfryngwr. A chan mai y prydferthaf o'r blodau yw y rhosyn, a'r prydferthaf o'r rhosynau ydoedd rhosyn Saron, felly mae yr Arglwydd Iesu yn rhagori ar bawb a phobpeth.

Tarw Gwyllt mewn Magl (Esa. li. 20).—Golwg arswydlawn sydd ar y ar y "tarw gwyllt" pan y cwympo i faglau grymus yr heliwr; ond gwedi y dalier ef, ac wedi iddo ymguro nes canfod nas gall ddianc, mae yn gorwedd mewn digalondid yn gwbl lonydd. Felly gelynion yr Arglwydd, er mor wyllt yn awr, pan ddelir hwy yn maglau eu pechodau a'u traha, ni bydd ganddynt ond ymollwng megys mewn "llewygfeydd " a digalondid tragywyddol !

Llen Amser.—Llaw drugarog a wauodd y llen sydd rhyngom a phethau i ddyfod.

Y Fendith Felusaf.—Duwioldeb ydyw y fendith sydd yn melysu pob bendith arall.

Purdeb yn Dedwyddu Teulu'r Nef.—Bydd dedwyddwch y nef yn gynwysedig yn mhurdeb perffaith y saint eu hunain. Eu prif ofid ar y ddaear oedd eu bod heb gyrhaedd y nod yma. Ond yno y maent wedi ei gyrhaedd. Nid â i mewn iddi ddim aflan.

Deddfau Dirwestol.—Dywedir mai moddion moesol a ddylent gael eu defnyddio gyda yr achos dirwestol. Yr ydym ninau yn meddwl y dylai moddion moesol gael eu defnyddio yn barhaus; ond pan y mae deddfau drwg yn bod, a'r deddfau hyny wedi eu ffurfio gan y bobl, trwy eu cynrychiolwyr, mae eisiau defnyddio moddion moesol i berswadio y bobl i gyfnewid y cyfryw ddeddfau, a ffurfio rhai gwell. Ac y mae eisiau rhywbeth yn fwy na moddion moesol, neu berswadiad, at y rhai a droseddant yn erbyn lles cyffredin dynoliaeth. Pan y mae dynion, trwy eu hanfoesoldeb, yn niweidio eu cyd—ddynion, yn eu personau neu eu meddianau, rhaid eu gorfodi i beidio, trwy ddeddfau priodol. Felly y gwneir â'r lleidr, y difenwr, a'r llofrudd.

Gwir Harddwch.—Gwir harddwch sydd gynwysedig, nid mewn glendid gwynebpryd a dillad gwychion; nid mewn gwallt plethedig, blodau celfyddydo!, a rhubanau amryliw; ond mewn ymddygiad synwyrlawn, gwylaidd, a duwiol yn mhob peth.

Addoliad Teuluaidd. Nid oes neb yn arfer duwioldeb gartref (yr wyf yn meddwl yn sicr), ac yn esgeuluso yr addoliad teuluaidd.

Sancteiddiad y Sabboth.—Wrth y swn, y prysurdeb❜ a'r terfysg, a ganfyddir ar ein camlasau, ein rheilffyrdd, ein hafonydd, a manau cyhoeddus eraill, ar y Sabboth, gellid meddwl nad yw y wladwriaeth Americanaidd yn wladwriaeth Gristionogol, nac yn cydnabod awdurdod y ddeddf foesol. Trwy yr ysbryd anghristionogol a ffyna yn ein gwlad, troir y bendithion gwerthfawrocaf yn felldithion o'r trymaf arnom. rhwyddineb a'r cyflymdra a roddir i ymdeithiau ein dinasyddion o le i le, trwy gamlasau, agerdd—fadau, ac agerdd—gerbydau, sydd un o fendithion gwerthfawrocaf cymdeithas wareiddiedig; ac eto, pwy na wyr fod y gwelliantau diweddar yn y pethau hyn wedi bod yn un o'r achosion mwyaf neillduol o gyflym iselhad ein gwlad mewn anfoesoldeb, yn enwedig trwy halogedigaeth Sabboth Duw. Ond da genym weled fod ymdrechiadau yn cael eu gwneyd i ymosod yn erbyn y genllif yma, eto, o annuwioldeb yr oes.

Rhyfel Moesol.—Mae rhyfel yn perthyn i deyrnas y Messiah; ond nid rhyfel trwy drwst a dillad wedi eu trybaeddu mewn gwaed ydyw—difa y rhai hyny a wneir ond hwn sydd ryfel egwyddorion; ac a derfyna mewn cadarnhau "barn a chyfiawnder ar y ddaear," ac yna "ar helaethrwydd ei lywodraeth a'i dangnefedd ni bydd diwedd."

Dirwest.—Mae dirwest yn cynwys cymedroldeb mewn mwynderau cyfreithlawn, a llwyr ymwrthodiad â mwynderau anghyfreithlawn.

Nac Oeda.—Nac oeda, o herwydd mae dy ddedwyddwch penaf yn gynwysedig mewn ufuddhau i Dduw. Y foment y dechreuwn ufuddhau, yr ydym megys yn dechreu derbyn gwobr. Nefoedd i'r enaid ydyw rhodio llwybrau y nef; y mae grawn—sypiau y wlad i'w cael bob cam o'r ffordd: nac oeda.

Enllib.—Cyhuddir llawer un, y dyddiau hyn, o enllibio y caethfeistri. Ond gwyr pawb nad enllibio yw dyweyd y gwir. Os dywedir anwiredd ar gaethfeistri, mae hyny yn enllib; ond os y gwir a ddywedir, nid enllib yw.

Gogoneddu Duw.—Beth a olygir wrth ogoneddu Duw? Nid ychwanegu at ei ogoniant hanfodol a feddylir, ond ei ogoniant mynegol. Nis gall neb ychwanegu dim at ei ogoniant hanfodol, na thynu dim oddiwrtho. Mae ei ogoniant hanfodol yn ymddibynu ar yr hyn ydyw ynddo ei hunan. Nis gall y saint ar y ddaear nac yn y nef, na'r côr angylaidd, trwy eu nefol ganiadau, ychwanegu dim at ei ogoniant hanfodol; ond fe ellir effeithio ar ei ogoniant mynegol (his declarative glory). Pe codai cwmwl du ar y ffurfafen, ni effeithiai hyny ddim ar oleuni ysblenydd yr haul ynddo ei hunan; ond ataliai ei dywyniad dros amser. Felly gall ein hymddygiadau ninau fod yn gwmwl ar yr enw mawr.

Mamau Drwg.—Llawer a geir, trwy eu tymerau drwg, eu llywodraeth anwastad, eu didduwiaeth a'u caledwch, yn gosod traed eu plant ar lithrigfa sydd yn arwain i ddinystr a cholledigaeth! O famau! ystyriwch mewn pryd pa ddylanwad a effeithiwch ar eich plant.

Y Pen Teulu Anghrefyddol.—Y mae anghrefyddoldeb pen teulu yn un o'r moddion effeithiolaf a fedd y diafol i gadw ieuenctyd y teulu hwnw yn ei wasanaeth.

Y Beibl a Moesau.—Er fod llawer o reolau buddiol wedi eu cyhoeddi i wellhau moesau y byd, eto fe bery nwydau llygredig dynion yn fyw ac yn ffynadwy yn mhob awyr, ond yn awyr y Beibl ac awyr y groes.

Cristion Rhydlyd.—Beth ydyw yr achos fod y dyn mor dlawd ei brofiad, mor rhydlyd yn ei weddiau ? Nid yw yn ymarfer duwioldeb gartref.

Y Brif Gymdeithas.—Y gymdeithas deuluaidd ydyw y brif gymdeithas. O'r aelwyd gartref y cyfyd bendithion a melldithion penaf y gymdeithas gyhoeddus a'r wladwriaeth.

Pwyth Hir.—Y mae gan rai bwyth go hir i'w dalu yn ol i'w rhieni.

Digonolrwydd yr Iawn.—Y mae y taliad a roddwyd yn aberth iawnol Mab Duw yn ddigonol ar gyfer cadwedigaeth y byd; a phe buasai miliynau mwy o fodau i'w cadw, mae yr aberth yn ddigonol.

Gwerth y Beibl.—Ni chynwys palasau breninoedd y ddaear drysor mor werthfawr a'r Beibl, yr hwn, o drugaredd Duw, a geir yn aneddau y tlodion. Pe byddai y moroedd yn olew, a'r ddaear yn belen auraidd, ni fyddent ond gwegi mewn cydmariaeth i werth Gair Duw i ddyn.

Anghysondeb.—O,'r fath anghysondeb! baner fawr rhyddid yn chwareu yn y teneu awelon ar ben pinacl y senedd—dy, a'r gair Liberty ar ei lleni mewn llythyrenau mor freision ag y gall y rhai a redant eu darllen; ac eto o flaen grisiau marmoraidd y senedd—dy, yn ngwydd haul y nefoedd, y gwerthir gwyr a gwragedd, meibion a merched o bob oedran, o'r baban egwan i'r henafgwr penllwyd, i gaethfeistri, i gael eu harwain ganddynt wrth eu hewyllys.

Crefydd Foreu.—Y mae crefydd yn moreu yr oes yn werthfawr, oblegid dyma'r pryd y mae cyneddfau corph a meddwl yn yr agwedd a'r sefyllfa oreu. Mae y deall yn gyneddf fywiog, mae'r cof yn llestr cryf, mae'r gydwybod heb ei sori. Yr amser goreu ydyw; ac fe ddylai yr amser goreu gael ei dreulio gyda'r achos goreu, ac i'r Bôd goreu. Anmhriodol iawn ydyw rhoddi yr yr amser goreu i'r gelyn, a'r gweddill i'r Arglwydd.

Dysgu Plant.—Y mae plant ieuenctyd fel y "saethau yn llaw y cadarn," ac y mae o bwys mawr i ni pa gyfeiriad a roddir i'r saeth pan ollyngir hi gyntaf oddiar y bwa, gan y bydd y cyfeiriad hwnw yn debyg o effeithio ar ei holl lwybr.

Sefyllfa Prawf.—Yr un peth yn gwbl ydym yn feddwl wrth fod dyn mewn "sefyllfa o brawf," a'i fod mewn "sefyllfa o obaith ;" ac os nad yw mewn sefyllfa o obaith, yna mae ei gyflwr yn gyffelyb i eiddo y damnedigion yn y tân tragywyddol. Ond y mae yn cael ei wahodd yn dirion a grasol iawn yn awr i dderbyn bywyd trwy dderbyn Mab Duw, ac y mae y bywyd sydd yn Nghrist yn gwbl ddigonol ar ei gyfer. Dyma y tir prawf, a dyma y sefyllfa obeithiol y mae trefn fawr y cyfamod gras wedi gosod dyn ynddi.

Awgrym i Ohebwyr.—Bydded yr ysgrifau yn gyffredin yn fyrion, yr ysbryd yn efengylaidd, a'r iaith yn bur, yn oleu a grymus.

Gwahodd Pawb.—Dywedir weithiau fod y pregethwr i wahodd a gorchymyn pawb i ddyfod at Iesu, am na wyr pwy a drefnwyd i ddyfod. Ond y mae genym fwy i'w ddyweyd na hyn; nid y pregethwr sydd yn gwahodd, ond Duw EI HUN; ac y mae efe yn gwybod pob peth. "Yn gymaint ag i MI eich gwahodd, ac i chwithau wrthod, i MI estyn fy llaw, a neb heb ystyried."

Bywyd Cyson.—Bywyd cyson â'r efengyl ydyw y prawf goreu o wirionedd ein cyffes a sicrwydd ein gobaith.

Crist yn y Mil Blynyddoedd.—Bydd Iesu Grist yn wyddfodol gyda ei bobl (nid yn ei ddynoliaeth, ond yr hyn sydd yn llawer gwell a mwy "buddiol" i ni), trwy ei Ysbryd Sancteiddiol; a bydd mor hawdd canfod ei bresenoldeb yn y dylanwadau dwyfol a effeithir, a phe ei gwelid ef yn ei ddynol natur, fel y gwelwyd ef yn ngwlad Judea.

Ymddangosiadau yr Ail Berson.—Carai yr Ail Berson ymddangos yn fynych yn y ddynoliaeth cyn ymbriodi â hi yn nghyflawnder yr amser. Yr oedd yn llawenychu yn nghyfaneddle ei ddaear ef, a'i hyfrydwch oedd gyda meibion dynion.

Cymeradwyaeth gyda Duw.—Y mae yn ofnus genym fod rhai yn ceisio gweithio eu meddwl i grediniaeth o'u bod yn gymeradwy gyda Duw, heb seiliau digonol i hyny; yn ceisio gweithio eu meddyliau i deimlad o'u gwneuthuriad eu hunain (artificial feeling), pryd nad yw eu gweithredoedd yn gyflawn ger bron Duw.

Symudiad Enoch.—Cymerodd (Duw) ei was Enoch mewn ffordd anghyffredin. Ni ddygwyd ef i wely cystudd; ni chafodd brofi ingoedd y datodiad; ni welodd ddyffryn tywyll ac arswydol cysgod angau. Aeth dros yr afon, ac nid drwyddi.

Ty Dduw yw Porth y Nef.—Mae y porth yn rhan o'r adeilad; y rhan nesaf allan mewn ystyr. Felly y mae ty Dduw yn rhan o'r nef ei hunan; y rhan nesaf allan. Yr un gwrthddrych a addolir yma ag yn y nef; yr un gwasanaeth a ddygir yn mlaen; yr un bendithion a fwynheir, er nad i'r un graddau.

Dysg i Ferched.—Y mae cyneddfau y ferch mor dreiddgar, yn gyffredin ag eiddo y mab. Mae y gwybodaethau yn tueddu i'w dedwyddu hi fel yntau. Mae gan y ferch yn gyffredin fwy a wnelo â'r "oes a ddel" na'r mab, yn enwedig yn y blynyddau boreuaf o oes dyn; ac yn fynych y mae sefyllfaoedd pwysig o'i blaen, nas gall eu llanw yn anrhydeddus a phriodol, heb ei rhagbarotoi trwy raddau helaeth o ddysgeidiaeth.

Trysor i Blant.—Llawer a ddangosant awydd mawr i gasglu trysor i'w plant. Ond yn nesaf at ras cadwedigol yn y galon, y trysor goreu allwn roi iddynt yw ysgol dda yn moreu eu bywyd.

Meddyglyn rhag Anffyddiaeth.—Yr amddiffyniad goreu rhag anffyddiaeth ydyw gwneyd y Beibl yn llyfr ymarferol i ni ein hunain, a bod yn hyddysg yn y ffeithiau a gynwysir ynddo. Anwyl gydgenedl, defnyddiwn ei bethau, a rhodiwn yn ei oleu.

Ymresymu a Gwrthryfelwyr 1861.—Ni waeth ceisio siarad â'r rhuthrwynt a fyddo yn didoi eich tai uwch eich penau, neu siarad â'r arthes, i geisio ganddi ollwng ei hysglyfaeth o'i gafael, na cheisio siarad neu ddefnyddio yr ysgrifell gyda blaenoriaid y rhyfel presenol, i'w hatal yn eu cynlluniau drygionus. Rhaid cael rhywbeth grymusach na'r ysgrifell i enill sylw.

Rhyfel Ymosodol.—Nid ydym dros ryfel ymosodol, fodd yn y byd; ac nid rhyfel ymosodol yw y rhyfel presenol (yn 1861), can belled ag y mae a wnelo y llywodraeth hon ag ef—rhyfel yw y gorfodwyd hi iddo, ac nid oedd ganddi ddim i'w wneyd ond ei wrthsefyll, neu oddef difodiad.

Hawl i Hunan-Amddiffyniad.—Pe ymosodid ar ein bywyd, neu ar fywyd ein teulu, gan lofrudd yn sychedu am ein gwaed, os na allem trwy resymau, trwy dynerwch, na thrwy gilio o'i gyrhaedd, gael diogelwch, ymdrechem amddiffyn ein hunain a'n heiddo, trwy ddinystrio bywyd y llofrudd. A dyna yn hollol yw egwyddor ac ymddygiad ein llywodraeth yn y rhyfel presenol (yn 1861).

Gwrthryfel 1861.—Dyma ryfel wedi ei gynyrchu mewn gwlad rydd, gan gaeth-ddalwyr, dros eangu a bytholi caethiwed dynol; ïe, y caethiwed ffieiddiaf yn ei lygredigaethau moesol, ac yn ei anghyfiawnder cywilyddus, o ddim caethiwed a fodolodd erioed ar ddaear Duw.

Esgeuluso.—Llawer clwyf wrth ei esgeuluso a aeth yn anfeddyginiaethol; a llawer un wrth oedi dychwelyd, a adawyd i galedwch mwy, ac a fu farw yn ei bechod.

Arweiniad Rhagluniaeth.—Mae yr Arglwydd yn arwain yn ei ragluniaeth, yn trefnu lleoedd ein preswylfeydd, yn trefnu ein cysylltiadau a'n perthynasau, yn ein hatal rhag rhyw ffyrdd y mynasem ni eu cerdded, gan gau y ffordd o'n blaen megys â drain, a'n harwain ffordd arall, yn groes i'n dymuniad (efallai) ar y pryd.

Cariad.—Cariad sydd flodeuyn tra phrydferth mewn ystyr foesol a chrefyddol; ei berarogl sydd ddymunol yn y wladwriaeth, yn y gymydogaeth, yn y teulu, ac yn eglwys Dduw. Yr hwn a rodia mewn cariad a anadla awyr beraroglaidd y nef ei hun. "Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad!"