Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/Sylwadau ar Natur Eglwys

Oddi ar Wicidestun
Y Goruchwyliaethau yn Dywyll, eto yn Uniawn Cofiant y diweddar Barch Robert Everett

gan David Davies (Dewi Emlyn)

Gemau Everett

SYLWADAU AR NATUR EGLWYS.

A DRADDODWYD AR YR ACHLYSUR O ORDEINIAD Y PARCH. G. GRIFFITHS, N. Y.

Act. 2: 42, 47.—"Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth ac yn nghymdeithas yr apostolion, ac yn tori bara, ac mewn gweddiau.—A'r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr eglwys y rhai fyddent gadwedig."

Mae y benod hon yn cynwys hanes gweithrediadau yr eglwys Gristionogol gyntaf a ffurfiwyd dan oruchwyliaeth y Testament Newydd. Iddi y perthyna y rhai a ddychwelwyd dan weinidogaeth bersonol yr Arglwydd Iesu Grist; yma yr oedd Mair, mam yr Iesu, a Mair Magdalen, a'r chwiorydd ffyddlon eraill a enwir yn hanes bywyd yr Iesu; yma yr oedd apostolion Crist yn aelodau; yma tybygid yr oedd y "deg-a-thriugain eraill," a'r "pum' can' brodyr," ac at yr eglwys hon yr ychwanegwyd y dorf o ddychweledigion dydd y Pentecost, llawer o ba rai gwedi hyny a wasgarwyd, ac a sefydlasant eglwysi yn ngwahanol barthau y gwledydd lle y preswylient. Y mae o bwys ein bod yn sylwi beth oedd cymeriad yr eglwys hon, gan mai y Pen—athraw ei hun oedd wedi ffurfio a threfnu ei hachosion. Dywedir,

"Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth... yr apostolion," hyny yw, yr oeddynt dan eu gweinidogaeth yn uniongyrchol, ac yn ymgadw i rodio yn ol eu hathrawiaeth. Hefyd, "yn nghymdeithas yr apostolion," yn mwynhau addysg y gymdeithas, a chysuron y gymdeithas. Hefyd, "mewn tori bara." Cymerent eu lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon, a thorent fara i gofio am ddyoddefaint a marwolaeth eu Hiachawdwr, yn ol ei orchymyn. "Ac mewn gweddiau," dyma ran arbenig o'u gweithrediadau eglwysig, sef glynu wrth weddio—"pob duwiol a weddia arnat ti yn yr amser y'th geffir"—rhai enwog mewn gweddiau oedd y rhai hyn—tywysogion Duw oeddynt yn yr oruwch—ystafell hono—a llwyddasant gyda Duw nes cael y tywalltiad i lawr yn ol y brophwydoliaeth ac addewid y Tad. Hefyd yr oeddynt yn "parhau" yn y pethau hyn, yr hyn a arwydda eu hysbryd diflin a phenderfynol yn ngwaith yr Arglwydd.

Sylwn ar rai pethau perthynol i natur eglwys Dduw dan yr oruchwyliaeth efengylaidd.

1. Ystyr y gair. Y gair gwreiddiol a arwydda cynulleidfa, neu rai wedi eu "galw allan" o'r dorf gyffredin.

Defnyddir ef am gynulleidfa, heb un cyfeiriad at ansawdd y gynulleidfa, yn Act. 19: 32, 39, 41. Yn ei gysylltiad ag achos Crist mae yn cael ei ddefnyddio am rai yn mynych ymgyfarfod yn yr un lle, ac yn rhodio yn nghyd dan gyfamod ac mewn cymdeithas a'u gilydd, mewn tori bara ac mewn gweddiau, megys yr eglwys hon yn Jerusalem, eglwys Corinth, eglwys Thessalonica, saith eglwys Asia, &c. Defnyddir ef hefyd i osod allan yr holl deulu gwaredigol o ddechreu i ddiwedd amser, Math. 16: 18; Eph. 1: 22; 3: 10; 5: 25, a manau eraill.

2. Mae eglwys Crist i fod yn gynulleidfa o ddychweledigion at yr Arglwydd. Nid rhai yn cymeryd eu cymundeb i'w cymwyso i swyddi gwladol, neu oddiar fod hyny yn enill iddynt enw yn eu hardal ac yn mhlith eu cymydogion, yw ei haelodau teilwng, ond dynion syml, o deimlad drylliog am bechod, yn arddel Iesu oddiar gariad ato a dymuniad i'w ogoneddu yn eu bywyd, gan ei hystyried yn fraint oruchel i gael lle yn ei dy, ac o fewn ei fagwyrydd. I'r cyfryw y perthyna y fraint o ddyfod at fwrdd Crist, a hwy yw y rhai tebygol o fod yn ddefnyddiol gyda ei achos. Gelwir hwy yn "saint a ffyddloniaid yn Nghrist Iesu," yn "oleuni y byd," &c.

3. Cynulleidfa yw a'i ffurf a'i threfn yn ddwyfol a nefol. Mae llawer o gymdeithasau daionus i'w cael yn mhlith dynion y rhai y mae eu ffurfiad wedi ei adael yn hollol i ddoethineb ddynol. Tybia rhai fod eglwys Dduw yn gymdeithas o'r cyfryw ansawdd—nad oes un ffurf neillduol wedi ei nodi allan, ond fod hyny i'w ddewis mewn gwahanol wledydd ac oesoedd yn ol amgylchiadau pethau, yn ol y drefn wladol fwyaf cymeradwy, ac yn ol doethineb pobl Dduw eu hunain. Ond nid felly y dysgasom Grist. Y mae trefn eglwys Crist, dull ei ffurfiad, ei chwbl annibyniaeth ar bawb ond ar ei phen a'i Hathraw mawr, enwau ei swyddogion, y modd i'w dewis, a pha waith a berthyn iddynt, &c., oll yn gynwysedig yn y portread a adawyd gan Grist a'i apostolion; a'r gorchymyn am hyny, fel am y Tabernacl gynt yw, "Gwel ar wneuthur o honot bob peth yn ol y portread a ddangoswyd i ti yn y mynydd." Heb. 8: 5.

4. Mae eglwys Crist yn gymdeithas ag y mae gweinyddiad ordinhadau yn perthyn iddi, sef Bedydd a Swper yr Arglwydd. Perthyna iddi hefyd ddau ddosbarth o swyddogion, y naill i weinyddu mewn pethau tymorol ac amgylchiadol, a'r llall mewn pethau ysbrydol. Ond gadawn hyn yn awr gan fod brodyr eraill i sylwi arnynt.

5. Cymdeithas ydyw ag y mae o'r pwys mwyaf eu bod yn rhodio mewn tangnefedd a chariad. Mae pob peth perthynol i eglwys Dduw yn galw am ei bod yn rhodio mewn cariad. Cymdeithas yw a ffurfiwyd ac a alwyd i fodolaeth gan ddwyfol gariad; oddiyma y daeth fod eglwys gan Grist ar y ddaear. Prif elfen ei phethau oll yw cariad. Mae ei chysur, ei hanrhydedd a'i llwyddiant yn ymddibynu ar ei bod yn rhodio mewn cariad, a thuedd ei holl osodiadau yw arwain i fôr o dragywyddol gariad. Nid oes un gymdeithas yn bod ag y mae anghariad ac anghydfod yn fwy anghydweddol â'i hansawdd, ei hegwyddorion a'i breintiau nag eglwys y Duw byw. Am hyny dywedir, "Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad." 1 Cor. 16: 14; ac yma drachefn y dywedir, "Yr oeddynt oll yn gytun yn yr un lle." Act. 2: 1.

6. Mae eglwys Crist yn gymdeithas ag y mae ei holl achosion i gael eu trafod a'u penderfynu yn gwbl a therfynol ynddi ei hun. Nid oes un awdurdod oddiallan i'r eglwys—na chymanfa na chynadledd nac esgob na neb arall—i arglwyddiaethu arni. Mae yn wir y gall eglwys, gystal a phersonau unigol, gam—ymddwyn, ond ei dyledswydd ydyw (pan fo hyny yn bod) adolygu ei gweithrediadau ynddi ei hun, ac unioni yr hyn a wnaeth ar gam. Gall eglwysi eraill

neu frodyr unigol roi cyngor, a gallant wrthdystio yn erbyn camwedd, a phan y bo eglwys yn parhau yn yr hyn sydd feius, gallant ymwrthod â'i chymdeithas; ond ni allant ddadwneyd ei gweithrediadau heb groesi awdurdod Crist. Y peth diweddaf pan y bo brawd wedi troseddu, ydyw, "Dywed i'r eglwys." Nid dywed wrth yr henuriaeth, nid cyfod yr achos i'r Synod neu'r Gymdeithasfa, ond "Dywed i'r eglwys." Nid oes un llys barnol, o osodiad Crist, yn sefyll rhwng yr eglwys ei hun a'r Fainc ddiweddaf.

Nid oes dim yn Act. 15fed, yn gwrthfilwrio yn erbyn yr egwyddor hon. Rhai wedi dyfod "i waered o Judea" (adn. 1) oedd y terfysgwyr y sonir am danynt yno. Mynent ddwyn y Cristionogion yn mhlith y cenedloedd dan iau yr enwaediad; ac ymddangosent fel rhai wedi derbyn "gorchymyn" oddiwrth yr apostolion i daenu y golygiadau hyny, fel y canfyddir yn amlwg oddiwrth adnod 24ain, " I'r rhai ni roisom ni gyfryw orchymyn." Yn mha le gan hyny yr oedd yn fwyaf priodol i ymdrin â'u hachos, ac i gael gwybod y gwir am y peth hwn, onid yn mhlith Cristionogion Judea? Yno yr oedd y terfysgwyr hyn yn gyfrifol, oddiyno yr oeddynt wedi dyfod allan, ac yno yr oedd yr apostolion yn aros, oddiwrth y rhai yr honent eu bod wedi derbyn y cyfryw orchymyn. Nid oes yma

ddim, ac nis gallwyf ganfod yn un rhan arall o'r Testament Newydd ddim yn erbyn y golygiad fod pob eglwys i derfynu ei hachosion ynddi ei hun yn annibynol ar bob llys arall. Credwyf yn ddifrifol mai dyma "gyfraith y Ty."

7. Mae eglwys Crist yn gymdeithas i lwyddo. "A'r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr eglwys y rhai fyddent gadwedig." Gall ddysgwyl llwyddo, oblegid y mae Duw wedi addaw y bydd y "bychan yn fil a'r gwael yn genedl gref," ac y bydd dylifiad pobloedd lawer at y Shiloh. Mae y dwyfol ddylanwadau wedi eu haddaw—dyma addewid y Tad. Mae gan Seion foddion priodol i gyrhaedd llwyddiant. "Arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i'r llawr." Dyma ddyben dyfodiad Crist yn y cnawd. "I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd y diafol." mae holl bethau Seion yn bethau y dylai pob dyn yn mhob man deimlo y dyddordeb mwyaf ynddynt; pethau ydynt yn dal perthynas â'r byd oll, a hyny am eu bywyd byth. Mae gweddiau Seion ar y ddaear, ac eiriolaeth y Gwaredwr ar ei rhan fry, yn dangos na bydd iddi gael ei gadael o hyd yn aflwyddianus. Bydded i'r Arglwydd "chwanegu beunydd" at yr eglwys hon a'i holl eglwysi trwy'r byd, "y rhai fyddant gadwedig."

8. Y Mae eglwys Crist yn gymdeithas ragbarotoawl i sefyllfa uwch eto. Mae yr olwg arni yn hardd yn awr i lygad ffydd, ond ceir ei gweled yn llawer harddach eto. Ysbyty ydyw yn awr lle y gwellheir y cleifion. Athrofa ydyw i ddysgu egwyddorion teyrnas nef. Nursery, i ddysgu moesau i'r teulu, nes eu parotoi i ddyfod adref i'r parlwr tragywyddol fry!

CASGLIADAU.

1. Dysgwn fawrhau ein braint o feddu aelodaeth yn eglwys Crist, a lle yn mhlith y teulu.

2. Dysgwn wybod pa fodd y dylem ymddwyn yn nhy Dduw, a'r pwys mawr o ymddwyn yn deilwng o'r fath freintiau.

3. Ymdrechwn enill eraill i ymostwng i awdurdod Brenin Seion, ac i ymwasgu â'i ddysgyblion, tra y mae y gweision allan yn gwahodd, a'r drws heb ei gau.