Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/Y Goruchwyliaethau yn Dywyll, eto yn Uniawn

Oddi ar Wicidestun
Rhwymedigaeth Dyn i Dduw Cofiant y diweddar Barch Robert Everett

gan David Davies (Dewi Emlyn)

Sylwadau ar Natur Eglwys

Y GORUCHWYLIAETHAU YN DYWYLL, ETO YN UNIAWN.

Salm 97: 2.—"Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef; cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc ef."

Cysuron i blant trallod a gyfansoddant brif addysg y Salm hon. Mae yn debygol iddi gael ei chyfansoddi ar ryw gyfnod trallodus ar bobl Dduw. "Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, gorfoledded y ddaear," &c., adn. 1. Mae yr ystyriaeth fod awenau y llywodraeth yn ei law ef yn destyn teilwng o lawenydd a gorfoledd. Mae yn teyrnasu trwy orchymyn i bawb wneyd yr hyn sydd dda, ac ymatal oddiwrth yr hyn sydd ddrwg. Mae yn teyrnasu trwy drefniadau ei ragluniaeth. Mae yn teyrnasu trwy farnedigaethau ar un llaw, a thrwy drugareddau ar y llaw arall. Mae yn atal drygau, yn cymell i ddaioni, yn cwblhau amcanion daionus o'i eiddo ei hun trwy weithredoedd y rhai drygionus, ac y mae pob peth dan ei oruchel awdurdodaeth ef—"Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu." Sylwn,

I. Fod gweinyddiadau rhagluniaeth Duw tuag at ddynion yn y bywyd presenol, yn fynych yn dywyll ac anamgyffredadwy. "Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef."

1. Y mae felly pan y mae dynion drygionus yn llwyddo mewn drygioni, a'r Arglwydd yn oedi ei farnedigaethau. Fe'i gwelir felly yn fynych—dynion drwg yn gwneyd drwg ac yn ffynu, a'r Barnwr mawr yn ddystaw, yn ymarhous yn ei lid. "O herwydd na wneir barn yn erbyn gweithred ddrwg yn fuan, am hyny calon plant dynion sydd yn llawn ynddynt i wneuthur drwg." "Hyn a wnaethost, a mi a dewais, tybiaist tithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun; ond mi a'th argyhoeddaf ac a'i trefnaf o flaen dy lygad." Mae hanes ein byd ni yn profi hyn—yr hanes hynafiaethol Ysgrythyrol a roddir, a phob hanes diweddar a brawf yr un peth.. Nid rhyfeddu a ddylem fod barnau Duw mor arswydol ar ein gwlad y dyddiau hyn, ond rhyfeddu a ddylem am na ddisgynasant yn gynt, yn drymach a mwy cyffredinol. Bu Talaethau ëang yn gweithredu mewn ysgelerderau rhy anweddus i'w darlunio, ïe, y naill haner o'r wlad yn y drwg, ac yn ymchwyddo mewn cyfoeth a ffyniant, a'r gweddill yn mud ddyoddef, a'r Arglwydd yn oedi ei lid gan roddi amser i edifeirwch—diau fod "cymylau a thywyllwch o'i amgylch ef."

2. Pan y mae y rhai sydd anwyl gan Dduw yn cael eu gadael dan drallodion, a'r Arglwydd yn oedi dydd eu gwaredigaeth. Mae ei ragluniaeth ef felly yn aml—rhai anwyl ganddo, mor anwyl a chanwyll ei lygad, rhai sydd yn ei garu ef ac yn cael eu caru ganddo, eto yn dyoddef dan drallodion mawrion—rhai mewn tlodi, rhai dan gystuddiau a thlodi ar yr un pryd, a rhai yn dyoddef yr anghyfiawnder a'r cam mwyaf gan ddynion drygionus a gorthrymus, a'r Arglwydd dros amser yn eu gadael yn y peiriau heb agor iddynt ddrws o ymwared. Fe allai mai dysgyblaeth reidiol sydd ganddo arnynt, i gyrhaedd amcan daionus o'i eiddo ei hun pan nad yw yn amlwg eto iddynt hwy pa beth ydyw, neu fe allai mai ei amcan ydyw dangos (fel y gwnaeth â Job) beth a all ei ras wneyd mewn rhoddi amynedd a chynaliaeth dan drallodion trymion, ac y deuant allan rywdro fel aur wedi ei buro yn tân. Ond pa beth bynag yw y dybenion a'r achosion, "cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef."

3. Pan y mae barnedigaethau Duw yn gyffredinol, yn cyrhaedd y drwg a'r da, y beius a'r diniwed. Y mae ei farnedigaethau ef felly yn fynych. Buasai ychydig o rai cyfiawn yn ddigonol i arbed dinasoedd drygionus Sodom a Gomorrah; eto fe ddinystriwyd llawer o blant by chain diniwed y pryd hwnw, ysgubell y farnedigaeth yn eu cymeryd oll ymaith. Dichon nad oedd dim arall i'w wneyd yn yr amgylchiad, Gall fod llawer yn methu canfod yn y dyddiau presenol paham y mae eu rhai anwyl hwy, ïe, rhai fuont mor wrthwynebol a neb i'r camwri a oddefid yn ein gwlad, ac a barodd i'r Barnwr mawr orchymyn i daran—folltau ei ddigofaint eu taro. Wel, dichon na allwn ni ganfod y manylion yn ei drefn ef. Gall efe ddwyn yn brysur ato ei hun yr eneidiau a ymddiriedant ynddo ac a gymerir ymaith o'r manau arswydol lle y cwympant, a dichon yr esbonir eto ganddo ef yr hyn nas gallwn ni ei ganfod yn awr. "Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef."

4. Goruchwyliaethau angau ydynt yn fynych yn anamgyffredadwy i ni yn bresenol. Pan y mae tadau a mamau yn cael eu tori i lawr ar fyr rybudd, a thylwyth ymddibynol arnynt ac analluog i'w hamddiffyn eu hunain yn cael eu gadael ar ol, y mae cymylau a thywyllwch o'i amgylch ef. Yr un modd, pan y mae rhai a ymddangosant i ni wedi eu cymwyso i fod yn ddefnyddiol, ac angen am eu gwasanaeth yn y cylch rhagluniaethol y troant ynddo, a rhai o ganol y defnyddioldeb mwyaf, (fel Spencer o Liverpool gynt) yn cael eu galw ymaith, a hen brenau crinion diffrwyth yn cael eu gadael—rhaid dweyd yn yr amgylchiadau hyn a'r cyffelyb fel y dywed y testyn, "Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef." Ond sylwn,

II. Ar iaith gysurol y testyn—os cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef, "cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc ef." Y gair "cyfiawnder" a arwydda fod ei lywodraeth yn deg ac uniawn, a'r gair "barn" a arwydda ei fod yn gweithredu mewn pwyll, mewn doethineb a chydag amcanion daionus yn mhob peth. Pan nad ydym ni yn gallu canfod troad olwynion ei ragluniaeth ef, gwyddom gyda sicrwydd mai "Cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc."

Gan mai amcan a dyben yr addysg a roddir yn y Salm hon, fel y sylwyd uchod, oedd cysuro y trallodus, a hyny mewn adegau tywyll ac ar achlysuron anhawdd eu hesbonio, a chan fod yr adeg bresenol yn gyfnod o drallod mawr ar lawer, ceisiwn yma nodi rhai ystyriaethau cysurol i blant trallod.

1. Y mae yr Arglwydd yn gweithredu yn mhob peth a thuag at bawb mewn uniondeb a chyfiawnder. "Cyfiawnder" yw un o seiliau tragywyddol ei orseddfainc. Pa fodd bynag y gweithreda tuag atom, a pha mor dywyll bynag yw yr oruchwyliaeth, gallwn fod yn sicr mai cyfiawnder yw trigfa ei orseddfainc. Ni wna gam â gwr yn ei fater. "Ei holl ffyrdd ydynt farn, Duw gwirionedd a heb anwiredd, cyfiawn ac uniawn yw efe." "Oni wna Barnydd yr holl ddaear farn?" Ystyriaeth o hyn a lonyddodd feddwl yr hen offeiriad Eli, pan ddanfonwyd cenadwri ato trwy y bachgen Samuel, a phan draethodd y cyfan heb atal dim, yn ol dymuniad Eli, dywedodd, "Yr Arglwydd yw efe, gwnaed a fyddo da yn ei olwg." Yr ystyriaeth mai yr Arglwydd oedd yn llefaru oedd yn ddig on gan Eli—a dyma a roddodd fodd i Job fendithio yr Arglwydd, a dywedyd, "Yr Arglwydd a roddodd, a'r Arglwydd a ddygodd ymaith; bendigedig fyddo enw yr Arglwydd." A hyn a barodd i'r Salmydd ddweyd, "Aethum yn fud ac nid agorais fy ngenau, canys ti a wnaethost hyn."

2. Mae yr Arglwydd yn gweithredu yn mhob peth mewn doethineb a daioni. "Cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc ef." Peth anhawdd, efallai, i ni dan drallodion mawrion, yw canfod yr oruchwyliaeth yn ddaionus, er ein bod yn rhwym o ddweyd ei bod yn gyfiawn. Ond felly y mae yn bod—y mae ei holl ysgogiadau ef yn ddaionus yn gystal a chyfiawn. "Duw cariad yw." Dyna oedd efe erioed, a dyna yw, ac a fydd. Nid oddiar nwyd neu deimlad y mae efe yn gweithredu, fel y gwna dynion yn fynych, ond mewn "barn," mewn doethineb a phwyll. Pan yn cymeryd ein hanwyliaid o'n mynwes, y rhai oedd anwyl ganddo ef, efallai mai eu lles hwy oedd ganddo yn benaf mewn golwg, ac nid ein cyfleusdra ni. Cymerodd hwy i wlad sydd well, at gymdeithion gwell, i gylch helaethach o gyfleusderau a defnyddioldeb hefyd, ac i fwynhad o fwynderau helaethach. Maent hwy yn ei glodfori yn awr am iddo wneyd fel y gwnaeth—maent yn foddlawn hollawl i'w drefn, ac yn ei glodfori am yr hyn a wnaeth. Dichon fod ganddo fendithi ninau yn yr amgylchiad, ond i ni wrando ar ei lais ac ymostwng dan ei alluog law. "Da y gwnaeth efe bob peth."

3. Yn yr adegau tywyllaf y mae yn gysur i'r Cristion i feddwl fod holl weinyddiadau llywodraeth Duw yn llaw Cyfryngwr. Os oes cymylau a thywyllwch o'i amgylch weithiau, yn llaw ein Ceidwad y mae awenau ei lywodraeth. "Nid yw y Tad yn barnu neb, eithr efe a roddes bob barn i'r Mab." Mae barnedigaethau cyhoeddus Duw ar y gelynion yn cael eu gweinyddu gan y Cyfryngwr. "Gofyn i mi a rhoddaf y cenedloedd yn etifeddiaeth i ti, a therfynau y ddaear i'th feddiant. Drylli hwynt â gwialen haiarn, maluri hwynt fel llestr pridd "—hyny yw, y rhai na phlygant i'r wialen aur, a ddryllir felly. Ac os yw gweinyddiad y barnau ar y gelynion yn ei law, diau yw fod y ceryddon tadol ar ei blant yn cael eu gweini ganddo. A phwy yw y Cyfryngwr hwn? Cyfaill pechadur ydyw Cyfaill a Gwaredwr Seion ydyw—un o'n cyfathrach ni. "Gelwir ei enw ef Emmanuel, yr hyn o'i gyfieithu yw, Duw gyda ni"—Duw yn ein natur ni, Duw o'n plaid ni, ac yn trefnu ei holl achosion er ein daioni penaf.

4. Mae goruchwyliaethau fuont unwaith yn dywyll wedi eu hesbonio i deulu Duw ar rai prydiau yn nhymor eu bywyd. Hanes Joseph, hanes Job, bywyd ein Gwaredwr ei hun, bywyd llawer dan erledigaethau, a brawf hyn. Dichon y cawn ninau weled, yn nhymor ein bywyd, rai goruchwyliaethau tywyll wedi dyfod yn eithaf goleu. Pwy a wyr hefyd na cheir gweled rhyw ganlyniadau daionus yn dilyn y farn bresenol sydd ar ein gwlad? Fe oddefodd yr Arglwydd i bleidwyr y gaethfasnach ddewis eu cynllun eu hunan. Bygythiasant er's degau o flynyddau bellach, os na chaent eu ffordd y "torent i lawr yr Undeb." Gwnaethant felly pan ganfyddasant fod egwyddorion rhyddid yn cynyddu yn y wlad—codasant arfau bradwrol, a daethant i'r maes! Ond fel Samson gyda'r ddwy golofn gynt, tynasant deml caethiwed am eu penau eu hunain—a buont eu hunain yn achlysuron dinystr i'w cyfundraeth. Gwnaeth Duw yn y tro i gynddaredd dyn ei folianu ef, a gweddill cynddaredd a wahardda.

5. Mae dydd i ddyfod pryd y dwg yr Arglwydd bob goruchwyliaeth dywyll yn berffaith oleu. Dydd felly fydd dydd symudiad y Cristion trwy angau i'r byd tragywyddol yno ceir gweled yn oleu yr hyn sydd dywyll yn awr. Dydd felly fydd dydd y farn ddiweddaf. Teflir goleu yn ol y pryd hwnw ar lawer dyffryn tywyll yr aeth aml un trwyddo yn nhaith yr anialwch, a dangosir llawer amgylchiad a barodd i'r Cristion wlychu ei orweddfa a'i lwybrau â dagrau, yn oruchwyliaeth deg a daionus, a rheidiol o eiddo ei Arglwydd a'i Waredwr i'w gael yn lân oddiwrth bob pechod, ac yn gymwys i deyrnas nef.

6. Mae addewid benodol ein Tad nefol genym y bydd i bob peth gydweithio er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw—addewid eangach nid oes eisiau ei chael, na modd ei chael.

Dysgwn beidio barnu yn fyrbwyll ei oruchwyliaethau Ef. Pwy ydym ni i farnu goruchwyliaethau a gweithredoedd yr unig ddoeth Dduw!

Gweddiwn am fendith ar y troion nad ydym yn gallu eu hesbonio yn awr.