Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/Rhwymedigaeth Dyn i Dduw
← Dyfyniadau o Bregeth II | Cofiant y diweddar Barch Robert Everett gan David Davies (Dewi Emlyn) |
Y Goruchwyliaethau yn Dywyll, eto yn Uniawn → |
RHWYMEDIGAETH DYN I DDUW.
I. Y mae dyn yn rhwymedig i Dduw mewn cariad. Duw, cariad yw, a'r ddeddf a roddodd i ni a gynwysir yn y gair hwn, "Cyflawnder y gyfraith yw cariad." Cariad goruchafaidd at Dduw, a chariad at ein cymydog fel ni ein hunain—dyma gynwysiad y ddwy lech, a dyma yr oll o rwymedigaeth dyn i Dduw. Nid oes dim yn ofynedig arnom, na dim yn ofynedig ar un bôd rhesymol yn un man, dan unrhyw amgylchiadau, ond a dardd yn naturiol oddiar yr egwyddor anwylaidd hon, sef cariad. Mewn ystyr foesol, dyma ddeddf y bydysawd. Ac oddiar gariad at Dduw y tardd y rhwymedigaeth o ufuddhau iddo yn yr hyn oll y mae yn orchymyn, derbyn yn barodol yr hyn y mae yn gynyg o'i drugaredd a'i ras, ymddiried ynddo dan bob goruchwyliaeth, bydded mor dywyll a thrallodus ag y byddo, ac ymdrechu cymell ar eraill yr un rhinweddau.
II. Mae rhwymedigaeth dyn i Dduw yn tarddu oddiar ei berthynas greadigol â Duw. "Efe a'n gwnaeth, ac nid ni ein hunain, ei bobl ef ydym a defaid ei borfa." Perthynas yw sail pob rhwymedigaeth. Nid oes rhwymau lle nad oes perthynas, a lle mae perthynas, y mae rhwymau yn ol ansawdd y berthynas. Y berthynas fwyaf gwreiddiol a'r fwyaf cyflawn o bob perthynas ydyw yr un greadigol. Mae gan Dduw hawl ynom o flaen pawb eraill, a goruwch pawb, am mai ein Creawdwr ydyw. Mae ar ddyn rwymau i'w rieni, i "dalu y pwyth" iddynt, a "phwyth" go hir ydyw hefyd y berthynas sydd agos, a'r daioni a dderbyniwyd oddiar eu llaw, mewn sefyllfa o angen ac ymddibyniaeth, sydd fawr. Ond y mae ein rhwymau i Dduw yn fwy—ein hymddibyniaeth arno sydd fwy cyflawn, a'r daioni a dderbynir oddiar ei law sydd anfeidrol fwy. Mae ar ddeiliaid rwymau i'w llywodraethwyr, gweision i'w meistriaid, a'r angenus i'w cymwynaswyr, ond nid i neb y mae ein rhwymedigaeth fel i Dduw yr hwn a'n gwnaeth.
III. Mae rhwymedigaeth dyn i Dduw yn rhwymedigaeth o gyfrifoldeb, yn tarddu oddiar ei fod yn meddu ar fodolaeth resymol. Hyn sydd yn gwneyd dyn yn rhwymedig i Dduw mewn ystyr wahanol i bob bôd islaw iddo yn nghlorian bodolaeth. Dyma sydd yn ei wneyd yn ddeiliad cyfrifoldeb a barn. Nid yw y greadigaeth fwystfilaidd yn ddeiliaid cyfrifoldeb―y creaduriaid afresymol nid ydynt yn meddu cyneddfau priodol i wybod am Dduw, ei garu a'i wasanaethu. Nid yw y greadigaeth anianol yn meddu ar y cyneddfau hyn. Mae bodau anianol yn ddeiliaid deddfau anianol, ac yn ufuddhau i'r deddfau hyny i'r perffeithrwydd manylaf. Ond nid rhwymedigaeth o gyfrifoldeb sydd yn peri hyn; ond gweithrediad gallu anianol ac anfeidrol y Jehofa.
Mae dyn wedi ei gynysgaeddu â deall ac amgyffrediad, â serchiadau, âg ewyllys, â chof a chydwybod— cyneddfau, o ran eu hansawdd, cyffelyb i eiddo angel yn y nef—ac y mae ei rwymedigaeth yn tarddu oddiar ei fod yn meddu ar y cyneddfau hyn, Bôd rhesymol ydyw, mae dan rwymedigaeth o gyfrifoldeb am y defnydd a wna o'r cyneddfau hyn. Y mae yn gwybod y da a'r drwg, ac y mae dan rwymedigaeth o gyfrifoldeb i ddewis y naill ac ymwrthod a'r llall. Ei fodolaeth resymol yw un o seiliau cedyrn a thragywyddol ei rwymedigaeth a'i gyfrifoldeb.
IV. Mae rhwymedigaeth dyn i Dduw yn codi oddiar y gwiwdeb a'r teilyngdod a berthynant i'w briodoleddau anfeidrol a thragywyddol ef. Y mae efe yn fod mor ogoneddus, fel y mae yn deilwng o'r serch gwresocaf, yr ufudd—dod puraf, a'r ymddiried llawnaf, oddiwrth bawb, ac am hyny y mae ein rhwymedigaeth iddo yn myned heibio idd ein rhwymedigaeth i bawb eraill, ac y mae ei ddeddfau ef yn oruchaf ar ddeddfau pawb. Pan y mae deddfau dynion yn gwrthdaro yn erbyn deddf Duw, ein dyledswydd yw ufuddhau iddo ef, ac nid i ddynion. Os bydd gorchymyn rhieni yn groes i orchymyn Duw, eiddo Duw a ddylai gael ufudd—dod; ac os bydd gorchymyn y Llywiawdwr neu y wladwriaeth yn groes i'r eiddo ef, mae ein rhwymedigaeth iddo yn galw am ein bod yn ufuddhau iddo ar y draul (os rhaid yw) o anufuddhau i bawb eraill, ac ar y draul o unrhyw benyd neu gosb a ddichon awdurdodau dynol osod arnom. Felly y gwnaeth Daniel, er gorfod myned i ffau y llewod; felly y gwnaeth y tri llanc, er fod y ffwrn dân wedi ei phoethi seithwaith yn fwy nag arferol o'u blaen, ac felly y gwnaeth yr apostolion, er dyoddef carcharau ac angau.
V. Mae rhwymedigaeth dyn i Dduw yn gyfartal a'r moddion gwybodaeth y mae yn feddu am Dduw. Mae moddion gwybodaeth yn un o brif elfenau rhwymedigaeth. Pe gellid profi fod rhyw ddyn mewn sefyllfa, lle nad oedd moddion o fewn ei gyrhaedd i wybod am Dduw, lle nad oedd modd iddo wybod dim am ei weithredoedd na chlywed dim am dano, yna byddai y dyn hwnw, i'r un graddau yn rhydd oddiwrth rwymedigaeth a chyfrifoldeb. Ond ai dyna ein sefyllfa ni? Na, hollol i'r gwrthwyneb. Beth sydd yn gwneyd rhwymedigaeth y pagan yn fawr, er na welodd Feibl erioed, ac na chlywodd erioed am Waredwr? Mae ei rwymedigaeth ef yn tarddu oddiar yr amlygiadau a roddodd Duw o hono ei hun yn ei weithredoedd mawrion a gogoneddus—mae ei weithredoedd er creadigaeth y byd yn tystio am dano nes y mae cydwybodau ý rhai a welant ei weithredoedd hyn yn eu cyhuddo neu yn eu hesgusodi. Beth sydd yn gwneyd ein rhwymedigaeth ni yn fwy? Onid yr ystyriaeth ein bod wedi meddu datguddiedigaethau mil miloedd helaethach am dano, trwy yr Ysgrythyrau a breintiau goruchel yr efengyl.
VI. Nis gall un cyfnewidiad yn agwedd foesol meddwl dyn tuag at Dduw leihau dim ar ei rwymedigaeth i Dduw. Ystyrir gan rai fod dyn yn ei sefyllfa o ddiniweidrwydd dan rwymau i ufuddhau, a hyny yn berffaith i orchymynion yr Arglwydd, ond wedi iddo syrthio i bechod, nas gall fod ei rwymedigaeth yr un ag o'r blaen, ac nas gall fod Duw yn gofyn mor fanwl yn awr, trwy fod y dyn yn llygredig. Ond cam feddwl hollol am bethau yw y meddwl yna. Mae seiliau y rhwymedigaeth yn parhau yr un, ac y mae y rhwymedigaeth hefyd o angenrheidrwydd yr un. Mae Beelzebub dan yr un rhwymedigaeth i Dduw yn awr ag ydoedd pan yn angel pur yn Ngwynfa. Ni wnaeth ei gwymp i lygredd a phechod leihau dim ar ei rwymedigaeth i'w Greawdwr anfeidrol. Felly y mae deddf sanctaidd Duw yn gofyn ufudd-dod dyn yn awr i'r un manylrwydd a'r un perffeithrwydd ag ydoedd yn ei ofyn yn Eden ardd. Ni wnaeth ei ddrwg a'i wrthryfel leihau dim ar ei rwymedigaeth a'i gyfrifoldeb. O! meddyliwn fod ei orchymyn ef yn awr, fel gynt, yn dra eang, yn gofyn pob meddwl, pob teimlad, pob gair, pob gweithred, heb leihau dim yn llymder a manylrwydd ei gofynion, na rhoi un bleidgarwch i'n llygredd a'n drygedd ni.
VII. Mae rhwymedigaeth dyn i Dduw yn rhwymedigaeth o hyfrydwch a dedwyddwch. Nid yw dyn yn rhwymedig i ddim ond a duedda at ei ddedwyddwch. Ei ddedwyddwch yw ymddwyn yn ol ei rwymedigaeth, a phob amcan o eiddo y dyn at ddryllio ei rwymau Ef, a thaflu ei reffynau oddiwrtho, a ddwg arno drueni. "Pwy a ymgaledodd yn ei erbyn ef, ac a lwyddodd?" "Gwae a ymrysona â'i Wneuthurwr." Y dynion mwyaf dedwydd ar y ddaear ydyw y dynion mwyaf teimladwy o'u rhwymedigaeth i Dduw, a mwyaf cydwybodol i ateb y cyfryw rwymedigaeth. Teimlad o rwymedigaeth i Awdwr pob daioni, a meddu calon i ddyfod i fyny a'r cyfryw rwymedigaeth mewn ufudd-dod cynes a pharhaol a wna i fyny un o brif elfenau dedwyddwch y nef. Mae dyn trwy bechod wedi encilio oddiwrth ei rwymedigaeth ac wedi syrthio drwy hyny i sefyllfa druenus. Yno bydd wedi ei adferu yn ol i'w sefyllfa gyntefig, a bydd byth yn ddedwydd.
VIII. Mae rhwymedigaeth dyn i Dduw yn cynyddu yn barhaus, a bydd yn cynyddu byth. Os yw y rhwymedigaeth i'w raddoli yn ol helaethrwydd y datguddiedigaethau, fel y mae yn rhesymol meddwl ei fod, bydd yr helaethach ddatguddiedigaethau a wna efe o hono ei hun trwy ei weithredoedd mawrion a rhyfedd yn y byd tragywyddol, yn mwyhau byth y rhwymedigaeth. O mor arswydol meddwl am hyn mewn cysylltiad â'r meddwl am sefyllfa y damnedigion yn ufferu! Bydd mwy o Dduw yn cael ei ddangos iddynt yn barhaus—mwy o'i burdeb a'i gyfiawnder, mwy o'i allu a'i anghyfnewidioldeb, ïe, mwy o'i gariad at fodolaeth yn gyffredinol, yn y cospedigaethau tragywyddol a weinyddir arnynt; a bydd y datguddiedigaethau hyn yn helaethu eu rhwymedigaeth, ac o ganlyniad bydd eu troseddau yn fwyfwy ysgeler yn barhaus, a'r ddamnedigaeth yn drymach. O'r tu arall, mor ddedwydd yw meddwl am deulu y nef—bydd y datguddiedigaethau o Dduw yno byth yn amlhau a chynyddu, bydd eu rhwymedigaethau hwythau yn cynyddu, a'u sancteiddrwydd i'r un graddau yn cynyddu hefyd. O sefyllfa ddedwydd! Deddf cariad yn gofyn, egwyddor cariad o'u mewn hwythau yn ateb, a'u dedwyddwch yn llawn.
ADFYFYRDODAU.
1. Dysgwn ddeall seiliau cedyrn, eto anwylaidd, ein cyfrifolaeth, ac ymdrechwn fyw dan y teimlad dedwydd o'n bod yn ddeiliaid o ddeddf cariad ac yn rhwymedig byth iddi.
2. Gwelwn ein hangen am Waredwr—torasom ein rhwymau, aethom yn euog, heb un esgus am y trosedd i'w roi. Diolchwn fod modd cael maddeuant trwy angau'r groes.
3. Ymlawenhaed teulu Seion yn eu gobaith am y nef, lle y bydd ystyriaeth o'u rhwymedigaeth yn helaethu melusder eu dedwyddwch yn ddiddiwedd.