Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/Bywyd, Gweinidogaeth a Llafurwaith Dr. Everett yn yr Unol Dalaethau
← Gweinidogaeth Dr. Everett yn Ninbych | Cofiant y diweddar Barch Robert Everett gan David Davies (Dewi Emlyn) |
Lloffyn o Ddyfyniadau am Dr Everett → |
PENNOD III.
Bywyd, Gweinidogaeth a Llafurwaith Dr. Everett yn yr Unol Dalaethau.
Dechreuodd Dr. Everett ar ei lafur gweinidogaethol yn eglwys Gynulleidfaol Utica, Gorph. 21, 1823. Yr oedd ynddo gymwysderau neillduol ar gyfer y maes hwnw, a gweithiodd yn ddiwyd ac egniol arno; arferai bregethu bedair gwaith yr wythnos. Nid oedd yma gynifer o gymanfaoedd a chyfarfodydd mawrion yn mhlith y Cymry y pryd hwnw, ag a oedd yn yr Hen Wlad, i dynu allan ei egnion a symbylu ei feddwl; ond yr oedd yma ryw ychydig. Yr oedd y Gymanfa flynyddol wedi ei chychwyn er ys dros bymtheg mlynedd cyn hyny. Yr oedd ef yn cymeryd rhan ynddi yn 1823, am y tro cyntaf. Yr oedd yn alluog i gymdeithasu fel eu cydradd gyda'r Americaniaid, a daeth yn fuan i deimlo dyddordeb yn eu mudiadau crefyddol; a byddai ei galon yn cyd -guro â hwynt yn gynes.
Yr oedd cyfnod gogoneddus o ddiwygiadau crefyddol a gwelliantau moesol yn ymagor yn America tua'r amser y daeth Dr. Everett drosodd. Yr oedd y Gymdeithas Genhadol, y Gymdeithas Feiblaidd, a chymdeithasau daionus ereill wedi cael eu cychwyn er ys ychydig flynyddau, ac wedi cyffroi a bywiocau llawer ar eneidiau Cristionogion. Yr oedd esboniadaeth a beirniadaeth Feiblaidd wedi derbyn bywyd newydd trwy lafur y dysgedig Moses Stuart. Yr oedd llawer o adfywiadau crefyddol wedi cymeryd lle trwy lafur gweinidogion duwiol ac efengylwyr o fath Dr. Nettle ton, ac eraill. Yn fuan ar ol ei ddyfodiad drosodd daeth Finney allan yn efengylydd teithiol, llawn o eneiniad sanetaidd a thân apostolaidd, a byddai nerthoedd rhyfeddol yn cydfyned a'i bregethiad. Dr. Lyman Beecher, wrth ganfod y difrod wnelai anghymedroldeb yn y wlad, canfod myglys a gwirod yn cael eu defnyddio mewn dau gyfarfod urddiad, a chanfod gweinidog. ion yn yfed mewn cyrddau mawrion nes myned yn llawen, nid yn feddw, ond yn llawen, a lanwyd a braw, cywilydd a digllonedd, ac yn y flwyddyn 1825, efe a bregethodd chwech o bregethau grymus yn erbyn annghymedroldeb, y rhai a argraffwyd ac a gynhyrfasant y wlad, nes arwain, y flwyddyn ganlynol, i ffurfiad y Gymdeithas Ddirwestol. Yr oedd y pethau hyn oll yn dylanwadu yn rymus ar feddwl Dr. Everett, nes ei lenwi & brwdfrydedd diwygiadol, ae â llawer o ysbryd cyhoeddus.
Mewn llythyr i Gymru yn 1826, dywedai, "Y mae yn America wyth o gymdeithasau yn cael eu dwyn yn mlaen yn debyg i'r Feibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor, a'u cynal gan wahanol enwadau o Gristionogion. Y Feibl Gymdeithas Americanaidd, y Gymdeithas Genhadol Gartrefol, y Gymdeithas Genhadol Dramor, y Gymdeithas Draethodol Americanaidd, y Gymdeithas Addysgol i barotoi dynion ieuainc i'r Weinidogaeth, Undeb Americanaidd yr Ysgolion Sabbothol, y Genhadaeth Iuddewig Americanaidd, a'r Gymdeithas i Addysgu y Negroaid, y rhai a ddygwyd i'n gwlad fel caethion. Y mae'r rhai yna oll yn anrhydedd i'r oes oleu hon." Darlunia waith rhyfeddol o eiddo yr Ysbryd Glan a gymerodd le yn 1826, a dywed fod yn Sir Oneida dros ddwy fil a haner wedi cael tröedigaeth, a bod dros ddau cant wedi eu hychwanegu at eglwysi Utica, o'r rhai rhwng deugain a haner cant a unasant ag eglwys Dr. Everett. Yr oedd bobl yn cydweithredu yn ardderchog a'r weinidogaeth yr amser hwnw. Yr oedd pob dydd fel Sabboth. Cynelid dau neu dri o gyrddau gweddi yn ngwahanol ranau y ddinas am naw ac un-ar-ddeg y boreu, a thri y prydnawn. Yr hwyr, drachefn, cyrddau crefyddol i weddio neu bregethu a gynelid yn mhob eglwys. Dywedai: "Yr amser mwyaf difrifol a hyfryd a brofais erioed ydoedd. Weithiau byddai ychydig gyfeillion Cristionogol yn cwrdd yn nghyd yn nhai eu gilydd yn y prydnawn i weddio a molianu Duw. Nid peth anghyffredin oedd i ugain neu ddeg-ar-hugain o'r fath gyfarfodydd gael eu cynal yr un amser, a phrofasant yn fendith fawr. Yn y cyrddau bychain hyny yr oedd yn arferiad i weddio dros bersonau wrth eu henwau, ac y mae llawer o engreifftiau hynod o dröedigaeth y rhai y gweddient drostynt. Yr oedd yr argyhoeddiadau yn ddyfnion iawn mewn rhai amgylchiadau yn y dyddiau hyny."
Yr oedd yn teimlo yn garedig at y mudiad dirwestol er pan glywodd am dano gyntaf, a phan gafodd gyfle yn 1827, aeth yn mlaen yn gyhoeddus yn Utica i arwyddo yr ardystiad, a bu yn gefnogwr cyhoeddus, gweithgar a phenderfynol i'r achos o hyny i'w fedd. Anhawdd i'r to presenol goleddu drychfeddyliau priodol am sefyllfa alaethus y sefydliadau Cymreig, yn nghyd a'r wlad yn gyffredinol, yr amser hwnw, drwy yr arferiad ddinystriol o yfed diodydd meddwol, yr hon a ffynai yn mhob man, ac yn mhlith pob dosparth o bobl; ac anhawdd iddynt synio yn gywir am y gwroldeb a'r penderfyniad oedd yn angenrheidiol, er dyfod allan yn gyhoeddus i wrthwynebu drwg oedd mor flagurog a chadarn. Ond gwnaeth Dr. Everett hyny gyda ffyddlondeb a diysgogrwydd anhyblyg. Yn 1830, sefydlodd Gymdeithas Ddirwestol yn Utica, y gyntaf a sefydlwyd yn mhlith y Cymry. Efe yw tad Dirwest yn mhlith ein cenedl ni, nid yn unig yn America, ond yn Nghymru hefyd, oblegid ei lythyr yn y Dysgedydd yn 1834 fu y cychwyniad cyntaf roed i'r achos yn y Dywysogaeth. Cafodd ei weinidogaeth ei hanrhydeddu â chryn lwyddiant yn y blynyddau 1831-2. Mewn llythyr, dyddiedig Mawrth 5, 1832, adrodda hanes cyfarfod a gadwyd gan yr henaduriaid i weddio, pregethu, a siarad a phechaduriaid edifeiriol; parhaodd bymthegnos, a chafodd tua dau cant eu troi.
Rhoddodd Dr. Everett yr eglwys yn Utica i fyny yn y rhan ddiweddaf o'r flwyddyn 1832, a bu am beth amser yn pregethu i'r ail eglwys Bresbyteraidd yn y ddinas hono. Yn ngwanwyn 1833 cymerodd ofal eglwys Seisonig West Winfield, heb fod yn mhell o gylchoedd Utica, Ond er myned at yr Americaniaid nid ymwrthododd a'i genedl. Yr oedd y Cymry yn edrych arno fel eu tad a'u prif arweinydd, ac yr oedd yntau yn teimlo yn fawr dros eu llesiant hwythan, ac yn parhau i ddyfod i'w cyrddau mawrion. Dydd Nadolig 1833 yr ydym yn ei gael gyda ei gydgenedl yn ninas Utica, yn cynal cylchwyl y Gymdeithas Feiblaidd, ac yn yr hwyr yn cadw cyfarfod Dirwestol. Yn yr olaf traddododd anerchiad nerthol, llawn o ymressymiadau cedyrn, ac apeliadau tyner a difrifol. Cafodd hwnw ei argraffu a'i ledaenu yn mysg y Cymry, a dywedir iddo fod yn fendithiol i lawer.
Yn 1837 talodd ymweliad â gwlad ei enedigaeth. Nid ydym hyd yn hyn wedi dod o hyd i lawer o fanylion y daith hon, ond deallwn iddo fod yn llafurus a defnyddiol dros ddirwest yno. Bu y gymdeithas hono yn llewyrchus a llwyddianus iawn yn Ngogledd Cymru yn y flwyddyn 1837, ond nis gwyddom fainto'r llwyddiant sydd i'w briodoli i Dr. Everett, ond gwyddom ei fod mor selog a neb gyda'r gwaith, ac iddo ffurfio cymdeithas ar fwrdd y llong wrth ddychwelyd, a darbwyllo chwech-ar-hugain o'i gyd-genedl i arwyddo yr ardystiad. Dywed J. R.: "Pan dalodd Mr. Everett ymweliad â Chymru, wedi bod flynyddau yn America, yr oedd wedi colli llawer o'i lais peraidd, a'i nerth pregethwrol. Nid oes gan y rhai a'i clywodd y pryd hyny fawr ddychymyg beth ydoedd yn wr ieuane yn Ninbych cyn cychwyn i America; ïe, beth oedd ar faes Cymanfa Llanbrynmair." Fe allai ei fod wedi colli peth o'i nerth a'i danbeidrwydd boreuol; ond y peth tebycaf yw fod ei arosiad yn y wlad hon, ei gymdeithas â'r Americaniaid, a'i waith yn gweinidogaethu iddynt er ys blynyddau, wedi effeithio yn raddol, os nad yn ddiarwybod arno, nes newid ei arddull bregethwrol; a dichon fod hinsawdd eithafol y wlad wedi bod yn help i hyny gydag ef, yr un fath ag eraill o'i frodyr. Nid oedd yr arddull a atebai i gynulleidfa Americanaidd, oll yn ddarllenwyr deallus, ac yn feddianol ar gryn wrteithiad, yn cyfateb cystal i gynulleidfaoedd llai eu diwylliad yn Nghymru. Y mae'n deilwng o sylw mai ar ol bod yn Nghymru y cynyrchodd pregethau Dr. Everett fwyaf o effeithiau yn mhlith Cynry y wlad hon, tuag amser diwygiadau 1838, 1840, 1843, &c. Felly yr ydym yn gogwyddo i feddwl. ei fod yn fwy adeiladol, sylweddol a chynwysfawr fel pregethwr pan fu yn ol yn Nghymru, na phan ddaeth oddi yno, ond nad oedd y cynulleidfaoedd yno yn ddigon diwylliedig i iawn brisio ei arddull. Tua'r flwyddyn 1837, nid y pregethwr callaf, trefnusaf, a rhagoraf ei bregethau, oedd dyn dewisol y nifer, fwyaf o gynulleidfaoedd Cymru, ond yr hwn a feddai y geg a'r ysgyfaint oreu at haner canu a soniarus floeddio ei bregeth; ac os arferai guro y Beibl a'r areithfa, trystio, tarthu a chwysu fel gweithiwr tân o flaen y ffwrnes, mwyaf oll fyddai ei gymeradwyaeth. Nis gwyddom faint o gyfnewiad chwaeth sydd wedi cymeryd, lle yno, ond dywedir nad oes yno yn awr ond derbyniad oeraidd i bregethwyr wedi cofleidio yr arddull Americanaidd. O'r tu arall, y mae amryw leygwyr gwybodus wedi bod yn ol yn Nghymru yn ddiweddar, ar ol dyfod oddiyno yn ieuainc, a threulio blynyddoedd lawer yn y wlad hon, nes cael eu Hamericaneiddio; ac y maent wedi cyhoeddi yn ddifloesgni y siomedigaeth gawsant yn mhregethwyr Cymru. Yr oeddynt yn mhell o gyfateb i'w dysgwyliadau. Clywsom amryw yn bersonol yn hysbysu yr un peth, y rhai nid ydynt wedi cyhoeddi eu syniadau trwy y wasg. Achwynant eu bod yn ymddibynu mwy yno ar yr hyn a elwir yn "hwyl" a "dawn," ac ar nerth anianyddol, nag ar nerth a llafur meddwl, a gwir wrteithiad; a dywedant mai nid prif feddylwyr Cymru yw ei phregethwyr mwyaf poblogaidd. Hyn sydd sicr, fod arddull y pregethwyr a chwaeth y gwrandawyr yn wahanol yn y ddwy wlad, a bod hir ymarferiad ag unrhyw ddull yn tueddu i wneyd dynion yn rhagfarnllyd drosto. Gallai ystyriaethau fel yna roddi cyfrif teg am dyb isel (ond yn ol ein barn ni, tyb anghywir,) pobl Cymru am Dr. Everett yn 1837.
I ddychwelyd at hanes y Dr. ar ol dyfod yn ol o Gymru i'w eglwys yn Westernville, N. Y.—lle yr oedd wedi bod yn bugeilio am tua dwy flynedd—yn mis Chwefror, 1838, cafodd yno golled fawr trwy i'w dy fyned ar dân yn y nos, pryd y llosgwyd y rhan fwyaf o'r dodrefn, y dillad, y llyfrau a'r ysgrifeniadau, a phrin y diangodd ef a'i deulu heb ond ychydig o ddillad am danynt. Yr oedd yn golled fawr i fyfyriwr caled a gweithgar fel Dr. Everett, iddo gael ei amddifadu o'i holl lyfrau ar unwaith. Y llyfrau duwinyddol, yr esponiadau, a'r geiriaduron a fuont yn gymdeithion iddo o ddechreuad ei weinidogaeth, yn nghyd a'r llyfrau oedd ef wedi gasglu yn ystod pymtheg mlynedd o arosiad yn America; heb son am y golled am holl law-ysgrifau boreuddydd ei fywyd a'i weinidogaeth. Diameu y buasai genym lawer yn ychwaneg ddefnyddiau at hanes boreuol ei fywyd, oni b'ai yr anffawd hon. Daliodd yn dawel a hunan-feddianol yn ngwyneb yr amgylchiad, gan deimlo yn ddiolchgar iawn i'w Dad nefol am fod eu bywydau wedi eu harbed.
Tua diwedd Ebrill, 1838, cymerodd ofal eglwysi Steuben a Phen-y-mynydd, ac arosodd gyda hwynt nes ei symud i'r nef. Yr oedd diwygiad anarferol o rymus wedi newydd fod yno cyn iddo symud atynt. Rhoddir ychydig hanes am ei gysylltiad â'r diwyg- iad hwnw yn nes yn mlaen. Fel hyn y dyweda y Parch. Sem Phillips, yn ei hanes gwerthfawr am eglwys Steuben, am amser cyntaf gweinidogaeth Dr. Everett yno: "Tymor o ddyfrhau oedd tymor cyntaf gweinidogaeth Dr. Everett yma. Yr oedd lluaws o blanhigion ieuainc wedi newydd gael eu planu yn yr ardd hon i Dduw, yr adeg yr ymgymerodd a'i gwrteithiad. Trwy ddyfrhau planhigion byw hwy ddeuant yn brenau cyfiawnder." Fel un o ffrwythau daionus y diwygiad, helaethwyd, adgyweiriwyd, ac addurnwyd addoldy Steuben yn y blynyddoedd 1839 ac 1840. Yr oedd Dr. Everett yn gefnogwr gwresog i adfywiadau, a chafodd yr hyfrydwch o weled amryw o honynt yn ei eglwysi. Bu cryn ychwanegiad yn Pen-y-mynydd a Steuben yn 1840, a thrachefn yn 1843. Bu yr ychwanegiad at eglwys Steuben y flwyddyn hono rhwng 80 a 90. Cymerodd ychwanegiad lled fawr at eglwys Pen-y-mynydd le yn 1851, ac yn niwedd 1857 a dechreu 1858 ychwanegwyd 32 at Steuben, a 17 at Pen-y-mynydd; ac yn 1868 ychwanegwyd 16 at Pen-y-mynydd. Derbyniodd lawer o aelodau newyddion o bryd i bryd, heblaw y rhai a dderbyniwyd yn yr adfywiadau a goffhawyd. Yr oedd ei weinidogaeth yn doddedig, gwlithog ac ysbrydol, a byddai effeithiau daionus yn cydfyned a hi yn aml.
Yr oedd yr amcan o gael cylchgrawn misol wedi bod o dan ystyriaeth Cymanfa Oneida er ys amser maith, ond yn y Gymanfa yn mis Medi, 1839, daeth y peth i ddigon o addfelrwydd i benderfynu cychwyn y cyhoeddiad ddechreu y flwyddyn ddyfodol. Anfonwyd cylch-lythyrau allan i ofyn am gefnogaeth a chydweithrediad y cyhoedd, wedi eu harwyddo gan Robert Everett, Cadeirydd, a James Griffiths, Ysgrifenydd. Ar ddiwedd y cylch-lythyr hysbysir fod y Gymanfa wedi cyflwyno golygiaeth y gwaith i R. Everett, J. Griffiths a Morris Roberts. "Cyhoeddedig gan weinidogion yr eglwysi Cynulleidfaol," yw y mynegiad sydd ar y tair cyfrol gyntaf o'r Cenhadwr. Argraffwyd y ddwy gyfrol gyntaf gan R. W. Roberts, Utica. Ond. argraffwyd y drydedd yn Remsen gan J. R. a R. Everett, ac yno yr argraffwyd ef yn barhaus o hyny allan. Yn Nghymanfa Oneida, yn Medi 1842, penderfynwyd, "Fod y Cenhadwr rhagllaw i gael ei ystyried yn eiddo y Parch. Robert Everett, i'w ddwyn yn mlaen yn ei enw ac ar ei draul ei hun. A gwnaeth Mr. Everett dderbyniad o hono i fod felly. Ac addawodd y gweinidogion y gwnaent eu goreu er ei gefnogi a'i gynorthwyo yn mhob modd, gan gredu y bydd yn gymaint dros yr achos mawr a gerir genym oll, a lles cyffredinol ein cenedl ag o'r blaen." Anfonwyd allan o'r un Gymanfa anerchiad ar ran y Cenhadwr, wedi ei arwyddo gan chwech o weinidogion, yn yr hwn y dywedant, "Yr ydym yn ei gyflwyno i ddwylaw ein hanwyl frawd y Parch. R. Everett, gyda chwbl hydery bydd iddo gael ei ddwyn yn mlaen ar yr un egwyddorion, ac i'r un gwerthfawr ddybenion ag a ganfyddir yn ei ddygiad yn mlaen hyd yma. Yr ydym wedi canfod erbyn hyn mai peth anhawdd ydyw dwyn mlaen yn fath waith gan gymdeithas—y gwaith a berthyn i lawer, nid hawdd yw cael neb i ofalu am dano yn ei ranau, fel y dylid gwneyd. Ac hefyd, yr ydym wedi cael boddlonrwydd, trwy y profiad a gawsom hyd yma, nas gellir dysgwyl elw arianol oddiwrtho. Rhoddodd ein brawd ei lafur fel golygydd am y ddwy flynedd gyntaf am ddim, ac heb dderbyn at ei draul yr hyn a'i gwnaeth yn ddigolled." Dengys yr anerchiad yma mai Dr. Everett oedd y golygydd o'r dechreuad, mai golygyddion mewn enw oedd y lleill, a bod y rhan fwyaf o'r pwys a'r cyfrifoldeb yn gorphwys ar ei ysgwyddau ef. Nid oedd y Cenhadwr yn llai o gyhoeddiad i'r enwad ar ol ei drosglwyddo yn ffurfiol i feddiant Mr. Everett, ond gwellhaodd lawer fel cylchgrawn misol mewn canlyniad i hyny.
Yr oedd Dr. Everett wedi bod yn flaenllaw yn ei wrthwynebiad i gaethiwed lawer o flynyddau cyn sefydliad y Cenhadwr; ond dichon mai ar ol hyny y daethpwyd i'w gydnabod fel prif arweinydd a phrif wron y mudiad yn mhlith y Cymry. Bu y Cenhadwr o'r dechreu yn drwyadl wrthgaethiwol, a diamheu mai sel wresog ac egwyddorol dros achos y caethion wnaeth ei berchenog mor benderfynol i'w ddwyn yn mlaen, pan oedd yn colli arian arno flwyddyn ar ol blwyddyn. Treuliodd arno gynysgaeth o ganoedd o bunau oedd wedi dyfod i ran ei briod, ond nid heb ei chydsyniad a'i chefnogaeth wresog hithau, gan ei bod yn cydymdeimlo o'i chalon â golygiadau ac amcanion dyngarol a duwiolfrydig ei gwr. Yr oedd y ddau wedi cydymgysegru i'r un amcanion goruchel. Rhy ddrwg fod rhai mor egwyddorol ac anhunangar yn cael eu parddno gan dafodau maleisddrwg fel rhai yn pleidio y caeth er mwyn budr-elw.
Bu Dr. Everett am ryw amser yn dwyn allan gyhoeddiad misol o'r enw y Dyngarwr, i bleidio diwygiad a lles cyffredin cymdeithas, yn wladol, moesol, a chrefyddol; a bu hefyd yn cyhoeddi y Detholydd, cyhoeddiad yn cynwys pigion allan o brif gyhoeddiadau Cymru; yr hwn a ddygid allan tua chanol y mis. Ond ni chafodd gefnogaeth ddigonol i barhau i ddwyn yr un o honynt allan yn hir.
Mewn cwrdd tri-misol perthynol i Undeb Cynulleidfaol Oneida yn Peniel, Remsen, Ion, 10, 1845, penderfynwyd fod y Parch. Robert Everett, y Parch. Morris Roberts, a Mr. Griffith W. Roberts, Remsen, yn cael eu penodi yn bwyllgor i ddwyn allan Lyfr Emynau newydd at wasanaeth yr enwad. Dygwyd ef allan yn 1846, dan yr enw "Caniadau y Cysegr," o swyddfa argraffu Everett, a thybiwn fod pen trymaf y gwaith fel arferol wedi gorphwys ar ysgwyddau y Doctor. Fel "Llyfr Emynau Everett" yr adwaenir ef yn gyffredin, ac y mae yn llyfr rhagorol: dygwyd allan dri argraffiad o hono, a gwnaeth wasanaeth anmhrisiadwy i'r hen Genedl yn ei sefydliadau gwasgaredig trwy y wlad. Y mae llyfrau eraill wedi ei droi o'r neilldu yn ddiweddar mewn llawer man; ond er mor dda ydynt, yr ydym yn teimlo yn chwith am golli Caniadau y Cysegr o'n haddoliadau, gan iddo fod yn gydymaith anwyl i ni am lawer blwyddyn, a'i fod yn cynwys cryn lawer o benillion hoff a melus nas ceir mewn llyfrau diweddar. Y mae Caniadau y Cysegr a'r Beibl Cymreig wedi bod yn gymdeithion cynes mewn canoedd o aneddau yn America; ac na fydded iddynt gael eu hysgaru tra fyddo yr hen iaith anwyl yn cael ei deall tu yma i'r cefnfor. Rhwng golygiaeth y Cenhadwr, bugeiliaeth ei eglwysi, a dilyn gwahanol gyfarfodydd cyhoeddus yn Oneida a'r cylchoedd, cedwid Dr. Everett yn bur ddiwyd, fel nas gallai ymgymeryd a theithiau pell yn aml, ond gwyddom iddo ymweled â Chymanfa Pennsylvania ddwywaith, sef yn y blynyddoedd 1846 ac 1847, a'i fod yn dderbyniol a chymeradwy iawn ar ei ymweliadau, a bod ei frodyr bob tro yn galw arno i roddi iddynt rai o'i bregethau rhagorol trwy y Cenhadwr.
Yn y flwyddyn 1858 ymwelodd ef a'r Parch, D. Price, (Dewi Dinorwig) â chymanfaoedd Ohio a Wisconsin. Dyna yr unig dro i ni ei weled a'i glywed. Yr oedd yn myned ar ei wyth-a-thri-ugain oed, ac yn ymddangos braidd yn eiddil a gwanaidd o ran cynfansoddiad corphorol; ond eto synasom lawer ei weled mor heinif a bywiog. Yr oedd yn canfod yn eglur trwy wydrau 36 inch focus, y fath ag a ddefnyddir gyntaf gan rai a'u llygaid yn dechreu gwanhau ychydig; ac yr oedd ei law-ysgrif y pryd hwnw, ac yn hir ar ol hyny, mor brydferth a digryn a phe na buasai ond pump-ar-hugain oed. Yr oedd ei bregethau o gyfansoddiad trefnus a rheolaidd, ac o ran eu cynwysiad yn addysgiadol, ymarferol, ac efengylaidd: ac er ei bod yn amlwg ei fod wedi pasio ei amser goreu fel pregethwr, eto yr oedd ei draddodiad yn dra effeithiol, gafaelgar a gwlithog. Yr oedd effeithiau ei gydffurfiad gofalus â deddfau natur, ei gymedroldeb syml gyda phob peth, a'i ymataliad oddiwrth y myglys, diodydd meddwol, a phob blys a drwg dymer, i'w gweled yn amlwg yr amser hwnw yn nghyffwr ac agweddau ei gorph a'i feddwl. Daliodd drafferth a llafur ei daith fawr 'yn well nag y gallesid dysgwyl. Pan oedd ar ei deithiau y pryd hwnw, bydddai ei gyd-genedl yn mhob man yn crefu arno roddi mwy o ffrwyth ei feddwl ei hun allan yn y Cenhadwr, ac ar ol dychwelyd ymdrechodd gydsynio a'u cais dros amryw flynyddau trwy gyhoeddi ysgrifau rhagorol o'i waith ei hun ar wahanol faterion. Yn y man yma nis gallwn wneyd yn well na gadael i hen frawd parchus a chyfaill ffyddlonaf i Dr. Everett, siarad am dano, a rhoddi pigion o'i lythyrau.
Y Diweddar Barch , Robert Everett, D. D.
GAN Y PARCH . T. EDWARDS, PITTSBURGH , PA
Mae enw Dr. Everett yn adnabyddus yn y wlad hon ac yn yr Hen Wlad, ac yn hynod o barchus, oblegid ei fywyd addas i'r efengyl a'i ymdrechiadau o blaid achosion daionus. Daeth ei enw yn fwy hysbys i'r genedl pan osodwyd ef yn olygydd y Cenhadwr. Yr oedd awydd mawr ar laweroedd i'w weled ar ol darllen y Cenhadwr; ac yn y flwyddyn 1858 gwnaeth ef a'r Parch. D. Price dalu ymweliad ag Ohio a Wisconsin, a bu hefyd yn Big Rock, Illinois. Yr oedd ef yr amser hwnw yn ymddangos yn iach neillduol, yn gryf ei lais, ac yn pregethu yn effeithiol a gwir efengylaidd, Fe gyfansoddodd rhyw fardd yr englyn canlynol iddo, yr hwn oedd yn hynod briodol:
Dwys, tan nef, a dystaw 'n awr—yw Everett,
A llyfr-gynwysfawr;
Corph bach heb anach unawr,
Dewin mwyn a doniau mawr.
Ar ol ei ddychweliad o'r daith uchod efe a ysgrifenodd atom fel hyn:
- REMSEN, Gorph. 19, 1858.
Anwyl Frawd—Daethum adref yn ddiogel ac yn gysurus, ond yn lled flinedig, ar ol y daith faith trwy Ohio, Wisconsin, &c. Y mis diweddaf o'n taith ydoedd ddyddiau poethion iawn yn mron o hyd—a ninau yn fynych yn teithio mewn wageni, ac yr oedd y teithiau yn lled feithion. Yr oeddem yn pregethu ddwy neu dair gwaith yn fynych yn y dydd i gynulleidfaoedd lluosog o'n cenedl yn y gwahanol fanau. Cawsom wrandawiad tra siriol yn mhob man, a chawsom dderbyniad croesawus gan y gweinidogion a'r eglwysi. Ni chefais siwrnai mwy dymunol yn mhob ystyr erioed. Daliodd ein hiechyd ein dau yn dda iawn. Credym bod ein hiechyd yn well ar ol dychwelyd na chyn cychwyn, Gwelsom lawer ar y daith hon nas cawn eu gweled mwy hyd ddydd y cwrdd cyffredinol, a'r cyfrif diweddaf. Mae lluaws mawr o'n cenedl yn preswylio yn Wisconsin.* * * ROBERT EVERETT."
Yr ydym yn dra sicr iddo ar y daith a nodwyd adael dylanwad da ar ei ol yn y tai lle y bu yn aros, ac yn yr eglwysi lle bu yn pregethu. Cefais fraint o'i wrandaw yn traddodi amrai o bregethau yn Ohio, ac mi a sylwais ar un peth yn neillduol pan fyddai yn pregethu, sef ei fod yn teimlo dylanwad y gwirionedd yn bur fuan ar ol dechreu ei anerchiad, ac yna fod y gwrandawyr yn teimlo yr un dylanwad. Yr oedd ei bregeth yn gyffelyb i wlaw yn y gwanwyn yn disgyn yn naturiol, ac yn aros o ran ei ddylanwad daionus, nes peri adfywiad ar y rhai a blanwyd yn y winllan ysbrydol.
Ar ol iddo lafurio yn ddiwyd fel golygydd y Cenhdwrr, ac i ofalu am yr eglwysi oedd dan ei ofal, o'r diwedd gwnaeth ei gyfansoddiad ddechreu dadfeilio, oblegid dywedodd mewn llythyr, yn y flwyddyn 1865, fel y canlyn: "Mae fy llais wedi myned yn wan iawn; weithiau yr wyf yn methu yn lân a dywedyd fel y clywo y rhai pellaf yn y gynulleidfa. Yr wyf wedi bod yn lled wael gan boen yn fy nghefn, yn methu myned i'r capel am bedwar Sabboth, ond yr wyf yn well."
Mae yn debygol na chafodd ei adferu i'w nerth cyntefig, oblegid yr ydoedd yn son am yr un afiechyd yn 1866. Dyma fel yr ysgrifenodd; "Yr wyf yn cael fy mlino gan wendid llais-nid bronchitis, ond y nerth yn pallu-gwendid mae'n debyg yn y system yn gyffredinol. Wel, nid hir y byddwn yma—ymofynwn am fwy o burdeb, a pharodrwydd i'r wlad well."
Yn y flwyddyn uchod, sef yn 1866, efe a gafodd foddlonrwydd mawr i'w feddwl trwy iddo fwynhau cyfarfodydd mawrion yn New York. Ar ol iddo ddychwelyd adref gwnaeth anfon atom, "Bum i a'm priod yn New York yn yr anniversaries. Cawsom gyfarfodydd tra rhagorol-yr oeddynt yn lluosog—a'r areithiau yn dra gwerthfawr ac interesting. Gwerthfawr oedd cael bod yn nghwrdd Jubili y Gymdeithas Feiblaidd a'r cyrddau eraill oeddynt werthfawr iawn. Da oedd genym gael y fath wledd unwaith cyn ymadael."
Gan iddo gael y fath hyfrydwch yn y cyfarfodydd mawrion yn New York, pwy all ddirnad y pleser mae ef yn gael yn awr yn y cyfarfod mawr yn y nefoedd, yr hwn sydd i barhau yn dragywydd?
Hawdd fyddai i mi ysgrifenu yn helaeth am y Parch. R. Everett, ond gwell i mi fod yn fyr, rhag chwyddo y Cofiant i ormod o faintioli. Gallaf ddywedyd hyn cyn terfynu, ei fod yn meddu ar fwy o rinweddau wedi cydgyfarfod ynddo na nemawr o ddynion, megys dysgeidiaeth, addfwynder, gochelgarwch, amynedd, ffyddlondeb, parodrwydd i weithredu o blaid dirwest pan nad oedd ond ychydig yn cyduno ag ef, ac o blaid rhyddhad y caethion yn foreu iawn, tiriondeb mawr at ereill, duwioldeb amlwg neillduol, &c.
Yr ydym yn cofio clywed un fu'n cyd-deithio ag ef yn dywedyd, "Mae yn Mr. Everett ddigon o ras i saith o ddynion." Cafodd oes hir i fod yn ddefnyddiol, a dysgodd ei blant i fod yn debyg iddo. Yr oedd ef mor grefyddol gartref ag yn y capel ar y Sabboth. Cafodd rodd fawr i gael cydmares bywyd mor addas, yr hon a fu yn gymorth iddo o ddydd ei briodas hyd ddydd ei farwolaeth.
Ar ol cyflwyno i'r darllenydd erthygl ddyddorol yr hen dad Edwards, trown ein golwg yn ol i'r flwyddyn 1861, pan y canfyddwn athrofa enwog Hamilton, yn Nhalaeth Efrog Newydd, yn anrhydeddu y Parch. Robert Everett â'r teitl o D. D., neu Ddoctor mewn Duwinyddiaeth. Ni chlywsom fod na siw na miw wedi ei ynganu gan neb yn erbyn y priodoldeb o hyny, a'r sylw cyffredin oedd fod yr athrofa wedi anrhydeddu ei hun wrth ei anrhydeddu ef. Un golygydd yn Nghymru sydd wedi bod dipyn yn llawdrwm ar y teitlau, a ddywedai am Dr. Everett, "Yr oedd yn wr gweithgar, llawn athrylith, ac yn ysgolhaig mewn llaw- er ystyr. Ni ddianrhydeddodd D. D. ddim arnynt eu hunain wrth sefyll ar ol ei enw ef, mwy nag y gwnaethant ar ol enwau Doddridge, Watts a Dwight. Os oeddynt hwy yn rhagori arno ef mewn rhyw bethai, medrai yntau Gymraeg, yr hyn na fedrai yr un o honynt."
Yn nechreu 1861, yn nyddiau cynhyrfus Gwrthryfel y Caeth-feistri, llewyrchai ei bwyll, ei ddiysgogrwydd, ei wroldeb, a'i ffydd yn Nuw allan yn ogoneddus, pan oedd amryw yn y Talaethau Rhyddion yn ymollwng yn eu hysbrydoedd, ac yn barod i aberthu Rhyddid, a thaflu eu hunain wrth draed y caeth-feistri i dderbyn cadwyni iddynt eu hunain, gan lyfu y dwylaw oedd yn eu sicrhau. Dywedai Dr. Everett yn y Cenhadwr am Chwefror," Wrth edrych ar sefyllfa ein gwlad y dyddiau presenol, gellir dweyd mai y cwestiwn penaf sy'n ymgynyg i'r meddwl yw, Beth a ddylai y Talaethau rhyddion wneyd yn wyneb y cynhwrf mawr yn y De? A ddylent roi i fyny eu hegwyddorion, ac ail feddwl a chydnabod nad yw caethiwed yn bechod yn erbyn Duw, nac yn wadiad o iawnderau annileadwy dynoliaeth? Na, ni ddylent wheyd hyny. 'Hold to your principles though the heavens fall,' ydyw'r maxim. Nid oes newid i fod ar egwyddorion sylfaenol gwirionedd. Nid yw eu gwadu na chilio oddiwrthynt yn eu cyfnewid."
Credai ei bod yn gyson â Christionogaeth i roi y gwrthryfel i lawr trwy rym arfau. Yn y rhifyn am Medi, 1861, ar ol sylwi mai dyben blaenoriaid y De, "oedd sefydlu llywodraeth fawr eang yn llywodraeth gaeth hollol," gofyna, beth a wneir? Yna dywed, pe buasai y Deheuwyr wedi dyfod allan trwy resymau, y gallesid eu cyfarfod â rhesymau; ond gan iddynt ddyfod allan trwy rym arfau, nad oedd dim i'w wneyd ond ateb trwy rym arfau. Dadleua fod llywodraeth y wlad hon yn deilwng o'i hamddiffyn, dyweda: "Rhoi y ddadl i fyny, a chaniatau i'r gwrthryfel gael ei ffordd, a'r llywodraeth gael ei darostwng, fyddai yn gwrthdaro yn erbyn llwyddiant yr ysbryd gwerinol trwy'r byd, ac yn digaloni pleidwyr rhyddid yn mhob gwlad dan y nef.
Gwneyd hyn fyddai yn gam a'r mwyafrif o ddinasyddion yr holl wlad, y rhai a roddasant eu llais yn deg dros yr egwyddorion a'r mesurau a amddiffynir gan y llywodraeth.
Gwneyd hyn fyddai pleidio y farbariaeth waethaf a ffieiddiaf ar y ddaear. Nis goddefir rhyddid ymadrodd, mwy na rhyddid y wasg, yn y De. Merched ieuaine gwylaidd a rhinweddol a ddynoethir ac a fflangellir ar g'oedd yno, am yngan gair eu bod yn bleidiol i ryddid, ac yn erbyn y gorthrwm caeth. Mae ffeithiau sicr yn profi i hyn gael ei wneyd yn agos i Memphis, Tennessee; ac y mae llawer o'r dynion mwyaf egwyddorol a rhinweddol wedi eu rhoi i farwolaeth yn y De am yr un peth. Dydd barn yn unig a ddatguddia y creulonderau a ddyoddefwyd, nid gan ddynion duon yn unig, ond gan eraill hefyd.
Profir trwy ffeithiau sicr fod llaweroedd yn y De yn cael eu gorfodi i wisgo arfau ac i fyned i faes y gwaed, o blaid gwrthryfel a ffieiddiant ac yn erbyn llywodraeth a garant, neu gael eu saethu eu hunain! Y rhai hyn ydynt rai o'n rhesymau dros yr ymdrech a wneir i ddarostwng y gwrthryfel a phleidio y llywodraeth, er nas gellir gwneyd hyny ond trwy arfau milwrol." Yn mis Hydref, yr un flwyddyn, y mae'n dywedyd, "Pan byddo gwrthryfel yn cyfodi yn erbyn llywodraeth gyfiawn a daionus, a hyny fel y gwneir yn awr, i helaethu gallu pendefigaidd gormeswyr i ddal eu gafael mewn miliynau o bobl—i'w prynu a'u gwerthu fel anifeiliaid yn y farchnad—ac i gael maes helaethach i hyny—credwyf y dylai y fath lywodraeth yn y fath amgylchiadau amddiffyn ei hawdurdod a darostwng yn llwyr y gwrthryfel, er gorfod gwneyd hyny trwy rym y cleddyf."
Tra y credai fod yn ddyledswydd ar y llywodraeth i roddi y gwrthryfel i lawr trwy rym arfau, nid mewn cleddyf nac mewn braich o gnawd yr oedd ei ymddiried ef. Dywedai yn rhifyn Mehefin, 1862: "Y mae ein crediniaeth am ddilead caethiwed yn myned yn ol yn mhellach na dim gweithrediad dynol, yn sylfaenedig ar air y digelwyddog Dduw, y bydd i bob drygau melldigedig o'r fath gael eu dileu cyn dyfodiad i mewn deyrnasiad cyfiawn a llednais y Messia dros y byd, yr hyn a ddaw yn ddiau cyn bo hir iawn."
Mewn llythyr dyddiedig Mai 15, 1861, at y Parch. T. Edwards, yr hwn oedd y pryd hwnw yn Cincinnati, dywedai: "Byddaf yn meddwl yn fynych am danoch chwi a Mrs. Edwards yna yn swn y drums, ac mor agos i gaeth-dalaeth, ond nac ofnwch, mae'r Hwn sy'n gallu cuddio yn nirgelfa ei babell gyda chwi, ac efe a'ch ceidw yn ei law. Yr Arglwydd sydd yn teyrnnasu, gorfoledded y ddaear, llawenyched ynysoedd lawer.' Gall efe droi cyngor Ahitopheliaid yn ffolineb, peri i gynddaredd dyn ei folianu ef, a gwahardd gweddill cynddaredd. Edrych yn lled dywyll y mae'r cwmwl du sy'n awr uwchben ein gwlad, ond gobeithiwn y tyr gwawr eto cyn bo hir iawn. Os nad yw aderyn y to yn syrthio i'r llawr heb ein Tad ni, diau fod goruwchlywodraeth ganddo ef dros hyn hefyd. Tra y mae ei farnau ef ar y ddaear, dysgwn ninau, fel Habacuc, i droi ato ar ran llwydd ei waith, &c. Rhaid i'r felldith gaethiwol gael ei dileu; ni ddaw y milflwyddiant i mewn heb hyny. Ond pa fodd y cyrhaedda efe hyny, nis gwyddom ni yn awr." Mewn darn o lythyr at Mr. Edwards, dyddiedig Chwef. 6, 1865, dengys ei bod wedi dyfod yn oleu ar ei feddwl o berthynas i'r modd yr oedd caethiwed i gael ei ddileu. Y mae'n dywedyd: "Newyddion da a glywir y dyddiau hyn o'r Congress. Gobeithiaf cyn pen llawer o fisoedd y bydd tair rhan o bedair o'r Legislatures wedi rhoi eu llais dros y gosodiad o wellhad ar y Cyfansoddiad. Yna bydd y ddeddf yn sefydlog, hyderwn, i'r oesoedd dyfodol, na bo caethiwed i fodoli yn Nhalaethau Unedig America. Diolch iddo Ef am hyny."
Pwy all ddesgrifio y fath orfoledd i'w feddwl oedd Rhyddhad y Caethion? Ar ol i dair rhan o bedair o'r Talaethau fabwysiadu y Gwellhad ar y Cyfansoddiad, rhoddodd yr Ysgrifenydd Seward gyhoeddiad allan, Rhag. 18, 1865, yn hysbysu y ffaith, ac yn cyhoeddi fod caethiwed wedi trengu. Yn y Cenhadwr am Ionawr, 1866, amlyga Dr. Everett ei lawenydd mewn nodyn fel hyn:
"Cwbl Ddilead Caethiwed yn America. I'r Arglwydd byddo clodydd tragywyddol am hyn! * *
Mae America yn wlad rydd—De a Gogledd dan yr un drefn."
Mewn llythyr a ysgrifenodd at ei frawd Edwards, yn mhen haner can' mlynedd ar ol ei urddo, ceir cipdrem doddedig iawn ar ansoddau a theimladau ei ddyn mewnol. Mor naturiol a diymhoniad yr ymddengys ei ddifrifoldeb a'i ddiolchgarwch i Dduw; ac y mae ei wyleidd-dra, ei ostyngeiddrwydd, ei dduwiolfrydedd, a'i ymddiried mabaidd yn yr Arglwydd yn cael ei anadlu allan yn gynes trwyddo. Cyflwynwn ddarn o hono i'r darllenydd:
Anwyl Frawd Edwards—Ddoe oedd y 5ed o June, ac ar y 6ed o June, 1815, y cefais fy ordeinio i waith pwysig y weinidogaeth yn Ninbych, yn ngwydd torf fawr o bobl, ac yn ngwydd y Meistr mawr! Llawer o feddyliau difrifol a dramwyasant trwy fy mynwes ddoe, a neithiwr, yn oriau y nos. Rhai meddyliau hyfryd o ddiolch am gael bod dros haner canrif dan yr enw o weinidog―gyda breintiau mor fawr-breintiau ty Dduw yn werthfawr—dim gofid mawr erioed (fel y bu ar lawer) yn y cylch teuluaidd-cydmar anwyl—a phlant anwyl a roddes y Tad nefol i ni. Cefais y fraint o fod gydag achosion daionus yn eu cychwyniad allan gyntaf mewn gwendid. Ond, O! anwyl frawd, gwael iawn, a bylchog iawn, ac oer iawn mae fy nghalon wedi bod, wrth fel y dylasai fod. Mae'r tymor wedi pasio heibio fel gwyliadwriaeth nos, a'i ffrwyth wedi bod yn bur brin, a llawer iawn o feiau eisiau eu maddeu trwy'r Iawn mawr.
Wel, mae'r awr i roi cyfrif yn nesu; mae fy ngobaith, anwyl frawd—er gwaeled fu'r gwasanaeth, ac er cymaint y beiau—mae fy ngobaith am gael derbyniad adref yn ddiogel at y teulu sydd wedi blaenu i dy ein Tad. Ond trugaredd ryfedd fydd hyny, a mawr fydd y rhwymau i ddiolch. Teulu Duw yw fy mhobl, a'i waith yw fy hyfrydwch, a gobeithiaf y caf, trwy ei ras ef, fod gyda'r teulu, ac yn y gwasanaeth yr ochr draw cyn bo hir iawn. * * * Ydym ein dau yn uno i gofio atoch, ac at Mrs. Edwards. Yr eiddoch,
Oblegid fod Dr. Everett yn llesghau ac yn colli ei lais, yn y flwyddyn 1866 daeth y brawd Sem Phillips i fod yn gydweinidog ag ef, a buont yn cydlafurio hyd y flwyddyn 1872. Cofnodwn ychydig o'r hyn a ddywed Mr. Phillips am ei gydweinidog yn hanes eglwys Steuben:
"Nid dyn didda a diddrwg, ond dyn llawn o ddaioni—pleidiwr pob achos daionus, ac un nas gall dim ei ddenu na'i ddychrynu oddiar lwybr cydwybod yw Dr. Everett." Drachefn, "Efe ydyw y dyn puraf a adwaenasom erioed. Ni lygrwyd mo hono ef erioed gan wirodydd a diodydd meddwol, ac ni fu erioed yn ngafaelion ac o dan ddylanwad yr arferiad caethiwus, gwastraffus, anfoesgar, anfoneddigaidd, anweddaidd, gwrthun, gwael, budr, bawlyd, brwnt, llygredig, aflan, ffiaidd a drewedig, ie, yr arferiad sydd yn darostwng dyn, creadur mor urddasol yn nghadwyn bodolaeth, i bellderau dirfawr yn is na'r anifail a ddyfethir, sef cnoi a chwiffio myglys, a'r hwn arferiad a fedr rifo ei ddeiliaid wrth y miloedd yn mysg ein cenedl ni y Cymry. Teimla ysgrifenydd y llinellau hyn ei hun o dan rwymau arbenig i'r Dr. am y cymorth a gafodd ganddo trwy gyngorion a chyfarwyddiadau, i ymryddhau o afaelion cryfion, gafaelgar, braidd diollwng, a bron ́anorchfygol yr arferiad gwarthus o chwiffio myglys, yr hyn a effeithiwyd er ys mwy na phedair blynedd bellach."
Yn hanes gwerthfawr Mr. Phillips cawn y gofres ganlynol o'r llyfrau a argraffwyd yn swyddfa y Cenhadwr, sef Cofiant y Parch. W. Williams, o'r Wern; Cofiant y Parch. Daniel Griffiths, Castellnedd; Crefydd Deuluaidd, neu Eglwys yn y Ty, gan y Parch. Matthew Henry; yr Haul yn Glir, gan y Parch. Thomas W. Jenkyn, D. D.; Uncle Tom's Cabin, gan Mrs. Harriet Beecher Stowe; Yr Egwyddorydd, y rhan gyntaf gan R. Everett; Arweinydd i ddysgu darllen yr iaith Gymraeg; Addysgydd, neu y Catecism Cyntaf, o'r argraffiad a gyhoeddwyd yn Nghymru yn 1822, gan R. Everett; a Chaniadau y Cysegr. Yn y flwyddyn 1871 daeth Mr. Nathaniel Roberts, Rosa, ger Dinbych, brawd-yn-nghyfraith Dr. Everett, ac un o ddiaconiaid eglwys Dinbych ar ymweliad i'r wlad hon. Anfonodd yr eglwys yr anerchiad canlynol gydag ef i'w hen weinidog:
Oddiwrth yr Eglwys Annibynol yn Ninbych, G. C.
AT Y PARCH. Robert Everett D. D., Remsen, U. D.:
Hybarch Syr—Yn ngwyneb fod y brawd Mr. N. Roberts, Rosa, un o ddiaconiaid yr eglwys hon, a pherthynas agos i chwi, yn bwriadu talu ymweliad ag America, penderfynwyd yn unfrydol, mewn cymdeithas eglwysig a gynaliwyd yma nos Lun, Ebrill 17eg, 1871, ein bod fel eglwys yn cyduno i anfon ein cofion caredicaf atoch chwi, eich priod, a'r teulu oll. Er fod llawer o honom heb erioed weled eich wyneb yn y cnawd, eto yr ydym yn eich parchu fel un a dreuliodd yr yspaid o wyth mlynedd o foreu ei oes yn weinidog diwyd, ffyddlawn, a llwyddianus yn yr eglwys hon. Ac nis gallwn lai na chydnabod yn ddiolchgar ddaioni Rhagluniaeth fawr y nef yn eich cynal tra yn yr Unol Dalaethau, ar ol hyny, am yn agos i haner canrif, yn weinidog llafurus i Iesu Grist, ac yn eich cynorthwyo i wneyd gwasanaeth mor werthfawr i achos rhyddid, gwirionedd a chrefydd, trwy y wasg, ac ar yr esgynlawr, yn gystal ag yn y pwlpud. Yr ydym hefyd yn cydlawenhau gyda chwi am i chwi gael byw i weled llwyddiant mor drwyadl ar rai o'r egwyddorion mawrion y safasoch mor gadarn o'u plaid.
Dymunem ddatgan ein cydymdeimlad a chwi pan mae cysgodion hwyrddydd bywyd yn ymdaenu trosoch, a'n gweddi yw am i brydnawn eich oes fod yn deg a thawel o dan wenau yr hwn y buoch yn ei wasanaethu mor ffyddlawn. Bydded i "ras ein Harglwydd Iesu Grist" fod yn etifeddiaeth i chwi, eich anwyl briod, eich plant, a'ch hiliogaeth hyd byth, yw ein dymuniad a'n gweddi.
Arwyddwyd dros yr eglwys,
NATHANIEL ROBERTS,
JOHN GRIFFITHS,
JOHN WALTERS,
EDWIN ROBERTS,
EVAN THOMAS,
ROBERT PIERCE,
Diaconiaid
Dinbych, Ebrill 17eg, 1871.
Atebiad Dr. Everett i Eglwys Dinbych.
STEUBEN, ger Remsen, Gorph. 10fed, 1871.
AT EGLWYS GYNULLEIDFAOL DINBYCH:
Anwyl Frodyr a Chwiorydd-Gyda fy anwyl frawd Nathaniel Roberts derbyniais eich anerchiad caredig ataf yn llawysgrif anarferol o dlws a phrydferth Mr. Belis, yr hon a gedwir yn ofalus gan fy mhlant a'm hwyrion wedi i mi huno yn yr angau. Diolchaf â chalon gynes am eich adgofion parchus a charedig o flynyddoedd boreu fy ngweinidogaeth yn Ninbych. Byddaf finau yn meddwl yn aml am y blynyddoedd hyny gyda theimladau dwys iawn. Bu arnaf hiraeth mawr, a pharhaodd yn hir, am yr eglwys ac am y gynulleidfa yn Ninbych. Gwelais lawer o garedigrwydd, a chefais lawer o gysur gyda y rhai sydd yn mhell cyn hyn wedi ymadael a'r fuchedd hon. Ychydig iawn sydd wedi eu gadael ag oeddynt yn aelodau o'r eglwys y pryd hwnw. Maent hwy wedi myned at gyfeillion purach, ac i fwynhad o ddedwyddwch helaethach nag a geir yma.
Ond mae yn dda genyf feddwl am y lluaws o frodyr a chwiorydd ffyddlawn a ddaethant i mewn o bryd i bryd, i gymeryd lle y rhai fuont ffyddlon yn eu dydd a'u tymor gyda'r achos, a bod yr olwg mor ddymunol ar yr eglwys a'r gynulleidfa yn bresenol. Gwelsom ninau wahanol dywydd gyda'r achos goreu yn America yn y blynyddoedd meithion y bum yma. Gwelsom rai tymorau llwyddianus a hyfryd iawn, ac eraill yn aflwyddianus, ond o'n hochr ni y mae'r aflwyddiant bob amser, ac nid dim o'i ochr Ef.
Tro rhyfedd yn America oedd rhyddhad diweddar y caethion, a llwyr ddilead y drefn felldigedig o ymddwyn at y Negroaid fel anifeiliaid y maes. Mae yn gywilydd mawr i America, yr hon a ymffrostia mor fawr yn ei rhyddid, ei bod wedi cynal yn ei phlith drefn mor felldigedig am dymor mor faith. Ond trwy drugaredd fawr y nef mae hyny i'w gyfrif yn mhlith y pethau a fu―diolchwn yn fawr am hyny.
Yr ydwyf wedi ystyried er's blynyddau lawer bellach fod yr achos a elwir genym yr achos dirwestol, yn deilwng o fwy o gefnogaeth nag y mae yn gael yn America ac yn Mhrydain hefyd, Mae yn symudiad rhesymol, yn achos da, ac yn taro yn erbyn un o ddrygau mwyaf alaethus yr oes. Yr ydym wedi gweled cyfnewidiad mawr, wrth y peth a fu, gyda yr achos hwn, ond mae eisiau ymdrechion mwy egniol a chyson eto. Ac yr wyf yn hollol o'r farn mai llwyr ymwrthod a'r arferiad o'r diodydd meddwol o bob math, fel diodydd, ydyw yr egwyddor y dylem lynu wrthi, yn nghyd a gweddi ddyfal at Dduw am ei fendith ar yr ymdrech er sobri'r wlad a'r byd, a dwyn pawb at y Gwaredwr.
Mae'r cyfnewidiadau mawrion sydd yn debyg o gymeryd lle yn Mhrydain drwy ysbryd rhyddfrydol yr oes—y dadgysylltiad rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth—a diwygiadau eraill, yn awgrymu pethau mawrion. Mae y symudiadau hyn yn Mhrydain, terfyniad awdurdod dymorol y Pab yn Rhufain, a'r chwyldroadau rhyfedd a gymerant le ar gyfandir Ewrop y dyddiau hyn, yn dangos y gwelir golwg wahanol ar bethau ar ddim ydym ni wedi weled eto. Teyrnasoedd y byd a ddeuant yn eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist ef—ac i'w enw y bydd y gogoniant.
Yn awr, anwyl frodyr a chwiorydd yn eglwys Dinbych, terfynaf y cyfarchiad byr hwn atoch mewn atebiad i'r eiddoch. Byddwn ddyfal i lynu wrth yr Arglwydd, i symud yn mlaen gyda'r oes mewn diwygiadau, ac i fod yn ffyddlawn gyda holl ranau gwaith yr Arglwydd; ein henaid fyddo yn pwyso ar y taliad mawr a wnawd ar Galfaria fel sail am fywyd, a'n hymestyniad fyddo am fwy o'i ddelw anwyl ef, er ein cymwyso i'r gymdeithas sydd fry. Mae hwyrddydd bywyd ar derfynu arnaf. Ond nid yw hyny yn ofid, ond yn hytrach yn llawenydd i mi. Gwn fod cael preswylio yn y ty holl ddyddiau fy mywyd yn hyfryd iawn genyf, ac y mae fy ngobaith yn dyfod yn fwy clir o bryd i bryd, fel y mae cysgodion yr hwyr yn ymdaenu drosof, y caf fod byth gyda'r teulu yr ochr draw. Ond o ryfedd drugaredd a gras, ar sail iawn y groes y bydd hyny, Ffarwel! Parhewch i weddio drosof a thros fy anwyl deulu. Yr eiddoch yn yr Arglwydd,
Yr oedd Dr. Everett dros bedwar ugain oed pan ysgrifenodd y cyfarchiad yna, a pharhaodd am rai blynyddau ar ol hyny i rodio yn mlaen yn dawel a hyderus at adeg yr ymddatodiad, gan gyflawni yn ffyddlawn wahanol ddyledswyddau bywyd can belled ag yr oedd ei nerth yn caniatau iddo. Byddai yn golygu y Cenhadwr yn ofalus, ond nid yn ysgrifenu rhyw lawer ei hun. Yr oedd yn ymwybodol fod ei nerth yn cilio a'r diwedd yn agoshau. Rhoddwn hanes ei ymadawiad yn ngeiriau ei fab, Mr. Lewis Everett, yn y Cenhadur am fis Mawrth, 1875.
"Bu farw fy anwyl dad am haner awr wedi un—arddeg, boreu dydd Iau, Chwefror 25ain, o pneumonia. Yr oedd yn 84 mlwydd oed er Ionawr 2, 1875. Bu yn lled wael a gwanaidd er ys amryw wythnosau. Effeithiodd gerwinder anarferol y gauaf arno yn bur amlwg. Boreu dydd Sadwrn, Chwef. 13eg, cyn codi, cymerwyd ef gan chill nes yr oedd y gwely yn ysgwyd odditano, a chwynai fod poen mawr yn ei ochr dde. Ni chododd ond am ychydig fynydau y diwrnod hwnw, ond ni adawai i ni geisio meddyg. Dydd Sul daeth Dr. Williams i fyny o'r pentref ar esgidiau eira i'w weled. Dydd Llun hysbysodd y Dr. ni mai y pneumonia oedd ar fy nhad, ac o herwydd ei fawr henaint a’i wendid blaenorol, ei fod yn ofni na fyddai byw ond ychydig ddyddiau. Pellebrwyd yr hysbysiad galarus at fy chwiorydd yn New York a Michigan, ac at fy mrawd yn Kansas. Prysurasant oll adref i weled eu tad cyn ei farw, oddieithr fy anwyl chwaer Elizabeth, yr hon oedd wedi tori ei braich tua phythefnos cyn hyny, ac nid oedd yn alluog i drafaelio. Daeth hefyd fy modryb o New York Mills, ei unig chwaer yn y wlad hon, i weini iddo yn ei ddyddiau olaf. Cyn diwedd yr wythnos yr oedd fy nhad rywfaint yn well, a gobeithiem y cawsai ei adferyd. Ond buan y chwalodd ein hoff obeithion. Ail afaelodd ei wendid blaenorol ynddo yn dynach nag erioed, ac ymollyngodd yn raddol dano hyd foreu y diwrnod y bu farw, pan gymerwyd ef gan dair o chills, y naill ar ol y llall, ac felly ar yr awr a nodwyd, yn dawel a hollol ddiymdrech y cauodd ei lygaid fel plentyn yn huno, ac y peidiodd ag anadlu.
Yr oedd fy nhad yn llawn o awydd am fyned adref i'r nefoedd drwy ei salwch byr diweddaf. Y gair cyntaf a ddywedodd wrthyf wedi i'r doctor ddywedyd mai y pneumonia oedd arno, pan aethum at ochr ei wely, oedd, "I am almost home!" Pan ofynai y doctor iddo dro arall sut yr oedd, atebai, "Very happy;" ac wrth fy mrawd dywedai, ei fod yn hiraethu am fyned adref, ac yn dymuno i'w blant oll ei gyfarfod yn y nefoedd. Ni soniodd un gair am wella. Yr oedd ofn marw wedi cilio yn hollol. Nid oedd un petrusder ynddo pa le yr oedd yn myned. Ac nid rhyfedd genym hyny, canys nid oedd yn gymwys i unlle ond y nefoedd.
Teimlai yn ofidus fod y gwaith ar y Cenhadwr yn cael ei atal yn ystod ei afiechyd. Holai a oedd hanes marwolaeth rhai personau a enwai yn cael eu rhoi i mewn, ac am ysgrifau eraill ag oedd newydd eu cael pan gymerwyd ef yn sal. Yr oedd ei feddwl a'i synwyrau yn hollol glir a digwmwl hyd y diwedd. Rhyfeddai y doctor lawer am hyny, am fod delirium mor fynych yn gydfynedol â'r pneumonia. Claddwyd ef yn barchus y dydd cyntaf o Fawrth.
Mae marwolaeth fy nhad yn ein gadael oll mewn dwfn alar ac yn hiraethlon am fyned ar ei ol i'r nefol wlad. Ond ar fy anwyl fam y mae yr ergyd yn disgyn drymaf, yr hon oedd wedi ei gael yn briod tyner, caruaidd ac anwyl am yn agos i driugain mlynedd."
Gorphwysa ei ran farwol wrth y Capel Uchaf, yn Steuben, a cholofn hardd uwch ei ben yn gofnod o hono.