Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/Lloffyn o Ddyfyniadau am Dr Everett

Oddi ar Wicidestun
Bywyd, Gweinidogaeth a Llafurwaith Dr. Everett yn yr Unol Dalaethau Cofiant y diweddar Barch Robert Everett

gan David Davies (Dewi Emlyn)

Dr. Everett fel Golygydd a Llenor

PENNOD IV.

LLOFFYN O DDYFYNIADAU AM DR. EVERETT.

Dyfyniad o Lythyr Mr. John R. Griffiths, Diacon yn Steuben.

Yr ydwyf yn ei gofio er ys dros haner cant o flynyddoedd, bellach, trwy y byddai yn arferol o ddyfod i Steuben i bregethu yn ei dro, flynyddoedd lawer cyn iddo ddyfod yno i weinidogaethu; a'r bregeth gyntaf wyf yn gofio i mi ddal sylw arni (pan oeddwn yn bur ieuanc), oedd oddiwrth 1 Bren. xviii. 21: "Os yr Arglwydd sydd Dduw, ewch ar ei ol ef," &c. Yr oedd yn egluro ei faterion mor amlwg i brofi mai yr Arglwydd sydd Dduw, ac yn gwasgu mor effeithiol ar ei wrandawyr i fyned ar ei ol ef, fel nas gallasai plentyn, fel fy hunan, ddim peidio ei ddeall, a theimlo.

Yr ydwyf yn cofio yn dda, hefyd, am bregeth a dra ddododd yn Steuben, yn niwygiad 1838, ar y testyn hwnw (Preg. xi. 9): "Gwna yn llawen, wr ieuanc, yn dy ieuenctyd," &c. Yn y rhan gyntaf o'i bregeth yr oedd yn caniatau i ddyn ieuanc, os mynai, rodio yn ffyrdd ei galon, ac yn ngolwg ei lygaid, a mynu pob llawenydd a hyfrydwch pechadurus, &c.; ond pan ddaeth i sylwi ar y rhan olaf o'r adnod-"Ond gwybydd," &c.—troes y llawenydd a'r hyfrydwch, a'r dedwyddwch tybiol oeddym wedi gael yn y rhan gyntaf o'r bregeth, yn sobrwydd o'r fath ddwysaf. Yr oedd mor earnest, a mor gynhyrfus ac effeithiol wrth ddarlunio y farn, a'r perygl i ddynion fyned yno yn anmharod, o'r lle mae parodrwydd i'w gael, ac yn anog pawb i geisio parodrwydd, mor daer, fel y parodd i lawer benderfynu ei geisio y noson hono.

Dywedodd dyn pur anystyriol unwaith ar ol ei wrando yn pregethu: "Yr oedd y dyn yna yn siarad fel pe buasai Duw ei hun yn siarad."

Yr oedd yn hynod yn ei ffyddlondeb i fyned at ei gyhoeddiad. Byddai yn myned i Ben-y-mynydd trwy bob math o dywydd, a phan fyddai y ffyrdd bron yn annichonadwy eu tramwy. Cyngorais ef lawer gwaith i droi yn ol (trwy fy mod yn byw ar y ffordd hono), ond yr oedd mor benderfynol fel na thröai byth yn ol nes myned mor belled ag y gallai; a dywedodd wrthyf un tro: "Os ä dyn mor belled ag y medro tua'r nefoedd, bydd yn sicr o gyrhaedd yno."

Dyfyniadau o Lythyr y Parch. J. R. Griffith,
Floyd, N. Y
.

Yr oedd Dr. Everett yn ddyn a neillduolion ynddo yn fwy felly na neb a adnabûm yn America. Yr oedd yn ddifrifol iawn bob amser, fel y gallai pawb ddeall fod pethau pwysig yn ei feddwl. Yr oedd felly yn ei deulu-yr oedd ei dy a'i deulu yn gysegredig i Dduw. O! y parch a'r difrifoldeb fyddai yn cael ei ddangos tuag at Dduw yn yr addoliad teuluaidd. Yr oedd rhywbeth rhyfedd yn addoliad teuluaidd Dr. Everett, rhagor un arall a welais. Ac yr oedd ei anwyl briod, Mrs. Everett, yn help mawr iddo gyda'r gorchwyl pwysig hwnw. Yr oedd yn yr eglwys hefyd yn ddifrifol gyda phob peth. Edrychai yn ddifrifol, ond nid yn sarug. Yr oedd yn gweddio, cyngori, a phregethu yn ddifrifol iawn. Ac O! y fath ddifrifoldeb a fyddai i'w weled ynddo wrth fwrdd y cymundeb, pan ddywedai am ei anwyl Arglwydd wedi ei groeshoelio a marw trosom. Yr oedd yn ddifrifol gyda ei frodyr yn y weinidogaeth; ac yr oedd ei agwedd yn sibrwd yn ddystaw yn meddwl pob un, mai dyn Duw oedd; a chaffai ei barchu fel y cyfryw am ei fod ef felly.

Yr oedd hefyd yn un penderfynol. hyny pan yn gwrthwynebu caethiwed. wawdio, ei erlid, a'i anmharchu, yn ei enw a'i feddianau, am hyny, ond safodd yn wrol dros iawnderau y caeth. Collodd lawer o ddagrau, ocheneidiodd lawer, a chyfranodd lawer o'i arian tuag at helpu y caeth a'i gael yn rhydd. Mae ei ysgrifau yn y Cenhadwr, ei weddiau taerion, a'i areithiau dylanwadol, oll yn dangos ei fod yn ddyn penderfynol dros egwyddorion rhyddid. Gweithiodd yn benderfynol dros ddirwest. Teithiodd ac areithiodd lawer drosti yn siroedd Oneida, Lewis, a Madison; a phe buasai yn fyw, a'i lais ganddo, ni buasai y Gymdeithas Ddirwestol mor isel yn mhlith ein cenedl ag y mae wedi bod er ys blynyddau. Ni byddai yn erlid a dirmygu y rhai a fyddai yn ei erbyn, ond trwy fwyneidd-dra yn ceisio eu henill i'r iawn allan o fagl y diafol.

Yr oedd yn hynod am ei diriondeb a'i addfwynder. Dangosai hyny at ei deulu ac at bawb. Unwaith yr oedd ef a Mrs. Everett yn myned gyda eu gilydd ar y train i Utica; tynasant sylw lady oedd yn y car, tu ol iddynt, wrth weled ei sirioldeb tuag at ei briod, a'i ofal am dani, a'r ddau yn hen a llesg. Nis gallai y foneddiges beidio edrych arnynt; sylwodd arnynt yn dod o'r cars, dilynodd hwy i'r depot; nis gallasai yn ei byw beidio eu dilyn ac edrych arnynt, mor anwyl o'u gilydd; aeth ar eu hol yn mhell yn y dref, nes iddynt fyned i ryw dy, a bu agos iddi a myned i'r ty ar eu hol i ofyn pwy oeddynt. Cafodd wybod rwyfodd pwy oeddynt. Gadawsant argraff ar feddwl y lady fod crefydd yn gwneyd hen bobl yn dirfion, yn serchus eu calonau, ac yn ddymunol yr olwg arnynt yn eu henaint. Yr oedd Dr. Everett yn hynod o dirion ac addfwyn hefyd wrth bregethwyr ieuainc; ni wnai ac ni ddywedai ddim i'w digaloni.



Dyfyniadau o Erthygl yn y Cronicl.

GAN GRUFFYDD RHISIART, YN 1872.

Dr. Everett, neu fel yr adnabyddid ef er's triugain mlynedd yn ol, "Everett bach, o Ddinbych." I ddynodi anwyldeb y defnyddid yr ansoddair "bach," er nad ydyw y Dr. ond bychan o gorpholaeth.

Ionawr 19, 1872, cyflwynwyd iddo "dysteb," oddiwrth Gymry America-tipyn dros ddau can' punt. Dim yn hynod o fawr na bach; ond dangoswyd yno deimladau cynes iawn wrth ei chyflwyno.

A chymeryd pob peth at eu gilydd, y mae Dr. Everett yn un o gymeriadau rhyfeddaf yr oes. Y mae ef yn America y peth ag ydyw Patriarch Troedrhiwdalar yn Nghymru. Dechreuodd ei waith yn moreu ei ddiwrnod, ac yn foreu iawn hefyd. Daliodd bwys a gwres y dydd, ac y mae wedi dal ati hyd yr hwyr. Yr oedd ar ganol maes y cynhauaf mawr er's triugain mlynedd ; ac y mae ar ganol y maes eto. Byw fyddo ef! Cyhyd a'i hen gydmar o Lanwrtyd! Gwelais Batriarch-lanc Cymru er's ychydig wythnosau yn ol. Dygwyddodd i'r ymddyddan fyned ar draws "Llanc Oneida." Dangosid yno anwyldeb digyffelyb. Nid peth bach ydyw cael dyn wedi treulio oes hir heb un blotyn du ar ei gymeriad. Nid wyf yn credu y gellid nodi dyn trwy yr holl fyd yn berffeithiach yn hyn na Dr. Everett. Mae hyn yn hanfodol i ddefnyddioldeb. Mae yn rhaid cael cymeriad da. Gwell i weinidog yr efengyl roddi y goreu iddi, oddieithr fod ei gymeriad uwchlaw amheuaeth. Mae rhai gweinidogion mor ddiofal am eu cymeriad, nes y mae ar yr eglwys ofn eu gweled yn myned dros drothwy eu ty, rhag i ryw aflwydd ddygwydd. Mae hyn yn sobr; ond pwy all ei wadu? A fu pryder fel hyn ryw dro gyda Phatriarch Remsen? Na, na.

Bu Dr. Everett hefyd yn weithiwr difefl. Bu ganddo ofal gweinidogaethol am driugain mlynedd; dyna lafur a gofal mawr. Mae ei lais weithian yn pallu i raddau wrth siarad a chynulleidfa fawr, ond yn mhob ystyr arall ymddengys ei fod yn ei gyflawn nerth.

Gorchest-gamp Dr. Everett fel gweithiwr oedd dwyn allan y Cenhadwr am dros ddeng mlynedd ar hugain. Gwnaeth hyn yn ei deulu ei hun-y golygu a'r argraffu. Dyma ddull yr hen Gomer yn dwyn allan y Seren. Mae yn fanteisiol iawn i ddwyn allan fel hyn. Ni waeth beth fyddo doethineb yr argraffydd a'r cyhoeddwr os bydd y golygydd yn lelo; ac ni waeth beth fyddo gofal y golygydd os bydd yr argraffydd yn lelo. Ond yn y Cenhadwr yr oedd y ddau department o dan lygaid y Dr. ac yr oedd hyny yn ddigon. Hynodai y Dr. ei hun fel cyfaill caredig. Mae ger fy mron fwndel lled fawr o lythyrau a dderbyniasom oddiwrtho yn ystod ein harosiad yn Tennessee; maent yn llawn o garedigrwydd ac ewyllys da i bawb a phob peth, yn enwedig i rinwedd, a moesau da, ac efengyl y tangnefedd.



Dyfyniadau o Bregeth ar Farwolaeth Dr. Everett,

GAN Y PARCH. T. M. OWENS.

[Traddodwyd yn New York Mills, Mawrth 14, 1875, oddiwrth ESA. lvii: 1, 2.]

Priodol iawn y gallwn gymwyso ein testyn at gymeriad, bywyd a diwedd yr anwyl a'r anfarwol Dr. Everett; yr hwn oedd yn ei holl fywyd yn llon'd cymeriad y testyn. Yr ydoedd yn wr cyfiawn, trugarog ac uniawn yn ei holl ffyrdd. Yr oedd deddf Duw yn ei galon; cywirdeb ac uniondeb oedd cyfraith ei fywyd. Nid yn aml y gwelwyd yn rhodio ar ein daear ni neb mwy diargyhoedd ei ymarweddiad; neb yn fwy nefolaidd ei ysbryd; neb yn fwy anwyl, gonest a didwyll yn ei fywyd; neb yn fwy cyson, ffyddlon a di-ildio gyda phob gwaith da. Yr oedd yn gadarn fel y dderwen, yn bur fel y dur, ac yn ddysglaer fel y grisial.

Elfen nodedig ac amlwg iawn yn mywyd Dr. Everett oedd ymroddiad. Yr oedd yn ddi-ildio yn mhob peth yr ymaflai ynddo; beth bynag a gymerai mewn llaw, taflai ei holl enaid i'r gwaith. Pan edrychir arno yn ddyn ieuanc yn yr athrofa yn Ngwrecsam, gwelir ef a'i holl egni yn casglu gwybodaeth, yn codi llawer o groesau, ac yn tori trwy lawer o rwystrau i fynu dysgeidiaeth, er addasu ei hun i fod yn weinidog cymwys y Testament Newydd.

Elfen nodedig arall yn mywyd Dr. Everett oedd ei garedigrwydd. Yr oedd mor dyner ei galon, a llawn o deimladau tosturiol fel pan welai ryw un mewn angen y gwnai ei oreu i'w gysuro a'i gynorthwyo. Cafodd lluaws o bregethwyr ieuainc, o bryd i bryd, brofion arbenig o'i garedigrwydd. Ymddygai yn dirion iawn atynt bob amser, a byddai yn sicr o ddyweyd a gwneyd rhyw beth i'w sirioli. Ei ddull serchus pan elai rhyw un ato i gasglu at achos teilwng, fyddai cymeryd y llyfr yn siriol a dirodres o'i law, ac ysgrifenu ei enw, ac yn gyffredin rhoddai swm galonogawl wrtho. Yna cymerai y llyfr ac elai at bawb yn y teulu, ac yn gyffredin byddai yr amnaid leiaf oddiwrtho yn ddigon effeithiol i beri i bawb gyfranu yn llawen. Yr oedd yn bleidiwr gwresog i bob gwelliant, yn foesol, crefyddol, cymdeithasol a gwleidyddol.

Ond o bob peth nodedig ac amlwg yn mywyd Dr. Everett, duwioldeb oedd yr amlycaf. Yr oedd yn un mawr mewn duwioldeb, yn un cyson a gwastad yn ei ymarweddiad. Ni chafodd neb erioed achos i amheu ei grefydd. Yr oedd ei lwybr yn lân fel y goleuni, yn llewyrchu fwyfwy hyd ganol dydd. Yr oedd yn un mawr fel gweddiwr; byddai bob amser yn dra difrifol a syml mewn gweddi. Yr oedd yn amlwg i bawb ei fod yn byw mewn ysbryd gweddi, ac yn dal cyfrinach yn ddibaid a'i Dad nefol.

Yr oedd yn meddu calon eang a rhyddfrydig at bawb sydd yn caru Iesu Grist mewn purdeb. Yr oedd ei awydd yn ddiorphwys am gael y byd i gyd i Iesu Grist, ac yn y cymeriad dysglaer a bendigedig hwn y troediodd ei oes faith a gwir ddefnyddiol, ac y gorphenodd ei yrfa mewn llawenydd.




Dyfyniadau o Bregeth ar Farwolaeth Dr. Everett.

GAN Y PARCH, SEM PHILLIPS.—Oddiwrth JOSHUA i: 2.

Yr oedd Dr. Everett yn fawr ei wroldeb, ac yr oedd ei wroldeb yn cael ei ategu gan wirionedd, a'i nodweddi gan ras. Nid brwynen oedd a blyg ei phen o dan bwys pob awel; ond y dderwen, yr hon a ddeil i gynddaredd yr ystorm ei hysgwyd hyd y gwraidd, ac a fydd yn gadarnach wedi yr ystorm na chyn hyny. Taflai ei hun yn y modd llwyraf a mwyaf egniol a pharhaol i'r hyn a gredai yn gydwybodol oedd yr ochr iawn. Nid oedd na gweniaeth nac ofn gwg dynion a wnai iddo droi oddiar yr hyn a ymddangosai iddo fel llwybr ei ddyledswydd. Nid oedd yn cymeryd ei lywodraethu gan gyfraith cyfleusdra, ond dilynai yn ddewr a di-droi-yn-ol yr hyn a ystyriai yn uniawn. Dyn a argraffodd ei ddelw ar ei oes ydoedd.

Yr oedd gelyniaeth dwfn ynddo yn erbyn arferiadau ofer, llygredig, gwag a diles, ac yr oedd ynddo galon ddigon dewr i lefaru yn eglur a grymus yn erbyn yr arferiad o gnoi ac ysmygu myglys, ac hefyd yn erbyn yr arferiad o yfed diodydd a gwirodydd meddwol. Yr oedd cryn wroldeb yn ofynol mewn gweinidog oddeutu 45 o flynyddoedd yn ol, er ei alluogi i daflu ei ddylanwad o blaid y mudiad dirwestol, ond gwnaeth y Dr. hyny. Yr oedd y mudiad y pryd hwnw, ac am lawer o flynyddoedd wedi hyny, yn hollol anmhoblogaidd.

Bu Dr. Everett farw wedi byw oes ryfedd o ddefnyddiol. Dywedwn heb ofni cyfeiliorni, fod Duw wedi gwneyd defnydd mawr o hono, ac na fu yn y Talaethau Unedig yma ddim un Cymro o fwy o wasanaeth i'w genedl nag y mae Dr. Everett wedi bod. Yr oedd yn meddu ar alluoedd cryfion a chymwysderau arbenig, a chysegrodd ei hun, gorph ac enaid, i fod yn ddefnyddiol i'w genedl, ac i fod o wasanaeth i ddynoliaeth a chrefydd.

Aeth Dr. Everett yn ei wisg olygyddol i wely angau, fel yr aeth Aaron gynt yn ei wisg swyddol i fynydd Hor i farw. Ni thynwyd y wisg hon oddi am dano hyd onid oedd yn y cerbyd yn myned adref, fel Elias gynt. "Da, was da a ffyddlon."



Pregeth Goffadwriaethol am y Parch. R. Everett, D. D.,

A draddodwyd yn Steuben, Mai 9, 1875,

GAN Y PARCH. WILLIAM D. WILLIAMS, DEERFIELD, N. Y.

JOB 1: 8.—"Nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear."

Gofynir llawer o gwestiynau yn nghylch Job, megys, Pa le yr oedd gwlad Us? Ateb. Mae yn debyg mai yn y rhan ogleddol o Arabia. Pa bryd yr oedd yn byw? Ateb. Meddylir mai rhwng amser marwolaeth Joseph ac ymddangosiad Moses. Pwy ysgrifenodd lyfr Job? Ateb, Meddylia rhai mai Moses, pan oedd yn bugeilio praidd Jethro; eraill mai Elihu, ac eraill mai Job ei hun, ar ol ei adferiad.

Cynwysa y llyfr hanes Job, ei deulu, ei gyfoeth, ei brawf, ei dlodi, a'i adferiad. Mae yr Arglwydd yn ei alw, "Fy ngwas Job." Mae'n sicr genym fod llawer o ddynion duwiol yn y byd yn amser Job. Gallem feddwl fod ei gyfeillion yn rhai enwog mewn duwioldeb; ond yr oedd Job yn rhagori arnynt oll. "Nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear." Cymerwn fenthyg y geiriau yna, gan eu cymwyso at ein hybarch a'n hanwyl frawd, Doctor Everett. Sylwn,

1. Nad oes nemawr o'i gyffelyb mewn duwioldeb a bywyd sanctaidd. Ymddygai yn dduwiol a sanctaidd yn mhob man, bob amser, ac ar bob amgylchiad. Yr oedd cymaint o rym duwioldeb yn ei lywodraethu, fel yr oedd rhyw sobrwydd neillduol yn meddianu pawb pan yn ei bresenoldeb; er ei fod yn un o'r rhai pellaf oddiwrth ragrith Phariseaidd, fel y gwelir rhai dynion yn nghymdeithas eraill, am adael yr argraff mai "Sancteiddiach ydwyf fi na thi;" ond yr oedd ein hanwyl frawd Everett yn ddigon pell oddiwrth hyny. Eto, meddyliasom lawer gwaith yn ysbaid y deugain mlynedd y cawsom y fraint o gymdeithasu ag ef yn aml, os oedd dyn wedi ei berffeithio yn y cnawd, ac yn hollol bur o galon, mai efe oedd hwnw. Ni welsom ei gyffelyb mewn nodau o dduwioldeb, ac yn dyfod i fyny mor amlwg â darluniad y Salmydd, "Yr hwn a rodia yn berffaith, ac a wnel gyfiawnder, ac a ddywed wir ei galon; heb absenu â'i dafod, heb wneuthur drwg i'w gymydog, ac heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymydog."

2. Nad oes nemawr o'i gyffelyb mewn gwyliadwriaeth. Yn mhob lle ac yn mhob amgylchiad y byddai ynddo, yr oedd yn rhodio yn ofn yr Arglwydd. Yr oedd yn wyliadwrus yn erbyn pob drwg, ac hefyd yn gwylio am gyfleusderau i wneyd daioni; a thrwy hyny yr oedd yn "halen y ddaear," ac yn "oleuni y byd."

3. Nad oes nemawr o'i gyffelyb mewn dystawrwydd. Un anaml ei eiriau ydoedd bob amser; a chyda'r parch mwyaf iddo, dymunem ddywedyd, ein bod wedi meddwl ambell waith ei fod i'w feio yn hyny. Tuedd y nifer fwyaf o blant Adda yw siarad gormod lawer pryd; ond byddai ef yn ddystaw pan y tybiem y dylasai lefaru. Llawer gwaith mewn cynadleddau crefyddol, byddai hwn a'r llall yn llefaru heb roi dim goleuni ar y mater dan sylw, ac yntau yn gwrando yn ddystaw; ond pan godai i lefaru, fe geid goleuni ar y pwnc, ac yn gyffredin ni wnai neb lefaru ar ei ol. Os oedd yn ddystaw, rhaid addef ei fod yn deall y natur ddynol yn dda, a'i fod yn rhy foneddigaidd i ddiystyru un brawd.

4. Nad oes nemawr o'i gyffelyb mewn addfwynder, tawelwch a llarieidd-dra. Gellir dyweyd am dano fel am y Meistr mawr, ei fod "fel oen." "Addfwyn ydoedd, a gostyngedig o galon." "Corsen ysig nis torai, a llin yn mygu nis diffoddai." Yr oedd fel Ioan, y dysgybl anwyl, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu, yr hwn a bwysai ei ben ar ei fynwes, a'r hwn oedd wedi yfed yn helaeth o ysbryd ei Athraw. Yr oedd bob amser fel yr Indian Summer. Nid weithiau yn oer, a phryd arall yn boeth. Gellir yn briodol gymwyso ato eiriau y prophwyd Esay, 26: 3. "Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd a'i feddylfryd arnat ti; am ei fod yn ymddiried ynot." Gwelsom ef yn mhen ychydig ddyddiau ar ol llosgiad ei dy, ei ddodrefn, ei lyfrau, a phregethau boreu ei fywyd; yr oedd mor dawel ei feddwl ag arferol, ac yn ddiolchgar iawn i'r Arglwydd eu bod oll fel teulu wedi cael eu cadw yn fyw, ac heb i'r tân eu niweidio. Gwyddai beth oedd cael nerth yn ol y dydd.

5. Nad oes nemawr o'i gyffelyb fel gwrthwynebwr i bechod. Efe oedd y Cymro cyntaf yn Swydd Oneida gododd ei lef yn erbyn y pechod o feddwdod, trwy gefnogi llwyr-ymataliaeth, ac yn erbyn y pechod o gaeth-wasiaeth. Bu yn wrthddrych gwg, gelyniaeth, ac anmharch, o herwydd ei bleidgarwch i ryddid dynol. "Er hyny arhôdd ei fwa ef yn gryf.” Bu hefyd yn flaenllaw yn erbyn y pechod o halogi y Sabboth.

6. Nad oes nemawr o'i gyffelyb fel pleidiwr gwresog a haelionus i bob achosion da. Yr oedd yn bleidiwr gwresog i'r Ysgol Sabbothol, cyfarfodydd gweddi, y Gymdeithas Ddirwestol, a'r Gymdeithas Wrthgaethiwol. Gwnaeth a allodd i gael y caethion yn rhyddion, a chafodd eu gweled felly cyn ei farw. Yr oedd ef a'i deulu yn cyfranu yn haelionus at bob cymdeithas ddaionus, megys, y Gymdeithas Feiblaidd, y Gymdeithas Genadol Gartrefol, a'r un Dramor, y Gymdeithas Draethodol, a'r Gymdeithas at roddi addysg i'r bobl dduon yn y De. Yr oedd yn rhoddi mwy na'i allu mewn gwirionedd. Hauodd yn helaeth, ond heddyw y mae wedi dechreu medi mewn gorfoledd.

7. Nad oes nemawr o'i gyffelyb o ran tynerwch teimladau. Wylai gyda'r rhai oedd yn wylo, a llawenychai yn llwyddiant eraill. Byddai y plant bychain yn caru ei weled ef yn anad neb yn dyfod at y tai; rhedent am y cyntaf i gael ysgwyd llaw â Mr. Everett. Nid rhyfedd fod y plant yn hoff o hono, a'i wên siriol, a'i law anwyl, oblegid nid llaw wag ydoedd; byddai wrth ymadael â'r teulu yn cyfranu rhywbeth i'r plant. Dywedir am un gweinidog yn Nghymru, mai adnod fyddai ef yn ei roddi i'r plant; a dywedir am un arall yno, mai ceiniog fyddai ef yn ei roddi; a'r gweinidog fyddai yn rhoddi y geiniog fyddai y plant yn hoffi ei weled. Nid rhyfedd fod y plant bychain yn llawenhau pan fyddai Dr. Everett yn dyfod, gan ei fod yn llawn cystal wrthynt a'r ddau arall, oblegid yr oedd yn rhoddi yr adnod a'r geiniog iddynt. Yr oedd tuedd ei holl ymddygiadau i ddenu dynion i feddwl yn fawr am Grist a'i grefydd. Gellir dyweyd ar ei gareg fedd, "A chyfaill Duw y galwyd ef." Darfu iddo gyflawn ddilyn ei Arglwydd trwy ei oes.

8. Nad oes nemawr o'i gyffelyb mewn ymwadiad. Nid oedd dim ymffrost yn perthyn iddo. Ni ddywedai air byth am dano ei hun. Nid oedd byth am gael y blaen, er y byddai ei holl frodyr am roddi y flaenoriaeth iddo. Y mae ambell i hen weinidog, pan mewn cymanfa a chyfarfod tri-misol, am gael blaenori a threfnu pwy sydd i gael pregethu, fel y gallo ef ei hun gael y lle mwyaf cyhoeddus; ond pell iawn oedd ein cyfaill Everett oddiwrth bob ymddygiad o'r fath. Llawer gwaith y clywsom ef yn dywedyd ar ddechreu cyfarfod, pan fyddai gweinidog y lle yn trefnu iddo bregethu am ddau dranoeth, “O, gadewch i mi gael dyweyd tipyn heno." Yr oedd yn un gostyngedig o galon.

9. Nad oes nemawr o'i gyffelyb mewn sobrwydd a difrifoldeb. Yr oedd yn un o'r rhai mwyaf difrifol yn ei gyfeillach. Rhyw bynciau gwerthfawr ac adeiladol fyddai bob amser yn destynau ei gymdeithas. Ni chlywodd neb ef yn adrodd chwedl wael; yr oedd fel pe buasai heb glywed y fath bethau erioed,

10. Nad oes nemawr o'i gyffelyb fel gweddiwr. Yr oedd yn enwog am ei weddiau taerion ar bob achos. Yr oedd fel plentyn gyda ei dad pan yn gweddio. Yr ydym yn ei gofio agos i ddeugain mlynedd yn ol mewn cyfarfod, pan letyem yn yr un ty, fel y dygwyddai yn aml, ac y cysgem yn yr un gwely. Boreu dranoeth cododd ef yn foreu, ac ar ol gwisgo aeth ar ei liniau, a ninau yn effro yn y gwely; ond cyn iddo godi darfu i ni gysgu, a phan ddeffroasom yr oedd ef yn parhau ar ei liniau. Meddyliasom yn y fan am Jacob yn ymdrechu gyda'r angel. Yr oedd ef i bregethu am ddeg y boreu hwnw, ac yr ydym heddyw yn cofio yn dda am yr oedfa hono; wrth ei wrando yr oeddem yn meddwl yn barhaus am ei weddi y boreu hwnw, gan ei fod yn pregethu mor dra rhagorol. "A'th Dad, yr hwn a wêl yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg."

11. Nad oes nemawr o'i gyffelyb fel dysgawdwr. Yr oedd yn rhagori fel ysgolaig. Fel dyn dysgedig, yr oedd o flaen y nifer fwyaf o'i gyfoedion. Meddyliodd Dr. George Lewis ei gael yn athraw ar y Coleg; 'ond symudodd Rhagluniaeth ef i'r wlad hon, a bu hyny yn golled fawr i Gymru mewn llawer ystyr; ond bu yn elw mawr i'n cenedl ni yn America.

12. Nad oes nemawr o'i gyffelyb yn ei goethder fel pregethwr. Fel pregethwr, yr oedd bob amser yn dda iawn, a byddai ar amserau yn nodedig o hwyliog Pregethai yn felus, sobr, a chall, fel ysgrifenydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd, yn dwyn allan o'i drysor bethau newydd a hen; ond byddai yr hen bob amser yn gwisgo agwedd hollol newydd.

13. Nad oes nemawr o'i gyffelyb yn ei ffyddlondeb i fyned at ei gyhoeddiadau. Elai trwy bob ystormydd, ar bob achos, yn mhell ac yn agos, fel y byddai galwad am dano. Elai i angladdau i ardaloedd pell yn aml, a beth bynag fyddai yr hin, byddai yn sicr o fod yno yn brydlawn. Llawer gwaith y gorfu iddo adael ei geffyl ar ol, gan mor fawr yr eira ar y ffyrdd, a myned yn ei flaen ar ei draed trwy y storm. Ond heddyw gwyr am gyflawniad y geiriau, "Da, was da a ffyddlawn : dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd." Ni raid teithio trwy yr ystormydd mwyach. O hyn allan mae yn gorphwys oddiwrth ei lafur.

14. Nad oes nemawr o'i gyffelyb fel gwrandawr yn gwrando ar ei frodyr. Drwg genyf ddyweyd, ond y mae'n eithaf gwir, mai dosbarth gwael iawn fel gwrandawyr yw llawer o bregethwyr, ac yn neillduol pregethwyr ieuainc hunanol, ac y mae ambell hen bregethwr yn berchen ar dalent fawr i ddiystyru ei frodyr pan fyddont yn yr areithfa. Ond pan fyddo ei gyfaill yn pregethu, pwy ond efe fydd yn agor ei lygaid, a'i Amen fawr, a mawr fydd ei swn y pryd hwnw. Ond nid gwrandawr felly oedd ein hanwyl dad, ond yr oedd fel pechadur yn gwrando cenadwri oddiwrth ei Dduw, a'i Amen anwyl, llawn o deimlad, a'i ochenaid ddwys, a'i ddagrau gloywon, yn dangos fod ei enaid yn cael gwledd ar fwrdd ei Dad, pwy bynag fyddai yn traddodi y genadwri nefol.

15. Nad oes nemawr o'i gyffelyb fel cyfaill ffyddlawn. Cyngorai fel cyfaill, cydymdeimlai fel cyfaill, carai fel cyfaill, a chynorthwyai fel cyfaill. Gallai brawd ymddiried ei oll a'i bob peth iddo, a bod yn sicr na wnelai byth ei fradychu, ac na ch'ai un byth siomedigaeth ynddo.

16. Nad oes nemawr o'i gyffelyb fel golygydd. Cadwodd y Cenhadwr yn bur; cadwodd bob sothach gwael allan o hono, fel y dywedodd y Parch. D. Rees, Llanelli, hen olygydd y Diwygiwr, fod y Cenhadwr yn tra rhagori ar holl gyhoeddiadau Cymru. Ni chaffai dim ymddangos ynddo heb fod yn meddu tuedd at wneyd daioni, ac ni roddid ef yn gyfrwng i neb fflangellu eu gilydd ynddo. Buasai yn dda gan lawer gael ynddo ychwaneg o waith y golygydd ei hun; a'i ymwadiad mawr oedd yr unig reswm na chawsent hyny. Yn y Cenhadwr yr ydoedd yn arweinydd i'n cenedl yn y wlad hon. Dysgwylient am ei farn ef bob amser ar bob achos gwladol o bwys, ac yr oedd ei ddylanwad yn fawr ar feddyliau y dosbarth mwyaf gwybodus trwy yr holl wlad; oblegid yr oedd yn bwyllog, yn deg, ac yn dirion iawn wrth bawb. Efengylydd ydoedd ar bob achos. Ni ddefnyddiodd air chwerw ac atgas wrth y meddwyn, nac am dano, nac am y caeth-feistri erioed; a'n gobaith yw y caiff y Cenhadwr ei ddwyn yn mlaen yn yr un ysbryd addfwyn eto.

ADDYSGIADAU.

(1.) Fod tywysog a gwr mawr wedi syrthio, ond nid dan draed ei elynion. Aeth fel twysen addfed; ei gorph i'r bedd, a'i enaid i'r nefoedd.

(2.) Fod ei le yn wag yn mhob man lle yr arferai fod.

(3.) Bydd ei enw yn perarogli am hir amser. Perarogl Crist ydoedd trwy ei fywyd. "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig."

(4.) Nad yw duwioldeb yn cadw rhag angau.

(5.) Ei bod yn ddiamheuol fod marw yn elw mawr iddo.

(6.) Er fod y gweision yn marw, fod Brenin Seion yn fyw.

(7.) Meddyliwch lawer am y pethau a glywsoch ganddo.

(8.) Fod y Beibl yn llawn o gysur i'w berthynasau a'i gyfeillion. "Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd." Ceir ail-gyfarfod heb ymadael mwy.

(9.) Fod ei farwolaeth yn alwad uchel arnom i fod yn barod. "Y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto."

(10.) Yr ydym wedi coffhau rhai o ragoriaethau ein hen athraw anwyl a pharchus, ond pe byddai ef yn gallu llefaru wrthym heddyw, dywedai yn eglur, "Trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf." Nid yw harddwch a rhagoriaeth y gwas ond adlewyrchiad gwan o berffeithiau a gogoniant y Meistr mawr. Bydd ein hanwyl Dr. Everett ar ddelw hawddgar Iesu am byth. Amen.



Adgofion am y Parch. R. Everett, D. D.

GAN Y PARCH. JAMES GRIFFITHS, SANDUSKY, N. Y.

Anwyl Gyfeillion—Gan eich bod wrth y gorchwyl o wneyd cofiant i'ch parchedig dad, y diweddar Dr. Everett, bydd yn dda genyf os bydd yr ysgrif hon o ryw gymorth i chwi i gyfodi fyny y gof-golofn ydych yn fwriadu.

Yn y flwyddyn 1832, pan oedd eich anwyl dad wedi bod am agos i ddeg mlynedd yn gweinidogaethu yn Eglwys Gynulleidfaol Gymreig Utica, yr oedd amgylchiadau yn galw am iddo ymadael â'r Cymry a myned i blith y Saeson. Ar yr adeg hono y daethum inau i America, a syrthiodd y coelbren arnaf i fod yn olynydd iddo, a bu yntau am amser yn gweinyddu yn yr ail eglwys Bresbyteraidd yn Utica. Bu amrywiol bethau yn foddion i wneyd mwy na'r cyffredin o anwyldeb rhyngom; sef, ein bod yn hollol o'r un golygiadau athrawiaethol—yr oedd cryn ddadleu yr adeg hono am rai pethau mewn athrawiaeth yr oeddem yn cydlafurio gyda'r achos dirwestol; ac yr oeddem hefyd ein dau fel Cymry ar flaen y dòn gyda golwg ar yr achos gwrth-gaethiwol. Nid un o honom enillodd y llall at y pethau hyn; ond fel yr oeddem yn fwyaf dedwydd, yr oeddem ein dau yn llawn o'r egwyddorion hyny cyn i ni erioed gael y fraint o adnabod ein gilydd; ac yn radd o gymorth a chysur i'n gilydd wrth fyned yn mlaen drwy ein taith a'n tywydd; pan, er ein gofid a'n galar, yr oedd gweinidogion yr efengyl yn y gwahanol enwadau yn mysg Cymry America, yn ol yn mhell iawn gyda y pethau yna, ac yn gwbl glauar a difater yn eu cylch; a rhai mor belled yn ol nes bod yn hollol elynol. Ond gydag amser cawsom lawer o gwmni newydd o blith gweinidogion yr efengyl, a byddwn i ac eraill yn edrych i fyny arno ef fel tad a blaenor, ac i ryw raddau yn ymdrechu dilyn ei gamrau, ac ar amserau eraill dewisem rai llwybrau gwahanol i geisio dwyn yn mlaen yr achos gwrth-gaethiwol.

Yr oedd ef yn cwbl gredu fod caethiwed yr Unol Dalaethau yn ffieidd-dra yn ngolwg yr Arglwydd; ac mai barn ofnadwy a ddelai os na wnelai pobl America lwyr droi heibio y ffieidd-dra hwn; a bod cwpan yr anwiredd yn llenwi gyda'r cyflymdra mwyaf. Yr oedd yn ystyriol fod dyled ar weision Crist i ddweyd yn erbyn pob pechod. Yr oedd ef ac eraill yn credu, ond i eglwys Dduw fod yn onest a ffyddlon, y delai yr holl gaeth-feistri gydag amser yn foddlon o galon i ryddhau eu holl gaethion. Dyna oedd yn ei gadw yn fyw gyda ei waith, ac nid un duedd i enwogi ei hun mewn pethau politicaidd. Ond yn lle gadael eu drygioni, gwnaeth y caethfeistri ymgaledu a phenderfynu mynu yr oruchafiaeth. Heb fod yn faith, cafodd ef ac eraill fu'n rhybuddio y genedl weled y gawod ddinystriol yn dyfod yn ddiarbed, a chafodd y wlad ar ddeall nad yw Arglwydd y lluoedd yn ddisylw o bechodau dynion.

Oblegid fy mod i a rhai o flaenoriaid y gynulleidfa yn Utica yn caniatau i'ch parchus dad, Mr. Alvan Stewart, ac ambell un arall, i ddyweyd eu meddwl ar gaethiwed yn yr addoldy yn Utica, yn awr ac yn y man, ar nosweithiau o'r wythnos, pan nad oedd yn bosibl cael un capel arall na hall at y fath wasanaeth yn yr holl ddinas, cyfododd digter creulawn i'n herbyn gan rai o'r trigolion. Yr oedd y Standard yn cael ei argraffu ar gongl Whitesboro a Genesee y pryd hwnw; ac yr oedd hwnw hefyd yn achlysuro digofaint mawr ac enbyd.

Ryw ddydd Llun cyntaf o'r mis, yn y flwyddyn 1835, dygwyddodd eich tad ddod i'r dref o'r wlad, lle'r oedd ef y pryd hwnw yn aros, a daeth atom ni i'r cwrdd gweddi misol, a phan oeddem yn terfynu y cyfarfod clywsom ryw swn ofnadwy yn ngodre y dref, nid pell iawn oddiwrthym, a beth oedd yn bod ond y mob oedd wedi rhuthro i office y Standard yn tori yr argraffwasg, ac yn ei thaflu hi a'r holl dypes, a'r papyr, a'r holl gelfi, allan i Whitesboro street i'w llosgi. Cawsom le i feddwl a chredu mai yr addoldy fyddai gwrthddrych nesaf eu rhuthr a'u drygioni. Yr oedd eich tad wedi d'od o'r cwrdd gyda mi i gael llety, a dyna lle'r oeddem, mor ddystaw a'r bedd, yn ofni ac yn crynu, ac yr wyf yn meddwl iddo ef anfon llawer saeth weddi i fyny i'r nef. Gwnaeth Duw i flaenor y mob adgofio y modd yr oeddwn ar ddwy o'r nosweithiau oeraf yn y gauaf blaenorol, wedi codi o fy ngwely a galw arno godi i achub ei geffyl oedd ar fin trengu. Cefais ar ddeall iddo feddwl beth fuasai pobl yn ddweyd am dano os gwnaethai losgi addoldy un oedd wedi gwneyd iddo ef gymaint o ddaioni; ac felly fe arbedwyd y drwg oedd rhai o'r mob yn fwriadu, a chafodd eich tad a ninau fel teulu dawelwch i orphwys a chysgu, Ond nid felly y bu ar bawb. Aeth y mob rhag eu blaen at dy Mr. Alvan Stewart, yr hwn oedd un o'r tai mwyaf o bridd-feini ar ben uchaf Genesee yr amser hwnw, gyda bwriad o'i lwyr ddinystrio. Er nad oedd Mr. Stewart yn dygwydd bod gartref, cawsant y lle wedi ei gauad i fyny yn gadarn. Daeth Mrs. Stewart i un o ffenestri y llofft uchaf, a dywedodd nad oedd un modd iddynt ddyfod i mewn heb gael mwy o niwed nag oeddynt yn ewyllysio, am fod yno haner cant o ynau llwythog, a phump-ar-hugain o ddynion galluog i'w defnyddio; yr hyn a wangalonodd y mob gymaint nes iddynt ymwasgaru.

Dro arall yr oedd eich tad a minau mewn Anti Slavery Convention o dri chant o delegates, yn yr eglwys lle mae y Parch. Dr. Corey yn pregethu yn bresenol, pan ddaeth mob o bum' cant i mewn i'r lle am ein penau, a'r rhai hyny yn cael eu cefnogi gan wyr mawr y dref, er mwyn cadw i fyny anrhydedd Utica yn ngolwg caeth—feistri y De oedd yn perthyn i'r Congress yn Washington.

Yn ystod y ddwy-flynedd-a-deugain y bumi a'ch tad yn cydweithio yn y winllan, cefais aml gyfleusderau i wybod ei egwyddorion a theimladau ei galon. Ei brif addurn oedd ei dduwioldeb diamheuol. Yr oedd ef o egwyddor yn ofni pechu; yr oedd yn cilio oddiwrth bob drygioni; ac yn nesaf at hyny yr oedd ganddo fwy o lywodraeth arno ei hun na neb a adnabyddais erioed. Yr oedd yn hynod o dyner ei galon pan fyddai eraill o weision Iesu yn pregethu, ac yr oedd bob amser yn dra gwyliadwrus a gochelgar, nes bron a chario hyny i ormod o eithafion. Ond er hyny gorfu iddo ddyoddef llawer o bethau sy'n fawr drueni fod gweision yr Arglwydd yn gorfod eu dyoddef; ond y mae hyny yn awr yn mysg y pethau a fu; ac y mae yntau wedi cyrhaedd pen ei daith, efe a'i briod drwy eu holl lafur a'u trafferthion. Y maent wedi gorphen cario y groes, ac yn bresenol mewn meddiant o'r goron.



Dr. Everett yn ei Gysylltiad a Diwygiad 1838.

GAN Y PARCH. MORRIS ROBERTS, REMSEN.

MR. LEWIS EVERETT: Anwyl Frawd—Yr ydwyf wedi cadw cof am eich tad er pan oeddwn yn blentyn yn Llanuwchlyn, wrth glywed son am dano gan y bobl fel pregethwr da, ac un gobeithiol iawn o fod yn ddefnyddiol. Nid ydwyf yn cofio i mi ei glywed ef fy hun cyn ei glywed yn America, ond clywais lawer o son am dano yn nghyd â Hugh Pugh, y Brithdir; Williams, Cwmhyswn, neu y Wern ar ol hyny; a Williams, Llanwrtyd, a rhai eraill o bregethwyr ieuainc gobeithiol yn mysg enwad y Dissenters. Yn fuan wedi i mi ddechreu ar y gwaith o bregethu clywais ei fod yn ymfudo i'r America; a sylwais fwy yn ei gylch o herwydd fod fy nhad ar y pryd yn aros yn Utica, yn America; ac yr wyf yn cofio un peth mewn cysylltiad ag ef pan oedd ar gychwyn i'r wlad hon. Dygwyddais fod yn Llanuwchlyn yn cyd—gadw oedfa a Dafydd Cadwaladr, efe yn hen a minau yn ieuanc. Wedi myned i dy Owen Edward, Penygeulan, pryd yr oedd yn bresenol amryw o hen Fethodistiaid y lle, megys Evan Foulk, Edward y Fadog, &c., dechreuodd rhyw un ofyn i Dafydd Cadwaladr am y cyfarfod pregethu oedd newydd fod yn y Bala, ac a oeddynt yn pregethu y system newydd yn y cwrdd hwnw (oblegid dyna oedd testyn y siarad y pryd hwnw gan y Methodistiaid am y Dissenters). Atebai yr hen wr Dafydd Cadwaladr ei fod wedi bod yn y cyfarfod, a'u bod yn pregethu y Pwnc Newydd; ac, meddai, pe b'ai neb a wnai i mi gredu y Pwnc Newydd, yr Everett o Ddinbych yna a wnai hyny o flaen neb o honynt. Wel, meddai un arall, P'am hyny? Wel, meddai yntau, y mae'r olwg arno mor syml a difrifol, ei lais mor beraidd ag angel, a'i resymau yn gwbl glir a chedyrn. Wel, beth fu ef yn ei bregethu? Atebai, pregethu ar Freniniaeth Crist yr ydoedd, a dywedai fod Iesu Grist yn frenin yn mhob man, yn y nefoedd, yn uffern, ac ar y ddaear; a meddwn inau, ebe'r hen wr, os felly, pa ddyben son am symud i'w deyrnas, gan ei fod yn frenin yn mhob man eisoes? a boddlonwyd y rhai presenol, fel na ddywedodd neb yn erbyn yr hyn a ddywedodd yr hen wr Cadwaladr. Ond yr oeddwn i y pryd hwnw yn meddwl y gwyddai yr hen bregethwr yn dda fod gwahaniaeth rhwng awdurdod Crist fel Brenin, a'i Freniniaeth rasol ar galonau y credinwyr. Mor hawdd a hyn yna oedd boddloni rhai pobl oeddynt yn selog iawn yn erbyn pob peth newydd, neu yr hyn a alwent hwy yn newydd.

Yn y flwyddyn 1831 daethum inau i'r America, a chan i mi aros ychydig yn Utica, cefais gyfle i'w weled a'i glywed, a chyfrinachu ychydig ag ef. Yr oedd ef yma tuag wyth mlynedd o'm blaen i, ac yr oedd wedi gweled llawer o bethau nas gwyddwn i ddim am danynt, a rhoddodd aml gyngor i mi fel un newydd ddyfod i'r wlad. Yr oedd ef ar y pryd hwnw ar droi at y Saeson i weinidogaethu, a minau yn dechreu gyda'r Cymry yn Utica. Byddwn yn cael cyfle i'w wrando yn y cwrdd mawr yn Steuben yn flynyddol; ac y mae yn gofus genyf am un bregeth neillduol o'i eiddo yno, oddiwrth y testyn, Heb. ii: 10, "Canys gweddus oedd iddo ef, &c." Penau ei bregeth oeddent bedwar: Yn I. Y dyben mawr mewn golwg, sef, "Dwyn meibion lawer i ogoniant." Yn II. Y ffordd a gymerodd Duw i wneyd hyny, sef, "Perffeithio Tywysog eu hiachawdwriaeth hwy trwy ddyoddefiadau." Yn III. Perthynas trefn iachawdwriaeth a'r bydysawd, "O herwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth." Yn IV. Rheswm y Jehofa dros hyny, "Canys gweddus oedd iddo ef." Pregeth ragorol iawn oedd hono, yn enwedig am berffeithio Crist trwy ddyoddefiadau. Yr ydoedd yn berffaith Dduw erioed, a pherffaith ddyn trwy ei gnawdoliaeth, ac yn berffaith Iawn trwy ei ddyoddefiadau. Ac o barth i berthynas y drefn a'r bydysawd, dywedai mai nid trefn o'r neilldu ydoedd, ond trefn ger bron ac yn wyneb y cyfan i gyd; yn wyneb y ddeddf a'r llywodraeth a holl fodau moesol y llywodraeth i gyd, angylion a seraphiaid y gogoniant, a seintiau y nef, a phawb yn uffern, ac ar y ddaear hefyd, "O herwydd yr hwn y mae pob peth." Rhoddodd foddlonrwydd mawr yn y bregeth hono i lawer oedd yn ymofyn am gysondeb trefn fawr y nefoedd i gadw pechaduriaid y ddaear. Y pryd cyntaf i mi ei gyfarfod ar ol hyny oedd yn Utica, yn mis Mawrth, 1838, mewn cwrdd chwarter gan yr Annibynwyr, a minau yn myned yno i ymuno a'r Undeb hwnw fel gweinidog. Yr oedd golwg isel a di-lewyrch ar achos crefydd yn mysg pob enwad o'r Cymry ar y pryd.

Yn Utica yr oedd un Knapp, hen ddiwygiwr gyda y Bedyddwyr Seisonig, yn cadw cyrddau diwygiadol yn nghapel mawr y Presbyteriaid, o'r tu isaf i'r gamlas, er's rhai wythnosau, ac yr oedd llawer o'r Cymry yn arfer myned i'w gyrddau ef. Yr oedd un William H. Thomas, gweinidog gyda'r Bedyddwyr Cymreig yn Utica, yn mynychu y cyrddau hyny, ac yn eu mwynhau yn dda. Yn Utica, yr hwyr cyntaf cyn dechreu y cwrdd chwarter, nesaodd y Parch. James Griffiths, gweinidog y lle, ataf, a dywedodd wrthyf, ei fod yn dysgwyl y caem ni gwrdd da, ac adroddodd i mi am y cyfarfodydd a gynelid gan Knapp yn mysg y Saeson, a bod amryw o aelodau ei eglwys ef yn eu mynychu, a than radd o deimlad. Aed yn mlaen i bregethu nos Fawrth. Nis gallaf fi gofio dim am y cwrdd, ond ei fod yn dda, fel arferol. Yr oedd y Parch. R. Everett yn bresenol, o Western, Oneida Co. Dranoeth, am 10, yr oedd dau i bregethu ; ac am 2, yr oedd yr ysgrifenydd a Dr. Everett i bregethu. Yr wyf yn cofio fy nhestyn, " Na ddiffoddwch yr Ysbryd." Wrth siarad am bwysigrwydd dylanwadau yr Ysbryd Glan, eu hanog i'w maethu, a dangos y mawr berygl o'u gwrthwynebu, eu diystyru, neu eu diffodd, daeth gryn deimlad ar y bobl a'r pregethwr, a chollid llawer o ddagrau. Ar ddiwedd y bregeth, dyma Mr. Everett yn cyfodi yn y pwlpud, ac yn dyweyd na wnai ef bregethu, ond yr aem ni i lawr, ac y byddai iddo ef gynyg dull y Saeson o gynal y cyfarfod, gan fod y bobl o dan deimlad fel yr oeddent. I lawr o dan yr areithfa yr aed, ac agorodd y Parch. R. Everett y cwrdd, trwy alw y bobl i edifeirwch am eu clauarineb mewn crefydd, eu bydolrwydd, eu hesgeulusdra, a'u difaterwch gyda chadwedigaeth dynion, ac yn enwedig eu perthynasau a'u plant, a cheisiodd gan y gynulleidfa fyned ar eu gliniau, a galwodd ar Rowland Griffiths a John Rees i weddio am edifeirwch a maddeuant o'r holl bechodau. Aeth y gynulleidfa ar eu gliniau, a daeth yr aelodau oll o'r llofft i lawr, a llanwyd yr aisles rhwng yr eisteddleoedd yn dyn, a phawb ar eu gliniau, ac yr oedd yr olwg ar y ddau hen wr yn gweddio yn olwg orlawn o ddifrifwch. Mr. Rowland Griffiths, pregethwr cynorthwyol er dechreuad yr achos yno, ac un o sefydlwyr gwreiddiol yr achos Annibynol yn Dinas Mawddwy, G. C.; a John Rees, hen ddiacon yr eglwys, yn gloff, ac yn arfer dwy ffon i gerdded, a phwys ei ddwylaw ar ei ffyn, a'i wyneb tua'r nef, a dwy ffrwd o ddagrau yn treiglo dros ei ruddiau, yn dadleu drosom, a thros ei blant, nes oedd y cyfan yn foddfa o ddagrau. Yna cynygiodd rhyw un ar fod rhai o'r eisteddleoedd ar y dde yn cael eu gwaghau, i roddi prawf ar wahodd rhai oedd dan deimlad i ddyfod yn mlaen iddynt yn ngwydd pawb, a'r brawd Everett a wnaeth wahoddiad grymus i wrthgilwyr ac eraill i ddangos eu penderfyniad—dangos eu hochr, a dilyn Iesu; ac yn y fan llanwyd y lleoedd gan rai newydd, a hyny yn ngwydd pawb; a chariodd hyny ddylanwad cryf ar yr edrychwyr, fel yr oedd yr holl dorf yn ymdoddi i lawr; rhai yn gweled eu ffryndiau, rhai eu perthynasau agosaf, a rhai prif wrthddrychau eu gweddiau yn tori drwyddi, ac yn dangos eu bwriad i fyned ar ol Iesu Grist.

Yn y fan penderfynwyd i'r cwrdd barhau dros ddyddiau yn mlaen; dechreu pob oedfa â chwrdd gweddi; ac ar ol pregethu, rhoi cyfleusdra i rai o'r newydd ddod yn mlaen i'r meinciau gweigion, a pharhaodd felly am wyth o ddyddiau—tair oedfa bob dydd; ac erbyn yr wythfed dydd yr oedd llawr y capel hwnw yn llawn o rai newydd; cynwysai, yn ddiau, o dri i bedwar cant o rai newydd. Yna cyhoeddwyd society nos y nawfed, sef nos Wener, i fod yn y tri chapel Cymreig, ac anogwyd pawb i wneyd eu meddyliau i fyny, a myned i'r man, ac at yr enwad a ddewisent, a'u bod i gael eu gadael yn gwbl rydd, heb i neb geisio traws-lusgo rhai at ei enwad ei hun. Aeth y pregethwyr dyeithr bawb i'w fan, gan adael i'r bobl gartref ddwyn y gwaith yn mlaen yn mhellach, a chafwyd ychwanegiad mawr at y tri achos Cymreig yn y ddinas, a chryn ychwanegiad mewn manau eraill o amgylch. Y pregethwyr a gydymdrechasant yn hyn oeddent, y Parchn. Robert Everett, William D. Williams, James Griffiths, William H. Thomas a'r ysgrifenydd. Buodd Mr. Everett yn help mawr ar gyfrif ei oedran, a’i uchel gymeradwyaeth yn y lle, ac yn ngolwg y genedl. Dyna fel y dechreuodd y diwygiad mawr yn y flwyddyn 1838, yr hwn a barodd dro mawr yn achos crefydd yn Sir Oneida, ac a hir-gofiwyd am dano. Eir yn mlaen i roddi parhad o'i hanes yn Steuben, &c., &c.

[Dyna i gyd a gawsom o'i hanes. Dichon mai llesgedd henaint ataliodd yr hen frawd parchus i orphen cyflawni ei amcan.]




Dr. Everett fel Pregethwr.

GAN Y PARCH. ERASMUS W. JONES.

Fel pregethwr, yr oedd Mr. Everett, yn mlynyddoedd ei nerth, yn dra phoblogaidd; a chlywais fod ei weinidogaeth foreuol yn yr Hen Wlad yn llawn o dân. Nid wyf yn sicr fy mod wedi ei glywed yn ei ddyddiau goreu, ond yr wyf yn hollol sicr i mi glywed pregethau o enau Mr. Everett nad anghofiaf mo honynt byth. Nid rhyw lithrig iawn fyddai yn ei "ragymadrodd" i'w bregeth, ond cynyddai mewn rhwyddineb wrth fyned yn mlaen; ac nid yn unig mewn rhwyddineb, ond hefyd mewn teimlad, dwysder, a dyddordeb. Dechreuai ei lygaid duon fflamio, canfyddid gwresawgrwydd enaid yn ei wynebpryd, a chredai y gwrandawyr eu bod yn gwrandaw ar genadwri o'r orsedd. Nid â rhyw bynciau mawrion, dyryş, y byddai Mr. Everett yn ymyraeth, ond cymerai wirioneddau eglur yr efengyl, ac a'u gwasgai adref at gyflwr y pechadur. Byddai ei holl bregethau yn ddifrifol, a rhyw gyfran o bob un yn llawn o'r elfen argyhoeddiadol. Os da yr wyf yn cofio, ni fyddai byth yn arfer yr hen hwyl gynghaneddol Gymreig; ond er hyny byddai ei lais ar gywair cymedrol, ac yn llawn melusder. Nid wyf yn cofio i mi erioed glywed gair o'i enau, tra yn yr areithfa, a barai i'r bobl wenu. Nid oedd dim o hyn yn ei natur. Buasai y fath beth o'i enau ef yn hollol annaturiol, ac yn achos o syndod i'w wrandawyr. Nid wyf yn dywedyd hyn er ei glod na'i anghlod, ond dyna ydoedd natur y dyn.

Y mae un bregeth arbenig o eiddo Mr. Everett ar fy meddwl, ac y mae ugeiniau eto yn ardaloedd Trenton, Steuben a Remsen yn cofio yr amser, ac yn cofio y bregeth. Traddodwyd hi yn nghwrdd mawr y y diwygiad yn y "Capel Ucha'," yn y flwyddyn 1838, ychydig wythnosau cyn ei sefydliad fel gweinidog yn Steuben. Y testyn oedd 2 Cor. v. 20. “Am hyny yr ydym ni yn genhadau dros Grist, &c." Yn unol ag ysbryd y testyn, anerchai y rhan annychweledig o'r gynulleidfa fel gwrthryfelwyr o dan arfau yn erbyn y rheolaidd Frenin, a galwai y gweinidogion oedd yn y cwrdd yn "Genhadau dros Grist," yn ymdrechu i'w dwyn i gymod â Duw. "Ond," meddai y pregethwr, a difrifwch goruwch naturiol ar ei wyneb, "nis gallwn fel cenhadon addaw dim i chwi fel gwrthryfelwyr. Rhaid i chwi roddi yr arfau yna o'r neilldu cyn y gall eich brenin weinyddu maddeuant." Ac fel yna aeth yn mlaen gan anerch y gwrthryfelwyr, ac yn cynyddu mewn dwysder bob moment, a'i lais mor glir ag udgorn arian, tra yr edrychai y gynulleidfa fawr arno fel un o brif swyddogion yr orsedd. O'r diwedd, safai a'i ddwylaw yn ddyrchafedig tua'r nefoedd, a'i ddagrau yn llifo dros ei ruddiau, a bloeddiai dair gwaith, "Arfau i lawr! Arfau i lawr! ARFAU I LAWR!" Yr oedd yr olygfa fel bron yn wyrthiol. Yr oedd nerthoedd y byd a ddaw yn cydfyned â'r genadwri; saint Duw yn bloeddio buddugoliaeth, a gwrthryfelwyr rhoddi eu harfau i lawr, ac yn llefain am drugaredd.



Dr. Everett fel Gwrthwynebwr Caethwasiaeth.

GAN Y PARCH. ERASMUS W. JONES.

Y mae canoedd o'n pobl ieuainc na wyddant fawr am deimladau y werin, o berthynas i'r pwnc o gaethwasiaeth Americanaidd, bymtheg-ar-hugain o flynyddoedd yn ol. Anhawdd iddynt amgyffred dyfnder y gwarth a'r dirmyg a deflid ar yr ychydig bersonau a elwid yn Abolitionists, yn mhlith y Cymry, yn gystal ag yn mhlith eraill. Gwridai gwynebau gan ddigofaint, os meiddiai gwr Duw gymaint a chofio y caethwas truan yn ei weddi gyhoeddus yn y cysegr; ac nid oedd dim yn fwy poblogaidd a pharchus nag erlid a gwawdio y gwrthgaethiwyr. Dyma oedd y teimlad cyffredin trwy y wlad, ac yn yr holl eglwysi o'r bron. Dynion mwyaf parchus dinas Utica yn uno i dori fyny a mobio cwrdd rheolaidd a thawel a gynelid yn y ddinas gan gyfeillion y caethwas! Pregethwyr perthynol i'r Trefnyddion Esgobol yn cael eu dwyn i gyfrif a'u ceryddu o flaen conferences, am fod yn euog o fod yn bresenol mewn cyrddau gwrthgaethiwol ! Dyma oedd y teimlad cyffredinol mewn gwlad ac eglwys. Y Whigs a'r Democrats yn ymryson fel pleidiau gwladol pa un a allai ymostwng iselaf o flaen y ddelw fawr gaethiwol ar wastadedd y De. Mewn amser fel yna, pan oedd yr achos yn ei ddirmyg iselaf, y gwelodd Mr. Everett yn dda daflu ei holl ddylanwad o blaid y caethwas gorthrymedig.

Y fath oedd lledneisrwydd, boneddigeiddrwydd a thawelwch Mr. Everett, yn nghyd a phurdeb ei ymarweddiad, fel yr arbedwyd ef i raddau rhag llymder yr erledigaethau hyny a oddiweddasant ddiwygwyr mwy byrbwyll a thanbaid. Ond er maint ei addfwynder efengylaidd, dyrchafai ei lais fel udgorn yn erbyn pechodau yr oes, yn enwedig caethwasiaeth. Dydd y pethau bychain oedd hi gyda'r achos gwrthgaethiwol am lawer o flynyddoedd, a chwerddid am benau Mr. Everett a'i fintai fechan fel y chwarddai Sanbalat a Tobia am ben yr Iuddewon pan mewn gwendid yn ymdrechu ail-adeiladu muriau Jerusalem. Nid doeth aros yn faith ar yr amseroedd hyny, na chondemnio yn fyrbwyll y rhai a erlidiasant y gwrthgaethiwyr borcuol. Yr oedd llawer o honynt yn wyr ac yn wragedd da a duwiol, ac yn credu yn sicr eu bod ar lwybr dyledswydd. Nid oeddynt wedi cymeryd amser i edrych ar gaethiwed yn ei holl echryslonrwydd. Mae y rhan fwyaf o honynt sydd eto ar dir y byw wedi llwyr gyfnewid eu barn er ys llawer o flynyddoedd, ac eraill wedi croesi yr afon mor selog yn y ffydd wrthgaethiwol ag y bu Mr. Everett ei hunan erioed.

Flynyddoedd cyn ei farwolaeth cafodd y pleser gogoneddus o weled y gadwyn gaethiwol olaf yn cael ei dryllio, a'r caethwas olaf yn cael ei ryddhau. Onid melus i'w ysbryd oedd cofio fod pob anadl yn ei fywyd hirfaith, wedi bod o blaid y caeth was ac iawnderau dyn? "Efe a welodd o lafur ei enaid ac a ddiwallwyd."

Nid wyf yn cofio i mi erioed weled Mr. Everett, ond unwaith am ychydig fynydau, cyn i mi ei weled a'i glywed yn y diwygiad mawr yn Steuben yn y flwyddyn 1838. Yn fuan ar ol hyn cefais y pleser a'r anrhydedd o ffurfio ei adnabyddiaeth, a'm derbyn i'w gyfeillgarwch ef a'i anwyl deulu; y rhai a gerais ac a berchais o'r awr hono hyd yr awr hon, ac er fod y weinidogaeth deithiol wedi ein gwahanu am amser maith, y mae coffadwriaeth fendigedig y teulu wedi bod yn gynes yn fy nghof ar hyd y blynyddoedd.



Adgofion am y Diweddar Barch. Dr. Everett.

GAN Y PARCH. E. DAVIES, WATERVILLE.

Pa un a yw argraffiadau cyntaf yn debyg o fod bob amser y rhai cywiraf, ai nid ydynt, sicr yw eu bod yn fynych yn ddyfnion ac arosol; fel mai gydag anhawsder mawr, yn aml, yr ymryddheir oddiwrthynt, os, yn wir, y gellir eu cwbl newid neu lwyr ddileu eu heffeithiau byth. Dylanwada argraffiadau cyntaf yn fawr i liwio a llunio ein rhagfarnau, ac felly i benderfynu i raddau helaeth gymeriad ein hargraffiadau dilynol. Os bydd yr argraffiadau cyntaf am bethau neu bersonau yn anffafriol, gosodir ni ar unwaith dan anfantais i'w parchu yn briodol, neu ymddwyn yn weddus tuag atynt. Nid oes odid neb mewn oedran a synwyr heb fod yn meddu profiad i raddau o'r mawr ddylanwad a fedd eu hargraffiadau cyntaf arnynt, er lles neu er niwed. Cyfaddefa ysgrifenydd y llinellau hyn yn rhwydd wrth ddechreu, mai ffafriol iawn oeddynt yr argraffiadau cyntaf a gafodd ar ei feddwl am y diweddar Barchedig Dr. Everett.

Y tro cyntaf erioed i mi weled Mr. Everett ydoedd yn Steuben, yn amser yr adfywiad crefyddol mawr a fu yno yn 1838. Nid oeddwn y pryd hwnw ond ieuanc iawn; eto yr wyf yn cofio yn dda, fy mod yn eistedd wrth ffenestr, yn ochr orllewinol yr hen gallery oedd y pryd hwnw yn y capel, pan ddaeth Mr. Everett mewn cerbyd i'r buarth (yr oedd y sheds yn llawn o gerbydau), ac y mae yr argraff a adawodd ei ymddangosiad cyntaf hwnw arnaf yn aros yn fyw yn fy meddwl hyd y dydd hwn. Yr oedd, fel y crybwyllwyd, yn adeg o adfywiad crefyddol grymus iawn y pryd hwnw yn y lle; a chyfarfodydd pregethu, cyngori a gweddio yn cael eu cynal ddydd a nos am rai wythnosau. Ac yr wyf yn cofio fod cryn son fod Mr. Everett i fod yno ar y diwrnod crybwylledig, fel yr oedd fy nysgwyliadau wedi eu codi yn uchel iawn y diwrnod hwnw; oblegid yr oeddwn yn cael fy nysgu yn y teulu gartref i goledd syniadau uchel iawn am Mr. Everett, cyn ei weled erioed, canys yr oedd enw Mr. Everett yn barchus yn ein teulu ni er ys pan wyf yn cofio gyntaf. Nid oedd neb, byw na marw, yn America, nac yn Nghymru chwaith, ond Dr. George Lewis, Llanuwchlyn, a'r Parch Wm. Williams, o'r Wern, mor berffaith yn ngolwg fy nhad a Mr. Everett; ac ni flinai fy mam ychwaith yn son am ei ragoriaethau digyffelyb. Cefais fy nysgu, gan hyny, er yn blentyn i ystyried Mr. Everett yn un o ddynion mwyaf rhagorol y ddaear, ac yn un o gymwysaf weinidogion y Testament Newydd. A darfu i'r olwg gyntaf hono a gefais arno trwy y ffenestr, yn hen "Gapel Uchaf," Steuben, sylweddoli ar unwaith i'm meddwl plentynaidd y syniadau uchel a goleddaswn am dano.

Y mae yn dda genyf allu dwyn tystiolaeth, ar ol adnabyddiaeth lled drwyadl o hono, am y rhan fwyaf o'r deugain mlynedd sydd wedi pasio er hyny, na ddygwyddodd dim erioed i newid y syniadau uchel am dano a goleddaswn ar y cyntaf; namyn i'w codi yn uwch, a'u gwneuthur yn fwy sefydlog a digyfnewid. Yr oedd yn wir megys "angel Duw;" ac yn un o "werthfawr feibion Seion; a chystal ag aur pur." Nid wyf yn gallu cofio dim am bregeth Mr. Everett y tro cyntaf hwnw y gwelais ef; er fod yn lled sicr genyf iddo bregethu. Ei ymddangosiad syml a difrifol, a'i drwsiad gweddus a da, yn fwy na dim arall y tro hwnw, a adawodd argraff ffafriol ar fy meddwl am dano fel gwas yr Arglwydd a gweinidog yr efengyl, yr hyn na wnaeth adnabyddiaeth helaethach a llawnach o hono ar ol hyny, ond ei ddyfnhau a'i wneyd yn annileadwy.

Yr oedd genym chwech neu saith milltir o ffordd i fyned i'r "Capel Ucha'," a hyny hefyd ar ein traed, oblegid nid oedd cerbydau mor gyffredin y pryd hwnw ag ydynt yn awr; a phe buasent, nid llawer o gysur gawsai neb o deithio ynddynt, yn enwedig pan na byddai eira, gan mor newydd a garw oedd y ffyrdd. Felly nid oedd y teulu oll yn gallu cael y cyfarfodydd dyddiol hyny yn ddigoll, ac nid wyf yn gallu cofio i mi weled Mr. Everett yn ystod y cyfarfodydd hyny ond yr unwaith a grybwyllwyd. Ac er iddo yn fuan ar ol hyny ddyfod i Steuben yn weinidog, ychydig ydwyf yn allu gofio am dano, am rai blynyddau ar ol hyny, oblegid sefydlwyd ysgol Sabbothol, a dechreuodd y Parch. Morris Roberts ddyfod i bregethu i'n cymydogaeth (Bethel), ac anfynych ar ol hyny y byddai neb o'n teulu ni yn myned i Steuben, oddieithr fy mam. Teithiasai hi yno am flynyddau yn ffyddlon, trwy braidd bob tywydd, ar ei thraed, ac yr oedd ei meddwl wedi ymgylymu yn dyn a'r eglwys yno. A chryn aberth iddi oedd ffarwelio â'r brodyr a'r chwiorydd yn yr hen gartref, yr oedd bellach wedi ymsefydlu ynddo, ac ail-ffurfio cysylltiadau newyddion, a dechreu byw o'r newydd megys, yn eglwys ieuanc Bethel, Ond yr oedd mor bell i gerdded i Steuben, ac mor agos a chyfleus i Bethel, fel y penderfynodd o'r diwedd ganu yn iach i'w hen gyfeillion hoff yn y "Capel Ucha"," er, fel Orpah gynt, dan wylo, ac yr ymgysylltodd a'r eglwys yn Bethel, lle yr ymgartrefodd yn fuan eto, fel mai croes drom iddi ydoedd ymadael oddiyno wedi hyny i Waterville, lle y gorphenodd ei gyrfa ddaearol.

Felly o herwydd ein mynediad i Bethel, nid oeddwn mewn cyfleusdra i glywed Mr. Everett ond pan ddeuai yn achlysurol yno i gyfarfod chwarterol neu arall, neu ynte ar gyfnewid â Mr. Roberts, am Sabboth. Ond y mae genyf hyd heddyw adgof lled dda am rai pregethau a glywais ganddo pan oeddwn yn lled ieuanc. Un oedd oddiar Diar. iii. 13-18, a draddodwyd bellach er ys agos i bymtheg-mlynedd-ar-hugain yn ol, yn yr hon yr uchel-ganmolai grefydd fel "Doethineb;" ac y cymellai hi ar bawb fel y "trysor gwerthfawrocaf." Sylwai:

I. Ar y ddoethineb a nodir. Ac mewn ffordd o eglurhad darllenodd Diar. i. 7, a Job xxviii. 12—28; a dywedai mai gwir grefydd a olygid.

II. Y ganmoliaeth a roddir i'r ddoethineb hon. Ac aeth dros y gwahanol bethau a ddywedir yn y testyn o adnod i adnod, yn addysgiadol a dyddorol iawn.

Cofiwn fel y dywedai wrth sylwi yn olaf ar hyn, mai "pren y bywyd yw hi," ac mai yn mharadwys yr oedd, ac y mae, pren y bywyd yn tyfu; ac mai gwir grefydd yn unig a adferai i ddyn yr hyn a gollodd drwy bechod.

III. Gwynfydedigrwydd y rhai sydd yn feddianol ar y ddoethineb hon. Sylwai mai trwy gloddio yr oedd cael gafael ar y ddoethineb hon, ac mai gwyn ei fyd a ddalio ei afael ynddi hi, sef, 1. Yn y waredigaeth a gaiff. 2. Yn y mwynhad presenol a rydd. 3. Yn y gobaith a gynyrcha. Codai ei sylwadau goleu ac effeithiol ddymuniad cryf ynof ar y pryd am gael gafael ar y ddoethineb a ganmolai mor fawr.

Dro arall clywais ef yn pregethu oddiar 1 Cor. xii. 13: "Oherwydd trwy un ysbryd y bedyddiwyd ni oll yn un corph, pa un bynag ai Iuddewon ai Groegwyr, caethion ai rhyddion, ac ni a ddiodwyd oll i un ysbryd;" pryd y traethai yn swynol a thoddedig iawn ar Undeb Eglwys Crist. Sylwai yn

I. Ar natur undeb Cristionogol, sef, 1. Nid fod gwahanol enwadau yn rhoddi i fyny eu barnau a'u dulliau neillduol. 2. Nid rhoddi i fyny athrawiaethau y gair. 3. Nid tewi ar ryw faterion er mwyn heddwch. Ond yn 1. Undeb yn ysbryd yr efengyl i feithrin ysbryd cariad, ac i oddef ein gilydd mewn cariad. 2. Cydweithrediad yn erbyn Anghrist a'r holl bethau sydd yn cyfodi yn erbyn achos Duw.

II. Anogaethau i undeb Cristionogol: 1. Un yw eglwys Dduw. 2. Yr un yw dybenion ei gosodiad, sef, gogoneddu Duw, rhwyddhau sancteiddrwydd ei bobl, a dychwelyd y byd at Dduw. 3. Yr un berthynas sydd rhyngddynt oll â Duw—oll yr un mor wirioneddol blant iddo, yr un mor anwyl ganddo, ac agos ato. 4. Ewyllys yr Arglwydd yw i'w bobl fod yn un, Ioan xvii. 21. 5. Yr un rheol ogoneddus sydd ganddynt i fyw wrthi. 6. Y mae arwyddion fod yr Arglwydd yn ei ragluniaeth yn gwneuthur ei bobl yn un.

III. Y modd i gyrhaedd y dyben gogoneddus, sef, 1. Trwy i bob un ymdrechu darostwng anghariad yn ei fynwes ei hun. 2. Dylai fod yn fater o weddi yn gyffredinol. 3. Cydlawenhau yn llwyddiant gwaith yr Arglwydd yn ei holl ranau. 4. Cyfnewid doniau, newid pregethwyr, &c. 5. Cynal cynadleddau cyhoeddus er meithrin undeb. 6. Actio allan egwyddor crefydd yn ein bywyd.

Dyna fel y nodais i lawr y penau wrth ei wrando, ond maent yn mhell o gyfleu y bregeth yn ei gwres a'i bywyd fel y traddodai hi.

Cefais adnabyddiaeth helaethach a mwy trwyadl o Mr. Everett cyn hir ar ol hyny drwy y Cenhadwr—y rhifyn cyntaf o'r hwn a ddaeth i'n ty, ac y mae yn ymweled yn fisol a'm hanedd, o hyny hyd yn bresenola thrwy ei "Gatecism Cyntaf," yr hwn a arferid yn ein hysgol Sabbothol, a'r hwn a ddysgais oll, ac a adroddais allan, drosodd a throsodd lawer o weithiau. Daethum wedi hyny yn fwy cydnabyddus ag ef eto, mewn cysylltiad a'r achosion dirwestol a gwrthgaethiwol, y rhai yn y blynyddoedd hyny a dynent sylw cyffredinol, ac a fawr gynhyrfent ein gwlad. Yr oedd ei anerchiad argraffedig ar Gymedroldeb yn ein ty ni er cyn cof genyf. Yr oedd yn un o'r ychydig lyfrau a feddem, yn y rhai y dechreuais ddysgu darllen Cymraeg. Yr oedd fy nhad a'm mam yn llwyr-ymwrthodwyr egwyddorol er pan wyf yn cofio, ac yr oedd ganddynt air mawr i "bregeth Mr. Everett," fel y galwent yr anerchiad. Ac wrth geisio sillebu allan yr anerchiad hwnw y cefais fy syniadau cyntaf am fawr ddrygedd anghymedroldeb a meddwdod, ac nis gwn i ba raddau yr wyf yn ddyledus iddo am fy nghadw hyd yma rhag syrthio, fel llawer o'm cyfoedion, yn ysglyfaeth i'r gelyn a'r dinystrydd meddwol. Llwyr argyhoeddwyd fi yn fy mlynyddoedd boreuol hyny mai llwyr—ymwrthodiad â'r diodydd syfrdanol oedd yr unig sicr ddiogelwch rhag meddwdod, ac o hyny hyd yn awr yr wyf wedi cael fy nghadw o afael y brofedigaeth o yfed gwirod o un math erioed, fel diod.

Cyn hir ar ol cychwyniad y Cenhadur dechreuodd y cyffroad gwrthgaethiwol gynhyrfu y wlad. Yn wir, ceir yn y rhifyn cyntaf oll o hono ysgrifau ar gaethiwed a dirwest; y gyntaf gan Cadwaladr Jones, y pryd hwnw o Cincinnati, Ohio, ond yn awr o Lanfyllin, Cymru; a'r olaf gan y Parch. Samuel Roberts, Llanbrynmair, (S. R.), o'r Dysgedydd. Felly cymerodd y Cenhadwr ar unwaith safle ddiamwys a phenderfynol yn erbyn caethiwed a meddwdod—yn erbyn y fasnach mewn dynion duon; ac yn erbyn y fasnach mewn gwirodydd i ddinystrio dynion duon a gwynion. Ac "arhôdd ei fwa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylaw a gryf hasant, trwy ddwylaw grymus Dduw Jacob," hyd nes y difodwyd caethwasiaeth o'r wlad, y drylliwyd cadwynau trais, ac y gollyngwyd y gorthrymedigion yn rhyddion. Gobeithio na laesa ei ddwylaw, ac na lwfrhâ, eto, hyd nes y bydd y fasnach mewn diodydd meddwol hefyd wedi ei hollol wahardd yn mhob rhan o'r wlad.

Cefais y fraint o gydymdrechu & Mr. Everett, ar raddfa fechan, yn achosion rhyddid a dirwest yn gystal a'r ysgolion Sabbothol, er pan oeddwn yn lled ieuanc. Yr oeddwn, er pan wyf yn cofio, yn calonog gydymdeimlo ag ef yn ei ymdrechion egniol gyda'r achosion hyny. A byddwn yn arfer myned i'r cyfarfodydd mynych a gynelider eu pleidio, yn agos ac yn mhell, hyd y gallwn, cyn bod yn ddigon hen i gymeryd unrhyw ran ynddynt. Bob yn dipyn daeth achos dirwest yn boblogaidd iawn yn ein cymydogaethau, a chynelid cyfarfodydd yn aml i areithio ar yr achos. Yn gyffredin pan na ddysgwylid rhyw un dyeithr i fod yn bresenol, penodid amryw mewn un cyfarfod i barotoi areithiau erbyn y cyfarfod nesaf; a mawr y drafferth a fyddai yn aml er dysgu araeth fer o bum' mynyd ar yr achos. Yn mysg eraill cefais inau fy mhenodi yn fy nhro i siarad yn gyhoeddus ar yr achos. Ac ar ol dechreu, byddwn yn cael fy mhenodi yn lled fynych i siarad. Efallai mai oddiar yr egwyddor, ac yn ol yr hen air, "Gyru'r ci a redo" yn fwy nag oddiar unrhyw ragoriaeth ynwyf fel siaradwr,

y bu hyn. Fodd bynag, yr oeddwn y pryd hwnw yn llawn sel gyda'r achos, a byddwn yn cael gwahoddiad yn lled fynych i'r cymydogaethau cylchynol i anerch y bobl ar achos dirwest.

Cadwyd cyfarfodydd gwrthgaethiwol hefyd, y rhai ar y cyntaf a gynelid mewn tai anedd yn ein cymydogaeth ni, am fod yr achos yn newydd ac anmhoblogaidd eto. Ond yr oedd yno rai wedi cael eu meddianu gan yr ysbryd gwrthgaethiwol, fel y cadwyd y cyfarfodydd hyny yn mlaen am gryn amser, ac ni wnai y dirmyg a deflid arnynt yn lled fynych ond cryfhau eu penderfyniad a mwyhau eu sêl i fwy o ymroad o blaid yr achos. Byddent weithiau yn cael eu cynorthwyo yn y cyfarfodydd hyn gan y Parchn. Robert Everett, Morris Roberts, a rhai eraill, yr hyn a fyddai yn galondid mawr iddynt. Cynelid yn y blynyddoedd hyny hefyd gyfarfodydd achlysurol ar achos yr, ysgolion Sabbothol; ac yr oedd Mr. Everett yn bleidiwr ffyddlon i'r achos hwn hefyd. Felly, rhwng y gwahanol achosion dyngarol a daionus hyn, a'r mynych gyfarfodydd a gynelid yn y gwahanol gymydogaethau o blaid y naill neu y llall o honynt, dygwyd fi yn lled ieuanc i gyfarfyddiad a chydnabyddiaeth lled dda, â Mr. Everett fel diwygiwr.

Er ys deg-mlynedd-ar-hugain, bellach, dechreuais ddyfod i gydnabyddiaeth agosach eto a Mr. Everett, o fewn cylch y weinidogaeth efengylaidd. Ac yn ystod yr amser o hyny hyd pan y gorfodwyd ef gan henaint a methiant i ymneillduo oddiwrth y gwaith, ni chefais neb yn fwy caredig a ffyddlon i mi nag ef. Cyfarfyddem yn dri-misol ac amlach, i gyd-gynal cyfarfodydd a chyd-bregethu. Cefais lawer cyfeillach felus gydag ef, a llawer o gyngorion gwerthfawr ganddo, yr hyn a fu yn fendithiol iawn i mi. Cyfarwyddai fi yn dyner a charedig, fel y cyfarwyddai tad ei blentyn a fawr hoffai, ac nid yn fynych fel yr oedd y blynyddoedd yn tynu yn mlaen, y byddai unrhyw achos o bwys yn dyfod o dan ei sylw na byddai yn ymgyngori â mi mewn perthynas iddo, fel pe buaswn yn henafgwr gwybodus a phrofiadol, gan mor ostyngedig a chyfeillgar ydoedd! Ffurfiwyd felly gyfeillgarwch cynes rhyngom, a barhaodd yn ddidor hyd y diwedd.

Cyfrifaf fod i mi gael fy nwyn i fyny megys o dan ofal a nawdd y Parchn. Robert Everett a Morris Roberts, yn un benaf ragorfreintiau fy mywyd. Mor gynes oedd eu serchogrwydd at yr ieuanc! Mor fawr oedd eu cydymdeimlad â'r gwan! Mor dyner a charedig, ac eto mor ffyddlon a' di-dderbyn-wyneb y cyngorent yr anmhrofiadol! Ac mor barod oeddynt bob amser, eu dau, i galonogi y llwfr a digalon! Mawr deimlaf fy ngholled am eu cymdeithas adeiladol, ac aml y daw teimlad o brudd-der drosof, wrth gofio na châf eu cyfarfod byth mwyach ar y ddaear. I Dduw pob gras y byddo diolch am obaith gwan gael eu cyfarfod eto mewn gwlad sydd well, lle y bydd yr adnabyddiaeth yn berffeithiach, yr wybodaeth yn llawnach, y mwynhad yn fwy ysbrydol a phur, a'r gymdeithas felus yn wastadol a diddarfod!

"Henffych i'r dydd cawn eto gwrdd,
Yn Salem fry oddeutu'r bwrdd."



Braslun o Gymeriad Dr. Everett.

GAN Y PARCH. H. E. THOMAS, D. D., PITTSBURGH, PA.

Ni pherthyn i mi fyned yn fanwl trwy symudiadau hanes bywyd Dr. Everett, ond cyfeiriaf yn fyr at rai o'r llinellau hyny oeddynt yn hynodi ei gymeriad. "Gwr Duw," ysgrythyrwr cadarn, ysgolaig coeth, gwyliwr ffyddlon yn Seion, ysgrifenydd medrus, a dyn cenedl oedd Dr. Everett. Gellir dyweyd yn ddibetrus iddo adael argraff ar feddwl pawb yn nechreu ei weinidogaeth yn Ninbych, a pharhau i ddyfnhau yr argraff hono hyd derfyn ei weinidogaeth yn Steuben, ei fod yn ddyn duwiol ac yn weinidog da i Iesu Grist. Ei dduwioldeb oedd llinell flaenaf, a choron ei gymeriad. Yr oedd hefyd yn arbenig o fwyn a boneddigaidd. Nid oedd dim o'r dywalgi, yr arth a'r blaidd ynddo. Yr oedd yn fwyn heb fod yn wasaidd, ac yn foneddigaidd heb fod yn wenieithus. Hawdd oedd canfod hyn yn ei wedd. Yr oeddwn un tro mewn ystafell lle yr oedd Dr. Arthur Jones, o Fangor (y pryd hwnw o Gaer), yn dal i graffu ar y darluniau oeddynt yn crogi ar y muriau, a phan y daeth at ddarlun Dr. Everett dywedai, "Ioan-like ydyw o." Meddyliais am yr ymadrodd y foment y gwelais y person ei hun yn Nghymanfa Utica, yn 1869. O'm blaen y safai henafgwr o gorph byr ac eiddil, gwyneb crwn, llygaid gafaelgar, ac edrychiad dwys, mewn gwisg lân a thrwsiadus, a chadach gwyn am ei wddf, yn ol hen ffurf bregethwrol Cymru—dyma Dr. Everett, meddwn wrthyf fy hun, heb ymholi â neb. Na thybied neb ychwaith, er fod ganddo y llygaid mwyneiddiaf, a'r galon dyneraf, ei fod yn orlaith; na, yr oedd ganddo asgwrn cefn cryf, ac ysgwyddau diblygu, a gallech ganfod yn ei wefusau ei benderfynolrwydd diysgog.

Rhaid ei fod yn ddyn ieuanc addawol iawn cyn y cawsai alwad i hen eglwys barchus Dinbych. Enillodd safle uchel yn fuan fel pregethwr, a llenor duwinyddol. Nid oedd yn meddu doniau ffrydlifol a chwyddeiriog, ond yr oedd yn hynod dyner, eglur a swynol. Bu ganddo lais hyglyw, treiddiol a soniarus; ond yr oedd wedi ei golli er ys blynyddoedd. Urddwyd ef yn Ninbych, Mehefin 1af, 1815, ac yn mhen y pum mlynedd wedi hyn cymerodd ran flaenllaw yn lledaeniad yr egwyddorion a elwid y "system newydd"—yr oedd yn un o'r chwech enwogion a gydunasant a'r hybarch J. Roberts, Llanbrynmair, i gyhoeddi llyfr ar y mater yr adeg hono. Ni pharodd traethodau erioed fwy o gyffro yn Nghymru. Hefyd cymerodd ran arbenig yn niwygiad mawr yr ysgol Sabbothol oedd driugain mlynedd yn ol yn ymdaenu trwy Ogledd Cymru yn neillduol. Cyhoeddodd "Holwyddoreg i Blant," ac y mae mewn bri mawr yn yr Hen Wlad, yn gystal a'r wlad hon hyd y dydd hwn.

Ymbriododd ag un o ferched yr hen amaethdy enwog Rosa, ger Dinbych, a chafodd wraig dda, a buont mewn undeb priodasol am oddeutu triugain mlynedd. Wedi gweithio yn galed a llwyddianus yn Ninbych am wyth mlynedd daeth i Utica i weinidogaethu, a chafodd fyw i wasanaethu ei enwad a'i genedl yn y wlad hon am oddeutu deuddeg-mlynedd-a-deugain. Fel golygydd y Cenhadwr am bymtheg-mlynedd-arhugain y bu efallai yn fwyaf defnyddiol i'w enwad, ac yn wir i'w genedl. Rhyw ychydig iawn yn mysg llu o lenorion a allent gyflawni y swydd bwysig o olygu cylchgrawn crefyddol; ond cafodd ef ei ddonio gan Dduw i fod yn olygydd. Nid yn unig yr oedd yn ysgrifenydd medrus ei hun, ond yr oedd yn nodedig o graffus i ganfod rhagoriaethau a diffygion eraill. Yr oedd gan yr eglwysi ymddiried yn ei farn, ei degwch, a'i awyddfryd i wneyd daioni. Nid y llenor mwyaf beiddgar a chynhyrfus bob amser yw y golygydd goreu, yn enwedig i gyhoeddiad enwadol. Y mae yn ddiau iddo ef gwrdd ag adegau cynhyrfus ac amgylchiadau cyfyng iawn, a buasai diofalwch neu hunangarwch yn peri blinderau enbyd i'r eglwysi. Gellir olrhain y rhwygiadau eglwysig a'r terfysgiadau enwadol yn fynych i ddiffyg craffder neu orlymder golygwyr newyddiaduron neu gylchgronau. Ond gwyliai ef yn graff bob ysgrif, a gofalai rhag y gwenwyn ar y saethau. Dichon fod rhai yn tybio ei fod yn rhy ochelgar, ond canfyddai ef y perygl yn brydlon. Fel hyn y bu yn wasanaethgar i gadw heddwch yn yr eglwysi a thangnefedd rhwng y brodyr.

Bu yn bleidiwr egniol a chydwybodol i wahanol symudiadau daionus a diwygiadol yr oes, yn wladol a moesol. Teimlai ef dros y caeth oedd yn agored i gael ei werthu o feistr i feistr, er mai du oedd ei groen, a thlawd oedd ei amgylchiadau. Llefarodd yn gryf yn erbyn caethwasiaeth pan yr oedd yn beryglus gwneyd hyny, a phan yr oedd y fasnach yn dwyn elw i filoedd. Gwnaed coffadwriaeth yn y nefoedd am ei sel, ei lafur, a'i ddadleuon teg dros ryddid y dyn a'r ddynes, y meibion a'r merched duon, oeddynt yn agored i fflangell, ac a wylid gan y cwn gwaedlyd. Cafodd fyw i weled eu jubili, ac i glywed eu caniadau. Bu yn ddiysgog nes cyrhaedd ei nod, ond amlygodd dynerwch at ei hen erlidwyr. Ni chafodd dirwest un pleidiwr mwy ffyddlon. Edrychai ar y meddwon mewn caethiwed echryslon, a chysegrodd ei dalent a'i ddylanwad i'w dwyn hwythau i dir rhyddid. Ni roddai ddirwest yn lle crefydd, ond yn wasanaethgar i dywys dynion at grefydd, a'u cadw yn ei llwybrau glan a hyfryd hi. Yr oedd yn elyn cydwybodol i ysmocio, nid oddiar ryw chwim, ond oddiar argyhoeddiad cryf fod myglys yn niweidiol i'r corph, a'r arian a delid am dano yn wastraff o'r fath fwyaf gwarthus. Gwnaeth ei ymddygiad a'i gynghorion dwys a thadol les i laweroedd. Credai mewn diwygiadau gwladol, ac ysgrifenodd ei ran dros y mesurau a farnai er lles ei wlad. Nid oedd arno ofn y Phariseaid a rwgnachent yn erbyn gwleidyddiaeth y gweinidog. Teimlai ei fod yn ddyn a dinesydd, yn gystal a phregethwr yr efengyl. Hiraethai am weled y ddaear yn dyfod yn fwy tebyg i'r nefoedd, a gweithiai ei ran i gael hyny o amgylch. Nid yn y cysgod yr oedd efe pan yr oedd sefydliadau ei wlad yn y perygl, ac egwyddorion llywodraeth deg ar fin cael eu diorseddu. Yr oedd yn y rhengoedd blaenaf yn ymladd yn erbyn twyll a gormes. Mewn gwirionedd, un o gadfridogion dewraf rhyddid a thegwch gwladol oedd y diweddar Dr. Everett.

Fel hyn y treuliodd oes faith gyda phethau crefydd, moesoldeb, a gwleidyddiaeth, nes marw yn ei barch, yn tynu at y pump—a—phedwar—ugain oed. Y mae y llaw fach dyner a boneddigaidd fu yn defnyddio yr ysgrifell i wasanaeth mor bur a gwerthfawr wedi gwywo; a'i gorph yn huno yn dawel yn Steuben, filoedd o filltiroedd o Gronant, y fan y ganwyd ef yn nechreu Ionawr, 1791. Caffed ei blant a'i berthynasau bob tynerwch gan ddynion, er mwyn yr "Hen Olygydd" sydd yn y briddell, a bydded "yr Arglwydd ardderchog" yn noddwr i Seion, ar ol i un o'r gwylwyr ffyddlonaf fyned i orphwysfa lle nad oes gelyn.


Coffadwriaeth Dr. Everett yn West Winfield, N. Y.

WEST WINFIELD, N. Y., Mehefin 26, 1879.

Fy Anwyl Frawd Davies—Deallwyf eich bod yn nglyn a'r gorchwyl canmoladwy o ysgrifenu hanes bywyd y diweddar Barch. Robert Everett, D. D. Mawr lwyddiant a hwyl i chwi yn y gwaith; a phan ddel y gyfrol allan o'r wasg, bydded galwadau am dani wrth y miloedd, a gwasgarer hi trwy hyd a lled y sefydliadau Cymreig. "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig;" a mwy bendigedig na'r cyffredin, feddyliwn i, a ddylai fod coffadwriaeth Dr. Everett.

Ychydig dros flwyddyn yn ol, trwy droad yr olwyn weinidogaethol, gosodwyd fi i lawr yn West Winfield. Yn fuan ar ol sefydlu yma, un prydnawn aethum i addoldy hardd yr Annibynwyr Seisonig. Ar ol diweddu y cwrdd, cyfeiriodd Capt. Owen Griffith fi at un o'r ffenestri eang a phrydferth, ac arni mewn llythyrenau euraidd eglur, canfyddais, "IN MEMORIAM REV. ROBERT EVERETT, D. D." Yn y fan teimlwn fy nghalon yn gwresogi, a'm llygaid yn llenwi.

I lawer o'r bobl henaidd yn y rhan yma o'r wlad, yn enwedig plwyf Winfield, y mae enw Dr. Everett nid yn unig yn dra adnabyddus, ond hefyd yn dra anwyl. Braidd erioed ni welwyd bugail eglwysig a gerid yn fwy gan bobl ei ofal, nag y cerid y Parch. Robert Everett gan yr Eglwys Gynulleidfaol Saesoneg, yn East Winfield, ychydig dros ddeugain mlynedd yn ol. Cefais y pleser yn ddiweddar o ymddiddan o berthynas iddo gyda rhai o'r hen ddiaconiaid, a rhedai eu dagrau pan yn coffa ei ymddygiad lednais a boneddigaidd, a'i weinidogaeth alluog ac efengylaidd.

Y mae yr addoldy yn mha un y pregethai Mr. Everett yn Winfield wedi ei dynu i lawr, ac y mae llawer o'r hen ddefnyddiau yn yr addoldy newydd yn mhentref. West Winfield. Ond er tynu yr hen deml i lawr, a myned i addoli i fan arall, fel y dywedais o'r blaen, ni anghofiwyd eu hen weinidog, ac ni anghofir ef ychwaith tra y gwelir ei enw yn dysgleirio ar y gwydr lliwiedig yn addoldy harddaf y pentref.

Yr un mor barchus hefyd ydoedd ei deulu dyddorol. Cofir am Mrs. Everett a'r plant hynaf gyda pharch a phleser. Gallwn ysgrifenu llawer mwy, ond nid oes un angen. O, fy anwyl Davies! y mae y cyfleusdra hwn o gael dywedyd gair o barch i Mr. Everett yn rhoddi i mi bleser annhraethadwy. Ni fum erioed yn deilwng o ddwyn ei esgidiau, ond bob amser talai i mi bob parch a charedigrwydd. Cefais yr anrhydedd, tra eto yn ieuanc, o gyfranogi ychydig yn ei anmharch fel cyfaill i'r caethwas; "yr hyn brofiad a goleddir genyf heddyw, fel rhywbeth o fwy gwerth nag

——————aur Peru,
A pherlau'r India bell."


Yr eiddoch yn rhwymau'r efengyl,

ERASMUS W. JONES.