Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/Dr. Everett fel Golygydd a Llenor

Oddi ar Wicidestun
Lloffyn o Ddyfyniadau am Dr Everett Cofiant y diweddar Barch Robert Everett

gan David Davies (Dewi Emlyn)

Dr. Everett fel Diwygiwr

PENNOD V.

Dr. Everett fel Golygydd a Llenor

Perthyna i'r enwad Cynulleidfaol dri o gedyrn ydynt wedi gwneyd gwasanaeth gwerthfawr ar y maes golygyddol, sef y Parch. Cadwaladr Jones, Dolgellau; y Parch David Rees, Llanelli, a'r Parch. Robert Everett, D. D. Bu y cyntaf yn olygydd am un-flyneddar-ddeg-ar-hugain, yr ail am ddeg mlynedd-ar-hugain, ond bu yr olaf wrth y gwaith am un-flynedd-arbymtheg-ar-hugain. Llafuriodd yn helaethach nag un o'r lleill


Dysgawdwr oedd golygydd y Dysgedydd; dyn araf a phwyllog, yn gweithio ei ffordd yn rymus ar y maes duwinyddol mewn tymor o ymchwiliad a dadleu mawr. Diwygiwr oedd Rees, yn cyfateb i enw ei gyhoeddiad. Yr oedd yn llawn o ysbryd ymosod ar gysylltiad eglwys a llywodraeth, a phob gormes a llygredigaeth gwladol ac ysbrydol. Ond yr oedd rhagoriaethau a phrif nodweddau y ddau yn cyd-gwrdd yn Dr. Everett. Yr oedd yn ddysgawdwr araf, pwyllog, a ffafriol i welliant duwinyddol, fel Jones; ac yn ymosodwr pybyr ar gaethiwed, gormes a llygredigaeth o bob math, fel Rees. Dichon nad anmhriodol cymwyso ato eiriau y bardd Seisonig, Dryden:

"The force of Nature could no farther go,
To make a third she joined the former two."

Wrth ddarlinellu nodwedd Dr. Everett fel golygydd a llenor, sylwn:

1. Ei fod yn llafurus a gweithgar. Anturiaeth anhawdd a beiddgar oedd cychwyn cyhoeddiad misol fel y Cenhadwr yn America. Nid oedd yma ond ychydig iawn o frodyr yr amser hwnw yn meddu ar gymwysderau i'w gynorthwyo, fel gohebwyr. Gallasai un sir yn Nghymru roddi mwy o gymorth i'r golygyddion yno nag a allasai yr Unol Dalaethau oll roddi i Dr. Everett. Gwaith rhwydd yn Nghymru oedd sicrhau deuddeg o erthyglau arweiniol galluog yn mlaen llaw cyn diwedd un flwyddyn, gogyfer a'r flwyddyn ddyfodol, ac ambell un o'r cyfryw yn werth y cyhoeddiad am y flwyddyn ; ond ofer fuasai i neb feddwl am hyny yma. Dan yr amgylchiadau a fodolent y tu yma i'r Werydd yr amser hwnw, yr oedd dwyn y Cenhadwr allan yn brydlawn bob mis yn sicr o fod yn costio llafur caled i'r golygydd. Heblaw yr erthyglau y ceir ei enw wrthynt, byddai yn cyflawni llawer o galedwaith mewn ffordd o gyfieithu, alfyru, a threfnu newyddion y mis, diwygio gwallau, trefnu gohebiaethau, a gorchwylion cyffelyb nad oes dim clod yn deilliaw o'u cyflawni, er eu bod yn trethu amser ac amynedd y golygydd yn drwm. Nid swydd segur oedd ganddo, ac nid pleserddyn llenyddol ydoedd; ond gweithiwr diwyd. Diameu i'w orchwylion llenyddol, yn ychwanegol at ei waith gweinidogaethol, fod yn llafur caled iddo, ac iddynt ei amddifadu o lawer awr o adloniant yn y dydd, ac o gwsg yn y nos. Ond nid ydym yn cofio ei fod yn ei anerchiadau yn achwyn dim ar ei galedwaith. Ystyriai ei bod yn fraint i gael gweithio dros Dduw a llesoli ei gyd-ddynion. Ar ddiwedd y flwyddyn 1841 dywedai, "Trwy dirion drugaredd yr Arglwydd, wele yr ail gyfrol o'r Cenhadwr Americanaidd wedi ei gorphen. Boed diolch a mawl i'w enw daionus am y cymorth a roddwyd yn y gwaith, ac am y llwyddiant a'i dilynodd. Awn yn mlaen eto yn siriol a chalonog, gan ymddiried yn y fraich a'n cynaliodd hyd yma.' Dengys y llinellau yna yr ysbryd oedd yn ei lywodraethu, a pha le yr oedd cuddiad ei gryfder yn y cyflawniad o'i waith caled.


2. Ei fod yn ysgrifenydd eglur a naturiol. Y mae rhwyddineb a naturioldeb yn prydferthu pob erthygl a ddaeth o dan ei law. Mae ei ysgrifau yn hynod o lathraidd a llyfn, ac yn hyfryd i'w darllen. Yr oedd yn ieithydd medrus a chywir, a'i eirweddiad yn rymus, ac eto heb fod yn arw. Cadwodd ganol y ffordd yn dda rhwng ieithwedd sych a thlawd a gorffrwythlondeb chwyddieithiol. Nid oedd yn defnyddio iaith mor flodeuog ac ansoddeiriol ag S. R., nac yn gorfanylu mor aml-eiriog a chwmpasog a D. Morgans, Llanfyllin. Dengys ei ysgrifau lawer o drefnusrwydd. Dosranai ei faterion yn naturiol a rheolaidd. Nid oedd ei feddyliau wedi eu hamdoi mewn niwl a thywyllwch, ond yr oeddynt yn berffaith eglur i bawb darllenwyr o gyrhaeddiadau cyffredin. Gan ei fod yn feddyliwr clir a goleu ei hun, yr oedd yn medru gwneyd ei feddwl yn glir a goleu i eraill. Pe cymerai llenor at un o'i ysgrifau i geisio gosod ei meddyliau allan yn fwy trefnus, mewn geiriau mwy priodol, ac mewn ffordd ferach a thlysach, buan y canfyddai ei fod wedi ymosod ar dasg pur anhawdd ei gyflawni. Yr oedd ei arddull yn syml, pur a chlasurol, ac nid yn flodeuog a chwyddedig. Os nad oedd yn berchen ar athrylith a hyawdledd fflamiol y Llywydd Samuel Davies a Dr. Chalmers, neu ddirnadaeth ymresymiadol graffus a gorddwfn Jonathan Edwards, Dr. Emmonds a Dr. N. W. Taylor, eto yr oedd yn ddyn rhyfedd o gyflawn, yn berchen meddwl wedi ei fantoli yn dda, ac yr oedd ynddo gydgyfarfyddiad llawer o gymwysderau mawrion, y rhai a osodid ar waith ganddo gyda chysondeb, purdeb a diwydrwydd diarbed. Nid rhaiadr y Niagara yn "synu, pensyfrdanu dyn," oedd ei athrylith, ond afon y Mississippi, yn araf deithio mewn mawredd tawel tua'r cefnfor.

3. Ei fod yn gall a boneddigaidd. Dywedai Gruffydd Risiart (brawd S. R. a J. R.) am dano: "Y mae golygydd y Cenhadwr yn meddu ar radd werthfawr o gallineb—cymwysder hanfodol i olygydd cylchgrawn * * * * Yr oeddwn yn arfer meddwl mai Harris, Abertawe, oedd y callaf yn ei oes am drafod 'gohebwyr;' medrai droi yr hen J. R., Llanbrynmair, oddeutu pen ei fys. Ond nid pell ar ei ol ydyw y patriarch o Remsen yn y dawn tra gwerthfawr hwn.' Pe dywedasai fod Dr. Everett yn llawn mor uchel a Harris mewn callineb, credwn y buasai yn llygad ei le. Yn ei holl ymdrafodaeth â gohebwyr a llenorion, ni chlywsom am neb erioed wedi ei gyhuddo o anfoneddigeiddrwydd. Bu yn gyfyng arno rai gweithiau yn amser dadleuon poethion a therfysgoedd ac ymraniadau eglwysig, pan fyddai pob ochr yn awyddus i droi y Cenhadwr yn beiriant rhyfel i ymladd drostynt hwy; ond trwy ei fwyneidd-dra a'i gallineb, byddai yn llwyddo fynychaf i dawelu y pleidiau a'u cadw rhag tramgwyddo wrth y golygydd a'r cyhoeddiad. Ond eto nid bob amser, oblegid er ei fod yn foneddigaidd, yr oedd yn benderfynol i wneyd yr hyn a farnai yn uniawn; a chlywsom am rai wedi digio yn anfaddeuol wrtho ef a'r Cenhadwr, pan ddylasent yn hytrach fod wedi digio wrthynt eu hunain. Yn ei gyfarchiad i'r darllenwyr yn niwedd 1842, y mae yn dyweyd: "Canfyddir gan ein darllenwyr fod mwy o 'Ddadleuaeth' wedi cael ei ddwyn yn mlaen yn y Cenhadwr y flwyddyn hon nag o'r blaen, a thebygu y mae yn awr na bydd dim llai eto, o leiaf am beth amser i ddyfod. Ond tra y byddo ymosodiad yn cael ei wneyd ar yr hyn a ystyriym yn wirionedd safadwy a thragywyddol y Beibl, nis gallwn lai na dymuno fod ymdrechiadau ffyddlawn yn cael eu gwneyd i amddiffyn y gwirionedd, a'i egluro yn ei symledd, ei ardderchawgrwydd, a'i ddwyfolder, pwy bynag a'i gwrthwynebo, Ond yr ydym yn taer erfyn ar fod hyn yn cael ei wneyd mewn ysbryd addfwyn. Oni wna ein gohebwyr hynaws wrando ar y gyngor yn hyn, a gwylio rhag ysbryd a geiriau anfwyn ac annhirion? Ni wna geiriau felly ddim lles i'r gwirionedd—ni effeithiant er gogoneddu Duw—ac ni chânt yn sicr un effaith dda ar y gwrthwynebydd. O frodyr! ynte, byddwch dirion, tra yn amddiffyn gwirioneddau gogoneddus ein bendigedig Iesu." Dyna eiriau teilwng o ail—argraffiad er mwyn i ddadleuwyr y dyddiau presenol eu gweled.

Yr oedd yn well gan Dr. Everett ddyoddef cam oddiar law enwadau eraill na dwyn yn mlaen ryfel enwadol. Yn 1842 cyhoeddwyd llyfryn yn ceisio llechwraidd drywanu yr enwad Cynulleidfaol, fel un yn ngafael "yr egwyddor o hunan-fawredd, yn gwrthwynebu penarglwyddiaeth gras Duw yn nhrefn cadwedigaeth pechadur." Awgrymid ynddo fod golygiadau yr enwad yn heresi, a'i weinidogion yn offerynau Satan, yn cyflwyno i'r bobl wenwyn cyfeiliornadau. Daeth rhai o'n gweinidogion allan i amddiffyn eu hunain, fel yr oedd yn deg iddynt wneyd. Pan welwyd hyny codwyd llef am "ysbryd erledigaethus" y y Cenhadwr. Rhwydd iawn fuasai i Dr. Everett ddangos pwy oedd wedi dechreu ymosod, wedi arfer yr iaith fwyaf ddirmygus, a dangos fwyaf o bigotry, ond fel hyn y dewisodd ef siaråd. "Mae ein brawd yn camfeddwl am danom pan yn ein cyhuddo ar amlen y diweddaf o ysbryd erledigaethus.' Nid ydym yn teimlo awydd erlid, frawd, ond i'r gwrthwyneb yn hollol, ein dymuniad yw cyd—lafurio yn ngwinllan ein Harglwydd, ac ymosod, nid ar ein gilydd, ond ar y gelyn cyffredinol yn mhob dull a ffurf y ceir ef yn mhlith dynion. Ac os bydd i ohebwyr y Cenhadwr, mewn Hunan-amddiffyniad neu amddiffyniad o'r hyn a ystyriont yn wirionedd o bwys, gyffwrdd dim â gweithiau a ymddangosant yn y ——— neu eiddo y golygydd, ni chaiff dim ymdrech o'n tu ni fod yn eisiau (er nad ystyriym ein hunain yn gyfrifol am ysgrifau ein gohebwyr), idd eu henill i fod yn dirion wrth bawb—i beidio dwyn cyhuddiadau neu achwyniadau disail yn erbyn neb, ond cofio y rheol euraidd i wneyd i ereill fel yr ewyllysiem iddynt wneyd i ninau.' Ond drosom ein hunain, gwell genym fil o weithiau fydd dadleu dros y caethwas, dros ddirwest, diwygiadau crefyddol ac achosion o'r fath, na dadleu â'n gilydd am bynciau nad ydym, wedi y cyfan, yn mhell iawn o fod o'r un feddwl yn mherthynas iddynt; a hyderym y bydd ein gohebwyr yn lled gyffredinol o'r un feddwl a ninau." Dyna ffordd dirion a boneddigaidd i ateb camgyhuddiad. Dichon fod rhai yn meddwl y dylasai ei sêl fod yn fwy enwadol, ond credwn na fu yr enwad ddim ar golled o herwydd boneddigeiddrwydd Dr. Everett. Credwn ei fod yn gystal duwinydd a Jones, Dolgellau, ond nid oedd mor hoff o ddadleuon duwinyddol; a chredwn ei fod yn gystal diwygiwr a Rees, Llanelli, ond nid oedd yn hoffi ergydio ei wrthwynebwyr mor drwm. Yr oedd yn hynod o dyner a didramgwydd wrth geisio dysgu y rhai gwrthwynebus, a'i eiriau yn diferu mor dirion ag ambell gawod faethlon yn mis Mai.

Gwelsom awgrymiad cecrus un tro fod ei foneddigeiddrwydd yn codi oddiar ofn a llwfrdra, ond cabldraeth resynus ydoedd. Cafwyd profion cedyrn lawer gwaith y medrai sefyll mor ddiysgog a'r graig dros yr hyn a farnai yn iawn, gan nad pwy fyddai yn digio. Er engraifft, un tro anfonodd pregethwr o Ohio ysgrif ato ar ryw ffrwgwd eglwysig, gyda gorchymyn i atal rhifynau chwech o dderbynwyr os na chyhoeddid hi. Hysbysodd Mr. Everett ef yn y modd mwyaf tawel a digyffro, nad oedd ei ysgrif o ran ysbryd a iaith yn deilwng o'i chyhoeddi, ac yr atelid y rhifynau oddiwrth y chwe' derbynydd o hyny allan, os na anfonent archebion adnewyddol am danynt.

4. Ei fod fel ysgrifenydd yn nodedig o bleidiol i ddyngarwch a rhyddfrydiaeth. Ni fu erioed well cyfaill i freiniau dyn ac egwyddorion rhyddid. Gellid meddwl ei fod wedi ymdyngedu i frwydro yn erbyn pob gormes, anghyfiawnder a chaethiwed, fel yr oedd Hannibal wedi ymdyngedu yn erbyn y Rhufeiniaid. Gellir dywedyd yn ddibetrus mai efe oedd prif arwr y blaid wrthgaethiwol yn mhlith Cymry America. Pan yr oedd llawer o weinidogion y wlad, athrawon colegau a golygwyr y cyfnodolion yn chwareu rhan Meroz, yr oedd Dr. Everett fel Naphtali ar uchel—fanau y maes mewn ymdrechfa angeuol â'r gelyn caethiwed, y gelyn erchyllaf a welodd America erioed. Pan fyddai rhai o'n golygyddion Cymreig yn achub cyfle yn awr ac yn y man i dywallt dirmyg ar yr Abolitioniaid, neu roddi hergwd gyfrwys i'r mudiad gwrthgaethiwol, yr oedd yntau yn unplyg a dihoced, fel prophwyd Duw, yn dyrchafu ei lais yn uchel, croyw a phenderfynol yn erbyn y gelyn mawr. Ysgrifenodd lawer yn onest a chydwybodol, a fel dros Dduw, yn ei erbyn. Yn y llythyr cyntaf gawsom oddiwrtho, draw yn Nghymru, crybwyllai am gaethiwed fel y prif elyn i frwydro ag ef yn America, a dangosai awydd i gasglu help o bob man i ymosod arno, ac i lenwi ereill â'r cariad at ryddid oedd yn llosgi yn ei fynwes ei hun. Dywedai un tro: "Yn mhlith amrywiol wrthddrychau a ymddangosant i'n meddwl yn werthfawr a theilwng, nid y lleiaf yw achos y caethwas. Credym mai yr ymdrech a wneir yn yr oes bresenol i ddileu y gaeth fasnach a'r caethwasanaeth o'r byd yw diwygiad penaf yr oes a'r gwledydd, ac yr edrychir yn ol at y blynyddau hyn yn mhen ugeiniau i ddyfod, ïe, yn mhen canrifau i ddyfod, fel blynyddau deheulaw y Goruchaf,' o herwydd yr ymdrechion a wneir, a'r frwydr foesol y gweithredir ynddi i gyrhaedd y gwrthddrych aenwyd, ac i godi y dosparth yma o ddynion i sefyllfa wareiddiedig a phriodol i weini iddynt gyfryngau a moddion eu tragwyddol iachawdwriaeth."

Nid allodd gau—wladgarwch na brwdfrydedd rhyfelgar yn amser rhyfel Mexico ei ddallu rhag canfod ei wir amcan fel mesur pleidiol i gaethiwed, a bu yn wrthwynebydd cyson iddo. Yn amser dinystriad cyfaddawd Missouri, ac yn amser brwydrau rhyddid yn Kansas, yr oedd ysgrifell golygydd y Cenhadwr ar waith yn ddiwyd a diarbed bob mis yn parotoi colofnau helaeth o ddarlleniad nerthol a chynhyrfus ar sefyllfa pethau; ac yn holl ddyddiau meithion a thywyll y gwrthryfel ni laesodd am foment, ni ddiffygiodd ei ffydd, nid ymollyngodd ei ysbryd, ond daliodd yn wrol yn rhes flaenaf y gwrthgaethiwyr nes gweled caethiwed yn trengu. Gwnaeth wasanaeth anmhrisiadwy i achos rhyddid yn ystod yr ymdrechfa wrthgaethiwol.

Bu yn bleidiwr ffyddlawn i ddirwest, ac yn wrthwynebydd anghymodlawn i bob blys ac anghymedroldeb. Cafodd achos addysg a'r holl gymdeithasau Cristionogol gymorth ei ysgrifell weithgar a galluog. Yr oedd yn ddyn o feddwl eang ac o ysbryd cyhoeddus, a'i gyd-deimlad yn cyrhaedd can belled a therfynau eithaf y gymdeithas ddynol, a gwnelai ei oreu i feithrin yr un ysbryd yn mhawb o'i ddarllenwyr.

5. Ei fod yn olygydd gonest ac egwyddorol. Yr oedd yn ddifrifol ei ysbryd, gonest ei amcanion, ac yn egwyddorol yn ei holl gyflawniadau. Beth ond egwyddor gref a di—droi—yn—ol fuasai yn gwneyd un mor addfwyn a didramgwydd yn brif arwr yr achos gwrthgaethiwol? Pleidiodd achos y caeth was pan na ddygai hyny iddo barch, cymeradwyacth na chyfoeth; a glynodd wrth y gwaith pan oedd cyfeillion yn oeri ac yn cefnu, a'r gelynion yn ffyrnigo ac yn ymosod; ond ystyriai ei fod ar lwybr ei ddyledswydd yn gweithio dros Dduw, ac oblegid hyny nis gallai dim ei droi oddiwrth ei amcan. Egwyddor rymus yn gorseddu ynei enaid yn unig allasai beri i un mor heddychol ei ysbryd, frwydro mor wronaidd dros y rhai gorthrymedig. Yr oedd yn egwyddorol yn ei bleidgarwch i ryddid barn. Er yn un o'r rhai mwyaf tyn dros olygiadau efengylaidd, nid oedd ynddo ddim o'r culni sy'n perthyn i rai o'r cyfryw bobl. Er ei fod o ysbryd Puritanaidd, yr oedd yn mhell o fod yn bigot. Er yn rhybuddiwr difrifol fel Jeremiah, yr oedd yn apostol cariad fel loan y dysgybl anwyl. Yr oedd yn wrthwynebydd egwyddorol i bob drwg, yn foesol neu yn wladol. Meddai lygaid craff i ganfod fel yr oedd amgylchiadau dyfodol yn taflu eu cysgod o'u blaen. Yn ei anerchiad ddechreu y flwyddyn 1865, llawenychai wrth weled fod tranc y gwrthryfel a thranc caethiwed yn ymyl, ond rhagwelai ddyfodiad i mewn dymor o speculation gwyllt, a llwyddiant bydol twyllodrus, a rhybuddiai ei ddarllenwyr yn garedig yn erbyn "ysbryd ymgyrhaedd yn ormodol at bethau y bywyd presenol."

6. Ei fod yn llenor o chwaeth bur a diwylliedig, ac yn amcanu at y defnyddioldeb uchelaf. Profir purdeb ei chwaeth nid yn unig gan yr holl erthyglau a ysgrifenodd, ond hefyd gan gymeriad ei ddetholion o weith iau ereill. Nid y difyr, yr ysmala, a'r ysgafn oedd y pethau yr ymhyfrydai ynddynt, ond y pethau a dueddent i feithrin dwysder, difrifoldeb a phurdeb; ond eto yr oedd yn ddigon pell oddiwrth ddefnyddio llymder Phariseaidd, neu argymell gerwindeb mynachaidd. Nid oedd fel rhai diwygwyr yn llymdost a phigog, ond anogai a darbwyllai yn fwynaidd a thyner. Gofalai fwy yn ei gyfansoddiadau am burdeb meddwl nag am arddull gaboledig, ac yr oedd gwneuthur lles moesol i'w ddarllenwyr yn fwy pwysig yn ei olwg na eu swyno â dillynder ymadrodd. Ar yr un pryd medrai ysgrifenu yn ddestlus a thlws, a gellid codi llawer o engreifftiau i brofi hyny.

Ni chafodd neb erioed le i feddwl mai ei amcan oedd dangos ei hun, na ei fod yn ysgrifenu er mwyn hyny, ond deallai pawb mai ei amcan oedd llesoli ereill. Nid ysgrifenai i geisio synu ei ddarllenwyr na'u dyrysu, ond i'w haddysgu, eu darbwyllo, a'u henill at yr hyn sydd dda a chywir. Cadwai lwyddiant crefydd ac achubiaeth eneidiau yn nôd gwastadol o'i flaen. Deallwn ei fod yn ei ddyddiau boreuol yn hoff o olrheiniadau duwinyddol, a'i fod yn hyddysg yn nadleuon yr Hen Ysgol, sef Uchel Galfiniaeth, a'r Ysgol Newydd, sef Calfiniaeth Gymedrol; ac yn medru cydmaru eu golygiadau yn deg a beirniadol; ond yn y rhan olaf o'i oes yr oedd yn fwy hoff o'r diwygiadol a'r ymarferol. Cefnogi dysg a gwybodaeth, pleidio rhyddid ac iawnderau dynol, a llafurio dros adfywiadau crefyddol ac achubiaeth eneidiau, oedd ei hoff waith yn ei flynyddau olaf.

Yr oedd arogl un yn byw yn nirgelwch y Goruchaf ar ei ysgrifeniadau. Perthynai iddynt eneiniad nefol, heb ddim nodau ffug na rhith sancteiddrwydd, ond y didwyllder a'r gonestrwydd puraf. Gwr Duw ydoedd, ac fel y cyfryw bu'n tywallt allan ei enaid ar du dalenau y Cenhadur am feithion flynyddau, ac nid ydym yn meddwl y buasai ar ddydd ei farwolaeth yn ewyllysio dileu yr un linell a ysgrifenodd yn ystod ei olygiaeth. Cysegrodd ei dalent lenyddol i'w Feistr nefol, ac yr oedd pob brawddeg a ysgrifenodd yn profi ei fod yn un puro galon, yn un o ostyngedig ffyddloniaid Iesu—bod ei ysgrifell yn ysgrifell plentyn Duw, a bod awyddfryd penaf ei feddwl am ddwyn yr holl fyd i garu a gwasanaethu yr Arglwydd.