Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/Dr. Everett fel Diwygiwr

Oddi ar Wicidestun
Dr. Everett fel Golygydd a Llenor Cofiant y diweddar Barch Robert Everett

gan David Davies (Dewi Emlyn)

Cofiant Mrs. Elizabeth Everett

PENNOD VI.

Dr. Everett fel Diwygiwr.

GAN Y PARCH. E. DAVIES, WATERVILLE, N. Y.

Swyddogaeth Diwygwyr yn y byd yw effeithio cyfnewidiad ynddo er gwell. Ac yn ein byd dirywiedig ni mae eu gwasanaeth o'r gwerth mwyaf; oblegid diwygwyr yn arbenig ydynt "halen y ddaear," er cadw cymdeithas rhag cwbl lygru a phydru mewn pechod a drygioni. Ac nid hyny yn unig, ond hwynt—hwy hefyd ydynt "oleuni y byd," i'w arwain a'i ddyrchafu i burdeb a rhinwedd. Anfynych er hyny y mae y byd wedi iawn adnabod a phriodol brisio y cyfryw rai, hyd nes iddynt fyned ymaith o hono. Y mae gwir ddiwygwyr yn byw o flaen eu hoes, ac am hyny, o'r dechreuad, maent wedi cael eu cymeryd fel gelynion cymdeithas, yn peryglu ei heddwch ac yn atal ei llwyddiant. Nid rhyfedd gan hyny iddynt gael eu dirmygu a'u gwaradwyddo erioed, a'u herlid a'u lladd hefyd yn fynych.

Y mae, fodd bynag, yn ol cyfraith taledigaeth (law of compensation), fod adgyfodiad gogoneddus yn aros pob gwir ddiwygiwr―nid yn yr adgyfodiad cyffredinol "y dydd diweddaf," eithr mewn amser, yn y byd presenol. Ac fel rheol hefyd, eu gwobr mawr a ddaw yn fuan ; ïe, "a frysia ac nid oeda." Mae yn eithaf gwir fod eithriadau i'r rheol, ac fod enwau rhai diwygwyr enwog wedi eu gadael i orwedd dan orchudd o ddirmyg a gwarth am oesoedd a chanrifoedd; ond yn aml daw eu cyfiawnhad a'u mawrygiad gan ddynion, mewn byr amser, Yn fynych, lle bu y tadau yn eu llabyddio ac yn tywallt eu gwaed, bu y plant yn llawn mor aiddgar i addurno eu beddau, ac anrhydeddu eu coffadwriaeth ! Yn wir mae engreifftiau o ddiwygwyr fuont am dymor yn wrthddrychau pob gwaradwydd ac anmharch, ac enwau y rhai a ystyrid fel yn arwyddol o bob peth gwrthwynebus ac atgas, wedi cael eu codi i gymeradwyaeth a phoblogrwydd mawr cyn eu marw, megys y diweddar Wm. Lloyd Garrison. Dibyna hyn yn fwy, fodd bynag, ar lwyddiant yr achosion a bleidiant, nag ar ddim gwir gyfnewidiad yn egwyddor ac ansawdd ysbryd y byd. Nid oes dim mor llwyddianus a llwyddiant. Nid oedd Dr. Everett, fel diwygiwr, yn eithriad i'r rheol gyffredin, ac ni ddiangodd chwaith yn gwbl rhag tynged y cyfryw rai, am dymor; eto llawn gyfiawnhawyd ef, a chanmolodd ei hun "wrth bob cydwybod dynion yn ngolwg Duw," flynyddoedd cyn ei farw.

Wrth son am Dr. Everett yn y cymeriad o Ddiwygiwr, dichon nad anmhriodol fyddai crybwyll, ei fod yn meddu ar gydgyfarfyddiad hapus o lawer o brif nodweddion y gwir ddiwygiwr. Ni chaniata ein gofod i ni ond yn unig grybwyll rhai o honynt; megys, cymeriad pur a diargyhoedd, gostyngeiddrwydd diymhongar, cymedroldeb mewn golygiadau ac iaith, boneddigeiddrwydd diffuant mewn ymddygiad, llarieidd—dra ac addfwynder ysbryd efengylaidd, teyrngarwch trwyadl i'r gwirionedd a phenderfyniad di—blygu i sefyll drosto, bydded y canlyniadau y peth y byddent; ac uwchlaw y cyfan, ffydd ddiysgog yn Nuw a'i air, a chrefyddolrwydd a duwiolfrydedd amlwg ei ysbryd gyda phob peth. Da fuasai genym allu ymhelaethu ychydig ar y rhagoriaethau amlwg hyn yn nghymeriad Dr. Everett. Ond diameu y gwneir hyny gan rywun mwy cymwys, mewn rhan arall o'r Cofiant. Ni chaniata terfynau gosodedig ein hysgrif hon, ychwaith, i ni sylwi ar ragoriaethau nodedig Dr. Everett fel duwinydd a phregethwr. Disgyna y gorchwyl hwnw, hyderwn, i ran rhywun mwy galluog i wneuthur cyfiawnder ag ef Goddefer i ni, fodd bynag, ddweyd mai un o'i ragoriaethau mwyaf amlwg fel y cyfryw, oedd ei fod yn drwyadl ddiwygiwr.

Perthynai rhagoriaethau arbenig iawn i Dr. Everett fel pregethwr a duwinydd, a'i gosodent yn ddiamheuol yn nosbarth blaenaf pregethwyr ei oes. Cawsai addysg dda, a meddai ar wybodaeth gyflawn, a golygiadau eang am drefn iachawdwriaeth yr efengyl. Yn mysg ei hynodion mwyaf arbenig gellid crybwyll byrdra, uniongyrchedd, eglurder, trefn, cyfanrwydd, cysonedd, a difrifoldeb. Ni byddai byth yn faith gyda dim. Ni wrandawsom ar neb erioed allai roddi goleuni mwy boddlonol ar fater, mewn ychydig eiriau, nag ef. Meddai allu rhagorol i daro yr hoel bob amser yn gymwys ar ei phen. Un mater yn gyffredin fyddai ganddo yn ei bregeth. Byddai ganddo raniadau braidd bob amser, eithr byddent oll yn naturiol ac yn gwasanaethu i gyrhaedd rhyw un amcan penodol. Traethai ar bob gwirionedd yn ei gysylltiad priodol ac yn ei berthynas a'i gysondeb â gwirioneddau eraill y gair Dwyfol, ac ni byddai neb, ar ol gwrando arno, mewn unrhyw betrusder yn nghylch yr hyn a amcanai ddweyd. Yr oedd efe gan hyny yn mhriodol ystyr y gair yn bregethwr a duwinydd gwir fawr. Llais gwanaidd oedd ganddo, eto yr oedd yn glir a soniarus. Ni byddai yn canu nac yn chantio, fel llawer o bregethwyr Cymreig ei amser; yr oedd yn fater rhy ddifrifol i hyny gydag ef. Meddai allu arbenig i wasgu y gwirionedd yn ddifrifol a phwysig at feddyliau a chalonau ei wrandawyr; ac yr oedd yn llawn o ddifrifoldeb gyda phob peth. Pan y caffai hwyl dda, byddai bob amser mewn dwfn gydymdeimlad â'r gwirionedd a draethai. Tueddai ei bob peth ef i adael ystyriaeth o barch i Dduw a'i wirionedd yn oruchaf yn meddwl a chalon pob un o'i wrandawyr. Clywsom hen bobl yn Nghymru yn adrodd, a dagrau ar eu gruddiau, am ei bregethau effeithiol a thoddedig iawn yno, pan oedd yn fachgen ieuanc. Cofia lluoedd yn America hefyd am ei apeliadau syml-ddifrifol, dwys-erfyniol a theimladwy iawn. Pe tynid darlun cywir o Dr. Everett fel pregethwr, tynid ef mewn agwedd ddifrif-apeliadol, ac ni byddai y darlun yn berffaith heb fod y dagrau yn treiglo dros ei ruddiau. Bydd ei ymddangosiad syml-ddifrifol, ei lais gwanaidd, ond eglur a thoddedig iawn, ei ddagrau llifeiriol, a'i edrychiad difrif-erfyniol pan lefai, "Arfau i lawr," "Deuwch at Iesu," "Cymoder chwi a Duw," &c., yn aros yn fyw yn meddyliau llaweroedd a'i clywsant, yn y byd a ddaw, pan na bydd amser mwyach!

Rhoddai Dr. Everett bwys mawr ar lafurio i ddeall Cristionogaeth fel cyfundrefn gyson yn ei gwahanol gysylltiadau, ac ar bregethu ei gwirioneddau yn eu perthynas a'u cydbwysedd priodol â'u gilydd. Mynych y clywsom ef yn adrodd gyda chymeradwyaeth, sylw yr anfarwol Williams o'r Wern ar hyn. Ac yr oedd efe ei hunan hefyd yn rhagori yn hyn. Yr oedd ei olygiadau ar drefn yr efengyl yn gyflawn a chyson. Ni byddai byth yn cario un gwirionedd i filwrio yn erbyn gwirionedd arall, fel y clywsom rai yn gwneuthur. Cof genym glywed un yn pregethu unwaith ar yr Anmhosiblrwydd i neb ddyfod at Grist, nes peri i ni deimlo, os felly yr oedd, nad oeddym i'n beio am beidio dyfod ato. Nos dranoeth drachefn pregethai ar Y ddyledswydd o gredu yn Nghrist; ac meddai ar ei bregeth, "Pa beth yw credu? Wel, gorwedd; dim byd ond gorwedd," ac ychwanegai, "Ni welais neb erioed yn rhy wan i orwedd." Yr oedd yn y sylw hwn, yn sicr, fwy o gymelliad er ein hanog i gredu; ond y drwg oedd fod ei bregeth hon a'r un y nos o'r blaen yn milwrio yn hollol yn erbyn eu gilydd, yn ein tyb ni, ac felly yn effeithiol i ladd dylanwad y ddwy ar ein meddwl. Clywsom un arall yn pregethu ar y geiriau, "Deuwch ataf fi bawb sydd yn flinderog a llwythog," &c. Ei sylw cyntaf oedd; "Yr anogaethau, neu'r cymelliadau cryfion oedd i bawb ddyfod at Iesu Grist." Ond ei ail sylw ydoedd, "Yr anmhosiblrwydd i neb byth ddyfod at Iesu Grist, heb weithrediadau neillduol ac anorchfygol yr Ysbryd Glan ar eu meddyliau." Yr oedd, fe ddichon, wirionedd yn mhob un o'r ddau sylw, ac yr oeddynt yn gyson â'u gilydd o'u deall yn iawn. Eithr gwnaeth y brawd hwynt i ymddangos y tro hwnw, yn ddau yn milwrio yn hollol yn erbyn eu gilydd i olwg y gwrandawyr, ac felly collwyd yn gwbl ddylanwad daionus ei bregeth. Nid felly y pregethai Dr. Everett. Yn fynych iawn, yn wir, ei hoff ddull ef o bregethu ydoedd cadw rhyw un mater neu ddrychfeddwl o flaen ei wrandawyr. Byddai ganddo braidd bob amser raniadau yn ei bregeth, eithr byddai pob rhaniad a sylw yn gwasanaethu naill ai i egluro, profi, neu gymwyso yr un mater hwnw at feddyliau a chalonau ei wrandawyr. Byddai ei brif apeliad bob amser at y gydwybod, eithr nid ar draul esgeuluso y deall. Ni wrandawsom arno erioed heb gael rhyw oleuni newydd, a rhyw addysg ac adeiladaeth fuddiol. Nid oedd yn ddiystyr o'r teimlad wrth bregethu, ond ni arosai gyda'r teimlad, fel y byddai llawer o'r hen bregethwyr Cymreig gynt, ac fel y mae yn ofnus y gwna llawer eto. Yn wir, os goddefir i ni yn ostyngedig draethu ein barn, dyma ydoedd prif ddiffyg pregethu Cymru yn y flwyddyn 1866, yn gystal hefyd a phregethu Cymreig America.

Cawsom y fraint yn y flwyddyn grybwylledig o wrando ar oddeutu deugain o wahanol bregethwyr goreu yr Annibynwyr yn Nghymru; a chlywsom rai o honynt amrywiol weithiau, Addefwn yn rhwydd i ni yn ystod ein hymweliad â'r Hen Wlad, glywed llawer o bregethau dysgedig, doniol ac adeiladol iawn. Eithr yr argraff a adawyd ar ein meddwl gan gyffredinolrwydd y pregethau a glywsom yno oedd, fod pregethu Cymru, fel rheol, yn tueddu i aros yn ormodol gyda'r teimlad, ac yn ymwneyd yn rhy ychydig â deall, ac yn enwedig â chydwybod y gwrandawyr. Gwir y gall nad oedd y fantais a gawsom ni yn ein galluogi i ffurfio barn gywir am y weinidogaeth Gymreig yn gyffredinol. Dichon hefyd fod y pregethau a glywsom, yn gystal a'r pregethwyr, yn eithriadau, gan mai mewn Cymanfaoedd a chyfarfodydd mawr yn unig y cawsom y fraint o'u clywed. A phosibl fod mwy o ymdrech yn cael ei wneuthur y prydiau hyny i gael yr hyn a elwir yn gyffredin yn "hwyl," nag sydd yn y weinidogaeth feunyddiol gartref. Sicr yw fod beirniadaethau y gwrandawyr yn rhy fynych yn tueddu i beri hyny. Clywsom lawer gwaith yn Nghymru mai math o ymrysonfa pregethu oedd y Gymanfa a'r cyfarfod mawr; ac aml y clywsom feirniadaethau ar ol y pregethau ynddynt, oeddynt yn gwbl gyson â'r golygiad hwn. Wrth ymddyddan am y gymanfa ddiweddaf, clywsom rai yn dywedyd, " Pregethodd Mr. B. yn dda iawn, ond Mr. R. aeth a hi; efe a gariodd y maen i'r wal arnynt i gyd yno." Bob amser bron bernid y pregethwr a'i bregeth wrth yr effaith a gynyrchai, a'r dylanwad a gaffai ar y pryd ar deimladau y gynulleidfa. Os llwyddai rhywun gyda'i bregeth i wneuthur rhyw gynhwrf yn y gwersyll, ac yn enwedig os Ilwyddai i yru rhyw hen wreigan i waeddi yno, efe a fyddai y dyn y tro hwnw. Ac odid fawr na phenderfynid ar unwaith gan rywrai, fod raid i hwnw gael gwahoddiad i'r Gymanfa nesaf. A gall fod hyny, meddwn, yn peri fod temtasiwn i'r pregethwr lafurio am bregethau, erbyn yr adegau hyny, a fyddent yn ymwneyd â'r teimlad, yn fwy nag ar amgylchiadau cyffredin. Eto nis gallwn ni farnu ond oddiwrth yr hyn a glywsom, a'n teimlad ni ar ol talu ymweliad â Chymru oedd, y dylasai y gweinidogion yno ymwneyd yn eu pregethau, nid yn llai â'r teimlad, fe allai, ond yn fwy â'r deall ac â'r gydwybod. Anhawdd fyddai i ni grybwyll am un o fewn cylch ein hadnabyddiaeth a fyddai yn esiampl well o'r fath bregethwr ag y mae ein cenedl mewn mawr angen am dano, na Dr. Everett. Ni byddai ef, fel y crybwyllasom, yn ddiystyr o'r teimlad, ond llafuriai bob amser er goleuo y deall, ac yn enwedig er cyrhaedd y gydwybod mewn argyhoeddiad. Ei amcan gwastadol oedd effeithio diwygiad yn ei wrandawyr, ac felly wneuthur daioni parhaol iddynt.

Eithr fel y crybwyllasom eisoes, â Dr. Everett fel diwygiwr, y mae a fynom yn yr ysgrif hon. Ac fel diwygiwr, megys y nodasom, yr oedd yn rhagori yn fwyaf amlwg fel duwinydd a phregethwr. Dechreuodd Dr. Everett bregethu pan oedd Uchel—Galfiniaeth yn dra chymeradwy gan luoedd o Gymry, mewn canlyniad i bregethiad y fath syniadau gan luaws o bregethwyr blaenaf yr amser hwnw. A daeth ef allan yn mysg y rhai blaenaf yn ei amser i wrthwynebu yr hen syniadau hyny, ac i bleidio gwir athrawiaeth yr efengyl, yn neillduol yn ei graslonrwydd a'i chyffredinolrwydd ar gyfer angen dynoliaeth syrthiedig, yn gystal hefyd a'i haddasrwydd i gyfarfod sefyllfa ac angen pob pechadur colledig, fel y mae, yn ei bechod a'i drueni. "Newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i'r holl bobl," oedd yr efengyl yn ei olwg ef. Cynygiad grasol o gymod ydoedd, ac ar delerau cyrhaeddadwy i bob dyn byw. Yr oedd ei enaid ef yn ymgroesi rhag y cyfyngiad a wneid gan rai dynion ar ras anfeidrol y Duw mawr, i ryw nifer penodol o bechaduriaid. Ystyriai y golygiad hwnw yn ddirmyg o'r mwyaf ar ddarpariaeth gras, yn gystal ag ar y gras a ddarparodd. Ni phetrusai chwaith daflu yr holl gyfrifoldeb am wrthodiad y drefn, at ddrws y pechadur ei hunan. Ystyriai fod y gweision hyny a gyhoeddent genadwri amwys ar y mater hwn, yn cymeryd arnynt eu hunain gyfrifoldeb pwysig iawn. Cofus iawn genym y difrifoldeb a'r egni a ddangosai pan yn gwrthwynebu y fath ymddygiad, wrth bregethu ar y geiriau, "Dos allan i'r prif—ffyrdd a'r caeau, a chymell (compel) hwynt i ddy. fod i mewn, fel y llanwer fy nhy."

Fel ysgrifenydd hefyd, a golygydd y Cenhadwr, cawn ef yn llafurio yn yr un cyfeiriad. Yn ei raggyfarchiad i'r gyfrol gyntaf o'r Cenhadwr (1840), dywed: "Ein hamcan syml ydoedd rhoddi allan bethau buddiol ar wahanol gangenau gwybodaeth, a hyny mewn ysbryd tyner ac addfwyn; a thrwy gymorth oddi uchod, hyny gaiff fod ein hamcan eto. I ba raddau y llwyddasom yn hyn, bydd i'r cyhoedd farnu. Dysgwyliwyd efallai, mai i ryfel y daethom allan; ond nid hyny ydoedd, nac yw, ein dyben. Da a hyfryd genym gyd-lafurio â brodyr yn yr Arglwydd yn erbyn pob annuwioldeb ac anfoesoldeb o fewn y tir; a gobeithio yr ydym yn fawr allu gwneyd rhyw ran gydag eraill tuag at feithrin ysbryd cariad a thangnefedd yn mhlith Israel Duw. Ein harwyddair gaiff fod o hyd, 'Heddwch, heddwch, i bell ac i agos.' Ymdrechwn egluro yn ffyddlawn, hyd y mae ynom, beth yw egwyddorion y Beibl ar amrywiol gangenau yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb, ac yn neillduol ar ras Duw a chyfrifoliaeth dyn. Ond ceisiwn wneyd hyny mewn addfwynder, gan ein bod yn cwbl gredu mai felly y mynai ein Meistr mawr i ni wneyd; a hyderwn y bydd addfwynder a llarieidd-dra a thynerwch yr efengyl (fel yr olew ar ben Aaron yn disgyn ar hyd ymyl ei wisgoedd ef) yn dynodi ysgrifau ein gohebwyr yn gyffredinol."

Ac yn un o'r rhifynau cyntaf o'r cyhoeddiad newydd y pryd hwnw, cawn ganddo erthygl ar "Ddyn yn ei berthynas â'r Efengyl," yn yr hon y gosodir allan mewn modd cryno, eto eglur a chyflawn, ei olygiadau ar y mater. Dywed, "Ymddengys oddiwrth yr Ysgrythyrau fod rhyw berthynas, a hono yn berthynas o bwys mawr a chanlyniadau difrifol, rhwng pob dyn a'r efengyl." Ac er profi ac egluro y berthynas hon, rhydd y rhaniadau canlynol. Ni chawn yma ond rhoddi y penau yn unig: "1. Y mae pob dyn yn ddeiliad ei gwahoddiadau. 2. Mae'r efengyl yn cynwys darpariaeth addas i bob dyn er iachawdwriaeth. 3. Mae perthynas o rwymedigaeth a chyfrifoldeb rhwng pob dyn a'r efengyl. 4. Mae'r efengyl yn dwyn effeithiau gwerthfawr ar holl ddynolryw. 5. Mae'r efengyl yn agor drws gobaith o flaen pob dyn. 6. Yn ol y derbyniad neu y gwrthodiad a wna dynion o'r efengyl y bydd eu sefyllfa dragywyddol yn cael ei benderfynu yn y farn ddiweddaf. Yn ddiweddaf, y mae yr efengyl yn dwyn iechydwriaeth dragywyddol, yn anffaeledig, i bob un sydd yn credu yn enw Iesu Grist." A diwedda yn y geiriau hyn: "Dysgwn ddiolch am efengyl. Gwerthfawrogwn ei breintiau. Rhoddwn hyder mawr yn ei haddewidion. Ymddygwn yn addas i'w chymeriad sanctaidd ; a llawenhawn yn y gobaith gwynfydedig y mae yn ei osod o'n blaen." [Gwel Cenhadwr am 1840, tu dal. 198.]

Pan ymadawodd brawd oddiwrth enwad arall, ac yr ymunodd â'r Annibynwyr, am na chaniateid iddo, meddai ef, bregethu efengyl rydd a rhad i bawb, heb wrthwynebiad, gwnaed tipyn o stwr yn y cyhoeddiadau. Ysgrifenodd Dr. Everett ychydig o nodiadau syml, o dan y peniad, "Nac ymrysonwch ar y ffordd," er ceisio adferu heddwch a theimladau da. Ysgrifenodd erthygl drachefn, yn yr hon y rhoddodd ei resymau dros bregethu yr efengyl i bob dyn yn ddiwahaniaeth, a dyma hwy: "1. Y mae pawb yn ddiwahaniaeth yn sefyll yn yr angen mwyaf am yr iechydwriaeth sydd yn Iesu Grist. 2. Bod heb ran yn Nghrist yw y trueni mwyaf i bob dyn fel eu gilydd yn ddiwahaniaeth. 3. Byw heb Grist dan yr efengyl yw y pechod mwyaf o'r holl bechodau, a hyny ar bob dyn yn diwahaniaeth. 4. Mae Duw wedi ymddiried i'w weision y weinidogaeth o wahodd pawb yn ddiwahaniaeth at ei Fab am iechydwriaeth, a gwae fydd iddynt os byddant anffyddlawn ar yr ymddiried mawr hwn. 5. Mae dal allan weinidogaeth gyfyng, yn lle gwahodd pawb yn ddiwahaniaeth at Grist, yn tueddu yn fawr i fagu ysbryd Antinomaidd yn ein gwrandawyr, a thrwy hyny eu cadarnhau mewn parhaol anufudd—dod i'r efengyl. 6. Mae dal allan efengyl gyfyng, yn lle gwahodd pawb yn ddiwahaniaeth at y Gwaredwr, wedi bod yn ddyryswch i lawer dan gymelliadau ac argyhoeddiadau. 7. Mae yr athrawiaeth felus o holl—ddigonedd yr Arglwydd Iesu Grist fel Gwaredwr pechaduriaid yn galw arnom i wahodd pawb ato. 8. Y mae Iesu Grist o Osodiad y Tad yn Gyfryngwr addas i bob dyn i ymofyn bywyd ynddo." A'i air diweddol ydoedd, "Parhawn yn ddiflino hyd yr anadl olaf i wahodd pawb, yn mhob lle, at ein Iesu anwyl i ymofyn am fywyd ynddo." [Gwel y Cenhadwr am 1841, tu dal. 144.] Rhoddodd yr ysgrif hon, yr ydym yn meddwl, derfyn effeithiol ar yr ymrafael hwnw; ac nid ydym yn rhyfeddu dim at hyny, gan mor argyhoeddiadol ac effeithiol y triniai y pwnc.

Yr oedd Dr. Everett yn ddiwygiwr nid yn unig gyda golwg ar athrawiaeth yr efengyl, eithr yr oedd hefyd yn gyfaill cywir, ac yn bleidiwr ffyddlon i bob achos a dueddai er lledaenu yr efengyl a gwella y byd. Ymdrechodd lawer o blaid y gymdeithas Feiblaidd a'r cymdeithasau Cenadol Tramor a Chartrefol. Bu yn bleidiwr ffyddlon i achos addysg a'r ysgolion Sabbothol. Cyfansoddodd er ys llawer o flynyddoedd ei "Gatecism Cyntaf," yr hwn a gafodd dderbyniad mwy cyffredinol yn ysgolion Sabbothol yr Annibynwyr nag un arall yn y wlad hon ac yn Nghymru; a pharha yn ei boblogrwydd, yn Nghymru yn enwedig, hyd yn awr. Cyfansoddodd, drachefn, y rhan gyntaf o'i Egwyddorydd Ysgrythyrol," ar rai o brif bynciau Cristionogaeth, at wasanaeth dosbarth uwch yn yr ysgolion Sabbothol, yr hwn sydd yn holwyddoreg tra rhagorol; ond y mae'n debygol na chafodd gylchrediad digonol i gyfreithloni cyhoeddiad yr ail ran, yr hon yn ddiau a fuasai, fel pob peth Dr. Everett, yn dda, ac yn drysor gwerthfawr i'r genedl.

Wrth draethu am Dr. Everett fel diwygiwr, rhaid i ni beidio anghofio ei ymdrechion ffyddlon o blaid Dirwest. Fel y mae yn eithaf hysbys, yr oedd yr arferiad o yfed diodydd meddwol yn gyffredin iawn, braidd yn mhob cylch o gymdeithas, yn mlynyddoedd boreuol ei weinidogaeth. Yr oedd y gelyn dinystriol hwn wedi dyfod i mewn fel afon hefyd i eglwys Dduw, ac wedi llusgo lluaws o ddynion enwog, hyd yn nod o'r pwlpud, i warth a dinystr. Eithr er y ceid yn aml achos i ofidio a galaru am yr anrhaith a wneid, eto nid oedd ond ychydig wedi ei wneuthur erioed er ceisio rhoddi terfyn ac ataliad ar y drwg. Teimlodd Dr. Everett yn ddwys wrth weled y gelyn yn gwneuthur y fath alanastra mewn byd ac eglwys, a daeth allan yn mysg y blaenaf o'i genedl i'w wrthwynebu. Nis gwyddom yn sicr pa mor foreu y dechreuodd ; ond bu yn offeryn, meddir, i ffurfio cymdeithas yn mhlith y Cymry yn Utica yn y flwyddyn 1830. Ac mae genym Anerchiad argraffedig o'i eiddo a draddodwyd yn Utica, Rhagfyr 25, 1833, ac a gyhoeddwyd ar gais y rhai a'i clywodd. Yn yr Anerchiad hwn taer anoga bawb o'r Cymry "i uno yn yr ymdrech a wneir yn awr at ddiwygio ein gwlad a'r byd oddiwrth y pechodau o ddiota a meddwdod." Gwna hyn trwy ddangos, yn

"I. Nad yw gwirod yn rheidiol i ddyn, ond yn hollol afreidiol.

II. Y mae gwirod yn gwneyd gwir niwed i bawb a'i defnyddiant.

III. Y mae yr yfwr cymedrol yn cynal yn mlaen y brofedigaeth sydd yn arwain i'r drygau mwyaf ac i'r trueni mwyaf yr arweiniwyd dyn iddynt erioed." A sylwa ar hyn: "1. O blith yr yfwyr cymedrol y mae y bylchau a wneir gan angau a chan garcharau yn myddinoedd y meddwon, yn cael eu llanw i fyny. 2. Yr yfwyr cymedrol yn benaf ydynt yn cynal i fyny y cylchrediad cyffredinol mewn gwirod yn ein gwlad ; ac oddiyma y tardd yr holl ddinystriol ganlyniadau. 3. Y mae yr yfwyr cymedrol yn rhoddi pwys eu cymeradwyaeth a'u henw da, mewn effaith, o du meddwdod; ac y mae hyn yn eu gwneyd yn gyfranog o'r canlyniadau. 4. Tra mae yr yfwyr cymedrol yn ymddwyn fel y maent, y mae llai o obaith am adferiad y meddwyn, ac y mae hyn yn peri eu bod yn gyfranog o'r dinystriol ganlyniadau." Yna sylwa, yn

"IV. Y mae yr hwn sydd yn defnyddio y ddiod gadarn, er yn gymedrol, yn ei anghymwyso ei hun i wneyd daioni i eraill; yr hyn sydd yn ddiau yn bechadurus yn ngolwg yr Arglwydd.

V. Y mae y rhai sydd yn defnyddio gwirod fel diod, er nad ydynt yn yfed i feddwdod, yn wir rwystr i gynydd y diwygiad.

VI. Y mae yr yfwr cymedrol yn rhodio, a hyny yn ymwybodol, ar lwybr peryglus. iawn, yr hyn sydd bechadurus." Yna gwna gymwysiad difrifol o'r mater at feddyliau proffeswyr crefydd, gweinidogion yr efengyl, a'r chwiorydd a'r mamau yn Israel, gan eu hanog yn daer i godi o ddifrif at y gwaith mawr o sobri y byd. Terfyna yr anerchiad gydag ateb amryw o wrthddadleuon a gyfodid yn erbyn llwyr—ymataliaeth; a diwedda yn y geiriau difrifol hyn: "Wrth benderfynu pa un a weithredwch dros yr achos hwn ai yn ei erbyn, erfyniaf arnoch, fy anwyl wrandawyr, ymddwyn megys yn ngoleu dydd sobr y farn, pan y cawn gyfarfod a phob dyn ar yr hwn yr effeithiodd ein buchedd yn ddrwg neu yn dda. O! ddydd difrifol a fydd y dydd hwnw, pan y dygir y meddwon i gyfrif am eu hanwiredd, a phan y dygir ninau oll i gyfrif pa un a effeithiodd ein harferiadau er peri meddwdod, ynte er ei symud o'r byd. Deisyfwn ar Dad y Trugareddau ac awdwr pob daioni, bara ei nawdd ddwyfol i'r achos pwysig hwn, a phrysuro y boreu ag y bydd cariad at win a diod gadarn wedi darfod, a sobrwydd a gwir gymedrolder, yn nghyda llawenydd yn yr Ysbryd Glan yn llanw yr holl ddaear."

Er fod yr anerchiad hwn wedi ei draddodi, bellach, er ys dros bum'—mlynedd—a—deugain yn ol, eto byddai yn anhawdd dyfod o hyd i unrhyw anerchiad na thraethawd heddyw, yn yr hwn y gosodir yr achos i lawr ar seiliau cadarnach, neu y traethir arno yn fwy eglur ac argyhoeddiadol. Yn wir, pe cymerasai pob areithiwr ar ddirwest y tir cadarn ac Ysgrythyrol hwn a gymerai Mr. Everett, a phe ymgadwasai at yr ymresymiadau argyhoeddiadol hyn a'u cyffelyb, yn lle myned i adrodd hen ystorïau gwag a chwerthinllyd, ac i ddywedyd dwli dïenaid, buasai gwell golwg ar achos sobrwydd heddyw nag y sydd. Mae yr anerchiad hwn o eiddo Mr. Everett mor gadarn a chyflawn, fel mai ychydig iawn, os dim, sydd wedi ei chwanegu ato neu ei wella arno hyd heddyw. Pe gellid ei gyhoeddi yn draethodyn, a'i wasgar i bob man lle y mae Cymry, diau y gwnelai lawer o ddaioni eto. Y mae, ysy waeth, yn gwbl amserol mewn llawer man heddyw.

Megys y dechreuodd Mr. Everett, fel hyn, yn foreu gyda'r gwaith da hwn, felly hefyd y parhaodd yn ffyddlon ac ymdrechgar, gan ddwyn pwys y dydd a'i wres, hyd ei awr ddiweddaf. Gwnaed llawer symudiad ar ol y cyntaf hwnw, ac ymladdwyd llawer brwydr galed yn achos dirwest wedi hyny; ond bob amser, safai Mr. Everett fel cadfridog dewr ar y blaen, ac ni phetrusai fentro i fan poethaf yr ymdrechfa. Safodd ef, a'i gydlafurwr dewr, y diweddar Barch. Morris Roberts, am flynyddau lawer, ochr-y-ochr, fel dau brif dywysog yn yr ymdrechfa bwysig, a chawsant gyd—lawenhau mewn llawer buddugoliaeth ogoneddus ar y gelyn meddwol, ac hefyd weled sychu bron yn llwyr y ffrydiau meddwol yn eu hardaloedd. Gobeithiwn y gofala eu holynwyr na welir mo honynt byth yn ail redeg eto, er trueni a dinystr y trigolion. Yr oedd llawer yn ei gyfrif yn ynfyd ac eithafol ar y cyntaf yn yr achos hwn; ystyrient ei sêl yn benboethni, a'i ddifrifoldeb yn ynfydrwydd. Cafwyd proffeswyr crefydd, do, a phregethwyr yr efengyl hefyd, i'w ddiystyru am ei lafur, ac i'w wawdio o herwydd ei ymdrechion diflino o blaid dirwest. Ond daliodd ef ati er hyny; a chafodd y rhan fwyaf o'i ddirmygwyr fyw i weled eu camgymeriad, ac enillwyd hwythau hefyd wedi hyny i fod yn bleidwyr ffyddlon i'r achos, Daeth achos llwyr—ymataliaeth yn flodeuog a phoblogaidd iawn yn mysg Cymry Swydd Oneida ar ol hyny. Cynaliwyd cyfarfodydd mawrion, cafwyd gwyliau arbenig, a gorymdeithiau godidog; cyhwfanwyd banerau buddugoliaeth yn yr awelon, a chanwyd clodydd dirwest nes yr oedd hen fryniau Steuben a Remsen yn diaspedain gan y clodforedd! Yr oedd Dr, Everett o galon dros bob mesur cyfreithlon a dueddai at roddi terfyn ar ddiota a meddwdod. Llafuriodd yn galed lawer gwaith yn erbyn rhoddi trwyddedau i ddynion i werthu y diodydd; ac yr oedd yn gryf a diysgog dros gwbl waharddiad y fasnach mewn gwirodydd fel diodydd cyffredin. Gwir y bu i gynhwrf y gwrthryfel mawr, a'r terfysg blin a barodd, fyned a'i sylw ef, fel bron bawb eraill, fel nad oedd yn rhoddi cymaint o le yn ei ysgrifau i achos gwaharddiad yn y blynyddoedd diweddaf o'i fywyd. Eto dengys ei ysgrifau yn y Cenhadwr, am flynyddoedd o flaen y rhyfel, ei fod yn credu yn gadarn a diysgog mai llwyr waharddiad trwy gyfraith oedd yr unig foddion effeithiol i roddi terfyn ar ddiota a meddwdod.

Ond bydd enw Dr. Everett, fel diwygiwr, mewn coffadwriaeth, yn fwyaf neillduol, yn ei gysylltiad â'r achos gwrthgaethiwol, a hyny o herwydd y gwrthwynebiad chwerw a gafodd, a'r ffyddlondeb diysgog a ddangosodd i'r achos hwnw. Pan ddaeth ef i America, yr oedd Efrog Newydd yn Dalaeth gaeth, a pharhaodd felly am beth amser ar ol ei ddyfodiad yma. Yr oeddid wedi pasio, fodd bynag, yn y flwyddyn 1817, na byddai caethiwed yn y Dalaeth ar ol Gorph. 4ydd, 1827, pryd y rhyddhawyd deng mil o gaethion mewn un diwrnod, ac y rhoddwyd terfyn am byth ar gaethiwed o fewn y Dalaeth Ymerodrol. Cafodd Dr. Everett felly beth mantais i weled y gyfundrefn gaethiwol yn ei gwaith; ac ni theimlodd ond yr anghymeradwyaeth a'r gwrthwynebiad mwyaf iddi o'r dechreuad. Ysgrifena ei ferch Jennie atom: "Pan ddaeth fy rhieni i America, buont wythnos yn teithio o New York i Utica, ac yr oedd yn daith flinderus iawn, yn enwedig i fy mam, gyda'i thri phlentyn bychain. Y gyrwr ydoedd ddyn du—un oedd, neu a fuasai, yn gaethwas yn un o'r Talaethau Gogleddol. Adroddodd wrth fy nhad lawer iawn yn nghylch caethiwed, a chymaint yn waeth eto ydoedd yn y De. Ni wybuasai fy nhad gymaint cyn hyny am y gyfundrefn, a chafodd ei gydymdeimlad dwfn ei enill. Ar ol hyny bu yn gyfaill a chydlafurwr yn yr achos gwrthgaethiwol â'r Parch. Beriah Green, yr Anrhydeddus Gerrit Smith, Alvan Stewart, Theodore Weld, ac eraill a gymerasant safleoedd mor gyhoeddus gyda'r achos yn y tymor boreuol hwnw. Darfu i'n dau frawd hynaf raddio yn yr Oneida Institute, lle yr oedd y Parch. Beriah Green yn brif athraw. Graddiodd ein chwaer henaf, Elizabeth, yn y Ladies' Seminary, yn Clinton; ac yr oedd y prif athraw yno, Mr. Kellogg, yn wrthgaethiwydd cryf, ac yn derbyn merched ieuainc o liw i'r ysgol."

Felly, bu adroddiad y dyn du o hanes cyflwr truenus a chaled y caethion, yn foddion effeithiol i greu atgasrwydd yn meddwl Mr. Everett at y gyfundrefn anghyfiawn ar ei ddyfodiad i'r wlad; a bu ei gydnabyddiaeth â'r gwyr a enwyd yn foddion i'w dynu allan yn ei wrthwynebiad i gaethiwed yn dra boreu. Eithaf tebygol ei fod yn mynychu cyfarfodydd a gynelid y pryd hwnw i wrthwynebu caeth wasiaeth. Pa un a oedd yn y cyfarfod yn Utica, yn y flwyddyn 1835, pryd y torwyd y cyfarfod i fyny gan y mob anrhydeddus (?), nis gwyddom.

[Ar ol ysgrifenu yr uchod, derbyniasom lythyr oddiwrth Mr. John R. Everett, mab hynaf Dr. Everett, yn dyweyd iddo ef fyned gyda'i dad, gyda'r ceffyl a'r cerbyd, i Utica, gyda'r bwriad o fyned i'r cyfarfod gwrthgaethiwol hwnw yno. Ni chyrhaeddasant y ddinas hyd agos ganol dydd, ac aethant i dy Mr. Henry Roberts (brawd-yn-nghyfraith Dr. Everett), a chlywsant yno fod y cyfarfod wedi cael ei dori i fyny gan y mob, o ddinasyddion blaenaf a mwyaf parchus y lle.]

Ond yr oedd yn wrthwynebwr penderfynol i gaethiwed er ei ddyfodiad cyntaf i'r wlad. Pan oedd y wlad yn dechreu cael ei chynhyrfu o ddifrif ar bwnc caethwasiaeth, yr oedd Mr. Everett yn weinidog yn hen eglwys luosog a dylanwadol y "Capel Uchaf," yn Steuben, ac hefyd yn olygydd y Cenhadwr, yr hyn a roddai iddo safle bwysig, a mantais neillduol i anog ei gyd-genedl i bleidio achos rhyddid; a gwnaeth yntau hefyd ddefnydd da o'r cyfleusdra. Cymerodd y Cenhadwr safle benderfynol a diamwys yn yr achos ar ei gychwyniad cyntaf, yn y flwyddyn 1840, a pharhaodd, er pob digalondid a gwrthwynebiad, yn ffyddlon a di-ildio, hyd nes y cafwyd buddugoliaeth, ac y llwyddwyd i ddileu y gyfundrefn gaethwasaidd yn llwyr o'r wlad. Mae enw Dr. Everett yn deilwng i gael ei restru gyda'r enwogion gwrol a hunan-aberthol a feiddiasant herio dirmyg a gwawd, gwrthwynebiad ac erledigaeth chwerw y cyhoedd, yn eu hymroddiad i achos y gorthrymedig, a'u hymdrechion i ddiwygio y wladwriaeth o'r pechod gwaeddfawr o gaethwasiaeth, megys, Benjamin Lundy, William Lloyd Garrison, Arthur a Lewis Tappan, Gerrit Smith, Wendell Phillips, Beriah Green, Alvan Stewart, Theodore Weld, ac eraill―dynion na chyfrifasant eu heinioes eu hunain yn werthfawr, ac a lafuriasant tu hwnt i fesur o blaid achos rhyddid a chyfiawnder-oblegid bu efe mor ffyddlon ac ymroddol o fewn ei gylch, a dyoddefodd hefyd gymaint, yn ol ei amgylchiadau, a nemawr o honynt. O fewn ei gylch, meddwn, oblegid nid ydym yn anghofio mai yn mysg ei gyd-genedl y Cymry yr oedd efe yn llafurio yn benaf. Dywedai Cymro yn un o Dalaethau y Gorllewin wrthym unwaith, ei fod ef yn ystyried fod Mr. Everett wedi gwneuthur mwy tuag at ryddhau y caethion nag un dyn arall yn y wlad, oddieithr yr Arlywydd Lincoln. Cymro oedd hwnw, a hawdd gwybod mai o fewn y byd bach Cymreig yn unig yr oedd yn byw; a chan na wyddai nemawr am un byd arall, naturiol oedd iddo dybied mai hwnw oedd y mwyaf. Gwyr y cyffredin, fodd bynag, nad yw holl Gymry y byd ond megys defnyn o gelwrn i'w cydmaru â chenedloedd eraill ; ac y mae cylch eu dylanwad, o angenrheidrwydd, yn dra chyfyngedig yn y byd. Eto, nid wrth eangder cylch eu defnyddioldeb y gwobrwyir dynion, yn gymaint ag yn ol eu ffyddlondeb yn y cylch y byddont ynddo; ac o'i farnu wrth y safon yma, ac yn ol y goleu hwn, mae'n ddiau fod Dr. Everett wedi derbyn gwobr fawr, oblegid yr hyn a allodd, efe a'i gwnaeth.

Yn y rhifyn cyntaf oll o'r Cenhadwr, cyhoeddodd "Nodiadau ar Gaethiwed," gan Mr. Cadwaladr Jones, y pryd hwnw o Cincinnati, Ohio, ond yn awr o Lanfyllin, Cymru. Ac yn yr ail rifyn cyhoeddodd Mr. Everett erthygl o'i eiddo ei hunan, o dan y peniad, "Gweddio dros y Caethion." Rhoddodd bump o resymau dros hyny, y rhai oeddynt oll yn taro yn uniongyrchol ac yn rymus yn erbyn y gyfundrefn gaethwasaidd; yr olaf o'r rhai ydoedd, y "byddai eu cofio yn fynych ger bron ein Tad nefol wrth yr orseddfaine, dan ddylanwad ac arweiniad ei Ysbryd, yn debyg o'n dwyn i deimlo yn addas tuag atynt yn eu hadfyd, ac i weithredu yn effro a diflino, yn ofn yr Arglwydd, er eu rhyddhad a'u hiechydwriaeth." Cyhoeddodd hefyd "Benderfyniadau ar Gaethiwed," gan Eglwys Gynulleidfaol Gyntaf Great Falls, N. Y., yn datgan eu syniad o ddrygedd ysgeler y pechod o gaethwasiaeth-eu penderfyniad i'w wrthwynebu gydag arf y gwirionedd mewn cariad, a'u bwriad i gynal cyfarfodydd gweddi misol dros y rhai sydd mewn rhwymau, &c." Cymerodd amgylchiad pwysig le hefyd y flwyddyn hono, a dynodd gryn lawer o sylw ar y pryd, ac a gynhyrfodd gryn lawer o gydymdeimlad hefyd â'r bobl dduon orthrymedig, sef cymeriad llong ar ororau Lloegr Newydd, a llawer o ddynion duon ar ei bwrdd, y rhai a ladratesid o Affrica, i'w cludo i Cuba, er eu gwerthu i gaethiwed. Y mae llawer o ddarllenwyr boreuaf y Cenhadwr yn cofio, yn ddiau, am "Negroaid yr Amistad," yr hanes am y rhai a gynyrchodd ddyddordeb cyffrous ar y pryd. Yn y flwyddyn 1841, cyhoeddodd "Anerchiad ar Ryddid," gan un a alwai ei hun yn GARWR RHYDDID. Y mae ysgrif a gawsom yn mysg papyrau y diweddar Barch. Morris Roberts ar y pwnc, a'r un enw wrthi, yn peri i`ni dybied yn lled sicr mai efe oedd awdwr yr anerchiad hwn ar ryddid. Y flwyddyn hono hefyd, pasiodd Cymanfa Gynulleidfaol Swydd Oneida y penderfyniad canlynol ar yr achos: "Penderfynwyd, Ein bod yn ystyried achos y caethion yn ein gwlad, eu lluosogrwydd, y creulonderau y maent yn ddyoddef, a'u hamddifadrwydd o foddion yr efengyl, yn galw am gydymdeimlad a gweddi, ac ymdrech drostynt, hyd a allo ein dylanwad gyrhaedd, er prysuro eu gwaredigaeth."

Felly gwelir fod yr achos yn graddol ddyfod i sylw. Yn rhag-gyfarchiad y golygydd am y flwyddyn 1842, dywed, "Y mae achos y caeth was wedi bod yn agos at ein meddwl y flwyddyn hon; ac yn hyn, fel achosion eraill, yr ydym yn dymuno gweithredu fel rhai sydd i roddi cyfrif i Farnwr y byw a'r meirw. Y mae yn dda genym ganfod fod graddau o ddeffroad yn mhlith ein cenedl, mewn manau, o blaid yr achos gwerthfawr hwn; ac O! enyned yr un ysbryd daionus yn mhob lle."

Yn y flwyddyn hono cyfieithodd a chyhoeddodd Mr. Everett, mewn rhifynau olynol o'r Cenhadwr, "Gyfansoddiad y Talaethau Unedig," yn nghyda " Datganiad eu Hannibyniaeth." Cyhoeddodd hefyd hanes ffurfiad Cymdeithas Wrthgaethiwol Gymreig yn Utica ac yn Steuben, yn nghydag amryw ysgrifau eraill ar wahanol arweddion yr achos. Ond nid oedd unrhyw wrthwynebiad neillduol i'r achos yn cael ei ddangos hyd yma. Cyfnod y cyfarfodydd mawrion a'r gwyliau, a'r gorymdeithiau dirwestol yn neillduol, oedd hwnw; ond yr oedd achos y caeth fel cwmwl bychan, eto yn graddol ymchwyddo. Yn y flwyddyn 1843, am fod rhai, fe allai, yn teimlo fod gormod yn cael ei gyhoeddi yn y Cenhadwr ar y pwnc, neu ynte rhag rhoddi achlysur i neb deimlo felly, cyhoeddwyd y Dyngarur, cyhoeddiad bychan misol o wyth tu dalen, o'r un plygiad a'r Cenhadwr, ac a ddeuai allan ganol y mis, yn yr hwn yr ymresymid yn unig "ar gyfiawnder a dirwest." Anfonwyd ef yn rhad i'r holl weinidogion, o bob enwad, a'i derbynient, mor bell ag y caed gwybodaeth am eu henwau. Yn y rhifyn cyntaf dywedai Mr. Everett, gyda golwg ar ei fwriad ynddo : "Yn neillduol erfynir am ffeithiau gan y rhai a fuont yn y caeth Dalaethau, o berthynas i wir sefyllfa y caethion, y driniaeth a gânt, eu hymborth, gwisgoedd, breintiau crefyddol, &c."

Felly bu'r Dyngarur am y flwyddyn hono, bob mis, yn dangos allan erchyllderau caeth wasiaeth mewn lliwiau echrydus iawn. Yr oedd sylwadau tirion a theimladwy, ac erfyniau dwys-ddifrifol Mr. Everett, yn gymysgedig â'r darluniadau hyn, yn tueddu yn fawr er cynyrchu yn nghalon pob Cymro gasineb perffaith at y gyfundrefn greulon. Yn y flwyddyn hono dechreuai y dyfroedd gynyddu ac ymgryfhau. Yr oedd pleidwyr caeth wasiaeth yn cynhyrfu am gysylltu Texas â'r Talaethau Unedig, er lledaeniad a bytholiad caeth wasiaeth. Yr oedd pleidwyr rhyddid, hwythau, yn anfon deisebau i Washington i erfyn am ddilëad deddf greulon 1793, yr hon oedd yn rhwymo dinasyddion y Talaethau rhyddion i gynorthwyo y caethfeistri i ddal eu caethion ffoedig. Cyhoeddodd Mr. Everett erthygl alluog o blaid arwyddo y ddeiseb. A thrachefn cyhoeddodd ymresymiadau cryfion Mr. James G. Birney ar yr un mater, yn nghyda rhai ysgrifau gan eraill, ar Greulonderau y Gaethfasnach, &c. Penderfynodd cyfeillion y caethwas hefyd yn Lloegr Newydd, i anfon allan genadau i gynal cant o leiaf o gynadleddau a chyfarfodydd gwrthgaethiwol yn Nhalaethau New York, Pennsylvania, Ohio, ac Indiana. Cynaliwyd hefyd yn y cyfamser gynadledd wrthgaethiwol bwysig yn Llundain, i'r hon y dysgwylid, ac y bwriadai y byd-enwog Thomas Clarkson ddyfod, ond methodd gan henaint ac afiechyd. Anfonodd anerchiad, fodd bynag, yr hwn a ddarllenwyd er mawr foddhad y cyfarfod. Pasiwyd yno benderfyniadau cryfion yn erbyn caethiwed, a mabwysiadwyd anerchiad at eglwysi Crist yn America, a gwledydd eraill lle yr oedd dynion yn cael eu dal yn gaethion.

Naturiol tybied fod y gwahanol foddion hyn yn effeithio i ddeffroi teimlad o ddyddordeb yn yr achos yn meddyliau y werin, ac fod y Cymry hefyd yn cyfranogi i raddau o'r un ysbryd. A chawn i Gymanfa Gynulleidfaol Swydd Oneida y flwyddyn hon, neu yn hytrach y gweinidogion oeddynt yn y Gymanfa, mewn cynadledd, basio tri o benderfyniadau difrifol, y rhai a osodent allan eu hystyriaeth o fawr ddrygedd caethiwed, a'u dyledswydd bwysig hwythau, fel gweision yr Arglwydd, i rybuddio eu cyd-ddinasyddion o'r ysgelerder hwn, a'u hanog yn ddifrifol a thaer i ddeffroi yn yr achos, a gwneuthur a allont, yn ofn yr Arglwydd, er gwaredigaeth y gorthrymedigion. Cynaliwyd cynadledd luosog a phwysig hefyd yn hydref y flwyddyn hono yn Steuben, pryd yr oedd yn bresenol amryw o areithwyr o fysg y Saeson-heblaw y Parchn. Mr. Everett, Morris Roberts, S. A. Williams, a T. J. Evans. Parhaodd y cyfarfod am ddau ddiwrnod cyfan, y boreu, prydnawn, a'r hwyr. Siaradwyd yn rymus ac effeithiol, yn Gymraeg a Saesonaeg, a phasiwyd amryw benderfyniadau cryfion ar yr achos. Effeithiodd y cyfarfod hwn i godi y teimlad gwrthgaethiwol gryn lawer yn uwch yn yr ardaloedd hyny nag oedd o'r blaen. Ac yn y flwyddyn 1844 aeth yn gynhyrfus iawn, o herwydd yr oedd yr etholiad Llywyddol i gymeryd lle y flwyddyn hono. Y cwestiwn mawr i'w benderfynu y pryd hwnw rhwng y pleidiau gwladyddol oedd, derbyniad Texas i'r Undeb. Yr oedd y Democratiaid yn gryf dros ei derbyniad, tra yr oedd y Whigiaid, o'r tu arall, yn erbyn hyny, oddieithr y gellid effeithio hyny yn deg a boddlonol, ac heb achosi rhyfel. Yr oedd yn ddigon amlwg i bawb yn y De a'r Gogledd y byddai ei derbyniad, o herwydd ei lleoliad, yn fantais a chryfhad mawr i gaethiwed. Ac yr oedd pleidwyr caethwasiaeth yn y De, fel y sylwyd, wedi bod yn cynhyrfu y pwnc o'i derbyniad i'r pwrpas hwnw. Ac yr oedd llawer o Whigiaid a Democratiaid y Gogledd yn erbyn ei derbyniad ar y cyfrif hwnw, ond fod llwyddiant eu plaid o fwy o bwys yn eu golwg hwy ar y pryd.

Penododd y gwahanol bleidiau eu hymgeiswyr. Y Democratiaid a enwasant James K. Polk, a'r Whigiaid a osodasant i fyny Henry Clay, yr hwn, yn bersonol, ydoedd yn dra phoblogaidd y pryd hwnw. Y Gwrthgaethwyr, hwythau, a enwasant James G. Birney. Yr oedd Polk a Birney yn ddigêl, ac o egwyddor y naill dros, a'r llall yn erbyn derbyniad Texas, o herwydd y fantais a roddai hyny i gaethwasiaeth. Amcanodd Henry Clay gymeryd tir canol, ac yn anffodus iddo ef a'i blaid, ysgrifenodd lythyrau yn y rhai oedd yn datgan ei wrthwynebiad i dderbyniad Texas, nid ynddo ei hun, ond am y peryglai ryfel, &c. A dywedai hefyd na ddylasai y cwestiwn o gaethiwed ddyfod i fewn i'r ystyriaeth, &c. Cyn cyhoeddiad y llythyrau hyny golygid fod y Whigiaid yn debyg o gario pob peth o'u blaen yn yr etholiad. Ond profodd llythyrau mwys Mr. Clay yn fuan fel maen melin am wddf y blaid, a newidiodd agwedd pethau yn fawr. Taflwyd pleidwyr Clay ar unwaith i'r diffynol, ac yr oeddid bellach yn golygu y byddai yr etholiad yn un glos iawn rhwng y ddwy hen blaid; mor glos, yn wir, fel y byddai i bwy bynag a gariai Dalaeth New York gario yr etholiad. Felly gwnaed New York yn faes neillduol yr ymdrechfa.

Yr oedd llawer o'r Whigiaid yn honi eu bod yn fwy o wrthwynebwyr i gaethwasiaeth na'r Democratiaid, ac yr oedd yn debygol y byddai i'r rhan fwyaf o lawer o'r Gwrthgaethwyr ddyfod allan o'r blaid hono, ac felly wrth gwrs yn ei gwanhau ac yn peryglu ei llwyddiant. Parai hyn y gwneid ymdrech mawr er lladd y blaid Wrthgaethiwol, neu y drydedd blaid fel ei gelwid, a chadw pawb i bleidleisio fel arferol gyda'r blaid Whigaidd. Yr oedd y Gwrthgaethwyr, hwythau, yn benderfynol iawn nad oedd mewn gwirionedd ddim rhagor rhwng y ddwy hen blaid ar bwnc caethwasiaeth. Dywedent hefyd fod Henry Clay yn dal caethion ei hunan. Yr oedd hefyd, meddent, wedi bod yn ymladd ornest (duel), ac felly cyhuddent ef o fod yn gaethfeistr a llofrudd! a dywedent nad oedd yn deilwng, ac na chaffai eu pleidleisiau hwy. Felly aeth yn boeth iawn. Yr oedd Dr. Everett, wrth wrthwynebu caethwasiaeth, fel pob peth arall, yn sefyll ar dir cadarn gwirionedd a chyfiawnder, a chyhoeddodd yn y Cenhadwr egwyddorion a theilyngdod cydmarol y gwahanol ymgeiswyr, a chymerodd ei safle yn ddiamwys ac agored o ochr Mr. Birney a'r blaid Wrthgaethiwol. Achosodd hyn ar unwaith wrthwynebiad ffyrnig a phenderfynol iddo gan bleidwyr Henry Clay yn mysg y Cymry; ac yr oedd y rhan fwyaf o honynt felly. A phan welsant nad allent ateb ei resymau ar dir teg y gwirionedd, na'i ddarbwyllo yntau chwaith i ddystewi, trodd llawer o honynt i'w wawdio a'i ddirmygu, a chariasant eu gwrthwynebiadau i raddau tra eithafol a chywilyddus. Ni wnaed y fath wrthwynebiad i unrhyw blaid, na dim yn debyg chwaith, hyd y flwyddyn 1876, pryd y meiddiodd ychydig o dan led gyffelyb amgylchiadau, bleidleisio dros lwyr waharddiad y fasnach mewn diodydd meddwol.

Mae yn wir fod y gwrthwynebiad yn 1844 yn chwerwach a mwy erlidgar nag ydoedd yn 1876, ac yn wir nag y gwelsom ef ar un amser arall, heb eithrio adeg y gwrthryfel mawr. Pa fodd i gyfrif am hyny nis gwyddom, os nad am mai y gallu caethiwol, arglwyddiaethus a threisiol, oedd wrth wraidd, ac mewn modd arbenig yn cynyrchu cynhwrf ac yn rhoddi y cyweirnod i'r ymrysonfa hono yn 1844. Cleciadau bygythiol fflangell y caeth-yrwr, a thincian cadwynau gormes, a glywid yn amlwg braidd yn mhob man y flwyddyn hono. Yr oedd yr ysbryd tra-arglwyddiaethus a balchreolus hwn wedi cael ei hir feithrin yn y De, ac wedi cael ei ryddid er ys blynyddau bellach, nid yn unig i gyhoeddi y bygythion mwyaf arswydus a beiddgar, ac i weinyddu y cosbedigaethau mwyaf creulon ar y sawl a dybid eu bod yn cydymdeimlo â'r caethion yn y De, ond hefyd i gyhoeddus gynyg miloedd o ddoleri o wobr am benau rhai o'r cyfryw yn y Gogledd. Yr oedd yr ysbryd trahaus ac uchelfrydig hwn wedi cael ei oddef i redeg yn orwyllt ac aflywodraethus drwy yr holl wlad, gan derfysgu a thori i fyny gyfarfodydd heddychlon, dymchwelyd a distrywio argraffweisg, dirwyo a charcharu; ïe, ac hefyd gymeryd ymaith fywydau dynion yn unig am gydymdeimlo â'r gorthrymedig, a gwrthwynebu caethwasiaeth y De. A chafodd Dr. Everett deimlo i raddau oddiwrth eu ffyrnigrwydd yn y blynyddau hyny. Ac yn adeg yr etholiad yn 1844 yn arbenig, fel y crybwyllwyd, aeth yn gynhyrfus iawn.

Yr oedd amrywiol bethau yn cydgyfarfod yn yr amgylchiadau hyny, er eu gwneyd yn neillduol o brofedigaethus i feddwl Dr. Everett. Yn un peth, yr oedd ef ei hunan yn ddyn naturiol lwfr (timid), ac o deimladau tyner ac ofnus; ac i raddau yr oedd yn dueddol i edrych ar yr ochr dywyll i bethau. Yr oedd ei ysbryd heddychlawn, tawel a boneddigaidd hefyd yn peri iddo fod yn wrthwynebus iawn i bob cynhwrf a therfysg. Yr oedd cythrwfl ac anghydfod yn peri poen a gofid iddo. Dywedai wrth ei was ar ddiwrnod yr oedd cyfarfod eglwysig i fod yn ei gapel, a olygai fod yn gynhyrfus, y buasai yn well ganddo fyned i'r coed o'r golwg, na myned i'r capel y diwrnod hwnw. Yr oedd ei deimlad gofidus fel eiddo y prophwyd Jeremiah pan ddywedai, "O na byddai i mi yn yr anialwch lety fforddolion, fel y gadawn fy mhobl, ac yr elwn oddiwrthynt." Heblaw hyny yr oedd Mr. Everett i gryn raddau ei hunan yn yr ymdrechfa bwysig. Yr oedd mwyafrif mawr o'r Cymry yn ei erbyn yn yr achos hwn. Mae yn wir fod gweinidogion Annibynol Sir Oneida yn gyffredin gydag ef. Y Parchn. Morris Roberts, James Griffiths a Samuel A. Williams a safasant fel un gwr drosto; a derbyniasant hefyd ran helaeth o'r dirmyg a gafodd yntau. Yr oedd rhai ereill yn ngwahanol ranau'r wlad yn bleidiol iddo, yn mysg y blaenaf o'r rhai yr oedd yr hybarch Thomas Edwards, sydd eto yn fyw, ac yn awr o Pittsburgh. Gorphwysed bendithion goreu y nefoedd arno yn ei hen ddyddiau, a chaffed fyw flynyddoedd lawer i fwynhau ffrwythau y fuddugoliaeth! Ond fel rheol ni chaffai Mr. Everett gydymdeimlad, hyd yn nod ei frodyr yn y weinidogaeth yn y cyfnod hwnw. Ac yr oedd y rhan fwyaf o ddynion mwyaf dylanwadol yr eglwysi yn ei erbyn. Yr oedd hefyd yn cyhoeddi y Cenhadwr, ac yn awr yn unig berchenog o hono, ac yr oedd o bwys iddo allu cadw ei dderbynwyr heb leihau mewn rhifedi, ac yr oedd llawer yn bygwth ei roddi i fyny, a daroganid y darfyddai ei gylchrediad yn hollol yn fuan. A'r Cenhadwr oedd yr unig gyhoeddiad Cymraeg oedd y pryd hwnw yn pleidio achos y caeth.

Ysgrifenodd y Parch. Mathias Phillips, gweinidog gyda'r Bedyddwyr y pryd hwnw yn St. Albans, Ohio, lythyr at Mr. Everett, yr hwn a gyhoeddwyd yn y Cenhadwr am 1845, tu dal. 333, yn yr hwn y dywed: "Y mae yn ofidus genyf fod cynifer yn eich gwrthwynebu yn Seren Oneida, ac eraill o'r cyhoeddiadau misol, os nid yn arfer eu dylanwad yn eich erbyn; eto, fel Meroz, ddim o un cynorthwy."

Yr oedd y gwrthwynebiad a wneid i Mr. Everett hefyd, fel y crybwyllwyd, yn chwerw ac eithafol iawn. Cynelid cyfarfodydd politicaidd Cymreig gan y Whigiaid yn yr ysgoldai ar hyd yr ardaloedd, ac nid oedd enwau rhy ddirmygus i'w rhoddi ar Mr. Everett a'i ymdrechion, ynddynt; a chymeradwyid â bonllefau a rwygent yr awyr, y ddifriaeth isel wael! Defnyddid pob twyll-resymau ac anwireddau hefyd er dychrynu y bobl rhag cymeryd eu dylanwadu ganddo. Dywedid pe diddymid caethiwed y byddai y bobl dduon yn heigio y Gogledd fel llyffaint yr Aipht. Byddent yn tori ein tai, yn lladrata ein meddianau, yn treisio ein gwragedd, yn lladd ein dynion ac yn priodi ein merched, &c., &c. Dywedid hefyd fod caethiwed yn sefydliad Beiblaidd, ac mai anffyddwyr oedd y gwrthgaethwyr; a mawr y stwr a wneid eu bod yn troseddu ar Gyfansoddiad y wlad, yr hwn, meddent, oedd yn amddiffyn a chyfreithloni caethiwed. Priodolid pob drwg a ddygwyddai, i waith Mr. Everett ac eraill yn pregethu "abolition." Dywedwyd yn ei wyneb gan un yn nghapel Steuben, mai o'i achos ef a'i waith yr oedd y tatws yn pydru y blynyddau hyny. Clywsom un hen wr yn sicrhau mai barn amlwg oddiwrth yr Arglwydd, ar Mr. Everett am bregethu politics ar y Sabboth, a son cymaint am y bobl duon, oedd y gwlaw trwm a ddisgynodd ar brydnawn y Gymanfa yn Steuben. Cariwyd y gwrthwynebiad hefyd i'w eglwysi, yn enwedig yn Steuben; a gwnaed terfysg nid bychan yno. Cyhuddwyd Mr. Everett o fod yn gadael yr efengyl ac yn myned i bregethu politics ar ddydd yr Arglwydd, &c., &c. Ac ymdrechwyd yn egniol i rwygo yr eglwys a'i droi yntau ymaith. Aeth amryw allan y pryd hwnw, ac ni ddaeth rhai o honynt byth yn ol!

Cyn hir defnyddiwyd yr argraffwasg er taflu dirmyg a gwaradwydd arno ef ac eraill o weinidogion Oneida. Cyhoeddwyd wythnosolyn a elwid Seren Oneida, ac yn y papyryn hwnw, yr hwn a gyhoeddwyd am amrai fisoedd, cyhoeddwyd (uwchben ffugenwau wrth gwrs) yr enllibiau mwyaf maleisus, a'r celwyddau mwyaf gwarthus a chywilyddus, am weision yr Arglwydd. Dywedai y Parch. Samuel A. Williams y byddai "y llythyrau dienw hyny oll a'r enwau priodol wrthynt yn y farn!" Cyfansoddwyd rhigymau hefyd ar enw barddoniaeth, yn llawn o lysenwau mwyaf dirmygus, ac o'r ensyniadau mwyaf sarhaus ac iselwael am Mr. Everett, Mr. Roberts ac eraill. Gwnaed hefyd yr hyn oedd yn fwy difrifol eto, er sarhau Mr. Everett, oblegid anurddwyd ei anifail trwy dori ei fwng a rhawn ei gynffon, er ei wneuthur yn wrthddrych gwawd a chwerthiniad ynfydion wrth deithio ar hyd y ffyrdd! A mwy na'r cyfan, dywedir y bygythiwyd ei fywyd gan ryw rai. Am hyn ysgrifena ei ferch Mary atom o New York fel y canlyn: "Y mae adgofion am y cyfarfodydd dirwestol a gwrthgaethiwol hyny yn mysg adgofion mwyaf bywiog boreu fy oes. Yr oedd y dyddordeb a gymerai fy nhad ynddynt mor fawr, ac yr oedd yn meddu gallu i lenwi ei holl deulu a'r un ysbryd. A ydych yn cofio amgylch ́iadau cneifiad neu yn hytrach haciad mwng a rhawn cynffon ei geffyl? Yr ydoedd oddeutu amser penodiad Mr. Birney i redeg am y Llywyddiaeth yn y flwyddyn 1844. Aeth i bregethu ar noson waith i ysgoldy yn A chan fod ei fywyd wedi cael ei fygwth o'r blaen, yr oeddym yn ofni iddo i fentro myned ei hunan. Felly aeth fy mrodyr John a Robert gydag ef. Ei destyn ydoedd, 'Agor dy enau dros y mud yn achos holl blant dinystr.' Wrth fyned i ymofyn y ceffyl ar ol y cyfarfod, cawsant y creadur truan wedi ei anffurfio. Rhaid mai â chyllell y gwnaed hyny, oblegid yr oedd amryw doriadau yn ei gnawd. Yr oedd y nos yn dywyll, a chan feddwl y gallai fod yr harness wedi ei gwneuthur yn anniogel, ac y gallai hefyd yr ymosodid arnynt ar y ffordd, ildiasant i gymelliadau taer cyfeillion i aros hyd y boreu. Dychymygwch ein pryder a'n hofnau, a'n hesmwythâd ar weled y tri yn dyfod i mewn i'r buarth boreu dranoeth. Nid anghofiaf byth ein cymysg deimladau y boreu hwnw o lawenydd a diolchgarwch am eu dychweliad diogel, ac o ddigllonedd wrth weled y toriadau yn nghnawd, a'r anurddiad a wnaethid ar ein merlyn bychan Canadaidd yn nhoriad ymaith ei fwng cyhwfanaidd, a'i gynffon wedi ei hymddifadu o'i phrydferthwch. Aeth wrth y llys-enw 'Bobtail Birney' yn hir ar ol hyny. A'n Henry bach, deg mlwydd oed, a gyfranogai hefyd o'r enw a'r dirmyg; ac arferai y bechgyn ymosod arno pan elai i'r pentref i ymofyn y mail. Unwaith bu agos iddynt lwyddo i ysbeilio ei logellau, ond llwyddodd i fyned o'u gafael. Byddem ni bob amser yn cael ein hatal rhag rhoddi mynegiad o'n digllonedd, yn wyneb y fath driniaeth greulon ar ein ceffyl truan; a chaffai pob ysbryd dial bob amser ei dawel ond effeithiol geryddu ynom. Ac er y mynegwyd i'n tad ar ol hyny pwy oedd y troseddwr hwnw, ni wnai byth amlygu yr enw, hyd yn nod i'w blant ei hunan."

Ni chlywsom fod neb erioed wedi awgrymu y peth lleiaf yn erbyn cymeriad moesol Mr. Everett. Nid oedd hyny, fodd bynag, fe allai, ond mater o ddygwyddiad yn fwy na dim arall, oblegid cafodd dynion mor bur ag yntau ddyoddef felly lawer gwaith cyn hyn; ïe, ac hyd yn nod ein bendigedig Waredwr ei hunan! Ac ni buasai raid i'r gwrthwynebiad fod yn ddim chwerwach yn erbyn Mr. Everett, nac yn fwy afresymol chwaith, er ymosod ar ei gymeriad yntau ; ond ni ddygwyddodd gymeryd y cyfeiriad hwnw. Y mae bron yn anghredadwy, erbyn hyn, i'r sawl na welsant ac na chlywsant eu hunain, mor chwerw ac eithafol yr aeth llawer yn eu gwrthwynebiad. Cof genym glywed adrodd ar y pryd, fod un o'r ardalwyr yn Steuben yn dyfod i'r capel un boreu Sabboth, a chan sefyll yn y buarth o flaen y capel, dywedai yn uchel, fel y gallai pawb ei glywed, ei fod wrth ddyfod yno y boreu hwnw, wedi gweled bachgen digrefydd ac annuwiol yn y cae yn codi tatws ar ddydd yr Arglwydd ; ac iddo ef ofyn iddo, a ddeuai efe ddim i'r capel?—ac iddo yntau ateb gyda llw mawr, na ddeuai ef, nad oedd arno eisiau myned i'r capel i wrando ar bregethu politics! Ond yn mhen ychydig ddyddiau gollyngwyd y gath o'r cwd, trwy i'r bachgen gyfaddef mai ar gais, ac yn ol trefniad blaenorol â'r person crybwylledig, y gwnaethai efe felly; a chaed mai cynllun ydoedd y cyfan gan y dyn hwnw er dirmygu a cheisio niweidio Mr. Everett!

Ond safodd ef ei dir yn ddewr a di-ildio, yn wyneb yr holl waradwydd a'r gwrthwynebiad chwerw. Diau y buasai yn llawer mwy dymunol iddo ef, i allu byw mewn heddwch â'i gymydogion, ac i gael tawelwch ac undeb brawdol yn ei eglwysi ; eto yr oedd yn teimlo ei bod yn ddyledswydd arno sefyll o blaid yr achos pwysig. Teimlai yn hyny fel yr Apostol, pan ddywedai, "Angenrhaid a osodwyd arnaf." Ac yr ydym yn credu yn sicr y buasai yn cymeryd ei ladd a'i losgi yn hytrach nag ildio a rhoddi i fyny. Mewn cyfarfod eglwysig a gynaliwyd yn y Capel Uchaf, i'r dyben o geisio rhoddi taw arno, pryd, yn ol yr hanes a gawn, yr ymddygai rhai yno yn waeth nag "anifeiliaid yn Ephesus," eisteddai Mr. Everett yn dawel i wrando ar y cyhuddiadau beiddgar a roddid yn ei erbyn, a'r pethau caledion a ddywedid am dano. Yna codai a safai wrth dalcen y bwrdd, a'i law yn gorphwys ar y Beibl, a dywedai, "Wel, frodyr, gellwch fy nhroi allan o'r eglwys hon, a chau y pwlpud hwn yn fy erbyn ; ond tra y bydd genyf wasanaeth y tafod yma, a thra y bydd y bysedd hyn yn gallu ysgrifenu, ni ellwch byth fy atal i ddadleu dros y gorthrymedig." Aeth yn mlaen mewn amddiffyniad iddo ei hun a'i waith, mewn modd araf-ddifrifol, a chwbl hunan-feddianol a Christionogol; ac eto gwelid yn ei holl ymddangosiad benderfynolrwydd diysgog y graig, a deallai ei wrthwynebwyr yn fuan, nad oedd cau dyrnau a gwneuthur clochnadau a haeriadau hyfion, disail, yn dychrynu dim ar y "dyn bach." Ac addefai rhai o honynt ar ol hyny, nad oedd o un dyben iddynt geisio ateb ei ymresymiadau cryfion.

Yn ei anerchiad golygyddol yn y Cenhadwr, ar ddiwedd y flwyddyn hono (1844), dywed: "Byddai yn ddymunol ac yn werthfawr iawn genym allu enill ewyllys da a boddhad ein cyd-ddynion yn gyffredinol; ond nis meiddiwn geisio ymgyrhaedd at hyny ar y draul o ddigio yr Arglwydd a thynu euogrwydd ar ein cydwybod." Ac eto dywed: "Gwnaed ymosodiad arnom yn ddiweddar, a roddodd glwyf dyfnach ar ein meddwl na nemawr ddim o'r cyfryw natur a'n cyfarfu erioed o'r blaen. Eto yr ydym yn siriol ac yn dawel gyda ein gwaith; nid ydym yn gofalu cymaint i geisio amddiffyn ein cymeriad; gadawn hyny yn llaw yr Arglwydd, ac ymbiliwn am gymorth i sefyll o hyd dros egwyddorion cywir, i feithrin yn ein mynwes dymer efengylaidd at bob dyn, i ddysgu doethineb mewn trallod, ac i ymddiried yn yr Arglwydd." Yr oedd ei benderfyniad yn ddiysgog a diblygu. Mewn nodyn yn y Cenhadwr am 1844, tu dal. 143, dywed: "O'n rhan ein hunain ein penderfyniad ydoedd o'r dechreu, deued hawddfyd, deued adfyd, bywyd neu angau, i sefyll ar dir cyfiawnder, ac i ddyferu gair yn fynych wrth ein hoff genedl am sefyllfa aethus meibion a merched y gaethglud fawr."

Fel dangosiad o'r cyhuddiadau a roddid yn ei erbyn, gallem nodi yr engreifftiau canlynol: Cyhuddiad cyffredin a roddid gan lawer yn ei erbyn oedd, ei fod yn gadael yr efengyl, ac yn myned i bregethu politics ar y Sabboth. Ei ateb i hyn ydoedd: "Gan fod cymeriad dyn o fwy o werth, mewn ystyr, na dim arall a fedd yn y byd hwn, y mae (y golygydd) yn golygu yn rheidiol gwneyd sylw byr ar y cyhuddiad. Y mae yn cydnabod yn rhwydd ei fod yn pregethu ar bechadurusrwydd gorthrymder, ar y Sabboth, nad yw Duw yn cymeradwyo gorthrymder yn neb, fod hyny yn anghydsefyll â'i natur sanctaidd, ac â'i holl air, ac y dylai pob dyn, Cristionogion a phawb eraill, ddefnyddio eu holl ddylanwad a gwneyd a allont yn mhob dull heddychol a chyson â'r efengyl, o blaid y gorthrymedig, nes y 'gwareder ef o law y gorthrymwr.' Y mae yn pregethu ar y Sabboth fod y caethiwed Americanaidd yn bechod ysgeler yn erbyn Duw, yn ffieidddra cywilyddus, ac yn gamwedd eglur yn erbyn dynion a grewyd ar ddelw Duw; fod rhagfarn yn erbyn dyn o herwydd ei liw, neu un peth ynddo o waith Duw, yn sarhad ar Dduw ei hun, lluniwr a chrëwr pawb. Y mae yn pregethu ar y Sabboth fod pleidwyr gorthrymwyr yn gyfranogion â hwynt yn y camwedd. Ystyria y pethau hyn yn rhan o gyngor Duw, ac y byddai yntau yn euog o atal rhan o'r cyngor, pe byddai iddo gelu oddiwrth y bobl, ar y fath amser, wirioneddau o'r fath bwysigrwydd. Ond wrth y gair politics y golygir yn gyffredin bethau gwladwriaethol, achosion arianol y wladwriaeth, megys y tariff, y banciau, a'r cyffelyb. Er ei fod yn credu fod y pethau yna yn deilwng o son am danynt ar amserau priodol, ac er ei fod yn credu y bydd i waredigaeth y caethwas effeithio yn ddaionus ar achosion tymorol ein gwlad mewn llawer o ystyriaethau, ac mai priodol ar amserau priodol, yw son am hyny, eto nid yw yn ystyried yn gyson â dybenion y Sabboth, fel dydd crefyddol, i ymdrin dim â'r pethau yna; a'r rhai a'i gwrandawant bob Sabboth a wyddant nad yw yn gwneyd felly. Ei gynulleidfa oll ydynt ei dystion o'r pethau hyn." Cenhadwr am 1844, tu dal. 348.

Cyhuddiad pwysig yn erbyn Mr. Everett gan lawer, hefyd, ydoedd ei fod yn enllibio Henry Clay a'i blaid, trwy ddweyd pethau mor galed yn eu herbyn. Yn ateb i hyn, dywedai: "Gwyr pawb nad enllibio yw dweyd y gwir. Os dywedir anwiredd ar gaethfeistri, mae hyny yn enllib; ond os y gwir a ddywedir, nid enllib yw. Dywedir yn barhaus fod yr ymgeisyddion am y Llywyddiaeth gan ddwy o'r pleidiau yn awr ar y maes, yn gaethfeistri, a chyhoeddir eu rhesymau dros barhad y gyfundraeth hon, ac yn erbyn egwyddorion rhyddid i bob dyn, a hyny yn eu geiriau eu hunain. Nis gall hyny fod yn enllib. Dangosir am un o honynt ei fod yn ymladdwr duels o'i ieuenctyd— wedi bod ddwy waith ar y maes, ac wedi saethu ei wrthwynebydd, a'i wrthwynebydd wedi ei saethu yntau unwaith, ond nid yn angeuol; a'r tro arall wedi saethu ei belen trwy ddillad ei wrthwynebydd, ond methu ei berson; ac yn ddiweddar wedi caniatau y gallai amgylchiadau ddygwydd i'w alw eto i'r maes! Ond nid enllib yw hyn, ond ffeithiau gwirioneddol."

Aeth rhai mor feiddgar a digywilydd a thaenu ar led, mai er mwyn gwneyd arian yn unig yr oedd Mr. Everett yn gwrthwynebu caethwasiaeth ei fod yn ngwasanaeth y Democratiaid i wneuthur hyn er mwyn tynu pleidleisiau oddiwrth Mr. Clay, a'u bod yn talu arian mawr iddo am hyny-pum' cant o ddoleri meddai rhai; saith cant, meddai eraill. Wrth sylwi ar hyn, dywedai; "Clywsom, flynyddau yn ol, bethau cyffelyb; ond ni wnaethom sylw o honynt; ac nis gwnaem yn awr oni bae ein bod yn ofni i'r dywediad enllibus wneyd niwed i'r achos ag y mae ei lwyddiant yn agos at ein calon. Yr ydym yn awr yn tystio yn ddifrifol, ger bron yr hwn a wyr bob peth, nad ydym wedi derbyn dim, nac yn dysgwyl derbyn un ddolar, nac un cent, am ddim a wnaethom erioed yn yr achos hwn. Yr ydym wedi dysgwyl gwawd a dirmyg lawer tro o herwydd ein hymlyniad wrth achos a ddirmygir gan lawer; ac y mae hyny yn dyfod i'n rhan i raddau y dyddiau hyn, yn nghyda cholledion arianol hefyd, mewn amryw ffyrdd. Ond y mae meddu cydwybod ddirwystr yn ein mynwes tuag at Dduw a dynion yn mwy na gorbwyso y cyfan; ac y mae ein gobaith, er yn wan, o gael bod ryw ddiwrnod gyda'r dyrfa hono ag y dywed y Barnwr wrthynt, Yn gymaint a'i wneuthur o honoch i un o'r rhai hyn, fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch.'"-Cenhadwr, 1844, tu dal. 346.

Felly daliodd ati mewn ysbryd Cristionogol, yn ddiflino, i daflu goleuni y gwirionedd dwyfol yn ei dan beidrwydd, i lewyrchu ar ddrygedd ysgeler caethwasiaeth, ac ar y mawr ddrwg a'r pwysig gyfrifoldeb o bleidleisio dros ddynion oeddynt yn pleidio y fath gyfundrefn echryslon. Gwnai hyn yn ei bregethau, ac mewn areithiau ar hyd yr ardaloedd, mewn ysgoldai a thai anedd, yn gystal hefyd ag mewn ysgrifau grymus a difrifol yn y Cenhadwr. Yr oedd yr Undeb Cynulleidfaol yn Swydd Oneida hefyd, yn mhob Cynadledd braidd, yn pasio penderfyniadau ar yr achos, ac yn gollwng ei ergydion trymion yn erbyn pleidwyr trais, a daeth Cymanfaoedd yr enwad hwnw mewn Talaethau eraill, cyn hir, i efelychu ei esiampl. Parhaodd yn frwydr galed a difrifol am amser maith. Rhy faith yma fyddai dilyn yr hanes yn ei holl fanylion; eithr achos rhyddid a chyfiawnder a raddol enillodd y dydd. Arweiniodd hyny i'r "gwrthryfel mawr," nad ydym hyd yma wedi ein gwaredu oddiwrth ei effeithiau a’i adfydus ganlyniadau ! Drylliwyd rhwymau gormes, gollyngwyd y carcharorion yn rhydd, a sicrhawyd, tu hwnt i bob posiblrwydd o fethiant, na chaiff caeth wasiaeth fodoli byth mwyach ar un droedfedd o dir perthynol i'r Talaethau Unedig! Golchwyd ein baner odidog yn lân oddiwrth y gwaed a'i llychwinai, a chyhwfana am byth mwyach yn wir faner rhyddid i bob dyn a ymgysgoda o dan ei hamddiffyniad!

Cafodd Dr. Everett, er ei fawr foddhad, fyw i weled hyn oll wedi ei gyflawni. A chafodd fyw hefyd i weled Duw yn peri i'w "holl elynion fod yn heddychol ag ef!" Cauodd yr Arglwydd bob genau a agorwyd yn ei erbyn; a byddai yn lled anhawdd heddyw ddyfod o hyd i ond ychydig o'r rhai a fuont yn ei anmharchu mor gywilyddus, ac yn ei wrthwynebu mor chwerw, yn nghynhwrf mawr y blynyddoedd gynt. Erbyn hyn mae y frwydr fawr hono wedi tawelu, a bellach mae'r mwg a'r caddug a lanwai yr awyrgylch wedi chwalu ymaith. A gwelir yn awr yn glirach wir gymeriad yr ymrysonfa bwysig; a gellir barnu erbyn hyn yn decach, a mwy diduedd, ymddygiadau y gwahanol bleidiau ynddi. Gwelir yn eglur erbyn heddyw, mai Dr. Everett oedd yn iawn! Gwelir hefyd ddarfod iddo gael cymorth mawr i gadw ar ganol ffordd y gwirionedd, ac ymgadw hefyd yn ysbryd yr efengyl yn dra rhyfedd, ac ystyried pobpeth, drwy holl boethder yr ymdrech fawr hono! Daw eymeriad yr ymosodiadau a wnaed arno hefyd i'r golwg yn eu lliw priodol eu hunain erbyn hyn; a diau mai y peth goreu ellir wneyd, bellach, yw taflu mantell cariad trostynt, i'w cuddio o olwg y byd, a cheisio mynwesu y syniad fod egwyddorion a dybenion ei wrthwynebwyr y pryd hwnw yn llawer gonestach a rhagorach na'u hymddygiadau.