Cwm Eithin/Hen Arferion Bendithiol i'r Tlawd

Oddi ar Wicidestun
Hen Ddefodau ac Arferion, II Cwm Eithin

gan Hugh Evans, Lerpwl

Cwm Annibynia. Mudo a Dyddiau Ysgol


PENNOD XIV

HEN ARFERION BENDITHIOL I'R TLAWD

YN yr hen amser yr oedd y tlawd a'r gweddol dda allan yn llawer nes at ei gilydd nag ydynt yn awr. Fe ofelid am y tlawd mewn llawer dull a modd. Clywais fy mam yn cwyno mai un o'r pethau gwaethaf a ddaeth i Gymru o Loegr oedd "Mistar" a Mistres." Yn yr hen amser "F'ewyrth" a "Modryb" yr arferai'r gwas a'r forwyn alw eu meistr a'u meistres. Teimlai F'ewyrth a Modryb gyfrifoldeb am eu teulu.

GWLANA

Un o'r defodau mwyaf bendithiol i'r tlodion oedd y ddefod neu'r arferiad o wlana. Mae pob lle i gredu ei bod yn hen iawn—pa mor hen, amhosibl gwybod. Cawn sôn yn y Beibl am y lloffa ar ôl y medelwyr, a gorchmynnir i'r ffermwyr beidio â medi cornelau eu meysydd, peidio â chrafangu am y cwbl iddynt eu hunain. "Cofia'r tlawd a'r amddifad." Yr oedd lloffa yn beth pur gyffredin yng Nghymru gan mlynedd yn ôl. Dywaid y Parch. D. G. Williams, Ferndale, yn ei draethawd buddugol yn Eisteddfod Llanelli, 1895, Casgliad o Lên Gwerin Sir Gaerfyrddin, fel y canlyn am loffa :—

Arferai amaethwyr y sir adael i'r tlawd fyned i fewn i gae ŷd i loffa mor gynted ag y codid yr ŷd i'w ddâs. Newydd farw mae'r arferiad hon. Cofia dynion cymharol ieuainc hi mewn grym. Gwnai y tlawd gryn dipyn ohoni."

Nid ydwyf fi yn ei chofio mewn grym yn yr ystyr uchod. Arferem ni y plant lleiaf loffa; dyna a fyddai ein gwaith yn ystod y cynhaeaf, ond yn ein caeau ein hunain yn unig y gwnaem hynny. Yr oedd pob merch deilwng o'r enw yng Nghymru yn medru gweu, a dyna un o brif foddion cynhaliaeth llawer teulu tlawd. Gellid prynu gwlân am o chwech i wyth geiniog y pwys neu lai, ond yr oedd y swm hwnnw ymhell uwchlaw cyrraedd llawer yr adeg honno. Nid oedd cyflog y tad ond prin ddigon i gael bwyd i'r fam a'r plant. A dibynnai ar y fam i wneud llawer cynllun i gael ychydig o geiniogau i gael dillad, clocs ac esgidiau (os gellid eu cyrraedd) i'r teulu. Ac un o brif foddion cynhaliaeth oedd gwaith y fam yn "gweu sanau gwerthu." Dibynnai cynhaliaeth y teulu lawer ar gyflymder bysedd y fam yn trin ei gweill. Efallai y dylwn egluro y term sanau gwerthu oedd yn hollol ddealladwy i bawb pan oeddwn i yn hogyn. Isel iawn oedd pris sanau gwerthu: deg ceiniog neu un geiniog ar ddeg y pâr. Felly ni ellid fforddio rhoddi llawer o edau nac o lafur ynddynt. Edau ungorn a ddefnyddid fel rheol, a gweill breision, a'u gweu yn llac. Ni fuasent yn para wythnos i Robert y tad a'r hogiau, gyda'u hesgidiau tewion a'u clocs, na fyddai eu sodlau wedi gwisgo a'u bodiau trwyddynt. I wneud sanau cartre, defnyddid edau ddwygorn neu dair cainc, a gweill meinion fel y gellid eu gweu'n glos. Cofiaf y byddai Betsen y Garwyd yn cael hanner coron am bâr o sanau cartre pan nad oedd pris sanau gwerthu yn fwy na swllt a cheiniog. Ond yr oedd sanau gwerthu yn ddifai i hen siopwyr a rhyw hen daclau felly, oedd yn cael eu bwyd heb weithio amdano!

Ond pa fodd i gael gwlân heb arian i'w brynu? Perthynai i'r tlawd ei ran. Ni feddyliai'r hen bobl am ladd eidion, mochyn neu ddafad heb anfon rhyw damaid bach i rai o dlodion y cylch. A'r un fath gyda chynhaeaf y cneifio, yr oedd y tlawd i gael ei ran. Nid oedd gwraig ffarmwr deilwng o'r enw, a chanddi ddiadell gref o ddefaid, na ofalai am roddi dau neu dri chnu o wlân o'r neilltu yn barod erbyn y deuai'r gwlanwyr heibio. Gwir mai'r gwlân garw a geid gan ambell wraig grintachlyd, ond ni wrthodai dusw o wlân i'r rhai a alwai.

Gyda bod y cneifio drosodd, cychwynnai gwragedd y gweithwyr ar eu taith, bob yn ddwy neu dair. Galwent ym mhob amaethdy lle'r oedd defaid. Byddai'r arweinydd yn wraig mewn oed, yn deall tymheredd y ffarmwraig. Os byddai gwraig ieuanc yn y fintai, cyflwynai'r arweinydd hi fel gwraig hwn a hwn, ac yn perthyn i'r rhain a'r rhain. Câi'r hen gydnabod dusw pur dda, ond tusw bychan a gâi'r newyddian. Cymerai ddyddiau lawer i gerdded y gymdogaeth; ac erbyn gorffen byddai ganddynt swm pur dda o wlân. Ni synnwn nad fel hyn y treuliodd llawer gwraig ieuanc ei mis mêl. Priodi ddydd Sadwrn, mynd i'r capel y Sul ym mraich ei phriod, ac i'w gartre fo i swper nos Sul. Yna ar ôl i'w phriod fyned at ei waith bore Llun, cychwyn gyda'i mam, ei mam yng nghyfraith, neu ei modryb i wlana. Ffordd ardderchog, onid e? Teithio trwy ei holl gwmwd a gweled llawer lle na welodd o'r blaen, yn awyr iach diwedd Mehefin a dechrau Gorffennaf, a chael defnydd sanau iddi hi a'i phriod, a moddion i beidio â dal ei dwylo. Ystyriai'r hen bobl nad oedd dim mwy niweidiol i ferch newydd briodi na dechrau dal ei dwylo

Yr oedd cylchdeithiau gwlanwyr Cwm Eithin, fel rheol, yn rhyw dair neu bedair milltir o gylch eu cartrefi; ond yr oedd eitheindau. Ai ambell un dros y mynydd. Yr oedd llawer o ffyrdd gan wragedd ffermwyr i estyn y gardod; ambell un yn sarug a chybyddlyd. Weithiau ceid gwraig garedig a'i gŵr yn gybyddlyd. Yr adeg honno, byddai'n rhaid i'r wraig wasgu'r tusw gwlan yn glepyn bach caled os byddai'r gŵr yn ei gwylied yn estyn rhodd, rhag iddo edrych yn llawer. Dro arall ceid gwraig gybyddlyd, a gŵr rhadlon. Y pryd hwnnw chwelid y tusw allan i edrych yn fawr. Ond fel rheol pobl garedig oedd gwŷr a gwragedd Cwm Eithin, ac estynnid y rhodd yn llawen.

Cofiaf yr hen ddefod o wlana yn dda iawn; gwelais lawer o'r gwlanwyr ar eu teithiau. Goddefer imi roddi darlun o un o'r gwlanwyr wrth ei henw, sef Mari Wiliam, Pen y Criglyn. Nid wyf yn meddwl ei fod yn unrhyw ddirmyg ar neb ddywedyd iddi fod yn gwlana. Bu aml santes loyw wrth y gwaith. Yr oedd gan Mari Wiliam amryw deithiau i wlana-rhai o gwmpas ei chartref, a thros y Fynyllod ac oddi yno i Gwm Annibynia;[1] rhai y gallai eu gwneuthur mewn diwrnod a dychwel yn ôl at y nos. Ond am y daith y soniaf amdani, yr oedd yn un faith iawn-o chartref i flaen un o ganghennau hwyaf Cwm Eithin, pellter o tua phymtheng milltir. Pan fyddai'n mynd i'r daith honno, ni alwai yn y ffermydd o gylch ei chartref. Dechreuai o du ucha pont neilltuol gyda'i chefnder, gan gadw ar ochr cilhaul i Gwm Eithin wrth fynd i fyny nes cyrraedd yn agos i'w dop. Croesai ef ychydig yn uwch i fyny na chartref ei chyfnither, lle'r arhosai am noswaith o dan ei " Chronglwyd." Yna deuai i lawr ar ochr ogleddol. Nid wyf yn sicr pa mor uchel yr âi Mari i'r cwm uchaf, a âi hi'n uwch na giât Rhyd Olwen yng Nghwm Mynach, ai peidio; ond gan y byddai yn troi a throsi o'r naill ffarm i'r llall, diau y cerddai tua thrigain milltir ar y daith hon.

Diau fod mwy nag un rheswm paham yr âi Mari Wiliam mor bell oddi cartref. Un, mae'n ddiau, oedd ei bod o dueddiad crwydro tipyn o gwmpas, ac yr oedd yn gwmni difyr. Câi groeso mewn llawer man. Heblaw'r sach oedd ganddi i gario gwlân, yr oedd ganddi un arall i gario newyddion, ac yr oedd y rhai hynny wedi eu gosod yn weddol drefnus yn y sach; gallai gael gafael ar y rhai a fyddai fwyaf tebyg o blesio, gan ei bod trwy hir ymarferiad wedi dyfod i adnabod ei chwsmeriaid yn bur dda. Peth arall a gyfrifai am ei theithiau pell oedd ei bod yn hanu o hen deulu, a hwnnw'n deulu lluosog iawn, wedi canghennu a gwasgaru i bob rhan o Gwm Eithin. Yr oedd ganddi berthynasau ym mhob man lle'r elai, neu gwyddai am rywun yn perthyn i berthynas iddi hi, a rhoddai hynny ryw fath o hawl iddi arnynt. Cymerai nifer o ddyddiau i Fari wneud ei thaith.

Bûm yn aros am ddwy flynedd gyda hen ewythr. Yr oedd ef yn nai i John Ellis y Cerddor, ac yn gefnder i Mari Wiliam. Yr oedd yn un o'r lleoedd olaf y galwai Mari ar y daith hon, ac arhosai yno noswaith bob amser. Yr oedd yn werth ei gweled yn dyfod, un pac o wlân wedi ei rwymo ar ei chefn, rywbeth yn debyg i gas gobennydd wedi ei stwffio yn dynn o wlân; pac arall o dan bob cesail, tebyg i gas clustog. Byddai fy hen ewythr wrth ei fodd yn ei gweled yn dyfod, a gofalem ninnau'r hogiau aros yn y tŷ y noson honno ar ôl swper, oherwydd un o wleddoedd gorau'r flwyddyn oedd clywed f'ewythr yn holi Mariam hanes a helynt y teuluoedd y byddai hi wedi galw gyda hwy. Chwerddais lawer yn fy llewys pan glywn fy ewythr yn gofyn i Fari ail adrodd ambell hanesyn. Gwaeddai "Eh?" pryd y gwyddwn yn iawn ei fod wedi ei glywed y tro cyntaf. Ond yr oedd rhywbeth yn yr hanesyn yn goglais ei glustiau. Amheuwn weithiau a oedd f'ewythr yn peidio â hoffi clywed newydd drwg am rai o'r cymdogion, oherwydd byddwn yn sylwi mai dyna'r straeon y gofynnai i Mari eu hail adrodd. Ond chware teg iddo, nid âi'r stori ddim pellach trwyddo ef, ni cheid mohono i ddywedyd straeon gair bach am neb. Cadwai'r cwbl iddo'i hun. Ond am modryb, yr oedd ei hwyneb fel yr heulwen. Gallai hi fwynhau. hanesion am lwyddiant pawb, hyd yn oed cymydog y teimlai'n bur sicr ynddi ei hun mai un o'i defaid hi oedd mam yr oen llywaeth a fegid ganddo.

Dyna fraslun o hanes hen ddefod Gymreig a fu o wasanaeth mawr i gannoedd o deuluoedd tlodion yn yr hen amser gynt, ond sydd bellach wedi diflannu'n llwyr o'r wlad, ac nid wyf yn cofio i mi weled dim o'r hanes wedi ei groniclo. Credaf na thybiai neb ei fod yn ddim diraddiad myned o gwmpas y wlad i wlana, oherwydd amser enbyd iawn ydoedd hi. Credwn erbyn hyn y dylai pawb sy'n fodlon i weithio, ac i wneud ei ran, gael ei fwyd a'i ddillad heb fyned i gardota amdano. Ac y mae'r iach yn gyfrifol i ofalu am yr hen a'r methiantus.

Y DDAFAD FARUS

Ffordd arall i gael gwlân yn rhad oedd hel y tuswau gwlân a geid wedi bachu yng ngrug y mynydd ac ar hyd y gwrychoedd. Un o gyfeillion pennaf y tlawd oedd y ddafad farus. Fe wyddai hi sut i wneud drwg fel y delai daioni, a haedda gofiant.

Erbyn diwrnod cneifio, ni fyddai nemor ddim gwlân ar gefn y ddafad farus, a phe buasai pob ddafad mor garpiog ei gwisg â hi, ni fuasai'r ŵyl gneifio yn werth ei chynnal. Yn Ebrill a dechrau Mai, wrth weled y cae hadau a'r egin am y clawdd â hi; byddai ei chwant amdanynt wedi mynd yn feistr corn arni. Âi dros bob clawdd a thrwy bob gwrych. Er mai lladrones oedd, hi oedd un o gyfeillion pennaf y tlodion yn yr hen amser gynt. Byddai ei gwlân fel rheol yn myned i gadw traed a choesau plant y gweithiwr tlawd rhag rhewi. Dywaid llawer mai creadur dwl, diniwed, a difeddwl yw'r ddafad; ond nid yw hynny'n wir am y ddafad farus. Ymddengys fod ganddi hi lawer mwy o synnwyr na'r gweddill o'i rhyw. Ni wn pa un ai am ei bod hi'n gallach na'r lleill y mae hi'n lladrones, ai ynteu datblygu mwy o synnwyr na'r lleill wrth ladrata y mae hi. Hynny yw, a fuasai'r defaid eraill cyn galled â hi pe baent yn lladron ? Ac a fuasai hi cyn wirioned â hwy pe buasai'n ddafad onest?

A fuoch chwi yn gwylio'r ddafad farus yn y cae egin? Gŵyr yn iawn mai dyma'r pechod mwyaf all dafad ei gyflawni, a bod ei meistr yn barod i'w lladd am y pechod hwn; ond wrth hen arfer, mae'r demtasiwn wedi ei meistroli'n hollol. Pe gwyddai. y torrai ei gwddf yn yr ymdrech i fyned trwy'r gwrych nid oes ganddi nerth i beidio. Edrychwch arni yn y cae egin. hi'n glustiau i gyd; clyw bob smic; mae ei chydwybod yn danllwyth o'i mewn, ac ar yr arwydd lleiaf o ddynesiad rhai o deulu'r ffarm neu Tango'r ci, bydd trwy'r gwrych yn ei hôl fel ergyd o wn.

Dowch gyda mi am dro i gaeau'r Fron Lwyd ddiwedd Ebrill. Mae Mae hi'n braf iawn. Fe awn ni i'r caeau porfa, ac fe eisteddwn i lawr am ychydig. Yn union o'n blaen mae cae o egin ceirch yn edrych yn las a hardd. Wirionedd i, dacw Megan a'i hoen bach yng nghanol y cae egin. Mae hi'n edrych yn gynhyrfus iawn, a'i chlustiau i fyny yn gwrando, ac yn sbïo o'i chwmpas. Dacw hi'n cymryd y goes a thrwy'r gwrych i'r cae porfa. Beth sydd yn bod? Ni chlywais ac ni welais i ddim byd. O, wir! mi wela Morgan, gŵr y Fron Lwyd, a Thango yn cychwyn oddi wrth y tŷ sydd dri lled cae oddi yma i fyned am dro i olwg y caeau. Rhaid bod Tango wedi cyfarth o lawenydd wrth gychwyn. Ni chlywais i ddim oddi wrtho, ond rhaid fod Megan wedi ei glywed. Mae hi'n clywed fel cath. Gwyliwch hi'n awr. Ar ôl dyfod trwy'r gwrych fe bawr ychydig dameidiau, yna cerdda oddi wrth y gwrych wyth lath neu ddeg yn frysiog. Pawr drachefn ychydig dameidiau, ac felly o hyd nes cyrhaedda'r ochr bellaf oddi wrth yr egin i'r cae, os na bydd wedi myned drwodd i'r cae nesaf erbyn y daw Morgan a Thango. Dacw Morgan a Thango wedi cyrraedd i'r cae. Mae'r defaid gonest yn pori yn ymyl, a hyd yn oed ar ochr gwrych y cae egin, ond dim perygl i chwi weled Megan, y ddafad farus, yn y fan honno. Mae hi mor awyddus i ddangos ei gonestrwydd fel na fyn ei gadael ei hun mewn safle i gael ei hameu.

BRENHINES Y BWTHYN

Ceisiaf roddi darlun o deulu'r bwthyn ddechrau'r ganrif ddiweddaf. Mae'r gŵr a'r wraig o dan ddeugain oed, Robert a Mari. Mae ganddynt saith o blant. Mae Robert yn gweithio yn y Cwm, yn cael chwe cheiniog yn y dydd—tri swllt yn yr wythnos —o gyflog a'i fwyd. Mae ganddynt gornel o ardd i blannu ychydig o datws, a chânt blannu rhes neu ddwy yn y Cwm. Erys Robert adref am ddeuddydd neu dri ym Mai neu Fehefin i dorri mawn, a chaiff fenthyg gwedd y Cwm i'w cario adref. Ond mae'n rhaid i Mari a'r plant eu codi a'u trefnu i sychu. Mae Robert, y bachgen hynaf, yn bymtheg oed, yn hogyn ym Mryn Mawnog; yn cael pum swllt ar hugain yn y flwyddyn o gyflog; Mari yn ddeuddeg oed, yn hogen yn y Foty, yn cael ei bwyd, a rhywbeth a wêl Citi Morris, y wraig, yn dda ei roddi iddi; Dei yn naw oed, yn cadw gwartheg yn Rhyd yr Ewig am ei fwyd; Siân yn saith; Wil yn bump; Jac yn dri, a Mag fach yn naw mis.

Tri swllt yn yr wythnos yw'r holl arian a ddaw i mewn, ac eisiau bwyd a dillad i'r teulu. Mae ganddi datws, a chaiff ddigon o laeth enwyn yn y ffermydd o gwmpas; ac os gall fforddio cael a chadw mochyn, mae'n rhaid ei werthu er mwyn cael yr arian; ni all ei gadw at wasanaeth y teulu, ac y mae eisiau esgidiau a dillad.

Dacw hi, Frenhines y Bwthyn, yn cychwyn ar ei thaith i'r Cwm i nôl hanner pwys o fenyn a chaniaid o laeth enwyn. Gedy Jac a Wil o dan ofal Siân, sydd yn saith oed; lapia'r babi mewn siôl, dim ond ei ben allan; gesyd ef ar ei chefn; rhydd un gornel i'r siôl dros ei hysgwydd dde, a'r gornel arall o dan y gesail chwith, a chylyma hi o'r tu blaen, ei braich trwy ddolen y can, pellen o edafedd yn crogi ar fach wrth linyn ei ffedog, a'i dwylo yn gweu ei hosan, ond yn codi pob tusw o wlân a wêl ar hyd y Ac ar ôl cyrraedd y Cwm feallai y caiff fara a chaws ei hun, a chwpanaid o lefrith i'r babi. Lleinw gwraig y ffarm ei chan llaeth enwyn, a rhydd yr hanner pwys menyn yn y llaeth, ac os bydd Robert yn ei llyfrau, rhydd brinten fach dros ben. Cyfeiria Mari ei chamre yn ôl yr un fath, ond fod y can llaeth ar ei phen yn lle ar ei braich, y gweill yn myned cyn gyflymed â gwennol gwehydd, a'r baban yn mwynhau'r daith lawn cystal â babanod y dyddiau hyn a deithia yn eu cerbyd pedair olwyn. ffordd.

Yn ei disgwyl yn eiddgar yn ôl, yn chware wrth penwar, byddai Siân, Wil a Jac; a'r funud y gwelent hi'n dyfod, torrent allan i ganu:—

"Dacw mam yn dyfod ar ben y gamfa wen,
A rhywbeth yn ei ffedog a phiser ar ei phen."

Rhydd Daniel Owen, yn ei Gofiant, ddarlun o'i fam sydd yn dangos ynni, gwydnwch, medr a phenderfyniad mamau Cymru. Ac meddai "Iorwerth Glan Aled":

"Mae merched Cymru'n well,
Fel gwragedd, na phob rhai
A geir o wledydd pell,—
Ceir gweled hyn trwy'n tai;
Y maent yn iach a llon,
A boddlon iawn eu gwedd;
Byth yn parhau
I ganu'n glau,
Wrth nyddu a gwau mewn hedd."

Yr oedd gweu 'sanau felly yn rhan bwysig iawn o waith y merched, ac yn aml byddai'r dynion yn gweu hefyd. Deuai'r saneuwyr, sef y prynwyr 'sanau, i bob ffair a marchnad, ac aent â hwy i'r lleoedd poblog i'w gwerthu. Gyda llaw, dyna oedd William Llwyd, Pitt Street, a gychwynnodd y Methodistiaid yn Lerpwl, yn ei wneud. Nid wyf yn sicr pa bris a geid am bâr o'sanau, ond cofiaf fy nain a'm mam yn gwerthu 'sanau dynion am un geiniog ar ddeg a swllt y pâr.

Bob tro y darllenaf "Gân y Crys" bydd y dagrau yn llenwi fy llygaid, a byddaf yn diolch na fu raid i'n mamau tlodion ni fyw yn nhrefi mawr Lloegr. Cawsant yr awyr las yn do uwch eu pennau, a'r gwelltglas yn gwrlid o dan eu traed, ac anadlu awyr iach y mynydd; ac er tloted oeddynt ni fu raid iddynt orwedd ar wely gwellt. Cawsant wely manus esmwyth i gysgu arno. Byddaf yn diolch hefyd mai gweu oedd eu diwydiant ac nid pwytho. Ni theimlasant "rym brwdaniaeth cur." Nid oedd raid iddynt eistedd yn eu cwman mewn congl dywyll, gallent weu wrth rodio'r meysydd, "a chael 'arogl chweg y blodau tlysaf gaed." Gallai fy nain a'm mam weu fel y gwynt, a darllen eu Beibl ar y ford bach gron wrth eu hochr a thorri allan i ganu wrth ddarllen, a thynnu yn rhaffau'r hen addewidion.

Diau fod llawer erbyn hyn wedi tyfu i fyny na, welsant erioed Gân y Crys." Ni wn fawr amdani yn y gwreiddiol, ond mae'n anodd gennyf gredu bod y gwreiddiol yn fwy byw na'r cyf— ieithiad. Rhoddaf hi yma:—

CAN Y CRYS

(Cyfieithiad o waith Thomas Hood, gan " Iorwerth Glan Aled").[2]

A bysedd eiddil, blin,
Ac emrynt llawn o gur,
Eisteddai gwraig mewn carpiog wisg,
Gan drin ei nodwydd ddur;
Pwyth—Pwyth—Pwyth,
A ddodai gyda brys,
A chyda llais dan drymaidd lwyth
Hi ganai "Gân y Crys."

Gwaith, Gwaith, Gwaith,
Nes toro gwawr y nen;
Gwaith, Gwaith, Gwaith,
Nes t'wyno'r ser uwch ben;

Gwell bod yn gaeth—ddyn erch,
Yn nghanol Tyrcaidd drâs;
Lle nad oes enaid gan un ferch,
Na dilyn gwaith mor gâs.

Gwaith, Gwaith, Gwaith,
Ymenydd ysgafnha,
Gwaith, Gwaith, Gwaith,
Yn ddwl y golwg wna;
Gwniad—clwsiad—clwm,
Am gyflog fechan geir,
Nes uwch botymau cysgu'n drwm,
A gwaith mewn breuddwyd wneir.

Chwi, fedd chwiorydd teg,
Mamau, a gwragedd gwiw—
Cofiwch nad gwisgo lliain'r y'ch,
Ond bywyd dynolryw!
Pwyth—pwyth—pwyth,
Mewn tlodi, newyn, chwys,
Ag edef ddwbl pwytho o hyd
Yr amdo fel y crys!

P'am son am angau du?
Drychioliaeth esgyrn dyn!
Nid ofnaf wel'd ei echrys ddull,
Mae'n debig im' fy hun!
Mae'n debig im' fy hun,
Yn fy ympryd dinacâd—
O Dduw! paham mae bara'n ddrud,
A chnawd a gwaed mor rhad!

Gwaith Gwaith—Gwaith.
Fy llafur sy'n parhau;
Beth ydyw'r cyflog? Gwely gwellt,
Crystyn a charpiau brau I
Tô drylliedig, a llawr noeth—
Bwrdd a chadair wan;
Y muriau gwag—a'm cysgod gwael
Yn unig ddelw'r fan!


Gwaith Gwaith—Gwaith,
Drwy oerfel Rhagfyr hir;
Gwaith, Gwaith, Gwaith,
Tra'r hin yn frwd a chlir;
O dan fargodion, ceir
Nythle gwenoliaid chwim,
A hwy â'u cefnau heulog fydd,
Yn danod gwanwyn im'.

O! na chawn arogl chweg
Y blodeu tlysaf gaed—
Yr awyr uwch fy mhen,
A'r gwellt—glas dan fy nhraed!
OI am un awr fel cynt
Y bu'm mewn melus nwyd,
Heb wybod dim am rodfa drist,
A gostiai bryd o fwyd!

O! na chawn orig fach
Yn ngodreu tyner nawn—
Nid serch na gobaith ddenai 'mryd,
Ond gofid monwes lawn!
Ychydig wylo wnai im' les!
Ond grym brwdaniaeth cur,
A sych fy nagrau rhag i ddafn
Rydu fy nodwydd ddur!

A bysedd eiddil blin,
Ac emrynt llawn o gur,
Eisteddai gwraig mewn carpiog wisg,
Gan drin ei nodwydd ddur:
Pwyth, Pwyth, Pwyth,
A ddodai gyda brys,
O! na bai'r holl gyfoethog lwyth,
Yn deall "Cân y Crys."


Nodiadau[golygu]

  1. Ceir hanes Cwm Annibynia yn y bennod nesaf.
  2. Gwaith Barddonol Iorwerth Glan Aled (Edward Roberts), Lerpwl, 1890.