Cwm Eithin/Hen Ddefodau ac Arferion, II
← Hen Ddefodau ac Arferion, I | Cwm Eithin gan Hugh Evans, Lerpwl |
Hen Arferion Bendithiol i'r Tlawd → |
PENNOD XIII
HEN DDEFODAU AC ARFERION
II
WED'-BO-NOS
HEBLAW'R Nosweithiau Llawen pan ymgasglai nifer o gyfeillion at ei gilydd, yr oedd gan ein tadau ffyrdd eraill o dreulio eu horiau hamdden yn fuddiol, diddorol, a llawen ymysg eu teuluoedd. Hyd yn oed pan na fedrai ond ychydig ddarllen ac ysgrifennu, "difyr oedd yr oriau." Yr oedd adrodd straeon am y Tylwyth Teg, am ysbrydion a drychiolaethau, am wrhydri'r hynafiaid, canu hen alawon a chanu'r delyn, mewn bri mawr. Pwy mor ddedwydd â'r hen ŵr mwyn, onid e? Fe'u difyrrai llawer eu hunain gyda gwaith llaw. Os gallai un ddarllen, byddai ef wrthi'n darllen y Beibl neu ryw lyfr megis Taith y Pererin neu arall. Yn fy amser i yr oedd "Y Faner" yn treiglo o dŷ i dŷ ac yn cael ei darllen yn uchel gan ryw un er budd y teulu. Darllenai fy nhaid lawer yn uchel bob amser. Darllenodd gannoedd os nad miloedd o benodau o'r Beibl yn fy nghlyw. Ac oni fyddwn yn darllen fy hunan neu'n dysgu ysgrifennu, fe'm difyrrwn fy hun yn hollti dellt ac yn gwaelodi'r rhidyll neu'r gogor, gwneud basged, gwneud ysgub fedw neu lings, gwneud llwy bren, pilio pabwyr i wneud canhwyllau brwyn, gwneud trap i ddal y twrch, gwneud ffon neu wn saeth a gwn papur, fel y gwnâi'r bechgyn ar bob aelwyd o'r bron, tra byddai'r merched yn nyddu neu'n gweu eu gorau, y gweill yn mynd cyn gyflymed â gwennol gwehydd.
Diau y bu noswaith pilio pabwyr yn achlysur gan y trigolion i gyrchu i dai ei gilydd, a gelwid hi'n "Noswaith Bilio"; ond nid wyf yn cofio am Noson Bilio yn fy amser i. Erbyn hynny yr oedd canhwyllau gwêr wedi dyfod yn bur gyffredin. Dywaid Syr John Rhys yn Celtic Folklore, Welsh and Manx, iddo gyfarfod â Robert Hughes, Uwchlaw'r Ffynnon, a ddywedai fel y canlyn:—
Story-telling was kept alive in the parish of Llanaelhaearn by the institution known there as the pilnos, or peeling night, when the neighbours met in one another's houses to spend the long winter evenings dressing hemp and carding wool, though I guess that a pilnos was originally the night when people met to peel rushes for rushlights.
Er nad wyf yn cofio Noswaith Bilio pan ddeuai cymydogion at ei gilydd, er hynny, mi fûm yn pilio pabwyr am ddarn o noswaith ugeiniau o weithiau, a llosgwyd miloedd o ganhwyllau brwyn yn fy nghartref a chartrefi eraill Cwm Eithin yn fy amser i. Gwaith digon difyr oedd pilio pabwyr ar ôl ei ddysgu fel y gallech wneud heb dorri'ch bysedd a gwneud bylchau yn y mwydion. Oherwydd fe dyrr pilyn pabwyr eich bys at yr asgwrn oni fyddwch yn ofalus. Wedi cael corniaid o babwyr, torri eu blaenau, dechrau eu pilio o'r bôn, a gadael un pilyn tua 1/16 modfedd i wneud asgwrn cefn i'r gannwyll, ei throchi hi mewn ychydig wêr toddedig yn y badell ffrio, byddai'n barod yn fuan i'w goleuo. Gwneid llond dil ohonynt ar unwaith fe
rheol. Wedi ei goleuo, byddai raid symud y gannwyll bob rhyw bun munud gan y byddai wedi llosgi at y ganhwyllbren, oni fyddech yn ei dal yn eich llaw i ddarllen.
Yr oedd y gannwyll wêr yn prysur ddisodli ei rhagflaenydd y gannwyll frwyn yn fy nghof i, yn enwedig yn y ffermydd, pan ellid fforddio i ladd mochyn at iws y teulu. Defnyddid y gwer creifion i wneud canhwyllau. Cedwid y flonegen i wneud tost lard a thymplen siwed, bwyteid y creision yn aml, hyd yn oed o'r creifion. Yr oedd merched i'w cael yn myned o gwmpas y tai i wneud canhwyllau yn union ar ôl amser lladd moch, ddechrau'r gaeaf; gwelid hwy yn myned o gwmpas â'u hofferynnau gyda hwy, sef dau bolyn main, oddeutu saith neu wyth troedfedd o hyd, tebyg i clothes props a ddefnyddir yn ein dyddiau ni lle nad oes gwrych i sychu'r dillad, a bwndel o briciau canhwyllau oddeutu dwy droedfedd o hyd a thewdwr bys. Ar ôl cyrraedd, gosodid y polion i orffwys eu pennau ar ddwy gadair oddeutu deunaw modfedd oddi wrth ei gilydd. Tra byddai'r gwêr yn toddi ar y tân, cymerid pellen o wic; torrid hwnnw tua deunaw modfedd o hyd; plygid yn ei ganol am fys un llaw, tra cydid yn ei ben a'r llaw arall, a rhoddi ychydig o dro ynddo a rhoddi'r pric cannwyll drwy dwll y bys. Pan geid deg neu ddeuddeg ar y pric, ryw ddwy fodfedd oddi wrth ei gilydd, gosodid y priciau ar draws y polion oddeutu tair modfedd oddi wrth ei gilydd. Yna tywelltid y gwêr i badell neu bot llaeth llydan; yna dechrau yn un pen i'r rhes, a'u trochi yn y gwêr; a byddai rhaid gwneud hynny ugeiniau o weithiau cyn y ceid y gannwyll yn ddigon tew. A chymerai'r gorchwyl gryn oriau. Ychydig iawn o bobl a feddyliai am brynu cannwyll yr amser honno; ond y mae'n debyg mai prynu canhwyllau y mae pawb erbyn hyn, ac nad oes neb yng Nghwm Eithin a fedr wneud cannwyll frwyn nac un wêr; a phe bai'r cyflenwad o'r siop yn pallu oherwydd rhyw achos, fe fyddai'n dywyllwch mawr yno.
HEN ARFERION NOS GALANGAEAF
Ymddengys fod Gŵyl Nos Galangaeaf yn un hen iawn yng Nghymru. Ond yr oedd bron wedi colli ei gafael yng Nghwm Eithin yn fy nghof cyntaf i; ychydig rhagor o sylw a wneid ohoni nag a wneir yn awr. Cofiaf ambell goelcerth yn cael ei goleuo ar y topiau. Ac yr oedd i'r afalau a'r cnau le pwysig ymysg y plant, fel yn ein dyddiau ni. Yn nhraethawd Charles Ashton ar Fywyd Gwledig yng Nghymru ddechreu y ganrif o'r blaen, mae erthygl bur faith ar "Nos Calangaeaf."[1] Ysgrifennai Charles Ashton yn 1890. Ni allaf wneud yn well na dyfynnu ychydig ohoni:—
"Yr oedd Nos Calangaeaf yn noson bwysig hefyd. Ac nid oedd ein teidiau yn esgeulus o gadw yr hen ddefod o gyneu tanau ar y noson hon, pryd yr elent yn lluoedd i'r ffriddoedd a'r bryniau cyfagos i wneuthur coelcerthi o redyn ac eithin. Dywedir wrthym fod yr arferiad hwn mor hyned ag amser y Derwyddon; ac mai dyben y tanau oedd boddhau y duwiau, er na ddywedir pa lês a ddeilliai iddynt trwy hyny. Yr hen syniad uniawngred oedd y dylid diffodd y tân yn mhob aelwyd ar y noson hon, a'i ail gyneu gyda phentewyn a ddygent adref o'r goelcerth, ac ychydig a fyddai llwyddiant yr hwn a esgeulusai gymeryd o'r tân cysegredig. Ond er cryn lawer o holi methasom a chael allan fod y rhan bwysig hon o'r seremoni yn cael ei chadw i fynu o fewn cyfnod ein testun. Ond y mae amryw yn cofio am yr "hwch ddu gwta” a fyddai yn ymlid y werin anwybodus adref oddiwrth y goelcerth. Y diafol ei hunan, mewn rhith hwch ddu â chynffon gwta, ydoedd yr ymlidiwr. Ac o bosibl na fyddai ei gynddaredd yn erwin yn eu herbyn y pryd hwn am eu bod newydd foddhau yr ysbrydion da. Nid oes dros dri ugain mlynedd er pan yr oedd pobl yn credu fod gan yr hwch ddu nodwyddau blaenllymion gyda'r rhai y byddai yn trywanu yr hwn a fyddai yr olaf yn myned dros ben camfa.'
Felly rhedai a rhuthrai pawb fel ag i beidio â bod yn olaf anffortunus. Tebyg mai dyma'r dybiaeth a roddodd fod i'r hen ddywediad, "Nos galangaea', bwgan ar ben pob camfa." Ond er gwaethaf yr hwch ddu, a'r bwganod, mynnai'r bobl wledig ychwaneg o ddifyrrwch wedi cyrraedd adref. Dechreuid y gweithrediadau trwy i'r bechgyn godi afalau o lestraid o ddwfr am y gorau. A chaffai pawb hynny o afalau a lwyddent i'w codi yn y ffordd hon. Y mae digon yn cofio'r arferiad o godi afalau o'r dwfr, ond ni all neb benderfynu pa bryd y sefydlwyd y ddefod.
YR WYLNOS
Bûm mewn gwylnos droeon pan oeddwn yn hogyn yng Nghwm Eithin. Fel y canlyn y dywaid William Davies yn Llen Gwerin Meirion[2] amdani:
"Nid ydym heb gredu fod ein teidiau a'n neiniau yn teimlo mor ddwys ag ydym ninau wrth golli eu perthnasau a'u cyfeillion, ond yr oedd ganddynt ffordd ryfedd i ddangos eu teimladau —yr oedd y cynulliadau hyn ar ddechreuad y ganrif yn warth i ddynoliaeth. Y mae yn wir y cynelid rhyw gymaint o gyfarfod gweddio yn rhai ohonynt gynt. Ond ar ol myned trwy y gwaith hwnw, eisteddai y rhai fyddent wedi ymgynull yn nghyd, neu o leiaf lawer ohonynt, i yfed cwrw a chwareu cardiau. Yr oedd chwareu cardiau yn hynod boblogaidd yn Nghymru yn nechreu y ganrif bresenol, ac yr oedd yn foddion difyrwch mewn modd neilltuol mewn gwylnos. Hysbyswyd ni gan un a fu mewn gwylnos mewn ty yn mhlwyf Llanymawddwy er's oddeutu deng mlynedd a thriugain yn ol, [sef tua 1820] iddi weled y chwaraewyr, o ddiffyg bwrdd cyfleus, yn chwareu ar gaead yr arch. Dichon mai eithriad oedd y tro hwn, ond yn ol yr hyn a ddywedwyd wrthym, yr oedd gwylnosau y rhan gyntaf o'r ganrif yn Nghymru yn ddigon tebyg i wakes, neu wylnosau y Gwyddelod yn y dyddiau hyn."
Darlun du iawn a geir gan Robert Jones, Rhoslan, o'r gwylnosau. Dywaid yntau mai ychydig oedd y galar ar ôl y meirw, ond y rhai a fyddai'n marw yn ganol oed ac yn gadael nifer o blant ar eu hôl. A rhydd hanes rhyfedd iawn am wylnos i hen ferch. Ymddengys na theimlai ein tadau fawr o golled ar ôl hen lanciau a hen ferched. Ni wn a fu'r gwylnosau mor baganaidd erioed yng Nghwm Eithin ag yr ymddengys eu bod yn Llanymawddwy a Sir Gaernarfon. Yr oeddynt yn wahanol iawn yn fy nghof cyntaf i. Ni welais i erioed gwrw na chardiau mewn gwylnos; cyfarfodydd gweddïo dwys iawn oeddynt ymysg yr ymneilltuwyr ac anerchiad neu bregeth gan y person ymysg yr eglwyswyr. Yr olaf y bûm ynddi oedd un i hen wraig Ty'n Twll yn 1872, "Elis Wyn o Wyrfai," yn gweddio ac yn annerch. Yn un o'i "Chwech canig Cymru Fu" ceir darlun byw iawn gan "Bryfdir" o'r wylnos yn ei gwahanol agweddau. Fel y disgrifir hi yn y ddau bennill a ganlyn y cofiaf hi[3]:—
I'r Wylnos gyda'r Iliaws
Ni awn yn ddifrif ddwys,
Gan feddwl cyn i angau
Orddiwes ein crwydriadau
Am "Graig "i roi ein pwys.
Mae'r Weddi'n trochi'i hadain
Yn nyfroedd galar prudd,
A'r Emyn fel pererin
Yn cerdded trwy y ddrychin
A chwilio am y dydd.
Anodd iawn esbonio hyfdra'r hen Gymry ym mhresenoldeb y marw, a hwythau mor ofergoelus gyda golwg ar ymddangosiad ysbrydion yr ymadawedig. Clywais fy nhaid yn adrodd lawer gwaith mai un o'r prif chwaraeon yn y Cwm ar ôl y gwasanaeth fore Sul fyddai Ilamu ar y cerrig beddáu. Yr oedd gan fy nhaid frawd tal o'r enw Owen Barnard, oedd yn ben campwr yn y chware, ac a gloffwyd am ei oes yn un o'r ymdrechfeydd. Ond y mae'n sicr y buasai mwyafrif y chwaraewyr a'r edrychwyr yn crynu wrth basio'r fynwent yn y nos.
CERDDED Y TERFYNAU
Yr oedd yr arferiad yng Nghwm Eithin pan oeddwn yn hogyn i gerdded y terfynau, sef y terfyn rhwng y plwyfi a'i gilydd, a rhwng y siroedd a'i gilydd. Gwneid hynny bob rhyw nifer o flynyddoedd. Nid wyf yn sicr pwy oedd yn gyfrifol am y gwaith. Mae'n debyg mai'r overseer, a'i fod yn hen arferiad. Nid oedd yr ordnance maps wedi eu cwblhau mae'n debyg yr adeg honno, ac yr oedd rhaid bod yn sicr pa faint o'r tir oedd yn perthyn i bob plwyf fel y gellid ei drethu. Cofiaf y fintai yn myned o gwmpas—dau neu dri o hen bobl a dau neu dri o ddynion ieuainc; felly sicrheid y terfynau o oes i oes.
DEFOD PRIODAS
Ceir cryn lawer o hanes defod priodas yn Yr Hynafion Cymreig, gan Peter Roberts, a gyhoeddwyd yng Nghaerfyrddin yn 1823.
Wedi i fab a merch benderfynu priodi, anfonid cyfaill i'r mab ieuanc i ofyn y ferch gan ei thad. Wedi cytuno ar y dydd, anfonid y gwahoddwr i'r wledd allan. Âi yntau o gwmpas yr holl gymydogaeth i wâdd pawb i'r briodas gyda rhigwm hir o farddonaeth neu anerchiad tebyg i'r un a ganlyn:
Gan ein bod ni yn bwriadu cymeryd arnom yr ystâd o Lân Briodas, ar ddydd Iau, y 18fed o Ragfyr nesaf, ein cyfeillion a'n cefnogant i wneud NEITHIOR ar yr achlysur yr un diwrnod, yr hon a gedwir yn Nhŷ Tad y Ferch Ieuanc yn Heol-y-Prior, yr hwn a adnabyddir wrth yr arwydd Geffyl Gwyn; yno y gostyngedig ddeisyfir eich llon gyfeillach, a pha Rodd bynag a weloch fod yn dda ein cynnysgaethu â hi, a dderbynir yn ddiolchgar, ac a ad—delir yn llawen, pa bryd bynag y galwer am dani ar yr unrhyw achlysur,
C.D."
Y mae Rhieni y Mab Ieuanc, a'i frodyr a'i chwiorydd, yn dymuno i bob Pwythion ag sydd yn ddyledus iddynt hwy, i gael eu dychwelyd i'r Mab Ieuanc ar y diwrnod rhagddywededig, a hwy a fyddant yn dra diolchgar am bob Rhoddion ychwanegawl—Hefyd y mae rhieni y ferch ieuanc yn dymuno i hob pwythion ag sydd yn ddyledus iddynt hwy i gael eu dychwelyd i'r ferch ieuanc ar y diwrnod hwnnw, a hwy a roddant eu diolchgarwch gwresocaf i bob un a ddanghoso unrhyw garedigrwydd ychwanegawl iddi."
Aent i'r eglwys ar gefnau eu ceffylau, a chymerai'r ferch ieuanc a'i chyfeillion arnynt geisio dianc rhag y gŵr ieuanc, a diau i galon aml eneth guro'n gyflym rhag ofn iddynt lwyddo.
Treulient eu mis mêl drannoeth a'r dyddiau canlynol trwy edrych trwy'r pwythion a dderbyniasent, a'u gosod yn eu lleoedd priod yn eu cartref newydd. Ond yr oedd yr arferion uchod wedi diflannu cyn cof i mi, a'r genethod wedi dyfod yn ddigon hy i ddangos eu bod mor awyddus i briodi â'r bechgyn, ac nid cymeryd arnynt ddianc.
Yn ei lyfr Gleanings from a Printer's File (1928), y mae Syr John Ballinger yn rhoddi hanes am y dull yma yn gyflawn fel yr oedd yn cael ei arfer yn siroedd canolbarth Cymru, yn enwedig yn Siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin. Hyd y gwyddom nid oes enghraifft ar gael, mewn llawysgrif nac yn argraffedig, o'r bidding letter yng Ngogledd Cymru.
DAWNSIO HAF
Ceir darnodiad o'r ddefod hynafol dawnsio haf yn Y Gwyl- iedydd, 1823, tudal. 306, gan un a'i geilw ei hun "Callestrwr," fel yr arferid hi yn Callestr (Fflint, mae'n debyg). Ym mis Ebrill arferai o ddwsin i ugain o bobl ieuainc ymuno i baratoi ar gyfer y ddawns. Gwisgai'r dawnswyr eu crysau yn uchaf wedi eu haddurno ag ysnodennau a blodau. Cariai'r arweinydd fforch bren ar lun y llythyren Y. Gwniid lliain o'r naill fraich i'r llall, ac addurnid y fforch ag amryw lestri arian, tebotiau, llwyau, cigweiniau, etc. Byddai gyda hwy grythor yn ei ddillad ei hun, "cadi" mewn gwisg merch, ac ynfytyn mewn gwisg ryfedd â phlu yn ei ben. Ar y dydd cyntaf o Fai, cychwynnent i'w taith o gylch y ffermydd. Pan gyrhaeddent at dý, chwaraeai y crythor ei gainc a dawnsiai'r dawnswyr gan chwyfio cadachau gwynion yn rheolaidd ac ar unwaith. Dechreuai'r ynfytyn ar ei gampau, megis cymeryd arno ddwyn y peth yma a'r peth arall, a gafael yn y plant a'r genethod ieuainc. Yna âi'r "cadi" i'r tŷ ac o gwmpas, ag ysgub mewn un llaw, a math o letwad gasglu yn y llaw arall. Ar ol derbyn rhoddion y teulu aent i le arall, a byddent wrthi am ddyddiau weithiau.
Ceisia'r ysgrifennydd olrhain cychwyn y ddefod yn ôl i'r cyfnod cyn Cristionogaeth, ac iddi gael ei sefydlu er cof am dduwies yn cyfateb i'r dduwies Rufeinig Flora.
Gwelais hanes y dawnsio haf yng Ngwyddelwern. Dywedai'r hanesydd fod nifer o ieuenctid o Ddyffryn Clwyd yn myned o gylch y wlad i ddawnsio haf, ac iddynt ddyfod i Wyddelwern. Credai ef mai yr un ddefod y cyfeirir ati yn Llyfr y Barnwyr, ii. 21. Pan oedd meibion Benjamin yn fyr o wragedd cynghorwyd hwy i fyned ac ymguddio yn y gwinllannoedd, a gwylio'r merched yn dyfod allan i ddawnsio, ac iddynt gipio bob un ei wraig. Deallaf fod y ddefod mewn arferiad lai na hanner can mlynedd yn ôl mewn rhannau o'r wlad. Dywedodd gwraig, nad yw ond trigain oed, wrthyf yn ddiweddar iddi gymeryd rhan yn y ddefod droeon pan oedd yn eneth ieuanc o gylch Colwyn a'r parthau hynny.
HEL CALENNIG
Bydd pawb ohonom yn gweiddi "Fy Nghalennig i," ond heb gael dim ond dymuniad am flwyddyn newydd dda yn ol, ac y mae'n debyg nad oes yma nemor ohonom a fu o gylch y wlad yn hel calennig. Yn yr hen amser arferai'r tlodion a'r plant fyned o gwmpas y wlad i hel calennig ar ddydd Calan, a gofalai'r amaethwyr am fara a chaws ar eu cyfer. Cenid un neu ragor o'r penillion a ganlyn:—
Calenig wyf yn 'mofyn
Ddydd Calan ddechreu'r flwyddyn,
A bendith fyth fo ar eich tŷ
Os tycia im' gael tocyn.
Calenig i mi, Calenig i'r ffon,
Calenig i fwyta'r noswaith hon :
Calenig i'm tad am glytio'm 'sgidiau,
Calenig i mam am drwsio'm 'sana.
Rhowch Galenig yn galonog
I ddyn gwan sydd heb un geiniog,
Gymaint roddwch rhowch yn ddiddig,
Peidiwch grwgnach am ryw 'chydig.
'Nghalenig i'n gyfan ar fore dydd Calan,
Blwyddyn Newydd Dda i chwi.
Os gwrthodid hwy:
Blwyddyn Newydd Ddrwg,
Llond y tŷ o fwg.[4]
HEL BLAWD Y GLOCH. CASGLU ŶD Y GLOCH
Defod hynafol iawn, mae'n ddiau, oedd hel blawd y gloch. Methais â dyfod o hyd i neb yn Edeirnion yn cofio'r clochydd yn dyfod o gwmpas i hel blawd y gloch, ond bu'r arferiad hwn ym mhob rhan o Gymru. Dywaid William Davies ei bod hi'n arfer ym Meirion i'r clochydd fyned o gwmpas y ffermydd y cynhaeaf ŷd i hel ysgub y gloch, ac yr arferai pob amaethwr roddi ysgub neu ddwy iddo. Dro arall âi â'i gwd ar ei gefn pan ddeallai fod y ffermwyr wedi dechrau dyrnu, a dyma oedd ei dâl am ganu cnul ar ddydd angladd.
Cyfeiria "Llyfrbryf" at yr un ddefod yn ei lyfryn Y Ddau Efell. Geilw ei arwr "Nicodemus." Aeth dau hogyn at Nicodemus un tro i'r clochdy, pan oedd yn canu'r gloch, i ofyn am eglurhad iddo ar ei waith, pryd y bu ymddiddan tebyg i'r hyn a ganlyn :
"I ba beth y mae passing bell yn dda, Nico?" ebe un o'r bechgyn.
Synnodd Nico at y fath anwybodaeth, ac atebodd, "Da i bob peth. Dyna un peth y mae yn dda: I hysbysu'r plwyfolion fod hwn neu hon wedi marw, a bod yr enaid wedi pasio i'r purdan. . . . Hen arferiad dda er dyddiau yr Apostolion a chyn hynny am a wn i." Ac aeth ymlaen, un, dau, tri i wyth, ac yna stopio am funud a dechrau drachefn.
Pam wyth mwy na chwech neu saith, Nico?" ebe un o'r hogiau drachefn. Dyma'r rheol," ebe yntau, sylwch chwi rŵan pan fo gŵr priod wedi marw, 9 tinc; gwraig briod, 8 tinc ; dyn di-briod, 7 tinc; merch ddi-briod, 6 tinc; llanc tan ugain oed, 5 tinc; lodes, 4 tinc; baban gwrryw, 3 tinc; geneth, 2 dinc."[5]
Felly galwad ar y plwyfolion i weddïo dros enaid yr ymadawedig oedd canu'r gloch, ac ychydig o ŷd neu flawd oedd tâl y clochydd.
Nid oes gennyf gof i mi glywed y gloch yn cael ei chanu yn ol rhif. Cofiaf wraig y clochydd—Beti'r gof, fel y gelwid hi—yn myned o gwmpas i hel blawd y gloch. Bûm yn llygad-dyst o'm mam o'i phrinder yn rhoddi llond bowlen o flawd ceirch yn ei ffetan.
HEL BWYD CENNAD Y MEIRW
Yr oedd hon yn hen ddefod. Dywaid "Llew Tegid " mai hel bwyd ddydd gŵyl y meirw a wneid yn Llanuwchllyn. Dydd Calan Gaeaf oedd y dydd hel bwyd cennad y meirw, ond byddai llawer o dlodion yn parhau i hel am ddyddiau. Dywaid Wm. Davies fod Cynwyd, Corwen, Llansantffraid a Glyn Dyfrdwy wedi bod yn ffyddlon iawn i'r ddefod hon. Cerddai llawer o wragedd tlodion o gwmpas, a gofalai gwragedd y ffermydd bobi a chrasu nifer o deisennau bychain i'w rhoddi, ac i rai fod o gwmpas mor ddiweddar ag 1876. Arferai plant fyned yn gwmniau i hel bwyd cennad y meirw.
Dywaid fy nai, John Edwards, fod yr arfer yn fyw ym Metws Gwerfil Goch yn 1900, neu ddiweddarach, ac mai dyma'r pennill a'r dôn a ganent wrth hel bwyd cennad y meirw pan oedd yn hogyn yn yr ysgol yno:—
Cofiaf yn dda i mi fod unwaith yn hel bwyd cennad y meirw yn y Cwm Main, neu Gwm Dwydorth, pan oeddwn tua phump oed.
Dechreuasom ar y daith yn Nhai Mawr. Cawsom globen o frechdan driagl. Bwyteais a allwn ohoni, ond yr oedd darn mawr yn weddill, a'r triagl wedi rhedeg i'm llewis ac ar hyd fy mrat. Nid oedd gennyf ysgrepan i'w rhoddi ynddi, a minnau eisiau myned gyda'r bechgyn i Tŷ Tan y Ffordd, y ddwy Wenallt a Choed Bedo. Yng nghanol fy mhenbleth, gwelais Hugh, mab Tŷ Tan y Ffordd, yn troi tir i wenith, ac am y gwrych â mi. Pan gefais ei gefn, gwthiais trwy'r gwrych a rhoddais y frechdan o dan y gwys. Meddyliais lawer gwaith fyned i'r cae i edrych a ydyw hi yno.
Er chwilio a holi cryn lawer nid wyf wedi llwyddo i gael unrhyw eglurhad ar yr arferiad hynafol o hel bwyd cennad y meirw.
HEL WYAU'R PASG
Arferid hel wyau'r Pasg yn yr hen amser. Fel y canlyn y dywaid William Davies yn Nghyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Blaenau Ffestiniog, 1898:
"Rhyw wythnos o flaen y Pasg, arferai y clochydd fyned o amgylch â basged ar ei fraich i hel "wyau y Pasg," a byddai y plwyfolion yn ol eu gallu yn cyfranu o un hyd haner dwsin. Byddai ei dŷ yr adeg hon yn un o'r rhai â mwyaf o wyau ynddo o un tŷ yn y wlad. Dywedir mai rhan o dâl y clochydd ydoedd yr wyau hyn am ofalu am y gladdfa."
COCYN SAETHU
Cynhelid yr hyn a elwid cocyn saethu, sef saethu at nod am y gorau, i gynorthwyo'r rhai wedi cyfarfod â rhyw anffawd, megis damweiniau, a cholledion trwy i anifail farw. Nid wyf yn cofio gweled yr un, ond cofiaf rai yn myned o gwmpas i amcan felly lawer tro. Gelwid hynny yn "hel briff."
HEL BWYD
Yr oedd yn arferiad hefyd i lawer fyned o gwmpas y wlad i hel eu bwyd. Fe gofiaf rai o'r gwragedd tlotaf neu efallai rai oedd wedi arfer yn eu hieuenctid, yn dyfod o gwmpas yn ddwy a thair i hel eu bwyd. Clywais John Hughes—a fagwyd yng nghymdogaeth Betws y Coed, hynafgwr dros ei bedwar ugain oed, ac wedi treulio'r rhan fwyaf o'i oes yn Llundain, ac a fu â llaw yng nghychwyn eglwysi Walham Green a Clapham Junction, ond sydd erbyn hyn wedi croesi'r terfyn—yn dywedyd y cofiai ei fam yn adrodd ei hanes, iddi hi yn 1817, pan oedd yn eneth bur ieuanc, a nifer eraill fyned o Fetws y Coed i Sir Fôn i gardota blawd. Dywedai eu bod wedi cael gwell cynhaeaf ym Môn y flwyddyn honno nag yng nghymoedd Arfon a Meirion, ac y byddai'r merched, ar ôl dyddiau o hel eu bwyd a hel blawd, yn dychwelyd â llond cwd o flawd ceirch, wedi ei gael gan ffermwyr neu yn hytrach fferm-wragedd caredig Môn. Gelwid Môn yn "Granary Cymru." Tybed mai dyna'r rheswm iddi gael ei galw yn Fam Cymru, am y byddai tamaid i'w gael yno pan fyddai'r cynhaeaf wedi methu yn y rhannau mynyddig?
Pur ychydig a wyddom ni am galedi'r amseroedd yn nyddiau'r hen bobl. Fel hyn y canodd "Eos Iâl" ar y mater :-
Nid oedd yr hen Gymry
yn tra arglwyddiaethu
Ond yn ymddwyn yn dirion
Tu ag at eu Gweinyddion.
Ni chai 'r Wenidoges
Ddweyd Meistar, a Meistres,
Syr, na Mam hefyd,
Namyn Fewyrth, a Modryb,
Pan y byddai heth galed
yn gwasgu trueinied.
anfonent eu gweison
I dai y Cym'dogion,
a chyflawnent eu hangen
Gyda gwyneb llawen.
Er maint o bregethu
yn awr sydd ynghymru
Mae cariad rywfodd
Bron gwedi diffodd,
a'i gladdu yn farwol
ymedd yr hen bobol.[6]
Nodiadau
[golygu]- ↑ Cofnodion a Chyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Bangor 1890. (1892).
- ↑ Cofnodion a Chyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Blaenau Ffestiniog 1898. (1900).
- ↑ Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaetbol Aberpennar, 1905.
- ↑ Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaetbol Blaenau Ffestiniog, 1898.
- ↑ Allan o'r Traethodydd, Treffynnon, 1875.
- ↑ Drych y Cribddeiliwr, gan "Eos Ial" (Dafydd Hughes), Llansantffraid, 1859.