Cwm Eithin/Hen Ddiwydiannau, III

Oddi ar Wicidestun
Hen Ddiwydiannau, II Cwm Eithin

gan Hugh Evans, Lerpwl

Gwaith a Chelfi Ffarm


PENNOD X
HEN DDIWYDIANNAU
III

MEDI A MYND I'R CYNHAEAF

YR oedd gwaith gweision a gweithwyr ar y ffermydd yng yn hyn ydoedd ym rhan o Gymru; ond gan mai lle diweddar ydoedd, cyn gynted ag y byddai'r cynhaeaf gwair drosodd, arferai'r rhan fwyaf ohonynt fyned am fis neu bum wythnos i'r cynhaeaf ŷd—rhai i Sir Amwythig, eraill i Ddyffryn Clwyd. Byddai'r llanciau hynaf a gyflogai dros y flwyddyn yn cyflogi i gael mis o gynhaeaf; ychwanegai hynny ryw gymaint at gyflog y llanc a lleihâi gostau yr amaethwr. Medi y byddent yn yr hen amser—yn enwedig y gwenith. Yr oedd hynny lawer arafach na thorri gyda'r bladur, ond byddai'r ŷd lawer taclusach ac yn cael ei hel yn lanach, ac nid oedd yn dihidlo cymaint. Yr oedd y gwenith yn nwydd gwerthadwy iawn y pryd hynny.

A'r sicl y medid ar y cyntaf, ond bu llawer o fedi â'r cryman hefyd; yr oedd y ddau ar yr un ffurf, sef yn debyg i gryman tocio gwrych, ond bod y sicl yn llai bwaog a hwy. Yr oedd min da ar y cryman, ond dannedd mân, mân, oedd yn y sicl; hi oedd yr hynaf. Defnyddid y ddau bron yr un modd, ond mai taro yr ŷd a wneid â'r cryman a thynnu'r sicl drwyddo i'w lifio. Cymeryd gafael mewn swp o'r ŷd yn agos i'r pen â'r llaw chwith, a'i dorri â'r dde. Pan wyf fi yn cofio gyntaf yr oedd y bladur bron wedi disodli'r sicl a'r cryman medi. Ai'r dynion ieuainc i'r cynhaeaf gyda phladur a charreg hogi yn unig, ond parhaodd yr hen frodyr i fyned â sicl neu gryman medi gyda hwy am hir amser. Clywais yr hen dadau yn dywedyd yr awyddent hwy gymaint pan oeddynt yn ieuainc am gael myned i'r fedel ag yr awyddem ni am ladd gwair neu ŷd. Yn fy nghof cyntaf i fe dorrid yr ŷd i gyd i mewn. Wrth dorri neu ladd i mewn rhaid ei afra oddi ar ffordd y pladurwr nesaf gan fod yr ystod yn gorwedd yn ymyl yr ŷd heb ei dorri. Ond daeth lladd allan yn bur gyffredin os byddai yn gynhaeaf da Erbyn hyn mae'r peiriant torri wedi disodli'r bladur. Ni allaf sicrhau yr hyn a ganlyn, ond credaf ei fod yn agos i gywir: y torrai un dyn, gyda phladur, gymaint â dau neu dri gyda'r cryman neu'r sicl; ac y tyr un dyn gyda'r peiriant gymaint, a mwy, nag a dorrai chwech gyda phladur. Felly fe welir y gwelliant sydd mewn offerynnau amaethyddol. Gyda'r peiriant gall un dyn dorri cymaint ag a dorrai ugain neu ragor wrth fedi.

Bûm yn holi rhai o'r hen frodorion am eu hanes yn myned i'r cynhaeaf, a hen hanesion eraill, lawer gwaith pan gawn ychydig seibiant yn y wlad. Clywais Dafydd Williams, Pant y Clai—a fuasai yn gant ag ugain mlwydd oed pe buasai'n fyw heddiw yn dywedyd y cofiai ef, pan oedd yn ddyn ieuanc, y cychwynnent o Edeirnion gyda'r nos a cherdded dros y Berwyn a chyrraedd i ardal Croesoswallt erbyn torri'r wawr, a gweithio yn y fedel hyd oddeutu deg o'r gloch y nos. Yn 1915 bûm yn holi William Edwards, Colomendy—oedd yn wyth a phedwar ugain mlwydd oed y pryd hwnnw. Dechreuodd fyned i Sir Amwythig i'r cynhaeaf pan oedd yn dair ar hugain mlwydd oed. Y cyflog yr adeg honno—sef 1850—oedd dau swllt a hanner coron y dydd, a gweithio o hanner awr wedi pump yn y bore hyd tua naw o'r gloch y nos. Byddai'r Cymry mewn cryn anhawster i ddeall y Saeson; ond byddai hen law bob amser yn y fintai, ac yn aml cymerid ffarm neu ddwy i'w medi am hyn a hyn yr acer, a thalu wrth y dydd i'r newyddian. Dywedai John Jones, a fagwyd yng Nghastell Dinbych— felly a wyddai'n dda am Ddyffryn Clwyd—mai'r swm a delid yno pan oedd ef yn ieuanc am fedi, rhwymo, a chodi'r yd oedd o ddeg i ddeuddeg swllt yr acer. Cymerai un neu ddau ffarm i'w medi, ac yr oeddynt i gyflogi a thalu i'r dynion cymwys a arferai weithio ar y ffarm. ent at y Groes am weddill eu gweithwyr, a thalu wrth y dydd. Dro arall byddai'r hyn a alwai ef yn Butty Gang yn cymeryd ffarm neu ddwy ac yn gwneud Butty Mess ohoni; sef oedd hynny rhannu'r enillion yn gyfartal. Buont ar ôl hynny yn cael un swllt ar bymtheg yr acer. Gallent ennill y pryd hynny, ond gweithio o olau i olau, tua dwy bunt a phum swllt yr wythnos. Felly yr oedd un dyn yn medi, rhwymo, a chodi oddeutu dwy acer a thri chwarter mewn wythnos.

SBAENO

Rai blynyddoedd yn ôl bûm yn holi Robert Jones, Tan y Ffordd, Cynwyd, a fagwyd yn Nyffryn Clwyd. Dywedai ef fod gwahaniaeth rhwng medi a'r hyn a elwid sbaeno. Wrth fedi gafaelid mewn tusw o'r ŷd a'i dorri â'r cryman neu'r sicl, a rhoddi swm gafr ar y rhwymyn gyda'i gilydd, a byddai yn daclus iawn. Dilynai'r dynion ei gilydd yn rhes, a gelwid hynny y fedel. Dull sbaeno oedd i bawb gymeryd cefn a thorri o rych i rych a'i hel â blaen y cryman.

Gwneuthum ymholiad yn Y Brython yn 1928 am ragor o oleuni ar y gair Sbaeno, a'r hen arferiad. Atebodd nifer o gyfeillion fy nghais.

Dywedai Jack Edwards, Aberystwyth, y cofiai ei dad yn sôn am yr arferiad, ac mai'r argraff ar ei feddwl ef oedd mai o'r gair Saesneg span y tarddai, agor y llaw a gafael am ddyrnaid o wenith.

Dywaid "Ieuan Mai," gŵr o Faldwyn, mai "sbanio dwrn fedi" y clywodd ef y gair yn cael ei ynganu yn ei sir ef, ac mai "grwn" a ddywedir ym Maldwyn am yr hyn a alwn ni yn gefn yr ochr arall i Ferwyn. Byddai pob medelwr yn torri'r grwn ar ei draws o rych i rych, a hel yr ŷd â'i droed nes cael swm ysgub. I fod yn fedelwr da, rhaid oedd bod yn fedrus i newid llaw i sbario cerdded yn ofer. Pechod anfaddeuol yng ngolwg yr hen bobl oedd torri gwenith â phladur. Tasg medelwr oedd torri hanner cyfair a'i rwymo mewn diwrnod. Cyfair neu erw y gelwir ym Maldwyn yr hyn a alwn ni yn acer. Saesneg yw yr olaf yn ddiau, ond y mae erw yn ddigon cyffredin a dealledig ym Meirion.

Dywaid "Ap Cenin," ar ôl holi nifer o hynafgwyr pedwar ugain oed a throsodd, mai â'r cryman y sbaenid, a bod sail dda i gredu mai o'r gair swp y daeth-cymeryd gafael mewn dyrnaid o wenith, sef sypynno. Dywaid hefyd fod traddodiad yn ei ardal ef, Llanfairfechan, i long o'r Ysbaen fyned ar y creigiau a myned i lawr, ond i'r dynion ddyfod i dir lle yr oedd nifer o Gymry yn torri ŷd. Rhanasant eu bwyd â'r Ysbaenwyr yn eu trallod, a darfu iddynt hwythau ddatgan eu diolchgarwch trwy ddangos i'r Cymry y modd y byddent hwy yn torri'r ŷd yn yr Ysbaen, a galwyd ef sbaeno.

Dywedodd Edward Roberts, y Rhyl, a fagwyd ar yr ochr orau i'r Berwyn, y credai ef mai o'r Ysbaen y daeth y gair, fel daeth y gair sgotsio am roi dau geffyl i dynnu aradr wrth ochrau'i gilydd yn Sir Drefaldwyn o Scotland. Dywedid am geffyl ieuanc, "Mae o yn sgotsio yn dda."

Clywais Thomas Roberts, y Pistyll, Wrexham, Cymau gynt, ac a fagwyd yn Llanarmon yn Iâl, yn dywedyd mai sypynnau y clywodd ef y gair yn cael ei swnio.

Bu'r Parch. William Griffith yn holi hen frodorion cylch Abergele. Arferid sbaeno ffa â'r cryman, dau yn cymeryd cefn, un o'r rhych i'r drum a'r llall hyd y rhych arall. Gŵr a gwraig fyddent weithiau. Y pryd hynny cymerai'r gŵr ychydig yn fwy na'r hanner.

Y FEDEL WENITH.

Dywaid "Ap Rhydwen" ymhellach: Hanner cyfair cefn oedd tasg medelwr i'w dorri a'i rwymo mewn diwrnod. Er mwyn gallu torri cae, dyweder o bum acer mewn diwrnod, fel y gellid ei gynhaeafu a chael digon ohono ar unwaith i'r gadlas i wneud tâs, arferai'r ffermwyr gynorthwyo'i gilydd. Byddai deg neu ddeuddeg o ddynion yn torri: dyna a elwid y Fedel, o'r gair medi. Diwrnod mawr ydoedd yn hanes y llanciau a'r genethod, a cheid cinio arbennig a gynrychiolir heddiw gan ginio diwrnod yr Injan.

Fel y canlyn y dywaid y Parch. D. G. Williams, Ferndale, yn ei draethawd ar Lên Gwerin Sir Gaerfyrddin, a gyhoeddwyd yn 1898 gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol:—

Ymddengys i'r "fedel wenith " fyw yn hwy yn y rhannau dwyreiniol a gogleddol o'r sir nag yn y rhannau gorllewinol. Cefais i ei hanes gan rai a fuont lawer gwaith ynddi.

Trefnai nifer o amaethwyr yn yr un ardal i beidio a thorri eu gwenith yr un dydd fel y gallent gynorthwyo eu gilydd. Felly deuai nifer fechan o bob fferm yn yr ardal, yn gystal ag ereill a allent weithio ar y cynhauaf, ynghyd at eu gilydd ar ddydd penodol, fel ag i orffen torri a rhwymo gwenith un fferm mewn un dydd. Erys arferiad debyg eto mewn grym yn rhai parthau o'r sir gyda'r gwair. Ceisia y ffermwyr ddeall eu gilydd i beidio a lladd eu gwair yr un dydd, fel y gallont oll roddi cymorth i'w gilydd i gael un lladdiad i fewn mewn un diwrnod. Felly y gwneir hefyd gydâ chneifio defaid yn yr ardaloedd mynyddig. Dwy ffurf yw y rhai hyn ar gymhortha" y dyddiau presennol.

Yn y "fedel wenith "er's llawer dydd byddai dau, gwrryw a bennyw ar yr un grwn:[1] mewn gryniau bychain y byddid arferol o aredig y tir. Ai y gwrryw yn gyntaf, ac yr oedd yn ddealledig ei fod ef i gymeryd ychydig yn fwy o led " na hanner y grwn bach fel y gallai y wraig yn rhwydd gymeryd y gweddill. Os byddai y ferch yn gref a'r bachgen ar yr un grwn a hi yn digwydd bod dipyn yn ieuanc neu yn wan, cymerai y ferch yn wrol le a lled arferol y gwrryw.

Yr oedd swper da i fod noson y fedel wenith fel yr oedd y noson y gorffenid medi. Yr oedd poten o fath arbennig i fod y noson hon; ei henw oedd whipod." Gwnelid hi fyny o reis, càn, resins, cwrens, triagl, ac ychydig ddefnyddiau ereill. Byddai cwrw, wrth gwrs, yn awr ac yn y man, yn cael ei rannu drwy y dydd rhwng cwmni'r fedel wenith.

Wedi gorphen swper, cydunai'r holl gwmni mewn chwareu— yn difyr. Dai Shon Goch" a "Rhibo " oeddynt ymhlith omwyaf poblogaidd o'r chwareuon hyn.

Chwareu Dai Shon Goch ydoedd fel y canlyn:—Gwisgai dau, yn ferched neu yn fechgyn, mewn hen ddillad carpiog. Cedwid dillad yn gyffredin gan bobl y fferm ar gyfer hyn. Wedi ymwisgo, deuai y ddau allan i'r ysgubor. Rhoddir iddynt ffon; pwysent ar y ffon, yr hon a ddalient gydag un pen iddi ar y llawr. Yna aent fel yma drwy ddawns bur ryfedd, yr hyn a roddai ddifyrwch nid bychan i'r cwmni.

Rhibo.-I fyned drwy y chware yma safai tri bachgen wyneb yn wyneb â thri arall, a chydiai pob un yn nwylaw yr un a safai o'i flaen. Ar freichiau y chwech hyn gosodid bachgen a merch i orwedd ar eu hyd gyda'u gilydd. Yna taflai y chwech gwr hwynt i fyny'n bur uchel, gan eu derbyn yn ol ar eu breichiau o hyd. Os byddai merch yn rhedeg i ymguddio ac yn anfoddlon i fyned drwy weithrediadau y "rhibo," cawsai hi ei thaflu'n bur uchel, a'i thrin hytrach yn drwsgl pan ddelid hi. Byddai pebyll merched y dyddiau presennol yn rhyfrau i ddal y prawf, ond fel hyn y treulid gynt hwyr dydd fedel wenith, ac ai pawb gartref yn gyfain eu hesgyrn, ac yn ysgafn eu calon.

Fel y canlyn y canodd un o'r hen feirdd am HANES MEDELWYR, ar fesur "Llef Caerwynt."

Ni aethom i fedi, fel tri o ynfydion,
Heb ddeall yn union mor sosi oedd y Saeson;
Tros Berwyn trwy bur-nerth, i dŷ Meistr Barnad,
Os coeliau ni eu geiriau, caen ganddo blaen gariad:
Gosod tasg i ni a wnae,
Addo bwyd, a gwlyb, a gw'lae,
Nos pan ae hi'n sydyn,
Y wraig ni roe hi un gronyn.
Ond gwellt y gwenith melyn,
Mae hwnnw yn rhy dda i Welsmyn,
Meddai'r fun wrth ben y bwrdd,
Cychwynnem fyn'd tri ffrind i ffwrdd;
Hearky, Welshmyn Pray come in,
You shall have bed and everything,
Mary Bright, come here,
Give them drink, a tanker,
Mae cysgu yn ormod carchar,
Mewn gwellt ar wyneb daear,
I ddynion mo'r ewyllysgar,
Medda'i Meistr selgar sant
Cewch wely yn y tŷ an [sic] ddal y tant.
O'r Llyfr Cywrach Llwyd, Blodeu-gerdd Cymry, 1823.


Y DYRNWR

Gwaith pwysig iawn oedd dyrnu yn yr hen amser. Ni ellid cael bwyd i ddyn nac anifail heb y dyrnwr. Cedwid dyrnwr trwy'r gaeaf yn y ffermydd mawr, oherwydd dyrnid y cyfan â ffust, yn fy nghof cyntaf. Ni wn pa faint o bobl y dyddiau hyn a wyr y gwahaniaeth rhwng ffust a choes brws, ac a wyddant fod ffust yn ddau ddarn—troedffust a lemffust. Gweler ddarlun o'r ffust, rhif 2, tudalen 106. Yr oedd eisiau cryn arferiad i ddefnyddio'r ffust, neu fe gâi'r dyrnwr lempan drom yn ei ben. Gallai Robert Ellis ddyrnu tri hobaid o geirch mewn diwrnod gyda ffust fechan, er yr ystyrid dau hobaid yn waith diwrnod pur dda. Wele ysgrif (tud. 116) yn dangos y pris a delid am ddyrnu yn 1831. Ar ôl dyrnu'r ŷd yr oedd llawer o waith i'w wneud cyn y byddai'n barod i'w anfon i'r felin. Y peth cyntaf oedd ysgwyd y gwellt, yna tynnu'r manwellt ohono. Gwneid hynny gyda chribin gref bwrpasol, gyda dwy neu dair o wdenni wedi eu rhoi trwy'r goes a'u plygu fel yr elai'r ddau ben i dwll ym mhen y gribin. na cribinio tuag atoch a chicio'r ŷd ag un troed trwy y gribin. Ar ôl hynny yr oedd, eisiau ei ridyllio.

Rhaid oedd rhoddi'r haidd trwy un gorchwyl arall—ei goli o sef torri'r col yn rhydd oddi wrth y grawn. Un math o golier a welais i, a gwelais amryw heblaw un fy nhaid oedd mewn cyflwr da. Gwaith gof cartref ydoedd, darn o haearn oddeutu dwy fodfedd o led a thua chwarter modfedd o dewdra, wedi ei blygu yn bedair congl ysgwâr a'i asio yn un gongl, yn sefyll ar ei ymyl. Mesurai o ddeuddeg i bymtheg modfedd ar ei draws. Yna cymerid darnau eraill o haearn yr un lled, feallai ychydig yn deneuach (oddeutu tri—wyth modfedd), torri tyllau mewn dwy ochr i'r sgwâr, a'u gosod hwy ar draws y sgwâr o fewn oddeutu modfedd i'w gilydd a rifetio eu pennau yn yr ochrau i gyd ar eu cyllyll, fel y dywedir, ac edrychai yn debyg i foot-scraper a welir wrth ambell gapel, ond ei fod yn sgwâr. Wrth y ddwy ochr arall gosodid darnau o haearn ar i fyny—y ddau yn cyfarfod â'i gilydd oddeutu troedfedd uwch ben y sgwâr, ac yn ffurfio soced, ac yno y gosodid y goes pren a safai yn syth ar i fyny. Ar ôl chwalu'r twr haidd yn weddol denau ar lawr yr ysgubor, defnyddid y colier yn debyg i ordd y fuddai gnoc, neu fel y gwelir dynion yn pydlo clai neu farial i'w galedu. Nid oedd

min ar yr heyrn oedd ar eu cyllyll neu buasent yn torri'r gronyn:

ond gan fod y col wedi sychu a breuo yr oedd yn hawdd ei dorri oddi wrth y gronyn, a byddai'r haidd yn tatsio rhwng y cyllyll ac yna yn barod i'w nithio.

Diwrnod mawr oedd diwrnod nithio. Yr oedd y machine nithio wedi dyfod i arferiad yn y rhan fwyaf o'r ffermydd pan gofiaf gyntaf. Gyda honno, ond ei throi a thywallt yr ŷd i mewn, hi a'i gwahanai,a deuai'r grawn, y gwehilion, a'r manus allan ohoni trwy hoprenni gwahanol. Ond y wyntyll hen ffasiwn oedd yn fy nghartref i. Gwelais rai yn ceisio nithio tipyn yn y gwynt trwy daenu cynfas neu huling ar lawr a gollwng yr ŷd yn araf a thenau dros ymyl y gogor fel y chwythai'r gwynt y manus ymaith. Gwneid hynny mewn ambell le bychan lle nad oedd ond ychydig o ŷd na'r un wyntyll at y gwaith. Credaf mai'r wyntyll oedd gennym ni oedd y math cyntaf a wnaed yn oesoedd bore hanes—hynny yw, mai dyna oedd dull y wyntyll gyntaf. Gwneid hi o ddau bost oddeutu pum troedfedd o uchter. Yr oedd raelsen yn y top a'r gwaelod i gysylltu'r ddau bost â'i gilydd, ryw bedair troedfedd oddi wrth ei gilydd; darn o bren tua deunaw modfedd o dan bob post i wneud traed fel y safai i fyny yn gadarn; yna tua chanol y ddau bost, darn sgwâr o bren oddeutu pedair modfedd o dewdra yn cyrraedd o'r naill bost i'r llall, ecstro byr ym mhob pen a handlen ar un ohonynt, a styllen wedi eu hoelio ar ddau sgwâr y pren; ac ar ymyl allan pob un o'r rhai hynny, un ochr o sach wedi ei hoelio i wneud labedi. Wrth y raelsen uchaf yr oedd bwrdd o ryw bedair styllen naw modfedd o led yn cael ei sicrhau â'i osgo ar i lawr wrth ben y labedi. Tra byddai un yn troi y wyntyll â'i holl egni fe ollyngai un arall yr ŷd o ogor i lawr y bwrdd yn denau; disgynnai'r grawn trwm yn ymyl y wyntyll, y gwehilion—neu'r tinion, fel y gelwid ef fynychaf—ychydig ymhellach; a'r us neu'r col haidd yn bellach drachefn, a phob rhyw bum munud byddai raid cymryd ysgub i symud yr us a'r gwehilion rownd y twr, neu deuai'r grawn ar ei gefn fel y cynhyddai'r twr. Hoffai rhai waith dyrnu yn fawr. Fe fyddwn innau yn dygymod yn iawn ag ef ar ddiwrnod oer ystormus, ond os byddai raid dyrnu ar ddiwrnod braf yn y gwanwyn, fel y bu lawer tro, fe dorrwn fy nghalon, ac ni fyddai llawer o'm hôl ar ddiwrnod felly. Erbyn heddiw, mae'r dyrnwr mawr—yr injan ddyrnu—ym mhob man. Credaf fy mod yn cofio'r injan ddyrnu gyntaf yng Nghwm Eithin. "Injan Enoc" y gelwid hi. Yr oedd ef yn arwr mawr yn y Cwm. Bûm yn cario dŵr iddi. Ni wnâi hi ddim ond dyrnu. Yr oedd raid cario'r ŷd yn ei faw i ysgubor a'i roi mewn sachau yn rhywle y ceid lle; ac ar ôl iddi fod yn dyrnu am ddiwrnod yr oedd gwaith rhidyllio a nithio am ddyddiau.

CRASU A MALU

Dynion pwysig yng Nghwm Eithin oedd y craswr a'r melinydd. Soniais wrth un gŵr ieuanc yn ddiweddar am y craswr. Tybiodd ef mai y baker a feddyliwn, sef dyn yn crasu bara. Yr hynaf o'r frawdoliaeth a gofiaf yw Morus y Craswr, cefnder i "Jac Glan y Gors." Yr oedd y craswr hwn yn bod pan nad oedd ond merched yn crasu bara. Byddid yn crasu ceirch cyn ei falu. Gellir malu ceirch drwyddo yn fwyd moch heb ei grasu, ond ni ellir ei silio heb ei grasu. Yr oedd dau fath o odyn i grasu yn fy nghof i, odyn wellt ac odyn deils. Y gyntaf oedd yr hynaf. Yng ngwaelod yr odyn yr oedd lle tân tebyg i bopty mawr hen ffasiwn. Yn yr hen amser twymnid ef gyda mawn, ond erbyn fy amser i yr oedd llosglo (charcoal) wedi dyfod yn bur gyffredin. Wrth ben hwnnw drachefn yr oedd math o lofft wedi ei theilio. Taenid yr odynaid ŷd o ryw bymtheg neu ugain hobaid ar y teils cynnes, a throid ef unwaith neu ddwy gyda rhaw bren. Yn yr odyn wellt nid oedd ond trawstiau yn groes ymgroes yn gwneuthur llofft, a byddai raid myned â thair neu bedair batingen o wellt i'w roddi drostynt. Ar y gwellt y tywelltid y ceirch yn haen denau, a gwaith gofalus iawn oedd sicrhau eich traed ar y trawstiau wrth dywallt y ceirch o'r Bachau, a'i droi gyda'r rhaw bren a'i lenwi yn ôl i'r sachau, neu byddai eich coesau trwy'r llofft a chollid y ceirch. Ar ôl ei lenwi i'r sachau â'r rhaw bren byddai raid ysgwyd y gwellt i gael y gweddill. Mae dau reswm dros grasu'r ceirch; yn gyntaf, heb ei grasu nid yw yn ddigon sych i wneud bara; ac yn ail, ni ellir-neu o'r hyn lleiaf ni ellid gyda pheiriannau'r hen felinau-wahanu'r rhynion oddi wrth yr eisin.

Diwrnod pur fawr oedd diwrnod silio. Byddai raid i ddau neu dri fyned i'r felin y diwrnod hwnnw, a rhaid oedd i un ohonynt fod yn ddigon cryf a heini i gario'r pynnau o'r odyn i'r felin. Gwnâi'r gweddill y tro yn wan hen neu wan ieuanc. I silio rhaid oedd codi ychydig ar y garreg ucha yn y felin, fel y byddai bron ddigon o le i'r geirchen basio rhwng y ddwy garreg heb ei malu-yn unig torri'r plisgyn heb falu'r gronyn; a chan fod y geirchen yn galed ar ôl y crasu deuai'r plisgyn i ffwrdd yn gyffredin yn ddau ddarn; a hawdd oedd gwahanu'r rhynion oddi wrth yr eisin wedyn gyda gograu neu fath o wyntyll fechan. Yna gostyngid y garreg, a rhoddid y rhynion trwy'r felin i'w malu. Ond byddai cryn lawer o'r eisin yn aros drachefn. Deuai y mân flawd allan trwy un hopren a gelwid ef yn flawd masw, neu flawd moch; a'r blawd ceirch drwy hopren arall. Byddai eisiau ei ogryn drachefn i gael a ellid o'r eisin allan. Cymerai rhai ychydig o'r rhynion adre heb ei falu i wneud uwd rhynion am y credent ei fod yn gwneud gwell uwd na'r blawd; o'r hyn lleiaf yr oedd yn ychydig o newid ar unffurfiaeth y swper. Cymerai y melinydd a'r craswr eu tâl am eu llafur mewn toll o rynion neu flawd, ac yr oedd y mwyafrif ohonynt yn berffaith onest. Ni chymerent ragor na'u siâr, ond yr oedd ambell un anonest; a phan ddeuai rhai newyddion, cymerai amser hir iddynt ennill eu cymeriad.

Byddai'r ceffylau yn prancio wrth fyned a'r odynaid flawd ceirch adre; gwyddent yn iawn beth oedd yn y drol, a disgwylient am eu rhan ar ôl cyrraedd. Cedwid y blawd ceirch mewn cist dderw hynafol. Stwffid ef yn galed a chadwai am hir amser; ac aml y cleddid ham neu ddwy yn ei ganol, y lle gorau posibl i gadw ham wedi ei sychu. Ond byddai cryn lawer o eisin sil yn y bara ceirch gyda'r hen felinau. Aml y gwelid hwy yn sgleinio yn y dorth geirch, yr un fath â'r bran yn y bara gwenith. Ac yn rhyfedd iawn fe fagwyd tô ar ôl tô o ddynion a merched cryfion ac iach ar fara ceirch a llawer o eisin sil ynddo, a'u hoes yn llawer hwy nag oes y bobl sydd yn byw heddiw ar gacen siop. Diddorol yw gwylio ambell hogyn yn curio ar ôl iddo briodi dandi, ac yntau wedi ei fagu ar fara cartre ei fam. Pa mor gynnar y daeth yr olwyn ddŵr i droi'r felin yng Nghwm Eithin, anodd dywedyd. Gwelais un o gerrig y felin law yn Edeirnion, ac nid yw yn edrych yn hen iawn, ond bod y ffaith mai ar ochr y mynydd y caed hi yn tystio bod ei chyfnod braidd yn bell yn ôl. Mesura tua deunaw modfedd ar ei thraws, a phedair o dewdra, wedi ei rhesu yn bur fân. Pa un ai'r uchaf ai'r isaf ydyw nis gwn

Yn Y Gwladgarwr, Mawrth 1834, ceir a ganlyn (tudal. 80):

LLAW-FELINAU CYMRU.

At Olygydd y Gwladgarwr.

Hybarch Syr,—Yn yr 2il du dalen o Rifyn Ionawr, sylwech nad oeddych hysbys ymha un o blwyfau Edeyrnion y mae'r lle a elwir Bryn-y-Castell, y fan y daethid o hyd i weddillion un o hen felinau y Cymry. I hyn yr attebaf, mai yn mhlwyf Corwen y mae, sef yn ymyl y dref hôno; a gelwir y fan yn fwyaf cyffredin Pen-y-Bryn, neu Benbryn-y-Castell: ac y mae traddodiad yn y gymmydogaeth hono hyd heddyw, fod gynt ar y Bryn dywededig Felin yn malu heb gynnorthwy dwfr, tân, na gwynt; ac felly y dyb yw mai yn ol trefn ysgogiad parhâol (perpetual motion) perffaith yr ydoedd hon yn troi. Dywedir hefyd mai o fewn ychydig amser yn ol y symudwyd y darnau meini oddiyno gan wr boneddig o swydd Gaerllëon. Nis gallaf yn awr gofio enw y gwr na'i breswylfod, er i mi glywed lawer gwaith pan oeddwn yn byw yn Nghorwen.

Cafwyd maen melin o'r dull y sonir genych chwi yn y Rhifyn crybwylledig, o dan y ddaear, yn ymyl Nannau, ymhlwyf Llan Fachraith, yn swydd Feirionydd, yr hwn faen a ddefnyddiwyd wedi hyny yn gafn môch. A chafwyd un arall yn ymyl Ceimarch yn yr un plwyf; ond yr ydoedd hwn yn ddau ddarn: ac y mae hen wr boneddig yn Nôlgellau (Mr. T. Wiliams) yn cofio yr amser y cafwyd hwynt.—Ydwyf,

Barch. Syr; eich ewyllysiwr da,
Richard Jones.
Dôlgellau.

Diddorol iawn yw hanes datblygiad y felin o'r oesoedd bore. Y mae dwsinau o wahanol fathau wedi eu cloddio o'r ddaear, ac y mae edrych ar eu darluniau yn peri syndod. Mae'n debyg mai'r hynaf yw'r garreg wedi ei chafnio ychydig, a lwmp o garreg yn llaw merch i guro a gwasgu'r blawd o'r tywysennau. O hynny hyd felinau dŵr Cwm Eithin, ceir pob math. Mae'n debyg mai'r ferch a roddodd y tro cyntaf i'r felin law; pa un ai mab ai merch a ddyfeisiodd resu dwy garreg, a throi'r uchaf gyda handlen, ni ŵyr neb. Ond ar ôl ei chael mae'n debyg iddi ddatblygu yn bur fuan o ran maint. Ar ôl hynny bu caethion, gwartheg, mulod, a cheffylau yn ei throi cyn cael yr olwyn ddŵr. Dwy garreg wedi eu rhesu a fu'n malu am oesoedd dirif, gyda gwelliannau hyd nes y daeth y roller mill tua hanner canrif yn ôl.

Pa bryd y cymerodd y brenin a'r barwniaid feddiant o'r melinau yn y wlad hon, anodd gwybod. Mae'n debyg mai ar ôl i'r olwyn ddŵr ddyfod i arferiad. Felly y bu am oesoedd lawer. Nid yn unig meddiannai'r barwniaid y tir a'r dŵr, ond y gwynt hefyd, fel y dengys yr hanes a ganlyn am rai myneich yn 1391 ag arnynt eisiau adeiladu melin at wasanaeth y mynachdy, ond rhwystrwyd hwy gan The Lord of the Manor, a hawliai nad oedd neb i godi melin heb ei ganiatâd ef. Meddyliasant godi melin wynt ar dir y fynachlog, a chawsant ganiatâd yr esgob, ond nid hir y buont heb ddeall fod The Lord of the Manor yn hawlio'r gwynt hefyd, ac fe'u rhwystrwyd. Yr oedd meddu melin yn drosedd o gyfraith y wlad, ac yr oedd ysbïwyr yn myned o gwmpas i wylied na châi neb godi melin.

Ond ymhen amser dechreuodd y werin ymladd am ei hawliau. Ceir yr hanes a ganlyn am drigolion Sir Gaer[2]:—

"Vale Royal Abbey, Cheshire, owned the multure or milling rights of the neighbouring town of Dernhall by charter granted in 1299 by Edward I., and till 1329 appears to have peaceably exercised it; all the townsmen grinding at the abbey mill. In that year, however, a considerable rebellion against the compulsion arose in the town, the burgesses coming out in arms to resist the officials from the abbey who, of course, were bent on capturing the querns. The erring burgesses were eventually brought to their senses by the hopelessness of such a struggle, and in due course a number of them were led before the abbot in his court in the monastery, with straw halters round their necks—multi eorum in eadem curiæ fenia ducti—formally tendering their humble submission to the laws of the mill. Ten of the most rebellious [ceir yr enwau] were sentenced to forfeit their goods and cattle to the abbot; while the rest of the offenders were paraded before their lord and received his full pardon in solemn assembly. ****** "The ancient Laws and Institutes of Wales, codified in the ninth and tenth centuries, contain not only the allusions to querns already quoted, but some references of considerable interest to watermills; the code no doubt comprising some of those early British laws which the Welsh carried with them on their retreat to their mountain fastnesses. These enactments show a watermill to be a valuable possession, to be treasured as an inheritance:—A mill, a weir, and an orchard are called the three ornaments of a kindred, and those three things are not to be shared or removed, but their produce shared between those who have a right to them.—Ancient Laws and Institutes, bk. ii. ch. xvi."

Mae cyfeiriadau at y melinau yn hen gyfreithiau Cymru. Er enghraifft, pan fyddai gŵr a gwraig yn ymadael â'i gilydd, yr oedd y gŵr i gael y garreg ucha a'r wraig y garreg isaf. Ac y mae nifer o gerrig melinau Cymru o bob math yn y British Museum. Caed cryn nifer mewn hen sefydliad ar yr afon Brent ym Môn. Diau fod nifer dda erbyn hyn yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Y mae Môn wedi bod yn enwog am ei cherrig melinau. Yn yr un llyfr fe ddywedir:—

"According to Strabo and Posidonius, millstone quarries existed anciently in Magnesia (near Smyrna), in Macedonia, and in Britain at Mona or Anglesea. This latter place remained noted for its millstones through the middle ages. A Welsh millstone was bought for Dublin Castle Mills in 1334... The late keeper of these royal mills, Nicholas de Balscote, in his account rendered to the Irish Exchequer in March of that year, debits Edward II. with, among other things, a sum of 28/9 expended in a Welsh millstone."

Credir mai'r Rhufeiniaid a ddysgodd drigolion y wlad hon i ddefnyddio'r olwyn ddŵr. Mae'n debyg mai'r Norse Mill— sef yr horizontal—oedd y gyntaf. Gyda honno nid oedd yr un olwyn gocos. Yn unig yr oedd yr olwyn ddŵr wedi ei chysylltu â'r garreg uchaf gydag ecstro yn myned trwy'r isaf, ac felly araf iawn oedd ei throadau, ac ni falai lawer o sacheidiau mewn diwrnod. Dywedir nad oes olion yr un o'r math hwnnw wedi eu darganfod yng Nghymru, er y cred rhai fod y gair "rhod " yn profi y buont yno yn yr hen amser. Mae'n amhosibl gwybod pa bryd nac ymha le y rhoddodd yr olwyn ddŵr ei thro cyntaf yng Nghymru. Diau iddi beri syndod mawr.

Dywaid "Iolo Morgannwg"[3] mai "yn 340 y cafwyd y melinau wrth wynt a dŵr gyntaf yng Nghymru lle cyn hynny nid oedd amgen na melin law."

Ond credir bod yr olwyn ddŵr yno cyn hynny, ac mai ymhen tuag wyth can mlynedd ar ôl hynny y daeth y felin wynt yno. Nid oedd llawer o angen amdani hi yng Nghymru, gan fod yno ddigon o nentydd a disgyniad da i'r dŵr yn y rhan fwyaf o'r wlad. Credir mai o'r Dwyrain y daeth y syniad am y felin wynt.

Bu melinau yn cael eu gyrru gan lanw'r môr. Agorwyd un felly gyda rhwysg mawr yn Lerpwl yn 1796.

Dŵr a gwynt a fu'n malu holl flawd y wlad hon hyd 1784, pryd y dechreuwyd gyrru'r Albion Mills, Llundain, ag ager— y gyntaf yn yr holl wlad. Melid y cyfan gyda cherrig hyd nes y ddaeth y roller mill i fod. Ni wn pa un yw'r felin hynaf yng Nghymru. Yn adroddiad y Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments and Constructions in Wales and Monmouthshire, county of Merioneth, 1921, ceir a ganlyn:—

Melin y Brenin, the king's mill.

This mill, still in use, represents and probably occupies the site of the royal mill mentioned in the Extent of Merioneth of 7 Henry V.[4] It was the mill of the manor of Ystumgwern to which many of the tenants owed suit. The present buildings are comparatively modern, and do not appear to have incorporated any remains of their predecessors.

Dywedir bod yr hen felin sydd (neu oedd yn ddiweddar) o du isaf Castell Rhuthyn yn sefyll heb lawer o wahaniaeth ynddi, ond un ychwanegiad bychan, er amser Edward I.

GYRRU GWYDDAU

Cyn dyfod y trên ac yn amser y "goits fawr," byddai raid i bawb a phopeth ond y bobl fawr a'r ieir gerdded. Mynnent hwy gael eu cario bob amser. Yn ystod y cynhaeaf gwair gwelid y gwyddau yn pasio ar hyd y tyrpeg, trwy Gwm Eithin ar eu ffordd i Loegr, i sofla i'w paratoi eu hunain ar gyfer y Nadolig. Gofynnid am amynedd mawr i yrru gwyddau, gan mai cerddwyr araf ac afrosgo ydynt, a threuliant lawer o'u hamser i glegar yn lle mynd yn eu blaenau. Clywais yr arferid eu pedoli un amser trwy roddi eu traed mewn pyg rhag iddynt fyned i frifo, ond nis gallaf sicrhau. Cymerai ddyddiau iddynt deithio o Gwm Eithin i Loegr. Cofiaf yn dda hen wr o'r Ysbyty a arferai deithio gyda hwy trwy'r Cwm. Un tro, pan oeddwn yn torri gwair yn y ddôl ac yn meddwl cryn lawer ohonof fy hun fel torrwr gwair, rhoddodd ei bwys ar y wal a gwaeddodd arnaf: "Hoga'n lle torri'n hagar." Digiais yn fawr wrtho am fy sarhau felly. Nid gwyddau Cwm Eithin yn unig a welem yn pasio; deuent yn heidiau o Arfon ac efallai o Fôn hefyd, gan fod y brif ffordd o Gymru i Loegr yn myned trwodd.

Hen wraig bach yn gyru gwyddau ar hyd y nos,
O Langollen i Ddolgellau, ar hyd y nos
Ac yn d'wedyd wrth y llanciau,
Gyrwch chwi, mi ddaliaf finau,"
O Langollen i Ddolgellau,
Ar hyd y nos.

GYRRU GWARTHEG

Rhamant ddiddorol iawn yw hanes gyrru gwartheg. A chyn amser y trên, yn yr haf a'r hydref, gwelid hwy yn yrroedd yn pasio ar hyd y tyrpeg. Anfonid llawer o wartheg Cwm Eithin i Gaint i'w pesgi ar adnoddau y wlad fras honno ar gyfer marchnad Llundain. Felly yr oedd y daith yn faith a chymerai ddyddiau lawer i'w cherdded. Yr oedd lleoedd priodol ar y ffordd i aros dros y nos. Gwyddai'r hen yrwyr amdanynt yn dda.

Yr oedd porthmon o'r enw Mr. Clough yn byw yn Llandrillo ddechrau'r ganrif. Yr oedd ganddo gi hynod am ei fedr i yrru gwartheg. Byddai Mr. Clough yn mynd ar gefn ei ferlen o Lan- drillo i Gaint, a'i gi, 'Carlo,' yn ei ganlyn. Un tro pan oedd yng Nghaint, mynnai un o'i gwsmeriaid iddo werthu ei ferlen iddo. Ar ôl hir grefu gwerthodd hi, gan benderfynu mynd adre gyda'r "goits fawr." Ond beth oedd i'w wneud â 'Charlo'? Rhoddodd y cyfrwy ar ei gefn, a chlymodd nodyn wrtho yn gofyn i'r gwestwyr lle yr arferai alw roddi bwyd a gwely i 'Carlo,' a rhoi'r cyfrwy ar ei gefn a'i gychwyn yn ei flaen; a dywedodd wrth 'Carlo' am fynd adre. Felly yr aeth, gan alw ymhob gwesty yr arferai alw gyda'i feistr, a chyrhaeddodd Landrillo yn ddiogel â'r cyfrwy ar ei gefn wedi bod ar ei daith tuag wythnos.

Porthmon oedd Edward Morris, Perthi Llwydion, ac ar un o'i deithiau y bu farw yn Essex yn 1689. Gydag un o'r gyrroedd gwartheg yr aeth Dic Shôn Dafydd o Gerrig y Drudion i Lundain:—

"O'r diwedd Dic a ddaeth i Lunden
A'i drwyn o fewn llathen at gynffon llo,
Ar hyd y ffordd a'i bastwn onnen,
Yr oedd e'n gwaeddi— 'Haiptrw ho!'"

PEDOLI GWARTHEG

Mae carnau gwartheg yn feddalach na charnau ceffylau, ac ni allant gerdded ymhell ar ffordd galed heb gloffi. Oherwydd hynny arferid eu pedoli fel ceffylau, ond bod eu pedolau hwy yn ddau ddarn am eu bod yn hollti'r ewin, ac nid un darn fel pedol ceffyl, ac yr oeddynt yn llawer teneuach ac ysgafnach. Diwrnod hwyliog fyddai trannoeth y ffair mewn llawer llan a thref, pan fyddai dau gant neu dri o wartheg eisiau eu pedoli i gychwyn ar eu taith. Mae'n debyg pe gofynnid i un o ofaint ein dyddiau ni bedoli buwch mai pedol un darn a roddai iddi fel un ceffyl, a sodlau uchel fel sydd yn y ffasiwn gan y merched. Meddylier mewn difrif am i fuwch gerdded ar flaenau ei thraed o Gwm Eithin i Loegr!

Medi 8, 1921, cefais yr hanes a ganlyn gan Mr. Zachariah Jones, gof, Cynwyd, ac ef yn ŵr llawn pedwar ugain oed, am y dull a'r modd yr arferid pedoli gwartheg. Pan oedd Mr. Jones yn fachgen ieuanc gweithiai gyda gof yn y Bala, a arferai wneud llawer iawn o bedoli gwartheg, nid yn unig yn y Bala ond yn y trefydd cylchynol. Arferent wneud cannoedd o bedolau yn y gaeaf yn barod erbyn y deuai galw.

Wele ddiwrnod mawr ym myd pedoli gwartheg. Mae'n debyg mai record day y gelwid ef yn ein dyddiau ni. Un noswaith daeth gair i'r Bala fod trigain o wartheg eisiau eu pedoli yn Nolgellau drannoeth. Am dri o'r gloch bore drannoeth yr oedd pedwar o ddynion yn cychwyn am Ddolgellau er mwyn dechrau ar y gwaith mewn pryd. Yr oedd ganddynt faich o bedolau. Yr oedd eisiau pedwar cant a phedwar ugain o bedolau i drigain o wartheg, hoelion, morthwylion, cyllyll i naddu'r carnau, etc. Yr oedd y daith tua deunaw milltir. Cynhwysai'r pedwar ddau of, cwympwr—gŵr talgryf, esgyrniog a nerthol—a chynorthwywr. Fel y canlyn yr eid ymlaen gyda'r gwaith. Cymerai y cwympwr a'i gynorthwywr raff a thaflent hi am gyrn un o'r bustych, a dalient ef Gafaelai'r cwympwr yn ei ddau gorn. Gafaelai'r cynorthwywr yn un troed blaen iddo a chodai ef i fyny gan ei blygu yn y glin. Yna rhoddai'r cwympwr dro yn ei gyrn ac i lawr ag ef. A daliai ef i lawr tra byddai'r cynorthwywr yn clymu ei bedwar troed. Yna yr oedd ganddynt ddarn o haearn tua thair troedfedd o hyd, blaen ar un pen a fforch ar y pen arall iddo. Gyrrid ef i'r ddaear a rhoddid y cortyn oedd yn rhedeg o'r traed blaen i'r traed ôl ar y fforch. Yna byddai'n barod i'w bedoli. Ac âi un gof ymlaen gyda naddu carnau a deuai'r llall ar ei ôl i hoelio pedolau. Yna gollyngid yr eidion yn rhydd, a cheid ei weld yn cerdded yn ei esgidiau newyddion.

Dylid cofio un ffaith, nad deunawiaid a anfonid i lawr i Loegr yr oes honno fel yn ein dyddiau ni. Cedwid y bustych hyd nes byddent yn ddwyflwydd a hanner a thair blwydd oed, felly gwelir nad gwaith bach a hawdd oedd eu dal a'u taflu i lawr. Yn y lot uchod, meddai Mr. Jones, yr oedd eidion du anferth o Sir Fôn, a gwaith caled fu cael y rhaff am ei gyrn. A phan gaed hi gwylltiodd a rhuthrodd ôl a blaen, a llusgodd y ddau ddyn trwy'r afon; ond daliasant eu gafael a dygasant ef yn ôl, a'r diwedd fu i Sir Feirionnydd roddi Sir Fôn ar wastad ei gefn. Cerddodd y pedwar yn ôl i'r Bala yr un noswaith. Y swm a dderbyniai'r meistr am bedoli oedd deg ceiniog yr eidion.

Nid wyf yn meddwl bod dim gwell wedi ei gyhoeddi ar hanes gyrru gwartheg o Gymru i Loegr, y prynwyr a'r gyrwyr, nag erthygl y Dr. Caroline Skeel, M.A., a ymddangosodd yn Transactions of the Royal Historical Society, 1926, o dan yr enw The Cattle Trade between Wales and England from the Fifteenth to the Nineteenth Centuries." Yma gwelir yr anhawster a geid yn aml yn yr hen amser i gael y gwartheg Cymreig i farchnadoedd Lloegr, a'r prisiau bychain a geid amdanynt, fel y gwelir yn "Registers of Horse and Cattle Sales" trefydd fel Yr Amwythig. Am fustach tair oed yn yr unfed ganrif ar bymtheg a dechrau'r ail ar bymtheg, ni cheid yn aml fwy nag o bymtheg i ddeg swllt ar hugain, wedi ei yrru yr holl ffordd o gymoedd Cymru i Loegr.

Diau mai diddorol a newydd i lawer fydd y dyfyniadau a ganlyn yn dangos y modd y deuai gwartheg duon Môn i Gwm Eithin a mannau eraill cyn codi Pont Menai, a hanes y gyrrwr ar ei daith:

To Mr. Duignan's description of the route from North Wales may be added the details given in Aikin's valuable Journal of a Tour through North Wales in 1797. He was lucky enough to see some black cattle, reared in Anglesey, swimming across the Menai Strait on their way to Abergele fair, where they would be bought up by drovers and disposed of at Barnet fair to farmers in the neighbourhood who would fatten them for the London market. Many of the cattle while swimming across the strait were carried towards Beau- maris Bay; boats rowed after the stragglers and sometimes the boatmen threw ropes round their horns and towed them to the shore. From Abergele the cattle would probably go up the Clwyd valley, for there is an inn called the Drovers' Arms a mile or so north of Ruthin and near by is a field where cattle used to be thrown and shod. Thence they would make for the Old Chester Road. ********** Although the dealer and foreman drover and other senior drovers would put up at inns, occupying beds at prices ranging from 4d. to 6d. a night, the juniors would often sleep under hedges in the fields with the cattle. The pay of the drovers who took cattle from Haverfordwest to Ashford early in the nineteenth century was at the rate of 3s. per day plus a bonus of 6s. on being paid off at their destination. They supplemented their earnings by selling milk when near places of any size. After the cattle had been sold at Ashford, the dealers came back by coach and the drovers on foot. Every effort was made to avoid turnpike gates. When this was impossible, at some such gates one man used to carry another on his back so that only one person could be charged. No account of the Welsh drover must omit mention of the drover's dog.

Nodiadau[golygu]

  1. "Cefn" y gelwid "grwn" yng Nghwm Eithin.—H.E.
  2. History of Corn Milling, Bennett and Elton, 4 cyf., 1898—1904.
  3. Iolo Manuscripts, Liverpool, 1888
  4. 1393