Neidio i'r cynnwys

Cwm Eithin/Hen Ddiwydiannau, II

Oddi ar Wicidestun
Hen Ddiwydiannau, I Cwm Eithin

gan Hugh Evans, Lerpwl

Hen Ddiwydiannau, III


PENNOD IX

HEN DDIWYDIANNAU
II

YR oedd nifer o deilwriaid yn chwipio'r gath yn fy nghof i, ond y mae "Hiraethog" wedi anfarwoli'r teiliwr fel nad oes angen sôn amdano ef. Yr oedd yno ychydig o sadleriaid yn myned o gylch y ffermydd i drwsio gêr y ceffylau. Mae'r gwaith hwnnw i gyd yn cael ei anfon i'r siop yn y dref yn awr. Dywedir yr arferai'r cryddion chwipio'r gath yn yr hen amser, ond yr oedd yr arferiad wedi peidio ers talm. Ond yr oedd "mynd" ar waith y crydd. Cofiaf chwech yn gweithio yn yr un man yn un o bentrefi Cwm Eithin, a dyna gyrchfan llawer gyda'r nos. Dyna'r lle mwyaf difyr y bûm ynddo erioed oedd Tŷ Morus y crydd pan oedd Huw ei frawd, William ei nai, ac Evan y mab, James Watson a John Edwards yno. Y diweddaf oedd y prif wàg. Pan roech fesur eich traed addawai Morus y pâr i chwi ymhen y pythefnos; yna ymhen yr wythnos, ac felly am bump neu chwech o droeon. Ac nid siomiant i gyd fyddai cael eich siomi, oherwydd yr oedd yn esgus i gael myned i dŷ'r crydd i wrando straeon a hanes yr ardal drachefn, ac ni ddisgwyliech gael eich esgidiau hyd y pedwerydd neu y pumed tro. Ac os byddai'ch esgidiau yn gollwng dŵr byddai raid dangos eich traed gwlybion a dywedyd tipyn o'r drefn. Nid wyf yn sicr na fyddai ambell un yn cicio dwy neu dair o hoelion o flaenau'i esgidiau yn bur fuan ar ôl eu cael er mwyn esgus i fyned i dŷ'r crydd, ac ni fyddai raid talu am y rhai hynny os byddai'r esgidiau yn weddol newydd. Toc dechreuodd y "sgidiau pryn" ddyfod i'r ffeiriau, a gwerthid hwy ar y stondin; ac yr oeddynt yn costio ilai o'r hanner nag esgidiau Morus y crydd; ond edrych yn amheus a wnâi trigolion Cwm Eithin arnynt, a buan y deallwyd nado eddynt dda i ddim i'w gwisgo ar y tir. Prynai ambell un bâr at y Sul; esgidiau bob dydd a llawn o hoelion a'u hiro nos Sadwrn, a wisgem ni'r hogiau ar y Sul. Pâr o esgidiau pryn oedd y rhai cyntaf a gefais i ar y Sul. Prynais flacin, gan feddwl ymddangos yn bur daclus y Sul hwnnw, ond druan ohonof! Er rhwbio a brwsio, nid oedd dim sglein yn dyfod arnynt—yr oeddynt fel yspwng. Ond esgidiau pryn, neu esgidiau parod fel y'u gelwir hwy, sydd yn awr ym mhobman yn y Cwm; mae bron yn amhosibl cael neb i wneuthur pâr o waith llaw. O bymtheg swllt i ddeunaw swllt oedd pris Morus y crydd am bar o water tights.

Cyrchfan poblogaidd iawn oedd gefail y gof, fel y pery byd heddiw. Yno y ceid llawer o hwyl ac ysmaldod. Yn yr hon amser yr oedd gefail y nelar yn lle pwysig. Cofial nifer o nelars yn gweithio yn Llanaled, yn gwneuthur hoelion o bob math. Gŵr tew, byr, o osodiad cadarn, oedd Robert Nelar. Yr oedd dau neu dri yn gweithio gydag ef. Gweithio ar dasg y byddai'r nelars. Ni wn pa faint a gaent am wneuthur hoelion dwbl, a hoelion sengel, a hoelion sgidiau. Bûm yn nôl pwys o rai sengel a phwys o rai dwbwl lawer tro o siop Lias. Methaf yn lân â chofio pa faint y pwys a dalwn amdanynt. Ychydig o amser i ddal pen y stori a fyddai gan y nelar, oherwydd main oedd y darn haearn a ddefnyddiai ac ni chymerai fawr o ameri dwymno-dim tebyg i'r amser a gymerai i'r gof dwymno dwy hen bedol i wneuthur un. Heblaw hynny defnyddiai'r nelar ddas ddarn o haearn bob yn ail yn y tân ac ar yr einion, a byddai wrthi fel lladd nadroedd yn curo'r hoelen i'w llun priod, ei thorri wedi gadael un pen yn dew a'i rhoddi mewn twll yn yr einion bach a churo pen arni fel y gwynt. Bu'r Parchedig John Jones, Caernarfon, yno yn gwneuthur hoelion sengel, cyn tyfu'n hoelen wyth ei hunan.

Ar amaethyddiaeth a defaid a merliws y mynydd y dibynnai mwyafrif trigolion Cwm Eithin; ond yr oedd yno lawer mwy o ddiwydiannau nag y sydd yn awr. Mae llu ohonynt med myned i golli, byth i ddychwelyd, y mae lle i ofni, a'r unig rai sydd wedi dyfod yn eu lle, hyd y gwelaf, ydyw ffrio ham ac wyau i'r ymwelwyr, a gwerthu petrol. Fe fuasai yn well gen i ganwaith fyned i'r mynydd â chaniaid o laeth enwyn a chilcyn torth a lwmp o fenyn mewn blwch pren, i dorri mawn neu lafrwyn, na thendio ar y visitors, pe buaswn i yng Nghwm Eithin. Onid yw yn amser i'n harweinwyr ddeffro i ddatblygu rhyw ddiwydiannau yng Nghymru? Mae llechau pridd yr Almaen yn disodli llechi Arfon a Meirion, ac olew Rwsia ym disodli glo Cymru. Beth a fydd i weithiwr i'w wneud ym mhen hanner can mlynedd eto? Ni fydd ein gwlad ddim ond parlwr i gyfoethogion Lloegr. A beth a ddaw o'r Iaith Gymraeg wedyn?

Yr oedd hen ddiwydiannau eraill sydd wedi myned i golli a bron yn angof, a diau fod llu o drigolion ieuainc Cwm Eithin na chlywsant erioed sôn amdanynt, ac ni freuddwydiasant fod eu tadau mor fedrus gyda gwaith llaw. Wrth ddisgrifio'r diwydiannau hynny, caf gyfle i ddisgrifio ambell erfyn a fu mewn bri yn yr amser gynt, na welodd mwyafrif y to presennol erioed mo'i fath; neu os gwelsant ambell un yn llechu yn nhŷ'r gwŷdd neu gut yr arfau, mae'n debyg na wyddent ar y ddaear fawr i beth yr oeddynt da.

Yr oedd yno seiri coed a seiri cerrig; maent hwy yn aros eto, ac yn cael eu galw'n awr yn joiners, masons a stone-cutters. Yn adeg y trawsgyweiriad hwnnw y dechreuodd y crefftwyr wisgo coler wen i ddangos eu huchafiaeth ar y gwas ffarm. Nid wyf yn cofio'r slatar a'r plastrwr yn cael ei alw yn ddim arall, yr hyn a brawf mai newydd-ddyfodiad i Gwm Eithin oedd ef.

Gŵr pwysig hefyd oedd y llifiwr, yn enwedig yr un ar ben y pit. Mae'n syndod gymaint o ddiwydiannau oedd wedi eu crynhoi at ei gilydd mewn aml ardal sydd erbyn hyn wedi eu colli'n lân. Bûm yn holi fy niweddar frawd yng nghyfraith, Robert Roberts, Cynwyd, cofiadur pennaf yr ardaloedd (gŵr yr wyf yn ddyledus iddo am lawer iawn o hen hanesion sydd gennyf) am restr o ddiwydiannau coll cylch Cynwyd. Cefais y rhai a ganlyn ganddo yn awr ac eilwaith, ac ysgrifennais hwy mor agos ag y gallwn gofio fel yr adroddai ef hwy.

MAELIERWR

Yr oedd nifer o wŷr ar hyd y wlad yn yr hen amser yn gwerthu nwyddau. Nid wyf yn sicr a arferid yr enw' maelierwr am rai yn gwerthu unrhyw nwyddau, ynteu a gyfyngid ef i rai oedd yn gwerthu ŷd a blawd. Yr oedd gwr o'r enw David Williams, yn byw yn hen gartref fy mhriod, ac yn hynod iawn o'r un enw a'i thad, ond nid wyf yn meddwl fod unrhyw berthynas rhyngthynt, a elwid yn faelierwr[1]. Ei waith ef oedd prynu ŷd, ceirch fel rheol, i'w droi'n flawd a'i werthu. Arferai fyned i'r marchnadoedd i brynu a gwerthu. Beti oedd enw ei wraig. Byddai llawer iawn o'i hamser yn myned i drwsio sachau, ac arferai rincian llawer oherwydd bod y llygod yn tyllu'r sachau yn ddibaid. Yr adeg honno yr oedd raid cael licence i faelera. Yr oedd gan Dafydd Williams un; rhoddodd hi mewn jar ar y walbant i gadw. Cafodd y llygod afael ynddi a bwytasant hi er siomiant i Dafydd Williams; ond oherwydd ei fod yn ŵr llygadgraff, gwnaeth y defnydd gorau a fedrai o'i anlwc. Aeth at Beti a dywedodd, Weldi, dwyt ti ddim i rincian dim chwaneg am fod y llygod yn torri tyllau yn y sachau, mae ganddy'n nhw lisens i wneud yrwan." Arferai Dafydd Williams fyned i'r Bala bob dydd Sadwrn.

Mae'n debyg fod y Bala yn lle pur enwog am flawd a cheirch. Dywaid y pennill:

Mae yn y Bala flawd ar werth
Ym Mawddwy berth i lechu;
Mae yn Llyn Tegid ddŵr a gro,
A gefail go i bedoli;
Ac yng Nghastell Dinas Brân
Ddwy ffynnon lân i molchi."[2]


FFELTIWR—Gwneuthurwr hetiau

Mewn llawer ardal ceir bwthyn a elwir Tŷ'r Ffeltiwr. Yr oedd un felly o'r tu ucha i Gapel Salem ym mhlwyf Llangar. Ty'n y Wern oedd ei enw cyntefig, ond pan gymerwyd meddiant ohono gan y ffeltiwr cymerodd ei enw oddi wrtho ef. Gwelais hen furddyn yn aros.

Yr oedd Robert Roberts yn cofio dau frawd, Evan Williams, hen lanc, a'i frawd William Williams a'i briod, yn gwneuthur hetiau ffelt yn y tŷ uchod. Âi William a'i briod i'r ffeiriau a'r marchnadoedd yn y cylch i'w gwerthu. Gan y ffeltwyr uchod y cafodd yr het gyntaf a fu ganddo. Un gron, lwyd oedd, a pharhaodd am hir, ond cyfarfu â'i diwedd trwy i'r gwynt ei chwythu dros bont Cynwyd i'r afon.

LLINDY

Safai'r Llindy yn agos i'r lle mae'r Pandy yn awr. Yno y trinid y llin i'w wneuthur yn edafedd yn barod i'w nyddu, a'i weu yn gymysg â gwlân i wneuthur brethyn nerpan, a ddefnyddid i wneuthur dillad milwyr.

SAER GWELLT (Straw joiner)

Cofiai John Lloyd, Tŷ'n y Berth, a fu farw ddeugain mlynedd yn ôl yn bedwar ugain oed, felly wedi ei eni ddechrau'r ganrif, ewythr iddo ef o'r enw William Stephenson, yn byw yn y Gwastad, tŷ a safai o'r tu uchaf i Hafod Bleddyn, yn masnachu fel saer gwellt. Gwnai goleri hesg (i geffylau wrth gwrs, nid i'r dynion na'r merched), cadeiriau gwellt, a chychod gwenyn.

TURNAL (Turner), neu saer gwyn

Gwaith y turnal oedd gwneuthur llestri llaeth, y trwnsiwr 'menyn, y scimer, noe, cawgiau, y gwpan glust, llwyau preniau, y printar—offeryn i farcio'r pwys menyn fel y gellid ei adnabod oddi wrth ei nod. A diau mai oddi wrtho ef y cafodd y brinten ei henw. Y saer gwyn diweddaf yn yr ardal oedd John Jones, yn byw ym mhen y Geulan, brawd i'r Dr. Arthur Jones, Bangor, gweinidog enwog gyda'r Annibynwyr.

CWPER

Gwneuthurwr tybiau 'menyn, y gunog odro, y cawsellt,etc., oedd y cwper. Un darn oedd llestri y saer gwyn, wedi eu turnio a'u cafnio â'i gyllell gam. Gwneid llestri'r cwper o nifer o ystyllod a chylch o bren neu haearn yn eu dal wrth ei gilydd. Y diweddaf yn yr ardal oedd un o'r enw Thomas Roberts, hen ŵr dipyn yn chwyrn. Adroddir hanesyn doniol amdano ef a'r Parch. Samuel Jones, Clawdd Newydd. Bu Samuel Jones yn byw unwaith yn Nhŷ'n Celyn, Cynwyd. Yr adeg honno yr oedd wedi pechu yn erbyn yr hen ŵr, ac ni thorrai Gymraeg ag ef. Un tro pan oedd Samuel Jones wedi dyfod o Glawdd Newydd i bregethu i Gynwyd, dywedodd wrth ei hen gyfaill William Williams, y Pandy, "'Da i ddim i'r ysgol y prynhawn yma. Tyd hefo fi i weled rhai o'r hen gyfeillion sydd yn wael." Yr adeg honno yr oedd Thomas Roberts yn wael iawn. Mynnodd Samuel Jones fyned i'w weled, er i William Williams wneuthur ei orau i'w berswadio i beidio, am y gwyddai nad oedd yn dda rhwng y ddau. Pan aethant i'r tŷ a chyfarch gwell i'r hen wraig, holi am yr hen ŵr, dywedodd Samuel Jones yr hoffai gael ei weld, ond gwrthwynebai'r hen wraig am yr ofnai'r canlyniad, ond fe wthiodd Samuel Jones heibio iddi i'r siamber, a dyma'r ymddiddan a fu rhyngddynt:-S.J., "Sut yr ydach chwi, Thomas bach?" "Gwael iawn," ebe'r hen ŵr. Wel, mae'n ddrwg iawn gini glywed; ydach chi yn fy nabod i, Thomas?" Nac ydw, yn nabod dim ohonoch chi." 'Wel, wel, drwg iawn, drwg iawn. Ydach chi yn nabod Iesu Grist, Thomas?" Ydw; mae O yn llawer haws i'w nabod na chi."

TOI

Yr oedd yno hil o dowyr—hynny yw, dynion a fedrai doi tŷ to gwellt fel na ddeuai defnyn o ddefni trwyddo; nid ystyrid hwy yn grefftwyr, ac ni welais yr un ohonynt hwy erioed yn gwisgo coler wen, hyd yn oed ar y Sul. Er hynny, yr oedd toi tŷ â gwellt, i ddal dŵr, yn llawer mwy o gamp na thoi tŷ â llechau. Credaf y gallwn i dorri dau dwll mewn llechen a'i hoelio a gwneuthur to i ddal dŵr. Er y medrwn doi tas wair neu das ŷd â gwellt i ddal yn eitha, methais yn lân â rhwystro'r defni trwy do yr hen gartre er treio droeon. Bûm yn tynnu to i Thomas Jones y towr ac yn ei wylied yn fanwl. Gyda llaw, nid gwaith y medr pawb ei wneuthur yw tynnu to. Rhaid gafael yn nau ben y tusw o wellt a'i dynnu, ei osod yn ôl gyda'i gilydd, a'i dynnu dro ar ôl tro, ac yn y diwedd gafael yn un pen iddo a gwneuthur crib gyda bysedd y llaw arall a'u tynnu trwyddo, a gofalu na byddai'r un gwelltyn wedi ei blygu i gario y dŵr i'r to yn lle i'r gwelltyn nesaf; fel y gallai hwnnw ei gario drachefn tua'r bargod, yn lle ei gario i mewn i'r to.

Byddai raid i'r tynnwr to ofalu fod ganddo ddigon wrth ei gefn erbyn y clywai y gair "To!" yn dispedain ar ei glustiau. Nid llawer o amynedd i ddisgwyl a feddai'r towr, ac os deallai'r meistr fod y gwas yn ei gadw i sefyll ac yntau'n talu cyflog mawr efallai o naw swllt neu ddeg yr wythnos—nid esmwyth iawn fyddai ei le. Rhoddai y towr ei ysgol ar y to o fewn dwy i dair troedfedd yn ôl hyd ei fraich i'r talcen ar ei dde. Gelwid y darn hwnnw yn wanaf. Cymerai erfyn yn ei law a elwid topren, darn o bren, oddeutu deunaw modfedd o hyd, a mesen ar ei ben fel ar goes rhaw. Lledai yn ei ganol, yn denau a fflat yn debyg i rwyf, ond bod ei flaen yn culhâu. Gwneid bwlch yn ei flaen fel V, a thipyn o gamder yn ei ganol fel y rhedai yr un ffordd â'r to tra gallai'r towr ddal ei law ychydig uwchlaw. Cymerai y towr dopyn yn ei law dde. Wedi rhoi tro tebyg i gwlwm yn un pen iddo, â'i law chwith codai gynffon yr hen do yr ochr bellaf oddi wrtho; yna rhoddai flaen y topren ym mhen y topyn a gwthiai ef i mewn i'r to nes bod tua'r hanner o'r golwg oddi tan yr hen do. Yna un arall drachefn a thrachefn hyd nes cyrraedd yr ysgol yn ei ymyl. Yna symudai ychydig yn uwch i fyny, ac felly hyd nes y cyrhaeddai'r grib, pryd y byddai raid dyfod i lawr i symud yr ysgol, pan gâi y tynnwr ei wynt am funud.

Ar ôl gorffen toi, yrwan ac yn y man byddai eisiau adnewyddu y tywyrch trum, a roddid ar y grib. Mesurai y dywarchen tua phump wrth dair troedfedd. Gosodid hwy yn union yr un dull ag y gosodir tiles ar grib tai yn awr, ond eu bod yn llawer llaesach—tua dwy droedfedd i lawr y to bob ochr. Felly heblaw cadw'r defni allan, cadwent y to rhag i'r gwynt ei chwalu. Tipyn o gamp oedd torri tywarchen drum o'r maint a nodwyd heb dwll ynddi, a'r un dewdwr ym mhob rhan. Yn gyntaf yr oedd yn rhaid cael tir pwrpasol—hen dir gwydn, ffridd, neu fynydd heb erioed ei droi os gellid ei gael; gwelltglas yn debyg i wair rhosydd a'i wreiddiau wedi ymglymu drwy ei gilydd ac yn ddwfn yn y croen, a hwnnw cyn wytned bron â'r lledr a ddefnyddir yn awr i wadnu esgidiau. I wneuthur y gwaith yn iawn, rhaid oedd cael erfyn pwrpasol. Gwelais rai yn eu torri gyda rhaw neu raw bâl; ond yr erfyn iawn oedd yr haearn clwt. Meddai goes hir; mesen ar ei dop; tipyn o gamder ynddo; y pen, neu'r haearn heb fod yn annhebyg iawn i ben rhaw gul, ond bod ei flaen yn debyg i V, a min fel cyllell o bob tu iddo. Torrid ochrau a dau dalcen y dywarchen yn gyntaf, yna dechreuid gwthio'r haearn dan un pen, a throid y dywarchen i fyny, a rholid hi yn gorn yn debyg i ròl llyfr; yna llinyn o amgylch pob pen iddi ac i ben y tŷ â hi lle'r agorid rhôl y dywarchen.

MWSOGLU

Crefft arall oedd yno sydd wedi llwyr ddarfod bellach, mi gredaf, oedd mwsoglu. Yr oedd llawer o'r hen dai wedi eu hadeiladu heb forter—tyllau yn y muriau, a'r to heb ei deirio, os llechau a fyddai, ac felly yn oerion iawn. Anfonid am y mwsoglwr cyn dechrau'r gaeaf. Ai yntau i'r mynydd i hel mwswg, lle y câi beth hir a gwydn; ac yna gyda darnau bychain o haearn tebyg i gynion ac o wahanol dewdwr, gwthiai'r mwsogl i'r tyllau gan ei guro'n galed gyda gordd fechan, yn union fel y gwneir bwrdd llong gyda charth. Os nad wyf yn camgofio, yn y Mynydd Main y dywedai Thomas Jones, Llidiart y Gwartheg, yr oedd y mwsogl gorau i'w gael at y gwaith.

GWTHIO

Gwaith arall â mynd arno oedd gwthio rhannau o'r mynydd. Yr oedd y tyddynwyr yn cael y mynydd yr adeg honno bron yn ddi-rent, a mynyddoedd isel oedd rhai Cwm Eithin. A daeth y tyddynwyr i ddeall, ond ei droi, y ceid cnydau da o geirch. Gwelais geirch dros fy mhen ar rannau o'r mynydd, llawer gwell nag a geid ar y gwaelodion yn aml. Ond sut i'w droi oedd y gamp, oherwydd yr oedd ei groen cyn wytned â gwden helyg; nid oedd aradr yn y lle yn ddigon cref i'w droi, na llanc a allai ei dal, na cheffylau a allai ei thynnu. Er y dywedir mai ar bennau'r bryniau yr oedd ein cyndadau yn byw, ac y gwelir rhych a chefn mewn aml fan, ac er mai coedwigoedd oedd y gwaelodion, cafodd y mynyddoedd ddigon o amser i fagu croen pur dew cyn ein hamser ni. Gan hynny, rhaid oedd gwthio'r mynydd cyn ei droi. Yr oedd pen yr haearn gwthio yn fflat, rhywbeth yn debyg i ben yr haearn clwt, a min da arno. Rhaid oedd ei hogi yn aml. Ar ochr y llaw chwith iddo yr oedd yr ymyl yn troi i fyny, a min arni i dorri ochr y gwthin neu'r dywarchen yn rhydd, fel y tyr cwlltwr aradr ochr y gŵys. Yr oedd coes hir iddo o bump i chwe throedfedd o hyd, a chamder ynddi yn debyg i goes rhaw. Ar ei ben yr oedd mesen hir o ddeg i bymtheng modfedd. Byddai gan y gwthiwr ddarn o ledr ar ei glun, ac â'i glun a'i ddwylo y gwthiai yr haearn nes torri'r dywarchen. Ar ôl ei thorri o hyd neilltuol, wrth gydio ag un llaw ymhob pen i'r fesen, troai y gwthiwr y dywarchen y tu chwith i fyny i ochr y llaw dde, yn union fel y troir cŵys. Am ei lun gwêl Rhif 1, tudalen 106.

Ar ôl i'r gwthin sychu llosgid hwy. Âi y trowr â'r wedd a'r aradr yno ddechrau'r gaeaf, a byddai'n barod i hau ceirch ynddo yn y gwanwyn, a cheid cnwd da o geirch fel rheol y cynhaeaf dilynol, ac am ychydig flynyddoedd wedyn, tra y parhâi'r adnoddau yr oedd y mynydd wedi eu casglu yn ystod oesoedd o segurdod a dim ond defaid yn ei bori. Ond cyn hir iawn, fe gymerodd yn ei ben i gnydio llai lai, ond daliodd i roddi cnydau pur dda am ddigon o amser i'r tirfeddianwyr godi'r rhenti. Caniataodd y tirfeddianwyr i'r tyddynwyr drin y mynydd ar eu cost eu hunain, a chodasant y rhenti; a rhwng y cwbl llethwyd aml ffarmwr, ac yn y diwedd yr oedd y rhai a driniodd y mynydd yn waeth allan na'r rhai a'i gadawodd yn borfa defaid. Mae'n debyg yr âi tir bras America yn dlawd mewn amser heb wrtaith, oni bai fod digon ohono i beidio â gofyn iddo gnydio ond bob yn ail blwyddyn.

Ystyrid gwthio y gwaith caletaf yng Nghwm Eithin. Gwneid ef fel rheol ddechrau haf. Telid amdano wrth y rhwd, a byddai'r gwthiwr yn cyrraedd y mynydd yn fore iawn, â chaniaid o siot neu ganiaid o laeth enwyn, a bara chaws, a gweithio'n galed hyd yr hwyr. Gweithiwr caled oedd pob gwthiwr, oherwydd fe ofalai pob diogyn na ddysgai ef sut i wthio. Gwelais yn un o lyfrau cyfrifon fy nhaid am 1815 gytundeb a wnaed â gŵr, o'r enw Thomas Williams, i wthio ffridd y Garreg Fawr Syrior am un swllt ar bymtheg yr acer fel y gwelir. wn pa faint o amser a gymerai i flingo acer o fynydd; dwy i dair wythnos mae'n debyg.

TORRI MAWN

Torrid y mawn ddechrau haf gan y dynion, a chodid hwy gan y plant a'r merched yn sypiau, â lle i'r gwynt fyned rhyngddynt i'w sychu, a cherrid hwy adref i'r tŷ mawn, neu eu gwneuthur yn deisi rhwng y ddau gynhaeaf, a hefyd ar ôl y cynhaeaf yd. Yr oedd yr haearn mawn yn erfyn pwrpasol at y gwaith, ac ni ddefnyddid ef i ddim arall. Torrid y mawn yn sgwâr fel brics, a thorrai'r haearn ddwy ochr ar unwaith. Dechreuid yn un pen, ac ar ôl torri'r fawnen gyntaf ar ddwywaith, eid ymlaen ar hyd y rhes gan daflu'r mawn i'r lan gyda'r haearn. Gweithid y pyllau yn stepiau fel y gweithir Chwarel y Penrhyn, a lle'r oedd digonedd o fawndir yr oedd rhai ohonynt yn bur ddwfn. Syrthiodd aml un iddynt, fel Dic Siôn Dafydd ac Aer y Pyllau. Mae stori Dic yn ddigon hysbys. Am Aer y Pyllau, un meddw oedd o. Un tro pan oedd yr hen Roberts y Botegir yn dyfod adref o Ruthyn yn y nos, clywai weiddi mawr o bwll mawnog rhwng y Clawdd Newydd a'r Botreyal am help i ddyfod allan. "Pwy sydd yna ?" ebe'r hen foneddwr. "Aer y Pyllau," ebe'r llais. "O, yr ydych chwi wedi cyrraedd adre felly!" ebe'r hen Roberts, "nos dawch." Gweler llun yr Haearn Torri Mawn, Rhif 3, tudalen 106.

Arferai rhai ddywedyd nad oedd gwaelod i'r gors yr enwir "Glan y Gors" oddi wrthi, ac a adweinir ar lafar gwlad fel Cors Pant Dedwydd. Pan oedd y Saeson yn gwneuthur ffordd o Lundain i Gaergybi trwy'r gors honno ofnent yn fawr rhag cael eu llyncu, a buont wrthi am amser maith yn cario coed a cherrig i geisio rhoi gwaelod i'r ffordd; ond llyncai'r hen gors y cyfan. Er iddynt lwyddo i gael ffordd teimlir hi yn siglo wrth fyned trosti, ac y mae y gwaliau a wnaed gyda'i hochrau bron a myned o'r golwg. Hwyrach y bu'r lle yn llyn un amser.

TORRI CLYTIAU A THALPIAU

Torrid llawer o glytiau mewn mannau lle nad oedd nemor o fawndir. Torrid hwy o'r croen ar fynydd tenau ei ddyfnder, a chan eu bod yn llawn o wreiddiau wedi marw, ac felly'n haen denau o fawn, llosgent yn dân gwresog. Torrid hwy, ar siâp teils a roddir ar y lloriau, gyda'r haearn clwt a ddisgrifiais wrth sôn am dywyrch trum. Yr oedd talpiau yn cael eu torri ychydig

yn dewach. Hwy oedd y ddolen gydiol rhwng y clytiau a'r mawn.

TORRI CERRIG

Gwaith pwysig iawn yn yr amser gynt oedd torri cerrig ar y ffordd. Yr oedd nifer o hen frodyr diddorol iawn yn torri cerrig ar y tyrpeg sydd yn rhedeg drwy Gwm Eithin, a rhai ar y ffyrdd croesion. Pan fydd ar ambell bregethwr eisiau rhoi disgrifiad o hen sant duwiol tlawd a hynod o ddiniwed, cyfeiria yn aml ato fel hen dorrwr cerrig ar y ffordd. Ond fe adnabûm i aml dorrwr cerrig â mwy yn ei ben yn ogystal a mwy yn ei galon nag ambell bregethwr a gwrddais. A fuoch chwi yn gofyn i un

ohonynt unrhyw dro pan fyddech yn cychwyn ar daith, "Gawn ni ddiwrnod braf heddiw, William ?" na fedrai broffwydo yn hollol gywir fel y canlyn: "Cawn, mi gawn ddiwrnod braf heddiw; ond feallai y taflith hi ychydig o gafodydd." Pa fodd y gallech argyhoeddi un felly, wrth ddychwelyd, ei fod wedi eich camarwain?

Cyn y gallai dyn ennill ei damaid wrth falu cerrig yr oedd yn gofyn llawer o ymarferiad a llygad craff iawn. Yn torri cerrig ar y ffordd yr wyf fi yn cofio'r hen Robert Roberts, Gwernau. Bûm lawer yn ei gwmni. Gwelech ef wrth eistedd ar dwr cerrig yn ei gwman wedi camu cymaint fel y gallasech feddwl, wrth edrych ar ei ochr, mai sgwâr fawr yn perthyn i un o'r seiri oedd. Er yn agos iawn i'r pedwar ugain a'i nerth wedi pallu, nid oedd un o'r dynion ieuainc cyhyrog a nerthol a allai dorri cymaint o gerrig ag ef. Yr oedd yn hen ffasiwn iawn. Byddai ganddo dair neu bedair o gerrig ar ffurf pen dafad fel rheol o'i gwmpas. Byddai gweddi yn pasio ar hyd y tyrpeg trwy gydol y dydd—amryw ohonynt o'r mân gymoedd o ganol y mynyddoedd. Gyda hwy byddai llanciau mawrion cryfion—cewri o ddynion, ac yn meddwl llawer o'u nerth; ac wrth weld gordd haearn fawr yr hen Robert, awyddent yn aml am roddi prawf o'u nerth, a stopient y wedd i ddangos i'r hen ŵr sut i dorri cerrig. Bûm yn eu gwylio lawer gwaith. Estynnai yntau un o'r cerrig pen defaid iddynt, a dyna lle byddai dyrnu a dyrnu gyda'r ordd fawr nes y byddai'r ffordd yn crynu dan eich traed. Ond cyn hir byddent wedi llwyr ddiffygio a cholli eu gwynt, ac yn dywedyd, "Rhaid i ni fynd," wedi methu â thorri'r garreg. Edrychai'r hen wr ym myw eu llygaid. Cymerai afael yn y garreg. Gosodai hi i eistedd ynghanol y twr, a chyda rhyw forthwyl bach tua phwys na chodai'n uwch na'i ben, tarawai hi yn ei thrwyn nes byddai yn hollti'n ddarnau, yr hyn a barai i un o feibion Anac edrych cyn wirioned â chut llo. Fel y canlyn y canodd Einion Ddu "i'r Dyn ar y Swp Ceryg:[3]

Cnoc, cnoc roddai'r dyn
Ar ryw gareg fawr ddi—lun;
Er y curo, methai'n lân
Gael o honi ddarnau mân:

Dal i guro wna drwy gur,
A dal ati fel y dur:
Dichon o dan bwys yr ordd
Y daw'n gymwys balmant ffordd.

Cnoc, cnoc roddai'r dyn
Gyda'i forthwyl wrtho'i hun;
Dal i guro mae o hyd,
Fel pe b'ai am ddryllio'r byd;
Cyn y tröa ef ei gefn,
Daw â'r ceryg oll i drefn;
Wrth ddal ati amser maith,
Daeth yn feistr ar ei waith.

Nodiadau

[golygu]
  1. Maelierwr, o'r gair maelera, cymharer maelfa.
  2. Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog, 1898.
  3. Caneuon y Bwthyn, gan Einion Ddu (John Davies), Dolgellau, 1878.