Cwm Eithin/Hen Ddiwydiannau, I

Oddi ar Wicidestun
Rhannu'r Mynydd Cwm Eithin

gan Hugh Evans, Lerpwl

Hen Ddiwydiannau, II


PENNOD VIII

HEN DDIWYDIANNAU
I

YN yr hen amser oedd tyddynnwr yn cynhyrchu digon ar gyfer ei holl angenrheidiau ef a'i deulu bron ar ei dyddyn ei hun—ei fwyd, a'i ddillad, a'i esgidiau. Gallai baratoi crwyn yr anifeiliaid a laddai i wneud esgidiau, a'r adeg honno byddai'r crydd yn chwipio'r gath fel y teiliwr. Ac yr oedd y cwbl o'i fwyd yn tyfu ar y tir, a'i holl ddillad yn cael eu gwneud o'i lin a gwlân ei ddefaid.

Ni wn ond y nesaf peth i ddim am ledr a'i wneuthuriad, er bod un barcdy yng Nghwm Eithin yn fy nghof i, ond y mae swyn neilltuol i mi yn "nefaid mân y mynydd " a'u gwlân, y defnydd a wneid ohono, a'r modd y trinid ef yn yr hen amser gynt. A chan ei fod wedi bod yn brif ddiwydiant Cymru am oesoedd, ni fyddai hanes bywyd gwledig Cwm Eithin, lle y mae miliynau o ddefaid wedi byw, agos yn gyflawn heb ddisgrifiad pur fanwl o'r dull a'r modd y trinid y gwlân yno.

Pa mor hen yw y diwydiant gwneud brethyn a gwlanen yng Nghymru, mae'n anodd iawn dywedyd, na pha fodd y gweithid ef ar y cyntaf. Diau mai digon garw ac anghelfydd ydoedd. Anodd hefyd gwybod o ba le y daeth y gelfyddyd i'r wlad hon.

Dywaid Dr. Caroline Skeel, mewn erthygl ar y " Welsh Woollen Industry in the Sixteenth and Seventeenth Centuries," yn Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr, 1922, "In the fourteenth century Fulling Mills were introduced, and cloth began to be woven on a considerable scale." Amlwg y bu adfywiad ar y fasnach ar yr adeg honno. Ond yr oedd brethyn a gwlanen yn cael eu gwneud oesoedd cyn hynny. A gorffennid trwy fyned ag ef i lan yr afon i'w sgwrio. Ond y mae'n amlwg na chadwodd pandai Cymru eu safle, a dywedwyd wrthyf gan un a fu yn y fasnach yn hir, mai dyna'r rheswm i'r fasnach ddiflannu o Gymru lle y dylasai flodeuo yn anad unman.

Mewn erthygl yn Archaeologia Cambrensis, Mehefin, 1924, "The Welsh Woollen Industry in the eighteenth and nineteenth Centuries," rhydd Dr. Caroline Skeel restr o'r trefi a'r dinasoedd lle y gwerthid y brethynnau Cymreig, ac enwa nifer o wledydd tramor yr anfonid llawer iddynt, a'r symiau mawr o arian a ddeuai i Gymru yn gyfnewid amdanynt, a dilyn ddiflaniad y fasnach o Gymru. Meddai am un dref, "In 1873, Machynlleth had twelve flannel and fine yarn manufacturers, and four mill wool carders, but in 1913 had none."

Yn yr Archaeologia Cambrensis am 1915, cyhoeddodd y diweddar Canghellor J. Fisher, D.Litt., gynnwys llawysgrif sydd yn Llyfrgell Rydd Caerdydd (MS 50), a rydd gryn dipyn o oleuni ar hanes cardio, nyddu, a gweu yng Nghymru. Gelwir yr ysgrif Wales in the time of Elizabeth. Dywaid y Canghellor nad yw'n ymddangos i'r llawysgrif gael ei chyhoeddi o'r blaen, nac i unrhyw ddefnydd gael ei wneud ohono. Ymddengys mai ysgrifau heb fod yn unffurf o ran maint a llawysgrifen ydynt, wedi eu hysgrifennu ran yn Gymraeg, a rhan yn Saesneg, ac ychydig mewn Lladin. Nid oes dim i ddangos pwy oedd yr awdur na'i gopïwr. Credir iddynt gael eu cyfansoddi yn amser teyrnasiad Elizabeth, gan Gymro twymgalon a gymerai ddiddordeb mawr yn natblygiad diwydiant ymysg y werin. Cwyna yn erbyn "The Act of the Union 1535," ac y mae yn trafod nifer o gwestiynau ar dirddaliadaeth, etc.

Yna a ymlaen i sylwi ar anwybodaeth, tlodi, prinder gwaith, a diffyg cynhaliaeth y werin, ac fel yr oedd hynny'n achosi mân ladradau ac anesmwythyd yn eu mysg. Y feddyginiaeth y dadleua drosti yw addysg rydd a rhad, ac i'r Frenhines a'i Llywodraeth roddi swm o arian yn nwylo rhywrai cyfrifol i brynu gwlân, fel y gallai'r tlodion ei gardio a'i weu yn eu tai ac ennill bywoliaeth; ac y talai hynny lawer gwaith drosodd i'w Mawrhydi trwy ychwanegu at adnoddau'r wlad i dalu trethi, a thrwy ehangu gwybodaeth y trigolion a'u gwneud yn ddeiliaid ffyddlon i'r Goron.

Pan ddadlau dros addysg rydd, dywaid:

"ffor within the greate Circute and p'cinct of Wales J knowe neyther colledge nor ffree schoole neyther any Bisshop or Prelate, wch with his authority or ffatherly love offereth one Prebend to a foundatyon, no nor the ffee fferme of any one Prebend: And that wch ys muche less, doo once moove yt by his godly perswasyon of the people. Wherof they mighte fynde a Nomber very conformable to charge theyre Landes for that purpose: Yet can the Bisshopps and Prelacy of Wales winck and holde themselves contented, that the Queenes Highnes ys defrauded in her first ffrutes and Tenthes, in that theyre Beneffices bee vnder—vallewed) to a Thowsand Marcks by yeare: Wherof, for my parte, J make lesse Conscyence, synce the Lawes have graunted and establisshed the same vpon the Crowne."

Ond gan mai'r hen ddiwydiant gweu sydd dan sylw, gadawn yr hyn a ddywaid am addysg. Teimlai'r awdur yn ddwys dros ei gydgenedl; gwelai fod diffyg gwaith a moddion cynhaliaeth yn gweithio o dan gymeriad y werin dlawd. Cred fod Cymru fel gwlad wedi ei bwriadu i fagu defaid. Enwa'r gwahanol siroedd lle y ceir mynyddoedd ac ucheldiroedd. Dywaid fod yno ddigon o afonydd lle y ceid dwfr ar gyfer y fulling mills, a digon o fawn yn danwydd. Dywaid fod digon o drefi heb fod ymhell y gellid gwerthu'r brethyn a'r wlanen wedi eu gorffen. Credai y byddai'r Cymry yn falch o gyfle i ennill bywoliaeth, a chredai fod Duw wedi bwriadu i'r Cymry ennill eu bara yn y ffordd hon. Meddai:

"And (to declare the Trouthe) Noo people gladder to gayne J thincke and iudge that God and Nature hathe appoynted thinhabitants of those partes to lyve by Cloathing onely."

"And to conclude, by Clothing onely the People of Wales are to bee enriched & broughte to Civility. To the attayning of the p'fectyon wherof, no thing wanteth but a convenyent Stock of Monney, to bee destributed amonge the pore of every the partes of Wales before rehearsed, at the oversighte of the honest and Substancyall parrysshioners theare: And for the bwyinge of wolle weekely, & delyvery therof to suche pore Spynners, and Carders, that now lyve Jdly, and p'ish for famyn. SEUEN THOWSAND POUNDES will supply the necessity of this matter, wthowte the wch Jmpossible yt ys, to attayne to the reformatyon of the Disorders before specifyed: A very smalle Some in Comparyson of the greate good, and godly sequele hoped thereby."

Ceir y nodiad a ganlyn gan y Canghellor:—

"There is no actual evidence, that we know of, that his scheme was taken up; and whether his recommendations had anything directly to do with the passing of an Act twenty-one years after the death of Elizabeth we are unable to say. At any rate, in the interval between the writing of the tract and the date of the Act, textile fabrics seem to have received very considerable impetus in Wales from some cause or other, as shown by the preamble. The Act was passed in 1623—4 (21 James 1, c. 9), and is intituled "An Act for the Free Trade of Welsh Cloths." The preamble reads :—

"Whereas the Trade of Making Welsh Cloths Cottons Frizes Linings and Plains[1] within the Principality and Dominion of Wales is and hath been of long Continuance, in the using and exercising whereof many Thousands of the poorer Sort of the Inhabitants there in precedent Ages have been set on work in Spinning Carding Weaving Frilling Cottoning and Shering whereby they (having free Liberty to sell them to whom and where they would), not only relieved and maintained themselves and their Families in good Sort, but also grew to such Wealth and Means of Living as they were thereby enabled to pay and Discharge all Duties Mizes Charges Subsidies and Taxations which were upon them imposed or rated in their several Counties Parishes and Places therein they dwelled for the Relief of the Poor and for the service of the King and the Commonwealth."

Yn yr hen amser nid oedd un math o beiriant i drin gwlân, i'w nyddu, na'i weu yn frethyn. Gwneid y cwbl â llaw. Y merched a'i triniai, yn gyntaf ei bigo, sef gwahanu'r gwlân garw oddi wrth y gwlân gorau, neu'r gwlân main, yna ei gribo, neu ei gardio i'w wneud yn rholiau oddeutu deunaw modfedd of hyd a thua thrwch bys. Dau ddarn o bren oedd y cardiau, a dannedd mân mân ar un ochr iddynt. Rhoddid y gwlân rhyngddynt a thynnid y naill grib ar draws y llall. Ar ôl hynny gwneid ef yn rholiau trwy roddi ychydig o wlân rhwng cefnau y ddau grib a'i rolio ôl a blaen. Wele ddarlun o'r fainc gardio ar y tudalen nesaf.

Ond erbyn fy amser i yr oedd y ffatrïoedd yn gweithio'r gwlân ymhob ardal, a throid hwynt gan olwyn ddŵr yn ddieithriad. Ni wn pa mor hen yw'r olwyn ddŵr yng Nghymru. Diau iddi gael ei defnyddio i falu blawd ymhell cyn ei defnyddio i drin gwlân. Pwy a all ddywedyd pa bryd yr adeiladwyd y ffatri wlân gyntaf yng Nghymru, ac ymha le? Diau iddi daflu llawer iawn allan o waith, oherwydd yr oedd cannoedd lawer, os nad miloedd, yn ennill eu bywoliaeth wrth gardio. Yr oedd masnach helaeth yn cael ei gwneud yn Lloegr a chyflog da am y gwaith. Cyfeiria Dr. Skeel at streic yn rhyw ran o Loegr ymysg y cardwyr tua diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg neu ddechrau yr ail ar bymtheg, yr hyn a ddengys eu bod yn bur lluosog ac yn meddu cryn ddylanwad


Ceid dwy neu dair o ffatrioedd ym mhob ardal. Yr oedd cryn nifer yng Nghwm Eithin. Digon amherffaith oedd y peiriannau yn fy nghof i—y chwalwr, a adnabyddid wrth ei enw clasurol y cythraul," a'r injan neu y rowlars i wneud y gwlân yn rholiau. Bûm lawer tro, wrth fyned â gwlân i'r ffatri, yn gwylio y rholiau yn dyfod allan o'r injan, ac yn disgyn i gafn o'r tu ôl iddi, cafn tebyg i'r dil a fyddai yn yr hen dai i ddal canhwyllau brwyn, ond ei fod yn fwy. Nid wyf yn cofio cardio yn y tai, gan fod y ffatri wedi ei ddisodli. Diau mai'r droell law a ddefnyddid yn y ffatri ar y cyntaf. Un werthyd oedd i honno, ond yr oedd y droell arall yn llawer o'r ffatrioedd yn fy nghof cyntaf i, sef y "Jinny." Gellid rhoddi pymtheg neu ugain gwerthyd ar honno i nyddu, ychydig yn llai i gordeddu. Ond y ffermwyr mwyaf yn unig oedd yn gallu talu am nyddu eu gwlân yn y ffatri. Parhaodd y tlodion i nyddu yn eu tai. Yr oedd aml droell fach yn chwyrnellu yng Nghwm Eithin pan fu'n rhaid i mi droi fy nghefn arno i ennill fy nhamaid. Ond rhai blynyddoedd cyn hynny yr oedd troell newydd arall wedi dyfod i'r wlad a elwir y Mule, a gellid rhoddi nifer mawr o werthydoedd ar honno—dri neu bedwar cant. Ac nid yn hir y bu'r droell fach cyn cael ei disodli, darfu nyddu yn y tai, a safodd y droell fach, a fu yn suo aml un o'm cyfoed i gysgu a'i chwyrnelliad mwyn.

Mae'n debyg mai'r adeg honno y daeth yr injan gardio a wnâi ryw ddwsin neu ddau o roliau ar unwaith, a rhai o'r hyd a fynnid, ugeiniau neu gannoedd o lathenni o hyd. Felly y gwneid i ffwrdd â'r gwaith o bisio rholiau. Am yr hen injan, yr oedd yn rhaid rhoi'r gwlân drwyddi ddwywaith, y tro cyntaf i'w gribo a'r eiltro i'w gardio; ond pan ddaeth y newydd nid oedd eisiau ond rhoi'r gwlân i mewn yn yr hen injan i'w gribo a cherrid ef ar strap i'r newydd i'w gardio, a deuai allan yn rholiau mawrion wrth y dwsin neu ddau o unrhyw hyd, a'r rholiau yn barod i'w rhoi ar y droell.

Y gwaith nesaf ar ôl cardio'r gwlân a'i wneud yn rholiau oedd nyddu. Gwaith cywrain iawn oedd nyddu; yr oedd yn rhaid i'r llygad fod yn gyflym a chraff i weled pan fyddai digon o dro, ac i nyddu'n wastad rhag i rannau fod yn fain a rhannau eraill yn braff, fel y gwelsoch ambell greadur dilun yn ceisio gwneud rhaff wellt neu wair, ac yn rhoi y bai ar y trowr. Nid oeddynt yn rhoddi graddau i ferched yng Nghymru'r adeg honno, onide, diau y buasai llawer un wedi cael un am nyddu a gweu. Yr oedd yn llawer anos i'w ddysgu na llawer o bethau y rhoddir gradd amdanynt yn awr.

Yr oedd dwy droell, sef y droell fach a yrrid y rhan amlaf â'r troed; a'r droell fawr fel yr oedd gan fy nain. Bûm yn ei gwylio yn nyddu ugeiniau o weithiau. Gwneid hon fel hyn. Yn gyntaf, yr oedd mainc fechan o tua dwy droedfedd o uchter a thair troed iddi; ar ei chanol yr oedd post tua dwy droedfedd o uchter, ac ecstro bychan yn ei dop. Yr oedd olwyn neu gant y droell wedi ei wneud yn hollol ar lun olwyn cerbyd, ond ei fod yn ysgafn iawn. Lled y cant neu y cylch oedd tua chwe modfedd a'i drwch tuag wythfed ran o fodfedd; yr oedd post arall a fforch yn ei dop ar un pen i'r fainc a thwll drwyddo. Gosodid y chwarfan yn y fforch, a gwthid y werthyd trwy'r twll yn y fforch a thrwy y chwarfan. Yna gwneid strap neu felt o edau wlân, wedi ei gordeddu i fyned o amgylch y cylch a'r chwarfan. Troid y cant â'r llaw trwy roddi bys rhwng yr edyn. Gan fod y cylch tua thair troedfedd neu ragor ar ei draws, a'r chwarfan heb fod yn ddim ond tua modfedd a hanner, yr oedd y werthyd yn mynd yn gyflym iawn. Rhwymid pen un o'r rholiau wrth y werthyd, a dechreuid nyddu trwy roddi tro cyflym i'r cant ag un llaw, a dal y rholyn yn y llaw arall. Yr oedd yn rhaid dal yr edau allan rhag iddi ddirwyn hyd nes y ceid digon o dro ynddi. Yna dyfod â'r llaw i mewn a gadael iddi ddirwyn am y werthyd, a phisio'r rholiau â'r llaw arall. Ni wn pa faint o wlân a allai gwraig fedrus ei gardio a'i nyddu mewn diwrnod. Yn ei lyfr, Gwilym Morgan; neu, gyfieithydd cyntaf yr Hen Destament i'r Gymraeg, Bala (1890), dywaid "Elis o'r Nant" fel y canlyn am y wraig lle y lletyai'r Dr. Morgan pan oedd yn ieuanc:

"Yr oedd yr hen wraig a anneddai y bwthyn llwyd a thlodaidd hwn wedi gweled dyddiau gwell, ac wedi dyoddef llawer o gylch-gyfnewidiadau bywyd. Cychwynodd ei gyrfa mewn safle anrhydeddus. Yr oedd yn ferch i dirfeddianydd ar raddfa fechan,—ei unig blentyn. Cafodd ddygiad da i fyny. Dysgwyd hi i weu, gardio, nyddu y droell bach, a gallai nyddu gyda'r droell fawr dros bwys gwr o edafedd mewn diwrnod, yr hyn ni allai nemawr un. Gallai farchog hefyd ar un ochr i'r ceffyl. Dysgwyd hi yn lled fanwl mewn dyledswyddau. teuluaidd. Gallai borthi ieir, moch, lloi a gwartheg yn ddi-ail. Ystyrid hynny yn ddygiad da i fyny."

Ni wn pa sawl cant o lathenni o edafedd ungorn a allai fod mewn pwysgwr o wlân—mae'n rhaid ei fod yn llawer iawn. Gwelais mewn hen Wladgarwr y gellir nyddu edafedd ddigon main o bwys o gotwm i estyn o naw a thrigain i ddeg a thrigain milltir o hyd. Ni wn ychwaith paham y gelwid pwys o wlân yn bwysgwr mwy na phwys o rywbeth arall. O'r hyn lleiaf, pwysgwr y clywais ef yn cael ei swnio bob amser. Mwy priodol a fuasai ei alw yn bwysgwraig. Dywedodd un ffatriwr wrthyf mai "pwyscywir " oedd am fod deunaw owns ynddo. Yr oedd deunaw owns yn y pwys 'menyn yn fy nghof i, a mynnodd fy nain roddi deunaw owns yn ei phwys 'menyn i ddiwedd ei hoes, er na chai ddim rhagor amdano na'r rhai oedd yn rhoi un owns ar bymtheg ynddo.

Ar ôl nyddu yr oedd eisiau cordeddu, sef gwneud edau ddwygorn neu dair cainc o edau ungorn. Gwneid hynny yn yr un dull â nyddu; bechid dwy neu dair cainc wrth y werthyd, a gadewid y ddau neu dri chobyn ar lawr mewn basged yn ymyl.

Os byddai'r edau i gael ei llifo yr oedd yn rhaid ei gwneud yn genglau. Ni ellid ei llifo yn y cobyn am ei fod yn dynn a chaled; nid âi y lliw i mewn. I wneud cengel yr oedd tyllau yn edyn y droell tua hanner y ffordd o'r both i'r cant, bob yn ail aden, a rhoddid peg ym mhob twll; yna rhwymid pen yr edau wrth un o'r pegiau, ac wrth droi y droell dirwynid ef yn gengel oddi ar y werthyd.

"Da gan y diog yn ei wely
Glywed sŵn y droell yn nyddu ;
Gwell gen innau, dyn a'm helpo,
Glywed sŵn y tannau'n tiwnio."[2]

Yr oedd llawer o lin yn cael ei dyfu gan ffermwyr yr adeg honno, a defnyddid peth ohono i wneud brethyn dillad—brethyn cartre—ac yn enwedig i wneud brethyn a elwid nerpan, a gwerthid llawer o hwnnw yng Ngwrecsam, Caer, a mannau eraill i wneud dillad milwyr. Trinid y llin yn bur debyg i'r gwlân, ond bod y driniaeth yn fwy garw. Yn lle'r cribau dannedd mân mân, defnyddid darn o fwrdd derw, a gosodid nifer o ddannedd hirion tua naw modfedd o hyd. Gelwid hwynt dannedd yr ellyll. Gafaelid mewn tusw o lin a thynnid ef ôl a blaen trwy'r dannedd hyd nes y deuai yn garth parod i'w nyddu. Yr oedd hen wr o'r enw Edward Morris wedi cadw dannedd yr ellyll a ddefnyddid yng Nghynwyd ac ychydig o'r carth llin a wneid yno tua chan mlynedd yn ôl. Yn anffodus mae'r darn bwrdd wedi braenu. Cafodd cyfaill i mi y dannedd a'r carth. Cefais un o'r dannedd ac ychydig o'r llin ganddo.

Yr oedd y droell lin ychydig yn wahanol i'r droell wlân. Ni welais yr un fy hun. Mae rhannau o un gan yr un cyfaill yng Nghynwyd. Mae darlun o'r un Ysgotaidd yn y Leisure Hour am 1876, a dywaid Charles Ashton mai'r un yw'r cynllun. Llin a nyddid hefyd i wneud edau i'r cryddion a'r sadleriaid. Yr oedd un ohonynt yng ngweithdy'r cryddion yng Nghynwyd drigain mlynedd yn ôl, a gwraig yn arfer dyfod yno am ddyddiau i nyddu.

Yr oedd tŷ'r gwŷdd yn perthyn bron i bob ffarm. Fel rheol eil (lean-to) wedi ei chodi wrth ochr rhyw adeilad a fyddai. Diau fod llawer un a fu'n gwasanaethu gyda ffermwyr hanner can mlynedd yn ôl a gofia glywed ei feistr yn dweud "Cer i dy'r gwŷdd i nôl y rhaw neu'r gaib." Cawsant eu troi yn gytiau arfau a chytiau eraill. Gallai'r gŵr neu un o'r meibion weu gyda'r gwŷdd; ac mewn ffermydd mawr cedwid gwydd, neu, i fod yn iawn, gwehydd, ar hyd y flwyddyn. Byddai'r gwrthbannau, defnydd dillad y meibion a'r merched, yn cael eu gwneud gartre, felly priodol iawn yw'r enw brethyn cartre. Gwerthid y gweddill o wlanen, a brethyn, a brethyn nerpan.

Gyda llaw gwehydd oedd "Siôn Gynwyd," bardd pur enwog yn ei ddydd, a chychwynnydd yr achos Methodistaidd yn Edeirnion.

Nid wyf ychwaith yn cofio gwehydd yn gweithio yn yr un o'r ffermydd, ond yr oedd nifer o wehyddion yn gweithio yn eu tai eu hunain yr adeg honno. Yr oedd dau yn Llanaled, ac yn cadw gweithiwr neu ddau, a bûm yn eu gwylio wrthi lawer tro pan fyddwn yno yn yr ysgol. Nid oes ond ychydig flynyddoedd er pan fu mab i un ohonynt, oedd weinidog amlwg gyda'r Wesleaid, farw. Ond yr oedd gwehyddion yn y rhan fwyaf o'r ffatrioedd, ac nid hir y buont cyn disodli'r gwehyddion o'r tai.

Y gorchwyl nesaf i'w wneud â'r brethyn a'r wlanen oedd myned ag ef i'r pandy i'w bannu. Rhoddid ef yn y cyff, lle y pennid ef â'r gyrdd mawr. Os byddai wedi ei bannu'n iawn, byddai wedi myned i mewn tuag un rhan o bedair, hynny yw, brethyn dwylath o led yn myned i'r cyff yn dyfod allan tua llathen a hanner o led. Defnyddid priddgolch (Fuller's earth) a chyffeiriau eraill i wneud y gwaith ac i dynnu'r olew allan.

Troid olwyn y felin ban gan ddŵr fel yn y ffatri. Ar ôl bod yn y cyff am nifer o oriau tynnid y brethyn neu y wlanen allan a chymerid hi a'i rhoddi ar y dentur i sychu. Byddai honno mewn cae o'r tu ôl i'r pandy. Gwneid hi o nifer o bolion wedi eu gosod ar eu pennau, a bachau o haearn oddeutu hanner modfedd ynddynt, i ddal y wlanen yn dynn; ac wedi iddi sychu, gwneid hi yn gorn, sef yn rholyn.

Perthynai i'r pandy wasg (press) i wasgu'r brethyn a'r stwff, neu bresio, fel y byddent yn dywedyd, sef dwy sheet o haearn oddeutu pedair troedfedd wrth ddwy a hanner, a rhoddent y brethyn neu'r stwff rhwng y ddwy, ac yna dodi pwysau ar yr uchaf i'w gwasgu i lawr, ac yna cynnau tân â gluad, neu goleuad, sef tail gwartheg wedi sychu, i'w thwymo.

Diau y clywsoch sôn am bais stwff. Byddai honno, fel rheol, wedi ei gweu yn rhesog o ddau neu dri lliw, ac yn hardd iawn, ac yn hen ddigon da i eneth o forwyn, a hyd yn oed i ferch ffarm, fynd i'r capel. Gyda phais wlanen a phais stwff amdani, yr oedd yn llawer cynhesach na chyda'r lliprynnod a wisgir yn awr.

Tua dechrau'r ganrif ddiweddaf daeth y gown cotwm i Gymru, ac yr oeddynt yn grand ofnadwy. Yr oedd gennyf hen ewythr yn byw mewn ffarm weddol helaeth, ac yr oedd ganddo ferch, a meddyliai f'ewythr dipyn ohono'i hun ac o'i ferch. Tuag 1840, syrthiodd y ferch mewn cariad â'r gwas. Galwodd ei thad hi ar y carped, ac meddai: "Prynu het silc a gown stamp i ti, a charu gwas, ai e?"

Credaf fod y pandy yn hyn o lawer na'r ffatri wlân. Mae aml le yn y wlad yn cael ei alw yn Bandy. Ond, ymhell yn ôl y mae'n sicr y trinid y brethyn, trwy fyned ag ef i lan afon, neu nant, i'w sgwrio. Ymddengys na fu pandai Cymru erioed yn enwog am droi gwaith da allan. Ni allent roddi'r gorffeniad graenus a sidanaidd a roddid gan eu cydymgeiswyr yn Lloegr. Nid yw hynny i ryfeddu ato, oherwydd glynent wrth hen beiriannau wedi gweled eu dyddiau gorau yn amser eu teidiau. Ac mewn llawer man ffarmwr neu saer yn rhoi rhan o'i amser a fyddai'r pannwr. A diau, fel y dywedwyd wrthyf, y bu hynny yn un achos i Gymru golli'r gwaith o drin ei gwlân ei hun.

"Rhaid cael lliw cyn llifo" oedd hen ddihareb gyfleus dros ben weithiau. Pan ddeuai newydd drwg am rywun mewn ardal—stori heb lawer o raen arni, a'r bobl orau yn gwrthod ei chredu, ac yn dywedyd, " 'Choelia-i mohoni hi," gallai yr hoff o newydd drwg am ei gymydog bob amser gario'r maen i'r wal ar y bobl orau trwy ddywedyd, "Rhaid cael lliw cyn llifo." Byddai'n rhaid i'r dynion a'r bechgyn wisgo 'sanau llwydion, na wnaent ddangos y baw, druain. Tipyn o wlân du'r ddafad wedi ei gymysgu â gwlân gwyn, edafedd wedi ei lifo yn "las y pot," fel y gelwid ef. Dyma'r lliw rhataf posibl a'r mwyaf plaen a diaddurn wrth gwrs i'r bechgyn. Ond chware teg i'r merched, hwy fyddai'n llifo, ac yr oedd cael llifo 'dafedd yn wahanol i wneud eu 'sanau eu hunain yn gryn gymhelliad iddynt i wneud y gwaith. Nid oes gennyf lawer o grap ar liw na llifo. Er y bûm yn gwylio fy nain a'm mam yn llifo lawer tro, o'r braidd y gallwn wneud y gwaith yn awr. Nid wyf yn cofio enw llawer o'r cyffuriau. Cofiaf yn dda y bûm lawer tro yn nol pwys o flacwd o Siop Lias, ac Ymhen y Top yn hel cen cerrig. Gwneid sanau smart dros ben trwy roddi hanner y cengel yn y lliw, a chadw'r hanner arall yn wyn. Byddent yn debyg i geffyl broc. Gwneid 'sanau rhesog hefyd trwy ddefnyddio edau o ddau liw bob yn ail cylch. Yn fy amser i llifid deunydd brethyn yn y ffatri fel rheol, ond cadwodd fy hen ewythr William Ellis i'r diwedd at wlân y ddafad ddu wedi ei gymysgu â gwlân gwyn. A phan âi i roi tro am y defaid, yr hyn a wnâi unwaith bob dydd ac amlach na hynny ar y Sul, gwyddai'n iawn gwlân pa rai o'r defaid a fyddai am ei gefn. Ac nid peth bach oedd hynny, gallu gwylio bywyd a symudiadau'r ddafad a fu'n foddion iddo gael dillad clyd o frethyn cartre i'w wisgo.

Bûm yn hel cen cerrig lawer tro, ond nid i'w werthu. Mae'n rhaid fod rhyw nwydd wedi ei ddisodli cyn fy amser i. Amlwg y bu cen cerrig yn nwydd gwerthadwy. Y mae atgofion "Ap Vychan"[3] yn ddiddorol dros ben wrth gyfeirio at hel cen cerrig.

Yn nechrau haf y flwyddyn 1818, yr oedd gwr a gwraig, a thyaid o blant nwyfus a chwareus, yn byw dan gysgod craig fawr ac ysgythrog, ac mewn ty bychan, a'i do o redyn y mynydd-dir oedd gerllaw iddo, ac nid oedd yr haul yn tywynnu arno am rai wythnosau yn nyfnder y gauaf. Yr oedd yn cael ei gysgodi yn dda rhag gwyntoedd o'r Gorllewin, ac o'r Deheu; ond yr oedd awelon oerion y Gogledd a'r Dwyrain yn ymosod arno yn ddidrugaredd. Mynnai y mŵg hefyd ymgartrefu yn y tŷ a'r to rhedyn, gyda y teulu, ac nid ai allan o'i fodd, os na fyddai y gwynt yn chwythu o ryw bwynt a ryngai ei fodd ef. Yr oedd megis un o'r teulu.

Ond yr oedd amryw o bethau manteisiol a dymunol yn y fangre wladaidd honno wedi y cwbl. Yr oedd y teulu, wedi iddynt ddyfod drwy un bangfa galed o waeledd, yn cael iechyd pur dda ar y cyfan. Yr ydoedd ffynon o ddwfr iachus yn tarddu o ganol y mynydd mawr, yn union wrth dalcen y tŷ. Ceid digon o danwydd o fawnog oedd yn y mynydd uwchlaw y tŷ, yr hyn a barai fod yr aelwyd ar nosweithiau hirion y dyddiau byrion, yn hynod o gysurus. Eisteddai y tad yn un gornel, a'r fam ar ei gyfer yn y gornel arall, a'r plant yn hanner cylch o flaen y tân, a phob un oedd yn ddigon o faint yn gwau hosan mor gyflym ag y gallai, fel y gallai y fam fyned a hanner dwsin o barau i'r farchnad ar y Sadwrn, a'u cyfnewid yno am angenrheidiau teuluaidd.

Nid oedd yn hawdd peidio a chysgu yng ngwres y tân. Teimlai y plant hynny yn fynych, ac anfonai y fam hwynt allan am dro i edrych beth a welent rhwng y ty a Moel Llyfnant; yna dychwelent i'r ty yn ol i drin y gweill, fel o'r blaen, hyd amser swper, a'r addoliad teuluaidd a'i dilynai, ac yna pawb i orffwys ac mor felus oedd cwsg yn y dyddiau hynny. Ac mor hoenus a diflinder oedd y cyfansoddiad pan ddeffroid yn y bore wedi cysgu drwy y nos.

*****

"Ar ol terfynu o'r rhyfel mawr rhwng y wlad hon a Napoleon Bonaparte, daeth amser caled iawn ar weithwyr amaethyddol, crefftwyr, a mân amaethwyr Cymru. Yr ydym yn cofio blwyddyn o falldod cyffredinol ar yr yd, ac yr oedd bara iach yn beth dieithr yn y wlad. Bychan iawn oedd cyflog gwr y ty a'r to rhedyn; ac er pob ymdrech o eiddo y fam a'r plant er ychwanegu tipyn at gyflog gwr y ty hwnnw, byd cyfyng a chaled oedd arnynt fel teulu dros amryw flynyddau.

"Ond... agorodd Rhagluniaeth dirion y nef iddynt ddrws o ymwared, i ryw raddau. Daeth y cen gwyn sydd yn tyfu ar gerrig yn nwydd i fasnachu ynddo. Cesglid ef oddiar y cerrig, a gwerthid ef i fasnachwr am geiniog y pwys, ceiniog a ffyrling, ceiniog a dimai, ac ychwaneg na hynny, pan y byddai galwad uchel am dano. Yr oedd tri o blant y teulu sydd dan ein sylw yn ei gasglu bob dydd, sych a theg. Casglai y tri rhyngddynt oddeutu deunaw pwys, yr hyn oedd yn gryn gymorth i'r rhieni a'r plant allu byw, a thalu eu ffordd. Troes lluoedd allan i'r ffriddoedd a'r mynyddoedd i'w gasglu, ac yr oedd y casglwyr gyda eu cynion yn hel y cen yn llawer cynt nag y tyfai ar y cerrig; ac felly, aeth y nwydd yn brin yn yr holl leoedd oeddynt yn gyfleus i gyrchu iddynt; a rhaid oedd myned yn bellach, bellach, yn barhaus."

Yr oedd y ffatrïwr, yn enwedig os byddai yn cadw dau neu dri o weithwyr, yn dipyn o lanc mewn ardal, agos gymaint ag yw siopwr neu ysgolfeistr yn ein dyddiau ni. Ond y mae yr hen ffatrioedd, a fu'n foddion cynhaliaeth i lawer teulu, yn sefyll bron bob un, a gwellt glas mawr wedi tyfu dros yr olwyn ddŵr, y cafn wedi braenu, a'r hen ffatri â'i phen ynddi; y gwlân yn cael ei werthu yn aml yn ddigon isel i fyned i ffwrdd o'r wlad, a'r trigolion yn gorfod talu'n ddrud amdano yn ôl mewn brethyn a gwlanenni a gwrthbannau, er colled ddirfawr i Gymru.

Beth a fu'r achos i Gymru golli'r diwydiant hwn i'r fath raddau ag y gwnaeth? Credaf mai oherwydd dau ddiffyg, diffyg anturiaeth a diffyg cyfalaf. Soniais am beiriannau newydd yn dyfod i'r ffatrïoedd, ond dywedwyd wrthyf pan geid peiriant newydd mai un wedi ei droi heibio gan y Saeson ydoedd bron yn ddieithriad, am y gellid ei brynu am ychydig. Felly, ni ellid cystadlu â'r Saeson oedd â digon o fentar a digon o arian i fanteisio ar bob dyfais newydd. Yr hen stori, glynu'n rhy hir wrth yr hen bethau, hen gartref, hen beiriant, hen ddull. Gwelais aml un yn fy nydd yn mynd i'r wal am yr un rheswm—glynu wrth yr hen beiriannau.

Nodiadau[golygu]

  1. A kind of flannel (Halliwell).
  2. Cymru Fu, Lerpwl, 1862. tud 490
  3. Gwaith Ap Vychan, Llanuwchllyn. 1903.