Cwm Eithin/Rhannu'r Mynydd

Oddi ar Wicidestun
Yr Hen Fythynnod Cwm Eithin

gan Hugh Evans, Lerpwl

Hen Ddiwydiannau, I


PENNOD VII

RHANNU'R MYNYDD

MAE yn debyg na chynhyrfodd dim byd gymaint ar drigolion Cwm Eithin er yr adeg hwy i amddiffyn y Cwm rhag y Saeson, â derbyn y rhybudd fod y mynydd i gael ei rannu. Mynyddoedd isel oedd rhai Cwm Eithin. Yr oedd llawer ohonynt wedi eu cau'n ffriddoedd cyn cof i mi, a pharhâi y tyddynwyr i'w cau. Nid drwg i gyd oedd rhannu'r mynydd. Pe bai wedi ei rannu yn deg, gwaith da fuasai, oherwydd mae'n debyg na fu dim yn fwy o asgwrn cynnen na'r mynydd, a hynny oherwydd y crafangu oedd amdano. Yr oedd hyd yn oed yng Nghwm Eithin amryw o ffermwyr digon sâl, dynion nad oeddynt yn gofalu dim am neb ond hwy eu hunain. Pan oedd y mynydd yn agored yr oedd gan yr holl drigolion hawl i fyned yno i hel pabwyr a llys, torri mawn a chlytiau, a hel grug yn danwydd, torri brwyn a llafrwyn a thywyrch trum i ddiddosi eu tai a'u cytiau, i droi ychydig o ddefaid neu ferliws, os byddai ganddynt rai, neu fuwch i bori yn yr haf. Ac adeiladodd aml ŵr tlawd gaban unnos ar y mynydd, a chau darn bach o dir, lle y magwyd aml wron. Ond atolwg, beth a ddaeth o ran y tlawd o'r mynydd? Cawn weled wrth fyned ymlaen fod cymaint o fai ar y tyddynwyr crafanglyd am i'r tlawd golli ei ran ag ar y tirfeddiannwr cyfoethog. Yr achos oedd fod y ffermwyr cyfoethoca yn anfon mwy o ddefaid a merliws nag a ddylasent, ac mewn amser yn meddiannu darnau mawr o'r mynydd, a dywedyd, "Ein buches ni sydd i fod yma," gan wasgu'r ffermwyr tlota o hyd. Rhaid cofio hefyd fod defaid a merliws y bobl hyn lawer mwy annuwiol a gormesol na defaid a merliws y bobĺ dlawd. Yr oedd anian eu meistradoedd yn cael ei throsglwyddo yn amlwg iawn iddynt. Os buoch erioed yn myned â defaid i'r mynydd agored, ni byddai raid i chwi aros yn hir iawn na welech mor ofnadwy o haerllug a thrahaus ydyw defaid ffarmwr haerllug a chrafanglyd tuag at ddefaid gonest ffarmwr tlawd, neu rai gwraig weddw dlawd druan, ac fel y gorfodant hwy i gilio o'u ffordd. Yr oedd cyfrifoldeb y dynion hynny yn fawr, nid yn unig am a wnaethant eu hunain, ond am drosglwyddo eu hanian haerllug a barus i'w hanifeiliaid. Os amheua rhywun yr athroniaeth uchod holed hen fugeiliaid Cymru, a darllened y disgrifiad o anifeiliaid y ddwy ffarm a alwai yr "Hen Deiliwr"[1]yn Nefoedd ac Uffern.

Llawer ymladdfa ffyrnig a fu rhwng ffermwyr Cymru am ran fach o'r mynydd. Bu teuluoedd yn elyniaethus i'w gilydd am genedlaethau o'r herwydd. Nid drwg i gyd oedd ei rannu, meddaf, pe bai wedi ei rannu i'w berchenogion yn lle rhwng nifer bach o dirfeddianwyr.

Erbyn fy amser i yr oedd y rhan fwyaf o fynyddoedd isel Cwm Eithin wedi eu cau yn ffriddoedd. Ni wn pa bryd y dechreuodd y wanc am y mynydd ac y dechreuwyd ei gau yn ffriddoedd. Yr oedd gwthio a thrin a throi y mynydd yn myned ymlaen gyda rhyw ynni a chrafangu ofnadwy pan gofiaf gyntaf. Gelwid un o'r rheibwyr hyn "Sian yr hollfyd a'r Gwane i gyd." Anodd gwybod pa bryd y dechreuwyd "gwthio" y mynydd. Y cofnodiad cyntaf sydd yn hen lyfrau mesur tir fy nhaid yw am Ffridd Garreg Fawr Syrior, Llandrillo, yn cael ei gwthio tua 1815, a'r pris am y gwaith. Ni ellid ei droi heb ei wthio, er y dywedid mai darnau ar yr ucheldiroedd a arferai yr hen drigolion eu llafurio. Yr oedd croen mynyddoedd Cwm Eithin mor wydn a chroen tarw, ni ellid cael aradr a ddaliai i'w droi, na cheffylau ddigon cryfion i'w thynnu; gellid torri tywarchen drum a'i chario ar eich pen ar hyd yr ysgol i ben y tŷ na fyddai yr un rhwyg ynddi. Pan ddechreuwyd troi yr hen fynydd ceid ceirch yn tyfu dros eich pen ynddo. Gwelodd y tirfeddianwyr ei werth a phasiwyd tua deugain o Enclosures Acts gan Dŷ'r Cyffredin tua'r cyfnod yma.

Ni wn a oedd y ffermwyr yn meddwl meddiannu'r mynydd eu hunain ai peidio. Os oeddynt, siomwyd hwy yn fawr. Ni chawsant led troed ohono. Yr oedd y tirfeddianwyr erbyn hyn yn brysur iawn yn ceisio cael gan berchenogion y cabanod unnos, a'r rhai oedd wedi codi lleoedd bychain ar y mynydd, gydnabod eu hawliau hwy trwy fygythiad a gwên deg. Ni ofynnent fwy na phumswllt o rent gan dyddynnwr bach oedd wedi codi tyddyn ar y mynydd. Nid eisiau rhent oedd arnynt, dim ond cydnabod eu hawl. Am mai eu tir hwy oedd yn taro arno felly hwy oedd biau y lle, a bu llawer o dyddynwyr a deiliaid y cabanod unnos yn ddigon diniwed i dalu. A diau fod disgynyddion aml un a ddechreuodd dalu pum swllt erbyn hyn yn talu agos i hanner canpunt am yr un lle. Yr oedd yr hanes wedi dechrau cerdded ers peth amser fod y mynydd i gael ei rannu, ac yr oedd y Cwm wedi cynhyrfu trwyddo. Ond ym Mehefin, 1865, derbyniodd yr holl dyddynwyr bapur glas, a phe buasai daeargryn wedi digwydd, nid wyf yn meddwl y buasai golwg gwylltach a mwy cynhyrfus ar wyneb neb nag a welais ar wyneb aml un haf y flwyddyn honno. Wele gopi a gefais ym mysg hen bapurau fy nhaid o gynnwys y papur glas:—

"Cwm Eithin" Inclosure.

I RICHARD WAKEFORD ATTREE of 8 Cannon Row in the City of Westminster in the County of Middlesex, the Valuer acting in the matter of the Inclosure of the Waste Lands of the Hills Sheepwalks or Commons situate in the Parish of "Cwm Eithin" in the County of Denbigh hereby give you Notice that the encroachment from the said land to be enclosed situate in the said Parish of "Cwm Eithin" now in your possession is with the residue of the said lands about to be divided allotted and inclosed and that you are at liberty within two calendar months from the service of this notice to take down and remove all buildings fences and other erections now standing on the said encroachment, and to convert the material thereof to your own use.

And I further give you Notice that unless peaceable possession of the said premises be given to me on or before the expiration of two calendar months from the service of this Notice I Richard Wakeford Attree shall on the 28th day of August next at 11 o'clock of the same day at the Magistrates Room in the Village and Parish of "Llanaled" in the said County of Denbigh apply to Her Majesty's Justices of the Peace, acting for the district of "Cwm Eithin" in the said County of Denbigh in Petty Sessions assembled to issue their Warrant directing the Constable of the said District to enter and take possession of the said premises, and to eject any person therefrom.

Dated this 24th day of June 1865.
R. W. ATTREE,
Valuer.

To Mr. William Barnett,

Swch Tyn 'r Allt.

Meddylier mewn difrif y fath garedigrwydd a ddangosid yn y rhybudd at y tlodion oedd wedi adeiladu tŷ a chôr ac ychydig o gytiau ar y mynydd. Caniateid iddynt eu tynnu i lawr a gwneuthur defnydd o'r coed a'r cerrig a'r tywyrch oedd ynddynt, a chaniateid y cyfnod maith o ddau fis i wneuthur hynny. Pwy a allai dynnu ei dŷ i lawr mewn dau fis a'i ail adeiladu mewn lle arall, pe buasai yn cael clwt o dir i wneuthur hynny? Ond gofalai y tirfeddianwyr nad oedd clwt i'w gael. Felly syrthiodd y cyfan i ddwylo'r tirfeddianwyr, neu gwerthwyd hwy. Yn fuan ar ôl y papur glas gwelwyd y mân swyddogion yn dechrau hel o gwmpas, rhai a chain fesur, eraill a phegiau a pholion, eraill a rhawiau bychain i dorri hiciau yng nghroen yr hen fynydd. Rhoddid rhyddid i'r tirfeddianwyr a'r ffermwyr i ddadlau eu hawliau gerbron yr awdurdodau. Crynai y tlodion a'r tyddynwyr bychain. Gwibiai y rhai haerllug a chefnog ôl a blaen. Buan y deallwyd y gellid cael ffafrau, megis cael y darn gorau at ein lle ni, a gadael y darn sala i'r gwan diamddiffyn. Yr oedd swch fy nhaid yn ddeng acer wedi ei throi a'i thrin; ni adawyd iddo ond y tair acer sala, darn wedi ei dorri yn glytiau a thywyrch i gau clawdd y mynydd.

Dywedid na fu y fath laddfa erioed ymysg ieir, hwyaid a gwyddau Cwm Eithin â'r Nadolig hwnnw a'r un dilynol— y rhanwyr yn byw yn fras a'r ffermwyr yn cynffonna. Bu y rhanwyr yn hir iawn wrth y gwaith. Yr oedd ganddynt hawl i werthu darnau o'r mynydd i dalu'r costau, a gwerthasant lawer ohono. Y darnau gorau a werthent yn aml. Prynodd aml ffarmwr ddarn, ambell un ddigon i wneuthur ffarm pur dda, ond erbyn sincio a chau ac adeiladu trodd allan yn ddigon drud. Yr oedd y ffermwyr mawr yn gwneuthur eu gorau i gael mwy na'u siâr a gadael y rhai bychain ar lai na'u siar. Ni faliai y tirfeddianwyr fawr am hawliau'r ffermwyr bychain cael cymaint ag oedd bosibl o gyfanswm oedd eu cwestiwn hwy. Ar ôl y rhannu aeth y ffermwyr i drin y mynydd; cawsant gnydau da. Codwyd y rhenti, ond ymhen ychydig flynyddoedd cymerodd yr hen fynydd yn ei ben i gynhyrchu llai, lai; yr oedd ei nerth cynhyrchiol yn pallu wrth gael ei fynych droi, a llosgodd aml un o'r rhai barus ei fysedd.

CYFRAN Y TLAWD O'R MYNYDD

Beth a ddaeth o ran y tlawd? Ni chafodd ef gymaint â lled troed, na dim llecyn o'r mynydd oedd yn ymyl y llannau i'r plant bach chware ynddo. Cafodd y tirfeddianwyr filoedd o aceri, er na feddent fwy o hawl iddo na'r tlotaf yn y tir. Pa ryfedd fod y gweithiwr tlawd yn deffro i'w hawliau? Ymhen rhai blynyddoedd penodwyd y Royal Commission on Land in Wales and Monmouthshire,[2] a bu hwnnw yn eistedd am yn hir. Holwyd llawer o dystion. Rhaid addef i gryn lawer o welliannau mewn tirddaliadaeth ei ddilyn, ond ni chafodd y tlawd, y dygwyd y mynydd oddi arno, ddim ond cloncwy ar ôl yr holl eistedd. Cymerwyd y mynydd oddi arno. Ni feddai hawl bellach i dorri ychydig o fawn i'w gadw rhag rhynnu yn oerfel y gaeaf, nac i hel llafrwyn i doi ei gaban, nac i ddal gwningen i geisio estyn oes ei wraig pan fo mewn darfodedigaeth, dim cymaint â myned yno i hel corniaid o babwyr i wneud ychydig o ganhwyllau brwyn i ddarllen ei Feibl. Collwyd yr afonydd; ac er i'r brithylliaid fod yn gweiddi ar ei gilydd, "Pa le mae'r gŵr tlawd sydd â'i blant bach yn dihoeni gan eisiau bwyd? Hoffem ni aberthu ein bywyd er eu mwyn" (fel y disgrifiai "Hiraethog" y pysgod ar För Galilea yn holi am rwyd Pedr), nid oes iddo hawl i godi'r un ohonynt. Y cwbl a adawyd yw rhyddid i fyned i ffynnon y pentre i nôl caniaid o ddŵr. Os palla honno â chyflenwi y pentrefi rhaid i'r tlodion dalu'n ddrud am eu dŵr eu hunain o'r mynydd, er i nentydd y mynydd fod yn ymryson â'i gilydd am gyflenwi eu hangen. Yr unig hawl arall a adawyd iddo oedd y gall gerdded y ffordd fawr and gofalu myned i ffos y clawdd a thynnu ei gap pan glyw gerbyd y gŵr a aeth â'i fynydd yn chwyrnellu o'i ôl neu i'w gyfarfod, a pheidio â loetran, neu byddai y plismon yn gafael yn ei war.

Gofynnwyd aml gwestiwn plaen yn y Comisiwn, a chaed atebion, er gwaethaf y tirfeddianwyr, oedd yn profi eu rhaib a'u trahauster uwchlaw amheuaeth. Ond daliai aml un ohonynt i gredu mai eu heiddo hwy y " ddaear a'i chyflawnder."

Mae adroddiad y Comisiwn yn ddiddorol dros ben, yn enwedig i hogyn sydd yn cofio rhannu'r mynydd Rhoddaf ychydig o ddyfyniadau o hanes yr eisteddiadau yn y Bala.

Yn eisteddiad y Bala, Medi 12, 1893, llywydd, Lord Carrington, ysgrifennydd, Mr. [yn awr Syr] D. Lleufer Thomas, bu'r ymddiddan a ganlyn rhwng Mr. Brynmor Jones ac un o dirfeddianwyr Cwm Eithin:—

Was any part of this estate recently enclosed? There was an enclosure in 1863. Advantage was taken of the Enclosure Act.

How many acres were enclosed then ?—I am sorry to say I cannot tell you the acreage.

Roughly speaking, what was the proportion of the amount enclosed there to the amount of property which you had before the Enclosure Act?—I am sorry to say, without getting it up, I could not tell you. I have not gone into that sufficiently. We have the maps to show it, and all that was sold.

I mean when the enclosure took place, was only a small portion allotted to your estate, or was it considerable in area? You may say a small proportion, comparatively speaking, I think.

Well, 500 acres?—Yes, it would be as much as that, my agent says.

And the whole estate is 2,000?—3,000 over here in Denbighshire.

The Enclosure Act applied to the Denbighshire property, did it not?—Yes, not to the Merionethshire.

Do you recollect whether any recreation grounds or allotments for the use of the labouring poor were apportioned at the same time under this Enclosure Act?—No.

None? None; it is not a thing which would be appreciated there, I think, with us; I do not think it would be taken advantage of.

But by—and—bye in the future it might be useful, might it not? I do not think so. They are essentially sheep farmers; they do not even garden.

Were there any squatters' cottages on the common and the waste?—Yes, there were a few.

How were they dealt with?—They were sent away, and the property was sold and apportioned by the Enclosure people, and some of the ground sold to pay to the Enclosure Commissioners for the costs, I believe. Then the squatters were sent away, you mean?—Yes. I was looking through the old accounts last night at the time the squatters were there; they had not paid any of them previously, they were all in arrears.

And so they were evicted?—Yes, they were sent away, a few of them. There were only a few of them, I believe

Mae'n werth sylwi ar yr ateb awgrymiadol uchod, "Yr oeddwn yn edrych trwy yr hen gyfrifon neithiwr, pan oedd y tyddynwyr unnos yno." Nid oedd yr un ohonynt wedi talu dim rhent. Yr oedd ôl—ddyled arnynt oll. Dyled i bwy, ys gwn i? Na, nid oedd yr un o breswylwyr y tai unnos erioed wedi cydnabod. hawliau'r tirfeddianwyr. Yr oeddynt wedi codi eu cabanod ar gomins y tlodion yn unol ag un o hen arferion gwlad eu tadau. Gofynnwyd i dirfeddiannwr arall fel y canlyn: "Pan oedd y bobl yn adeiladu'r tai unnos, a ddarfu i chwi dreio eu rhwystro, neu eu rhybuddio i beidio?" "Naddo," ebe yntau. Os wyf yn cofio'n iawn, ni ofynnwyd iddo paham. Pe buaswn i yno buaswn wedi gofyn. Hyd y gwelaf i nid oedd ond dau ateb posibl. Naill ai gwyddent na feddent hawl i'w rhwystro, yr hyn oedd yn berffaith wir, mi gredaf, neu gadawsant i'r tlodion adeiladu tai yn dawel gyda'r bwriad o'u cymryd oddi arnynt ymhen amser.

Ond i fyned ymlaen gyda rhagor o ddyfyniadau:—

Were there any sheepwalks or rights of pasturage in existence over the waste which was enclosed?—I presume so, there were rights. They had rights over this—what was common land before—I believe.

Diddorol dros ben yw tystiolaeth Mr. T. Ellis, A.S., o flaen y Commissioners; nid oes ofed i'w chofnodi, ond rhoddaf ychydig frawddegau o'i eiddo sydd yn dangos hawl y bobol i'r mynydd.

I would say that the consolidation of estates, the consolidation of farms, and the exercise of manorial rights on the wastes and common pastures of Wales contravene diametrically the whole spirit of the old Celtic tenures of Wales. . . . Enclosures have been ruthlessly made without sufficient forethought for the poor. . . In a return just issued by the Board of Agriculture it appears that there are still approximately in Wales 953,000 acres of unenclosed mountain land. . (Pa faint sydd yn aros heddiw ?)

Gofynnwyd iddo:

In relation to Lord Penrhyn and the enclosure, did you say in the House of Commons this . . . Much discontent had been caused in Wales by the enclosure of what had formerly been pasture land. In one case Lord Penrhyn had enclosed some pasture land, and the fences had been broken down, upon which Lord Penrhyn had used his power as chairman of quarter sessions to obtain a special posse of police to protect the fences, and had levied a special rate in the district to bring these farmers to their senses?

In his evidence Lord Penrhyn admitted that considerable difficulty had arisen in his district owing to the fact that the pasturage of the tenants had been enclosed. In the assertion of their rights, the tenants had taken down fences; and what did Lord Penrhyn do ?—He used his power as a chairman of quarter sessions, if I remember rightly, to obtain a special posse of police for the district, and he levied a special rate to bring to submission these farmers who had asserted their rights. Are those quotations correct ?—Yes, the latter.

Do you admit that the enclosure was not made by Lord Penrhyn at all, but in pursuance of an Act of Parliament?— First of all I never said that the enclosure was made by Lord Penrhyn.

Ni raid dywedyd wrth neb pa fodd na chan bwy y gwnaed yr Enclosure. Fe ŵyr pawb mai gan yr arglwyddi a'r tirfeddianwyr y pasiwyd yr Enclosure Acts. Ac fel y canlyn y dywaid Mr. T. E. Ellis am yr Enclosure Acts a'r modd y pasiwyd hwy:—

That is an instance of the method of enclosure and of the results of the protest of these poor peasants. These deliberate, and it seems to me authoritative, statements, . . . are facts of pregnant interest to the student of the economic history of the land of Wales under the influences of English rule and law.. In the ancient laws of Wales the common pastures and hill grazings were jealously guarded by the courts of the Cantrev and Cwmwd, because, so runs the law, every wild and waste belongs to the country and kindred (gwlad a chenedl), and no one has a right to exclusive possession of much or little land of that kind."

Mewn atebiad i gwestiwn arall:

You say one or two owners stated that these sheep runs were vested in them. I suppose they mean they bought the Crown rights to those hills. Is that it?—I do not know. It is a very interesting question.

They become possessed of them in some way?—Yes, in some way. They claim them evidently.

Mewn atebiad i Mr. [wedyn Syr] John Rhys, M.A., dywaid fel y canlyn:—

I referred to the rental of Merionethshire as 140,335l. paid as agricultural rent in the last return to which I referred, and then I made this statement: "In a land and among a peasantry singularly devoted to social converse there is not a public village institute or hall; keenly fond of reading, there is not a public library. In a changeable climate, mainly damp, and with homes small and confined, there is not a single hospital or dispensary."

Ychydig o barch a gâi'r gwerinwr a'r llafurwr tlawd; edrychid arno fel pe wedi ei wneuthur gan y Bod Mawr ar ôl i'r clai gorau gael ei ddefnyddio i wneuthur y bobl fawr, i'r unig ddiben o fod at eu gwasanaeth hwy. Yr oedd athrawiaeth Paul fod un llestr i amharch ac arall i barch yn hollol wrth eu bodd. Pa sawl mab ffarm y bu'n rhaid iddo adael ei wlad, neu i'w dad golli ei dyddyn am ddim ond dilyn ôl traed ysgyfarnog yn yr eira ar ddarn o fynydd a drawsfeddiannwyd gan y gŵr a hawliai mai eiddo ef yr ysgyfarnogod, y petris, ieir y mynydd, a physgod nant y mynydd? Nid oedd nemor well yn Lloegr. Ryw dro torrais y dyfyniad a ganlyn o bapur newydd heb nodi pa un.

The condition of the working classes in the centre and South of England was deplorable. An agricultural labourer had to support a family on 9/— a week and pay for a cottage, probably a very insanitary one.

Those imprisoned for debt were in a terrible plight had they no friends to help them. My mother as a child visited Newgate with Elizabeth Fry, a friend of her mother's, saw the prisoners lying in chains on the straw, and never forgot the sight. Lunatics and even ordinary sick people had but scant attention compared to the present day.

Ninety years ago even good people did not realise what was due to those less fortunately circumstanced than themselves, and serious abuses existed, and little protest made. Poaching was a crime, and though the mantrap with its crocodile teeth was supposed to be abolished in 1827, I can remember seeing one in use in Yorkshire.

Stephenson's first locomotive, which I recollect well, was made in the year of my birth, and was used to carry coal from the pit's mouth. The industrial revolution was transforming England and causing much misery in the process in manufacturing districts, just as there was an educative movement throughout the mechanics' institutes. I was to see a complete change in affairs—educational, political, social and religious during my long life, and I am glad to know and testify that on the whole the changes have been for the better.

Ni chlywais am drapiau i ddal dynion yng Nghwm Eithin. Yr oedd y cyffion wrth ochr y fynwent yn Llanaled pan oeddwn yn yr ysgol a bûm yn eu treio droeon. Ond diau y defnyddid y trap yng Nghymru yn yr hen amser. Wele ddarlun ohono


Nid rhyfedd i R. J. Derfel ganu,

Mynwch y Ddaear yn ol.[3]

Morwynion a gweision ein gwlad,
Amaethwyr a gweithwyr pob sir,
Ymunwch ach gilydd bob un
Yn erbyn ysbeilwyr y tir;
Mae'r ddaear yn perthyn i chwi,
Eich llafur roes werth ar bob dol—
Tyngedwch pob gradd a phob oed
Y mynwch y ddaear yn ol.

Chwarelwyr a glowyr bob un,
Pob teiliwr a chlocsiwr a chrydd,
Pob morwr a siopwr a saer,
Pob eilliwr a nyddwr a gwydd ;-
Ymunwch ach gilydd bob un
I hawlio pob mynydd a dol,
A thyngwch ar allor eich nerth
Y mynwch y ddaear yn ol.

Paham y llafuriwch y tir
I eraill gael medi ei ffrwyth?
Pa'm gweithiwch o foreu hyd hwyr
A rhent ar eich gwarau fel llwyth?
A chwithau mewn nifer mor fawr,
Paham y gweithredwch mor ffol?
Yn lle cydymuno bob un
I fynu y ddaear yn ol?

Mae'r ddaear yn perthyn i bawb
Ai golud yn rhan i bob un ;
Fel awyr, goleuni, a dwr,
Angenrhaid bodolaeth bob dyn.
Dangoswch Frythoniaid i'r byd,
Nad ydych yn llwfr nac yn ffol-
Ymunwch i gyd fel un gwr,
A mynwch y ddaear yn ol.

Nodiadau[golygu]

  1. Helyntion Bywyd Hen Deiliwr, gan William Rees (Gwilym Hiraethog), Liverpool, 1877.
  2. Royal Commission on Land in Wales and Monmouthshire, Minutes of Evidence, etc. 6 cyf. Llundain, 1894-6.
  3. Caneuon, gan R. J. Derfel, Manchester (1892).