Cwm Eithin/Yr Hen Fythynnod
← Byddigions-Helynt yr Arian Mawr | Cwm Eithin gan Hugh Evans, Lerpwl |
Rhannu'r Mynydd → |
PENNOD VI
YR HEN FYTHYNNOD
CYN y gellir rhoddi disgrifiad gweddol gywir o fywyd gwledig Cwm Eithin, mae'n rhaid wrth bennod ar ei fythynnod a'i gabanau. Llawer o gwyno y sydd yn ein dyddiau ni ar y tai, a'u beio am afiechydon, etc. Diau nid heb achos. Ond mae yn rhyfedd iawn fel y dug ein cyndadau deuluoedd mawr i fyny yn iach, a glân eu moes, mewn cabanau unnos o un neu ddwy ystafell, a heb ond yr ychydig o olau a ddeuai i mewn drwy'r drws, y simnai, tyllau yn y to a'r muriau.
Un o'r ffurfiau cyntefig ar adeiladu tai oedd torri dau bren fforchog a'u troi â'u pennau i lawr, plethu gwiail yn yr ochrau, a gadael mynedfa yn un o'r talcenni. Ar ei ol daeth y cwpwl bongam. Dibynnai uchter gwal ochrau'r tŷ ar hyd y camedd ym môn y cwpwl, tair neu bedair troedfedd o uchter. Nid oedd y rhai uchaf fawr uwchlaw wyth droedfedd. Toid y tai â gwellt, grug, neu lafrwyn, a rhoddid tywyrch trum ar y grib. Clai a gwellt fyddai'r morter yn aml. Os toid ambell un â llechau tewion ni feddylid am roi plaster o dan y to fel yn awr; felly, er cadw'r gwynt, y glaw a'r eira allan, yr oedd yn rhaid ei fwsoglu, a byddai'n angenrheidiol gwneud hynny bob rhyw dair blynedd.
TAI ANNEDD DDECHRAU'R DDEUNAWFED GANRIF
Un ystafell oedd yn y rhan fwyaf o dai y gweithwyr, ond rhoddid dreser a chwpwrdd pres ar draws yn aml i wneud siamber. Weithiau rhoddid croglofft wrth ben y siamber, ac ysgol symudol i fynd iddi o'r gegin. Ond ni ellid rhoi gwely ond ar ei chanol, gan fod y to mor isel, a byddai'n rhaid rholio allan o'r gwely neu ddioddef taro eich pen. Byddai'r simnai yn agored, y tân o fawn, carreg ar yr aelwyd, a'r llawr yn llawr pridd. Yr oedd tai y ffermydd ychydig yn well. Gwelir aml un ohonynt hyd heddiw, wedi ei droi yn hofel neu'n ysgubor. Byddai y drws yn ddau ddarn fel rheol, fel y gellid gadael y rhan uchaf yn agored, a chau y rhagddor i rwystro'r ieir a'r moch i'r tŷ. Mae hen dai y gweithwyr bron i gyd wedi mynd â'u pennau iddynt, ac y mae cannoedd ohonynt nad oes dim o'u hôl. Gwaith diddorol a buddiol fyddai casglu hanes murddunod y gwahanol blwyfi.
Yn Eisteddfod Llansannan, nifer o flynyddoedd yn ôl, rhoddwyd gwobr gan Mr. John Morris, Y.H., am hanes hen furddunod y plwyf, ac ef a ddug y draul o gyhoeddi y traethawd buddugol.[1] Nodir ynddo ddau cant a phymtheg ar hugain o'r hen furddunod.
YR AMAETHDAI
Bychain a gwael iawn oedd llawer o amaethdai Cwm Eithin. Pan ddatblygodd amaethyddiaeth caed gan y meistri tir adeiladu ambell ystabal neu ysgubor, ac mewn ambell le gwelid y rhai hynny yn gymharol newydd, tra'r edrychai'r tai yn hynafol a bychain. Pan aeth yr amaethwr i drin rhagor ar ei dir ac i gadw rhagor o weision a morynion, nid oedd lle i'r llanciau gysgu yn y tai. Gan hynny, defnyddid y llofft stabal a llofft yr ŷd wrth ben yr hofel; ond nid oedd bosibl rhoddi mynedfa iddynt o'r tai. Grisiau cerrig o'r tu allan oedd iddynt, a gelwid hwy yn llofft allan, a dyna'r llofft orau yn y lle yn aml. Diau mai dyna fu achos yr arferiad i'r llanciau "gysgu allan," fel y gelwid ef, ac sydd wedi peri i rai na wyddant fawr am anhawster y cyfnod gredu mai creulondeb yr amaethwr tuag at ei weision oedd yr achos.
Un rheswm fod tir-ddaliadaeth mor ansicr, a'r adeiladau mor wael, yng Nghwm Eithin drigain a deg o flynyddoedd yn ôl, oedd fod yr ysgwier a berchenogai y rhan helaethaf ohono a'r mân gymoedd a redai allan ohono, wedi colli arno ei hun a'i roddi mewn sefydliad cyfaddas yn agos i Lundain er cyn cof i mi, a'r plas yn wag. Ni feddai blant; yr aer ar ei ôl ef oedd mab i'w chwaer; ei wraig yn Saesnes ac yn byw yn Llundain, yn byw yn wastraffus, neu'n celcio arian iddi ei hun; y cwbl a wnâi oedd gofalu fod ei stiwart yn hel y rhent. Ni wnâi ddim i'r adeiladau. Aeth yr ystâd i ddyled, a bu'n rhaid gwerthu rhannau helaeth ohoni ddwywaith yn fy nghof i.
TRETH Y GOLAU
Tywyll ac anghysurus iawn oedd y tai fel rheol. Byddai llawer o'r bythynnod heb yr un ffenestr. Yr oedd treth y golau yn fwy nag y gallai'r tlodion ei thalu, a'r unig oleuni a geid mewn llawer tŷ oedd yr hyn a ddeuai i mewn trwy'r drws a'r hyn a allai basio'r mwg i lawr y simnai. Byddai honno'n llydan, a gallech weled yr awyr las pan aech at y tân a sefyll o dan y fantell fawr. Gwir y byddai twll yn y to weithiau, ond rhaid oedd bod yn fanwl gyda hwnnw, neu trethid ef fel skylight; cerrid y ddeddf allan yn drwyadl iawn.
Treth felltigedig oedd treth y golau. Beth bynnag oedd ei hamcan, ei heffaith oedd cadw'r tlodion i fyw mewn cytiau tywyll, myglyd, ac afiach.
Yr oedd treth y golau wedi ei diddymu cyn i mi ddechrau defnyddio golau. Ond yr oedd ei hôl yn hawdd iawn ei weled ar y bythynnod. Y mae yn fy meddiant Assessor's Warrant a ddaeth i'm taid yn 1815 pan oedd ef yn pennu'r dreth ar un o blwyfi Cwm Eithin.
No. 7 Assessed Taxes y gelwir y pamffled o chwech ar hugain tudalen. Rhoddaf ran o'i gynnwys i mewn fel y gweler y gwahanol bethau oedd yn dyfod i mewn am dreth y Llywodraeth yr adeg honno.
Yna rhoddaf ychydig o'r manylion am dreth y golau gan mai hi sydd o dan sylw, ac mai hi oedd yn gwasgu ar y tlodion, ac yn foddion i hau hadau afiechyd yn nheulu'r bythynnwr.
Table of Contents. General observations—Duties on Windows—Inhabited Houses—Domestic Male Servants—Under Gardeners, &c., and Persons in Husbandry occasionally employed as Domestic Servants—Stewards, Bailiffs, &c.—Travellers or Riders Clerks, Book Keepers, and Office Keepers—Shopmen—Warehousemen or Porters—Stable Keepers—Servants looking after Race Horses—Waiters—Occasional Servants—Servants let to hire—Stage Coachmen and Guards —Carriages with four Wheels—Carriages let to hire—Carriages with less than four Wheels—Taxed Carts—Coachmakers and Sellers of Carriages—Carriages made for sale, or sold by Auction or Commission—Horses for riding or drawing Carriages—Horses let to Hire—Race Horses and Mules—Dogs—Horse Dealers—Hair Powder—Armorial Bearings. Allowance for Children.
Yr oedd y cyfarwyddiadau sut i'r trethwr gario ei waith allan yn fanwl, a'r gosb yn drom iawn arno pe buasai yn teimlo ar ei galon adael i weddw dlawd weled goleuni'r haul o'i bwthyn heb dalu amdano. Dywedir oni chariai ei waith allan yn fanwl am bob tŷ yn ei blwyf, "you will forfeit a sum not exceeding Twenty pounds, nor less than Five pounds."
Wele un o'r nifer rheolau:—
Duties on Houses and Windows.
You are to charge all skylights and windows or lights, however constructed, in staircases, garrets, cellars, passages, and all other parts of dwelling houses, whether they are in the exterior or interior parts of the house.
Ymddengys fod rhywun yn rhywle (yn Sir Fôn, mae'n debyg) wedi cynllunio i wneud i un ffenestr oleuo i ddwy ystafell, ond fel y canlyn y dywaid y warrant:—
Every window which gives light into more rooms, landings, or stories, than one, is to be charged as so many windows as there are rooms, landings, or stories, enlightened thereby.
Ond ni waeth heb fanylu. Yna rhoddir tabl yn dangos swm y dreth—
1 to 6 windows 6/6. Houses having less than 7 windows, if charged to the Inhabited House Duty, are liable to the Duty of 8/— and if not charged to that Duty, only to 6/6. 7 windows 20/— 10 windows £2/16/— 20 windows £11/4/6. 30 windows £19/12/6. 50 windows £34/10/—. 100 windows, £58/17/— 180 windows £93/2/6, and 3/6 per window above that number.
Gall rhywun ddywedyd nad oedd chwe swllt a chwe cheiniog neu wyth swllt yn y flwyddyn ddim ond swm bach iawn. Felly yr edrych yn ein dyddiau ni, ond yr oedd yn swm anferth yr adeg honno, ac allan o gyrraedd cannoedd o deuluoedd tlodion. Byddai llawer gwraig weddw yn byw ar swllt neu swllt a chwe cheiniog o'r plwy, a llawer teulu a phump neu chwech o blant a dim ond pedwar neu bum swllt o gyflog wythnosol yn dyfod i mewn. Ac nid oedd dim i'w wneud ond codi tai heb ffenestri, a chaewyd cannoedd o ffenestri i arbed y dreth. Gellir gweled ambell un ohonynt heddiw. Ac fe ddengys y rheol a ganlyn mai peth cyffredin iawn oedd cau ffenestri i fyny:—
No window or light in any dwelling house is exempt from the Duties, by reason of its being stopped up, unless it shall be effectually done with stone or brick, or with the same kind of materials whereof that part of the outside walls of such dwelling— house does chiefly consist, or unless it was stopped up effect— ually with plaster upon lath, previous to the 10th May, 1798, nor any windows in the roof of such dwelling—house, unless stopped up effectually with materials similar to the outside of the roof thereof.
Mae llawer o gwyno ar y tai yn ein dyddiau ni, a diau fod rhes— wm dros wneud, ac y mae llawer wedi eu condemnio fel rhai anghymwys i fyw ynddynt; ond pe bai bosibl cael ambell hen ŵr neu wraig dlawd, a fu'n byw mewn caban unnos dwy ystafell, ac a fagodd dyaid o blant ynddo, i olwg aml dŷ sydd wedi ei gondemnio, a gofyn iddynt beth a feddylient ohono, eu hateb diamwys fyddai, "Mae y tŷ yma yn ffit i'r un gŵr bonheddig."
Rhoddaf eto y dyfyniad a ganlyn allan o Encyclopaedia Britannica, eleventh edition, cyf. 28, 1911, yn dangos hanes dechrau a diwedd Treth y Golau —
Window Tax.—A tax first levied in England in the year 1697 for the purpose of defraying the expenses and making up the deficiency arising from clipped and defaced coin in the recoinage of silver during the reign of William III. It was an assessed tax on the rental value of the house, levied according to the number of windows and openings on houses having more than six windows and worth more than £5 per annum. Owing to the method of assessment the tax fell with peculiar hardship on the middle classes, and to this day traces of the endeavours to lighten its burden may be seen in numerous bricked—up windows. The revenue derived from the tax in the first year of its levy amounted to £1,200,000. The tax was increased no fewer than six times between 1747 and 1808, but was reduced in 1823. There was a strong agitation in favour of the abolition of the tax during the winter of 1850—1851, and it was accordingly repealed on the 24th of July, 1851, and a tax on inhabited houses substituted. The tax contributed £1,856,000 to the Imperial Revenue the year before its repeal. There were in England in that year about 6,000 houses having fifty windows and upwards; about 275,000 having ten windows and upwards, and about 725,000 having seven windows or less.
In France there is still a tax on doors and windows, and this forms an appreciable amount of the revenue.
Er eu tlodi a'u bychander, cu iawn oedd bythynnod Cymru. Dyma bennill o eiddo Ieuan Gwynedd[2] a fagwyd yn un ohonynt:
O dlysion Fythod Cymru, sy'n mygu yn y glyn,
Ac ar y gwyrddion lethrau, a'u muriau oll yn wyn!
Mae'r gwenyn wrth eu talcen neu gysgod clawdd yr ardd,
A'r rhosyn coch a'r lili o'u deutu yno dardd.
CABAN UNNOS
Yr oedd yn hen arferiad yng Nghymru godi cabanau unnos, neu y tai tywyrch fel y gelwid hwy. Codid hwy ar y cytir. Pan feddyliai hen lanc am briodi, chwiliai am nifer dda o gyfeillion, ac aent ati gyda'r gwyll i godi tŷ tywyrch. Byddai'n rhaid i'r tŷ fod wedi ei orffen cyn i'r haul godi, a mwg wedi dyfod allan trwy'r simnai; ac os ceid amser a digon o gymorth, gwneid clawdd tywyrch o amgylch darn o dir i wneud gardd, a byddai'r tŷ a'r ardd yn eiddo bythol i'r adeiladydd. Ond gofidus yw dywedyd i dirfeddianwyr Cymru ddwyn cannoedd ohonynt trwy eu traha a'u hystrywiau.
Yr oedd nifer o dai tywyrch o gylch fy hen gartre. Bûm mewn pedwar ohonynt pan oeddwn yn hogyn. Yr oedd teuluoedd yn byw ynddynt, a bûm yn chware lawer tro mewn dau ohonynt. Magwyd chwech o blant yn un ohonynt. Yr oedd yno ryw fath o derfyn ar ei ganol i wneud dwy ystafell, ac yr oedd y tad wedi rhoi croglofft isel wrth ben y siamber i rai o'r plant gysgu ynddi. Tyfodd y plant i gyd i fyny yn grefyddol a moesol, a bu y rhan fwyaf ohonynt fyw i weled hen ddyddiau. Nid oes namyn dwy flynedd er pan fu'r mab hynaf a'r ail ferch farw—y ddau wedi croesi eu pedwar ugain mlwydd oed. Ni chyfarfum erioed â neb â golwg mwy hapus arni nag Ellen Richards, eu mam; bob amser yn chwerthin yng nghanol y plant a mwg y tân mawn. Tebyg mai'r caban unnos oedd ym meddwi y bardd pan ganodd:
Mi brynais gan y brenin
Frig y borfa a chreigiau Berwyn,
I fildio Castell ar le gwastad
Uwchlaw Corwen gyda'm cariad.[3]
Diau fod tai da yn rhai o'r ffermydd mwyaf, ond gellid yn
briodol iawn gymhwyso'r pennill toddedig a ganlyn at lawer
ohonynt:
Sion a Sian yn byw yn Tŷ Mawr,
Côr a'r ysgubor bron d'od i lawr;
Tŷ heb ddim to, grât heb ddim tân-
Dyn a helpo Sion a Sian.
Enwau y pedwar caban unnos a gofiaf fi yng Nghwm Eithin oedd Tŷ Dafydd Richard, Tŷ John y Cwmon, Tŷ Twyrch, a Bryn Bras. Fe welir fod enw'r olaf yn swnio'n fawreddog, ac y mae tipyn o ramant yn perthyn i'w hanes. Yr oedd y gŵr a'i hadeiladodd, ar ôl bod yn ffarmio mewn gwedd weddol eang, wedi dyfod i lawr yn y byd, wedi methu ac wedi bod yn nwylo gwŷr y cwils, fel y dywaid. Aeth i Birkenhead i dreio bydio, ond daeth yn ôl i Gwm Eithin, ac adeiladodd Fryn Bras. Cofiaf ef yno gyda Mari ei wraig, ac enillai ei damaid a'i lymaid wrth fyned o gwmpas y wlad i brynu 'sanau, a myned â hwy i'r marchnadoedd i'w gwerthu. Yr oedd yn fardd neu rigymwr, a rhyw natur llenydda ynddo. Yn ffodus cefais fenthyg pamffledyn a gyhoeddodd. Enw y pamffledyn yw: Tecel, sef ychydig o ganiadau gan hen Wr Godrau'r Mynydd, sef Gabriel Parry, Llanrwst. Argraffwyd gan J. Jones, 1854. Y mae iddo bedwar tudalen ar hugain, a'i bris yn chwecheiniog, y rhagymadrodd wedi ei arwyddo "Bryn Bras Tachwedd 14, 1854. Heblaw y caneuon, ceir hanes bywyd rhamantus yr awdur. Ond nid oes ofod i ddyfynnu ond y darn lle y sonnir am adeiladu'r caban unnos.
"Wedi dyfod adre o Birkenhead, ac eisieu anedd-dy i fyw, meddyliais godi tŷ ar y mynydd, ac felly y gwneis trwy gynorthwy cymdogion caredig, ac nid oedd yn fy mhoced ond 12s., ni feddwn na rhaw, na chaib, na throsol, ond y cyfan yn arfau benthyg. Dywedais fel y canlyn:—
Mi godaf dŷ newydd, mi godaf' dŷ newydd, |
O dywyrch a cherig, o dywyrch a cherig, |