Neidio i'r cynnwys

Cwm Eithin/Rhagarweiniad

Oddi ar Wicidestun
Cynnwys Cwm Eithin

gan Hugh Evans, Lerpwl

Caledi'r Amseroedd Cyni'r Werin


RHAGARWEINIAD

SAIF Cwm Eithin yng nghanol mynyddoedd Cymru, o ddeg i bymtheng milltir a mwy o bob man. Rhed afon fechan, risialaidd, ar hyd ei waelod, a ffordd dyrpeg ar hyd ei lannau. Un o'r mannau iachaf yn y wlad ydyw. O ben un o'i fryniau gwelir copâu y Berwyn, Cadair Idris, Arennig, yr Aran, Carneddi Dafydd a Llewelyn, a Hiraethog, a'r Wyddfa, fel rhes o gadfridogion o'i amgylch. Oherwydd arfer craffu i'r pellter, ni flinid y trigolion gan olwg byr.

Ni ellir galw Cwm Eithin yn gwm yn ystyr fanylaf y gair; nid yw, fel cymoedd cyffredin Cymru, yn ymagor o un o'i ddyffrynnoedd ac yn darfod yn bigfain mewn mynydd. Rhan o wlad ydyw, wedi ei gau o bobtu gan fynyddoedd, a'i ddau ben yn ymagor i ddyffrynnoedd eang a bras. Mae crwb yn ei ganol, a rhed y dwfr allan o'i ddau ben. Ond gellir ei alw yn gwm yn yr un ystyr ag y gelwir y rhimyn môr sy rhwng Môn ac Arfon yn afon. Ac fel y rhed nifer o aberoedd Môn ac Arfon i Fenai, felly y rhed nifer o fân gymoedd i Gwm Eithin. Y mae o ugain i ddeng milltir ar hugain o hyd, yn goediog a ffrwythlon iawn yn ei ddau ben. Ond â rhan fechan yn ei ganol y mae a fynnwyf yn fwyaf neilltuol, y rhan gulaf, noethlymaf, lle y tyf llawer mwy o eithin nag o goed; felly gwelir priodoldeb yr enw.

Nid oedd mwg y trên wedi ei ddifwyno pan welais i ef gyntaf, ac y mae uwchlaw ugain milltir ohono eto heb yr un trên. Yr adeg honno yr oedd deng milltir ar hugain o'r pen a alwem ni yn ben uchaf i fyned i nôl llwyth o lo; ac er y llosgid cryn lawer o fawn yno, nid oedd awr o'r nos na'r dydd na fyddai gwedd- oedd yn myned ôl a blaen i gyrchu glo a chalch. Cychwynnai y rhai pellaf o wyth i ddeg o'r gloch y nos, fel y cyrhaeddent y giât gyntaf pan fyddai'n troi hanner nos, ac ymdrechent ei chyrraedd yn ôl drachefn cyn hanner nos drannoeth, fel na byddai'n rhaid talu'r un giât fwy nag unwaith, yr hyn a gostiai, fel y gwelir, am geffyl a throl rôt, a dwy geiniog am bob ceffyl yn rhagor, os da y cofiaf. Felly cymerai'r daith i'r glo oddeutu pedair awr ar hugain o'r pen uchaf.

Yr oedd eisiau llanc gwrol a phenderfynol i fentro trwy goedwigoedd Bwlchrhisgog ar noswaith dywyll wrtho'i hun, oherwydd

yr oedd yno ysbryd, a llawer un wedi ei weled. Yr oedd yno ladron hefyd, ac aml un wedi colli ei watch a chymaint ag a feddai o bres. Felly trefnai'r bechgyn i fyned yn finteioedd gyda'i gilydd. Meddyliai'r bechgyn lawer o'r siwrnai i'r glo. Diwrnod i'w gofio ym mywyd hogyn oedd y diwrnod cyntaf yr aeth i'r glo. Mawr fyddai'r paratoi y diwrnod cynt, golchi ac iro'r drol, glanhau gêr y ceffylau a phlethu eu cynffonnau. A chymerai 'r ceffylau hwythau ddiddordeb mawr yn y peth. O mor heini a gwisgi y cychwynnent! Nid oes gwestiwn yn fy meddwl nad yw ceffyl yn greadur balch, a gŵyr yn iawn pan fo'r hogyn gyrru'r wedd wedi plethu ei gynffon, a rhoddi seren bres ar ei dalcen a rhubanau yn ei fwng. A pha le y gweir golygfa harddach a mwy arddunol na gwedd o dri neu bedwar ceffyl yn cychwyn i siwrnai ac yn cystadlu â'i gilydd am y mwyaf urddasol i ddal eu pennau, ac am y mwyaf heini i godi cu traed ? Pa hogyn gyrru'r wedd na theimlodd iasau o hyfrydwch pan fyddai'n rhoi clec ar ei chwip i gychwyn, a'r ceffylau yn prancio ac yn dawnsio mewn llawenydd wrth glywed ei glec, fel pe'n dywedyd ynddynt eu hunain, " Mi gymerwn ni arnom ddychrynu rhag dy ofn di a'th chwip i'th blesio di, ond mi wyddom ni yn dda nad oes llawer o berygl yn dy glec di ?"

Er hynny siwrnai ddigon digalon oedd siwrnai i'r glo ar dywydd garw rhew ac eira. Ni feddyliai'r hogiau ddim o golli cysgu am noswaith neu ddwy, ac ni feddyliodd yr un ohonynt erioed am overtime am wneuthur hynny. Ond byddai'r oerni a'r gwlybaniaeth yn dywedyd arnynt. Clywais am hen wraig o Lanuwchllyn, a arferai aros ar ei thraed trwy'r nos i gadw tan- llwyth o dân yn y grât rhag ofn i'r mab gael annwyd wrth fyned i'r glo, ond am lanciau Cwm Eithin, gadewid iddynt hwy, druain, ymdaro orau y medrent yn yr oerni.

Y mae'r hen giatiau wedi eu tynnu ers llawer dydd, ond y mae llawer o dai'r giatiau yn aros eto, a diau fod llawer teithiwr mewn modur yn methu deall beth ydynt. Tai bach oeddynt, isel, un- llawr, a ffenestr y gellid gweled i ddau gyfeiriad ohoni. Cofiaf yn dda un o'r hen drigolion, Huw Morgan, a gymerth ran flaen- llaw yn helynt Y 'Becca, pan dorrwyd yr hen giatiau, ac y taflwyd hwy i'r afonydd. Cafodd ei anfon am dymor i'r carchar i Ruthun. Clywais ef yn adrodd lawer tro lle mor druenus oedd y carchar yr adeg honno.

Rhedai y "goits fawr" ar hyd y tyrpeg yn yr haf; ond nid ar gyfer pobl Cwm Eithin yr oedd hi, "byddigions" a fyddai hi yn eu cludo. Pe gwelsid un o'r trigolion ar ei phen, buasai yn ddigon o waith siarad am fis. Ar gefnau eu ceffylau, yn eu cerbydau, yn eu troliau, neu ar eu traed yr aent hwy i bob man. Ni feddylient ddim o bicio i'r dref ryw ddeng milltir o ffordd a chludo baich yn ôl a blaen. Yr oeddynt yn gerddwyr ardderchog. Ar hyd y ffordd dyrpeg yr âi gyrroedd o geffylau, gwartheg, moch, defaid a gwyddau o Gymru i lawr i Loegr. Byddai'r caeau o gylch pentref Llanaled ar adegau neilltuol o'r flwyddyn yn llawn o anifeiliaid yn aros dros y nos. Yno pedolid y gwartheg rhag i'w traed friwio. Gydag un o'r gyrroedd hyn yr aeth Dic Siôn Dafydd i lawr i Loegr, "a'i drwyn o fewn llathen i gynffon llo." Gofynnid amynedd mawr i yrru gwyddau, gan mai cerddwyr gwael iawn ydynt.

Deallaf yr arferid pedoli gwyddau yn yr hen amser, trwy roddi eu traed mewn pyg, ond nid yn fy amser i. Nid wyf yn cofio erioed i mi weled gyr o ieir yn pasio, na, fe fynnent hwy gael eu cario. Clywais i Joe yr Henblas geisio myned â gyr i Ruthun un- waith, ond i'r ymdrech fyned yn fethiant. Yr oedd Joe dipyn yn ddiniweitiach na'r cyffredin. Un noswaith dywedodd ei feistres wrtho, " Joe, mae'n rhaid inni gael yr ieir yn barod i fyned i Ruthun; ni fydd dim amser yn y bore." Aeth Joe allan ar y gair a chododd yr holl ieir o'u clwydi, gan feddwl eu hel at ei gilydd; a dyna lle bu'n rhedeg ar eu holau o'r naill fan i'r llall nes llwyr ddiffygio. Aeth i'r tŷ yn ôl yn chwys diferol. "Meistres," meddai, "fedra'i gael trefn yn y byd ar yr hen ieir yna. Ma' nhw'n rhedeg un gog gog ffordd yma a'r llall gog gog ffordd arall."

Gwelir felly, er mai mewn cwm y trigiannai pobl Cwm Eithin, nad oeddynt anhysbys am y byd oddi allan. Gwyddent fod un pen i'r cwm yn agor i wlad fawr gyfoethog a bras a elwid Lloegr. Yr oedd ganddynt dri o brofion diymwad o'i bodolaeth.

1.—Gwelsent filoedd ar filoedd o geffylau, gwartheg, defaid, moch, a gwyddau ar eu ffordd yno, ac ni byddai'r un ohonynt byth yn dyfod yn ôl. Dychwelai'r gyrwyr gan ddywedyd bod yno ddigon o le i ragor; rhaid ei bod yn wlad fawr.

2.—Yr oedd gan y porthmyn a ddeuai oddiyno ddigonedd o arian i dalu am yr anifeiliaid; rhaid ei bod yn wlad gyfoethog iawn.

3.—Arferai nifer o'r dynion fyned i Sir Amwythig bob blwyddyn i'r cynhaeaf i fedi gwenith, a dychwelent gan ddywedyd eu bod yn cael eu gwala a'u gweddill o fara gwyn. Rhaid ei bod yn wlad fras. Parai hynny i drigolion Cwm Eithin a fywiai ar fara haidd, awyddu am wynnach bwyd, ond nid "gloywach nen." Gwyddent hefyd am fodolaeth Sir Fôn yn rhywle o'r tu ôl i fynyddoedd Eryri, a welent yn cusanu'r cymylau gwynion bob diwrnod braf, ac yr oedd ganddynt dri o brofion diymwad o'i bodolaeth: 1. Deuai John Elias o Fôn i sasiwn y Bala bob blwyddyn; 2. Yr oedd hyn a hyn o filltiroedd i "Holyhead" yn gerfiedig ar bob carreg filltir ar hyd y Cwm, ac arferai'r tadau ddywedyd wrth y plant mai ym mhen draw Sir Fôn yr oedd Holyhead, ac mai'r ffordd honno y deuai'r trampars o Iwerddon i Gwm Eithin; 3. Yr oedd yno ŵr o Fôn wedi ymsefydlu yng Nghwm Eithin. Adweinid ef wrth yr enw " Monyn." Cwmon oedd wrth ei alwedigaeth, dyn afrosgo, a'i draed fel bysedd cloc ar chwarter wedi naw. Buasech yn synnu, wrth ei weled, pa fodd yr oedd wedi cerdded yr holl ffordd o Fôn i Gwm Eithin. Ond yno yr oedd, ac ni ddylid synnu am ddim a wna pobl Sir Fôn; meddant ryw ynni a phenderfyniad i fyned drwy anawsterau nad ydym ni, drigolion y berfeddwlad, yn feddiannol arnynt. Y maent i'w cael ym mhob rhan o'r byd, ac, ond odid, ymhellach o lawer na hynny. Yn debyg fel y clywais "Dyfed" yn dywedyd am y Cardis. Un tro yr oedd pwyllgor cryf o Saeson wedi ei ffurfio i gael gafael ar ben draw'r byd Dewiswyd cwmni o wŷr dewrion a gwydn at y gwaith. Cychwynasant ar eu taith beryglus ac anturiaethus. Ar ôl chwilio, dioddef caledi anhygoel, a bod mewn enbydrwydd am eu heinioes, cyraeddasant at wal fawr, uchel, gwal pen draw'r byd. Nid oedd lle yn y byd yr ochr draw i'r wal. Ar ôl chwilio tipyn arni, gosod yr Union Jack i gyhwfan oddi arni, llongyfarch ei gilydd ar eu llwyddiant mawr, gloddesta ar y clod a ddeuai iddynt pan ddychwelent, hwyliasant i gychwyn adref. Meddai un ohonynt, oedd ychydig mwy henffel na'r gweddill, "Fase ddim gwell i ni ddringo i ben y wal, rhag ofn fod yno rywbeth yr ochr draw iddi? " Cytunwyd i wneuthur hynny, a phan gyraeddasant ei phen, beth a welent, er eu syndod, ond Cardi yn eistedd ar ei sodlau yn smocio'n braf yr ochr draw i wal pen draw'r byd. Ac ni synnwn i ddim, pe buasent wedi myned ychydig ymhellach, na ddaethent ar draws gŵr o Fôn yn chwilio am glai i wneuthur brics, neu yn ceisio symud ychydig ar y tywod â'i droed i wneuthur sylfaen i godi tŷ.

Deuai trigolion Cwm Eithin i gysylltiad â phob math o bobl, o'r pregethwr teithiol i lawr at y prynwyr gwartheg a'r "byddigions" a ddeuai yno i saethu.

Nodiadau

[golygu]