Cwm Eithin/Caledi'r Amseroedd Cyni'r Werin

Oddi ar Wicidestun
Rhagarweiniad Cwm Eithin

gan Hugh Evans, Lerpwl

Y Trigolion: Y Ffermwyr


PENNOD I

Y CYFNOD. CALEDI'R AMSEROEDD.
CYNI'R WERIN

AWN yn ôl yn awr i ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gan i inni dreulio bore f'oes yng nghwmni fy nhaid a'm nain, oedd wedi eu geni ddiwedd y ddeunawfed ganrif, mae sŵn caledi'r amseroedd ddechrau'r ganrif ddiweddaf yn aros yn fy nghlustiau. Llawer ochenaid drom a glywais yn esgyn o galon fy nain a'm mam wrth sôn ohonynt am galedi’r amseroedd; a chyn ceisio dechrau â'm hatgofion o wahanol agweddau bywyd Cwm Eithin, credaf nad anniddorol fydd disgrifiad o galedi'r amseroedd, yr amser caletaf, mae’n debyg, a welodd Cymru yn ei hanes; hynny yw, nid wyf yn meddwl y bu cyfnod yn hanes Cymru a mwy o'i thrigolion yn dioddef prinder bwyd.

Yr oedd cyfleusterau teithio ac arferion y wlad yn wahanol iawn i'r hyn ydynt heddiw.

" Roedd hon mewn bri cyn bod un trên
Yn cario nain trwy'i hoes,"

meddir am hen ffon fy nain, cyn dyfod y troliau a'r cerbydau a'r wagen fawr i'r wlad. Ychydig iawn o droliau oedd yng Nghymru ddechrau'r ganrif ddiweddaf. Fe ddywedir mai Lawrence Jones, tad "Jac Glan y Gors," a ddaeth â'r gyntaf i Gerrig-y-drudion. Dywaid Charles Ashton.[1] hanes y drol gyntaf yn ochrau y Berwyn. Mynnai meibion hen ffarmwr brynu trol, y newydd beth anhydrin. Un diwrnod, pan aeth y tad i ffair y dref, aeth y bechgyn ati i deilo. Ar ôl dychwelyd, gofynnodd yr hen ŵr iddynt sut yr oeddynt wedi teilo cymaint. Addefasant hwythau iddynt ddefnyddio'r drol. Gwylltiodd yntau yn gaclwm; ni allai gredu y tyfai'r maes ar ôl cario tail iddo â throl, a mynnai i'r bechgyn ei gario'n ôl. Yr hen arfer oedd cario popeth bron ar gefn ceffyl, y pilyn pwn a chawell o boptu a wasanaethai i gludo. Defnyddid y ferfa freichiau i deilo yn aml Gan nad oedd troliau, nid oedd ffyrdd o ddim trefn. Gwnaed ffyrdd newyddion, a lledwyd yr hen rai bron ym mhob rhan o Gymru, a Lloegr o ran hynny. Heddiw, os sylwir, lle mae ffordd wedi ei thorri trwy ochr gallt, fe welir olion yr hen ffordd yn myned dros ben yr allt.

Yn 1780 y dechreuodd y goits fawr redeg o Lundain i Gaergybi; ond yr oedd y ffordd yn hynod o ddrwg. Yn 1810 penodwyd Comisiwn gan y Llywodraeth i ddwyn adroddiad am ansawdd y ffordd o Lundain i Gaergybi, ac fel hyn y dywedir am y rhan sydd yn rhedeg trwy Gwm Eithin:—

Many parts are extremely dangerous for a coach to travel upon. . . . The road is very narrow, long, and steep; has no side fence, except about a foot and a half of mould or dirt, thrown up to prevent carriages falling down three or four hundred feet into the river. Stage-coaches have been frequently overturned and broken down from the badness of the road, and the mails have been overturned.... There are a number of dangerous precipices, steep hills, and difficult narrow turnings......."

Nid oedd pethau nemor gwell yn Lloegr. Yn ei ysgrifau doniol o atgofion am Lerpwl a Chymry Lerpwl, yn Y Tyst, Hydref 16, 1868, a Mai 7, 1869, dywaid "Corfanydd," a anwyd yn Old Hall Street yn 1806, am Lerpwl:—

"Yn 1730 un cerbyd yn unig oedd o fewn y dref i gyd. Nid oedd yr un Goach Fawr (stage coach) yn dod yn nês iddi na thref Warrington, yr hon sydd ddeunaw milltir o ffordd, a hynny am fod y ffordd mor ddrwg fel nad ellid ei thrafaelio. . ."

"Cyn 1817 goleuid y dref ag olew, lampau nad oeddynt fawr well na channwyll frwyn. Ar noswaith dywyll arferai boneddigion gael Linkman i fynd o'u blaen, a rhaff at braffter braich dyn, wedi ei thrwytho mewn pyg, fel y llosgai yn ffagl fawr. Ac yr oedd llawn gymaint o fwg yn eu canlyn : ac nid hawdd oedd eu diffodd. . . Felly dyfeisiwyd y ffagl ddiffoddydd, nid yn unig i ddiffodd y ffaglen, ond hefyd i addurno y gwaith haearn, y ddau bost a gynhaliai y bwa lle y safai y llusern a fyddai o flaen drws tai boneddigion."

Yn ystod Rhyfel Napoleon yr oedd y wlad hon, fel holl wledydd Ewrop, wedi ei dwyn i dlodi ac angen mawr. Yr oedd prinder bwyd trwy'r byd. Yn ystod y cyfnod hwn yr anfonwyd Mr. John Gladstone, tad yr Anrhydeddus William Ewart Gladstone, i'r America i chwilio am ŷd; ac anfonwyd pedair ar hugain o longau ar ei ôl. Ond methodd â chael dim, a dyna'r pryd y dangosodd ei fedr trwy brynu nwyddau gwerthadwy eraill yn lle dyfod â'r llongau adre'n wag. Yn ychwanegol at ddinistr y Rhyfel caed nifer o gynhaeafau mall, hynny yw, tymhorau mor wlyb fel y methwyd â chael yr ŷd yn sych. Ni ellid ei bobi gan ei fod fel toes neu glai; ni ellid gwneud dim ohono ond cacen gri ar y radell. Cyrhaeddodd y prinder ei eithaf nod, yn enwedig yng Nghymru, yn 1816, pryd y dywedir na chaed ond tri neu bedwar o ddyddiau sych o ddechrau Mai hyd ddiwedd Hydref. Bu cannoedd a miloedd farw o newyn a nychtod trwy ddiffyg cynhaliaeth briodol. Dyma bennill o gywydd a ganodd " Gwallter Mechain " i'r flwyddyn honno :-

CYWYDD Y CYNAUAF GWLYB, 1816.[2]

'Leni ni bu hardd-gu hin,
Ni ffynnodd ein Gorphenaf,
Pob dyffryn a glyn yn glaf;
Yn Awst, gwlyb wair mewn ystod,
Medi heb fedi i fod.


Er yr angen a'r tlodi, bu'r Seneddwyr, sef y tirfeddianwyr, yn ddigon calon galed i basio Deddf 1815 nad oedd ddim gwenith i'w ollwng i'r wlad nes y byddai yn £4 y chwarter; ac yr oedd yr haidd yn brin ac uchel ei bris. Mewn gwirionedd yr oedd popeth at wasanaeth teulu yn ddrud iawn. Yr oedd fy nhaid a'm nain yn cadw siop yn un o bentrefi'r cylch y blynyddoedd hyn, ac yn ffodus, ymysg toreth o hen bapurau a adawodd fy nhaid ar ei ôl ac a ddaeth i'm meddiant i, mae lliaws o invoices y merchants o Gaer y deliai a hwy' yn nodi'r prisiau. Gweler enghraifft ar y tudalen nesaf.

Enghraifft o Grocer's Bill, 1816.

—————————————

Yr unig nwydd rhad at angen teulu y mae'n debyg oedd y glo. Y mae'n fy meddiant ddau docyn yn dangos ei bris, un am tua 1840 a'r llall am 1853. Fel y gwelir, yr oedd y glo yn rhad iawn y pryd hynny; diau ei fod yn rhatach yn 1815.

Ni wn beth a feddylid yn ein dyddiau ni pe gellid cael glo am y pris uchod. Ond nid oedd pris y glo nac yma nac acw i drigolion Cwm Eithin. Mawn a losgai y mwyafrif y dyddiau hynny, a chael bwyd oedd y pwnc mawr. Clywais aml stori pan oeddwn yn blentyn a rwygai fy nghalon wrth ei gwrando, a greai ynof ofn a braw, ac a wnâi imi deimlo'n wasaidd iawn ar un llaw, ac o'r ochr arall a greodd ryw atgasedd ynof at ryw ddosbarth o bobl, yn enwedig y tirfeddianwyr a'r ystiwardiaid. Rhoddaf un hanesyn sydd yn aros yn fyw iawn yn fy nghof. Yn yr hen amser gynt, yr oedd gweu yn un o brif ddiwydiannau Cymru, os nad y prif un, yn enwedig ymhlith y merched. Medrai pob merch weu, a chadwyd llawer teulu rhag newynu trwy fedrusrwydd y fam a'r merched i weu. Medrai y tad a'r meibion hefyd ar y grefft, ac nid peth anghyffredin oedd eu gweled hwythau yn treulio "wedi-bo-nos" y gaeaf bob un gyda'i hosan, yn cynorthwyo'r merched i gael ychydig o ddwsinau o barau yn barod i fynd i ffair neu farchnad i gyfarfod y saneuwr er cael arian i brynu lluniaeth i'r teulu a thalu'r rhent. Pan oeddwn yn fachgen ieuanc clywais Richard Jones, Tŷ Cerrig, yn adrodd hanes fel y cadwodd ei fam ef ei theulu rhag y newyn du pan oedd ef yn fachgen bach. Yr oedd Richard Jones yn gefnder i "Jac Glan y Gors," yn ŵr o gof clir a chrebwyll pur gryf. Yr oedd wedi croesi'r deg a thrigain oed pan oedd yn mynd dros droeon ei yrfa gyda'm taid a'm nain, ac y mae dros drigain mlynedd er hynny. Bu Richard Jones farw Awst 21, 1875, yn chwech a phedwar ugain mlwydd oed. Felly y mae dros gant ac ugain o flynyddoedd er yr amser y cyfeiriai ef ato, blynyddoedd cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr oedd yn gyfoed â'm taid, a ganwyd ef 1789 neu 1790.

Ffarm fechan oedd Tŷ Cerrig ar fin y ffordd dyrpeg, yn godro pedair neu bump o wartheg, yn cadw un ceffyl, yn magu pedwar neu bump o loeau, yn pesgi dau neu dri o foch, ac yn lladd un at eu hiws, a lle i tua hanner cant o ddefaid ar y mynydd. Fel hyn yr adroddai Richard Jones, ac er i amryw bethau fyned dros fy mhen er pan glywais ef, credaf y gallaf adrodd ei stori air am air. Cofiaf y wedd oedd ar ei wyneb wrth adrodd fel y cadwodd ei fam ef a'r teulu yn fyw, ac fel y nodiai fy nain Amen i'r hyn a ddywedai, a thaflai fy nhaid a hithau ambell gwestiwn a gair i mewn i'r ymddiddan:—

"Pan oeddwn yn hogyn bach cofiaf yn dda fel y cadwodd mam nhad, a hithau, a chriw ohonom ninnau blant, rhag llwgu un flwyddyn. Yr oedd yr ŷd wedi ci ddifetha bron i gyd ar y maes oherwydd cynhaeaf diweddar, a diffyg tywydd i'w gael i mewn Yr oedd hynny oedd yn weddill yn fall, ac yn dda i ddim ond yn fwyd moch. Yr ŷd yn ddrud iawn, a ninnau heb ddim arian i'w brynu. Yr oedd canoedd o deuluoedd yng Nghymru yr un fath â ninnau; y gaeaf wedi dyfod, a newyn yn hyll dremu yn ein hwyneb. Fy nhad bron a gwallgofi wrth feddwl am y gaeaf du oedd o'n blaen. Un noson torrodd fy mam ar y distawrwydd llethol drwy ddywedyd wrth fy nhad, ' Mi wna i fargen â thi; mi ofala i am fwyd i ni a'r plant trwy y gaeaf os gwnei di, heblaw gofalu am y gaseg, y gwartheg a'r moch, gorddi, golchi'r llestri, gwneud y gwlâu ac ysgubo'r tŷ. Mi wna i y menyn fy hunan.' 'Sut yr wyt ti yn mynd i wneud?' meddai fy nhad, a'i ddagrau yn treiglo i lawr ei ruddiau. 'Mi â i ati i weu,' ebe hithau. 'Mae yma wlân. Rhaid i ti ei gardio bob yn dipyn ac i minnau ei nyddu.' Gwnaed y fargen, fy nhad yn gwneud gwaith y tŷ heblaw gwaith y ffarm, a'm mam yn gweu. Codai yn fore ac arhosai ar ei thraed yn hwyr. Nid oedd yn cael ond pum neu chwech awr o gysgu allan o'r pedair awr ar hugain. Ei thasg oedd gweu tair hosan bob dydd."

"Unwaith bob pythefnos fe âi fy mam ar gefn y gaseg i Rithyn, dros Fynydd Hiraethog, pellter o tua phymtheng milltir, a'i phecyn sane gyd â hi i'w gwerthu i'r saneuwyr, ac am yr arian prynai beced o haidd a deuai ag ef adre gyd â hi, i'w falu i wneud bwyd i ni. Felly cadwodd ni yn fyw hyd nes y caed cynhaeaf drachefn."

Cofier nad rhyw socs byrion a wisgid yr oes honno, 'sanau yn cyrraedd dros y pen glin, yn mesur o flaen y troed i'r top yn agos i dair troedfedd.

Onid oes rhyw reddf ryfedd mewn mam i ofalu am ei theulu? Yr oedd mam Richard Jones, Tŷ Cerrig, yn arwres o'r dosbarth blaenaf. Dylai ei henw hi a llawer un debyg iddi gael ei gerfio yn y graig â phlwm; ond methaf yn lân yn awr â bod yn sicr o'i henw; Phebi Jones, Tŷ Cerrig, yr wyf yn meddwl, os nad wyf yn cymysgu ac mai dyna oedd enw gwraig Richard Jones. Tybed a oes merch yng Nghymru heddiw a allai wneud gwrhydri tebyg? Diau fod, pe deuai'r angen.

Un o flynyddoedd y prinder mawr y soniai yr hen bobl yn fynych amdani oedd yr un y cyfeiriai Richard Jones ati; blwydd- yn â'r cynhaeaf wedi methu, a'r hyn a allwyd ei gael i'r gadlas yn fall ac yn anfwytadwy; deddfau'r ŷd yn eu llawn rym; y môr yn gaeedig; y bwyd yn brin; y prisiau yn uchel ac allan o gyrraedd y werin dlawd pan geid ychydig ar werth; a'r bobl yn ceisio ymgynnal ar fresych, a gwreiddiau, a thatws a halen. Gresyn na chawsid rhywun medrus i ddisgrifio bywyd gwledig yn un o gymoedd neilltuedig Cymru yn ystod un o'r blynyddoedd hyn, dyweder y flwyddyn yr aeth y tatws yn ddrwg y tro cyntaf. Blwyddyn ddychrynllyd oedd honno yn hanes Cymru Arferai'r hen bobl gyfrif amser o'r adeg yr aeth y tatws yn ddrwg, gan mor ddwfn yr oedd tlodi ac angen y flwyddyn wedi eu hargraffu ar eu meddwl.

Dioddefodd ein cyndadau yng Nghymru oddi wrth dywydd anffafriol, cynhaeaf diweddar, a bara mall. Fe ŵyr pawb sydd yn gwybod rhywbeth am amaethyddiaeth y byddai cynhaeaf ŷd o fis i chwech wythnos yn ddiweddarach yng nghymoedd Cymru hyd o fewn, dyweder, hanner can mlynedd yn ôl nac ydyw yn awr. O hynny ymlaen mae cyfnewidiad graddol wedi digwydd yn amser medi. Fe gofiaf fi yn dda ddynion Cwm Eithin yn myned bob blwyddyn am fis neu ragor o gynhaeaf i Ddyffryn Clwyd a Sir Amwythig, ac yn dyfod yn ôl mewn pryd i'r cynhaeaf i Gwm Eithin. Beth sydd yn cyfrif am y gwahân— aeth nis gwn. Nid wyf yn meddwl mai y rheswm yw bod y tyddynwyr yn hau yn gynharach nag yr arferent, oherwydd byddai yr hen bobl yn ofalus iawn i hau ceirch yng nghyfnod y "Tridiau deryn du a dau lygad Ebrill," sef y tri diwrnod olaf o Fawrth a'r ddau gyntaf o Ebrill os ceid tywydd ffafriol, ac nid ydynt yn hau lawer cynt yn awr. Mae'n debyg fod a wnelo'r dull o drin a gwrteithio'r tir rywbeth â'r cyfnewidiad. Felly gan y byddai y cynhaeaf yn ddiweddar yr oedd yn llawer mwy agored i gael ei ddifa ar y maes ar flwyddyn wlyb nag yn awr. Rhoddaf rai enghreifftiau i ddangos mor ofnadwy o galon galed oedd rhai o gyfoethogion Cymru yr adeg honno, fel y dialent ar y werin dlawd am eu gwaith yn mynnu crefydda yn ôl eu cydwybod a'u syniadau eu hunain, yn lle gwneud fel y gorchmynnid iddynt gan eu huchafiaid. Ni welodd Cymru gyfnod caletach, sef â mwy o brinder bwyd ynddo, na'r rhan olaf o'r ddeunawfed ganrif, a hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr oedd yr un fath yn Iwerddon. Bu miloedd farw yno o newyn; a byddaf yn gwrido wrth feddwl mai Cymro oedd un a fu dros Lywodraeth Prydain Fawr yn difa llawer eraill ohonynt, ac a ddywedodd ar ôl dychwelyd o'r lladdfa, y "dylid anfon byddin i'r Werddon bob saith mlynedd i'w chwynnu a'u cadw i lawr."

Yn Eisteddfod Caernarfon, 1894, cynigiwyd gwobr o £25 am y nofel orau yn disgrifio bywyd gwledig yng Nghymru. Enillwyd y wobr gan fy hen gyfaill " Elis o'r Nant." Dewisodd y cyfnod yn dilyn Rhyfel Napoleon, cyfnod yr " ŷd cwta diben. "Robert Sion o'r Gilfach"[3] y galwodd y nofel, a dywaid ei bod wedi ei sylfaenu ar ffeithiau.

Dyma a ddywaid "Elis o'r Nant":—

"Byd blin a dryccin na fu erioed y fath beth, fu y tymhor gauaf a'r haf dilynol,ar ol yr "yd cwta," a'r "haf heb wair nac ŷd,"—heb alw am bladur, na chryman, na 'sigl' chwaith. Ceid pobl dlodion yng ngwahanol rannau o'r wlad mewn sefyllfa o newyn. Ymborth i bobl, a phorthiant yr anifeiliaid, oedd mor brin, fel y bu y naill a'r llall ar fin newyn ar hyd y gauaf. Ac wedi gwawrio o'r haf, tra y dygodd y tyfiant ffrwythlawn ymwared llwyr i'r anifeiliaid, ni fu hynny ond ychwanegu at y trybini yr oedd y trigolion ynddo yn flaenorol. Ni feddid arian i brynu ymborth, a phe buasid yn meddu cyflawnder o arian, ceid fod y fath brinder yn y wlad, fel y gallasai un gerdded aml dro i'r farchnad a gorfod dychwelyd heb gymaint â phiolaid o un math o flawd, tra yr oedd y teulu gartref ar fin newyn. Hyn oedd y rheol gyda'r oll braidd o deuluoedd tlodion drwy holl Gymru. Nid yn unig gofynnid, ond mynnid pedwar swllt am phiolaid o flawd ceirch yn v melinau a'r marchnadoedd, ac yn llawn mor fynych ag y byddai ganddynt, ni fyddai gan y melinyddion yn y melinau, na'r maelwyr yn y marchnadoedd, flawd ceirch nac un math arail i'w gynyg ar werth. Yn y cilfachau gwledig,—tu allan megis i'r byd,—anaml y defnyddid blawd gwenith ond i wneyd uwd peilliaid i fwydo plant sugno; ac yn ddigon aml byddai raid i'r rhai hynny foddloni ar "rual manion blawd ceirch" neu flawd haidd, fel y byddai yn digwydd.

"Gwelwyd aml hen wr—yr un modd hefyd aml hen wraig dlawd—yn hwylio yn foreu oddicartref, gyda chylla digon digon gwag, heb flawd yn y gist, na thamaid o fara yn y cwpbwrdd, gan adael rhawd o blant ar newynu yn y tŷ, i fyned gryn bellder, ambell dro ddeg neu ychwaneg o filltiroedd i ryw felin neu borthladd i chwilio am flawd i ddiwallu mewn rhan anghenion y teulu, ac efe neu hyhi ei hunan yn eu plith; ond yn gorfod dychwelyd gan amlaf yn benisel gyda'r cwdyn yn wag, i weled y teulu gartref " bron gwefrio eisieu bwyd," tra yntau neu hithau heb ddim, na golwg y ceid un math o foddion o unlle " i gadw newyn marwol draw." Ni fyddai dim i'w wneyd ond casglu gwraidd pob math o lysiau, deiliau, a gwneyd defnydd o'r cyfryw i gadw enaid a chorff ynghyd, fel y dywedid.

"Angen yw tad dyfais, onide? Llwyddwyd i wneyd bara o gloron, yr adeg honno y daeth y ddyfais allan, yn gymysgedig ag ychydig o flawd gwenith. Y mae yr arferiad o wneyd "bara tatws" mewn bri hyd heddyw fel tamaid blasus ac amheuthyn i'r teulu, yn gystal ag i rywun dieithr pan alwo.

"Preswyliai Mari Sion yn Tŷ Mywion. Gwraig ganol oed ydoedd—hynod dlawd, ond nid yn llawer mwy felly nag ereill. Meddai dorllwyth o blant, ei phriod wedi syrthio ar faes Waterloo, fel y tybid—beth bynnag yno yr aeth gyda byddin dan arweiniad Thomas Picton, ac ni chafwyd gair byth o'i hanes ar ôl ei fynediad allan i'r fro estronol honno, a chredid tu hwnt i amheuaeth mai yno y cwympodd i beidio codi byth mwy. Bu am lawer o fisoedd yn dioddef dygn eisieu, heb damaid o ymborth yn y tŷ, ac yn byw yn wastad o'r llaw i'r genau, ac anfynych y byddai hi na'r plant yn gallu bwyta hyd eu digoni, am y byddai eisieu cadw peth yn weddill i ddal bâr a newyn. Aml y byddai hi a'r plant yn myned i'w gwelyau heb hwyrbryd, ac eid felly heb wybod pa le y ceid boreufwyd ar ôl codi y dydd dilynol! Aml y bu raid iddi arfer y fath drefnidedd a chynildeb i gynnal i fyny fodolaeth y teulu—peidio cymeryd ond un pryd yn y dydd, a hwnnw heb fod yn bryd llawn. Gorfodid hi i wneyd hynny am y buasai bwyta yn helaethach yn ei dwyn hi a'r plant i'r fath sefyllfa na buasai yn eu haros ond marw o newyn. Casglai ddail poethion, a dail ereill ddechreu haf—y rhai ni fwytai anifeiliaid y maes—a choginiai hwynt iddi hi a'r teulu, y rhai a fwyteid fel y danteithfwyd mwyaf dymunol i'r chwaeth a maethlawn i'r cylla.

"Tua'r adeg yma daeth gair i'r wlad:—newydd da ragorol,—fod llwyth llong o flawd ceirch o'r fath oreu wedi glanio ym mhorthladd Aber Pwll. Nid allai neb fynegi i sicrwydd llong o ba le oedd, na chwaith blawd o ba le oedd y blawd, ac ni chynhyrfid chwilfrydedd neb chwaith i wneyd ymholiad o'r fath, na pha un a oedd yn flawd rhagorol mewn gwirionedd. Ni wna pobl ymholiad o'r fath, pan ar newynu; ac i'r newynog pob peth chwerw sydd felus, onide? Pan glybu Jacob gynt fod ŷd yn yr Aipht, er fod y fangre honno lawn mwy na thriugain milldir o'r fan lle y preswyliai ef, ni wnaeth ymholiad pa fath ŷd oedd, na pha fath fara ellid wneyd ohono, ond anfonodd ei feibion i waered yno i brynu cyflawnder ohono, fel y byddont fyw, ac yn ddiogel rhag newyn.

"Nid oedd porthladd Aber Pwll lawn deuddeng milldir o Lanfynydd, ac er mai yn hollol ddisylw ydoedd—un heb wneyd un math neullduol o ddarpariaeth gelfyddydol at ddadlwytho llongau o un math, ni fu un erioed ag y deuai i mewn iddo, ac yr elai allan ohono, fwy o fan longau. Er mor anwybodus oedd pobl yr adeg honno, fe wyddent yn eithaf da am ddeddf yr ŷd; ond 'yr oedd pris yr ŷd wedi myned i fyny i'r fath raddau, fel yr oedd rhyddid i gludo ŷd a blawd o'r gwledydd tramor, i'w werthu yn unrhyw fan yn y deyrnas hon; a than aden y rhyddid hwnnw yr hwyliasai y llong hon o'r Ysbaen yn llwythog.

Lledaenwyd y newydd am laniad y llong fel tân gwyllt, ac heb oedi dim gwelid pobl yn hwylio tuag yno—rhai gyda chydau ar eu cefnau, ac eraill yn marchog, gan ddwyn gyda hwy sach, ac ystrodyr pwn, fel y gellid cludo sachaid yn ol. Ym mhlith y llu gwelid Mari gyda chwdyn bychan, glân, dan ei chesail, yn cyflymu ym mlaen yn llawn chwys, yn gwneyd a allai i frysio, er mwyn dychwelyd gyda blawd i'w bobi i ddiwallu anghenion y plant. Bu raid iddi hwylio ei cherddediad y boreu heb ddigon o ymborth, a hynny gafodd o'r fath waelaf, ac yn gwbl ddifaeth—dim ond deiliau wedi eu coginio, fel y sylwyd yn flaenorol. Ni feddai ond rhyw ychydig sylltau at brynu blawd, a phe buasai ganddi chwaneg o arian, y mae yn amheus a allasai gludo mwy na gwerth hynny o arian a feddai, gan mor ddinerth oedd, ar ol treulio agos flwyddyn gyfan ar lawer llai na digon o ymborth. Gorfodid hi i orphwys yn fynych ar y ffordd, a gwisgai olwg luddedig, wedi " ymlâdd yn lân," fel y dywedid. Pe mai hi yn unig a fuasai yn y fath sefyllfa newynog a dihoenllyd, y mae yn ddiau y buasai yr olwg arni yn ennill tosturi, ond, fel yr ydys wedi dweyd yn barod, yr oedd nid [yn] unig y tlodion, ond y ffermwyr a phob dosbarth agos yn yr un sefyllfa—pawb ar fin newyn, ac agos wedi dyfod i gredu mai newynu a wnaent.

"Ni chwanegodd cyrhaedd pen y daith ddim at na chysur na llawenydd y rhai ddaethant o bellder ffordd i chwilio am flawd i ymlid ymaith newyn o'u preswylfeydd, yr hwn oedd eisoes wedi dyfod i mewn; rhai o'r teuluoedd yn barod wedi eu claddu, ac eraill mewn gwaeledd, yr oll wedi eu ddwyn oddiamgylch gan, ac yn codi o, ddiffyg lluniaeth. Pan wnaethant eu hymddangosiad yn y porthladd, mynegodd v perchennog ei fod wedi gwerthu y blawd oll i fonheddwr tra hysbys yn y wlad, Syr Wmffra Garanhir, un yn meddu etifeddiaeth yn y cyffiniau, ac yn terfynu ar un Nana Wyn. Meddai rai cannoedd o gŵn hela, bytheuaid, milgwn, a phob math arall, a chlybu yntau fel eraill am laniad y llong, a daeth yno o Hafod—y—re, ei balasdy, i brynu yr holl flawd i fwydo ei gwn. Felly, bu raid i'r ymwelwyr anffodus ddych— welyd yn ol, yn bendrist gyda'u cydau a'u sachau, oll yn weigion, i wynebu yr un gelyn eilwaith, heb arfau o fath yn y byd, i ymladd ag ef.

**********

"'Sobr iawn wir ydi mund adra i weled y plant bach ar newynu, yn disgwyl budd gin i flawd i neud bara a fina heb ddim. Ond pam raid i mi bechu yn erbyn yr Arglwydd trwy i anghredu, ac ynta yn dyud yn blaun, 'Ei fara roddir iddo, ei ddwfr fudd sicr,' a dyma ran o'r addewid wedi i chaul yn barod, ac mi ddaw'r llall ond gadal i amynadd gaul i fferffaith waith'.

"Siaradai a hyhi ei hun fel hyn, a mawr ofidiai, ac i raddau gollyngai ddagrau, am ei bod yn gorfod troi adref heb ddim i'r plant; a hithau wedi dyweyd pan yn cychwyn am i'r eneth hynaf ferwi dwfr yn barod erbyn y deuai yn ol, fel y gellid taro ati i bobi heb golli dim amser. Mor drallodus ei meddwl y teimlai, yn nghanol ei ffydd gref yn ei addewidion diamodol Ef,—wrth feddwl myned adref i'w siomi, ac i'w gweled yn dihoeni ac yn marw o newyn. Pan yn dal ati i synfyfyrio a siarad bob yn ail, clywai sŵn o'r tu ol tebyg i sŵn ceffyl yn carlamu. Er troi yn ol i edrych ni allai weled am fod y llannerch yn orchuddiedig a choed , a bryn o amgylch yr hwn y troellai y ffordd yn cyfyngu rhyngddi a'r gwrthddrych. Er ei syndod pwy ganfyddai ond Rhobert y Gilfach, yn carlamu o'r coed, ac yn gwaeddi arni sefyll.

"Nis gallai lai na llawenhau pan y canfu ef. Cofiai iddi gael llawer o help oddiyno, ac arferai gael yn wastad hyd nes y daeth y car i guro ei sodlau yntau, fel pob un. Byddai bob amser yn hoff o'i weled, a mawr ofidiai na fuasai yn rhoi i fyny yr arferiad o yfed i ormodedd, a dyfod a byw yn nes at yr Arglwydd. Dyn da ragorol yr ystyriai hi ef, yn nghanol ei ffaeleddau

"'Mi mau llong fawr yn llawn o flawd wedi glanio'n Mrauch y Pwll. Nana Wyn pia fo, ag mau o am roi peth i bawb. Cer yno, Mari Sion, fyddi di ddim gwerth yn mund. Mau yno damad o fwud i bob un gaul hefud. Mau o wedi rhostio dau yidion yn gyfa. Mi gwelis i nhw wrthi. Cousa hi, Mari, tros y Foul Bouth. Fedar Syr Wmffra Garanhir ddim y'n llwgu ni eto, marcia di, Mari. Dyma i ti wicsan fechan ges i; buta hi. Mau yno lond sacha lawar o honun nhw. Mi rwi ti wedi son llawar na nyiff yr Arglwydd ddim anghofio i addewidion. Mi ddyliwn i nad ydi o ddim am nyud chwaith. Cousa hi. Mau arnai isio mund i wadd pobol yno"

Ffarmwr cyfrifol oedd Robert Sion o'r Gilfach; gŵr yn meddu calon dyner a da, caredig iawn wrth y tlawd. Ond erbyn yr adeg y sonnir amdani, yr oedd cistiau blawd y Gilfach yn wag, a Robert Sion a'r teulu yn dioddef gwasgfa y newyn tost. Dylai pawb a fyn wybod hanes cyni Cymru ddechrau y ganrif ddiweddaf ddarllen y llyfr hwn.[4]

Goddefer un hanesyn arall am yr un cyfnod y gallaf roddi fy ngair dros ei gywirdeb llythrennol. Bu farw yn Bootle, yn 1918, hen foneddwr wedi croesi ei bedwar ugain oed amryw flynyddoedd, gŵr craff a chofiadur da, sef y diweddar Mr. Robert Roberts, a adawodd £10,000 i Gyfarfod Misol Dyffryn Clwyd at dalu cyflog i ŵr am ofalu am eglwysi bychain bro ei enedigaeth. Arferai ef a minnau gael aml ymgom am yr amser gynt. Magwyd Mr. Roberts yn Nantglyn, lle'r oedd ei dad yn ffarmwr cyfrifol

"Clywais fy nhad," meddai," yn adrodd hanes y newyn ddechreu y ganrif ddiweddaf; yr oedd llawer yn dioddef eisieu bwyd oddeutu Nantglyn a'r cylch. Cafodd fy nhad wybod fod llong wedi dyfod i Ruddlan a llwyth o haidd. Aeth ar ei union i Ruddlan a phrynodd y cyfan, rhag ofn i rywun dd'od a'i brynu a chodi crogbris am dano wrth ei ail werthu i'r tlodion. Gwerthodd ef i'r ffermwyr a'r gweithwyr am yr un bris yn union ag yr oedd wedi ei dalu am dano. Rhoes reol bendant i'r ffermwyr a fyddai yn prynu, os oedd ganddynt wedd i'w gario adre, fod yn rhaid iddynt gario cyfran y mân dyddynwyr a'r gweithwyr tlodion yn rhad."

Felly cafodd tlodion cylch Nantglyn ddeunydd bara am bris rhesymol a'i gario o Ruddlan adre am ddim.

Arferai y Parch. Simon Llwyd, B.A., Bala, fyned i'r lleoedd bach o gylch y Bala i bregethu. Fel y gwyddys yr oedd ef yn ŵr cyfoethog yn byw ym Mhlas y Dre. Un Saboth yr oedd wedi bod yn pregethu yn un o gymoedd y cylch, Llidiardau neu Dalybont. Hen wraig dlawd a ofalai i raddau am yr achos; a chyda hi yr oedd Simon Llwyd yn ciniawa. Pan ddaeth adre yr oedd ei ferched yn chwilfrydig iawn i wybod pa beth a gafodd i'w ginio, ond nid oedd ef yn barod i ddywedyd. Daliai y merched i'w blagio. "Beth a gawsoch chwi i'ch cinio, nhad? " "Wel," ebe yntau o'r diwedd, "os rhaid i chwi gael gwybod, mi gefais feipen wedi ei berwi a halen, ac mi 'roedd hi'n dda."

Na feddylier chwaith mai byr ei barhad fu cyfnod y caledi. Tybiodd "Jac Glan y Gors," fel llawer proffwyd o'i flaen, fod y wawr ar dorri yn ei ddyddiau ef, ond nid felly y bu. Canodd "Meurig Ebrill" am galedi'r amserau yn 1847.[5] Yn 1859 y cyhoeddodd "Eos Iâl" (gŵr a fu yn byw yn Llety'r Siswrn yng ngwaelod Cwm Eithin) Ddrych y Cribddeiliwr,[6] lle y ceir Pryddest y Weddw Jesebel a Nabal. Disgrifia'r bryddest y weddw yn myned at ddrws Jesebel a Nabal i geisio prynu peciaid o flawd, rhag iddi hi a'i phlant newynu. Yr oedd ganddi bum swllt i dalu, ond yr oedd y blawd wedi codi i bum swllt a cheiniog. Wedi i Jesebel a Nabal ymgynghori, gwrthodwyd hi am ei bod geiniog yn fyr.

Parhaodd cymylau duon i hofran wrth ben y werin yn hir. Cyrhaeddodd dialedd y tirfeddianwyr ei eithafnod yn 1868, ac ni ddisgynnodd cawod eu melltith yn drymach yn un man nag yng nghylchoedd Cwm Eithin.

Nodiadau[golygu]

  1. Cyfansoddiadau Eisteddfod Bangor, 1890.
  2. Gwaith Walter Davies, Gwallter Mechain, 3 cyf., Caerfyrddin, 1868.
  3. Robert Sion o'r Gilfach, gan "Elis o'r Nant," Caernarfon, 1894.
  4. Am ragor o hanes caledi'r amseroedd gweler Seren Tan Gwmmwl, "Jac Glan y Gors," 1795 (argraffiad newydd, 1923); Gweithiau "S.R.," 1856; Oes a Gwaith y Parch. Michael D. Jones, gan Dr. E. Pan Jones, 1903; Atgofion "Ap Fychan" yn ei Gofiant, gan Michael D. Jones a D. V. Thomas, [1882]; Cwyn yr Hen Wr Methiant, gan " Dafydd Ddu Eryri," yn Corph y gaingc, 1810; Hynafiaethau Llandegai, gan Hugh Derfel Hughes, 1866; Caledwch yr Hin, gan " Peter Llwyd o Wnodl " (Y Gwyliedydd, Chwefror, 1823); Diosg Farm: a sketch of its history during the tenancy of Jobn Roberts and his widow, by a Llanbrynmair Farmer (h.y. Samuel Roberts), 1854; Cofiant Hiraethog, gan " Scorpion" a " Dewi Ogwen," 1893, ac Anerchiad Henry Richard ar Ormes y tir feddianwyr ac eraill, a draddodwyd yn Concert Hall, Liverpool, Chwefror 4, 1853, wrth sefydlu Cymdeithas Ddiwylliadol Gymreig. Cyhoeddwyd yr olaf yn bamffledyn. Cofiant Thomas Gee, gan yr Athro Thomas Gwynn Jones, 1913. The Land Question and a Land Bill, with special reference to Wales, by R. A. Jones, B.A., 1887. Mae llyfr R. T. Jenkins, Hanes Cymru yn y ddeunawfed ganrif, 1928, a gyhoeddwyd gan Fwrdd Gwasg y Brifysgol, yn rhoddi darlun clir o fywyd Cymru yn y ganrif honno.
  5. Diliau Meirion, ail rhan, gan "Meurig Ebrill" (Morris Davies, Llynlleifiad, 1854).
  6. Drych y Cribddeiliwr gan "Eos Iâl" (Dafydd Hughes), Llansantffraid, 1859.