Cwm Eithin/Y Trigolion: Y Ffermwyr

Oddi ar Wicidestun
Caledi'r Amseroedd Cyni'r Werin Cwm Eithin

gan Hugh Evans, Lerpwl

Y Trigolion: Y Gwas a'r Gweithiwr


PENNOD II

Y TRIGOLION: Y FFERMWYR

Roedd y ffermwyr yn ddosbarth digon bethma at ei gilydd, mewn llawer o bethau yn debyg iawn i relyw eu dosbarth; digon canolig a thlawd o ran eu hamgylchiadau; rhai ohonynt yn ddigon balch, a dangosent hynny trwy gael rhywbeth newydd yn bur aml i'w wisgo ar y Sul, a thrwy wenu'n awgrymiadol ar ei gilydd yn y capel. Pobl sbeitlyd y byddem ni yn galw y rhai hynny; a phan fyddai raid i rai ohonom, yn blant, fyned i'r capel â chlytiau ar ein pennau gliniau, teimlem i'r byw eu gwawd. Ceisiai rhai o'r dosbarth, a feddai werth ychydig o gannoedd o stoc, ymddangos fel pe baent yn werth miloedd, a'r rhai oedd â gwerth ychydig o ugeiniau eu bod yn werth cannoedd. Yr oedd yno hefyd, fel y ceir bron ym mhob ardal, ambell un yn ceisio dynwared tlodi, tra y credai ei gydnabod ei fod yn dda allan Credai rhai yr hen ddywediad oedd wedi dyfod i lawr o dad i fab, sef "fod yn rhaid cael côt grand i fenthyca'r rhent, ond y gwnâi un glytiog yn iawn i dalu'r rhent." Diau fod y dywediad wedi tarddu o sylwi y byddai'r meistriaid tir yn codi y rhent os gwelent rai o'u tenantiaid â golwg ry raenus arnynt.

Yr oedd un o'r dosbarth yma, Sion y Fawnog, yn byw ym mhen isaf y Cwm. Cwynai bob amser fod ei dyddyn yn ddrud, a'i fod yn methu â thalu ei ffordd. Arferai fyned at y stiwart i gwyno, a chafodd gau darn yn rhagor o'r mynydd fwy nag unwaith. Ai at y stiwart ychydig cyn amser y rhent i ofyn am fenthyg rhyw £10, oherwydd na fynnai er dim i'w feistr wybod ei fod yn methu â thalu'r rhent, gan ddywedyd fod ganddo foch neu ddeunawiaid i'w gwerthu ymhen tair wythnos neu fis, ac y deuai â hwy yn ôl. Cafodd fenthyg droeon, oherwydd Cymro a ffarmwr caredig oedd y stiwart; a gofalai Siôn fyned â hwy yn ôl yn brydlon bob tro. Ymhen amser dechreuodd y stiwart ddrwgdybio Siôn, oherwydd yr oedd y Fawnog yn dyddyn gweddol helaeth, er mai lle wedi ei gau o'r mynydd oedd, ac yr oedd y rhent yn isel iawn. Methai'r stiwart â chredu bod Sion mor dlawd ag yr honnai. Dechreuodd gynllunio pa fodd i gael at y gwir. Y tro nesaf y daeth Siôn am fenthyg, marciodd ddeg sofren a rhoddodd hwy iddo. Pan ddaeth diwrnod y rhent, fe dalodd Siôn ymysg eraill, ond nid oedd y deg sofren marciedig ymysg ei arian. Ymhen tua mis gwerthodd Siôn y deunawiaid, a daeth a'r benthyg yn ôl, ac yn hynod o ddiolchgar ei fod wedi gwerthu y deunawiaid braidd yn gynnar, ac ofnai o dan bris, er mwyn cadw'i air â'r stiwart. Edrychodd yr hen stiwart y deg sofren yn fanwl, a heb os nac onibai, wele y rhai y cawsai Siôn eu benthyg ychydig cyn diwrnod y rhent. Beth bynnag a fu'r ymddiddan rhwng y ddau, ni ellir ond dyfalu, ond y mae'n ffaith na welwyd Siôn byth ar ôl hynny yn myned at y stiwart i nôl benthyg arian at y rhent. Dywedir i Siôn wneuthur ail gynnig ymhen amser mewn ffordd arall. Aeth at y stiwart i gwyno fod ei ddegwm yn uwch na'r rhent ac i edrych a ellid cael rhyw ostyngiad y ffordd honno. "Ho, dyna sydd yn dy flino di, Siôn? Mi ofala i na chaiff hynny mo dy flino di eto. Mi goda i dipyn ar dy rent di fel na chaiff dy ddegwm di ddim bod yn uwch na'th rent."

Pan oeddwn yn hogyn, yr oedd rhaib y ffermwyr mawr am ragor o dir yn ddihareb. Rhuthrent am ddarnau o'r mynydd. Yr oedd yn adeg rhannu'r mynydd yng Nghwm Eithin, ond rhoddaf hanes rhannu'r mynydd ymhellach ymlaen. Gwyliai rhai am y tyddynnod bychain yn myned yn wag, ac aent at y meistr tir a chynigient fwy o rent, ac fel rheol llwyddent i gydio maes wrth faes, yn enwedig os byddai'r adeiladau yn wael, rhag i'r meistr fynd i gost i adgyweirio. Cysylltwyd cannoedd o fân dyddynnod yng Nghwm Eithin a'r mân gymoedd sydd yn rhedeg allan o hono, yn ystod y cyfnod y soniaf amdano, a theneuwyd y boblogaeth.

Ond os cymerir popeth at ei gilydd, credaf y cymharai amaethwyr Cwm Eithin yn dda ag amaethwyr unrhyw ran o'r wlad. Wele ddisgrifiad Sais, teithydd enwog, ddiwedd y ddeunawfed ganrif, o drigolion Cwm Eithin:

"On reaching this place, we were agreeably surprised to find it thronged with people, true Welsh characters, who were assembled here to celebrate a fair. The sharp features and quick eyes of the men, enlivened by the bargains they were driving, and the round good-humoured faces of the women, animated with the accustomed hilarity and fun of the day, threw a cheerfulness over the scene, that would have stript spleen herself of the vapours could she have witnessed it. Add to this, my dear sir, the awkward gambols and merry- andrew, and the strange gabble of a Welsh quack-doctor the grimace of a puppet-shew man, and the bawling of three or four ballad-singers, who chaunted ancient British compositions to different tunes; and, perhaps, your fancy cannot form a scene more ludicrous. . "[1]

Rhaid bod trigolion Cwm Eithin yn bobl pur ddeallus cyn y caent gymeriad fel yr uchod gan Sais, a rhaid oedd iddo addef eu bod hwy wedi cael mwy o hwyl am ei ben ef a'i gyfaill nag a gafodd ef am eu pennau hwy, er ei fod ef yn Sais hollwybodol a hwythau yn ddim ond Cymry diniwed.

Credaf fod ffermwyr y cyfnod wedi cael, ac yn cael, cam mawr, a'u galw yn grintachlyd a chaled gan rai a ysgrifenna ac a sieryd am y cyflogau bychain a dalent i'w gweithwyr, yn enwedig gan wleidyddwyr ieuainc na wyddant ddim am fyd caled y ffarmwr. Clywais weinidog ieuanc dysgedig yn ddiweddar yn dywedyd, "Yr oedd gennyf feddwl mawr o John Elias a'i bregethau; ond ar ôl eu darllen a gweled mor ychydig o'u hôl a adawsant ar eu cyfnod, nid ydwyf yn meddwl dim ohonynt." "Beth yw eich rheswm dros ddywedyd na adawodd John Elias a'i bregethu ddim dylanwad er daioni ar ei gyfnod?" ebe un oedd yn gwrando. "Yr oedd y ffermwyr," ebe yntau, yn para i drin eu gweision fel cŵn gan eu hanner llwgu a'u gorfodi i gysgu yn llofft yr ystabl."

Ceisiaf ddangos nad oedd bosibl iddynt dalu rhagor o gyflog, ac nad oedd le i'r gweision gysgu yn y tai, ac mai llofft yr ystabl oedd yr orau mewn llawer amaethdy. Beth a allasai pregethwr fel John Elias ei wneud i wella'r pethau hynny? Ni ddeuai y tirfeddianwyr i wrando arno; onid hwy oedd wrth wraidd y cyhuddiad a ddygwyd yn ei erbyn o geisio codi gwrthryfel yn Iwerddon?

Nid rhai crintachlyd oedd ffermwyr Cwm Eithin. Na, yr oedd yn eu mysg lawer o wŷr a gwragedd caredig iawn. Ond caled iawn oedd eu byd hwythau. Gwesgid hwy i'r eithaf gan y meistr tir a'r caledi a ffynnai ar y pryd. Ni allent fforddio talu rhagor o gyflog. Adwaenwn lawer ffarmwr a weithiodd yn galed, ef a'i wraig, ac yn aml ddwy neu dair o ferched a dau neu dri o feibion yn gweithio heb erioed gael dimai o gyflog, dim ond ychydig o ddillad, ac feallai swllt neu ddau yn eu poced i fyned i'r ffair. A phan briodent yn ddeuddeg neu bymtheg ar hugain oed, ni feddai'r tad yn aml fwy na digon i brynu dwy fuwch neu dair i'w rhoddi iddynt i ddechrau byw. Wedi gweithio'n galed am ugain mlynedd, 'ni fyddai'r swm a gaent yn aml yn fwy na 30/- neu 40/- ar gyfer pob blwyddyn o waith. Clywais lawer gwaith rai yn dywedyd fel hyn, "Mae'r ffarmwrs yn bobl garedig iawn; fe gewch bryd o fwyd ganddynt pan fynnoch, a thipyn o datws neu foron, a chanied o laeth, a selen o 'fenyn i fyned hefo chwi adre; ond gofynnwch am 1/- at ryw achos da, mae bron yn amhosibl ei gael ganddynt," heb ystyried mor ychydig o arian oedd yn myned trwy ddwylo'r ffermwyr mewn blwyddyn, pan werthent ddeunawiaid am £3/10/0; bustych dwyflwydd am £6; buwch am £7; ceffyl am £12; mochyn tew am 3c. y pwys; ymenyn am 5c. y pwys; yr wyau yn ½c. yr un neu ddeunaw am 6ch. Ac yr oedd raid talu'r rhent, y trethi, a'r cyflogau allan o hynny.

Bûm yn holi ffermwyr cyfrifol, rhai y gellid dibynnu ar eu tystiolaeth, beth a allai swm yr arian fod a dderbyniai ffarmwr mewn blwyddyn. Yr atebion a gefais oedd, os gallai ffarmwr droi ei rent drosodd dair gwaith mewn blwyddyn y byddai yn gwneud yn dda iawn. Felly cymerer ffarm drigain i ddeg a thrigain o aceri, a dyweder fod ei rhent yn £50, yn ôl rhenti y dyddiau hynny am ffermydd yn y cymoedd. Felly fe dderbyniai'r ffarmwr 150 mewn blwyddyn. Cymerai'r meistr tir £50 oddi arno. Ai yr ail £50 i dalu'r trethi a'r degwm, cyflog gwas a morwyn y byddai'n rhaid eu cael i amaethu lle o'r maint Byddai raid i'r £50 olaf dalu bil y sadler, y gof, y saer, y crydd, y teiliwr, y ffatrwr, a'r gwehydd, a phrynu ychydig o ddillad, na allai eu cynhyrchu o wlân ei ddefaid, iddo ef a'i briod, ac feallai nifer o blant ieuainc; ychydig o de a siwgr at iws y tŷ, ambell bwys o siwgr loaf ar gyfer dieithriaid, a chyfrannu ychydig sylltau at achos crefydd.

Dyma ddyfyniad o waith "S.R." ar y cwestiwn uchod, oherwydd nid oes dim fel adnod i brofi pwnc. Yr oedd "S.R." ymhlith y gweinidogion cyntaf ar ôl y diwygiad Methodistaidd i ddarganfod y gwirionedd mawr fod gan y saint gyrff yn ogystal ag eneidiau. Llafuriodd ef ac "Ieuan Gwynedd," a Michael Jones, a Thomas Gee, a "Hiraethog," ac eraill yn galed dros ryddid y corff, a'i hawi i'w ran o gynnyrch y ddaear at ei gynhaliaeth. Gwr amlochrog oedd " S.R.," yn meddu crebwyll cryf a gwroldeb diwygiwr. Cyhoeddwyd ei weithiau yn 1856, cyfrol sydd yn amrywiol iawn ei chynnwys, ac yn ddrych o gyflwr Cymru yr hanner cyntaf o'r ganrif ddiweddaf. Diau fod llawer o'i chynnwys wedi ymddangos yn Y Cronicl a phapurau eraill flynyddoedd cyn hynny. Yr oedd yn un a ymdaflodd â'i holl ynni i ryddhau Cymru o dan iau ei chaethiwed, ac y mae'r gyfrol yn gofgolofn i'w allu, ei fedr, a'i wroldeb di ŵyro. Yn ei bennod addysgiadol a diddorol ar Amaethyddiaeth, disgrifia "S.R." gyflwr gresynus amaethwyr Cymru oherwydd rhenti uchel, traha'r tirfeddianwyr, ac yn enwedig y stiwardiaid. Yr oedd y stiward wedi codi rhent Mr. Careful, Cil Haul Uchaf, ddwywaith neu dair, ac wele hanes y driniaeth a gafodd am ofyn am ostyngiad, a'r ymddiddan rhyngddo ef a'i fab hynaf ar ôl derbyn rhybudd i ymadael.

Cwynodd yr amaethwr wrth y stiward fod rhent ei dyddyn yn uchel, a'i fod yn methu'n lân â thalu ei ffordd. Adroddodd ei gŵyn un diwrnod wrth ei gymdogion yn yr efail. Yn gwrando yr oedd gŵr ieuanc newydd briodi, ef a'i wraig wedi cael swm pur dda o arian ar ôl perthynasau, ac yr oedd yn awyddus iawn am ffarm gan y stiward, ac wedi dechrau cynffonna trwy anfon ambell bresant a thalu am botel o champagne iddo. Cariodd y stori i'r stiward. Anfonodd hwnnw am y ffarmwr, pryd y bu'r ymddiddan a ganlyn rhyngddynt:—

Ar ol dysgwyl yn bur hir oddeutu y drws, cafodd ei alw i mewn. Edrychodd y steward yn llym wgus arno, a dywedodd wrtho, mewn llais cryf garw, na wnai ef ddim goddef iddo gwyno ar y codiad diweddar, fel ag yr oedd wedi gwneud y dydd o'r blaen wrth yr Efail; fod ei rent ef yn bur rhesymol yn wir, ei bod yn llawer îs na rhenti ffermydd cymydogaethol arglwyddi eraill. Nid oedd Ffarmwr Careful wrth gychwyn mor fore tua'r Queen's Head; ac wrth chwysu yn ei frys i gyrhaedd yno mewn pryd, ac wrth ddysgwyl yno ar ol hyny nes oeri braidd gormod-nid oedd ddim wedi dychmygu mai myned yno i gael ei drin a'i athrodi felly yr oedd wedi y cyfan: a darfu i drinfa front fawaidd felly, pan yr oedd yn agor ei glustiau a'i lygaid am ryw newydd cysurus, gynhyrfu mymryn ar ei ysbryd; ac atebodd mewn geiriau braidd cryfach nag a fyddai yn arfer ddefnyddio ar adegau felly, Ei fod ef a'i deulu wedi gwneud eu goreu ym mhob ffordd i drin yn dda; ei fod ef a'i wraig a'i blant yn cydymroi i weithio eu goreu yn fore ac yn hwyr-nad oedd byth na smocio, nac yfed, na gloddesta, na dim o'r fath beth yn eu ty; eu bod wedi gwario i drefnu a gwella y ffarm y cyfan oll o'r chwe chan punt a dderbyniodd ei wraig yn gynnysgaeth ar ol ei thad; ei fod yn gwbl foddlon er's blynyddau i log yr arian hyny gael myned i wneud i fyny'r talion yn y blynyddau drwg presenol; ei fod wedi hoff-obeithio gallu cadw y £600 yn gyfain i'w rhanu yn gyfartal rhwng ei ferched ufudd a diwyd ar ddydd eu priodi; ond yn awr, fod y £600 i gyd oll wedi myned, ac na byddai y stock ddim yn hollol rydd ganddo ar ol y talion nesaf; ac yn wir nad oedd dim modd iddo ef dalu am y ffarm heb gael cryn ostyngiad. Wrth glywed hyn, dywedodd y steward yn bur sychlyd wrtho, Gwell i chwi ynte roddi y ffarm i fyny.' Yn wir, Syr,' atebai y tenant, rhaid i mi ei rhoddi i fyny os na cheir rhyw gyfnewidiad yn fuan.' 'Hwdiwch ynte,' ebe y steward, 'dyma fi yn rhoddi i chwi notice i ymadael Gwylfair.' Ar hyn, gostyngodd y tenant ei ben, ac atebodd mewn llais isel toredig, y byddai yn galed iawn i'w deimladau orfod ymadael o hen gartref ei dadau; ei fod ef a'i wraig a'i blant yn eu hamser goreu i drin y ffarm, ac y byddent yn foddlon i lafurio ac ymdrechu etto am flwyddyn neu ddwy mewn gobaith am amserau gwell. Ond brys-atebodd y steward yn bur sarug, Yr wyf yn deall eich bod wedi gwario yn barod yr arian cefn oedd genych: gwell i chwi chwilio ar unwaith am ffarm lai: hwdiwch, dyma'r notice i chwi ymadael: rhaid i mi yn awr fyned at oruchwylion eraill—bore da i chwi.

Rhoddodd Mr. Careful y notice yn ei logell, a dychwelodd adref gyda chalon drom iawn; a phan oedd yn gorphen adrodd wrth Jane ei wraig yr hyn oedd y steward wedi ddweyd ac wedi wneud, daeth y tri mab yn annysgwyliadwy i'r tŷ. Daethant haner awr yn gynt nag arferol, am eu bod wedi gorphen cau y gwter fawr yn ngwaelod y braenar, a galwasant heibio i'r tŷ am fara a chaws cyn cychwyn at eu gorchwylion yr ochr arall i'r ffarm. Deallasant ar unwaith fod rhyw newydd drwg, neu ryw amgylchiad cyfyng yn gofidio eu tad a'u mam. Bu tafodau pawb am enyd yn fud, ond yr oedd llygaid y plant yn dadleu fod hawl ganddynt i wybod achos blinder eu rhieni. Penderfynodd y tad i beidio celu oddiwrth ei blant y notice i ymadael ydoedd newydd dderbyn, ac adroddodd wrthynt yr oll a gymerasai le. Gwrandawsant hwythau arno yn fud-synedig; ac ar ol iddo dewi, edrychasant ar eu gilydd yn bur effeithiol, ond heb yngan gair. O'r diwedd, torodd y tad ar y dystawrwydd trwy ddweyd, megys wrtho ei hun, mewn llais trist isel, yn cael ei hanner fygu gan gymysg deimladau, Yr oeddwn i wedi hoff-obeithio y cawswn orphen fy nyddiau yn Cilhaul-uchaf, ac wedi breuddwydio lawer gwaith ganol dydd a chanol nos y cawsai fy llwch huno gyda llwch fy nhadau yn eu hen feddrod rhwng yr Ywen fawr a drws cefn y clochdy, lle y gorphwys rhai lluddedig, ac y peidia yr annuwiol â'i gyffro.' * * * "Ie, ie," ebe y fam, "lle y mae John bach, fy nghyntafanedig anwyl, yn huno yn felus ar fynwes ei dad cu tirion, a lle y mae fy anwyl, anwyl anw"—(ar hyn collodd y fam ei lliw—dechreuodd ei gwefusau grynu—ymrwygodd ochenaid ddofn o gronfa ei chalon; ond nis gallodd orphen ei dywediad). Wrth weled hyny, cododd y mab hynaf ei wyneb mawr llydan iach gwridog; a chyda llais dwfn, cryf, caredig, effeithiol, llawn o deimlad, naill ai teimlad o serch cynhes at ei rieni, neu ynte teimlad o ddigllonedd brwd tuag at y gormeswyr, neu dichon y ddau deimlad yn ferw cymysgedig, dywedodd,-"O fy anwyl fam, na adewch iddynt ladd eich calon fel yna. Y maent wedi gwneyd eu gwaethaf i ni. Na hidiwch mo honynt byth mwy. Na ofnwch hwy ddim yn chwaneg. Os gwnawn ni ein dyledswydd yn y byd yma, nid yw o ddim cymaint pwys pa le bydd ein llwch yn gorphwys. Bydd yn sicr o fed allan o'u cyrhaedd hwy; a byddwn yn sicr o ddihuno yn iach ar alwad gyntaf bore mawr y codi, a deuwn o hyd i'n hen gyfeillion ar darawiad llygad, a deuant hwythau hefyd o hyd i'w "lle" eu hun, a chesglir hwy at eu "pobl," i dderbyn yn ol yr hyn a wnaethant yma. Gwyddoch eu bod wedi creulawn lyncu i fyny yn barod eich £600 chwi. Gwyddoch ein bod ni oll wedi gweithio yn galed iawn, haf a gauaf, drwy wynt a gwlaw, ac oerni a gwres, fore a nawn a hwyr, er eu helw hwy, a'n bod heb ennill rhyngom oll yr un swllt i ni ein hunain. Yr ydym wedi cyson dalu iddynt bob parch ac ufudd-dod yn ein gallu, ond tlawd iawn yw yr ad-dal ydym yn gael am ein holl lafur a'n gofal. Y mae gan Tom Thrift, aradwr y Plas hen, £88 o'i ennill yn awr yn y Savings Bank; ond nid oes genyf fi, er fy mod dair blynedd yn hŷn na Tom, yr un geiniog wrth gefn yn ei chadw erbyn yr amser a ddaw.[2]

Aeth y mab ymlaen i chwanegu enghraifft ar ôl enghraifft, i ddangos gorthrwm y tirfeddianwyr. A dechreuodd feirniadu'r Aelodau Seneddol am y cyfreithiau annheg oedd mewn grym, pryd y gwaeddodd y tad a'r fam yn unllais, "Paid â deud dim am bobl fawr y Senedd, John bach; gâd lonydd iddyn nhw, beth bynnag." Y mae'r hanes yn rhy faith i'w roddi i mewn i gyd. Er holl orthrwm y tirfeddianwyr yr oedd ymlyniad y werin wrth yr hen bendefigaeth yn para yn barch gwasaidd iddynt.

Geilw y dywediad i'm cof enghraifft arall o'r un peth. Naill ai ddiwedd 1868 neu ddechrau 1869, yr oeddwn mewn cyfarfod yng nghapel bach Cwm Eithin, pryd yr oedd Robert Jones, Tŷ Newydd, yn gosod tysteb G. Osborne Morgan gerbron y gynulleidfa fechan, ac yn dywedyd bod yr awdurdodau wedi penderfynu gwneud tysteb i'r aelod Seneddol newydd, fod costau'r etholiad wedi bod yn uchel iawn, a byw yn Llundain yn hynod ddrud. Brysiais innau adre â'm gwynt yn fy nwrn i ddywedyd y newydd wrth fy nain, gan ddisgwyl y cawn dair ceiniog fel y gallwn roddi swm anrhydeddus at y dysteb, oherwydd yr oeddwn wedi bod yn rhai o gyfarfodydd Osborne Morgan, ac wedi clywed ei ganmol fel gŵr oedd yn siŵr o ddyfod â Chymru newydd inni. Ac onid oeddwn yn un o'r rhai oedd yn gwrando ar Huw Myfyr yn dywedyd fod Syr Watkin yn fwy cymwys i godi tatws nag i fod yn Aelod Seneddol; a hynny o waed oedd ynof wedi ei ferwi a chodi gwrid i'm hwyneb llwyd gan yr hyawdledd, ac wedi curo fy nwylo bach nes oeddynt yn brifo! Bu'n rhaid i Ddr. Edwards a'r Parch. Michael D. Jones amddiffyn Huw Myfyr ac eraill o hogiau'r Bala. Cafodd Huw Myfyr y fraint o osod y Salmau ar gân yn y pentre y bu'r Dr. Morgan yn cyfieithu'r Beibl i Gymraeg, ond bu agos iawn iddo gael y fraint o wneud y gwaith yng Ngharchar Rhuthyn, fel John Bunyan gyda Thaith y Pererin. Peth peryglus iawn oedd dywedyd y gwir am y bobl fawr yr adeg honno. Er fy syndod, pan adroddais y newydd wrth fy nain, cododd ei dwylo uwch ei phen a chydag ochenaid drom gwaeddodd allan, "Wel! wel! a ydyw hi wedi dwad i hyn yna arnon ni? Anfon dyn i'r Senedd a chyno fo ddim digon o arian i'w gadw'i hun yn Llunden? Dyna i mi Aelod Seneddol braf! Rhad ar y bobl a'i gyrrodd o yno, ddeuda i."

Teimlai'r Dr. Owen Thomas i'r byw oddi wrth drahauster y tirfeddianwyr, fel y gwelir yn ei lythyr i gynhadledd fawr Aberystwyth, 1869, a gafodd ei bod trwy wytnwch Cymry y wasgarfa, i wrthdystio yn erbyn gwaith tirfeddianwyr yn troi eu tenantiaid o'u ffermydd am bleidleisio yn ôl eu cydwybod yn Etholiad 1868.[3] Ychydig o ran a gymerodd y Doctor erioed mewn cwestiynau gwleidyddol. Pregethu'r Efengyl oedd gwaith mawr ei fywyd. Ond amlwg y teimlai i'r byw oddi wrth y gamdriniaeth a dderbyniai ei gydgenedl oddi ar law y tirfeddianwyr. Wedi sôn am y tyddynwyr yn cael eu troi o'u hen gartrefi, dywaid:

"Yn wir, fy anwyl syr, y mae o'r bron yn ddigon i beri i waed un ferwi i feddwl fod yn Mhrydain Fawr, yn yr hanner diweddaf o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg—o dan deyrnasiad y Frenhines Victoria—William Ewart Gladstone yn Brif Weinidog-Robert Lowe yn Ganghellydd y Drysorlys—ie, a John Bright yn Llywydd Bwrdd Masnach—y fath ormes yn cael ei ymarfer. Y mae y deyrnas wedi ei deffro i deimlo dros yr anghyfiawnderau y dioddefa yr Iwerddon oddi wrthynt. Ond nid oes dim yn yr Iwerddon yn waeth na hyn. Ac am fod y Gwyddel yn troi yn Ffeniad, yn ddiofal am gysegredigrwydd bywyd dynol, ac yn deall y gallu rhyfeddol sydd mewn cyffroad gwladwriaethol, y mae yn cynyrfu cydymdeimlad cyffredinol o'r bron: tra y mae y Cymro, druan, yn deyrngarol, yn llonydd, yn ufuddhau i gyfreithiau y wlad, yn bur yn ei galon i bendefigion ei wlad; ac heb law hyny, am

'Na lecha byth tu ol i'r gwrych,
I dalu ei rent â phlwm,'

—y mae yr anghyfiawnder a dderbynia efe yn cael myned heibio yn ddiystyr, neu ei wadu; neu, hwyrach, yn cael ei amddiffyn gan rai. Nid wyf fi yn gyfreithiwr; ond byddaf yn meddwl weithiau y gallai ein grasusaf Frenhines, trwy wneud defnydd llai gorthrymus o'i hawliau nag a ymarferir gan y tir-feistri hyn ag yr ydym yn cwyno o'u herwydd, benderfynu eu hachos mewn byr amser, a dwyn rhyddhad i'w deiliaid ffyddlawn a erlidir ganddynt. Os nad wyf yn camgymeryd, y mae yn egwyddor ddiamheuol yn nghyfraith Lloegr, fod yr holl dir yn Lloegr yn cael ei ddal trwy gyfryngwriaeth, neu yn ddigyfrwng gan y goron; gan hyny, y mae yr holl fan ormeswyr hyn eu hunain yn denantiad i'r penadur; ac nid ydynt, ac nis gallant feddianu un gyfran o'u hetifeddiaethau, ond fel peth deilliedig oddi wrth y penadur. Hwyrach nad ydyw hyn ond math o ffyg mewn cyfraith Seisnig; ond y mae llawer o'n tirfeistri yn y dyddiau hyn yn gosod temtasiwn gref o flaen y bobl, gan fod y fath allu yn eu dwylaw, i droi ffug yn sylwedd, mewn trefn i weled a ddichon i ryddhad ddyfod iddynt oddi yno. Bu amser pan yr ymunai y bobl ar barwniaid yn erbyn y brenin edryched ein barwniaid yn awr na byddo iddynt demtio y bobl i ymuno a'r penadur, o dan ryw deyrnasiad dyfodol, yn eu herbyn hwy eu hunain. Y mae y bobl mewn rhai manau, yn enwedig mewn parthau gwledig, yn dioddef braidd yr oll o anghyfleusderau yr hen gyfundrefn wriogaethol, ond heb fwynhau dim un o'u manteision; ac y mae yn wallgofrwydd ar ran y rhai sydd yn gormesu arnynt i dybied y bydd i'r fath sefyllfa ar bethau barhau byth. Yr wyf yn siarad yn gryf. Ond yr wyf yn teimlo fod rhai o denantiaid amaethyddol Cymru yn dioddef gorthrymderau lluosog a mawr, a'u bod wedi dioddef yn rhy hir ac yn rhy amyneddgar o danynt; ac y mae yn llawn bryd i'r rhai sydd y tu hwynt i gyrhaedd ysgriw pob meistr tir, agor eu genau dros y mud, yn achos holl blant dinystr."

Geiriau cryfion iawn, onid e, gan ŵr oedd wedi ei ddwyn i fyny yn y traddodiadau na ddylai pregethwr yr Efengyl gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth; ac er y dywaid ymhellach ymlaen nad yw y math yma o feistriaid tir ond eithriadau yng Nghymru, gŵyr pawb mai eithriadau lluosog iawn oeddynt. Rhaid bod dialedd y tirfeddianwyr ar ôl Etholiad '68 yn ofnadwy o gryf cyn y buasai Dr. Owen Thomas yn ysgrifennu'r uchod.

Rhoddaf eto ddarn o waith fy hen weinidog, y Prifathro Michael D. Jones y Bala, dyfynedig gan Dr. E. Pan Jones, a ddengys sut yr oedd pethau yng Nghymru ac yng nghylch Cwm Eithin ddeng mlynedd cyn yr amser yr ysgrifennai Dr. Owen Thomas, sef yng nghanol diwygiad '59, y flwyddyn y ganwyd Tom Ellis. Y mae yn yr hanes ddiddordeb neilltuol i mi, gan yr adwaenwn nifer o'r personau y sonnir amdanynt. Ac onid yng nghapel Soar, a werthodd Syr Watcyn dros ben yr aelodau, pan oedd mawl a gweddi'r saint yn esgyn i fyny yng ngwres y Diwygiad, y bûm yn dysgu yr A B C, ac yn adrodd fy adnod i Michael Jones? Ac nid anghofiais byth mo'r emyn a roddodd Tomos Owen, Tai Mawr, i'w ganu pan brynodd un o'r ffermwyr yr hen gapel, ac y daeth yn ôl yn eiddo'r addolwyr, er nad oeddwn ond prin ddechrau cerdded ar y pryd:

Mae'r orsedd fawr yn awr yn rhydd,
Gwrandewir llais y gwan;
Wel, cyfod bellach, f'enaid prudd,
Anadla tua'r lan.

"Buais yn brwydro deirgwaith â Syr Watcyn, a'i oruchwyliwr. Tua 25 mlynedd yn ol, mwy neu lai, areithiais yn y Bala yn erbyn i Syr Watcyn gadw'r afonydd, gan yr arferant fod yn rhyddion i'w pysgota er cyn cof. Galwyd fi i gyfrif yn bersonol gan y goruchwyliwr, a danfonodd y goruchwyliwr gychwr (boatman) Syr Watcyn at fy nhad i gymeryd fferm Weirgloddwen, yr hon a ddaliai o dan Syr Watcyn. Synodd fy nhad yn fawr, gan nad oedd wedi meddwl rhoi y fferm i fyny, nac wedi derbyn yr un warlin (notice to quit). Pan yr oedd fy nhad yn talu ei rent, dangosodd y goruchwyliwr ysgrif ddienw yn y 'Carnarvon Herald,' a dywedodd, 'Dyma ysgrif o eiddo eich mab chwi.' Gwelodd fy nhad mai bygythiad oedd anfoniad y cychwr i'w anfon o'i dir, os gwrthwynebid Syr Watcyn gan ei fab.

"Fy ail drosedd oedd yn mhen deng mlynedd wed'yn (mwy neu lai), areithio yn erbyn y dreth eglwys, a gwrthwynebu'r goruchwyliwr yn egniol ar y pwnc uchod. Ymddangosodd llawer o ohebiaethau yn y papyrau Cymraeg ar y pwnc. Galwodd y goruchwyliwr ar fy mam, yr hon oedd yn weddw ar y pryd, a dywedodd fod Syr Watcyn am gael y Weirgloddwen, sef fferm fy mam, i'r offeiriad. Y fferm oedd ar ol brwydr y pysgota yn gymhwys i'r cychwr, ar ol brwydr y dreth eglwys oedd yn gymhwys i'r offeiriad. Gwnaeth bob egni i gael gan fy mam i roi'r fferm i fynu o'i bodd. Gwrthododd roi telerau mewn un modd. Ychwanegodd y goruchwyliwr. Your son annoys Sir Watkin.' Codwyd yn rhent tenant arall, yr hwn oedd wedi gwrthod talu'r dreth, a'r unig un yn y plwyf oedd wedi gwrthod heb roi yr un rheswm."[4]

Yn y gyfrol Letters and Essays on Wales, 1884, gan Henry Richard, ceir llawer o eglurhad ar berthynas y tyddynwyr a'r tirfeddiannwr yng Nghymru yn dangos, 1. Paham y glynent mor ffyddlon i'r hen deuluoedd, disgynyddion yr hen bendefigaeth, ac na ddechreuasant dalu eu rhent â phlwm; 2. Paham y daeth y gagendor rhyngddynt, ac y daeth y boneddigion i edrych i lawr ar y Cymry uniaith, ac i'w trin mor annynol; 3. Condemniad llym Apostol Heddwch—y tyneraf o bawb—ar orthrwm y tirfeddiannwr.

Peth arall oedd yn gorthrymu'r ffermwyr a'r gweithwyr oedd y cyfreithiau annheg ac unochrog a wnaethpwyd ac a weinyddid gan y tirfeddianwyr. Nid oedd yn bosibl i'r tlawd gael cyfiawnder a chware teg. Fe ganodd Lewis Morris "Ddeg gorchymyn y traws—gyfoethog," a "Deg gorchymyn y dyn tlawd, y rhai nid ydynt yn yr xx. Bennod o Exodus." Rhoddwn yma rai o orchmynion y dyn tlawd fel y'u ceir yn y Diddanwch Teuluaidd, casgliad "Huw Llangwm " (1763):—

Dy Feistr—tir a fydd dy Dduw,
Nid ydwyt wrtho fwy nâ Dryw;
Ond ar ei Dir yr wyt yn byw?

Addola'r Stiwart tra bych byw,
Delw gerfiedig dy Feistr yw ;
Mae Stiwart mawr yn ddarn o Dduw,

Dos tros hwn trwy Dân a Mwg,
Gwylia ei ddigio rhag ofn drwg;
Gwae di byth os deil o wg.

Diwedda gyda'r deisyfiad:

Arglwydd wrthyf trugarha,
Os Llonydd genyt ti a ga',
Mi dala'r Rhent pan werthwy 'Nâ.

Rhaid addef i'r gweithwyr ddyfod i gredu nad oeddynt yn cael eu rhan tua hanner olaf y ganrif ddiweddaf. Clywais yr hen bobl, pan oeddwn yn hogyn, yn cwyno nad oedd yr un teimladau da rhwng y ddau ddosbarth ag a fodolai yn yr hen amser gynt, pan alwai y gwas a'r forwyn hwy F'ewyrth a Modryb. Pan ddechreuwyd eu galw yn Feistr a Meistres, fe gollwyd rhyw ofal am y gwas a'r forwyn. Tirfeddiannaeth, deddfau'r tir, gorthrwm y meistr, colli'r mynyddoedd, dyma'r pethau sydd wedi bod yn felltith yng Nghwm Eithin.

Ond dyweder a fynner am Gwm Eithin a'i drigolion, magwyd glewion yno; a pha faint bynnag oedd eu horiau hamdden, yr oeddynt yn bobl ddarllengar iawn, yn ddiwinyddion goleuedig, yn ddynion parod i ymladd dros eu hegwyddorion. Yno y magwyd arwyr y degwm, a hwy, o bawb, a ddangosodd i'r awdurdodau fod oes dioddef gorthrwm wedi dyfod i ben. Ni wreiddiodd ysbrydiaeth benderfynol Thomas Gee yn well yn un rhan o'r wlad nag yng Nghwm Eithin. Goddefodd hen gyfoedion i mi gael eu hanfon i garchar Rhuthyn yn hytrach na pharhau i ymostwng i gyfraith orthrymus oedd wedi dyfod i lawr o'r Oesoedd Tywyll.

Credaf fy mod wedi ysgrifennu digon bellach i ddangos mor galed oedd byd y ffarmwr, fel na wnaf gam ag ef wrth geisio disgrifio byd caled y gwas a'r forwyn i genhedlaeth newydd na ŵyr lawer am y cyfnod y cyfeiriaf ato, fel y'i cofir gan un o blant y gorthrwm.

Nodiadau[golygu]

  1. A walk through Wales, 1797, gan Richard Warner, Bath.
  2. Gweithiau Samuel Roberts, Dolgellau, 1856.
  3. Gweler Tyst, Rhag. 3, 1869.
  4. Gweler hefyd Landlordiaeth yn Nghymru gan T. J. Hughes, Adfyfr (a adargraffwyd yn bamffled), o'r Traethodydd am Gorffennaf a Medi, 1887, ar yr un pwnc.