Cyduned seintiau daear lawr

Oddi ar Wicidestun
Cyduned seintiau daear lawr


wedi'i gyfieithu gan Anhysbys
Fe welir Seion fel y wawr

316[1] Undod yr Eglwys.
M. C.

1 CYDUNED seintiau daear lawr
A thyrfa fawr y nef,
I ganu clodydd Iesu mawr:
Un ydynt ynddo Ef.

2 Un teulu dedwydd sydd gan Dduw,
Un Eglwys fyw sy'n bod;
Mae rhan o fewn y nefol lys,
Rhan arall is y rhod.

3 Ehedeg i'r anfarwol fyd
Mae miloedd bob rhyw awr;
Mae'n tynfa ninnau, ddydd a nos,
I'r tragwyddoldeb mawr.

4 0! am gael uno gyda'r llu
A gyrchodd at y nod,
Ac ar adenydd cariad cu
Ehedeg uwch y rhod.

Charles Wesley
Cyf Anhysbys


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 316, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930