Fe welir Seion fel y wawr

Oddi ar Wicidestun
Cyduned seintiau daear lawr Fe welir Seion fel y wawr,

gan Morgan Rhys

317[1] Gogoniant Seion
M. C. D.

1 FE welir Seion fel y wawr,
Er saled yw ei gwedd,
Yn dod i'r lan o'r cystudd mawr,
'N ôl agor pyrth y bedd;
Heb glaf na chlwyfus yn eu plith,
Yn ddisglair fel yr haul,
Yn y cyfiawnder dwyfol byth
A wnaed gan Adda'r Ail.

Trefniant gan Morgan Rhys


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 317, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930