Cyfamod hedd, cyfamod cadarn Duw

Oddi ar Wicidestun
Duw yw fy nerth a'm noddfa lawn Cyfamod hedd, cyfamod cadarn Duw

gan Edward Jones, Maes y Plwm

Cyn llunio'r byd, cyn lledu'r nefoedd wen
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930


91[1] Cadernid Cyfamod Duw.
10. 10. 10. 10.

1.CYFAMOD hedd, cyfamod cadarn Duw,
Ni syfl o'i le, nid ie a nage yw:
Cyfamod gwir, ni chyfnewidir chwaith;
Er maint eu pla, daw tyrfa i ben eu taith.

2.Cyfamod rhad, o drefniad Un yn Dri,
Hen air y llw a droes yn elw i ni:
Mae'n ddigon cry' i'n codi i fyny'n fyw;
Ei rym o hyd yw holl—gadernyd Duw.

3.Cyfamod cry'—pwy ato ddyry ddim?
Nid byd na bedd all dorri'i ryfedd rym:
Diysgog yw hen arfaeth Duw o hyd;

Nid siglo mae, fel gweinion bethau'r byd.
4.Er llithro i'r llaid, a llygru defaid Duw,
Cyfamod sy i'w codi i fyny'n fyw,
A golchi i gyd eu holl aflendid hwy,
A'u dwyn o'r bedd heb ddim amhuredd mwy.

Edward Jones, Maes y Plwm

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 91, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930