Duw yw fy nerth a'm noddfa lawn

Oddi ar Wicidestun
Duw mawr y rhyfeddodau maith! Duw yw fy nerth a'm noddfa lawn

gan William Williams, Pantycelyn

Cyfamod hedd, cyfamod cadarn Duw
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930


90[1] SALM XLVI. 1—5.
888.888.

1.DUW yw fy nerth a'm noddfa lawn;
Mewn cyfyngderau creulon iawn,
Pan alwom arno, mae gerllaw;
Ped âi'r mynyddoedd mwya' i'r môr,
Pe chwalai'r ddaear fawr a'i stôr,
Nid ofnai f'enaid i ddim braw.


2.A phe dôi'r moroedd dros y byd
Yn genllif garw coch i gyd,
Nes soddi'r bryniau fel o'r blaen;
Mae afon bur i lawenhau
Â'i ffrydiau ddinas Duw'n ddi—drai,
Preswylfa'i saint, a'i babell lân.

3.A Duw sydd yno yn eu plith,
Ni 'sgogir un ohonynt byth;
Fe'u cymorth hwy yn fore iawn:
Y bore byddo mwy na mwy
O bob gwasgfaeon arnynt hwy,
Ceir gweld addewid Duw yn llawn.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 1, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930