Neidio i'r cynnwys

Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch/Am ddewis mochyn, gyda golwg ar ei besgi

Oddi ar Wicidestun
Tail Moch Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch


golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon
Am epilio a magu moch


AM DDEWIS MOCHYN, GYDA GOLWG AR EI BESGI.

Y moch goreu, gyda golwg ar hychod a baeddod, at besgi, a ddewisir yn ol yr ymddangosiadau canlynol. Dylai fod ganddynt gyrph hirion a mawrion, ochrau a boliau dyfnion, coesau byrion, a chefn llydan, yn orchuddiedig â gwrych cryfion. Ni ddylai fod gan yr hwch ond deg o dethi, neu ddeuddeg yn y man pellaf; a chyda golwg ar eu lliw, y gwỳn neu y goleu ydyw y goreu; y rhai brithion a ystyrir y gwaelaf, am eu bod yn fwy darostyngedig i'r frech goch.

Ond er mwyn bod yn uniongred ar y pen hwn, ni a ddyfynwn o waith Mr. Richardson, yr hwn sydd wedi talu sylw mawr i fagwraeth moch :

Yn y lle cyntaf, dyfnder digonol yn y corph, a digon o hyd, fel y gallo ymeangu yn ei led. Bydded y lwyn a'r fron yn llydain. Y mae lled y lwyn yn arddangos fod yno ddigon o le i'r ysgyfaint chwareu, a chylchrediad iachus i'r gwaed mewn canlyniad i hyny, yr hyn sydd yn hanfodol at beri i anifail ddyfod yn ei flaen, a phesgi. Dylai yr esgyrn fod yn fychain, a'r cymalau yn feinion. Nid oes dim yn dynodi rhywogaeth uchel yn well na hyn; ac ni ddylai coesau yr anifail fod yn hirach nag a geidw ei fol rhag llusgo hyd y llawr, pan fyddo yn hollol dew.

"Y goes yw y gyfran fwyaf anfuddiol o'r mochyn, ac o ganlyniad nid oes arnom angen am ychwaneg o honi nag a fyddo yn ofynol i gynal y gweddill o'r corph. Edrycher am fod y traed yn gedyrn ac iachus; am fod y bysedd yn gorwedd yn agos at eu gilydd, ac yn pwyso yn wastad ar lawr: hefyd, am fod yr ewinedd yn wastad, sythion, ac iachus.

"Y mae llawer un yn dywedyd nad yw ffurf pen y mochyn ond o ychydig neu ddim pwys, ac y gallai mochyn da feddu pen afluniaidd, nad ydyw o bwys i neb ond i'r anifail sydd i'w gario; ond yr wyf fi yn ystyried fod pen pob math o anifeiliaid yn un o'r prif bethau sydd yn arddangos puredd neu amhuredd y rhywogaeth.

"Canfyddir fod anifail o rywogaeth uchel bob amser yn cyrhaedd llawn dyfiant yn gynt, yn cymeryd cig yn gynarach, ac yn rhwyddach, ac yn fwy buddiol yn mhob peth, nag un o rywogaeth amheus neu amhur; a chan mai fel yna y mae pethau yn bod, yr wyf yn ystyried na ddylai y neb a fyddo yn prynu mochyn fyned heibio i'r pen yn ddisylw.

"Y pen ag sydd debycaf i addaw, neu yn hytrach i ganlyn rhywogaeth dda, ydyw un heb fod yn meddu gormod o asgwrn, heb fod yn rhy fflat ar y talcen, nac yn meddu trwyn rhy hir-yn wir, dylai y trwyn fod yn fyr yn hytrach, y talcen braidd yn grynaidd, ac yn adgyrfio i fyny; a dylai y glust, er yn lliprynaidd, ogwyddo ychydig yn mlaen, a bod yn deneu ac ysgafn ar yr un pryd.

"Ni fynwn ychwaith i'r prynydd fyned heibio yn ddisylw hyd yn nod i gerddediad mochyn. Os bydd ei gerddediad yn swrth, trwm, a marwaidd, tueddid fi i'w wrthod, am yr amheuwn nad yw yn iach, os na byddai rhyw afiechyd gweledig yn bodoli ynddo y pryd hwnw, ei fod ar fin tori allan; nis gall fod un arwydd gwaeth na phen lliprynaidd a llusgol, yn cael ei gario megys pe buasid am ei ddefnyddio fel pummed,coes.

"Bid sier, os byddwch yn prynu mochyn at ei ladd, neu hwch dòrog, prin y gallwch ddysgwyl ysgafnder cerddediad; ond yr wyf fi yn cyfeirio yn benaf at brynu ystorfoch ieuaingc, y ganghen gyffredin o fagwraeth moch, am mai hi ydyw yr un fwyaf enillgar.

"Ac nid yw y lliw ychwaith i'w adael yn hollol ddisylw. Gyda golwg ar foch, yr un modd a phob math o dda byw, byddai i mi ddewis y lliwiau hyny ag a nodweddant ein rhywogaethau gwerthfawrocaf. Os bydd y gwrych yn deneu, edrychwn am ddu, am y dynodai hyny gysylltiad â moch tyner Naples; ond os byddant yn rhy lwm o flew, tueddid fi i ofni cysylltiad rhy agos â'r amrywiaeth hwnw, a diffyg caledrwydd o ganlyniad, yr hyn, gan nad pa mor ddibwys bynag ydyw, os eu cig a fydd mewn golwg genych, a wna y cyfryw anifeiliaid yn anturiaeth beryglus fel ystorfoch, am eu bod mor agored i gael anwyd, ac o ganlyniad yn ddarostyngedig i fagu afiechyd. Os moch gwynion a fyddant, ac heb fod yn rhy fychain, buaswn yn eu hoffi am eu bod yn arddangos cysylltiad â mochyn China. Os goleu neu felynaidd a fyddant, neu goch gydag ysmotiau duon, adnabyddwn yr anifail dymunol hwnw-mochyn Berkshire; ac felly yn mlaen gyda phob amrywiaeth dichonadwy o liwiau. Gall y sylwadau hyn ymddangos yn ddibwys i rai darllenwyr, ac efallai i ryw ddosbarth o bobl ag sydd yn gynefin â magu moch; ond gallaf eu sicrhau mai dyna y sylwadau pwysicaf a wnaethum i eto, ac y` byddai yn lleshaol i'r porthmon pe yr edrychai atynt yn fanwl."

Nodiadau

[golygu]