Neidio i'r cynnwys

Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch/Tail Moch

Oddi ar Wicidestun
Am y Gwahanol Rywogaethau o Foch Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch


golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon
Am ddewis mochyn, gyda golwg ar ei besgi


TAIL MOCH.

Pwngc pwysig ydyw hwn gyda golwg ar foch, ac anifeiliaid ereill, o ran hyny hefyd. Gan mai felly y mae, dichon mai gwell i ni wneyd ychydig sylwadau ar y pen hwn, cyn myned yn mhellach. Nid ydyw tail moch yn cael ei gynilo na'i werthfawrogi yn agos mor uchel ag y dylai gael. Y mae yr enill ar besgi mochyn at facwn yn fynych yn cael ei gyfyngu i'r tail a geir; ac oni wneir o goreu o hwn yn mhob ffordd, ni ystyrir fod y gorchwyl o besgi yr anifail ond y nesaf peth i ddim. Ar y pen yma, dywed un awdwr craffus fel y canlyn:-"Hysbysir fi yn barhaus gan weithwyr a llafurwyr y gallant brynu y bacwn yn Lloegr yn llawer rhatach nag y gallant ei gael trwy besgi mochyn eu hunain ar flawd wedi ei brynu. Credir fod pob anifeiliaid a borthir âg ymborth brâs, megys ŷd, blawd, a theisenau olew, yn dychwelyd yn ol un ran o dair o'r draul yn eu tail. Y mae tail mochyn a borthir ar flawd yn werth teirgwaith cymaint ag eiddo mochyn a besgir ar lysieufwyd. Bydd i fochyn a fwytao werth £4 o flawd roddi allan o leiaf werth £1 o dail. Oddiyma y tardd y pwysigrwydd o gadw a dodi allan yn y dull goreu yr hyn yn rhy fynych a adewir i fyned yn wastraff."

Nodiadau

[golygu]