Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch/Am y Gwahanol Rywogaethau o Foch
← Yr Hwch Fagu | Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
Tail Moch → |
¶
AM Y GWAHANOL RYWOGAETHAU O FOCH,
A'U TRINIAETH GYFFREDINOL.
Y mae tri rhywogaeth o foch a brisir yn fwy arbenig nag ereill yn y wlad hon. Y cyntaf ydyw Mochyn Berkshire; yr ail, Mochyn China; a'r trydydd ydyw, Mochyn Essex (y rhywogaeth ddiweddaraf a diwygiedig o'r olaf.) Y rhai hyn hefyd ydynt y rhywogaethau a nodir yn fwyaf amlwg gan brydweddion gwahanol; er fod eu croesi, a neillduolion yn eu porthiant a'u sefyllfaoedd, yn cynyrchu amrywiaethau a wahaniaethant i raddau bychain y naill oddiwrth y llall, braidd yn mhob un o siroedd Lloegr a Chymru.
Y mae Mochyn Berkshire, yr hwn yw gwreiddyn y rhan fwyaf o'r rhywogaethau, o liw cochlyd, ac ysmotiau duon hyd-ddo; clustiau lled fawrion, yn gogwyddo yn mlaen, ond yn sythion; yn ddwfn o ran ei gorph, gyda choesau byrion ac asgwrn bychan. Cyrhaedda i'w lawn faint yn fuan, pesga yn rhwydd, a chyda chyflymdra rhyfeddol hefyd. Y mae y rhywogaeth hon, pan yn cael triniaeth dda, yn tyfu i faintioli dirfawr. Y mae Culley yn crybwyll am fochyn Berkshire, yr hwn a besgwyd gan amaethwr yn sir Gaerlleon, ac a fesurai o flaen y trwyn hyd fôn y gynffon, naw troedfedd ac wyth modfedd; ei uchder yn yr ysgwydd oedd bedair troedfedd a phum' modfedd a haner. Pan yn fyw, pwysau yr anifail anferthol yma 1410 pwys; ac wedi ei lanhau, a'i drin gan y cigydd, pwysai 1215 pwys!
Y mae Mochyn China, a siarad yn gyffredinol, o faintioli bychan. "Y mae y corph," medd awdwr diweddar, "agos yn berffaith grwn yn ei ffurf; y cefn yn gostwng oddiwrth y pen; tra y mae y bol, ar y llaw arall, yn isel, ac mewn rhai tewion o honynt, cyffyrdda braidd â'r ddaear. Y mae y clustiau yn fychain ac yn fyrion, yn tueddu at fod yn haner syth, ac yn gyffredin wedi eu gosod ychydig yn ol; y mae yr asgwrn yn fychan; y coesau yn feinion a byrion; y gwrych prin yn deilwng o'r enw, am eu bod mor feddal, nes y maent yn debycach i wallt; gwyn ydyw eu lliw yn fwyaf cyffredin, du ambell waith, a brith yn achlysurol. Ystyrir y rhai gwynion yn fwyaf dewisol, ar gyfrif tynerwch rhagorach eu cig. Y mae y wyneb a'r pen yn annhebyg i eiddo unrhyw fath arall o foch, tebygant yn hytrach i wyneb a phen llô; gan hyny, os unwaith y gwelir y rhywogaeth hon, ni anghofir hi yn hawdd. Y mae moch China yn fwytawyr da, cyrhaeddant eu llawn faint yn fuan, a phesgant yn dew ar lai o ymborth, a thrymhant fwy mewn amser pennodol nag unrhyw foch o'r amrywiaethau Ewropeaidd."
Moch Essex.—Y mae y moch a berffeithiwyd, a defnyddio y gair yn derfynol, yn swydd Essex, yn sefyll yn uchel, ar gyfer rhyw ddybenion, yn mysg y rhywogaethau Prydeinig. Dywedir fod y perffeithiad wedi cael ei effeithio trwy groesi rhwng hen fochyn Essex a mochyn Naples; ond y mae yn debyg fod a wnelai mochyn China a Berkshire rywbeth â'r gwellhad. Y mae y mochyn yn cael ei ddysgrifio fel yn meddu clustiau sythion; pen main hir; corph hir a gwastad, gydag asgwrn bychan; y lliw gan amlaf yn ddu, neu ddu a gwyn, a'r croen yn dyner, ac heb ddim blew braidd. Y mae yn fwytâwr cyflym, ond gofyna fwy o gyfartaledd o fwyd nag a ddylai gael, gyda golwg ar y pwysau a gyrhaedda; ac heblaw hyny, dywedir ei fod yn anifail anesmwyth ac anfoddlon. Y mae yr hychod yn epilio yn dda, a chynyrchant dorllwythi o wyth i ddeuddeg o rifedi; ond dywedir nad ydynt ond mammaethod lled wael.
Yn ychwanegol at y tair rhywogaeth uchod, efallai y dylem grybwyll gair am
Yr Hen Fochyn Prydeinig.—Mochyn afrywiog, esgyrniog, gydag ystlysau gwastad, trwyn hir, clustiau lliprynaidd, a gwrych breision a garw, ydoedd hwn. Nid oes neb yn hidio nemawr am dano yn awr. Er hyny, meddai rai rhinweddau—yr oedd o faintioli a chaledwch mawr, ac yr oedd yr hychod yn rhai da am fagu a rhoddi sugn i dorllwythi mawrion; a phan wedi eu pesgi, byddai eu cig yn dda o ran ei ansawdd, a digon o resi cochion trwyddo. Ond nid oedd tueddiad i besgi, modd bynag, yn mysg eu rhagoriaethau; oblegyd er eu bod yn bwyta yn orwangcus, nid oeddynt nac yn magu cig nac yn pesgi mewn cyfartaledd. At wella y diffyg yma, dygwyd rhywogaethau moch China a Naples i'r wlad hon. Gwnaeth y croesfridiad yma les mawr i'r hen rywogaeth frodorol, er nad ydynt yn cael eu hoffi yn fawr iawn eto.
Amrywiol Rywogaethau ereill.—Er mai y tri rhywogaeth a nodwyd sydd yn cymeryd y blaen yn bresenol yn yr Arddangosfaoedd, eto y mae rhai rhywogaethau ereill na ddylem fyned heibio iddynt yn ddisylw. Dyna rywogaeth fawr, wỳn a du, swydd Gaerlleon; moch gwynion Suffolk a Hampshire; a moch brithion swydd Sussex a'r Amwythig-y mae y rhai hyn yn dra adnabyddus yn mysg rhywogaethau ein gwlad. Y maent yn fwy garw, a siarad yn gyffredinol, na moch Berkshire a China. Y mae y naill a'r llall o honynt wedi cael eu trosglwyddo yn lled helaeth i Gymru ac Ysgotland, lle yr ymddengys fod rhywogaeth wèn, llai o ran gwerth, wedi cael ei chyfleu yn gynarach, os nad ei naturioli. Y mae hefyd yn Ysgotland, fochyn llwyd bychan, naturiol i'r wlad yn ol pob ymddangosiad, yr hwn a ymbortha yn finteoedd ar borfeydd naturiol yr Ucheldiroedd (Highlands,) a chynyrcha gig tra rhagorol. Trwy ei borthi yn dda gydag ymborth o ddyfais dyn, gellir ei godi i faintioli tra mawr. Ond y rhywogaeth a werthfawrogir yn fwyaf cyffredin yn Mhrydain ydyw cymysg o foch lliw tywyll China gyda moch Berkshire, neu rai o'r amrywiaethau mwyaf o'r hen fochyn Prydeinig. Y mae y croesiad yma yn meddu lluaws o nodweddau da, ac y mae yn un hynod o epilgar. Y mae daearfochyn Hampshire naill ai yn perthyn neu yn gyfathrachol i amrywiaeth Berkshire; mochyn du ydyw hwn, cymhwys iawn i weithwyr, canys y mae yn dra hawdd ei fwydo a'i besgi, ac felly y mae yn dra gwerthfawr.
Yn yr Iwerddon, lle y mae y mochyn gwreiddiol a chynhenid yn cael ei ddarlunio, gan un o ysgrifenwyr galluog y wlad hono, fel yn "dal, hirgoes, esgyrnaidd, trwm-glustiog, garw ei flewyn, ac yn tebygu mwy o lawer i faedd gwyllt nag i fochyn gwareiddiedig," da genym hysbysu fod y rhywogaeth wedi gwella yn fawr yn ystod y blynyddau diweddaf, ac fod yr hen foch anfuddiol hyn yn prysur ddiflanu ac ar fyned, heibio. Y mae y rhywogaethau diwygiedig o foch yn bresenol yn yr Iwerddon mor debyg i foch Lloegr a Chymru fel nas gellir yn 'hawdd wahaniaethu rhyngddynt.