Neidio i'r cynnwys

Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch/Yr Hwch Fagu

Oddi ar Wicidestun
Y Fantais o gadw Moch Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch


golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon
Am y Gwahanol Rywogaethau o Foch


YR HWCH FAGU

yr hon sydd yn dra epilgar, ac mor enillfawr, ac hefyd mor rhwydd a rhad i'w chadw. Am yr hwch fagu, dywed Mr. Kinard B. Edwards, awdwr adnabyddus a galluog ar bob math o anifeiliaid a ffowls, yn mhlith y Saeson, fel y canlyn:

"Yr oedd genyf yn ddiweddar hwch fagu a ddygodd i mi dri thorllwyth (35 o foch bach o gwbl,) yn ystod deuddeng mis o amser. Nid oedd yr hen hwch yma (neu yn hytrach, yr hwch ieuangc yma, fel y dylwn ei galw, oblegyd nid oedd pan ymadewais â hi mor hen) yn costio i mi ond ychydig iawn at ei chadw er pan y prynais hi am bunt, yn dri mis oed. Y mae wedi byw ar bwcedaid o olchion o'r tŷ (erwyn pytatws, ac ysbwrial o'r fath,) fore a hwyr, ynghydag ychydig ysgarthion o ardd fechan, ac ychydig laswellt a borai yn ystod y dydd mewn perllan fach. A rhoddi amcan argyflawn werth yr ymborth a roddais iddi, yn sicr nid ydoedd wedi costio i mi fwy na saith geiniog yn yr wythnos er pan yr oedd genyf. Yr wyf yn cyfrif fy mod wedi enill yn glir £25 yn y flwyddyn ar yr hwch yma yn ystod y tair blynedd blaenorol cyn i im ei gwerthu hi a'i thorllwyth olaf. Yn ystod y tair blynedd hyny, yr oedd yr hwch yma wedi fy anrhegu âg oddeutu 90 o foch bach o gwbl, y rhai a werthais am bunt yr un ar gyfartaledd, yr hyn a gyrhaeddai oddeutu £30 yn y flwyddyn."

Richardson, ysgrifenydd manwl ar gadwraeth moch, a ddywed fel hyn:-"Yn ol yr amcangyfrifiad lleiaf, y mae enill o £300 i £400 y cant ar y gost o fagu hychod a pherchyll."

Nid oes yr un anifail a ddwg enill yn fwy rheolaidd nac yn fwy cyflym nag a gwna yr hwch, ac nid oes un anifail, o'i maintioli, y gellir ei gadw ar lai o draul arianol, nac yn gofyn mor lleied o lafur a thrafferth i edrych ar ei ol. Y mae hychod a ddygir yn rheolaidd at y baedd, ac a ddygant dorllwythi lluosog, os byddant yn famau gofalus, yn sicr o droi allan yn enillgar iawn. Os bydd i'r hwch gymeryd y baedd, fel y gwnant yn gyffredin, yn mhen deng niwrnod ar ol dyfod a pherchyll, yn lle yn mhen wyth wythnos ar ol hyny, wrth gŵrs cynyrcha fwy o foch bach yn ystod yr amser y bydd i chwi ei chadw i fridio, a chewch fwy o enill ar gyfartaledd yn y diwedd. Gan hyny, y mae yn gwbl bosibl i hwch ddwyn i mewn enill blynyddol o £30 o leiaf, er y rhaid edrych ar y fath enill fel peth nad ydyw bob amser yn gyrhaeddadwy. Gellir dyweyd fod prisiau moch bach yn amrywio, ac nad yw y pris a nodwyd yn flaenorol am danynt bob amser i'w gael; ond, mewn gwirionedd, y mae prisiau y cyfryw trwy Loegr a Chymru, yn ystod y blynyddau diweddaraf, ar gyfartaledd yn nes i £1 nag i 18s., ac yn nghymydogaeth trefydd, a lleoedd poblog, y mae y pris yn gyffredin yn fwy na £1. Gan hyny, nid oes dim i rwystro i neb wneyd yr enill uchod yn y rhan fwyaf o ardaloedd ein gwlad. Dylai hwch fagu dda ddwyn deg o foch bach o leiaf yn mhob torllwyth.

Nid oes dim mwy o anhawsder, ac y mae llawer iawn llai o gost, i gadw hwch fagu, nag i besgi mochyn trwy yr haf at ei ladd yn y gauaf er cael bacwn; ac y mae yn ddyogel genym, oddiwrth y profiad a gawsom, yn ol prisiau cyffredin grawn a blawd, fod yr enill yn anghydmarol fwy wrth gadw hwch nag wrth fagu a phesgi mochyn, naill ai at borc neu facwn.

Y peth mwyaf gwerthfawr mewn cysylltiad â'r hwch ydyw

EI NATUR EPILGAR,

a'r cyflymder â pha un y mae yn dwyn torllwyth ar ol torllwyth i'r byd, a'r oedran cynar yn mha un gellir diddyfnu ei moch bach, a'u gwerthu; a thrwy gadw hwch fagu y gellwch fwynhau y manteision hyn, y rhai ydynt un o'i phrif ragoriaethau. Y mae ar gof a chadw mewn hanes fod un Mr. Tilney, o Essex, ar un pryd yn feddiannol ar hwch a ddygodd iddo 301 o foch bach mewn tri thorllwyth ar ddeg, ac y mae Mowbray yn crybwyll am hwch a fagodd bedwar ar bymtheg o foch mewn un torllwyth. Nid yw torllwyth o ddeuddeg, pedwar ar ddeg, neu un ar bymtheg, ond pethau cyffredin iawn.

Yn y fan hon ni a ddyfynwn dystiolaeth gŵr enwog arall ar y cwestiwn dan sylw:

"Yr wyf fi yn credu y byddai i'r rhan fwyaf o lafurwyr ag oedd yn cadw un mochyn, gael allan y byddai yn llawer mwy enillgar iddynt gadw hwch fagu, hyd yn nod pe byddai raid iddynt werthu ei moch bach am nawswllt neu ddeg yr un, yn hytrach na magu mochyn i'w besgi. Gellir cael 'nerobau o facwn (o'r fath ag ydyw) mewn unrhyw gyflawnder o wledydd tramor, lle y mae ŷd yn rhad, i gydymgais â'n marchnadoedd ni gartref. Ond nid felly gyda moch bach; nid oes berygl am unrhyw gydymgais tramorol gyda hwy, ac mor bell ag y byddo 99 allan o bob 100 o fagwyr moch yn y wlad hon yn cadw mochyn i'w besgi ar gyfer pob un a geidw hwch, nid oes dim perygl na bydd digon o ofyn bob amser ar foch bach, ac na bydd eu prisiau byth yn îs o lawer nag y maent ar yr adeg bresenol."

PA FATH HWCH FAGU I'W PHRYNU.

Wrth brynu hwch fagu, y mae yn ofynol i chwi edrych allan eich bod yn cael hwch "agored," neu un heb ei dyspaddu. Dylai fod o hyd da o ran ei chorph, ac o un o'r rhywogaethau mawrion Prydeinig diwygiedig. Nid yw byth yn talu i gadw un o'r creaduriaid garw, esgyrniog, hirgoesog, a haner newynllyd hyny ag a welir yn cael eu cadw mor fynych gan lafurwyr ar gommins neu diroedd wâst; y maent yn fwyteig tu hwnt i bob rheswm—gofynant gymaint ddwywaith o ymborth i'w cadw mewn cyflwr da ag a aiff i gadw hwch o rywogaeth ddiwygiedig yn y cyffelyb gyflwr. Gellwch wybod yn lled dda i ba faintioli y tŷf y perchyll, oddiwrth faint ac ymddangosiad y fam, yr hon y dylech bob amser fod yn awyddus am ei gweled. Os bydd yu bosibl, ceisiwch hwch ag y byddo ychydig o groesfridiad mochyn China ynddi, fel y mae yn y rhan fwyaf o'r rhywogaethau diwygiedig; y mae hychod felly yn hawdd eu cadw mewn cyflwr da, a phob amser yn meddu torllwythi lluosog. Gellwch gael hwch o'r fath a ddysgrifiwyd am oddeutu deunaw swllt, yn wyth neu ddeng wythnos oed. Beth bynag a wnewch, byddwch yn ofalus i gael hwch fagu o rywogaeth dda.

PA FODD Y DYLID CADW HWCH FAGU.

Y mae yr un awdwr yn myned yn mlaen, ac yn dy-wedyd: "Pan yn son am gadw hwch fagu, yr wyf yn meddwl un fel ag y dylid ei chadw. Y mae dwy ffordd o gadw hwch-un ffordd yn enillgar, a'r llall yn golledus. Ni wnaiff y tro eu cadw fel y cedwir hwy yn fynych. Nid oes, yn fy meddwl i, yr un math o fochyn mor dueddol i gael ei esgeuluso a'r hen hwch; dysgwylir iddi hi ymdaro drosti ei hun, yn debyg i'r modd y gwna ffowls y ffermwr, yn y modd goreu y gallant!' Fel rheol, y mae yr hwch fagu yn cael rhy fychan o ymborth, yn byw mewn cwt budr ac mor deneu a milgi, yn rhedeg ar hyd y ffyrdd, y comins, a'r tiroedd agored, i durio am chwilod, gwreiddiau, a rhyw fath o ymborth a ddichon gael. Yn ol y dull yma o ymddwyn tuag ati, anaml y mae mwy nag un torllwyth, neu ddau yn y man pellaf, i'w cael oddiwrthi yn y flwyddyn; ac nid yw y moch bach, trwy ddiffyg gofal priodol, prinder bwyd, a chyflwr gwanllyd y fam, ond prin werth haner y pris a ddylent gyrhaedd yn gyffredin."

Pa mor bwysig bynag ydyw digonedd o ymborth, a hyny yn rheolaidd, nid weithiau gormod a phryd arall rhy fychan, y mae yn ofynol cofio fod glanweithdra a chlydwch yn llawn mor bwysig er sicrhau llwyddiant.

SYLWADAU TERFYNOL AR Y PEN HWN.

Nid oes unrhyw anifail yn geni ei rai bach yn rhwyddach a mwy didrafferth, yn gystal ag yn ddyogelach nag y mae yr hwch, ac y mae hyny yn beth mawr; ac y mhellach, hyd y gwyddys, nid oes un anifail yn llai darostyngedig i afiechydon nag ydyw y mochyn; er eu bod hwythau, fel y cwbl o waith llaw yr Hollalluog, yn agored i ryw annhrefn weithiau yn eu cyfansoddiad, naill ai trwy aflerwch dyn, neu ynte eu hesgeulustra eu hunain. Ond cawn sylwi ar hyn rhagllaw, dan y penawd AFIECHYDON MEWN MOCH.

Bydded i ni yn awr gymharu yr enillion a geir trwy gadw hwch fagu, ar gyfer yr enill a geir trwy fagu a phesgi mochyn at ei ladd er mwyn cael ei facwn. Wel, yr ydym yn prynu mochyn ieuangc am 18s.; y mae y draul o'i gadw tra y mae yn tyfu i fyny i'w gyflawn faintheb, ioli oddeutu yr un faint a chadw hwch-ceiniog yn y dydd; neu 30s. yn ystod y deuddeng mis. Yn awr, Lorfatybiwch eich bod yn dechreu pesgi y mochyn yn yr oed yma; bydd iddo fwyta 8 cant o flawd i'w wneyd yn ddigon tew i bwyso, dywedwch, ugain ugain, neu bedwar cant, a bydd yn werth £10; dengys hyn fod £6 Ss. allan o £10, wedi ei dreulio ar y mochyn yma, gan adael £3 12s. o enill ar gyfer £38 a enillid trwy yr hwch fagu yn ystod pedwar mis ar bymtheg! oblegyd gellid gwneyd hyny yn glir oddiwrthi yn yr yspaid hwnw o amser, fel y dangoswyd yn flaenorol (tudal. 8,) os byddis yn weddol lwyddiannus a gofalus. Y mae yn eithaf amlwg gan hyny ein bod yn iawn wrth ddywedyd, hyd yn nod pe gwerthid moch bach am 10s. yr un, a phe byddai i'r draul o gadw yr hwch fyned yn fwy nag a amcan-gyfrifir genym, fod er hyny swm mawr o arian yn weddill yn ffafr cadw yr hwch fagu.

Y mae yn eithaf adnabyddus fod y mochyn yn un o'r anifeiliaid goreu am bori, a'i fod yn dyfod yn ei flaen ar bob math o lysiau. Mewn rhai siroedd yn Lloegr cedwir hwy wrth y cannoedd, os nad miloedd, a gyrir hwy beunydd i'r maesydd i bori, neu ynte i ymchwilio am lysiau. Mor belled ag y byddwn yn alluog i godi digon o borfa, rywle o haner cant i bedwar ugain tunell yr acer a chofier na bydd i hwch wedi tyfu i'w chyflawn faintioli fwyta ond llai na chwe' thunell mewn deuddeng mis,) ni ddylai yr un llafurwr fod ar ol am fwyd iddi, am y byddai i glwt bychan o dir roddi digonedd o borfa iddi.

Gwneler prawf ar hyn,—ni bydd y draul ond ychydig; y mae gan y rhan fwyaf o lafurwyr ryw fath o gwt mochyn; ac os nad oes, gellid codi un am o ddwybunt i dair. Gallai gael hwch ieuangc am oddeutu deunaw swllt, ac yna gallai ddechreu. Bydded iddo gadw cyfrif manwl o'i holl dreulion nes y byddo wedi gwerthu ei dorllwyth cyntaf, ac yna gall weled faint a fydd ei enill, a pha un a fydd yn werth iddo fyned yn ei flaen gyda'r gorchwyl ai peidio.

Terfynwn y sylwadau hyn ar hychod magu yn ngeiriau yr un awdwr galluog ag y crybwyllwyd am dano yn flaenorol:

"Un gair at fy nghyfaill y llafurwr, yr hwn y dichon nad oes ganddo un cyfaill i'w gynorthwyo, ond yr hwn sydd yn barod i gynorthwyo ei hun; ac nid oes dim cynorthwy yn debyg i hunan-gymhorth, na phrofiad yn gyffelyb i'r un y rhaid i chwi ei brynu ar draul eich poced eich hun. Dechreuwch yn iawn; adeiladwch gwt priodol, a chedwch hwch fagu iawn, a rhoddwch iddi yr holl sylw a gofal a nodwyd yn flaenorol, ac yr wyf yn credu yn onest y bydd i chwi gael eich hun yn gyfoethocach dyn o ryw £20 neu £25 yn y flwyddyn. Yr wyf yn gwbl hyderus nad oes ond ychydig enill ar besgi mochyn gydag ymborth wedi ei brynu yn ddrud; ond fe'ch argyhoeddir fod elw mawr ofagu moch bach, fel y bydd i brawf byr ei arddangos i chwi.

"Un gair eto at fy mrodyr cyfoethocach. Os ydych chwi yn rhy dda allan eich hunain i ofalu am wneyd arian trwy gadw hwch fagu, gadewch i mi awgrymu i chwi y modd i roddi blwydd-dal o £20 i ryw lafurwr teilwng yn eich cymydogaeth, yr hyn a allai fod yn esiampl i'w gymydogion, am y byddont yn fwy tueddol i gymeryd gwers gan un o'r un dosbarth a hwy na chenych chwi. Adeiladwch gwt mochyn i'r dyn tlawd yma, a rhoddwch iddo hwch fagu, ar y telerau fod iddo godi digon o ymborth iddi yn ei ardd ei hun, ac fod iddo ofalu am yr anifail, a chadw ei chwt yn lân, a pheidio gwario mwy na thri swllt y pen ar bob mochyn a ddiddyfnir; nid yw pobl dylodion, fel rheol, ond yn haner porthi (hyny ydyw, newynu) eu hanifeiliaid, pa un bynag a fyddont ai ffowls, moch, gwartheg, neu asynod: camgymeriad dybryd ydyw cadw unrhyw anifail ar lai na digon o fwyd, yn enwedig gwartheg a moch.

"Yr wyf fi, trwy brofiad, wedi cael allan mai y Tamworth ydyw yr hwch fwyaf defnyddiol yn gyffredinol, a'r oreu am epilio hefyd, a ellir gael. Y maent yn fawr, yn hytrach yn meddu coesau a thrwynau hirion; ond y maent yn gelyd, yn famau gofalus, ac yn cynyrchu torllwythi Iluosog. Mochyn y ffermwr ydynt mewn gwirionedd, ac nid yw eu moch bach byth yn pallu cyrhaedd y pris uchaf yn y farchnad, oblegyd ar gyfrif eu maintioli a'u caledrwydd, y maent yn ymddangos yn 'obeithiol' i olwg y prynwr fel rhai y gellid eu gwerthu yn ddeufis oed. Fel moch i gael eu pesgi at facwn, y maent yn mhell tu hwnt i bob rywogaeth arall, am fod llai o gig gwyn ynddynt, a chynyrchant yr hams goreu a'r bacwn mwyaf rhagorol at frecwest. Gellir eu cael yn hawdd mewn bocs bychan ar hyd y rheilffordd, heb ond ychydig draul, pe byddai rhywun yn dymuno gwneyd prawf arnynt."

Nodiadau

[golygu]