Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch/Diddyfnu y perchyll—hychod—baeddod
← Am ddewis mochyn, gyda golwg ar ei besgi | Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
Am gytiau moch—Glan weithdra → |
DIDDYFNU Y PERCHYLL—HYCHOD—BAEDDOD.
Pan y mae yn angenrheidiol diddyfnu y perchyll, yn absenoldeb yr hwch, porthwch hwy gyda'r llaeth goreu a ellwch ei hebgor o'r llaethdy; ac er i chwi ddechreu ei roddi iddynt yn gynhes, gellwch, yn mhen tair wythnos, ei roddi iddynt yn oer, os byddwch yn bwriadu eu magu; ac yna gallant, neu yn mhen mis o'r man pellaf, gael eu porthi ar eu penau eu hunain, neu eu cadw i grwydro oddiamgylch gyda hwch arall. Ein cynghor ydyw, os ydys am fagu âl o foch da, ar fod i'r hwch gael ei chadw mewn cyflawnder o wellt glân, a'i chwt yn glir oddiwrth bob math o fudreddi.
Y mae rhai hychod yn bridio nes y maent yn chwe' blwydd oed; ond ni ystyrir fod y baedd, wedi iddo gyrhaedd pum' mlwydd oed, o unrhyw wasanaeth mwyach at genhedlu; o ganlyniad, wedi iddynt gyrhaedd yr oedran hwnw, y maent yn cael eu pesgi at wneyd brawn, &c., neu dan yr amgylchiadau bacwn da.
Y perchyll a gynyrchir yn ystod mis Mawrth, ac yn nghorph yr haf, a ystyrir fel y rhai goreu i'w magu, am fod yr oerni yn y gauaf yn eu gwasgu, ac yn eu cadw yn ol. Yna, wedi i chwi ddewis y goreuon o'r hychod a'r baeddod at fridio, bydded i chwi gyweirio yr holl wrywiaid, a dyspaddu yr holl fenywiaid ag y byddoch yn bwriadu eu magu; oblegyd felly y gwneir i'r moch goreu ddyfod yn eu blaenau, a chynyddu mwy o lard, neu floneg.
Dylai moch gwryw gael eu cyweirio pan fyddont oddeutu chwe' mis oed; oblegyd y maent yn yr oedran hwnw yn dechreu gwresogi, a gwnant foch cryfach. Gellir gwneyd hyn naill ai yn y gwanwyn, neu yn nydd-