Neidio i'r cynnwys

Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch/Nodiadau cyffredinol

Oddi ar Wicidestun
Pa fodd i wybod pwysau mochyn wrth ei fesur Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch


golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon
Triniaeth fisol hwch fagu


NODIADAU CYFFREDINOL
AR
GADW MOCH.

Y MAE trwyn byr, clustiau bychain, coesau byrion, gwrych teneu, cynffon main, bob amser yn dynodi rhywogaeth dda o'r mochyn, ac y mae yn un a ddaw yn ei flaen ac a besga yn rhwydd, ond am foch fel arall y maent hwy yn anhawdd eu cael yn mlaen, ac ni phesgant ychwaith.

Dylai moch a gedwir yn eu cytiau gael ychydig lô neu cinders, yr hyn sydd yn angenrheidiol, er iddynt dreulio eu hymborth yn dda.

Bydd i fochyn a gedwir yn lanwaith o ran ei groen, ddyfod yn mlaen yn llawer gwell, pesgi yn gyflymach, a bwyta llai o ymborth na mochyn a boenir gan bryfaid, ac a fedd groen budr.

Y mae cynhesrwydd yn anhebgorol angenrheidiol er magu neu besgi moch, ac am y rheswm yma y mae yn haws ac yn rhatach eu pesgi yn yr haf nag yn y gauaf.

Dylai moch gael digonedd o ddwfr ffresh bob amser, a da fyddai i lwmp o rock salt fod bob amser o fewn cyrhaedd iddynt.

Gellir arbed llawer iawn wrth roddi ymborth wedi ei ferwi i foch, yn lle ymborth amrwd, megys pytatws, mangolds, cabbaits, &c. Y mae newid eu hymborth hefyd yn meddu effaith dda arnynt.

Y mae blawd buckweed, yn gymaint a bod iddo effeithiau sydd yn cynyrchu cwsg, yn rhagorol at besgi moch, am ei fod yn tueddu i beri iddynt gysgu. Yn wir, dylai mochyn pan yn cael ei besgi, fod naill ai yn bwyta neu yn cysgu yn wastadol.

Wrth besgi porkers, neu foch at facwn, y mae bob amser yn ddymunol gosod dau o honynt gyda'u gilydd; ni fydd y llafur ond yr un faint, ac y mae y moch yn ymborthi yn well gyda'u gilydd nag ar eu penau eu hunain. Peidiwch byth a gadael i weddill o'r bwyd aros yn y cafn. Gellir bwydo mochyn yn fynych, ond ni ddylai gael ond yr hyn a fwyty i fyny yn lân a chyfangwbl.

Peidiwch byth a gwerthu mochyn ar haner ei besgi. Y mae llawer iawn llai o gost i besgi mochyn ar yr ail ddeng ugain o'i bwysau nag ar y deng ugain cyntaf.

Wedi i hwch gael ei neillduo at ei phesgi, dylid gadael iddi gymeryd y baedd, am y ceir allan fod beichiogiaid yn meddu effeithiau daionus, trwy ei fod yn tueddu at beri cwsg, a magu brasder.

Ychydig a ddeallir ar y pwysigrwydd o gadw mochyn, a llai na hyny, efallai, a ymarferir ar hyny. Y mae esiamplau aneirif wedi profi, o bryd i bryd, fod moch y cedwir eu crwyn yn lân, trwy eu brwshio a'u golchi yn achlysurol, yn dyfod yn mlaen ac yn pesgi yn llawer cyflymach, ac ar un dair o bedair, ac weithiau ar un ran o dair o fwyd, na phan y cedwir hwy mewn cyflwr budr.

Y mae yn anhebgorol angenrheidiol ychwanegu halen at olchion a bwyd moch; nid yw yn bosibl i unrhyw anifail ddyfod yn ei flaen heb ryw gymaint, yn enwedig pan gauir hwy yn eu cytiau.

Y mae esiamplau lluosog wedi profi y bydd i fochyn besgi mewn agos i haner yr amser ar ymborth wedi ei ferwi, yn hytrach nag ar beth amrwd, heblaw bod llai o lawer o fwyd yn angenrheidiol er cynyrchu yr un pwysau mewn mochyn. Y mae amser yn arian wrth besgi moch, fel yn mhob peth arall.

Dylai perchyll gael eu cyweirio pan yn sugno, yn bythefnos oed; y draul am wneyd hyny ydyw haner coron, pa un bynag ai bach ai mawr fyddo y torllwyth.

Ystyrir fod moch (ac yn wir, pob anifeiliaid) yn difa yn mhob wythnos un ran o dair o'u pwysau mewn ymborth. Nid oes un anifail yn cynyrchu mor lleied o wâst a'r mochyn; tra y mae ŷch yn cynyrchu 42 y cant, nid yw mochyn tew yn cynyrchu ond o 6 i 10 y cant.

Y ffordd fwyaf parhaus i fodrwyo mochyn ydyw gwneyd twll trwy fadruddyn y trwyn, gan wahanu yr asgwrn oddiwrth arwyneb y trwyn. Dylid gwneyd hyn tra y mae y mochyn yn ieuangc, pryd nad achosa ond ychydig o boen.

Cyfrifir fod gwerth y moch yn Lloegr a Chymru yn fwy na haner can' miliwn o bunnau.

Bydd i hiliogaeth un hwch—a chaniatâu bod yr haner o honynt yn fenywiaid—mewn 10 mlynedd gynyddu hyd 29 o filiynau.

Dylai cafn bwydo mochyn gael ei lanhau bob dydd gyda dwfr glân. Y mae sylwadau manwl wedi profi fod cafn glân yn gwneyd gwahaniaeth o bump i ddeg swllt wrth besgi mochyn.

Y mae yn ofynol rhoddi modrwy yn nhrwyn hwch, er ei hatal rhag codi i fyny waelod ei chwt, neu y borfa ar hyd pa un y caniateir iddi redeg.

Os bydd yn bosibl, bydded i'ch cwt mochyn wynebu y dehau, am fod gwres cynhes yr haul o'r pwysigrwydd mwyaf i foch, hen ac ieuaingc.

Dylai hwch gael ei phesgi yn dair blwydd oed, wedi iddi ddiddyfnu ei phummed torllwyth. Dylai y torllwyth cyntaf gael ei fwrw yn ystod hydref ei blwyddyn gyntaf, a'r pummed yn hydref ei thrydedd flwyddyn. Wrth "hydref" y golygwn fisoedd Awst, Medi, a Hydref.

Nitre a sulphur ydynt y cyffri goreu i foch. Bydd i ddogn achlysurol o'r cyfryw (tri chwarter owns,) wedi ei gymysgu ag ymborth yr hwch, dueddu yn fawr i'w chadw mewn cyflwr iachus, ac yn glir oddiwrth bob afiechyd.

Bydd i hwch fwyta oddeutu 2 can'pwys o wreiddiau bob wythnos yn y gauaf, ac efallai 3 can'pwys o borfa yn yr haf. Deugain tunell o wreiddiau (mangolds) i'r acr o dir a gostiant oddeutu 5s. y dunell i'w tyfu (y mae hyn yn caniatâu £10 ar gyfer rhent a llafur.)

Nid yw yn ddyogel rhoddi symiau mawrion iawn o mangolds i hychod; ychydig cyn iddynt ddyfod a moch, dywedir eu bod yn newynu eu rhai bach.

Nis gall neb gadw hychod mor rad, na gwneyd cymaint o enill oddiwrthynt, a'r rhai a feddant berllan fechan fel lle iddynt bori yn yr haf, a chlwt o ardd at dyfu mangolds, &c., at eu defnyddio yn y gauaf, yn gystal a bod yn feddiannol ar fuwch, llaeth ysgum yr hon a fyddai yn dra buddiol a maethlawn i'r moch bach.

Pan fyddoch yn bwriadu pesgi hwch at facwn, y mae yn talu yn well bob amser gymeryd un torllwyth o foch o honi yn gyntaf, ac wedi iddynt gael eu diddyfnu, yna pesgwch hi at facwn.

Y mae cig ceffyl wedi ei ferwi, neu yn wir unrhyw gig, yn dra gwerthfawr a maethlawn fel ymborth i godi moch ieuangc, ac y mae i'w gael braidd yn mhobman yn ddigon rhad. Gallech brynu hen geffyl neu fuwch, a fyddo wedi cyfarfod â damwain, neu farw yn ddisymwth, am rywbeth fel pymtheg swllt; felly dyma i chwi o 600 i 700 o bwysi o gig, o'r math mwyaf maethlawn, am oddeutu dimai y pwys. Dylid berwi y cig mewn crochan mawr, nes y byddo yn soup tew, a rhoddi bwcedaid neu ddwy o hono i bob torllwyth o foch, wedi ei gymysgu â bran, neu wreiddiau wedi eu berwi, fel ag i'w dewychu; ac ar y cyfryw ymborth bydd i'r moch besgi yn gyflym, tyfu, a dyfod yn eu blaenau.

Y mae blawd pŷs a ffa hefyd yn ymborth tra rhagorol a maethlawn i foch bach, a'i gymysgu gydag unrhyw olchion salw a ellwch gael, pan na bydd genych gig neu laeth ysgum. Costied a gostio, y mae o'r pwys mwyaf fod i foch bach, pan ddechreuant fwyta o'r cafn, gael ymborth a fyddo yn faethlawn iddynt, fel y gellir eu gwerthu pan yn saith neu wyth wythnos oed, yn y man pellaf. Cofiwch bob amser fod amser yn arian wrth fagu moch, fel yn mhobpeth arall.

Nid yw llaeth ysgum, neu faidd, yn anhebgorol angenrheidiol at fagu moch bach; ond os bydd i'w gael, gellir ei ddefnyddio yn fanteisiol er eu dwyn yn eu blaenau.

Nodiadau

[golygu]