Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch/Triniaeth fisol hwch fagu
← Nodiadau cyffredinol | Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
Taflen o'r rhywogaethau Prydeinig o foch → |
¶
TRINIAETH FISOL
HWCH FAGU.
RHAGFYR.
Prynwch hwch ieuangc ddeufis oed, neu un o saith i wyth mis oed, naill ai yn barod i gymeryd y baedd neu newydd ei gymeryd.
RHAGFYR AC IONAWR,
Bwydwch hi â bwcedaid o olchion o'r tŷ (crwyn pytatws, gweddillion ar ol golchi plates, a'r cyffelyb,) ac hefyd teflwch i'w chafn yn feunyddiol gymaint o wreiddiau ag a'i digona, megys swedes, maip, moron, mangolds, neu grwyn pytatws.
CHWEFROR A MAWRTH.
Parhewch i roddi iddi y golchion o'r tŷ a'r gwreiddiau, neu gadewch i'r hwch fyned i'r berllan i bori glaswellt; os na bydd genych berllan, rhoddwch iddi ysbwrial o'r ardd, ffacbys, neu ryw lysiau a fyddwch wedi eu tyfu ar ei chyfer.
EBRILL.
Bydd iddi ddyfod â pherchyll yn gynar yn y mis hwn; cadwch hi a'i moch bach yn y cwt, a bwydwch hi deirgwaith yn y dydd â golchion o'r tŷ, gyda blawd haidd neu flawd ceirch wedi ei gymysgu trwyddo.
MAI.
Parhewch i roddi iddi yr un ymborth yn ystod y mis hwn, ond gadewch i'r hwch redeg allan i'r buarth neu y berllan am awr neu ddwy bob dydd, ac yn ei habsenoldeb bwydwch y moch bach yn y cwt gyda blawd haidd neu flawd ceirch wedi ei gymysgu â dwfr, ac ychydig laeth ysgum, os bydd genych beth.
MEHEFIN.
Yn gynar yn y mis hwn bydd eich moch bach yn ddeufis oed; gwerthwch hwy ar unwaith, ac yn mhen ychydig ddyddiau, wedi i'r llaeth ei gadael, hi a gymer y baedd drachefn.
GORPHENAF, AWST, A MEDI.
Porthwch hi fel yn mis Mawrth, ar olchion a llysiau, a gadewch iddi fyned allan i'r buarth neu y berllan.
HYDREF.
Bydd iddi gynyrchu ei hail dorllwyth; bwydwch hi yr un modd ag y cyfarwyddwyd gyda golwg ar y torllwyth cyntaf.
Nodiadau
[golygu]