Cyfrinach y Dwyrain/Cenadwri y Cerrig
← Yr ymchwil am a fu | Cyfrinach y Dwyrain gan David Cunllo Davies |
Ysgrifau mewn Clai → |
II. CENADWRI Y CERRIG.
ER darganfod nifer mawr o gerrig yn dwyn cofnodion o weithredoedd cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth, ac er cael miloedd o briddfeini yn llwch yr hen ddinasoedd yn Assyria, am ysbaid ni lefarasant yn ddealladwy yr un gair o'u cyfrinach am nad oedd neb ar dir y byw yn medru eu dehongli. Iaith nad oedd neb yn ei deall oedd yr un y mynegai y cofgolofnau eu stori ynddi, yn nechreu'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr oedd yr ysgrifen ar lun cŷn neu lettem; ac anhawdd fuasai cael dim yn fwy manteisiol er ysgrifennu mewn clai a charreg. Bu'r dull hwn o ysgrifennu yn un cyffredin yng ngwledydd y Dwyrain agosaf atom. Cawn hi yn Elam, Cappadocia, Assyria, Babylonia, Persia, a Syria. Disodlwyd hi gan yr arddull Phoenicaidd—a bu farw; ac wedi marw o honi, ni lefarodd am hir gyfnod. Bu yn fud yn ei bedd am ganrifoedd, ac hiraethai dynion dysgedig am weled y dydd y byddai'r ysgrifau gododd o lwch y dinasoedd yn dechreu siarad; a thrwy hynny wneud i'r oesoedd a fu fyw eilwaith.
George Frederick Grotefend (1775-1853) oedd y cyntaf i ymgeisio yn llwyddiannus i gyfieithu yr Assyriaeg. Ar ei ol ef daeth Syr Henry Rawlinson. Cafodd ef o hyd i ysgrifen faith ar graig yn Behistun ym Mhersia. Adroddiad ydoedd hon o weithredoedd y brenin Darius. (521-485 c.c.), a chan fod Assyria a Media o dan ei lywodraeth, cariai yr ysgrifen gyhoeddiad y teyrn o'i wrhydri yn ieithoedd y gwledydd hynny hefyd; eithr yr oedd y cyfan mewn llythyrenau cŷn- ffurfiol. Ar ol cael y wyddor, a chafodd gynhorthwy at hynny drwy y Zend a'r Sanscrit, dwy iaith berthynasol, allan o law daethpwyd o hyd i'r meddyliau fu yn methu mynegu eu hunain am lawer oes.
Drwy y Bersiaeg deallwyd yr Assyriaeg; a byth ar ar ol hynny, yr ydym wedi gallu deall y genedl hon a fu yn ddychryn i'r Iddew, ac yn offeryn i'w geryddu droion.
Dysg mawredd y gwledydd hyn, drwy eu cyrhaeddiadau uchel ac urddasol, ostyngeiddrwydd i lawer cenedl a duedda at ymffrost; a bydd y ffaith fod eu holl fawredd yn adfail heddyw, yn rhybudd bythol i deyrnasoedd sydd yn chwennych dilyn eu llwybrau ac edmygu eu delfrydau.
Ar ol i Syr Henry Rawlinson (1810- 1895) ddarganfod allwedd i'r iaith, rhyddhaodd ei thafod; ac ni raid dysgu siarad i briddfaen, na cholofn, na charreg yn nyffrynnoedd y Tigris a'r Euphrates—y lle unwaith y bu Eden a'i pharadwys, a lle y bu i'r Arglwydd gadw "Daniel hynod yn ffau y llewod hen," a'r tri llanc yn ddianaf yng nghwmni'r pedwerydd yn y ffwrn. Fel Layard, bu Rawlinson hefyd. yn cynrychioli gorsedd ei wlad mewn llys tramor. Danfonwyd ef i Persia yn 1859.
Yr un modd y bu gyda cherrig yr Aifft a'u hysgrifluniau. Mud fuont nes darganfod y maen a elwir "Carreg Rosetta" gan un o swyddogion yr ymgyrch er budd gwyddoniaeth a ordeiniwyd gan Napoleon Bonaparte yn yr Aifft ym mlynyddoedd olaf y ddeunawfed ganrif. Boussard oedd enw'r gŵr a darawodd arni; ac yr oedd efe yn torri dan seiliau ty, ger amddiffynfa St. Julien, gerllaw Rosetta, yn aber yr afon Nilus. Darn o graig galed yw y garreg, a mesura dair troedfedd a naw modfedd o hyd. Y mae'n ddeng modfedd ar hugain o led, a'i thrwch sydd un fodfedd ar ddeg. Ar ymadawiad y Ffrancod o wlad yr Aifft rhoddwyd y garreg i fyny gan Amgueddfa Cairo i un o gadfridogion Lloegr; a chyflwynodd yntau hi fel anrheg i'r brenin Sior III., yr hwn a'i gosododd yn yr Amgueddfa Brydeinig. Yn gerfiedig ar y maen y mae tri math ar ysgrifen—ymlaenaf, yr ysgrif—lun (hieroglyphic); wedi hynny Aiffteg y bobl (demotic); ac ar y gwaelod dros hanner can llinell mewn llythyrennau Groegaidd. Bu llawer o ddyfalu am gynnwys yr iaith a ysgrifennai ei gwyddor mewn darluniau; eithr ni fu hir astudiaeth yn effeithiol i gynyrchu dim amgen na breuddwydion. Yng ngharreg Rosetta, wele ddehonglwr i'w chyfrinion yn y Roeg odditani, oedd yn gyfieithiad o honi, a chafwyd llwybr goleu yn fuan i hanes yr Aifft. Fel yr awgryma'r enw, cyfrin-iaith yr offeiriaid oedd yr hieroglyphic mewn amseroedd diweddar yr ail iaith ar y garreg a ddefnyddid mewn masnach, a Groeg oedd cyfrwng y llywodraeth yn ei swyddogion a'i hordeiniadau. Safai'r garreg unwaith yn nheml Tum—duw machludiad haul. Cerfiwyd hi drwy orchymyn offeiriaid Memphis; a chofnodiad a geir arni o'u syniadau uchel hwy am y brenin Ptolemy Epiphanes ar ei ddydd pen blwydd yn y flwyddyn 198 cyn Crist. Un o gadfridogion Alexander Fawr a sefydlodd y llinell frenhinol hon, a'r brenin hwn a esgynnodd i'r orsedd yn bum mlwydd oed, oedd y pumed i ddwyn yr un enw. Anerchir ef, gan yr offeiriaid, fel arglwydd y teyrn-goronau, a'r hwn a adferodd drefn yn yr Aifft—sydd yn rhagori ar ei wrthwynebwyr a wellhaodd fywyd dyn—wedi ei eni o'r duwiau Philopatores—i'r hwn y rhoddodd yr haul fuddugoliaeth, &c., &c. Adroddir ei gymwynasau i'r deml a'i gweinidogion; a gallem yn rhesymol gasglu fod byd y dynion hyn yn wyn iawn, o dan deyrnwialen Ptolemy Epiphanes. Ysgafnhaodd faich y dreth, fel y byddai i'r deiliaid gael digonedd; rhyddhaodd garcharorion; arhosai cyllideb y deml fel yr oedd—nid rhaid iddynt mwyach gymeryd taith yn flynyddol i Alexandria. Bu llifogydd mawrion yn y Nilus yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiad a chododd y brenin wrthgloddiau i amddiffyn y wlad rhagddi. I'r perwyl yna y mae eu cymeradwyaeth; ac ordeiniwyd i hyn a llawer arall gael aros ar gof a chadw mewn carreg. Hwn oedd y defnydd mwyaf parhaol yn eu golwg hwy, ac o fewn cylch eu gwybodaeth. Gwyddai'r Hwn a greodd bopeth am beth gwell. Ni fedrai dim guddio'r genadwri na'i dileu yno. Ar garreg yr ysgrifennwyd y deg gorchymyn; eithr dan gyfamod newydd cafwyd llech ynghalon dyn i dderbyn ei hysgrifen; ac erys y gyfraith yno
"Pan b'o creigiau'r byd yn rhwygo
Yn rhyferthwy'r farn a ddaw."
Cyfieithiwyd yr ysgrif mewn llythyrennau Groegaidd yn ebrwydd; a chan gredu mai cyfieithiad ydoedd, aethpwyd ati o ddifrif gan ysgolheigion y gwledydd i ddeall hen iaith yr Aifft. Dr. Thomas Young (1773—1829)—meddyg o fri, a gŵr a ddarganfu ddeddf bwysig ynglyn â'n gwybodaeth am oleuni, oedd un o'r rhai cyntaf a geisiodd ddeall yr ysgrifau. Dilynwyd ef gan Jean Francois Champollion (1790—1832). Efe biau'r clod am ddarganfod y pum llythyren ar hugain a grybwyllir gan Plutarch, yn yr hen Aiffteg hon. O gam i gam, o lythyren i lythyren; o air i air, ac o air i ddrych feddwl y symudwyd ymlaen, a darganfuwyd mai Coptaidd oedd yr iaith,—iaith oedd yn llefaredig hyd yr unfed ganrif ar bymtheg,—yn ymwisgo mewn llythyrennau. dieithr. Agorwyd trysorau gwybodaeth hen wlad Pharaoh, drwy lwyddiant fel hyn; ac nid oes yr un golofn yn cael ei hadgyfodi o adfeilion mawredd y dyddiau gynt, yn fud bellach. Wrth edrych ar y darn du o faen yn yr Amgueddfa nis gallwn lai na synnu bob tro, fod byd mor fawr, a gwybodaeth mor lwyr, wedi eu darganfod drwyddi.
Ym meusydd Soan, lle y bu Moses ac Aaron yn gwneuthur rhyfeddodau gerbron Pharaoh (Ps. lxxviii. 43), darganfuwyd carreg arall ac arni ysgrif mewn tair iaith. Ordeinio dwyfoliad merch Ptolemy Euergetes (247-222 c.c.) yw ei neges hi, ac y mae copi o honi yn yr Amgueddfa yn Llundain.
Y maen arall sydd yn adnabyddus iawn yw y garreg o wlad Moab. Yn yr adran Iddewig yn y Louvre, ym Mharis, y mae hon. Hanes gwrthryfel Mesa brenin Moab sydd arni. Yn y drydedd bennod o ail lyfr y Brenhinoedd dywedir iddo wrthryfela yn erbyn Israel ar ol marw Ahab. Arferai dalu i frenin Israel gan mil o wyn a chan mil o hyrddod gwlanog fel treth flynyddol; ac yr oeddent. wedi gwneud hynny yn ddiau oddiar ddyddiau Dafydd (2 Samuel viii. 2); ond yn awr, pan oedd cyfyngder yn dal Ísrael drwy ei rhyfel â Syria, gwelodd Moab gyfleusdra i daro er sicrhau ysgafnach baich. Hanes yr holl ymgyrch hyn a geir ar garreg Moab; ac y mae yn atodiad i'r hanes fel y croniclir ef gan yr hanesydd Iddewig. Colofn i ogoneddu Chemos—duw y wlad ydyw. "Carreg iachawdwriaeth" y gelwir hi,—"canys efe a'm gwaredodd odditan fy anrheithwyr a rhoddodd i mi weled fy nymuniad ar fy ngelynion—ar Omri brenin Israel." Yr oedd iaith Moab yn debyg iawn i'r Hebraeg; ac ni bu anhawsder o gwbl i'w deall. Casglodd cryn lawer o ramant o gwmpas i'r golofn hon wedi ei darganfyddiad gan y cenhadwr, Dr. Klein, yn 1869. Ni wawriodd y gwirionedd fod ei lygad wedi disgyn ar drysor mor werthfawr ar ei feddwl o gwbl. Prynnodd hi am bedwar ugain punt, a bwriadai ei gosod yn amgueddfa'i wlad yn Berlin.
Danfonodd Ffrancwr o'r enw M. Clermont—Ganneau gynnyg o £375 i bobl Moab am dani, a chyn hynny, fel y bu yn dda, yr oedd wedi codi ei hysgrifen. Cofia y rhai sydd yn dilyn camrau hanes sut yr oedd rhwng yr Almaen a Ffrainc tua'r adeg yr oedd y ddau hyn yn ceisio cipio'r garreg o Moab i'w trysordai cenedlaethol. Deffrôdd yr ymryson hwn drachwant yr Arabiaid. Rhoddasant dân dan y golofn i'w phoethi, a thaflwyd dŵr oer drosti gan ei thorri yn ugain darn; eithr drwy fod Ganneau wedi sicrhau copi o'r argraff nid amhosibl oedd gosod darn at ddarn.
Sylwn yn nesaf ar yr ysgrif y tarawyd arni gan wr oedd yn ymdrochi yn ymyl llyn Siloam yn 1880. Derbynia'r llyn ei ddyfroedd drwy geuffordd a wnaed drwy ganol y graig o Ffynnon y Forwyn, sydd yn tarddu yn nyffryn Cedron. Nid oes darddell yn y ddinas. Dinas ddiddwr yw Jerusalem. I'r Psalmydd gymaint yn well oedd y ddinas yr edrychent ati. Nid sychu a rhedeg a rhedeg a sychu a wnai ffynhonnau honno,—"Y mae afon a'i ffrydiau a lawenhant ddinas Duw.". At y ffrydiau a redent drwy y twnel hwn y cyfeiria Esay (viii. 6). Gwnaed un o'r ffyrdd tanddaearol (canys y mae dwy o leiaf i'w cael) gan Solomon; a thua dyddiau Hezeciah, cyn i Assyria ymosod ar Jerusalem, argaewyd yr aber uchaf (2 Cron, xxxii. 30); ac arweiniai y camlesi hyn y dyfroedd i'r ddinas, a chan fod y ffynnon y tuallan wedi ei selio nid heb lawer o drafferth y deuai y gelynion i wybod am dani.
Yn y geuffordd hon, fel y dywedwyd, yn ddamweiniol tarawyd ar ysgrif mewn carreg. Nid oes enw brenin na blwyddyn arni, a bernir yn dra phriodol i'w chofnodiad gael ei dorri gan y bobl fu yn cloddio'r gamlas. Cyfieithir yr argraff fel hyn,—
"(Wele) y cloddiad. Yn awr, dyma hanes y cloddiad. Pan oedd y cloddwyr eto yn dyrchafu eu pig—pob un i gyfeiriad ei gymydog, a phan oedd eto dri chutydd (i'w cloddio fe glywyd) llais dyn yn galw ar ei gymydog. . . . rhedodd y dyfroedd o'r ffynnon i'r llyn drwy bellder o ddeuddeg can cufydd. Un cufydd oedd uchder y graig uwchben y cloddwyr."
Yr oeddynt wedi dechreu torri bob pen i'r twnel a chyfarfuant, yn ol Syr Charles Warren, tua 900 o droedfeddi o lan llyn Siloam. Y mae'n bur amlwg oddiwrth y modd y cloddiwyd y twnel hwn nad oedd gwybodaeth yr Iddewon o'r gelfyddyd of fesur a chynllunio ond ychydig. Drwy ddamwain y gallai'r gweithwyr o'r ddau pen ddod i gyfarfod â'u gilydd, ac y mae'n amlwg mai digwydd dod i swn eu gilydd wnaeth y rhai a dorrent y graig. Er mwyn dangos syniad y gwledydd cylchynol am frenhinoedd Israel a Judah nis gallwn daro ar well engraifft na'r hyn a geir ar big adail ddu Salmaneser II. (860—825 c.c.). Bu'r gŵr hwn mewn un ymgyrch ar ddeg ar hugain; ac ar y garreg a ddarganfuwyd yn Calah—Nimrud cawn ryw gymaint o hanes ei fuddugoliaethau. Ceir darlun o Jehu, fab Omri, yn talu teyrnged i frenin Assyria. Yn awr, mab i Jehosaphat oedd y gyrrwr hwn; eithr eisteddai ar orsedd Israel lle bu Omri (930 c.c.), y rhyfelwr mawr a barodd fraw ym mynwes ei gymydogion; ac oherwydd hynny ychwanegai Salmaneser at ei glod wrth dderbyn treth gan olynydd i wr mor gadarn a Jehu wrth ei ddynodi fel mab Omri. Wedi gweled yr Assyriaid yn gorchfygu y cenhedloedd a drigent yn ei ymyl, ymgyfamododd Jehu a Salmaneser II.; a golygai'r cyfamod rwymedigaeth ar frenin Israel y mae'n amlwg, canys dy— wed y big—adail,—
"Gwrthrychau o arian ac aur; barrau o ar— ian, barrau o aur. . . . . ffon i law brenin. Pelydr gwaywffyn. Hyn a dderbyniais."
Yn 1871, darganfuwyd carreg gan M. Clermont—Ganneau yn Jerusalem yn dwyn, mewn Groeg, rybudd i ddieithriaid a ymwelent â'r deml. Gwaherddir pobl o genedl arall, tramorwyr, rhag myned y tu mewn i leoedd mwyaf cysegredig yr adeilad (i'r gysgodlen a'r caeadle o gwmpas y cysegr). Goddiweddir yr hwn a drosedda yn wyneb y rhybudd hwn â marwolaeth; ac ochr yn ochr â hwn, dyddorol darllen yr hyn a ddigwyddodd i Paul yn ol Actau xxi. 15—40. Disgynnodd llygad yr Arglwydd Iesu a'i ddisgyblion lawer gwaith ar y maen hwn. Dywed y maen,— "Na ddeued yr un tramorwr i'r tu fewn ir llen a'r caeadle sydd yn amgylchynnu'r cysegr." Pwy bynnag fydd yn euog o hyn cospir ef trwy farwolaeth.
Cymerwn dri chyfeiriad eto cyn dirwyn y bennod hon i ben. Yn nheml Apollo yn Delphi, ar fryn Parnassus, yn Groeg, gwelir nifer liosog o gofnodion o ryddhad a roddwyd i gaethweision a chaeth forwynion; a cheir llawer o rai tebyg mewn mannau ereill. Wedi arbed o hono ychydig arian, ac yntau yn awyddus am ryddid, dygai'r caethwas hwynt i deml ei dduw; a phan fyddai'r swm trysoredig yno yn ddigonol, ar ddydd arbennig deuai'r perchennog a'r caethwas i'r deml. Gwerthid ef i'r duw a addolid yno, a derbyniai'r perchennog ei werth neu o leiaf ei bris gan y duw, o'r arian a drysorid o bryd i bryd gan y caethwas. Drwy'r ymdrafodaeth grefyddol hon ai'r caethwas yn eiddo'r duw a addolid yno. Ni fwriadwyd i ddyn fod yn feistr—gwas ydyw i fod. Dychmygodd am fod yn feistr unwaith, ac nid yw'r dymuniad wedi darfod; ond methiant fu pob ymgais, canys dawn i wasanaethu a roddwyd yn waddol iddo ar fore ei greadigaeth. Os na fyn wasanaethu y da cipir ef gan y drwg i'w wasanaeth yn ebrwydd; ac os dewisa'r da a'r dwyfol—gwas fydd efe yno a gwas fydd byth. Yr oedd yr arferiad hon of berthynas i ryddhad y caethion yn adnabyddus i'r apostol Paul, ac y mae yn ddiau yn ei feddwl pan yn crybwyll am ryddid yr Efengyl trwy ras i bechadur. Caethion neu weision yw dynion pan adelia'r iachawdwriaeth atynt (Rhuf. vi. 17); prynwyd hwynt (1 Cor. vi. 20); rhyddhawyd hwynt (Gal. v. 1); ond wedi hyn caethion i Dduw ydynt (Rhuf. vi. 22). Rhydd Deissman gopi o ysgrif a gerfiwyd yn 200—199 c.c. Dyma hi,—
"Prynodd Apollo y Pythiad oddiwrth Sosibius o Amphissa, er mwyn ei rhyddhau, gaethes, enw yr hon yw Nicaea, Rufeines o genedl à phris o dair mina a hanner mina. Yr hwn a'i gwerthodd yn flaenorol yn ol y gyfraith oedd Eumastus o Amphissa. Y pris a dderbyniodd. Y pryniad, modd bynnag, a draddododd Nicaea i Apollo er mwyn rhyddid."
Ymysg y cerrig y cyfeiriwn atynt rhaid dweyd gair am y big-adail a adnabyddir fel "Nodwydd Cleopatra," a saif heddyw ar rodfa afon Llundain. Thothmes III., un o'r pedwar teyrn a ffurfient y ddeunawfed frenhin-lin (1587—1322 c.c.), gŵr a orchfygodd y byd o'r Nilus i'r Euphrates, a than deyrnasiad yr hwn y cyrhaeddodd llanw llwyddiant yr Aifft ei bwynt uchaf, a'i hadeiladodd. Cododd bedair colofn, o'r rhai y mae hon yn un, yn Heliopolis, neu On, un o drefydd gwlad Gosen. Yr oedd athrofa i ddysgu doethineb yr Aifftiaid yn y lle hwn, a gysegrwyd i'r haul. Tair blynedd ar hugain cyn geni'r Gwaredwr symudwyd y nodwydd hon ac un arall i Alexandria—lle yr oeddynt i harddu y fynedfa at blas yr ymherawdwr —mewn saith mlynedd ar ol marw Cleopatra; ac yno y buont am bymtheg canrif. Yn araf iawn deuai y môr i mewn. Aeth dan ei seiliau a syrthiodd y nodwydd i'r llawr. Bu yno ar ei hyd, am dair canrif, a'r graean yn guddio rhyw gymaint o honi o flwyddyn i flwyddyn; a'i chwaer a'i phen tua'r nefoedd yn ei gwylio. Penderfynodd y milwyr a orchfygasant y Ffrancod yn 1801 ei dwyn i Brydain fel cofeb o'u buddugoliaeth: ond parodd ei phwysau o naw ugain tunell ormod rhwystr ar eu ffordd. Cyflwynwyd hi ddwy waith fel rhodd gan lywodraethwr yr Aifft i frenhinoedd y wlad hon; ond ar ei gwely yn yr Aifft y gadawyd hí er hyn ac er llawer cynllun arall i'w dwyn drosodd. Yn 1867, gwerthwyd y tir y safai arno, ac arfaethai'r perchennog newydd ei thorri i fyny i wneud defnyddiau adeiladu o honi. Anesmwythodd hyn nifer o ddysgedigion ym Mhrydain, ac addawodd y Proffeswr Erasmus Wilson ddeng mil o bunnau i bwy bynnag a'i gosodai i fyny yn y brifddinas; ac ar ol ei gosod mewn rhol o haearn dyfrdyn, cychwynnodd ar ei thaith ym Medi, 1877. Ar Fau Biscay dechreuodd chwareu pranciau fel pe bai ysbryd rhyw Pharaoh wedi ymaflyd ynddi; a chyrhaeddodd y newydd fod y llong a'i llusgai wedi ei gadael; eithr nid. oedd y garreg a heriodd ystormydd y canrifoedd i gilio o'r golwg hyd yn oed yn y môr. Gwelwyd hi yn fuan yn marchog y donn, a chyrhaeddodd ei chartref newydd ger y Tafwys.
Ar un ochr, yn ol y rhai a fedrant ddehongli y darluniau, ceir enw'r brenin o fewn cylch. Uwchben ei enw ef ceir darluniau o gorsen a gwenynen. Corsen oedd arwydd rhanbarth uchaf yr Aifft; a safai'r wenynen dros yr Aifft isaf. Golyga hyn fod Thothmes III. yn llywodraethu dros y ddwy ran. Yn ol barn y mwyafrif o'r awdurdodau, ysgrifennodd Rameses II. (1300—1230 c.c.) hefyd gofnodion arni. Efe oedd y brenin newydd a gyfododd yn yr Aifft, yr hwn nad adnabuasai mo Joseph (Ex. i. 8); a thrwy orthrwm a adeiladodd Pithom a Raamses i gadw'r trysorau. Dywed ei argraff ei fod yn gosod ei derfynau lle y mynnai, a'i fod mewn heddwch drwy gyfrwng ei allu. Cofnodir ffaith hynod a phwysig iawn gan Mr. Handcock ynglyn â phriddfeini muriau Pithom. Yn y rhai agosaf i'r sylfaen. ceir gwellt; ond ar y rheiny y mae priddfeini a rwymwyd a chawn a hesg, ac y mae hyn yn gyson hollol â'r hanes yn Exodus ii. a v., "Ac ni roddir gwellt i chwi, eto chwi a roddwch yr un cyfrif o'r priddfeini." Ymhellach, yn ol un cyfieithiad, ceir, ar orsing drws yn un o'r dinasoedd, gyfeiriad at geidwad y Tramoriaid o Syria.
Rhaid i mi hefyd gyfeirio at y tri darn. o faen mawr a ddarganfuwyd yn Susa—hen brif ddinas Elam, ac un o brif ddinasoedd Persia ar ol hynny. Gorchfygwyd. Babylon gan Elam, a dygwyd y meini hyn o Babylon i Susa. Cloddiwyd yr adfeilion gan Williams a Loftus yn 1851-1852, ac yn y blynyddoedd diweddaf gan Dieulafoy a J. de Morgan. Yr olaf a enwyd a gododd y darnau o'r llwch. Wedi eu gosod ar eu gilydd mesurent dros saith troedfedd o uchder. Ar y wyneb y mae darlun o'r teyrn yn derbyn y cyfreithiau o law yr haul dduw Cynhwysa'r ysgrif ar y meini hyn ddeddfau y brenin. Hammurabi mewn wyth mil o eiriau. Yr oedd y teyrn hwn y chweched yn y llinnell frenhinol gyntaf. Nid y brenhinoedd hyn oedd y rhai cyntaf i lywodraethu Babylon; ond dyma'r linnell gyntaf i eistedd ar orsedd. Credir mai yr Amraphel a enwir yn Gen. xiv. 1 yw Hammurabi. Efe oedd brenin Sinar, a hen enw ar wlad Babylonia yw Sinar. Esgynnodd i'r orsedd yn 2242 c.c. Dysgodd Abram wers iddo ef a'i gyfeillion pan ymrannodd yn eu herbyn liw nos ac a'u tarawodd. Dygodd Lot o'u crafangau, ac enillodd yn ol annhraeth Sodom. Pair darlleniad o'i ordeiniadau syndod mawr pan gofiom mor fore oedd ei ddydd; a gall pwy bynnag sydd o fewn cyrraedd i'r gyfrol olaf o Eiriadur Beiblaidd Dr. Hastings, neu lyfryn bychan y Proffeswr C. H. W. Johns, gael mwynhad. mawr iddo'i hun wrth fynd drwyddynt. Y mae anghyfiawnder ac anfoes yn der- byn condemniad diarbed yn neddfau Hammurabi. Rhagymadrodda drwy ddangos nifer y bendithion a ddaeth drwyddo i Mesopotamia. Nid yw cwestiynau meddygon yngwyneb deddfau gwlad yn beth newydd.
"Os yw'r meddyg wedi trin boneddwr am glwyf peryglus â fflaim bres ac wedi gwellhau y dyn, neu wedi symud pilen oddiar lygad boneddwr â filaim bres, ac wedi gwellhau llygad y boneddwr, gall gymeryd deg sicl o arian. Os yw efe (y claf) yn fab i ddyn tlawd (neu werinwr) gall gymeryd pum sicl o arian i'r meddyg. Os yw efe yn was i foneddwr, meistr y gwas a rydd i'r meddyg ddau sicl o arian."
Os parai y driniaeth law feddygol â fflaim bres farwolaeth y claf neu golled o'i lygad, torrid ymaith ddwylaw'r meddyg. Os bu yn achos o farwolaeth caethwas trwy ddefnyddio ei offeryn miniog rhaid iddo dalu caethwas am gaethwas, ac os cyll ei lygad fel effaith y driniaeth o dan law'r meddyg, rhaid talu arian i'w berchennog hyd hanner gwerth y caethwas. Rhoddir cyflog y gweithiwr, y saer, y teiliwr, yr adeiladydd, &c. Dyddorol iawn sylwi ar y gwahaniaeth rhyngddi a deddf Moses. Y peth amlycaf yw'r gwahaniaeth geir rhwng dyn a dyn o ran eu safle. Y mae tua 282 o ddeddfau, ac y maent yn fanwl eithafol. Gorffennwn. ein cyfeiriad at y ddeddf-res hon gyda dau. ddyfyniad, un o berthynas i'r corlannau, ac un ynglyn â rheolaeth llongau,—
"Os mewn corlan, y bu i ergyd Duw neu lew ladd, bydd i'r bugail ymlanhau ger bron Duw a bydd raid i berchen y gorlan wynebu'r ddamwain i'r gorlan."
"Os tarawodd llong sydd yn symud ymlaen long wrth angor, ac a'i suddodd, bydd i berchen y llong a suddwyd adrifo gerbron Duw pa beth bynnag a gollodd yn ei long."
Yna yr oedd yn rhaid i'r hwn oedd biau'r llong a'i tarawodd ac a'i suddodd roddi iddo long arall, ynghyd a phob dim a gollodd
Y rhai hyn yw ychydig o'r cerrig sydd yn adrodd hanes tra dyddorol y dyddiau gynt blynyddoedd yr hen oesoedd; ac fe ddiweddwn hyn' o gyfeiriad atynt drwy adrodd hanes y golofnig o wenithfaen llwyd a gafwyd yn un o adeiladau Pharaoh Amenôthês III.—un o'r brenhinoedd elwid yn hereticaidd, am iddynt ymadael â duwiau eu tadau, a deyrnasoedd tua phymtheg cant o flynyddoedd cyn geni'r Gwaredwr. Yr oedd yr adeilad hwn yn ddiau, fel y cawn sylwi eto, wedi bod yng ngwasanaeth y duwiau dieithr a ddaethant i fri yn Tell El-Amarna, prif ddinas yr Aifft o dan deyrnasiad dau frenin; ac ar y golofn yr oedd arysgrifen of folawd i Amenôthês III. Bu yno am ganrif a hanner yn canu clodydd. y teyrn tirion hwn; ond ryw ddiwrnod yr oedd angen am faen i dderbyn. ysgrif o ddiolchgarwch i'r duw Phtah. Yr oedd Pharaoh Menephtah wedi ennill buddugoliaeth fawr ar y Libyaid, ac efe yn ddeg a thrigain oed. O flaen y frwydr, cafodd weledigaeth ac ynddi gyfarwyddid manwl ar y modd i gyfarfod ei elyn. Gorchfygodd, a rhaid oedd cyhoeddi hanes yr ymgyrch ymhob rhan o'r wlad; a gwelwyd, pan yn chwilio am garreg bwrpasol i dderbyn yr arysgrifen, fod darn ardderchog o faen caboledig ar y golofn adroddai rymusderau Amenôthês III. Trowyd yr ysgrif honno a'i hwyneb at y mur, a cherfiwyd hanes gwrhydri Menephtah ar ei chefn. Dywed yr hanes i'r Libyaid ddod, iddynt gael eu curo, iddynt ffoi, a'r dychrun a barodd hynny yng nghalonnau trigolion yr anialwch. Prudd iawn yw profiad Libya. Dywedant (yn ol cyfieithiad Maspero),—
"Ein duw a drodd ei gefn ar ein cadlywydd. Nid oes neb i gario ein pynnau yn y dyddiau hyn; ymguddio yn unig a adewir i ni; ac o fewn ein magwyrydd yn unig y mae diogelwch."
Ond os mewn galarnad y traetha Libya ei phrofiad ar y garreg, y mae'n amlwg fod yr Aifft yn llawn gorfoledd. Dywedant,—
"Cwsg y milwyr; y mae'r gwylwyr. . . . yn hau ar y dolydd. . . . y mae pawb yn canu; ac nid oes griddfaniad nac ochenaid. . . . yn awr gan fod y Libyaid wedi eu dinistrio, y mae'r Khati yn heddychol, y mae gwlad Canan yn ddarostyngedig, arweinir pobl Ascalon a Gezar i gaethiwed, dinas Ianouâmim a ddisgynnwyd, hwynt hwy o Israel (Israilou) a ddinistriwyd, nid oes ddernyn o honynt ar ol."
Dyma'r cyfeiriad cyntaf at y genedl etholedig a ddarganfuwyd ar gerrig yr Aifft; a chyfyd y cwestiwn pwy oedd y brenin hwn? Atebir yn dra chyffredin mai at hwn y danfonwyd Moses o Horeb wedi cael o hono weledigaeth y berth. Efe erlidiodd drigolion Gosen at y Môr Coch, a'i lu a foddwyd dan y tonnau. Eithr pan. ofynnir cwestiwn arall, sef, At ba amgylchiad yn hanes Israel y cyfeirir, amrywia'r awdurdodau gryn lawer. Yn ei ymdriniaeth ar ysgrif y golofn dywed Maspero fod ynddi esiampl o ormodiaith bardd y llys a gyfansoddodd yr emyn of glod, gan faint ei awydd i dalu gwarogaeth i'w benadur. A ydyw yr hyn a geir yma yn cynnwys yr hyn a ddewisid i'r Aifftiaid gredu am yr Israel a ddiangasant yn llaw'r Arglwydd, neu a oes esboniad arall ar y geiriau? Y mae'n amlwg nad oes dim terfynol ar y cwestiwn hyd yn awr, a'r unig beth pendant y cydsynnir arno yw fod enw'r bobl a waredwyd mor rhyfedd gan Arglwydd yr holl ddaear ar golofn a godwyd dan deyrnasiad y brenin a galedodd ei galon ac a gurwyd mor drwm.
Y mae pob blwyddyn yn gweled adgyfodiad y gorffennol; ac y mae'r Amgueddfeydd yn llawn o bob math ar drysorau sydd yn llanw rhyw wagle mewn hanes. Daw pethau newyddion i'r golwg o flwyddyn i flwyddyn sydd yn gorfodi haneswyr ac esbonwyr i newid eu barn, yn ogystal a chadarnhau eu syniadau blaenorol.