Neidio i'r cynnwys

Cyfrinach y Dwyrain/Yr ymchwil am a fu

Oddi ar Wicidestun
Cynhwysiad Cyfrinach y Dwyrain

gan David Cunllo Davies

Cenadwri y Cerrig

CYFRINACH Y DWYRAIN.

I. YR YMCHWIL AM A FU.

Y MAE'R awydd am fyned yn ol yn gryf ym meddwl pob dyn. Gan fod holl afonydd y presennol a'u tarddell yn y gorffennol, y mae y llwybr, fynychaf, yn un hawdd i'w gael, a'i gerdded; ac y mae cymaint o allu gan yr hyn a fu i esbonio yr hyn sydd. Cerddwn gyda glan afon fawr sir Aberteifi ym mis Ebrill, ac wrth weled dywylled oedd ei dyfroedd cododd ynnof gwestiwn-yr hen gwestiwn, sydd barod i godi-paham? Dywedodd fy nghyfaill wrthyf mai rhwng ceulannau o fawn y rhedai Teifi am rai o filldiroedd cyntaf ei thaith.

Cododd y cwestiwn, yn gyffelyb, ym meddwl apostol ac efengylwr; a chan wybod fod ym mryd dynion ei ofyn, trodd Ceidwad mawr y byd lawer iawn gydag ef. Yr oedd am i'w weithredoedd nerthol roddi goleuni arno; ac yn ol fel y byddai dynion yn ateb y cwestiwn ynglyn ag ef y derbyniasant ac y gwrthodasant ef. O Nazareth y deuai, meddai rhai. "Onid hwn yw y saer, mab Mair, brawd Iago, a Joses, a Judas, a Simon, ac onid yw ei chwiorydd ef yma, yn ein plith ni? A hwy a rwystrwyd o'i blegid ef." Dywedai ereill, y mae gennym gryn ymddiriedaeth yn eu barn,-"Nyni a wyddom mai dysgawdwr ydwyt ti, wedi dyfod oddiwrth Dduw"-ac y mae y gwirionedd iddo ddyfod oddiwrth Dduw yn perthyn yn agos iawn i un arall, sef fod Duw gydag ef.

Y mae afonydd gras fel afonydd natur yn codi ymchwil am a fu. Gwel sant a chredadyn "yr afon a lifodd rhwng nefoedd a llawr;" a gwelant bob dim lle y delo yn byw; ac ânt yn ol gyda'i glan. Ant yn ol at fynydd yr esgyniad weithiau. Teithiant yn aml at y bedd gwag yn yr ardd. Yno teimlant chwaon bywyd newydd yr adgyfodiad yn iachau gobeithion eu henaid. Yn aml, aml troant eu hwynebau i Galfaria-y Calfaria roes haeddiant a hedd. Teithiant brydiau ereill at y mynydd sanctaidd lle y bu eu Gwaredwr yn ymwisgo mewn disgleirdeb. Y mae dau efengylwr a dau apostol wedi aros ennyd yno. A llawer yn ol gyda glan yr afon í Fethlehem. A Ioan yng ngham cyntaf yr Efengyl dros y terfyn i dragwyddoldeb-a theithia llawer o dan ysbrydoliaeth at y man y cododd y meddwl cyntaf am achub gwael, golledig, euog ddyn. Rhaid i'r meddwl fyned yn ol. Y mae gan y llais o'r tu ol lawer i ddysgu iddo. Y mae henaint a phrofiad yn teilyngu gwrandawiad.

Nid ydym am fyned yno i aros: oherwydd ymlaen y mae'r goreu. "Yr hwyr a fu a'r bore a fu" (nid bore a hwyr) yw trefn Duw. Y mae'r byd ar ei daith o anrhefn i drefn, o dywyllwch i oleuni, o'r amherffaith i'r perffaith. Sylwn ar bedair carreg filltir ym mywgraffiad y ddaear.

"Y ddaear oedd afluniaidd a gwag"-

"Llawn yw y ddaear o'th drugaredd"-

"A'r ddaear a lanwyd o'i fawl".-

"Eithr nefoedd newydd a daear newydd yr ydym ni yn ol ei addewid ef yn eu disgwyl, yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu." Yn y blaen y mae'r goreu.

Weithiau dysgir dynion i fynd ymlaen drwy gofio yr hyn sydd yn ol. Cododd Duw golofnau i'r gorffennol, er mwyn dangos mai yr un yw efe o hyd. Gwaredigaeth fawr oedd honno yn yr Aifft-a honno o'r Aifft,-

"A hwythau rhwng creigiau crog,
Yn llaw yr Hollalluog.

Y mae'r drugaredd fawr honno i adael ei hol ar y genedl ddyddiau'r ddaear, ac yr oedd gwyl y Pasc wedi ei llunio i'w cynorthwyo i fyned yn ol; ac o ddeall eu gorffennol, credent er dwys ysbrydoliaeth i'w bywyd y gallai Duw o hyd wneud. llwybr dros le mor anhawdd a gwaelod y Mor Coch. Llawer gwers sydd gan y dyddiau gynt ar ein cyfer ninnau. Dyddorant ni; dysgant ni, a chyfoethogant ni. Yr ydym am bwyso ennyd ar y gorffennol fel y gŵr gynt ym Methel ar y garreg, er mwyn cael ysgol y weledigaeth i'w dringo.

Y mae lleisiau'r gorffennol o furiau a cholofnau, o bapur-frwyn, o ddarnau o bridd-lestri, o adfeilion ac o feddau y Dwyrain, yn amrywiol iawn; a meddant gymaint o swyn i'r rhai sydd ag anianawd y pethau hyn ynddynt, fel y mae daear yr Aifft a Chanan ac Asia Leiaf yn adrodd pennod ar ol pennod o hanes y dyddiau a fu gyda chyflymder mawr; a diau gennyf y bydd ychydig o fanylion. am rai o'r pethau pwysig a ddarganfuwyd yn ddiweddar yn y Dwyrain o ddyddordeb i gyfeillion y Llyfr, brenin y llyfrau i gyd, a ddaeth o'r Dwyrain. Ie, gymaint ddaeth o'r Dwyrain heblaw pelydrau cyntaf y dydd. Dilyn yr haul y mae doniau pennaf bywyd. Oddiyno y daeth. gwareiddiad, dysgeidiaeth, gwyddoniaeth, crefydd, ac o Un fu byw a marw ynddi, y cafwyd trefn i faddeu pechod ac i addurno enaid â'i ddelw. Yno y cafodd crefydd Crist ei phroffeswyr cyntaf; ac y mae gan y Dwyrain lawer i'w ddweyd mewn ffordd o esboniad ar y gwirionedd sydd yn ein llaw, ac i gadarnhau ein ffydd ni ynddo. Un o ddyddiau mawr y Beibl fydd hwnnw, pan fydd ein Harglwydd Iesu Grist wedi meddiannu'r Dwyrain, ac y bydd gwledydd y proffwydi a'r ysgrifen- wyr ysbrydoledig ereill wedi dod a'u hes- boniad hwy ar lawer ffigiwr ac arferiad y sonnir am danynt yn y gwirionedd dwy- fol.

Llyfr Duw a roddwyd drwy ddyn yw y Beibl; ac y mae eglurhad ar lawer cymal oedd ym meddwl yr ysgrifennydd yn gwneud neges y nefoedd yn fwy awdurdodol am ein bod yn ei deall yn well. Fel profion allanol i wirionedd a dilysrwydd. yr Ysgrythyr Lan ni chafwyd dim i ddwyn tystiolaeth gryfach yn llys beirniadaeth na'r hyn a gafwyd yn adfeilion dinasoedd yr hen fyd, a'r hyn a ddarganfuwyd ym meddau yr hen genhedloedd. Yr ydym yn credu na fedd gair y gwirionedd ddim ategiad cryfach iddo'i hun na phrofiad y saint. Dyma'r unig gyfrol sydd yn meddu agoriad i gloion y galon ddynol, hon a feiddiodd ddweyd yr holl wir wrth ddyn yn ei drueni, a hon yn unig a barodd i obaith dorri fel gwawr ar ei hanes. Y prawf mewnol yw y cryfaf. Y galon a driniwyd gan ras y Duw a lefarodd y gwirionedd dwyfol wedi'r cwbl yw y tyst goreu. Pair yr iachawdwriaeth i ddyn feddiannu gallu i brofi y pethau sydd a gwahaniaeth rhyngddynt. Nid pawb a fedd hwn. Y mae llawer yn amddifad of raddau helaeth o hono, a phan y mae y galon yn ddistaw da cael gan y cerrig a'r priddfeini i lefaru.

Y mae y maes a agorir gan y darganfyddiadau yn un o ddyddordeb dwfn, gan ei fod yn aml yn agoryd i ni ochr arall i'r hanes. Adroddir yn fanwl hanes yr hen genedl yn disgyn drwy bechod i afael cenhedloedd cryfion Babilon, Ninefeh, a'r Aifft. Hanes ydyw, yn yr Ysgrythyr, a ysgrifennwyd o gyfeiriad Israel ei hun. Ei pherthynas â Duw yw y drychfeddwl llywodraethol a luniodd yr hanes ac a gyfeiriodd law yr hanesydd. Ym mhriddfeini y dinasoedd hynny a guddiwyd gan falurion eu muriau, ac a gladdwyd dan y dywarchen las, gyda threigliad y canrifoedd, cawn lawer o'r un hanes o ochr y cenhedloedd a anrheithiasant Ganan.

Un o'r enwau mwyaf adnabyddus ynglyn â'r Dwyrain yn y cysylltiadau hyn yw enw Syr Austin Henry Layard, -bargyfreithiwr, a llys-genhadydd Prydain yng Nghaer Cystenyn (1877- 1880), yr hwn a ymdeithiodd ar lannau'r Tigris yn 1839. Sylwodd wrth grwydro ar domenau Nimrud yn Ninefeh, ac yn 1845 dechreuodd eu chwalu. Ar fyrr o dro daeth o hyd i olion pedwar plas a fu yn adeiladau gorwych oesoedd cyn hynny. Y mae pob peth a fernid o werth ynddynt yn yr Amgueddfa Brydeinig heddyw; a rhydd y darluniau ar gerrig a metel syniad clir i ni am arferion yr Assyriaid-yn grefyddol a milwrol. Gellir yn hawdd alw yn ol eu brwydrau a'u dull o drin arfau. Cydnebydd Layard ei ddyled i Claudius James Rich, yr hwn a ddygodd adref flaenffrwyth y casgliad hynafiaethol o Assyria sydd ym meddiant y wlad hon, ac a gedwir yn ein Trysordy Cenedlaethol yn Llundain. Daeth Botta y Ffrancwr (1802-1870) o hyd i blas Sargon (Is. xx. 1), ac y mae basluniau (bas-reliefs) y lle hwn yn addurno muriau'r Louvre, ym Mharis. Trafnid-faer Ffrainc yn Alexandria a Mosul ydoedd efe; a chyhoeddodd, mewn. undeb â Letronne, Burnouf, ac eraill. bum cyfrol ar Ninifeh. Darganfu Layard lyfrgell Sardanapalus. Asnapper (Ezra iv. 10) yw enw'r brenin hwn yn yr Ysgrythyr, a gelwir ef yn Assur-bani-pal gan ei bobl. Teyrnasoedd o 668 i 626 cyn Crist. Yr oedd wedi ei addysgu ym Mabilon-y wlad fawr gymydogol i Assyria. Boddlonai'r Assyriaid ar gopio gweithiau Babilonaidd. Ni anturiasant ond ychydig ar hyd llwybrau newyddion; ac nid rhyfedd hynny, oherwydd yr oedd dysg Babilon mewn seryddiaeth, gramadeg, rhifyddeg, a meddyginiaeth yn nodedig iawn. Y mae'r llenyddiaeth hon yn drysoredig ar lechau o glai; a chasglwr diail oedd Assur-bani-pal. Yr oedd yn rhyfelwr mawr hefyd. Gorchfygodd Susan (Esther i. 3), a daeth teyrnas Elam i ben; eithr dan deyrnasiad yr ail o'i feibion a fu ar yr orsedd, cyflawnwyd geiriau Nahum, a daeth ymerodraeth Ninefeh i ben. Gwnaeth Syr Henry C. Rawlinson fwy na neb o'i gyoedion i ddehongli yr ysgrifeniadau ar ffurf cŷn neu lettem (cuneiform=wedge shaped); ac enwau ereill y dylid eu cofnodi ynglyn â darganfyddiadau Assyriaidd yw enwau George Smith, Edwin Norris, a Hormuzd Rassam-cynorthwywr Layard, a'i olynydd yn y gwaith.

Y darganfyddiadau hyn i fesur mawr a ganodd y gloch i alw ymchwilwyr ereill i wledydd y Beibl. Y mae y gwirionedd yn codi awydd am wybod mwy. Cyfyd bendithion a doniau'r Nef awydd am fwy. Diwallant ein presennol, eangant orwelion y dyfodol; ac y mae'r dyddordeb dwfn a deimlir yn Iesu Grist a'i lyfr wedi creu dyhead am wybod mwy, ac am ddeall yn well. Y mae'r Ellmyniaid yn archwilio Assyria ers deng mlynedd; a phan y cyhoeddir o ffrwyth eu llafur ychwanegir yn ddirfawr at ein gwybodaeth. O'r nifer mawr o golofnau o bob math sydd yn drysoredig yn y wlad hon, nid oes ond ychydig wedi ei ddarllen a'i ddehongli.

Un o'r rhai cyntaf i ymweled â Phalestina gyda'r amcan hwn oedd Felix Fabri. Ymwelodd â'r wlad yn y bymthegfed ganrif. Mynach o Ulm, yn yr Almaen ydoedd. Bu yno ddwywaith. Yr ail dro aeth Bernhardt de Breydenbach, Deon Mainz, ac yntau mor bell a Mynydd Sinai. Gallem feddwl fod llawer o arabedd yn ysbryd y mynach. Yn hanes ei bererindod i Jericho, dilynir yr ymwelwyr gan Arabiaid, a dywed Fabri ei fod ef a'i gwmni mewn mwy o enbydrwydd na'r gŵr a syrthiodd ymysg lladron, oherwydd yr oeddynt hwy wedi dwyn eu lladron eu hunain i'w canlyn. Cawn Maundrell yn teithio yn y dwyrain yn 1697, a Pococke yn 1738. Deffrodd ysbryd ymchwilgar ar ol darganfod Herculaneum yn 1720 a Pompeii yn 1748. Trefydd yn yr Eidal oedd y ddwy Cuddíwyd hwynt. drwy lyfrithiad sydyn y mynydd tanllyd Vesuvius yn y flwyddyn 79; ac o dan lwch a lludw y mynydd hwnnw y buont hyd ddechreu y ddeunawfed ganrif. Parodd y darganfyddiad o honynt ddyddordeb dwfn a chyffredinol; a gwelwyd, mewn drych, adgyfodiad o'r gorffennol. hyn.

Yn 1809, danfonwyd un o'r enw Burckhardt i Aleppo gan gymdeithas a ffurfiwyd er darganfod canolbarthau Affrica. Ei neges oedd dysgu iaith ac arferion. Mohamedan-Arabaidd nes ei gwneud yn anhawdd i neb wybod yn amgen nad hynny ydoedd. Bu farw cyn gwneud llawer o'r gwaith a fwriadwyd iddo, eithr gadawodd gofnodion dyddorol a gwerthfawr o'i deithiau.

Enwau ereill o fri ymysg teithwyr yn y Tir Sanctaidd, ydyw Irby, Buckingham, Mangles, a Dr. Robinson, o'r America.

Yn 1867, aeth Syr Charles Warren allan. Yn 1872, aeth Stewart, ac yn fuan ar ei ol Conder. Yn 1874, gwelwn. Lieut. Kitcherer, yn awr Arglwydd Kitchener o Khartoum, yn ymgymeryd â'r gwaith o fesur Palestina. O dan nawdd y Palestine Exploration Fund a sefydlwyd yn 1865, yr anfonwyd y rhai diweddaf hyn; a pharha y gymdeithas hon i gasglu gwybodaeth a'i gwasgar ar hyd y blynyddoedd.

Yn yr Aifft y mae'r Egypt Exploration Fund wedi gwneud pethau mawrion. Llafuria y Mri. B. P. Grenfell, A. S. Hunt, F. LI. Griffith, Edouard Naville, Flinders Petrie, D. G. Hogarth, ac ereill, gyda hi. Y mae, i waith y gymdeithas dri nod,-sef, y darganfyddiadol; cadw cofnod a darlun o bob gwrthrych o ddyddordeb hynafiaethol; a darganfod pethau a berthynent i oesoedd boreuaf Cristionogaeth. Miss Amelia B. Edwards (1831—1892) a sefydlodd y Drysorfa hon yn 1882. Adwaenir hi fel nofelyddes. Teithiodd lawer yn yr Aifft; ac iddi hi yr ydym yn ddyledus am wybodaeth eang o wlad y Pharaohiaid.

Gwnaeth darganfyddiadau rhyfedd Arthur J. Evans, a'i dybiau awgrymiadol, lawer i awchu yr un meddwl.

Erbyn hyn y mae cymdeithasau ereill, yn cynrychioli pob gwlad, yn chwilio ac yn cloddio, ac yn llwyddo yn hynod i alw yn ol yr oesau gynt, a llawenychwn am fod y cyfan yn tueddu i greu dyddordeb yn y Beibl; ac y mae pethau dyfnach yn gwreiddio yn yr un man a dyddordeb bob amser.

Nodiadau[golygu]