Cyfrinach y Dwyrain/Ysgrifau ar Briddlestri a Llafnau o Gerrig

Oddi ar Wicidestun
Ysgrifau ar Bapur-Frwyn Cyfrinach y Dwyrain

gan David Cunllo Davies

Ysgrifau ar Groen

V. YSGRIFAU AR BRIDDLESTRI A LLAFNAU O GERRIG.

TRA yr oedd y garreg, y llech o glai a'r papurfrwyn yn ddefnydd ysgrifennu i'r cyfoethogion a'r dosbarthiadau agosaf atynt, yr oedd darn o briddlestr yn werthfawr at yr un gwaith yngolwg y dosbarthiadau tlotaf. Yn ein plith ni, nid oes dim yn fwy diwerth na llestri o bridd wedi torri. Cant wasanaethu ar flodau y garddwr ac i'r plant i chwareu siop fach; eithr yn y canrifoedd oddeutu'r Ymgnawdoliad gwneid defnydd helaeth o honynt yn lle papur ysgrifennu. Clywsom am y modd y byddai gwlad Groeg yn diogelu ei hunan rhag cymeriadau annymunol a drigent ynddi ac a boenent eu cymydogion. Yn 509 cyn Crist, yr oedd Cleisthenes yn un o ddinasyddion Athen. Gŵr enwog fel diwygiwr yng ngwleidyddiaeth y deyrnas, yn bennaf, ydoedd; a chysylltir ei enw ag un arferiad hynod iawn. Mewn cymanfa flynyddol, trefnodd i bob dinesydd yr hawl i ysgrifennu enw unrhyw un y dylid yn ol ei farn ef ei alltudio am ysbaid o'r ddinas. Rhoddid y bleidlais ar ddarn o lestr toredig neu gragen; ac yn y modd hwn cafodd Athen waredigaeth am bump a deng mlynedd. oddiwrth ormeswyr. Un o'r rhai a alltudiwyd oedd Themistocles, y gŵr a orchfygodd y Persiaid yn Salamis. Tybiai yr Atheniaid ei fod, er wedi amddiffyn ei wlad gyda gwroldeb, yn gosod ei law mewn coffrau na ddylasai; ac yn 471 cyn Crist, taflwyd dros chwe mil (y nifer gofynnol) o ddarnau o briddlestr neu gregyn yn dwyn ei enw i flwch y bleidlais; a than y cwmwl aeth Themistocles i drigo i Argos.

Darn o lestr oedd cragen Job (ii. 8); ac at hyn y cyfeiria Esaiah pan y dywed,— "Canys Efe a'i dryllia hi fel dryllio llestr crochenydd, gan guro heb arbed; fel na chaffer ymysg ei darnau gragen i gymeryd tân o'r aelwyd, nac i godi dwfr o'r ffos (xxx. 14). Defnyddia Eseciel y darn of lestr hefyd,—"Canys ti a yfi ac a sugni o hono; drylli hefyd ei ddarnau ef " (xxiii. 34). Gweler hefyd am gyfeiriadau pellach. Job xli. 30 a Diarhebion xxvi. 23. Cyfeiria Deissman at Esaiah xlv. 9,—"Ymrysoned priddell a phriddellau y ddaear."

Darganfuwyd miloedd o honynt yn ystod y blynyddoedd diweddaf, ac y maent yn ein dwyn yn ol i gael golwg ar bobl gyffredin—fel y dywedodd un—yn eu dillad gwaith; a rhaid cofio mai o fysg y werin bobl yr oedd mwyafrif canlynwyr Crist yn oesoedd boreuaf ein crefydd. Cyhoeddodd yr Athraw Wilcken gopi o 1,600 o honynt, ac yn y gyfrol ar ddarganfyddiadau Fayûm cawn gofnodiad am 50 eraill. Gwnaed gwasanaeth pwysig fel hyn o'r fowlen uwd a lithrodd o law'r Aifftiwr ar adeg swper. Gwnaed defnydd o'r ysten olew a'r badell dylino; ac y mae'r ysgrifau arnynt yn dangos i ni ystyr geiriau fel y deallid ac y defnyddid hwynt yn iaith gyffredin y bobl.

Ar un cawn ymddiheuriad dros ddefnyddio darn o lestr. Y mae'r ysgrifennydd yn y wlad ac o gyrraedd papurfrwyn, ac esgusoda ei hun.

Ar lawer ceir darnau byrion o'r Efengylau, yn enwedig y drydedd—eiddo Luc. Tybia rhai y byddai'r llestri pridd. yn gwasanaethu dychymyg y bobl fel swynogl rhag dylanwad ysbrydion drwg. Barn Deissman yw mai copi rhad o ran o'r Ysgrythyr yw, neu rannanu a ysgrifenwyd drwy orchymyn yr esgob gan wr ieuanc oedd yn ymgeisydd am y weinidogaeth. Ar y llestri yr ysgrifennid talebau gan yr awdurdodau llywodraethol. Yr oedd y baddonau ymhob ardal i'w cynnal gan y cyhoedd; ac ymysg yr ostraca—fel y gelwir hwynt, ceir llawer o nodiadau yn cydnabod derbyniad y dreth at gynhaliaeth y lleoedd hyn i ymolchi. Dyma un ohonynt, "Y drydedd flwyddyn, Pachon 18, talodd Heras, gwraig weddw, mam Heron, dreth yr ymdrochle (neu'r eneindy) yn Euhemeria trwy Heron fel rhan o'r tâl, pedair obol ar ddeg. Cyfanswm 14 ob." Yng nghasgliad y Fayûm y ceir y daleb hon; ac ereill o'r un ffynhonnell yw gorchymyn oddiwrth Agathinus, cedd yn gofalu am borthiant meirch y milwyr, am ddau lwyth o wair; taleb am sachaid o us at wasanaeth y gwersyll yn Dionysias. Dyma un arall a berthyn i'r chweched neu'r seithfed ganrif oddiwrth dri dyn ieuanc at yr esgob Abraham o Hermonthis (fel y tybir). Ysgrifennwyd y ddeiseb ar ddau tu i'r darn llestr,—

"Myfi Samuel, a Jacob ac Aaron, a ysgrifennwn at Ein Tad Sanctaidd Ara Abraham yr Esgob. Gan weled ein bod wedi deisyfu dy dadolaeth ar i ti ein hordeinio yn ddiaconiaid, yr ydym yn barod i gadw'r gorchmynion a'r gosodiadau ac i ufuddhau i'r rhai sydd uwch na ni ac i fod yn ufudd i'n huwchraddiaid ac i wylio'r gwelyau ar ddyddiau cymundeb ac i . . . yr Efengyl yn ol Ioan a'i dysgu ar gof erbyn diwedd y Pentecost. Os na ddysgwn hi ar gof ac os rhoddwn heibio ei hymarfer, nid oes ilaw arnom. Ac ni fasnachwn, ni chymerwn usuriaeth, ac nid awn oddi cartref heb ymofyn. (am ganiatad). Myfi, Hemai, ac Ara Jacob mab Job, yr ydym yn fechniwyr dros Samuel. Myfi Simeon ac Atre, yr ydym yn fechniwyr dros Jacob. Myfi, Patermute yr offeiriad a Moses a Lassa, yr ydym yn fechniwyr dros. Aaron. Myfi, Patermute, y lleiaf o'r offeiriaid a archwyd ac a ysgrifennais y llechen hon ac ydwyf dyst."

Yr efengyl yn ol Ioan sydd i'w dysgu. Bu'r esgob hwn, yn ol priddlestr arall, yn rhoddi yr efengyl yn ol Matthew yn faes llafur i'r ymgeiswyr; ac yr oedd Ioan, esgob Aphu o Oxyrhynchus, yn gosod pum Salm ar hugain, dau o epistolau Paul, a rhan o efengyl, yn waith i gof y rhai a geisient ei ordeiniad trwy osodiad dwylaw. Rhydd y manylion hyn a llawer o rai cyffelyb gipdrem ar barotoadau'r ymgeiswyr, a rheolau derbyniad i'r weinidogaeth yn yr Aifft ar adeg cyfodiad Mohametaniaeth. Tra yr oedd canlynwyr y proffwyd o Mecca yn cydio yn dynn yng ngharn ei gledd; y gair bywiol a nerthol oedd arf diguro canlynwyr Iesu o Nazareth,—"Drwy y gwaed" yr oedd y ddwy fuddugoliaeth; ond rhyfedd y gwahaniaeth rhwng y ddwy!

Bywyd a'r byd wedi ei gau allan o hono oedd i orchfygu'r byd. Hen fyd da ydyw hwn mewn rhai ystyron; ond gwelai Abraham yr esgob mai gwell oedd cadw traed ei drafnidiaeth y tu allan i ddrws ysbryd a ymroddai i weddi a gweinidogaeth y Gair.

Darganfuwyd nifer o briddlestri gan Dr. Sayce, yn 1901, yn Elephantine; a dwg y rhai hyn, sydd yn awr yn drysoredig yn Rhydychen, dystiolaeth fod Iddewon wedi byw unwaith ar yr ynys. Pa werth sydd yn y darnau hyn?

Llawer ymhob rhyw fodd. Clywir yr oesoedd a fu yn siarad pethau dyddiol bywyd. Ceir geiriau mewn amgylchedd oedd yn arferol iddynt yn ymddiddanion y werin, ac felly deallir hwy yn well. Yn enwedig y mae hyn yn bwysig ynglyn â geiriau nad arferir o honynt ond unwaith neu ddwy waith o fewn i gloriau'r Beibl. Gwyddom fod llawer o eiriau'r Testament Newydd yn ail-anedig. Paganiaid oeddynt, ac ar dudalennau'r clasuron y bu eu llwybrau. Benthyciwyd hwynt i osod allan feddyliau'r grefydd newydd, a daethant yn Gristionogion. Un o'r rhai hyn ydyw "eglwys," ac un arall ydyw "cariad."

Yn y byd Groegaidd, pan oedd yr apostolion yn llafurio, cawn sefydliad a elwid yn Eglwys. Dyna oedd "cynulleidfa gyfreithlawn" Ephesus. Dyna'r enw ar y "gynulleidfa oedd yn gymysg," hefyd, yn yr un ddinas. Ar ol i Paul lefaru yn hyf ac ymresymu am dri mis yn y Synagog, ac am ysbaid dwy flynedd yn nhy Tyrannus, a gwneud gwyrthiau rhagorol, aeth bywyd canlynwyr yr Hwn a bregethai yr apostol ar draws y fasnach mewn temlau arian i Diana. Arweiniodd Demetrius mewn cyffro mawr yn erbyn Paul. Daeth "cynulleidfa oedd yn gymysg" ynghyd, ac yr oedd arwyddion fod tymhestl nwydwyllt i ymdorri. Peth mawr yw gwrthwynebu pethau sydd yn dwyn elw i ddynion. Yn ilogell y byd y mae'r amddiffynfa yr ymleddir galetaf am dani, pan ymesyd y gelyn. Maer dinas Ephesus a lonyddodd y bobl. Dywedodd wrthynt fod y llysoedd barn yn agored, a chynrychiolwyr Rhufain yno i ddal y cloriannau. Os oedd y bobl am ymholi ymhellach, ebe fe, gall y prif ynad alw cynulleidfa gyfreithlawn. Y gair am eglwys yn y Testament Newydd yw'r gair a ddefnyddir yn Actau xix. am gynulleidfa. Felly hefyd cynulliadau. o Israeliaid fel yr un ym Mispah (Barn. xxi. 8), a'r dyrfa anerchodd Dafydd (1 Cron, xxxi. 30). Pobl wedi eu galw allan o'u tai-oddiwrth eu masnach ac wedi dod at eu gilydd i benderfynu rhyw gwestiwn oedd eglwys gynt. Gallai man y cyfarfyddiad fod yn heol y ddinas neu dy'r farchnad. Bydol, daearol, ac amserol oedd ei materion; eithr pan ddaeth Cristionogaeth cyfnewidiodd y gair ei ysbryd. Dynoda yn awr y bobl sydd wedi eu galw allan o fyd i benderfynu fod Crist i gael y gogoniant a'r byd i fod yn eiddo iddo. Y mae adnabod y gair yn ei hen gylch yn gymorth gwirioneddol i ni i'w ddeall wedi iddo ddod i gylch newydd. Faint o Paul a ddeallem, onibai i ni adnabod hefyd y Saul o Tarsus a fu'n erlid yr eglwys?

Y mae rhai o'r talebau a ysgrifennwyd. ar y darnau llestr pridd yn cynnwys gair a ddefnyddid gan yr Arglwydd Iesu ac un o'i apostolion. Y gair ydyw yr un a geir yn Matt. vi. 2, y maent yn derbyn (neu derbyniasant) eu gwobr. Gweler hefyd Philip. iv. 18. Ar ostracon a gofnodir gan Deissmann rhoddir derbyneb am dreth a'r gair derbyn arni. Ai nid ydym yn gweled mwy yng ngeiriau'r Arglwydd wedi gweled o honom y gair a ddefnyddia fel y deallid ef ac fel yr oedd mewn arferiad cyffredin ymysg y werin? Y mae'r rhagrithiwr yn y Synagogau ac ar yr heolydd, er cael ei ganmol gan ddynion, yn rhoddi taleb neu dderbyneb am eu gwobr. Ni ddaw dim mwy iddynt o'r gwaith hwn. Y mae llawer o eiriau a gyfieithir yn "derbyn." Defnyddia'r Arglwydd fwy nag un; ond yn y bregeth ar y mynydd yn unig, sef yn Matt. vi. 2, 5, 16, yn unig y defnyddia hwn; ac yn ol pob tebyg yr oedd yr Athraw mawr am roddi min yr arferiad masnachol o dderbyn taleb i'r brawddegau oedd yn desgrifio'r Pharisead —yr un mwyaf diobaith y pregethwyd yr efengyl iddo erioed.

Defnydd fel yna a wneir o'r cregyn. Rhoddant oleuni cyfnod yr ysgrifen ar air a brawddeg.

Y mae llefnyn neu dafell o garreg galch yn dwyn ysgrif, hefyd, sydd yn myned. dan yr enw ostracon, ac yn cael ei rhestru gyda'r pridd lestr. Y mae'r holl ysgrifeniadau a ddarganfuwyd a berthynent i'r cyfnod yr oedd Groeg a Rhufain mewn bri yn y wlad ar ddarnau o briddlestr, ond ar y garreg y mae yr ysgrifau Coptaidd—hen iaith yr Aifft a siaredid drwy'r holl wlad cyn dyfodiad y diluw Mahometanaidd yn y seithfed ganrif. Er wedi colli eu hiaith, y mae tua miliwn o'r cyff Coptaidd yn aros yn yr Aifft hyd heddyw, a hwy ydyw'r bobl fwyaf dysgedig; ac y mae'r mwyafrif o honynt yn Gristionogion. Condemniwyd hwynt gan Gyngor Eglwysig Chalcedon yn 451 am ddal fod y ddwy natur yng Nghrist wedi eu cymysgu.

Gelwir hwynt yn Eutychiaid ac yn Unnaturiaid. At yr hyn oedd yn yr eithaf oddiwrth eu daliadau hwy y cyfeiria Ann Griffiths pan ddywed (yn ol coflyfr John Hughes, Pont Robert),—

"Dwy natur mewn un person,
Yn anwahanol mwy—
Mewn purdeb heb gymysgu
Yn berffaith hollol drwy."

Ar y darnau o gerrig a llestri ceir llawer adnod o'r Beibl, llawer o lythyrau eglwysig, cyfamodau, darnau o bregethau. Cymerwn nifer o honynt. Cawn un ag arni ran o'r adnod sydd yn weddi i ganlynwyr agos yr Arglwydd ynghyd ag aralleriad,—

"Crea galon lân ynnof, O yr hwn wyt yn caru dyn, ac achub fi."

Un arall a ddwg ran o gyffes ffydd rhyw sant—pur hunan-gyfiawn,—

O Cyfaddefwn y Drindod sydd mewn Undod, sef yw hynny, y Tad, y Mab a'r Ysbryd Glan, tri pherson (hypostaseis) o ba rai un a gymerodd gnawd er ein hiachawdwriaeth, sef yw hynny, y Mab. Er hynny y mae pob un o'r Personau yn beth ar wahan, nid yn y lleill. Y mae hyn mewn gwirionedd felly. Un benaduriaeth (monarchia), un lywodraeth dros bob peth, un gogoniant. Ond yr ydym yn cysylltu gweithredoedd da a'r fawlwers hon er caffael yr addewidion."

Sonia'r Difinydd am "garreg wen" ac enw newydd (Dat. ii. 17); ac yr oedd y ffigiwr yn adnabyddus i'w ddarllenwyr ef pa un bynnag ai Groegiaid ai Rhufeiniaid ai Iddewon fyddent. Yn Rhufain, byddai cyflwyno carreg wen gan y naill gyfaill i'r llall yn arwydd rhwng y ddau y byddai iddynt hwy a'u teuluoedd ar eu hol gael mwynhau lletygarwch dan gronglwydydd. eu gilydd, a rhaid cofio fod lletygarwch yn eu byd hwy yn golygu llawer iawn mwy na gwely a bwyd. Byddai awdurdodau'r ddinas yn cyflwyno carreg wen i dlodion anghenog y ddinas, a byddent hwythau. yn gallu cael digonedd o yd drwy'r arwydd hon o ystorfeydd y ddinas. Dyma'r tocyn. a fynegai'r hawl i'r fraint hon. Yn llysoedd barn Groeg teflid carreg ddu i lestr pan gondemnid dyn; a dyna fel y gwnaethpwyd pan wgodd ei wlad ar Socrates; a phan deflid carreg wen, arwyddai hynny fod y ddeddf yn ei gyfiawnhau, neu yn myned heibio i'w drosedd. Yr oedd gan y Lefiaid hefyd garreg wen fel tystysgrif o'u cymhwyster i weini mewn pethau sanctaidd. Pa figiwr' llawnach o ystyr a ellid ei ddefnyddio yn y dydd hwnnw er cysuro Cristion na'r garreg wen? Danghosai fod drws gras yr Hollgyfoethog yn agored, ac y gallent hwythau dynnu hyd at ddiwalliad o'r ystor, canys yr oedd Un wedi rhoddi ei Hun drostynt ac wedi anturio eu cyfiawnhau o flaen y nef. Yr oedd yn rhaid iddynt fod yn gadwedig drwy'r enw hwn.

Carreg wen oedd papur etholiad rhai pobl yn y dydd hwnnw.

Dyma bapur ysgrifennu nodiadau of bregeth. Cawn homili neu ddarn o lythyr o dan law rhyw Esgob yn rhybuddio yn erbyn hustyngwr neu wr sydd yn cario chwedlau. Fel hyn y desgrifia'r troseddwr yn siarad.

"Dy eiddo ydwyf fi.' meddai; ac wedi hyn os a ato ef (y gelyn) dywed 'Y mae'n resyn gennyf am danat iy fod yn ddistaw fel hyn, tra mae d'elyn yn gwneuthur felly â thi.' Ar ol hynny efe a ddwg fy ngeiriau at y llall ac a ddwg yr eiddo ef i mi nes iddo greu ymraniad ac ymryson. Er hyn, pan ymddiddana â thi, tyngheia di gan ddywedyd— Na ddywed wrth un dyn yr hyn a ddywedais i ti o ba herwydd y mae pob dyn sydd yn ddeu-dafodiog wedi ei ddieithrio oddiwrth Dad, a Mab, ac Ysbryd Glan, hyd nes yr edifarhao. A dyweded yr holl bobl Felly y boed.'"

Cawn yng nghasgliad Mr. W. E. Crum (Coptic Ostraca) lawer iawn o bethau eglwysig, a rhai o'r pethau mwyaf dyddorol ydyw cytundebau rhwng pleidiau yn sicrhau na bydd iddynt ymgyfreithio. Y mae dyn o'r enw Ezekias, yn rhoddi sierwydd cyfreithiol i'r Esgob Abraham na bydd iddo hawlio dim ymhellach oddiar yr Esgob, yr hwn oedd wedi diarddel brawd Ezekias. Ni fydd iddo fyned i gyfraith â'r esgob heb dalu dirwy o owns of aur. Ymddengys oddiwrth hyn nad oedd y swyddog eglwysig yn cael ei amddiffyn gan ragorfraint gysgodol deddf ei wlad pan weinyddai ddisgyblaeth eglwysig.

Cyfeiriasom at yr Esgob Abraham o'r blaen. Cafwyd llawer o'i ohebiaeth yn Dêr el Bahri yn 1893—4. Cysylltir ei enw yn y llythyrau à Victor "ei fab." Ni Ysgrifau ar Briddlestri. 95 ddywedir am ba esgobaeth y gofala; eithr ar bapurfrwyn sydd yn awr yn yr Amgueddfa Brydeiníg ceir ewyllys neu lythyr cymun Esgob Hermonthis o'r enw Abramius. "I'r offeiriad duwiol a'm disgybl," Victor, y cyflwyna ei holl eiddo, gan gynnwys monachlog Sant Phoebammon. Y mae Dioscorus, archoffeiriad Hermonthis, yn dyst i'r ewyllys; ac ar un o'r llafnau cerrig ceir llythyr oddiwrth yr Esgob Abraham at berson o'r enw hwn.

Tybir, felly mai yr un yw perchen yr ewyllys a gŵr gohebiaeth Dêr el Bahri. Rhoddwn un neu ddwy o ysgrifau dyddorol sydd yn taflu goleuni ar yr adeg: a gwyddom mai pethau a ddigwyddodd tua'r flwyddyn 600 a'i helyntion sydd yn ysgrifenedig ar yr ostraca, oherwydd cofnodir diffyg ar yr haul, a dywed seryddwyr mai ym Mawrth, 601, y digwyddodd hwnnw. Dyma rai o'r ysgrifau "ymrwymiad gan Marc" y diacon gostyngedig i'r diacon Victor.

"Trwy ewyllys Duw a gweddiau'r saint yr wyf yn barod i gadw'r gorchmynion sanctaidd a osodaist arnaf ac i wneuthur holl waith crefftwr ac i ddyfod atat ti i'r mynydd hwn ar gytundeb am fis o ddyddiau ar y pryd ac i gyflawni gwasanaeth (leitourgia) y lle yn ddyfal a pharod, &c.

Ceir nifer o linellau o Iliad Homer hefyd ar ostraca a ddarganfyddwyd yn Denderah. Y maent i'w gweled yng nghasgliad Coleg y Brifysgol yn Llundain. Rhydd Crum gyfieithiad o restr o eiddo rhywun. Y mae yno ddau lyfr Psalmau, llyfr y Barnwyr, y 'Diarhebion ac Ecclesiastes, gwrthban, pedwar croen dafad, chwe crochan pres, saith pâr ar hugain of ddillad bedd, dau swch aradr, dau ganhwyllbren, dau beiriant pwyso, &c. Y mae chwilfrydedd yn peri i ni ofyn y cwestiwn—beth oedd y dyn a feddai'r pethau hyn? Os nad oedd efe yn masnachu ym mhethau'r bedd, y mae'n rhaid fod y byd arall yn llanw lle pwysig yn ei feddwl gan luosoced y gwisgoedd priodol i briddellau'r dyffryn oedd yn ei feddiant.

Wedi cael o honom bethau fel hyn, nid ffeithiau noeth ydyw hanes. Y mae yn llawn o fywyd, a hawdd ydyw i'r dychymyg wisgo esgyrn sychion â chnawd.

Nodiadau[golygu]