Cyfrinach y Dwyrain/Ysgrifau ar Groen

Oddi ar Wicidestun
Ysgrifau ar Briddlestri a Llafnau o Gerrig Cyfrinach y Dwyrain

gan David Cunllo Davies

Amryw—cenedl, gwledydd, dinasoedd, a phlasdy

VI. YSGRIFAU AR GROEN.

DEFNYDD arall a arferid i ysgrifennu arno oedd croen. Rhagorir ar bapurfrwyn mewn llawer ystyr, ond yr oedd yn drymach o ran pwysau ac yn uwch ei bris na hwnnw. Darganfuwyd y ffordd i'w barotoi tua dwy ganrif cyn Crist; ac yn Pergamus, hen brif ddinas Rhufain yn Asia, y digwyddodd hynny. Oddiar y dydd hwnnw hyd heddyw, ar groen yr ysgrifennir pob gweithred o bwys ymhob gwlad. Lle nodedig am ei lyfrgell oedd Pergamus. Sefydlwyd hi gan y brenin Eumenes II. (197—159 cyn Crist); a glynodd enw'r ddinas wrth y gair Saesneg parchment (o'r Lladin Pergamena charta), oddiar y dydd y darparwyd ef gyntaf. O groen geifr, defaid, neu loi, y parotoir y defnydd cyffredin i ysgrifennu arno; ond ceir un hefyd sydd yn feinach ac yn decach, a elwir vellum, o groen mynnod, wyn a lloi, ac yn y ganrif o'r blaen darganfuwyd ffordd i wneuthur efelychiad da o'r croen o fath o bapur.

Croen oedd memrwn Paul. Yn ei ail lythyr at Timotheus, esgob Ephesus, ac efe yr ail waith ger bron Nero, gofynna'r apostol am y gochl, y llyfrau, a'r memrwn (2 Tim. iv. 13) a adawyd yn Nhroas gyda Carpus. Amrywia llawer mewn barn am yr hyn a ysgrifenwyd ar y memrwn. Dywed un mai llyfr nodiadau Paul ydoedd; a dywed arall mai ysgrythyrau'r Hen Destament oedd yn ysgrifenedig arno; eithr cydolygir yn dra chyffredinol fod y llyfrau o bapurfrwyn a'r memrwn o groen.

Ar y defnydd hwn y mae'r copiau. hynaf o'r Testament Newydd. Taflwn olwg frysiog dros bedwar neu bump o honynt. Yn yr Amgueddfa Brydeinig y trysorir y copi a elwir ysgriflyfr (Codex) A. Ynddo ceir ymron y Beibl oll mewn Groeg; a chredir iddo gael ei ysgrifennu mewn pedair canrif a hanner ar ol dyfodiad Crist i'r byd. Ni ellir disgwyl am ysgrifau a fydd lawer yn hŷn, am fod copiau o'r ysgrythyrau yn brinion a bod erledigaeth wedi peri i lawer o honynt fyned yn aberth i dân. Byddai pob gelyn yn ceisio lladd y Cristion a'i lyfr, am na allai ysgar y berthynas rhwng y ddau. Ni chariai canlynwyr Crist arf. Gwnaeth un o honynt hynny ryw dro, fel y gwyddail gwas yr archoffeiriad yn dda; ond nid oes angen am gleddyfau na grym arfau ym myddin Calfaria. Gair Duw yw cleddyf yr Ysbryd, ac er mwyn lladd Cristionogaeth yr oedd yn rhaid difa'r cleddyfau hyn.

O dan deyrnasiad yr Ymerawdwr Decius (245—251) gwelodd yr Eglwys ddyddiau blin iawn. Penderfynwyd difodi'r grefydd oedd yn ymlid paganiaeth gyda'r fath gyflymder, ac yr oedd Decius am adfer pethau i'r hyn oeddynt yn nyddiau Trajan a Marcus Aurelius y stoic, a bu erledigaeth dost ar bawb a ddygai enw'r Iesu. Daeth Valerian (253 —260) i'r orsedd, ac am saith mlynedd. chwythodd ystorm erwin, Yr oedd y moesgarwch, a ddesgrifir gan Gibbon, a pha un y gosodai'r swyddogaeth Rufeinig ddyfarniad y llysoedd mewn gweithrediad yn gwneuthur yr erledigaeth yn greulon dros ben. Ar ol dyddiau hwn bu goddefgarwch yn llywodraethu. Cafodd yr Eglwys seibiant am ddeugain mlynedd. —dyddiau mwy peryglus i foesau'r disgyblion na dyddiau'r erledigaeth fwyaf Ilymdost. Nid oes lle i us yn yr Eglwys lle chwyth y gwynt yn gryf; a phura'r tân yr aur. Wedi'r deugain mlynedd. daeth Diocletian (284—305), ac yn Chwefrol, 303, anfonodd allan orchymyn i lwyr ddinistrio Cristionogaeth, a llosgwyd ei hysgrythyrau gyda llwyredd ofnadwy. Gorchmynnwyd i'r henuriaid a'r esgobion eu cyflwyno i fyny i'r swyddogion; a gwyrth fuasai y posibilrwydd i unrhyw gopi ddianc rhag y fflam; a hwn oedd y cyfnod y difawyd yr ysgriflyfrau. Wedi i'r hindda ddod drachefn, yn 330, ysgrifenwyd hanner cant o gopiau drwy orchymyn yr Ymerawdwr Cystenyn at wasanaeth eglwysi ei brif ddinas. Mewn prif lythrennau (uncials) yr ysgrifenwyd y copiau hynaf, ac o'r nawfed ganrif ymlaen cawn filoedd o gopiau mewn ysgriflaw redeg (cursive).

Y Codex A yw un o'r copiau hynaf o'r ysgrythyrau. Yn 1098, gosodwyd y llyfr yn Llyfrgell Caercystenyn: a chyflwynwyd ef gan Cyril Lucar, hen batriarch yr Eglwys Ddwyreiniol yn Alexandria, yr Aifft, ond oedd ar y pryd yn batriarch Caercystenyn, i Siarl I., brenin Lloegr yn 1628—ymhen dwy flynedd ar bymtheg ar ol cyhoeddi y cyfieithiad awdurdodedig Saesneg gan y brenin Iago. Yr oedd deugain mlynedd wedi pasio er pan gyhoeddwyd Beibl Dr. William Morgan yn 1588; ac yr oedd argraffiad Cymraeg Dr. Richard Parry o Lanelwy ar y maes oddiar 1620. Felly, nid oes un dylanwad gan Codex A ar destun y cyfieithiad Saesneg na'r Cymraeg.

Yn Lloegr Brotestanaidd y trysorir y copi hwn. Cedwir un arall yn Llyfrgell y Vatican—cartref y Pab yn Rhufain. Ysgrifenwyd hwn tua'r bedwaredd ganrif. Cynhwysa yr Hen Destament a'r Newydd, ac eithrio dros ddeugain o dudalennau o'r ysgrif sydd ar goll. Yr enwau mwyaf adnabyddus ynglyn âg astudiaeth Codex B, cyn i'r awdurdodau Pabaidd gyhoeddi darluniau cyflawn o hono, ydyw Tregelles, Tischendorf, ac Alford. Yr oedd y blaenaf a enwydSamuel Prideaux Tregelles (1813—1875) yn enedigol o Falmouth. Gweithiodd o 1828 i 1834 yng ngwaith haearn Abaty Castell Nedd, ac yn 1836 cawn ef yn athraw yn ei gartref. Wedi hynny aeth i Rufain i efrydu yr ysgrif sydd o dan ein sylw; a dywed y Parch. J. Paterson Smith o Dublin fod Tregelles wedi cael trafferth gyda'r awdurdodau Pabyddol pan oedd yn gweithio ar y Codex. Ni chaniateid iddo bin ysgrifennu na phapur, a chwiliwyd ei logellau. Fel y cyfeiriwyd, cyhoeddwyd gwawl-arluniau[1] o'r gyfrol gan Pius IX., a chofiwn yn dda am y Prifathraw Thomas Charles Edwards yn ein hysbysu iddo bwrcasu copi o hono i Lyfrgell Coleg y Bala. Y mae ol amryw ddwylaw ar y llawysgrif hon. Bu rhywun, yn fuan ar ol i'r ysgrifennydd gwreiddiol ei rhoddi o'i law, yn gwneuthur cywiriadau, ac ymhen rhai canrifoedd aeth rhywun ati i ysgrifennu drosti o ben i ben, dan yr argraff fod yr inc yn diflannu; eithr nid oedd raid iddo, gan fod yr hen mor berffaith a'r newydd.

Y nesaf mewn dyddordeb yw yr ysgrif Sinaitaidd. Gelwir hi felly am mai ym. Mynachlog y Santes Catrin, ar odre mynydd Sinai, y darganfuwyd hi. Pan oedd ar ymweliad â'r fangre ramantus lle y bu mynydd yn crynnu wrth dystio i gyfiawnder yr Hwn a roddodd ddeddf oddiarno, gwelodd Dr. Tischendorf lawer o hen ysgrifau; a dywedwyd wrtho fod llawer o rai tebyg wedi eu defnyddio fel tanwydd heb fod neb yn y sefydliad yn gwybod dim am eu gwerth. Rhoddwyd iddo ddeugain tudalen o'r croen, ar yr hwn vr oedd yn ysgrifenedig gyfieithiad y Deg a Thriugain o'r Hen Destament, a dymunol iawn yw gwel- ed pawb sydd yn derbyn caredigrwydd yn gwerthfawrogi hynny yn briodol; eithr yn hanes Dr. Tischendorf, gymaint oedd y llawenydd a ddangosodd fel y creodd hynny ddrwgdybiaeth ym meddwl yr hen fynachod. Gwelsant werth yr ysgrif ar foddlonrwydd wyneb yr ysgolhaig; ac ataliasant eu llaw, gan wrthod rhoddi ychwaneg iddo. Dychwelodd Dr. Tischendorf a deffrodd ei ddarganfyddiad ddyddordeb dwfn a disgwyliad am gael o hyd i gopiau ereill.

Yn 1859, cawn ef yr ail waith yn y fynachlog. Y tro hwn y mae yno fel negesydd dros Nicholas, Ymerawdwr Rwsia. Yr oedd gorchymyn y teyrn hwn, i sicrhau unrhyw beth o ddyddordeb, ganddo i'w gyflawni, ac yr oedd cyllid yr orsedd ganddo at ei law er sicrhau hynny. Siomedig fu'r ymweliad hwn am ysbaid, ac yr oedd Tischendorf ar droi adref heb yr un trysor pan ofynnwyd iddo ymweled â chell un o'r mynachod, yr hwn oedd oruchwyliwr y sefydliad. Yn yr ymddiddan a ddilynodd, dywedai'r mynach fod ganddo gopi o'r Septuagint, Cyfieithiad y Deg a Thriugain, a dangosodd ef. Er ei syndod, gwelodd Tischendorf fod yn ei law gopi o rannau o'r Hen Destament a'r Testament Newydd yn gyflawn, ynghyda rhai llyfrau o'r Apocrypha. Dyfynna Dr. Paterson Smith eiriau y gŵr mawr ei hun. Mawr oedd ei foddhad, a gofynnodd am ganiatad i edrych dros y copi yn ei ystafell wely. "Ac yno wrthyf fy hun rhoddais ffordd i lesmair o orfoledd. Gwyddwn fy mod yn dal yn fy llaw un o'r trysorau Beiblaidd mwyaf gwerthfawr mewn bod—ysgrif o ran ei hoed a'i phwysigrwydd a ragorai ar bob un a welais ar ol ugain mlynedd o astudiaeth o'r mater." Trwy gymorth yr ymerawdwr, prynwyd yr ysgrif, ac y mae heddyw yn un o ryfeddodau'r Llyfrgell yn St. Petersburg—lle mae'r Eglwys Roeg neu Ddwyreiniol yn grefydd y wladwriaeth. Y mae, felly, gan bob un o brif ganghennau'r Eglwys Gristionogol, gopi gwerthawr o'r Ysgrythyrau.

Cyflwynodd Theodore Beza ysgrif o'r Efengylau, yr Actau a'r Epistolau cyffredinol, mewn Groeg a Lladin, i Brifysgol Caergrawnt yn 1581. Rhoddodd yr Archesgob Laud gopi, yn cynnwys y rhan fwvaf o'r Actau, mewn Groeg a Lladin, i Brifysgol Rhydychen.

Un o'r rhai rhyfeddaf yw'r un a adweinir fel Codex Ephraem. Tad parchus yn eglwysi Gristionogol Syria oedd yr Ephraem hwn, ac efe oedd un o amddiffynwyr cadarnaf y ffydd, ac efe hefyd oedd per ganiedydd yr Eglwys yn ei ddydd-tua chanol y bedwaredd ganrif. Yr oedd mor boblogaidd fel y cafodd ei weithiau eu copio a'u darllen ym mhen wyth canrif wedi iddo huno. Yn y ddeuddegfed ganrif cawn ysgrifennydd yn cymeryd hen femrwn, ac yn golchí ymaith yr ysgrifen er mwyn gosod arno gyfieithiad o waith Ephraem y Syriad; ond nid oedd sebon y golchydd wedi peri i'r inc lwyr ddiflannu. Ymhen pum canrif, yn yr ail ar bymtheg, gwelwyd yr hen ysgrif o dan y newydd; a phan ddarllenwyd hi cafwyd mai copi o'r ysgrythyrau mewn Groeg ydoedd. Ym Mharis y mae'r ysgrif hon.

Dyma rai o'r ysgrifau pwysicaf o'r Beibl. Y mae y rhain y gwerthfawrocaf ymysg miloedd o ysgrifau am eu bod wedi rhedeg o'r canrifoedd agosaf i ffynhonell fawr y datguddiad dwyfol i ddyn. Y mae rhai o'r cyfieithiadau yn werthfawr iawn. Dyna Gyfieithiad y Deg a Thriugain, er engraifft. Cafodd yr enw oddiwrth y traddodiad ddarfod i Ptolemy II., brenin yr Aifft, anfon at yr archoffeiriad Iddewig yn Jerusalem yn deisyfu arno ddanfon dehonglwyr cyfarwydd mewn Hebraeg a Groeg i gyfieithu yr ysgrythyrau i iaith yr Iddewon oedd yn lliosog yn Alexandria a phrif drefydd yr Aifft. Anfonwyd deuddeg a thrigain; a gorffenasant eu gwaith mewn deuddeg o thrigain o ddyddiau. Nid oes lle i gredu fod y traddodiad yn gywir, er fod Josephus yn ei dderbyn; eithr y mae enw'r cyfieithiad wedi ei gymeryd oddiwrth y traddodiad, ac y mae hwn wedi glynu ar hyd y canrifoedd. Hwn oedd Beibl cyffredin Palestina yn nyddiau Crist a'r apostolion, ac o hono y dyfynnir o'r Hen Destament y rhan amlaf. Dengys fod rhagor rhwng seren a seren ymysg y cyfieithwyr, a chymerwyd amser maith i ddwyn y gwaith i ben, a bernir fod y cyfieithiad wedi ei orffen tua 150 cyn Crist. Casglodd Origen (185—254) nifer o gyfieithiadau at eu gilydd, a gosododd chwe cholofn ar yr un tudalen—sef (1) yr Hebraeg; (2) yr Hebraeg mewn llythrennau Groegaidd; (3) Cyfieithiad Aquila; (4) Cyfieithiad Symmachus; (5) Cyfieithiad y LXX.; a (6) Cyfieithiad Theodotion. Gresyn i hwn fynd ar goll. Nid oes dim yn aros ond cyfeiriadau ato, ac ychydig ddyfniadau o hono. Adnabyddir ef fel Hexapla Origen. Bu llawer yn diwygio Cyfieithiad y Deg a Thrigain, megis. Theodotion o Ephesus, tua 160.

Yr oedd llawer o Iddewon ym Mabilon, ac er eu mwyn hwy cawn ddehongliadau o'r Hen Destament wedi eu parotoi yn ystod y ganrif Gristionogol gyntaf. Nid cyfieithiadau mo honynt. Yn hytrach, y maent yn cynnwys esboniad a chyfieithiad. Y maent yn y Galdeaeg, ac adnabyddir hwynt fel Targums. Y ddau bwysicaf o honynt yw y rhai a adnabyddir fel Targum Onkelos, cyfaill Gamaliel, a Thargum Jonathan ben Uziel. Cyfeirir at y naill fel Targum Babilon, a'r llall fel Targum Jerusalem gan rai.

Cyfieithiad pwysig i'r Syriaeg yw y Peshito. Sonir am dano gan Ephraem y Syriad, yr hwn a fu farw yn 373. Y mae yn llawer hŷn na hynny, oherwydd y mae Ephraem yn esbonio rhai geiriau ynddo oedd erbyn ei ddydd ef yn anadnabyddus i'w bobl, a chymer gair gryn amser i fyned yn anealledig. Y mae'n cynnwys yr Hen Destament a'r Newydd, a pherthyn yn ol y farn gyffredin i'r ail ganrif.

Yn 1892 darganfu dwy chwaer ddysgedig—Mrs. Lewis a Mrs. Gibson o Gaergrawnt, ysgrif o werth o'r pedair Efengyl mewn Syriaeg, ac yn hen fynachlog godre mynydd Sinai y cafwyd hi. Y mae'n amlwg mai cyfieithiad ydyw a wnaethpwyd gan ryw ddiwinydd a ddygai fawr sel dros athrawiaeth a ffynnai ar y pryd yn yr Eglwys; ac y mae wedi troi allan yr enedigaeth oruwchnaturiol a briodolir i'r Gwaredwr. Yn ol yr ysgrif, ar y groes y coronir yr Iesu â drain. Yn lle "Mab Duw" yn Ioan i. 34, cawn "Etholedig Duw" a gelwir Barabbas yn Math. xxviii. 16, 17, yn Iesu Barabbas. Ar groen a olchwyd yr oedd yr ysgrif. Y cyfieithiad o'r Efengylau oedd yr isaf, a dyddiad yr uchaf yw 778. Mewn ystafell dywyll y cedwid y trysor hwn gan y mynachod, ac ni wyr neb pa mor hir y bu yno cyn i'r chwiorydd hyn ei ddwyn i oleu'r dydd. Y cwbl a wyddom ydyw fod gweddi a mawl wedi esgyn yn ddifwlch oddiyno am dros bymtheg canrif. Yma y cafodd Dr. Rendel Harris o hyd i amddiffyniad Aristides; a diau fod yno lawer iawn o bethau fyddai'n taflu pelydrau o oleuni ar lawer pwnc dyrus.

Y Vulgate, cyfieithiad Jerome (340—420) i'r Lladin, yw yr un a ddefnyddiwyd fwyaf gan yr Eglwys. Yr oedd efe yn ysgrifennydd i'r Pab Damasus; a gorchmynnwyd iddo gan ei feistr barotoi cyfieithiad a fyddai yn gywirach na'r hen. a wnaethpwyd yn Carthage. Yn 1546, y mae Cyngor Trent yn cyhoeddi gwaith Jerome fel cyfieithiad awdurdodedig yr Eglwys Rufeinig, a'r cyfieithiad diwygiedig a gyhoeddwyd yn 1598 yw Beibl y Pabydd heddyw. Yr ysgrif werthfawrocaf a ddarganfuwyd yn ddiweddar ydyw llawysgrif W, sef, y Washington. Cynhwysa y pedair Efengyl, a rhoddir hwynt yn y drefn ganlynol,—Mathew, Ioan, Luc, a Marc; ac y mae'n ysgrifenedig ar 374 o dudalennau. Ym meddiant Arab a fasnachai yn Gizeh, ger Cairo, yn yr Aifft, y cafwyd y trysor, a phrynwyd ef gan Americanwr—Mr. Charles L. Freer, o Detroit, yn nhalaeth Michigan; ac ar y cyntaf y Freer Codex y galwyd ef. Nis gwyddom o ba le y daeth; eithr dywed y Proff. H. A. Saunders o Michigan mai tebyg yw iddo ddod o Fonachlog y Gwinllanydd, gerllaw y Trydydd Peiramid—yn ymyl Cairo. Ali oedd enw'r Arab a'i gwerthodd, ac ar Rhagfyr 19eg, 1906, y bu'r ymdrafodaeth.

Y mae yn perthyn i'r bumed ganrif, ac felly o werth mawr. Gosodir ef i'w gadw yn y Smithsonian Institution, yn Washington. Croen defaid a geifr yw ei ddefnydd; ac y mae arno ddarluniau bychain (miniatures) o'r Efengylwyr.

Rhaid gorffen yn y fan yma. Temtir ni i fyned ar ol llawer o lenyddiaeth sydd y tu allan i ganon yr ysgrythyr, ond ymataliwn heddyw; ac yr ydym yn gadael y trysorau ar groen a ddaeth o'r Dwyrain gyda'r trysor pennaf o honynt i gyd—y Trysor a roddodd werth ar bob un arall.

Nodiadau[golygu]

  1. ffotograffau