Cymeriadau (T. Gwynn Jones)/Daniel Rees
← Richard Ellis | Cymeriadau (T. Gwynn Jones) gan Thomas Gwynn Jones |
Ffilosoffydd → |
DANIEL REES
NID oeddwn ond rhyw bump ar hugain oed
pan gyfarfüm gyntaf â Daniel Rees. Yr
oedd yntau agos i ugain mlynedd yn hŷn. I'r rhan
fwyaf o lawer o ddynion pump ar hugain, bydd
dynion na bo iddynt ond rhyw ddeng mlynedd o
flaen arnynt hwy eisoes wedi cyrraedd rhyw oedran
na ellir synio'n bendant amdano na gwybod
megis pa fodd i'w gymharu o ran posibilrwydd
a'r peth y gellir bod wedi ei wybod a'i brofi oddi
mewn i'r pump ar hugain. Gellir tybio y bydd
rhai dynion deugain ac uchod yn aml yn yr un
ansicrwydd ynghylch y peth a fo posibl yn bump
ar hugain, er y gallai dyn feddwl bod llai o esgus
dros yr ansicrwydd hwnnw.
Gwn bellach fod yn bosibl i gorun dyn foeli cyn ei fyned ef ei hun yn hen, ac nad wrth rifedi blynyddoedd y gellir yn fanwl ddywedyd pa bryd y bydd dyn yn peidio â bod yn ieuanc. Ni pheidiodd Daniel Rees tra bu fyw. Hyd yn oed o ran corff, nid oedd arno, y tro olaf y gwelais ef, odid ddim o ôl y blynyddoedd, o'i gymharu â'r hyn oedd y tro cyntaf. Yr oedd fy mhen yn wynnach na'i ben ef, ond wrth ymddiddan ag ef, sylweddolais yn gliriach na thrwy un profiad arall mai gwir a ddywedai ef wrthyf yn fynych, ym mlynyddoedd cynnar ein cyfeillgarwch, y byddwn innau'n iau pan awn yn hŷn.
"Pam y byddwch chwi, brydyddion ieuainc, yn sôn byth a beunydd am yr hydref?" meddai wrthyf un tro, "pam na soniech am y gwanwyn?" Yr wyf yn ofni i mi geisio dangos iddo mai diriach yr hydref na'r gwanwyn. Chwarddodd a dywedodd nad felly y barnwn tra bawn. Ac weithian, gwn innau mai ef oedd nesaf i'w le. Llawer gwaith, yn ystod rhai blynyddoedd tywyll y bu dda i mi am ei oleudrem ef.
Nid yw ond fel doe gennyf gofio'n hymddiddan cyntaf, a arweiniodd i'n perthynas a'n gilydd. Ei frawddegau cwta, pendant, a'i lygaid byw, a ddywedai fwy na'i eiriau. Rhoes yr argraff arnaf y tro hwnnw mai gŵr trefnus ei feddwl ydoedd, yn gallu ffurfio barn yn ebrwydd ac yn ei dal yn bendant a phenderfynol. Tybiais mai mater o fusnes fyddai'n perthynas â'n gilydd. Cyn pen pythefnos wedi fy myned i'r un gwasanaeth ag ef, yr oeddym yn gyfeillion. Rhwyfem ynghyd ar afon Fenai, a deallem fod nid ychydig o bethau tebyg yn ein profiadau gynt.
Dyellais yn fuan nad methu a wneuthum wrth fwrw mai gŵr pendant a phenderfynol ydoedd. Nid oedd dim a'i trôi oddi wrth ei fwriad, ond gwybûm o gam i gam mai mwynder bonheddig oedd gwaelod ei natur. Anghytunem o ran syniadau ambell dro, ond ni welais mo hynny'n mennu dim ar ei garedigrwydd a'i gyfeillgarwch, na hyd yn oed yn crychu dim ar ei gwrteisi arferol. Yr oedd mewn gwirionedd ryw elfen wylaidd yn ei natur, er tybio o lawer un bod rhywbeth yn chwyrn ynddo. Y tebycaf a adnabûm. iddo yn hynny o beth oedd Emrys ap Iwan, a gyfaddefai orfod ymladd â'i wyleidd-dra yn ei ieuenctid, ac a roes yr un argraff mai tuedd chwern oedd ynddo yn ddiweddarach. Ond mewn cwmni cymysg pan ddeffroid rhagfarnau, codai Daniel Rees ei olwg i fyny, crynai ei ffroen, tynhâi ei wefusau. Ac ni bu dim mwy tawel ac urddasol na'i leferydd a'i ymgrymiad pan dorrai ar ei ddistawrwydd ar ôl ambell ddigwyd. Mynych y dywedodd wrthyf mai peth gwerth ei wneuthur oedd dysgu goddef ffyliaid yn llawen.
Prin y gallwn adrodd hanes ei berthynas ef a minnau yn llawn heb ddywedyd pethau na ddaeth yr amser i'w dywedyd eto. Dangosai uniondeb a chadernid. Er bod ganddo syniadau digon pendant ar ofynion a thelerau'r apêl at y lliaws, megis y ceir er enghraifft ym myd y papurau newyddion, nid ildiai ddim i'r apêl honno, a byddai gan amlaf ar yr ochr amhoblogaidd. Nid anghofiaf mono'n wynebu cynulleidfa fawr yng Nghaernarfon i dystio yn erbyn y rhai a ddaethai yno i chwythu'r tân rhyfel yn erbyn y Boeriaid. Aeth i fyny ar y llwyfan a dechreuodd siarad yn dawel. Yr oeddwn i yn y gynulleidfa, ac yn gweled yr elfennau a ddechreuodd anesmwytho, rhai a fyddai'n gyffredin yn flaenllaw dros heddwch ac yn erbyn milwriaeth. Yn araf y cynyddodd y curo traed, a ddechreuwyd yn ysgafn ond yn gyson. Yna ymledodd ymysg elfennau eraill, a thawelodd y rhai a'i cychwynnodd. Yr oeddynt hwy wedi gwneud eu rhan yn llwyddiannus. Undodwr y cyfrifid Daniel Rees. Wynebodd y gynulleidfa yn dawel am ennyd, yna ymgrymodd a daeth i awr. Pan gydymdeimlais ag ef ar y diwedd, bu ennyd yn ddistaw a'i wyneb yn wyn, yna cododd ei ysgwyddau a murmurodd, "lascia dir le genti!" ("gad i'r taeogion gega!")[1]
Un tro wrth groesi'r Maes yng Nghaernarfon, gwelodd ddyn meddw yn cam-drin ei wraig. Parodd iddo beidio. Bygythiodd hwnnw yntau. Cydiodd Daniel Rees yn ei wegil a'i feingefn, trochodd ef yn y dwfr ym mhadell y ffownten yno, bwriodd ef ar lawr, a cherddodd ymaith fel pe na buasai dim wedi digwydd. Cerddai'n syth, weithiau a'i olygon i lawr, lawn cyn amled a'i ben i fyny. Ar brydiau clywid ef megis yn adrodd rhywbeth wrtho'i hun, neu'n chwerthin yn isel wrth fynd heibio. Gwisgai ddillad brethyn cartref a het ffelt uchel, nid annhebyg i het silc, yn gyffredin, ond dibris fyddai am ei wisg. Yr oedd yn chwarddwr calonnog, ond clywais ef lawer tro yn atal ei chwerthin ar ei ganol, megis pe daethai i'w feddwl ryw atgof sydyn am un o'r pethau na bydd dynion yn chwerthin wrth eu cofio. Mewn ymddiddan byddai ei gwrteisi yn rheolaidd. Nid esgeulusai mo dermau ymddiddan gwiw. Hyd yn oed wedi blynyddoedd o gyfeillgarwch agos a chwbl ymddiried, anfynych iawn y'm cyfarchai heb ddodi "Meistr" o flaen fy enw.
Anfynych y cyfarfyddid â dyn mor amlochrog ac mor fedrus mewn cynifer o bethau. Yr oedd yn ieithwr rhagorol. Cyhoeddodd gyfieithiad Cymraeg o "Alcestis" Euripides yn 1887, pan oedd yn olygydd papur newydd yn Lloegr, ac yr oedd yn Lladinwr hyffordd. Dysgodd Lydaweg, yn nyddiau'r ymglywed rhwng Llydaw a Chymru, a bu'n ymdrawo rhywfaint ag anawsterau Gwyddeleg. Cymerai ddiddordeb mewn ieithoedd gwneud, ac yr oedd ganddo gasgliad o'u llawlyfrau-Volapuk, Nova Romana, iaith Bolak, Esperanto ac eraill. Credai yn yr egwyddor, ond nid oedd hyd yn oed Esperanto yn ei gwbl fodloni. Wedi ei fyned i Lundain i wasanaeth y Llywodraeth (aeth yno tua 1907) dysgodd Hwngareg, ac ef oedd yr awdurdod ar yr iaith honno yn y swyddfa lle'r oedd. Yr oedd, wrth gwrs, yn gynefin â'r ieithoedd Lladin, a llefarai Almaeneg yn ddigon rhugl. Mewn gramadeg, byddai ganddo rai mympwyon, megis tuedd i ganlyn ymresymiad y gramadegwyr a fynnai gynt beri i gystrawen pob iaith gydymffurfio â chystrawen Ladin. Yr oedd yn dra hoff o rifyddiaeth a mechaneg, a dyfeisiodd beiriant cyfrif, "Melinrivo" oedd yr enw a roddai arno. Credai y gallai wella ar y peiriannau cyfrif sydd eisoes ar arfer, ac yr oedd ganddo beiriannau cymhleth a droid gan olwyn ddŵr at ddwyn ei arbrofion ymlaen. Bu farw a'r ddyfais heb ei chwpláu. Byddai ganddo gynt hefyd syniadau am foddion i ddiwygio peiriannau printio. Yr oedd ganddo lawysgrifen glir, bryd ferth, ac ni welais erioed gan neb law fer (ysgrifennai un Pitman) mor sicr a hawdd ei darllen.
O'i holl hoffterau, efallai mai Dante oedd y pennaf. Ni wn yn fanwl pa bryd y dechreuodd droi'r Divina Commedia i'r Gymraeg, ond yr oedd yn tynnu at orffen y gwaith pan ddeuthum i'w adnabod gyntaf, a rhaid ei fod wrthi ers blynydd oedd. Gofynnodd i mi ryw noswaith, pan wyliem yr Eifl megis ar dân ym machlud haul, a ddarllenswn i Dante. Cyfaddefais nas darllenswn. Diwedd yr ymddiddan fu iddo ofyn i mi a ddarllenwn drwy ei gyfieithiad fel y byddai yntau'n ei baratoi. Pan ddywedais na fedrwn i ddim Eidaleg, meddai yntau, "O, fe'ch dysg eich Lladin." Darllenais y cyfieithiad o ganiad i ganiad, ochr yn ochr â'r gerdd gysefin, ac er fy syndod, cefais fy mod yn dysgu Eidaleg heb yn wybod i mi fy hun. Pan gyfaddefais hynny wrtho, gwenodd a dywedodd:
"Nid yw dysgu ieithoedd yn beth mor anodd ag y mynn y gramadegwyr."
A gwir yw hynny. Cyhoeddwyd ei gyfieithiad yn gyfrol helaeth yn 1903. Ni chafodd gymaint o sylw ag a haeddai llafur mor fawr, ond fe ddaw ei dro ryw ddydd. Ni wn i am gyfieithiad ffydd lonach. Hyfryd, wedi blynyddoedd lawer, yw cofio cyfnod y cydweithio hwnnw. Ymddengys bellach yn eang o'i gymharu â chyfnodau a'i dilynodd. Buom drwy lawenydd a thristwch gyda'n gilydd. Gwelais ef a'i gefn ar y wal yn ymladd â phrofedigaeth chwerw. Pan ddaeth adfyd i'm rhan innau yn fy nhro, ni phallodd.
Digwyddodd ambell gyd-darawiad hynod yn ein hanes. Dyma un. Ymhen ysbaid wedi ei fyned ef i Lundain, yr oeddwn un dydd yn nhref Gaernarfon. Wrth fynd heibio tŷ bwyta yno, lle byddem ar dro yn cyd-yfed tê, meddyliais. sicr ei weled ef yn eistedd wrth fwrdd yno. Erbyn troi'n ôl i sylwi'n fanwl, nid oedd yno neb. Cyn pen tridiau, daeth llythyr oddi wrtho i'r lle'r oeddwn yn trigo ar y pryd. Gofynnai:
"A oeddych chwi drwy ryw siawns yn Llun dain ddydd Mawrth diweddaf? Pan ddeuthum allan o'r swyddfa i'r ystryd, ddeuddeg o'r gloch, fe'ch gwelwn, mi gymerwn fy llw, ar yr ochr arall i'r heol. Croesais cyn gynted ag y gallwn drwy ganol cryn drafnidiaeth, ond ofer fu'r ymchwil amdanoch."
Yr un dydd a'r un awr y tybiwn innau ei weled yntau yng Nghaernarfon.
Efallai mai noswaith brysur fyddai yn ein llafur y dyddiau hynny, deg o'r gloch, hwyrach, a darllen a chywiro "copi" ar dro. Agorai drws f'ystafell yn ddistaw, dôi yntau i mewn yn araf. Darn o bapur neu lyfr yn ei law, gwên ar ei wyneb. Tynnai ei law dros ei dalcen helaeth a thrwy ei wallt nes bod hwnnw'n cyrlio ar ei gorun. Efallai mai epigram Lladin fyddai ganddo, neu linell o eiddo Dante. . . . Mi awn yn ôl i'r bywyd hwnnw a'i drafferthion eto, pedfai siawns ei ddyfod yntau hefyd yno, a dyfod y dyddiau hynny'n ôl. Ni ddont . . .
Nodiadau
[golygu]- ↑ Dante, Purgatorio, canto v, 13.