Neidio i'r cynnwys

Cymeriadau (T. Gwynn Jones)/Richard Ellis

Oddi ar Wicidestun
John Morris-Jones Cymeriadau (T. Gwynn Jones)

gan Thomas Gwynn Jones

Daniel Rees


RICHARD ELLIS


ANFYNYCH y digwydd y peth, ond fe ddaw i ran dyn ar dro ambell gydnabyddiaeth a dyf yn ebrwydd yn adnabyddiaeth, megis pe bai'n barhâd o rywbeth a fu eisoes.

Y tro cyntaf y cyfarfüm â Richard Ellis, ni bu rhyngom ond ychydig eiriau, a'r rhai hynny oblegid yr amgylchiadau yn gorfod bod yn ffurfiol —cyfarchiad dau yn yr un gwasanaeth. Agos i ugain mlynedd yn ddiweddarach, y tro diweddaf y gwelais ef, yn wir, cofiem fanylion y tro hwnnw. Cofiai ef hyd yn oed liw a thoriad y dillad a wisgwn. Pe buaswn ansicr o'm chwaeth fy hun neu grefft y teiliwr a wnaeth y dillad hynny, buaswn yn fodlon ar ôl deall bod y naill a'r llall yn gymeradwy gan fy hen gyfaill, canys yr oedd iddo ef, beth bynnag, chwaeth berffaith yn y pethau hynny fel mewn eraill. Mewn gwirionedd, gallwn innau ar yr un pryd alw o flaen fy llygaid ei ymddangosiad a'i ysgogiadau yntau—ei law dde tan benelin ei fraich chwith a deufys flaen y llall ar ei ên. Goleuni caredig yn ei lygaid a gwên groesawus yn crychu'r mymryn lleiaf ar ei wefus uchaf. Llais o'r tirionaf. Pob gair yn gymwys. Cwrteisi perffaith, mwy di-ystum nag eiddo Ffrancwr, rhywiocach nag eiddo Sais, cwrteisi Cymro, o'r amser gynt. Gofynnai'r meddwl iddo'i hun pa bryd ac ym mha le y cyfarfuasem ni o'r blaen, a chodai megis rhyw frithgof am amser pell yn ôl ac amgylchiadau gwahanol. Ni wyddwn pam ac nis gwn. Ond yr oedd rhyw fud sicrwydd felly o'r tu cefn i argraff y funud, nid annhebyg i'r teimlad a ddaw dros ddyn weithiau ei fod yn adnabod lle na bu ynddo erioed o'r blaen.

Eto, haws disgrifio llawer cydnabyddiaeth ddigon damweiniol na rhoi syniad am gyfeillgarwch felly. Cefais y fraint o gydweithio ag ef am ryw dair blynedd a hanner, ac ychydig iawn fu nifer y dyddiau yn ystod y cyfnod hwnnw na byddai a wnelem lawer y naill â'r llall. Cydgerddem lawer beunydd, ac ni bu daith na bai fyrrach na'r chwedl. Er mai byr fu'r cyfnod a chymysglyd, yn wir, y mae iddo bellach helaethach mesur ac unrhywiach modd. Gorwedda draw yn y pellter fel llannerch heulog, mor ddistaw ac araul fel y byddai anodd gan ddyn feddwl dorri erioed ar ei thawelwch gan gymaint a gwich flin un wenynen farch. Ymwahanodd ein llwybrau

wedyn, ond parhaodd y cyfeillgarwch heb na phallu na phylu hyd oni ddaeth ei yrfa ef i ben, fis Awst, 1928. Ac ni allaf eto gredu ddarfod am y cyfeillgarwch hwnnw.

Gŵr tawel, bonheddig, gwylaidd, rhy wylaidd, oedd Richard Ellis. Oni bai ei wyleiddied, nid aethai drwy'r byd heb fod ond ychydig a wyddai am ei ddiddordeb eang a'i wybodaeth helaeth am bob math o bobl a phethau mewn meysydd diarffordd. Llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg, hanes Cymru ac ysgolheigion Cymreig, hanes Rhydychen a godidowgrwydd pethau coll yn byw byth yn ei hawyr; hanes ac achau teuluoedd, eu ffyniad a'i orffeniad; hanes y Sipsiwn Cymreig, llên gwerin, arferion a defodau,—aeth ffrwyth sylw ac ymchwil oes lafurus i'w ganlyn i'r distawrwydd mawr, ac nid oes yn aros onid ychydig gyfeillion a ŵyr hynny. Eto, yr wyf yn sicr na fynasai ef ei hun ar un cyfrif iddi fod yn amgen. Casbeth oedd ganddo dynnu sylw ato'i hun mewn modd yn y byd—trafferth fawr a fyddai gael ganddo wneuthur unpeth ar goedd, a digrif fyddai ganddo ruthr y chwilod dangos i ganol ffrwd y goleuni ym mân chwaraeon bywyd.

Ei arwr pennaf oedd Edward Lhuyd. Treuliodd ei oes i gasglu hanes y gŵr gwych hwnnw, a'i arfaeth er yn gynnar oedd cyhoeddi ei lythyrau a gweddillion ei lafur, ac ysgrifennu hanes ei fywyd. Dechreuodd ar y gorchwyl pryd nad oedd ef eto onid myfyriwr, a daliodd ato ar hyd ei oes. Gadawodd ar ei ôl bentyrrau o gyfeiriadau, nodiadau a chopïau o sgrifeniadau o waith ac ynghylch Lhuyd, ond bu farw heb gymaint a dodi ar bapur gynllun o'r gwaith a fwriadai. Mor drwyadl oedd ei ymchwil am ddeunydd fel na fynnai ddechrau sgrifennu cyn ei fodloni ei hun ei fod wedi cael y cwbl. Casglodd gymaint o ddeunydd yn wir fel yr wyf yn credu iddo ddechrau amau a allai ef byth gael arno drefn a dosbarth. Ac eto, ni allai roddi'r gorau i chwilio. Bydd trwyadledd dynion fel efô yn peri i ddyn dybio bod mesur o anhrwyadledd yn beth anhepgor i'r sawl a fentro sgrifennu. Ryw flwyddyn cyn ei farw aeth i Iwerddon, lle darganfu lawer o bethau yn llawysgrif Lhuyd, a dywedodd wrthyf ychydig cyn y diwedd y byddai raid iddo fynd i'r Alban ac i'r Cyfandir i chwilio am chwaneg.

Edmygai Luyd tros fesur, ac ni flinai byth ar sôn amdano, ei ddysg helaeth a manwl, ei weithgarwch diorffwys, ei gymeriad urddasol a'i foneddigeiddrwydd Cymreig perffaith. Soniai amdano fel pe buasai'n ei adnabod erioed, fel pe byddai ddisgybl yn sôn am ei athro. Diau gennyf fod Lhuyd megis yn byw iddo ef yn y geiriau a sgrifennodd ei law ar bapur. Byddai'n llawenydd ganddo hyd yn oed ddyfod o hyd i lythrennau cyntaf ei enw ar lyfr, neu un o'i farciau yma ac acw yn dangos pa beth a ddarllenasai. Ni allai oddef meddwl am ddinistrio na llythyr na nodiad o waith undyn—clywais ef yn dywedyd bod hynny iddo ef megis pe byddid o wirfodd yn dinistrio personoliaeth dyn. Wrth fynych wrando ar fanylion yr hanes ganddo ef, aeth Lhuyd yn fyw i minnau. Ac mor debyg oedd ef i Richard Ellis!

Ond nid Lhuyd yn unig, hyd yn oed er mai ef yn bennaf, ac nid Cymry yn unig, er mai pennaf hwythau. Odid ysgolhaig o ryw nod a fu yn Rhydychen na wyddai ef ei hanes—ni allai beidio â chodi pob cyfeiriad at hanes a llafur pob gwŷr enwog o bob cenedl a fu yno. "A wyddoch chwi," meddwn wrtho, "am deulu o Wyniaid o Sir Ddinbych—yr oedd un ohonynt yn ysgolhaig, rywbryd yn y ddeunawfed ganrif, neu gynt?"

Garthewin?" meddai yntau, "O ie, gwn."

Yna, ymlaen ag ef gyda hanes y teulu, eu hachau a'u cysylltiadau a phob rhyw gamp arnynt. Yr un modd am ddwsin o deuluoedd o'r un sir, boed yn eu hanes ai rhamant ai trychineb, neu fagu ohonynt ysgolhaig, ni waeth ym mha faes, neu gymeriad ag arno un arbenigrwydd arall. Ac felly am bob sir yng Nghymru.

Ysgrifennodd ugeiniau o lythyrau yn ateb i eraill a fyddai ar ôl hanes rhywun neu gilydd ac a ddeuai i wybod yn y naill ffordd neu'r llall am ei wybodaeth a'i gymwynasgarwch ef. Olrheiniodd hanes ymweliadau Shelley â Chymru ac Iwerddon, a darganfu ffeithiau anhysbys am y bardd a'i gyfeillion. Tua diwedd ei oes, datblygodd ddiddordeb arbennig yn arweinwyr cynnar y Methodistiaid Calfinaidd, a chasglodd ddigon o ffeithiau i sgrifennu penodau diddorol o'u hanes. Ar y llaw arall, casglodd lawer o wybodaeth ddiddorol am ymdrechion olaf Catholigaeth Gymreig ac araf ddiflaniad yr hen ffydd.

Nid y meirw ychwaith, ond y byw hefyd. Yr oedd dynion o bob math yn ddiddorol iddo, eu prydweddion a'u hysgogiadau diymwybod, eu gwisgoedd, eu lleferydd a'u hymddiddanion. Yr oedd ganddo ryw ddawn ryfeddol i daro ar gymeriadau a rhyw arbenigrwydd arnynt, ni waeth o ba ddosbarth y byddent. Cyn sicred â'i fynd ar daith i rywle, deuai yn ei ôl wedi cyfarfod â rhyw gymeriad hynotach na'i gilydd. Yr oedd ganddo reddf at gael hyd i gymeriadau anghyffredin ac ennill eu hymddiried a'u cyfrinach. Er mai tawedog fyddai mewn cwmni dieithr, sylwais lawer gwaith wrth gyd-deithio ag ef mor rhwydd y tynnai dynion o bob dosbarth ysgwrs ag ef. Dawnsiai ei lygaid, chwaraeai gwên o gwmpas cornelau ei wefusau, dywedai rywbeth cwta rhwng difrif a chwarae, rhywbeth a agorai ddôr atgof a lleferydd, a byddai'n ymddiddan rhyngddo a rhywun yn y fan. Sylwai'n fanwl ar arferion dynion, yn enwedig eu symudiadau a'u hystumiau difwriad. Carai blant bychain yn fawr, a chai bleser diderfyn wrth wylio'u symud iadau a gwrando ar eu dywediadau, byddai'n gyfaill a chydymaith iddynt rhag blaen, a chofiai hwy bob Nadolig yn gyson am flynyddoedd. Er maint ei ddiddordeb mewn personau ac yn y deall a'r bwriad, nid amau gennyf nad oedd ei ddiddor deb yn y reddf sydd wrth wraidd personoliaeth effro yn llawn cymaint; fel rhyw grynhodeb of ddynoliaeth yr oedd dyn yn ddiddorol iddo. Mesurai a phwysai ddynion yn fuan iawn, ac ni welais erioed mono'n methu yn ei ddadansoddiad, hyd yn oed er i mi fy hun synio'n wahanol iddo ar y dechrau.

Bûm trwy ei bapurau oll ar ôl ei farwolaeth. Ysgrifennodd lawer iawn, yn enwedig yn ei ieuenctid, ond ychydig a gyhoeddodd. Yr oedd y duedd i'w feirniadu ei hun a diwygio'i waith ynddo'n gynnar. Cefais hyd i ffurfiau lawer ar ambell delyneg neu soned o'i eiddo, ond prin yr wyf yn meddwl bod un ohonynt wedi cyrraedd ffurf y buasai ef ei hun yn ei hystyried yn derfynol. Gadawodd hefyd ar ei ôl lawer o chwedlau neu straeon byrion, ac o leiaf astudiaeth neu ddwy a fwriadwyd ar gyfer ystraeon hir neu nofelau, mi dybiaf, yn gystal â nifer o frasluniau neu astudiaethau o gymeriadau ac amgylchiadau cymhleth, ac amryw ddychanau miniog. Ond ni adawodd un o'r pethau hyn mewn ffurf orffenedig, er bod digonedd o ôl newid a diwygio arnynt, ac o chwilio parhaus am ragorach mynegiad. Ryw flwyddyn neu ddwy cyn ei farwolaeth, dangosodd i mi gyfres o sonedau y ceisiais yn daer ganddo eu cyhoeddi. Hanner addawodd wneuthur hynny, ond nis gwnaeth ac ni chefais hyd iddynt hwy ymhlith ei bapurau, ac nid oes gennyf un syniad pa beth a ddaeth ohonynt.

Yr oedd rhyw agosatrwydd ac elfen bersonol gref yn ei holl brydyddiaeth, a chredaf mai i bersonau byw yr ysgrifennodd lawer o'i gathlau. Yr oedd gan y llais, y llygaid, y dwylo a'r gwallt yn enwedig atyniad arbennig iddo, ac ni byddai byth heb fod yn chwith ganddo am bethau a fu ac a ddarfu, ac eto a wrthodai ddarfod. Gellid meddwl bod ambell bennill o'i eiddo, neu gân fach nis gorffennwyd, yn llun cywir, agos fel ffotograff, a rhai o'r profiadau a ddisgrifiodd yn rhai na fynnid ac eto na ellid peidio â'u corffori mewn geiriau. Ffigur mynych yn y cathlau anorffenedig hyn ganddo oedd angau, a chredaf fod yr amgyffred amdano yn datblygu ac yn tirioni ynghwrs y blynyddoedd. Yn un o'r ceisiau diwethaf, a barnu wrth ddatblygiad yr ysgrifen, "the dark lady" y gelwid angau, a thosturi trist oedd yn ei hwyneb hi pan ddatguddid ef yn yr awr olaf oll. Rhwng gwyleidd-dra naturiol, diffyg hyder a'r awydd parhaus am gyrraedd perffeith rwydd, gadawyd yr ymdrechion hyn olf heb eu gorffen na'u cyhoeddi.

Byddai rhyw ddiniweidrwydd nodedig yn ei wyleidd-dra. Cof gennyf iddo unwaith addo darllen papur ar Edward Lhuyd i gymdeithas yr oedd ef a minnau'n aelodau ohoni. Yr oedd y gwaith yn barod mewn pryd, ond erbyn y diwrnod yr oedd ef i ddarllen y papur, yr oedd annwyd arno. Gelwais i'w weled ganol dydd. Ofnai na byddai fodd iddo ddarllen y papur. Gwelwn fod ei betrusdod yn fwy na'i annwyd. Ceisiais ei ddarbwyllo, ond mynnai i mi ddarllen y papur yn ei le. Addewais alw i weled sut y byddai gyda'r hwyr. Yr oedd erbyn hynny yn llawer gwaeth, meddai, ac ni allai feddwl am anturio darllen y papur. Nid oedd ond addo cymryd ei le. Rhoes y papur imi. Yr oedd yn un lled hir, wedi ei sgrifennu mewn llaw brydferth yr olwg ond nid hawdd iawn i'w darllen yn rhugl, a nifer o chwanegiadau ar ddail llai na'r lleill, i'w cymryd i mewn yma ac acw, a sêr neu groesau wedi eu dodi i ddangos y mannau yr oeddynt i fod. Gwelais mai anodd fyddai i mi ochel camgymeriadau. Gofynnais a gawn i ddodi'r dail mewn trefn a'm cadwai rhag mynd ar gyfeiliorn. Cael cennad yn rhwydd. Gofyn am ddail gwynion, siswrn a phast. Torri'r dail lle'r oedd chwanegiadau i fod a phastio'r darnau fel y byddent yn dilyn yn eu lleoedd, a rhifnodi'r cwbl. Nid anghofiaf mo'i edmygedd. o'r ddyfais fach seml honno. Pan elwais ar fy ffordd adref o'r cyfarfod, yr oedd yr annwyd yn llawer gwell, a rhywfaint o flas ar fywyd eto.

Hoffaf lle o bobman ganddo oedd Rhydychen. Bu yno'n fyfyriwr o Goleg yr Iesu; aeth yno drachefn pan roddes ei Goleg iddo ddofod i'w gynorthwyo i ddal ati i chwilio hanes Edward Lhuyd, ac yno, yn fuan iawn ar ôl dychwelyd yno am y trydydd tro, y bu farw. Credaf mai prin y ceid undyn yn ei oes a wyddai gymaint ag ef am y ddinas a'i hanes a'i henwogion. Treuliais beth amser yn ei gwmni yno yn haf 1928. Pan adawsai Gymru ychydig amser cyn hynny, yr oedd ei gyfeillion yn bryderus yn ei gylch am nad oedd nemor lun ar ei iechyd ers tro, er na fynnai ef gydnabod hynny. Ond wedi mynd i Rydychen ymsioncodd eilwaith—nis gwelswn ef cystal ers blynyddoedd. Yr oedd yr hin yn hyfryd, ac ni bu i neb erioed gystal arweinydd yn y ddinas ag a gefais i yr haf hwnnw. Ni buaswn erioed o'r blaen yno ddigon o hyd a chennyf ddigon o egwyl i gael dim ond rhyw gipolwg ar y lle. Adeiladau o lawer dull, delwau addurn, weithiau ormod ohonynt yn rhes gyda'i gilydd, efallai; cof am ambell dôn a dull o sôn am yr amser yr oeddis yno, a barai ansicrwydd, o leiaf, am rai o'r effeithiau-rhyw argraff felly a arhosai. At hynny, i'r sawl na fynnodd ei dynged agor iddo mo'r ffordd a fuasai ddewis ganddo gynt, naturiol fydd dywedyd ohono wrtho'i hun-ac eraill-bod y naill ffordd cystal a'r llall wedi'r cwbl. Ond daeth gafael Rhydychen arnaf innau hefyd yr haf hwnnw. Dyddiau heulog, helaeth; crwydro o fan i fan with hamdden, gydag un a dynghedwyd megis i fyw yno o ganrif i ganrif, a deall yn y modd a'r man hwnnw beth nis dyellir mewn modd na man arall . . .


Nodiadau

[golygu]