Cymeriadau (T. Gwynn Jones)/Edward Anwyl
← Cynnwys | Cymeriadau (T. Gwynn Jones) gan Thomas Gwynn Jones |
Thomas Francis Roberts → |
EDWARD ANWYL
ER geni Syr Edward Anwyl yn Lloegr—yn ninas Caerlleon, yn 1866—ac er ei addysgu yn Ysgol Harri'r Wythfed yn y ddinas honno, ac yn Rhydychen, Cymro oedd Syr Edward hyd y gwraidd.
Fel myfyriwr, bu ei yrfa yn ddisglair. Er pan benodwyd ef yn Athro'r Ieithoedd Celtig yn Aberystwyth yn 1892, ac wedi hynny yn Athro Ieitheg Gymhariaethol, dangosodd mai nid ysgolhaig yn unig ydoedd, canys llanwodd lawer o swyddi cyhoeddus â mawr glod iddo'i hun, a gwnaed ef yn farchog fel cydnabyddiaeth o'i wasanaeth i ddysg ei wlad. Brithir cyhoeddiadau'r Cambrian Archaeological Association ag ysgrifau o'i waith ar bob math o bynciau, ac ysgrifennodd yn ddiamau gannoedd o erthyglau i gylchgronau Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg ac Almaeneg. Ymhlith ei lyfrau gellir nodi Gramadeg Cymraeg yng nghyfres unffurf Sonnenschein, a llyfr ym arfer yn yr un gyfres; llyfr Saesneg ar Grefydd yr hen Geltiaid; Rhagymadrodd a Gramadeg i Farddoniaeth y Gogynfeirdd; Esboniad Cymraeg ar Lyfr Hosea; Cyfieithiad o'r Gododdin, heb sôn am ei ysgrifau ar y Mabinogion yn Y Gwyddoniadur a'r Zeitschrift für celtische philologie, a'i erthyglau ar amrywiol bynciau yn Hastings' Encyclopaedia of Religion and Ethics.
Fel dyn, anfynych y ceid ei debyg. Tawel a mwyn, bonheddig a chadarn, nid oedd amgylchiad na wyddai Edward Anwyl sut i ddyfod trwyddo yn yr un ffordd briodol ac urddasol. Yr oedd ei wybodaeth yn eang, ni waeth ym mha gylch, a'i gof ysblennydd bob amser yn ei wasanaethu yn ddiffael; Groeg a Lladin ar flaenau ei fysedd—prydyddai Ladin difai ei glasuroldeb; sicr a phwyllog yn nyrys bethau ieitheg gymhariaethol; ar flaen ei oes ym mhob dysg Geltig; meistr ar hanes hynafiaeth; Hebraeg at ei alwad pan fynnai; diwinyddiaeth, a gwyddor newydd crefydd gymhariaethol yn hysbys iddo—synnai pawb a'i hadwaenai, ymhlith gwŷr cyfarwydd y gwybodau, at ei wybod a'i fedr. A'i symledd dirodres tros ben y cwbl. Soniech am a fynnech, caech wybod a synnwyr a doethineb gan Edward Anwyl. Bu fyw mor syml a gweithiodd mor galed. Rhyw ddeg ar hugain neu ragor o ddarlithiau mewn wythnos, a phob un o'r rhai hynny wedi ei gorffen yn drwyadl. O'i ystafell yn y Coleg
i'w lety, ac o'i lety i'w ystafell, gwyddem ym mha le i'w gael wrth y goleuni a welem drwy'r ffenestr.
Darllenai lyfrau mawr, fel Hastings' Encyclopædia, o glawr i glawr megis wrth ei bwys, ac nid anghofiai unrhyw ffaith newydd y deuai o hyd iddi. Neidiai i'w lle yn ei feddwl disgybledig, ac yno y safai i'w wasanaethu pan fyddai ei hangen. Bûm yn tybio bod yr awydd am gynnull gwybodaeth ar bob math o bynciau ym mhob cwr o faes diddordeb llawer ehangach na'r cyffredin wedi mynd yn oruchaf nwyd ynddo, fel na fedrai ef mwy wneuthur rhai pethau a wnai gynt. Dywedodd wrthyf ar un achlysur, "Na adewch i'ch dysg ladd eich dawn." Ni wyddwn pa beth yn gymwys a feddyliai, ac ni bûm ddigon hy i ofyn iddo, ond cyn hir ar ôl ei farw, darllenais ysgrif o'r eiddo, a wnaeth pan oedd yn fyfyriwr, y dychan clyfraf a chywiraf ar rai o wendidau bywyd Cymreig a sgrifennodd neb erioed. Ai chwith gan Edward Anwyl ar ôl dawn a aberthwyd er dysg? Nid wyf yn ameu. A oes rywun bellach a ŵyr pa beth a ddaeth o brydyddiaeth un rhan o'i brofiad fel myfyriwr yn Rhydychen?
Pan lefarai, llifai ei frawddegau allan heb ball, heb fyth fefl ar ramadeg na chystrawen, heb fod unrhyw gymal yn chwithig na thrwsgl, ond ag ôl disgyblaeth glasurol ar bob adran. Oni synnech at ddisgleirdeb unrhyw fflach yma ac acw yn ei waith, rhyfeddech at berffeithrwydd y cyfan yn ei grynswth.
Swynid chwi gan ei Gymraeg perffaith, oedd fel lleferydd Cymro o Leyn na wybu ddywedyd ei feddwl erioed mewn un iaith arall. Deuai'r wên dirion a'r gair cynefin—"Wel, rhyfedd iawn, rhyfedd iawn!" Yna, yn Saesneg, mor rhugl a pherffaith eto, fel na wybuasech ei fyw yn unman ond yn Lloegr. Clywais ef at hynny, mewn cwmpeini lle'r oeddym yn ymdrechu'n boenus i siarad â Ffrancod ac Almaeniaid, yn troi i'r ieithoedd hynny heb anhawster na phall am eiriau na phriod-ddull.
Ac nid peiriant ydoedd ychwaith. Gwelais ef ar y traeth yn Aberystwyth yn edrych ar yr haul yn ymachlud. Safai â'i law ar ganllaw rhodfa glan y môr, a gwên ar ei wyneb. Aeth pedwar ohonom yr oedd inni'r fraint o fod yn gyfeillion iddo, heibio iddo deirgwaith, yn ei ymyl. Ni welodd monom. Ac ni phallodd y wên oddi ar ei wyneb am ugain munud cyfan. Bûm yn sôn wrtho am yr Wyddfa dan oleuni haul Medi pan ddisgynno arni drwy Ddrws y Coed nes ei bod fel un talp o amethyst, a sylwais ddyfod yr un goleuni i'w lygaid a'r un wên hoffus ar ei wyneb. Clywais ef yn siarad ar osteg am gelfyddyd gwlad Roeg, a'r un goleuni a'r un wên fyth yn ei lygaid ac ar ei wyneb.
Ni bu yn ein hoes ni Gymro a adwaenid yn well nag ef. Ac ni bu hwyrach Gymro yr oedd ynddo gymaint nad adwaenid. Tawel, pwyllog, gafaelgar, cryf, gwyddai ei feddwl a'i amcan yn drwyadl, a medrai edrych ymhell, a disgwyl yn hir. Mewn pwyllgor, byddai ei wylio yn wers i ddyn ystyriol. Cadwai at ei bwnc. Prin fyddai ei eiriau, a manwl. Dacw ddarn o bapur o'i flaen, a phensil yn ei law. Gallech feddwl nad yw'n gwrando, ac mai ei brif a'i unig amcan yw bod y lluniau y mae'n eu tynnu ar y papur yn rhai cywir -llun pennau'r bobl sydd o'i gwmpas, neu lun cwnhingod yn rhedeg i'w tyllau neu yn edrych allan ar y byd o'r tyllau hynny. Fe allai ein bod ni sydd o'i gwmpas yn edrych yn debyg iawn i haid o gwnhingod iddo ef-mor ddibwrpas ydym! Eto, medr ef wenu mor dirion wrth dynnu ein lluniau, ac wrth droi at ambell un ohonom a sibrwd mor fwyn—"Wel, peth rhyfedd ydi pwyllgor, on'te!" Pa dawel ddifyrrwch a gafodd yn ei ddydd! Ond arhoswch iddo siarad a dodi trefn ar bethau. Ni thybiasech y gallai dyn dynnu lluniau a chynlluniau ar unwaith, a hel y cwnhingod i gyd i'r tyllau cyfaddas. Llawer un yn ddiau a aeth i'w dwll heb wybod dim pwy a'i gyrrodd yno, a heb ddychmygu mai twll arall oedd ei nod ef ei hun ar hyd yr amser.
A'i egni eto. Gwelais ef yn cyrraedd Lerpwl wedi teithio o Gaerdydd. Cawsom egwyl i yfed cwpanaid o dê cyn bod yn rhaid iddo ddarlithio yn y Brifysgol ar Hynafiaethau Cymru a'r Goror. Siaradodd am awr ac ugain munud, heb air ar bapur o'i flaen. Ni faglodd ar gymaint ag un frawddeg; ni fethodd unwaith a rhoddi enw dyn na lle na gwrthrych, na nodi blwyddyn. Gorffennodd. Aethom allan. Cafodd damaid o fwyd. Aeth yn syth i'r traen i deithio ar hyd nos i dreulio trannoeth mewn rhyw bwyllgor. Felly o ddydd i ddydd, o flwyddyn i flwyddyn. Ni roed caletach gweithiwr erioed i orffwys yn naear gwlad a garodd.
Perthynai i bob enwad. Ni fedrech feddwl amdano ond fel dyn a Chymro. Ac y mae calonnau ei gyfeillion yn cynhesu, serch bod ei galon odidog ef weithian yn oer, wrth gofio na charwyd yn ei oes Gymro yn fwy nag y carwyd ef. Rhyw reswm tebyg, ryw dro, a barodd roi'r cyfenw a ddygai ar rywun o'i hynafiaid. Un gair sydd yn Gymraeg a'i disgrifiai. A hwnnw oedd ei enw. Ac Ac y mae yntau yn ei fedd yn wyth a deugain oed!
- 1914.