Cymeriadau (T. Gwynn Jones)/John Humphrey Davies

Oddi ar Wicidestun
Henry Jones Cymeriadau (T. Gwynn Jones)

gan Thomas Gwynn Jones

David Williams


JOHN HUMPHREY DAVIES


Y MAE llawer er Dadorchuddio colofn yr oeddis, colofn a godwyd er cof am enwogion o Gymry. Daethai llawer o bobl ynghyd o bob cyfeiriad, ac yr oedd yn rhaid cael areithiau gan wŷr mawr, wrth reswm.

Dyna lle'r oeddynt ar lwyfan a godwyd at y pwrpas, yn llefaru y naill ar ôl y llall. Nid wyf yn cofio nemor ddim o'r areithiau—llawer o sôn am y "werin" a "gweledigaeth," "gwladgarwch," a phethau felly. Ond dyma fardd ar ei draed i adrodd englynion. Wyneb llyfn, gwallt mawr, llais da. Ni wnaeth yr englynion lawer o argraff arnaf hyd nes dyfod at linell olaf un ohonynt, oedd wedi ei bwriadu er clod i'r cwmpeini urddasol a ddaethai ynghyd y diwrnod hwnnw. Drwg gennyf nad wyf yn cofio'r englyn, ond ymhlith y dyrfa, meddai'r llinell olaf, gwelid "prif fashers Gwalia." Ni chlywais i mo'r term mashers ers blynyddoedd maith bellach, ac nid wyf yn rhyw sicr iawn o'i darddiad na'i union ystyr, ond ar y pryd yr oedd yn gyffredin gan ryw ddosbarth o Saeson—tebyg iddo fynd i ffordd yr holl ddaear yn fuan wedyn. Pan glywais ef yn y fath gysylltiadau, daeth arnaf awydd chwerthin nad hawdd ei fygu.

Yn f'ymdrechion, tebyg i mi dynnu sylw gŵr ieuanc a safai yn f'ymyl, a gwelwn fod hwnnw hefyd mewn tipyn o anhawster. Dawnsiai ei lygaid a llanwai ei fochau wrth iddo geisio edrych yn weddol sobr mewn lle felly. Edrych ohonom y naill yn llygaid y llall, a deall. Cyn hir daeth rhywun heibio a dywedyd wrth y naill ohonom. pwy oedd y llall. John Humphrey Davies oedd y gŵr ieuanc. Cawsom gyfle yn y man i gyd chwerthin ein gwala, fel y cawsom lawer tro ac am lawer peth wedyn. Clywaf ei chwerthin y funud hon, a gwelaf ddawns ei lygaid a thro cornelau ei wefusau, ac ni allaf na chwarddwyf innau hefyd, er mai ychydig oriau'n ôl yr oeddwn yn ymgroesi'n drist uwchben ei fedd yn naear Langeitho.

Erbyn ei ddyfod ef a minnau i gysylltiad agos a'n gilydd, yr oedd tymor rhyw gastiau bachgennaidd drosodd, ond yr oedd y synnwyr iach hwnnw yno o hyd. Synnwyr rhadlon, hynaws a di-wenwyn ydoedd. Nid oedd derfyn ar ei ddiddordeb mewn cymeriadau, na'i gyffelyb am adrodd hanes dynion a rhywbeth anghyffredin neu

ddigrif o'u cwmpas. Cafodd brofiad cyfraith ar un adeg yn ei oes, ac fe'm tarawai bob amser fod ynddo elfen gref at olrhain a datod dirgelwch. Synnais lawer tro wrth wrando arno gymaint o bethau rhyfedd sydd ym mywyd gwlad dawel ddigyffro. Pe sgrifenasai'n llyfr yr ystraeon y clywais ef yn eu hadrodd, fe fuasai pobl yn dywedyd heddiw golli nofelydd medrus yn ei farwolaeth ef. Adroddai ei ystori bob amser â manyldeb a threfn cyfreithiwr. Cefais droeon fod ganddo ddiddordeb mawr mewn digwyddiadau rhyfedd ac anesboniadwy— cyd-darawiadau, os mynnir, ond eu bod yn gadael ar y meddwl ryw argraff ddieithr fod darnau mawr o fywyd na fedrwn ni mo'u hegluro, a dywedyd y lleiaf.

Dechreuodd gasglu llyfrau yn fachgen ieuanc, ac yr oedd y Cwrt Mawr yn llawn o lyfrau, bron bob ystafell yn y tŷ. Eto, ni welais erioed mono'n methu a dodi ei law ar y llyfr a fynnai rhag ei flaen. Ddeufis cyn ei farw, yng Nghwm Cynfelyn, ac yntau bellach yn anabl i symud heb gynhorthwy, yr oeddwn yn ceisio rhyw wybodaeth ganddo. Cyfarwyddodd fi i fynd i ystafell arall ac edrych ar yr astell a'r astell am lyfr llawysgrif mewn caead coch. Cefais hyd iddo yn

union lle dywedasai. Agorodd yntau'r llyfr, a chael hyd i gofnod a gopïasai o lawysgrif yn Llundain yn agos i ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, er nad aethai drwy'r copïau byth er hynny. Y prynhawn hwnnw cefais hyd i hanner dwsin o lyfrau, o ganol miloedd lawer, heb fethu un waith ohono ef yn ei gyfarwyddyd. Mwy na hynny, yr oedd y wybodaeth a fynnwn yn y llyfrau a enwodd bob cynnig. Hyd yr wyf yn cofio, ni chlywais mono'n enwi tudalen mewn llyfr lle byddai rywbeth a geisid, ond dywedai mai yn agos i'r dechrau neu'r canol neu'r diwedd, ar y tu chwith neu'r de, yn agos i'r brig neu'r gwaelod. Ac fe ddoid o hyd i'r peth a geisid yn rhyfeddol bob amser. Yr oedd ganddo lygad barcud at brint neu lawysgrifen, ac am law, ni welais erioed mono'n methu.

Ni wn a adawodd ar gof a chadw rai o'r hanesion a glywais ganddo o dro i dro am y pethau rhyfedd a ddigwyddodd iddo wrth chwilio am lyfrau. Gallwn adrodd rhai ohonynt, ond y lwc fyddai ei fod ef ei hun wedi eu sgrifennu. Yr oedd ganddo ryw ddawn annaearol bron i wybod ym mha le i chwilio am beth, a chanlynai ar drywydd gyda sicrwydd a synnai ddyn. Enghraifft o lwyddiant y ddawn honno oedd dyfod o hyd i lawysgrifau Robert Roberts, "Yr Ysgolor Mawr."

Nid casglwr yn unig ydoedd chwaith. Gwyddai gynnwys ei lyfrau gyda manyldeb nodedig; gwyddai hanes eu hawduron neu eu hysgrifenwyr, hanes eu perchenogion a'u treigl o law i law. Clywais ef droeon yn adrodd hanes llyfr felly hyd ryw bwynt, ac yna'n cyfaddef na wyddai ba beth a ddaethai ohono wedyn, ond ymhen amser, cai hyd i'r trywydd drachefn, a gorffennai drwy brynu'r llyfr ei hun. Buasai hanes llawn am ei ymchwiliadau a'i lwyddiant yn beth rhamantus.

Un tro yr oedd yn Llundain yn chwilota'r mân lyfrau ail llaw a geir mewn bocsiau o flaen siopau yn Charing Cross Road. Daeth llyfryn Saesneg o amrywiol bamffledau i'w law dro ar ôl tro, nes iddo hanner digio wrtho, am nad oedd ynddo ddim at ei bwrpas. Aeth rhagddo at focs arall ac arall, ac yna yn ei ôl at y cyntaf. A dyma'r un llyfryn i'w law drachefn, a'i agor ar ddalen lle 'roedd y llythrennau "M.L." wrth droed traethodyn. Ar y pryd, yr oedd yntau'n golygu'r ail gyfrol o weithiau Morgan Llwyd, a gwelodd mai llythrennau cyntaf enw hwnnw oedd yr "M.L." Ni wyddai am y traethawd cyn hynny. Gwelir ef yn y gyfrol. Dyma'i eiriau yntau ar ôl adrodd yr hanes i mi: "Yr oedd yn union fel pe buasai Morgan Llwyd ei hun, neu Tom Ellis, wedi penderfynu bod rhaid i'r llyfr ddyfod i'm llaw i." Darllener "Llythyrau Goronwy Owain" ganddo, a cheir enghreifftiau o'r un ddawn ddigymar. Nid rhag blaen yr adroddai'r hanesion hyn ychwaith. Byddai raid cael yr awyrgylch, rywfodd. Noswaith o aeaf ystormus, wrth dân coed yn y Cwrt Mawr, wedi siarad hyd oriau mân y bore, meddai'n sydyn: "Gwynn, fuoch chi rywdro ar ôl disgwyl cyfaill a siarad yn hir ag ef, yn teimlo rhyw fath o ofn rhag ei weled yn codi a mynd?" Addef hynny o gyd-brofiad, ac ni wn i bryd yr aethom i gysgu'r noswaith honno.

Wedi bod ieithyddion medrus wrthi'n ddysgedig yn egluro ystyr a tharddiad geiriau neu ffurfiau anghyffredin, gwelais ef fwy nag unwaith yn gwenu, ac yn dangos cofnod o ewyllys neu lythyr, yn profi unwaith am byth mai enw lle fyddai'r gair neu'r ffurf, wedi'r cwbl. Ac nid Cymraeg yn unig a ddarllenai. Yn wir, yr oedd yn un o'r darllenwyr helaethaf a adnabûm i erioed, a'i ddiddordeb yn cyrraedd i bob cyfeiriad. Dywedais eisoes fod cymeriadau'n ddiddorol iddo. Dafydd Ifans, Llanrwst; Gwilym Cowlyd; Myrddin Fardd, a llawer eraill y cyfarfu â hwynt, gwyddai eu hanes yn fanwl a chymerai'r diddordeb llwyraf yn eu nodweddion, eu mympwyon a'u gweithredoedd. Goronwy Owain, y Morysiaid, y Prydydd Hir, Robert Roberts, yr hen ddewiniaid Cymreig gynt, fel John Dee, John Evans, Arise Evans, Jac Ffynnon Elian, Harris Cwrt y Cadno, etc., gwyddai eu hanes i gyd, ac eraill na chlywodd y rhan fwyaf ohonom erioed mo'u henwau. Hen ysgolheigion gynt a hen gasglwyr llyfrau a llawysgrifau, achau teuluoedd, hen weithredoedd ac ewyllysiau, llythyrau personol, traddodiadau gwlad, anferth ddigrifwch hen gymeriadau rhyfedd,—synnai dyn sut byth y cawsai amser i gasglu'r fath ystôr ohonynt a'r fath wybodaeth helaeth a manwl amdanynt.

Eto, fel gŵr cyhoeddus. Gwelais ef yn llywyddu llawer cyfarfod anodd i'w drin, ac nis gwelais erioed yn cymryd cam gwag. Adwaenai ddynion yn dda; meddai reol berffaith arno'i hun hyd yn oed yn yr amgylchiadau mwyaf anodd. Unwaith, yn ystod cyfarfod hir a chyffrous, gwelais ef a'i wyneb yn wyn fel y galchen, ond nid oedd gryndod yn ei lais nag arwydd cyffro yn ei osgo, dim ond bod ei lais, hwyrach, ronyn yn sychach nag arfer, a'i frawddegau'n gwteuach. Cyn pen dau funud wedi setlo'r mater, chwarddai fel pe na buasai dim yn y byd wedi digwydd. Fel trefnwr a chyfeiriwr, anodd cael ei debyg. Hyd yn oed yn ei afiechyd hir, yr oedd ei ben mor glir a'i feddwl mor fyw ag erioed. Gwelai ymhell, barnai'n gywir ac yn gyflym, gweithredai'n esgud a chadarn, byddai garedig a thosturus.

Bu'n amlwg iawn, eto ni charai amlygrwydd. Nid hoff ganddo dynnu ei lun, a chredaf nad wyf yn methu wrth ddywedyd bod rhyw elfen yswil ynddo hefyd. Nid wyf yn meddwl bod cerddoriaeth yn ddiddorol iawn iddo. Unwaith y gwelais ef yn gorfod gwrando ar beth a elwir yn "symffoni" ddiweddar. Tybiwn ei fod mewn poen, fel yr oeddwn fy hun, ond chwerthin a wnaeth ef, pan gawsom ddihangfa o'r diwedd. Y tro diwethaf y gwelais ef, ar brynhawn Sul ryw fis cyn ei farw, gwrandawem ar y wireless—rhyw ganu ac actio o Loegr, llais rhyw ddandi, gallech dyngu bod rwff am ei wddf ac eddi ar flaen ei lewys a gwyntyll yn ei law. Yr oeddwn i wedi laru ar y peth, ond yn edrych mor ddiboen ag y gallwn, rhag ofn bod y peth yn ei ddifyrru ef, ar wastad ei gefn yn ei wely fel yr oedd. Cyn hir, meddai: "Ych chi'n mwynhau hwn, Gwynn?" Ofnaf i mi alw yr Arglwydd mawr yn dyst mai fel arall yr oedd. Galwodd yn ebrwydd ar y Gwyddel caredig a ofalai amdano. Daeth yntau. "Stop that damned thing!" meddai llais a'r hen chwerthin ynddo, ac aethom i adrodd ystraeon. Yr oedd yn feirniad campus ar brydyddiaeth, ond i'w blesio, byddai raid iddi gynnwys yr un peth anhepgor—cymeriad. Mawrygai gyfeillgarwch yn arbennig, ac yn sicr ni bu neb erioed ag iddo fwy o gyfeillion.

Pan aem i Langeitho i'w hebrwng i'w hir gartref, gorweddai niwl gwelw yn dorchau ar y bryniau a'r coed, a'r dagrau mân ar y cawn a'r glaswellt, yn ddirifedi, "Fel grawn, fel adar, fel gro neu flodau." Ymlaen â ni, garr ar ôl carr, y naill yn diflannu yn y niwl o flaen y llall, a'r dirgelwch o hyd ymlaen. Pan gyrhaeddwyd Tregaron, treiddiodd yr haul drwy'r niwl, cododd yntau'n araf. Wedi'r glaw, yr oedd y coed mor iraidd a phe bai wanwyn. Daeth yr hen fynyddoedd i'r golwg, a'u lliwiau hwythau'n fyw i gyd. Ac yno, pan roed ef i orwedd heb fod ymhell oddi wrth golofn Daniel Rowland, yr oedd heulwen ysblennydd yn tywynnu ar yr arch. Draw ymestynnai'r cwm y bûm yn ei gerdded gynt gydag ef i gyfeiriad y Cwrt Mawr, gan ryw las ofni rhag darfod yn rhy fuan o'r daith ar hyd gwely afon wedi sychu, a hud heulwen araul ar y wlad, nes bod ynom ymsyniad ein bod bron ar hiniog y byd nad yw'n darfod. Canai'r dorf. Yr oedd yno un a glywai chwerthin iach cwmni bychan a fu gynt yn agor hen aelwyd gyn cof, i fyny'r cwm hwnnw, a llawenydd a chyfeillgarwch yr hwyr, pan ddoi tawelwch swrth dros fro, a su'r gwenyn gwylltion yn y coed rhosyn ar furiau'r tŷ yn gyson a mwyn. . . . A heno, y mae Cymro gwych arall yn huno yn naear sant Langeitho.

1926, 1930.


Nodiadau[golygu]