Cymeriadau (T. Gwynn Jones)/Henry Jones
← Dic Tryfan | Cymeriadau (T. Gwynn Jones) gan Thomas Gwynn Jones |
John Humphrey Davies → |
HENRY JONES
YR oedd Syr Henry Jones wedi heneiddio ac wedi dioddef llawer pan ddeuthum i gyntaf i gydnabyddiaeth ag ef.
Yr wyf yn ei gofio flynyddoedd yn ôl yn darlithio yng Nghaernarfon, ar lyfr Balfour, Seiliau Cred. Y pryd hwnnw, yr oedd yn ei rwysg, corff gosgeiddig, wyneb glân, wedi ei eillio onid y trawswch, cnwd da o wallt; ysgogiadau cyflym, byw; lleferydd rhwydd, Cymraeg ardderchog. Dro arall, clywais ef yn areithio yng Nghaernarfon ar Ddydd Gŵyl Lafur. Darlith ar economeg wladol, mewn Cymraeg grymus, dealladwy i bawb.
Ar ddiwedd y ddarlith ar lyfr Balfour, gwelais ddigwyddiad diddorol, y gellir bellach ei grybwyll. Daethai'r darlithiwr i lawr oddi ar y llwyfan, ac yr oedd gwŷr mawr y dref yn tyrru o'i gwmpas i ysgwyd llaw ag ef. Tra'r oedd hynny ar dro, sylwais ar ddyn a safai yn f'ymyl ychydig o'r neilltu. Edrychai hwnnw yn o anesmwyth, os nad anfoddog, a gwelais o'r diwedd ei fod yn ceisio cael sylw Syr Henry. Bu wrthi am rai munudau yn ceisio dal golwg y darlithiwr, ond yr oedd cynifer o bobl am ysgwyd llaw â hwnnw fel nad oedd i'r llall nemor siawns. O'r diwedd, blinodd yntau, a throes ar ei sawdl, cystal â dywedyd, "Twt lol! 'does reswm ar beth fel hyn!" Y funud honno, dyma fraich y darlithiwr i'r golwg drwy'r twrr oedd o'i gwmpas, a chlywn ei lais yn dywedyd yn groyw-"Dafydd! aros funud, gael iti ddwad i gnoi tamed o swper hefo mi!" Dyellais wedyn mai ei frawd oedd y llall.
Aeth blynyddoedd heibio. Un dydd, pan oeddwn ar orffen darlith i ddosbarth, daeth rhywun i ddywedyd bod Syr Henry Jones am fy ngweled. Euthum allan. Ni chefais fwy o syndod nemor dro. Edrychai 'n gwbl wahanol, wedi dioddef, wedi gwynnu, a gadael ei farf. Bûm gydag ef y diwrnod hwnnw am oriau, ac yr wyf yn cofio iddo fywiogi, megis, pan ddywedais, mewn ateb i ryw gwestiwn, mai yn Sir Ddinbych y'm ganed. Am addysg y soniai y diwrnod hwnnw, ac yr oedd mor llawn o eiddgarwch a phe na buasai ond llanc. O'r dydd hwnnw, aethom yn gyfeillion, ac yn ystod haf, 1921, treuliais rai oriau yn ei gymdeithas bob dydd am rai wythnosau.
Un Sul poeth, ciniawai gyda ni. Wedi'r pryd, gofynnais iddo a fynnai orffwyso ychydig. Nid âi i wely, ond dywedodd mai da fuasai ganddo gysgu ychydig, gan fod anhunedd yn ei boeni ar y pryd. Dodais glustog tan ei ben ar lwth wrth y ffenestr, a hugan trosto. Tybiais ei fod yn cysgu. Tywynnai'r haul arno trwy ddail y pren masarn o flaen y ffenestr. Daeth tristwch drosof wrth edrych ar ei wyneb a gwylio ymchwydd ei anadliad.
"Waeth heb, ddaw o ddim !" meddai gan godi ar ei eistedd yn sydyn, "awn allan am dro."
Allan â ni. Yr oedd ef mor hoyw a bywiog â phe cysgasai noswaith. Dywedodd lawer o'i hanes wrthyf. . . Y noswaith honno, buom yn canu emynau Cymraeg, a dwy neu dair tôn o'i waith ef ei hun. Pan euthum i'w ddanfon i'w lety ar ôl swpera, yr oedd hi'n un ar ddeg o'r gloch, ond siaradai mor fywiog ag erioed, a chwarddai wrth sôn am ei ieuenctid.
Yr oedd dau gyfaill wedi galw yn fy nhŷ un noswaith, un ohonynt yn delynor, a thelyn i'w ganlyn. Tuag un ar ddeg, pan oedd y telynor wrthi yn canu penillion ar "Ben Rhaw," daeth Syr Henry heibio. Buwyd wrthi awr yn hwy. Nid oedd neb ieuengach na hoywach nag ef yn y cwmpeini hwnnw. Yr oedd yr hen geinciau Cymreig ar y delyn wedi deffro rhywbeth dieithr ynddo, a theimlwn fy mod yn deall pethau nas dyellais o'r blaen wrth ei glywed yn canu ac yn chwerthin, a'i weled yn codi ar ei draed a cherdded o gwmpas, megis pe na allasai fod yn llonydd.
Un bore, ar lan y môr, a'r lle yn llawn o ymwelwyr o bob man, cerddem gyda'n gilydd. Dechreu odd sôn am ffilosoffi. O dipyn i beth, twymodd ati, a dechreuodd ddywedyd pethau godidog. Cyfeiriai at lyfrau nas darllenswn i erioed, a gorfu arnaf ymesgusodi drwy ddywedyd nad ffilosoffydd monof. "A ydych yn meddwl," meddai, "y dywedwn i bethau fel hyn wrthych pe na baech?" Troai pobl i edrych arnom, ond ni welai ef neb ohonynt, mi gredaf. Darlithiodd i mi yno am awr, fel pe buaswn ddosbarth neu gynulleidfa. Rhown lawer pe gallwn gofio'r pethau a ddywedodd, yn gywir fel y clywais hwy. Cyflawnder ac aeddfedrwydd meddwl, toreth iaith, awen bardd—pob camp ar ddyn yn ei odidowgrwydd pennaf. Cerddem allan o'r dref ar hyd heol fwy gwledig. Yr oedd ochr y ffordd yn frith gan lygaid y dydd a daint y llew. Eisteddasom ar lawr yno, ac ehedydd yn canu yng nglesni'r awyr gynnes uwch ein pennau. Sôn yr oedd ef am bwrpas bywyd a'i ymdrech barhaus i ymberffeithio a chyrraedd rhyw nod. Soniodd am alar ei wraig oblegid colli mab.
"Yr oedd hi'n drist iawn ac yn ddwys," meddai. "Cymerais hi allan i'r ardd un diwrnod—yr oedd hi yn hoff ryfeddol o flodau. Gofynnais iddi 'A ydych chwi yn meddwl ei fod ef a wnaeth y blodyn hwn, a'i brydferthwch a'i holl fanyldeb, yn mynd i fethu i'r mesur lleiaf yn y lleiaf un o'i amcanion? Nid wyf i!"
Bu ddistaw am ennyd ac yna meddai gan syllu ym myw fy llygaid petrus innau:
"Na, 'dydi o ddim yn mynd i fethu!”
Odid glywed ei debyg am adrodd ystraeon. Mewn cwmpeini un diwrnod, soniem am y bobl fydd yn dychmygu pethau yn fyw iawn ac yna'n eu mynegi fel ffeithiau.
"Rhaid i mi adrodd i chwi un ystori," meddai, "am un hogyn bach felly a adwaenwn i. Byddai bob amser yn adrodd ei ddychmygion fel ffeithiau, a'i fam yn ei geryddu a'i ddanfon i ofyn i Dduw faddau iddo am ddywedyd anwiredd. Un diwrnod daeth i'r tŷ a dywedyd ei fod wedi gweled blaidd mawr mewn rhyw gae. 'Now, now,' meddai'r fam, you must not say that. You did not see a wolf. It must have been a dog that you saw, if you saw anything at all. You go and ask God to forgive you.' Aeth y bychan yn ddigon pendrist. Cyn bo hir, daeth yn ei ôl yn llawen, fel pe buasai popeth yn iawn. 'Well," meddai ei fam, did you tell God that you were sorry?' 'Yes," meddai yntau,' and do you know what God said?' Ni fedrai hithau beidio â dywedyd: 'No, what did God say?' 'Well," meddai'r bychan, 'God said, Yes, it was a dog, but when I first saw that dog, I thought it was a wolf too!'"
Ni welais mono ond rhyw unwaith neu ddwy wedyn. Yr argraff a ddaw'n ôl yw'r hanner tristwch hwnnw a ddaeth tros y meddwl wrth wylio'r Dyn yn ceisio cysgu. Wedi oes weddol hir a llawn o ymyl i ymyl, wedi chwilio a meddwl, gwybod a phrofi, wedi gweled a bod yn sicr o bethau ardderchog, dyma dywyllwch a distaw rwydd nas torrir. Ac eto clywaf y llais hwnnw yn adrodd, yn rhyw chwyrn ond mwyn iawn, tra bo'r llygaid yn edrych trwof—"Na, 'dydi o ddim yn mynd i fethu!"