Cymeriadau (T. Gwynn Jones)/Dic Tryfan
← Thomas Francis Roberts | Cymeriadau (T. Gwynn Jones) gan Thomas Gwynn Jones |
Henry Jones |
DIC TRYFAN
RICHARD HUGHES WILLIAMS oedd
ei enw, "yn ôl y Seisnigawl arfer," chwedl
John Jones Gelli Lyfdy, gynt; ond rywbryd yn o
gynnar ar ei yrfa lenyddol, dechreuodd ysgrifennu
yn Saesneg tan yr enwau "Tryvan Arvon" a
"Dick Tryvan" (y mae cennad i Gymro a
sgrifenno yn Saesneg ddewis enw Cymraeg).
Rywfodd, yr olaf o'r ddau enw a lynodd wrtho
ymhlith ei gyfeillion, er mai'r blaenaf oedd y
tlysaf yn ddiamau—ond y mae llawer canrif er
pan fu'r Cymry yn hoff o bethau tlysion!
Brodor o Rostryfan, yn Sir Gaernarfon, ydoedd, er bod teulu ei dad yn dyfod o dueddau Aberdaron, a thraddodiad yn eu plith, fel y clywais y mab ei hun yn dywedyd, eu bod yn ddisgynydd ion i'r hen fardd Lewys Daron. Ganed Dic Tryfan tua'r flwyddyn 1878. Chwarelwr oedd ei dad; ac ni chafodd yntau, oedd yn un o deulu o bedwar neu bump, ryw lawer o gyfleustra addysg yn hogyn. Aeth i weithio i'r chwarel ei hun pan oedd tua deuddeg oed; ond yr oedd elfen lenyddol ynddo wrth natur, a chawsai grap ar ddarllen Saesneg yn yr ysgol. Dechreuodd ddarllen ac ysgrifennu Cymraeg yn ieuanc. Yr oedd elfen brydyddu ynddo hefyd, ac enillodd wobrau yn gynnar yn y cyfarfodydd cystadleuol a gynhelid yn yr ardal a'r cymdogaethau. Clywais gan rai a'i hadwaenai'n hogyn mai un distaw, dwys, ydoedd. Un felly fu ar hyd ei oes.
Dechreuodd gael blas ar ddarllen nofelau tra'r oedd yn y chwarel. Dywedodd ei hun wrthyf fel y cafodd afael yn rhywle ar gopi rhad o un o nofelau Charles Dickens, os da fy nghof, a'r modd y darllenodd honno drwy drafferth nid bychan, am mai prin oedd ei Saesneg. Tarawodd yr ystori honno, ac eraill a ddarllenodd tua'r un adeg, yr elfen oedd yn ei natur ef ei hun, a dychmygai fel y byddai yntau, rywdro, yn nofelydd.
Pan oedd tuag ugain oed, gadawodd y chwarel. Casglasai ddigon o arian i dalu am ychydig ddysg iddo'i hun. Y pryd hwnnw, yr oedd yng Nghaernarfon ysgol ramadegol fechan, "Ysgol Jones Bach," fel y gelwid hi—cof da am yr athro, hen ŵr bach, yn mynd ar ryw hanner tuth a'r naill law ym mlaen llawes y fraich arall. Ysgol dda oedd " Ysgol Jones Bach," a synnai pawb sut y gallai'r athro roddi cymaint o sylw personol i
gynifer o ddisgyblion mor amrywiol a gwahanoli'w gilydd. Hynny a wnai, sut bynnag, a llawer un a gychwynnwyd yn effeithiol ganddo ar ben ei lwybr.
Wedi bod yn yr ysgol honno am ysbaid, rhoes Dic Tryfan gynnig ar waith gyda'r papurau newyddion. Gwn nad oedd ganddo lawer o feddwl o'r alwedigaeth honno, o'i rhan ei hun, er iddo ei dysgu'n dda iawn. Ar lenydda yr oedd ei fryd ef, a darganfu'n fuan iawn nad llenorion sydd eisiau at y gwaith. Eto, hwnnw oedd yr unig ddrws agored i un yn ei amgylchiadau ef yr adeg honno yng Nghymru. Dyna'r pryd y deuthum i i'w adnabod gyntaf.
Yr oedd yn ddyn ieuanc cydnerth, yn tueddu at fod yn dew, ond yn hynod yswil a thawedog. Cyfaddefodd wrthyf wedyn iddo basio drws un swyddfa wyth waith cyn magu digon o hyder i fynd i mewn i roi cynnig ar waith a addewsid iddo yno. Ond o'r diwedd, i mewn yr aeth, a dechrau arni. Ychydig, feallai, a ddechreuodd arni drwy wneuthur llai o chwarae teg ag ef ei hun. Yr oedd yn dawedog a breuddwydiol iawn ei olwg, ac yn meddwl, y mae'n debyg, mai trawsineb ystiward oedd i'w ddisgwyl oddi wrth bawb mewn rhyw fath o awdurdod.
Ni chawsai eto hyd i'r llawysgrifen oedd naturiol iddo, nac ychwaith i'r dull gorau i afael mewn ysgrifell. Cydiai ynddi yn rhy agos i flaen y pin dur, a gwasgai hi fel pe buasai gŷn i'w daro â morthwyl; âi'r inc hyd ei fysedd, ac yma ac acw ar hyd y papur, yn ffurfiau amgen na llythrennau ; felly, mynych rwygai yntau ei bapur, a rhoddai ail gynnig arni. Yr oedd yn rhaid iddo ddysgu cymryd llai o le i'w benelinoedd ar y bwrdd ac eistedd dipyn yn sythach. Nid atebai ei eirfa Saesneg i'r alwad arni yn ddigon buan, ac yr oedd ôl Cymraeg yn glynu wrth ei gystrawen, fwy na pheidio. Gallesid tybio mai torri ei galon a wnaethai, a thybiwyd mai dyna a ddigwyddodd, canys ni bu'n hir gyda'r gwaith. Collwyd golwg arno yn sydyn, ac ni wyddai neb i ba le yr aethai.
Pan welwyd ef drachefn, yr oedd ei ystum wedi newid. Dysgasai drin yr ysgrifell yn y ffordd briodol i'w law, ac yr oedd yn feistr ar Law Fer Pitman. Cafwyd allan beth o'r hanes ymhen amser. Buasai'n gweithio mewn rhyw ffowndri yn Lerpwl am ryw hyd, ac aethai o'r diwedd i ysgol yn Llundain. Yno, dan athrawon synhwyrol y mae gennyf barch iddynt, pwy bynnag oeddynt—dysgodd feistroli ei law ac ysgrifennu Llaw Fer. Eto, yr oedd rhai anhawsterau yn aros. Gorfu iddo wynebu ysbaid arall o hyfforddiad caled—ennill cyflymdra a pharodrwydd yn enwedig. Ni phallodd unwaith yn ei ymdrech yr oedd ynddo benderfyniad ystyfnig, os tawel. Ysgrifennai bethau drosodd lawer gwaith yn ddi-gŵyn. Ac o'r diwedd, cafodd ei draed tano. Gwelais ei bapurau ar ôl ei farwolaeth. Mewn llawer ystyr, beth bynnag, dysgasai drefnusrwydd a gofal na buasai neb byth yn tybio ar y dechrau y cyrhaeddai eu bath.
Bu'n ohebydd i amryw bapurau, yng Nghymru ac yn Lloegr. Bu am ysbaid yn ysgrifennydd hysbysiadau i wneuthurwyr rhyw feddyginiaeth anffaeledig. Yn ystod y cyfnod hwnnw, daeth adref am dro, a golwg go wael arno. Gofyn o gyfaill iddo paham na chymerasai beth o'r feddyginiaeth. Heb ddim ond gwneuthur rhyw lygad bach direidus, atebodd yn gwta, "Dyna wnês i!" Cyn hir, daeth yn ei ôl i Gaernarfon, a bu'n gweithio yno fel golygydd am rai blynyddoedd. Er maint oedd ei anfanteision, dysgodd y grefft honno yn drwyadl. Symudodd i Aberystwyth, oddi yno i Lanelli, ac yna am ysbaid i Gaerdydd.
Cyfaddefodd wrthyf unwaith mai ei gas beth oedd y teleffôn, eto byddai â'r gragen wrth ei glust, yn ysgrifennu i lawr beth a ddywedai'r dyn yn y pen arall wrtho. Ond daeth y Rhyfel. Pan alwyd ef yn ei dro i'r fyddin, gwrthododd y meddygon ei dderbyn fel ymladdwr oblegid nad oedd ei galon yn ddigon iach, ond bernid, y mae'n debyg, ei fod yn gymwys i fynd i wneuthur rheidiau rhyfel. Felly, bu'n gweithio am fisoedd yng ngwaith Penbre. Rhyddhawyd ef oddi yno tua dechrau 1919, oblegid bod drwg ar ei ysgyfaint erbyn hynny; a phan ddychwelodd i Aberystwyth, nid oedd onid croen am esgyrn. Dechreuodd wasanaethu fel un o olygwyr y Cambrian News, ac am ysbaid edrychai fel pe buasai'n gwella; ond yr oedd y peswch yn dal ato, a gyrrwyd ef i Iachwyfa Tregaron, gyda'r bwriad, yn ôl a ddywedodd ef ei hun wrthyf, o'i symud ymhen ychydig i Dalgarth.
Gŵr prudd oedd wrth natur; eto, fel y dywed wyd eisoes, yr oedd penderfyniad ystyfnig yn perthyn iddo. Pan gychwynnai i Dregaron, dywedai wrthyf ei fod am fynnu gwella. Cymerai dawelwch a gorffwys, meddai, a deuai yn ei ôl a gorffennai'r nofel yr oedd wedi ei chynllunio, yn disgrifio bywyd yn y gwaith pylor. Credwn y gwnai hynny, canys gwyddwn iddo wneuthur pethau mor anodd a hynny.
Ond nid hir y bu yn Nhregaron cyn dyfod yr hanes mai gwaethygu yr oedd. Torrodd ei galon, mi gredaf, ac yna suddodd yn gyflym. Bu farw fis Gorffennaf, 1920, a chladdwyd ef yn Aber ystwyth. Nid oedd ond tua deugain oed. Nid oedd ddrwg ar ei ysgyfaint pan aeth i'r gwaith pylor. Bu'r mynych newid o wres mawr i oerfel a gwlybaniaeth, y chwysu a'r oerni, yn ormod iddo. Yng ngwasanaeth ei "wlad" y lladdwyd ef. Yr oedd yn ddrwg iawn gan yr holl swyddogion caredig dros ei weddw, meddent hwy, ond nid oedd fodd gwneuthur dim erddi, wrth gwrs, ac y mae hi'n gorfod ennill ei thamaid orau y gallo. Dylai ei gydwladwyr gael gwybod cymaint â hyn o'r hanes—peth nad tebyg y cânt o unman arall. Pan gofiwyf amdano, ni bydd gennyf i ddim parch i'm "gwlad," mi gyfaddefaf.
Dywedais iddo yn gynnar gymryd hoffter at ddarllen nofelau, a breuddwydio am ddyfod yn nofelwr ei hun. Llafuriodd yn galed iawn i ddysgu'r grefft honno. Darllenodd yr holl nofelwyr Saesneg gwerth eu darllen, ac yr oedd ganddo ddigon o wybodaeth o'r Ffrangeg i ddarllen nofelau ynddi hithau. Darllenodd hefyd gyfieithiadau Saesneg o'r nofelwyr Rwsiaidd, a manwl astudiodd grefft ysgrifennu'r ystori fer yn enwedig; ac yr oedd ers tro cyn ei farw yn feistr ar y grefft honno, yn sicr. Rhwng Cymraeg a Saesneg, ysgrifennodd yn ddiau rai cannoedd o ystraeon byrion, ac y mae yn eu plith o leiaf rai cystal ag a ysgrifennwyd yn unman erioed.
Ysgrifennai am y bywyd a adwaenai, ac fe adnabu lawer gwedd ar fywyd hefyd, o fywyd chwarelwyr Arfon hyd at fywyd ysgrifenwyr a cherddedwyr, a'r dyrfa gymysg a weithiai yng ngweithfeydd darpar y Rhyfel. Cyfarfu â chymeriadau hynod, a gwelodd ochr ddu'r peth a eilw llau a chwain cymdeithas yn " ogoniant." Clywais ef yn adrodd hanes un noswaith—gwynt a glaw a thywyllwch; tyrfa gymysg, rhyw ddi gwyddiad cynhyrfus, a chyffro yn corddi dyfnderoedd tywyll natur dyn. Yng nghanol y cyffro i gyd, a chyrff rhai dynion wedi eu chwythu fel na welwyd byth na migwrn nac asgwrn ohonynt, safai un hen ŵr o Gymro â'i gefn yn erbyn rhyw gaban, ac adroddai yn bwyllog—"Wel, dyma noddfa i lofruddion! Dyma noddfa i lofruddion! Dyma noddfa i lofruddion!"
Yr oedd yn graff iawn, a'i lygaid bob amser yn agored ar ragoriaethau a diffygion dynion. Gwnai i'r manylion lleiaf wasanaethu ei amcan, a dysgodd gynhildeb rhyfeddol. Diwygiai ei waith yn barhaus. Gwelais ei gopïau ef ei hun o rai o'i ystraeon Saesneg a Chymraeg, wedi eu torri a'u pastio ar ddail gwynion, a'u diwygio hyd yn oed ar ôl eu cyhoeddi. Allan â phob gair dianghenraid, a gwelid ei gais parhaus i ddyfod o hyd i'r ffordd symlaf o ddywedyd peth. Cadwai ei gyfrinach i'r diwedd.
Ceir enghraifft nodedig o hynny yn yr ystori fer olaf, ond odid, a sgrifennodd—"Mynd adref," a gyhoeddwyd yn Y Goleuad, tua'r Nadolig, 1915, mi gredaf. Yn honno, dychmygai hanes bachgen o Gymro yn y Rhyfel yn Ffrainc. Gwelwch ef yn breuddwydio yn y ffos, weled ei dad a'i fam, a'i hen athro yn yr Ysgol Sul gynt, yn dyfod ato. Meddai ei dad wrtho:
"Wel, dyma lle'r wyt ti? Mi ddywedais ddigon wrthyt, on'd do? Er, pe bawn ugain mlynedd yn iau, hwyrach mai yma y baswn innau hefyd!"
Meddai'r hen athro:
"Wel, fy machgen bach i, yma'r wyt tithau! Bendith Dduw arnat!"
Ac meddai'r fam hithau:
"Wyt ti wedi brifo, 'machgen annwyl i?"
Wedi brifo yr oedd y bachgen. Daw ato'i hun yn yr ysbyty, a gofyn i'r weinyddes pa bryd y câi fynd adref.
Cewch fynd adref yfory," ebr hithau.
Yna disgrifir yr hen gwpl adref wrth y tân, y tad yn tanio'i bibell heb ddim tybaco ynddi, a'r fam yn edrych ar fap o Ffrainc.
"Yn y fan yma y mae o," medd yr hen wraig.
"Na," medd yr hen ŵr, "ddaw o byth yn ei ôl!"
Cyfyd yr hen wraig, egyr y drws ac edrych allan.
"Beth oedd yna ?" ebr yr hen ŵr.
"Dim!" medd hithau, gan eistedd drachefn.
Ond ar hyd y llwybr at y tŷ, daw'r bachgen yn llawen. Cais neidio dros y pennor, fel cynt, a chlyw boen fawr yn ei ochr, a syrth i lawr.
Druan bach, dyna fo wedi mynd adref!" meddai'r weinyddes, wrth erchwyn y gwely, yn yr ysbyty yn Ffrainc.
Mewn pethau tyner fel hyn yr oedd ei gryfdwr, ond nid oedd heb ryw ysmaldod sych, cyrhaedd gar. Ysgrifennodd amryw nofelau, ond ni chyhoeddwyd yr un ohonynt yn llyfr eto. O wythnos i wythnos, yng nghanol gwaith arall blin a chaled, ac am gyflog bychan, yr ysgrifennai. Odid Gymro o'i oed a sgrifennodd gymaint ag ef, ac y cyhoeddwyd cymaint o'i waith; eto cymharol ychydig a wyddai amdano, hyd yn oed wrth ei enw, canys er maint a sonio'r Cymry am lenyddiaeth werinol a gwerin lenyddol, nid ydynt yn hoff iawn o brynu llyfrau. Achwynai beirniad dysgedig yn ddiweddar na bai ystraeon byrion medrus i'w cael yn Gymraeg. Gofyn iddo a ddarllenasai ef ystraeon Dic Tryfan. Ni chlywsai erioed sôn am ei enw, ac eto y mae Straeon y Chwarel a Thair Stori Fer o'i waith ar y farchnad. Disgwylir i lyfrau Cymraeg ddyfod at y drws i'w gwerthu eu hunain. Cefais lythyr yn ddiweddar, oddi wrth ŵr yn byw mewn tref gwbl Gymreig, yn holi ym mha le y ceid llyfrau Dic Tryfan. Ni wyddai'r "siopwyr" yno ddim am yr awdur na'i lyfrau, na sut yn y byd y cai'r cwsmer druan hyd iddynt. "Dim galw amdanynt!" Ie. Ni byddai alw am y sothach Saesneg sydd yn eu ffenestri chwaith, oni bai ei fod yno i'w greu.
Un o'r dynion caredicaf a wisgodd esgid erioed oedd Dic Tryfan. Yr oedd ganddo ddychymyg hynod fyw—mor fyw, yn wir, fel yr ymrithiai ei ddychmygion fel ffeithiau iddo yn aml; ond ni bu gywirach na diniweitiach dyn erioed. Chwarddai am ben gwendidau dynion—a bu yn y cyfle i weled cryn lawer ohonynt—ond maddeuai'n rhwydd a llwyr.
Yr oedd yn hoff iawn o gerddoriaeth, ond ni sylwais fod ganddo nemor duedd at gelfyddyd o fath yn y byd ond y gelfyddyd lenyddol. Syml dros ben oedd ei arferion. Carai fywyd gwlad—ei bennaf difyrrwch oedd mynd i Aberdaron i fwrw gwyliau, a breuddwydiodd lawer am gael cartref mewn lle felly, a llonydd i sgrifennu wrth ei bwys. Gwelai brydferthwch Natur, er na ddisgrifiai mono cystal o lawer ag y disgrifiai ystum corff dyn neu osgo meddwl. Caffai fawr ddifyrrwch wrth sylwi ar ymddygiadau a dywediadau hogiau bach, a charai adar ac anifeiliaid. Cof gennyf hen gi a fyddai yng Nghaernarfon gynt. Pan glywai hwnnw fiwsig o fath yn y byd, eisteddai yn y fan, codai ei drwyn i'r awyr a dechreuai udo. Wrth ei glywed felly un diwrnod, gofynnais i Ddic Tryfan pa un, dybiai ef, ai hoff ai anhoff oedd ganddo'r sŵn (organ law oedd wrthi ar y pryd, neu ynteu'r hen greadur a fyddai'n canu "The last rose of summer" ar ei gornet, ac yna’n troi'n sydyn at "Wŷr Harlech" pan welai rai ohonom yn dyfod). Ni allai fy nghyfaill f'ateb. Ond cyn pen dwyawr, yr oedd ganddo stori am y ci. "Y Cerddor" oedd ei theitl, a doniol odiaeth ydoedd.
Un o'i hoff gymeriadau oedd "Yr Hen Grydd." Gwelais y gŵr rai troeon, a gwn mor gywir oedd ei lun gan y cyfarwydd. Caech ffilosoffi'r hen ŵr hwnnw mewn brawddegau cwta, hawdd i'w cofio, a gwerth eu cofio. Gwelais mai nid mewn llyfrau yn unig y dysgodd Dic Tryfan ei grefft. Dyna un rheswm ei bod hi cystal. Ysgrifennai Gymraeg pur gywir, ond dysgodd ysgrifennu Saesneg llawn cywirach—peth a ddylai fod o ryw ddiddordeb i'r bobl sy'n sôn byth a hefyd am addysg Cymru, canys os bu Cymro erioed hyd fêr ei esgyrn, ef oedd hwnnw. Dyfynnai ym adroddion diarhebol hen wladwyr syml ond doeth—deallai gymeriad. Gresyn na chawsem ei nofel ar fywyd y gwaith powdr. Tynasai dipyn o'r chwydd o bennau rhai pobl. Wedi llafur maith a chaled, yng nghanol ei ddyddiau, a'i feistrolaeth ar y grefft y daliodd ati drwy bob rhwystr wedi ei hennill, torrodd ei galon garedig ddiniwed. Hyn er cof amdano gan un a'i carai.
- 1921.