Cymru, yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraphyddol Cyf I/Abbatty Cwm Hir
← Cyflwyniad | Cymru, yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraphyddol Cyf I gan Owen Jones (Meudwy Môn) |
Aber → |
GEIRIADUR CENEDLAETHOL
CYMRU:
HANESYDDOL, PARTHEDEGOL, A BYWGRAPHYDDOL.
ABBATTY CWM HIR:—Plwyf, yn cynnwys treflan Cefn Pawl, yn nghantref CEFN LLYS; a threflan Gollon, yn nghantref TREF Y CLAWDD, swydd Faesyfed, Deheubarth Cymru: 6 milldir i'r gog. ddwyr. o Raiadr Gwy.
Cafodd y lle yma ei enw oddiwrth Abbatty a adeiladid yn y llannerch anhygyrch hon gan Cadwallon ab Madoc, yn y flwyddyn 1143; yr hwn ar y dechreu a fwriadai gyfodi mynach-lys digon ehang I gynnwys triugain o frodyr o'r urdd a elwid "Y Cistersiaid[1] ond, nid yw yn ymddangos i'r lle gael ei orphen i'r maintioli hyny byth.
Yr oedd y crefydd-dy yma mewn cwm hynod o gêledig, rhwng mynyddoedd uchel-grib; ac yn cael ei amgylchynu yn yr oesoedd boreuol, gan goedwigoedd mawrion, o hen dderw cauad-frig; fel y cyfrifid y lle yn encilfa dra diogel yn yr amseroedd terfysglyd hyny: ond, yn y flwyddyn 1231, darfu i un o'r brodyr perthynol i'r Mynachdy hwn, achlysuro gorchfygiad gwarchodlu Seisnig Trefaldwyn, gan Llewelyn ab lorwerth, tywysog Gwynedd; trwy roddi cam hysbysiad i'r Saeson am sefyllfa y tywysog Cymreig, a'i fyddin: am ba achos, darfu i'r brenin Harri yr Ail, ar ei ddynesiad gyd a'r fyddin Seisnig, roddi ydlan y Fynachlog ar dân, er dial am fradwriaeth y Mynach; ac efe a fuasai yn llosgi y Fynachlog hefyd, oni buasai i'r Abbad brysuro i ddyhuddo ei ddigofaint, gan dalu tri chant o Farciau,[2] yn lle iawn i'r Brenin.
Cafodd y lle yma ei anrheithio yn dost gan Owain Glyndwr hefyd, yn ei gad-ruthrau gwrhydrus yn erbyn arglwyddi y cyffindiroedd: ac ar ddad-gorphoriad y mynachlogydd yn amser HARRI YR WYTHFED, ni chynnwysai y frawdoliaeth grefyddol yn y lle hwn, namyn tri mynach, a'u gweinidogion; a chyllid y Tŷ a gyfrifid yn £28, 17s. 4d.
Yn y flwyddyn 37 o deyrnasiad Harri VIII., dyroddwydy lle i Walter Henley, a John Williams; ac wedi hyny daeth i feddiant tylwyth y Fowlers, trwy bryniad mae yn debyg; ac y mae yn nghangell yr eglwys bresenol ddau o gof-feini; un i Syr Hans Fowler; a'r llall, i aelod arall o'r un tylwyth. Daeth yr ettifeddiaeth wedi hyny i feddiant Thomas Wilson, Ysw., trwy bryniad; ac efe a adeiladodd yma balas bychan hardd, il defnyddiau a gymerasid gan mwyaf o adfeilion yr hen Abbatty. Mae yr hen adfeilion a adawwyd, yn gynnwysedig gan mwyaf o ddarnau o bedwar mur-adail ehang, 238 tr. o hyd, wrth 64 tr. o led, ac yn amrywio mewn uchder, o bedair, i ddeuddeg troedfedd uwchlaw wyneb y ddaiar: a bernir mai gweddill mûr yr eglwys yw hwn; ond y mae y lluaws drylliau o feini naddedig, a ganfyddir yn amgylchoedd yr adfeilion hyn, yn brofion digonol, fod yma adeilad ysplenydd unwaith; a chesglir fod yr holl adeiladau perthynol i'r crefydd-dy hwn, pan oedd efe yn ei rwysg, yn gorchuddio erw o dir o leiaf.
Wedi chwalu yr hen Fonachlog, cyfodwyd addoldy bychan yn agos i'r fan lle y safai; yr hwn, fel yr hen eglwys, a gyflwynid i'r Forwyn Fair; ond a elwid gan y cyffredin ar y cyntaf,—"Capel yr Abbatty;" a hyd yn ddiweddar fe'i hystyrid fel Capel cynnorthwyol, yn perthyn i blwyf Llanbister: ond, yn bresenol, fe'i cyfrifir megis plwyf gwahanol. Curadiaeth wastadol yw y fywioliaeth eglwysig, yn Archddiaconiaeth Brycheiniog ae Esgobaeth Tŷ Ddewi.
Y mae y Carneddau perffeithiaf sydd o fewn swydd Faesyfed, yn agos i Abbatty Cwm Hir, ac ar Fryn Gwastedyn, yn agos i'r Rhaiadr. Y carneddau hyn a gyfodid yn aml gan y Cymry ar gyrph eu hennaethiaid, yn y fan lle y cwympent yn lladdedig yn y frwydr: maintioli carnau o'r natur yma, sydd yn gyffredin tua 60 troedfedd o dryfesur; a thua 7 troedfedd o ddyfnder yn y canol; ac oddi tan y canol, y mae gweddillion y trancedig yn gorwedd mewn math o arch-faen yn gyffredin; neu ar un cyfnod llosgid y corph, a chesglid y lludw yn ofalus i briddlestr. yr hwn a roddid mewn cell o lechfeini, er ei gadw rhag ei chwilfriwio; yna crynhoid carn arno.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Cyfodwyd yr urdd hwn gan Robert, Abbad Molême, yn Ffrainc yr hwn o'r blaen n berthynai i urdd y Myneich duon, y rhai a elwir Benedietaid. Y Robert uchod, gan chwenychu dyfod dan ddysgyblaeth fwy tostlym, a gafodd ganiatad y Pab i dori yr addunedau a wnelsaai efe fel Bentdietiad, ac ymgymeryd a rhai llymach: yna efo a ymneillduodd. ac un ar hugain o fyneich i'w ganlyn, i goedwig Citeaux, neu, fel ei hysgrifenid gynt, Cisteaux, ac yn Lladin, Cistercium, lle yr adeiladodd efe abbatty ac eglwys: ac efo a etholwyd yn abbad cyntaf yr urdd newydd yma. Gelwid yr urdd yma weithiau "Y Bernadiaid oddiwrth St. Bernard, abbad Clairvaux, yr hwn a fu yn Ddiwygiwr enwog yn eu mysg: ac weithian ''Y myneich gwynion;" am yr arferent wisgo math o fantell wen pan yn gwasanaethu; ond pan elent oddiallan y crefydd-dy gwisgent wisg ddu.
- ↑ Yr oedd Marc Seisnig yn werth 13s 4c