Cymru, yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraphyddol Cyf I/Cyflwyniad

Oddi ar Wicidestun
Rhestr o Ddarluniau Cymru, yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraphyddol Cyf I

gan Owen Jones (Meudwy Môn)

Abbatty Cwm Hir

CYMRU:

YN HANESYDDOL, PARTHEDEGOL, A BYWGRAPHYDDOL.

DAN OLYGIAD Y

PARCH. OWEN JONES.

YN CAEL EI GYNNORTHWYO GAN Y

  • PARCH. J. EMLYN JONES, LL.D.
  • PARCH. J. SINTHER JAMES.
  • PARCH. RICHARD PARRY (GWALCHMAI).
  • Parch. ROBERT ELLIS (CYNDDELW ).
  • PARCH. WM. REES, D.D. , LIVERPOOL.
  • PARCH WM. DAVIES, D.D., BANGOR.
  • PARCH. THOMAS REES, D.D. , ABERTAWE.
  • PAROH. DANIEL ROWLAND , M.A.
  • PARCH. E. STEPHEN.
  • PARCH. THOMAS LEVI, ABERTAWE.
  • "DAFYDD MORGANWG."
  • PARCH. ROGER EDWARDS.

AC AMRYW RAILL.

AMCAN Golygydd y Gwaith hwn ydyw cyflawn gyfarwyddyd cyffredinol ar bob peth o ddyddordeb dwfn mewn cyssylltiad â'r Dywysogaeth, yn y dosbarth-ranau o Hanesyddiaeth, Parthedegaeth, a Buch-draithyddiaeth.

HANESYDDIAETH.—Cynnwysa erthyglau cryno a dyddorol ar yr holl amgylchiadau mwyaf nodedig yn Hanesiaeth Wladol a Milwraidd, Crefyddol a Chymdeithasol y Wlad; ac yn wasgaredig trwy y rhai hyn, neu dan benau annibynol, rhoddir mynegiadau helaeth am Frwydrau, Cylafareddau, Henafiaetbau, Defodau ac Arferion, Iawnderau a Rhagor-freintiau, Sefydliadau Cyhoeddus, Urddasau ac Uchel-swyddau, Gwladol ac Eglwysig—mewn gair, pob peth pwysig sydd yn cyfansoddi yr hyn a elwir yn gyffredinol-HANESYDDIAETH.

PARTHEDEGAETH-Rhoddir darluniad ar wahan o'r holl wledydd, Dinasoedd, Bwrdeis-drefi, a Threfi Corphoriaethol a Marchnadol, Plwyfau, Capeliaethau, a Thref-lanau; ac mewn cyssylltiad a'r rhai hyn, rhoddir eglurhad ar y lluaws Gweddillion Henafiaethol a ffurfiant arweddau mor nodedig mewn llawer parth o'r wlad, ac o amgylch pa rai y cyd ymdyrra adigofion, o ddyddordeb lleol a chyffredinol tra mawr;-o'r cyfryw y mae Meini Derwyddol, Hen Gladdfeydd, Amddiffynfeydd, Cestyll, Gwersylloedd, Mynachlogydd, Palasau, &c.

BUCH-DRAITHYDDIAETH. —Y mae Cymru yn oludog yn ei Henwogion, y rhai a addurnasant ei brutiau ar y Maes ac yn y Cynghor-lys, yn yr Eglwys a'r Wladwriaeth; ac yn llwybrau Llenoriaeth, yn arbenig mewn Barddoniaeth a Cherddoriaeth. Rhoddir hysbysrwydd am y rhai mwyaf enwog o'r rhai hyn; ac am hen Deuluoedd Pendefigaidd y Genedl a'u Trâs.

Hyderir y gellir cynnyrchu Gwaith, yn ol y cynllun uchod, a werthfawrogir, nid yn unig gan bob un yn y Dywysogaeth, ond hefyd gan bawb sydd yn gyfarwydd â'r yr hen iaith Gymraeg.

Y mae y Golygydd wedi bod yn ddiwyd yn casglu defnyddiau at y cyfryw Waitb a hwn yn ei deithiau drwy hyd a lled y Dywysogaeth, dros lawer o flyneddoedd; ac yn ffodus, y mae efe wedi llwyddo i sicrhau cynnorthwy amryw o Lênorion blaenaf y Genedl, megis y Parch. J. Emlyn Jones, LLD., Parch. Richard Parry (Gwalchmai), Parch. Roger Edwards, Wyddgrug, Parch. Robert Ellis (Cynddelw), Parch. Daniel Rowland, M.A., Parch. E. Stephen, Parch. J. Spinther James, Parch. William Rees, D.D., Liverpool, Parch. William Davies, D.D., Bangor, Parch. Thomas Rees, D.D., Abertawe, Parch. Thomas Levi, Abertawe, "Dafydd Morganwg." &c, &c., &c., fel y mae efe yn dra hyderus y bydd y Gwaith hwn, yr hwn a drefnir yn wyddorawl, yn deilwng o gael ei alw, "GEIRIADUR CENEDLAETHOL CYMRU."

Addurnir y Gwaith â Mapiau o bob un o'r Siroedd; ac â Map cyffredinol o Gymru; ac â Darluniau o leoedd pwysig yn y Dywysogaeth; a chyrhaedda i tua 22 o ranau, 2 swllt yr un.

—————————————

LLUNDAIN:

BLACKIE A'I FAB, PATERNOSTER BUILDINGS, E.C.;

GLASGOW AC EDINBURGH.

WALES,

HISTORICAL, TOPOGRAPHICAL, AND BIOGRAPHICAL

EDITED BY THE

REV. OWEN JONES.

ASSISTED BY


  • Rev. J. EMLYN JONES, LL.D.
  • Rev. J. SINTHER JAMES.
  • Rev. RICHARD PARRY (GWALCHMAI).
  • Rev. ROBERT ELLIS (CYNDDELW ).
  • Rev. WM. REES, D.D. , LIVERPOOL.
  • Rev WM. DAVIES, D.D., BANGOR.
  • Rev. THOMAS REES, D.D. , ABERTAWE.
  • PAROH. DANIEL ROWLAND , M.A.
  • Rev. E. STEPHEN.
  • Rev. THOMAS LEVI, ABERTAWE.
  • "DAFYDD MORGANWG."
  • Rev. ROGER EDWARDS.

THE aim of the Editor of this work is to produce a complete book of general reference on all matters of chief interest connected with the Principality in the departments of History, Topography, and Biography.

HISTORY.—It will contain concise and interesting articles on all the prominent events in the Civil and Military, Religious and Social History of the Country; and interspersed through these, or under independent headings, full and ample notices of Battles, Treaties, Antiquities, Manners and Customs, Rights and Privileges, Public Institutions, Dignities, Civil and Ecclesiastical—in short, all important matters which go to form the sum of what is usually called HISTORY.

TOPOGRAPHY.—The Counties, Cities, Boroughs, Corporate and Market Towns, Parishes, Chapelries, and Townships, will each be described separately ; and along with them will be given notices of the Ancient Remains, which form marked features in many parts of the country, and around which cluster associations of great local and general interest, such as Druidical Stones, Barrows, Forts, Castles, Camps, Abbeys, Mansions, &c.

BIOGRAPHY—Wales is rich in Worthies who have adorned her annals by their eminence on the Field and in the Cabine; in the Church and in Civil Life, and in the walks of Literature, more especially in Poetry and Song. Notices of the most eminent of these will be given, and also of the principal Families, and of the Old Welsh Nobility and their Pedigrees.

It is hoped by these means to produce a Work which will be prized, not only by every one in the Principality, but by all who are acquainted with its ancient Celtic tongue.

The Editor has been diligently preparing materials for such a Work as this, in his travels through the length and breadth of the Principality, and he has fortunately secured the assistance of several Welshmen of highest literary fame, such as the Rev. J. Emlyn Jones, LL.D., Rev. Richard Parry (Gwalchmai ), Rev. Roger Edwards, Rev. Robert Ellis (Cynddelw ), Rev. Daniel Rowland, M.A., Rev. E. Stephen, Rev. J. Spinther James, Rev. William Rees, D.D., Liverpool, Rev. William Davies, D.D. , Bangor, Rev. Thomas Rees, D.D., Swansea, Rev. Thomas Levi, Swansea, "Dafydd Morganwg," &c. , &c., &c., so that he is confident the present Work, which will be arranged alphabetically, will be worthy of being called a "NATIONAL DICTIONARY OF WALES."

The Work will be illustrated by Maps of each of the Counties, and a General Map of Wales, and by Views of important Places in the Principality ; and will extend to about 22 parts, price 2s each.

—————————————

LONDON:

BLACKIE & SON, PATERNOSTER BUILDINGS, E.C.

GLASGOW AND EDINBURGH