Cymru Fu/300 o Ddiarhebion Cymreig

Oddi ar Wicidestun
Priodas yn Nant Gwtheyrn Cymru Fu
300 o Ddiarhebion Cymreig
gan Isaac Foulkes

300 o Ddiarhebion Cymreig
Robin Ddu Ddewin

300 O DDIAREBION CYMREIG.

  • PECHODAU athrawon ydynt athrawon pechodau.
  • A ddysger i fab ddydd Sul ef a'i gwybydd ddydd llun.
  • Gwna dda ni waeth i bwy.
  • Nid oes dŷ heb ei gyfrinach.
  • Gwell myn'd i gysgu heb swper na deffro mewn dyled.
  • Allwedd tlodi, seguryd.
  • A hauo ddrain na fydded droed-noeth.
  • Ni thỳr dyrnod gwrach yr un asgwrn.
  • Ni chêl grudd gystudd calon.
  • Y groes waethaf yw bod heb yr un.
  • Ar ni phortho gath porthed lygod.
  • A wnel Duw a farn dyn.
  • A wnel dyn Duw a'i barn.
  • A wnel dwyll a dwyllir.
  • Nid twyll twyllo twyllwr.
  • Balchder heb droed (h.y. heb foddion i'w borthi.)
  • Po tynaf bo'r llinyn cyntaf oll y tỳr.
  • Breuddwyd gwrach yn ol ei hewyllys.
  • Cadarnach yr edef yn gyfrodedd nag yn ungor.
  • Cyfaill blaidd bugail diog.
  • Cyn fynyched yn y farchnad, croen yr oen a chroen y ddafad.
  • Cynt y cyferfydd dau ddyn na dau fynydd.
  • Câr cywir, mewn ing ei gwelir.
  • Asgre lân diogel ei pherchen.
  • Dadleu mawr yn nghylch cynffon llygoden.
  • Deuparth gwaith yw ei ddechreu.
  • Digrif gan bob aderyn ei lais ei hun.
  • Dyled ar bawb ei addewid.
  • Duw a ran yr anwyd fel y rhan y dillad.
  • Da gan y gath bysgod, eithr nid da ganddi wlychu ei throed.
  • Ewyn dwfr ydyw addewid mab.
  • Aelwyd ddiffydd, aelwyd ddiffaeth.
  • Daw hindda -wedi dryghin.
  • Goganu'r bwyd a'i fwyta.
  • Goreu canwyll pwyll i ddyn.
  • Goreu meddyg, meddyg enaid.
  • Gwae a gâr ac nis cerir.
  • Gwae a gaffo ddrygair yn ieuanc.
  • Gwae y dyn a wnel gant yn drist.
  • Gwae'r anifail nid edwyn ei berchen.
  • Gwell cariad y ci na'i gâs.
  • Gwell bodd pawb na'i anfodd.
  • Y ci a gysgo a newyna, y ci a gerddo a geiff.
  • Gwell Duw yn gâr na holl lu daear.
  • Gwell hir weddwdod na drwg briod.
  • Gwell marw na hir nychdod.
  • Gwell pwyll nag aur.
  • Gwell synwyr na chyfoeth.
  • Gwell un hwde na dau addaw.
  • Gwell y wialen a blygo na'r hon a doro.
  • Gwerthu mêl i brynu peth melus.
  • O bob cwr i'r awyr y chwyth y gwynt y daw y gwlaw.
  • Oed y dyn ni chanlyn y da.
  • O flewyn i flewyn yr â'r pen yn foel.
  • O lymaid i lymaid y derfydd y cawl.
  • Po mwya'r brys mwya'r rhwystr.
  • O gywirdeb ei galon y llefara'r gwirion.
  • Oni byddi gryf bydd gyfrwys.
  • O Sul i Sul yr â'r forwyn yn wrach.
  • Oni heuir ni fedir.
  • Hir yr erys Duw cyn taro, ond llwyr y dial pan y delo
  • Pawb drosto ei hun a Duw tros bawb.
  • Pob cadarn gwan ddiwedd.
  • Po mwyaf y llanw mwyaf y trai.
  • Ni thycia ffoi rhag angau.
  • Rhaid cropian cyn cerdded.
  • Rhy lawn a gyll.
  • Rhy uchel a syrth.
  • Tafl â'th unllaw, casgl â'th ddwylaw.
  • Trech anian na dysg.
  • Trech gwlad nag arglwydd.
  • Trydydd troed i hen ei ffon.
  • Y cynta' i'r felin geiff falu gynta',
  • Cyntaf ei ôg cyntaf ei gryman.
  • Y gath a fedd groen da a flingir.
  • Yn mhob gwlad y megir glew.
  • Yn mhob rhith y daw angau.
  • Wrth geisio y blewyn glas y boddodd y gaseg.
  • Y neb a fo a march ganddo a geiff farch yn menthyg
  • Yn y croen y genir y blaidd y bydd efe marw.
  • Hysbys y dengys y dyn o ba radd y bo'i wreiddyn.
  • Yr aderyn a enir yn uffern, yn uffern y myn drigo.
  • Hawdd cyneu tân ar hen aelwyd.
  • Hawdd yw digio dig.
  • Hawdd peri i foneddig sorri.
  • Haws dywedyd mynydd na myn'd trosto.
  • Heb Dduw, heb ddim.
  • Duw, a digon.
  • Lle caffo Cymro y cais.
  • Nid da rhy o ddim.
  • Nid wrth ei big y mae prynu cyffylog.
  • Nid yn y bore y mae canmol diwrnod teg.
  • Ni fu Arthur ond tra fu.
  • Nid oes allt heb oriwaered,
  • Y maen a dreigla ni fwsogla.
  • Ni châr buwch hesp, lo.
  • Ni cheir afal sur ar bren pêr.
  • Ni cheir da o hir gysgu.
  • Ni cheir gan lwynog ond ei groen.
  • Gwell câr yn y llys nag aur ar fys.
  • Gwae a ymddiriedo i estron.
  • Gwaethaf celwydd celu rhin.
  • Nac addef dy rin i was.
  • Goreu cynydd, cadw moes.
  • Hir y cnoir tamaid chwerw.
  • Wrth anmhwyll pwyll sydd oreu.
  • Ni bydd cyttun hûn a haint.
  • Gwae'r wraig a gaffo ddrygwr
  • Gwae'r gŵr a gaffo ddrygwraig.
  • Edifeirwch y gŵr a laddes ei filgi.
  • Hwyr hen a hawdd ei orddiwes.
  • Ni bydd doeth yn hir mewn llid.
  • Yn mhob dirgelwch Duw a fydd.
  • A fyno Duw a fydd.
  • Gwaethaf anaf yw drygfoes.
  • Pe traethai'r tafod a wypai, ni byddai'n gymydogol neb rhai.
  • Diwedd lleidr cael gwarth.
  • Duw a phob daioni.
  • Och! rhag gelyniaeth brodyr.
  • Celfydd, celed ei arfaeth.
  • Nis gwyr dyn beth yw ei ddamwain.
  • Pwy wyr ddamwain mab wrth feithrin?
  • O bob crefft a phob campau, gweddio Duw sydd oreu.
  • Gwell goddef cam na'i wneuthur.
  • Nid da gwylder mewn eisiau.
  • Anaml elw heb antur.
  • Nid oes gŵyl rhag rhoi elusen.
  • Gwell yw crothell bach mewn llaw, na gleisiad a fo'n nofiaw.
  • Hardd ar ferch bod yn ddystaw.
  • Hardd ar fab ymgellweirio.
  • Clydwr dafad yw ei chnu.
  • Gwynfyd herwr yw hirnos.
  • Adar o'r unlliw a hedant i'r unlle.
  • A Duw nid da ymdaraw.
  • A ddyco ŵy a ddug a fo mwy.
  • Da rhoes Duw'n ddiamheu, gorn byr i'r fuwch a'i hwyliai.
  • Dysgu'r doeth â gair, dysgu'r ffol â gwiail.
  • Hir pob aros.
  • Na phryn gath mewn cŵd.
  • Ni thawdd dyled wrth ei ohirio.
  • Ni thores Arthur nawdd gwraig (ei thafod).
  • Ni thynaf ddraen o droed arall, a'i rhoddi yn fy nhroed fy hun.
  • Ni wich ci er ei daro âg asgwm.
  • Ni wna'r llygoden ei nhyth yn llosgwrn y gath. *Ni wyddis werth y ffynon hyd onid elo'n hesp.
  • Namyn Duw nid oes dewin.
  • Nes penelin na garddwrn.
  • Ni bydd dialwr diofn.
  • Ni ddaw drwg i un na ddaw da i arall.
  • Nid all neb ochel tynged.
  • Yr hwn ni lafuria ac ni weddia, nid teilwng iddo'i fara.
  • Ni lwydd eiddo anonest.
  • Ni thyfa egin mewn marchnad.
  • Gwyn y gwêl y frân ei chyw, er fod ei liw yn loywddu.
  • Nid hawdd chwythu tân a blawd yn y genau.
  • Nid oes ar uffern ond eisiau ei threfnu.
  • Ni raid cloch wrth wddf ynfyd.
  • Y cyfoeth goreu yw iechyd.
  • Glanaf o bawb y pysg.
  • Ochenaid Gwyddno Garanhir pan droes y dôn ei dir.
  • Gwaith byrbwyll nid gwaith ystyrbwyll.
  • Y felin a fâl a fỳn ddwfr.
  • Y naill wenwyn a ladd y llall.
  • Nid ar redeg y mae aredig.
  • Hwy pery llid na galar.
  • Hawdd clwyfo claf.
  • Hen bechod a wna gywilydd newydd.
  • Hiraeth am angau ni weryd.
  • Adwyog cae anhwsmon.
  • Addas i bawb ei gydradd.
  • Addaw teg a wna ynfyd yn llawen.
  • A ddwg angau nid adfer.
  • A êl i chware' gadawed ei groen adre'.
  • Aelwyd a gymhell.
  • Po agosaf i'r eglwys, pellaf o Baradwys.
  • Y goreu mewn rhyfel fydd ddyogelaf mewn heddwch.
  • A fydd ddigywilydd a fydd ddigolled.
  • Trechaf treisied, gwanaf gwaedded.
  • A fyno glod bid farw.
  • Gair Duw yn uchaf.
  • A gyniler a geir wrth raid.
  • Allan o olwg, allan o feddwl.
  • Aml bai lle ni charer.
  • Amlwg gwaed ar farch gwelw.
  • Amlwg cariad a châs.
  • Angel penffordd a diawl pen pentan.
  • A ogano a ogenir.
  • Arwydd ddrwg mwg mewn diffaethwch.
  • Annoeth llithrig ei dafod.
  • Boed lyfn dy weddïau, boed rydlyd dy arfau.
  • Po amlaf fo'r bleiddiau, gwaethaf fydd i'r defaid.
  • Can' câr fydd i'r dyn a chan' ŷch.
  • Nid dyddan gwrando caswir.
  • Câs gŵr ni charo'r wlad a'i macco.
  • Bibl i bawb o bobl y byd.
  • Chwareu ac na friw, cellwair ac na chywilyddia.
  • Chwerthin a wna ynfyd wrth foddi.
  • Dangos nef i bechadur.
  • Da yw'r maen gyda'r Efengyl.
  • Deuparth ffordd ei gwybod.
  • Dibech fywyd gwyn ei fyd.
  • Drwg y ceidw diafol ei was.
  • Edifar cybydd am draul.
  • Nid oes dim heb allu.
  • Er heddwch, nac er rhyfel, gwenynen farw ni chasgl fêl.
  • Gadael ein nos waethaf yn olaf.
  • Wedi rhodio gwlad a thre', teg edrych tuag adre'.
  • Gwell aderyn mewn llaw na dau mewn llwyn.
  • Gormod esmwythder sydd anhawdd ei drin.
  • Gwell am y pared â dedwydd nag am y tân â diriaid.
  • Gwell chwareu nag ymladd.
  • Gwell dyn drwg o'i gospi.
  • Gwell cysgu ar wellt nag ar y llawr.
  • Gwell gwegil câr nag wyneb estron.
  • Gwell gŵr o'i barchu.
  • Gwell gwraig o'i chanmol.
  • Gwell i ddyn y drwg a wyr na'r drwg nis gwyr.
  • Gwell migwrn o ddyn na mynydd o wraig.
  • Gwell nâg nag addaw ni wneir.
  • Gwell-well hyd farf, gwaeth-waeth hyd farw.
  • Gwerthu cig hwch, a phrynu cig moch.
  • Diniwaid pawb yn ol ei chwedl ei hun.
  • Gwna dda am ddrwg ac uffern ni'th ddwg.
  • Hael Hywel ar bwrs y wlad.
  • Hardd pob newydd.
  • Hwy pery clod na golud.
  • I'r pant y rhed y dwr.
  • Lle ni bydd dysg ni bydd dawn.
  • Fel y dyn felly ei anifail
  • Mam ddiofal a wna merch ddiog.
  • Melys bys pan losgo.
  • Mwy nag un ci a'm cyfarthodd I.
  • Cludo dwfr mewn gogr,
  • Mynych y syrth mefl o gesail.
  • Heb ei fai heb ei eni.
  • Nid rhodd, rhodd, oni bydd o fodd.
  • Myn'd i gysgu 'run pryd â'r fuwch, a chodi gyda'r hedydd.
  • Ni wyr, ni ddysg; ni ddysg, ni wrendy.
  • Nerth eryr yn ei ylfin.
  • Nerth unicorn yn ei gorn.
  • Nerth sarph yn ei cholyn.
  • Nerth hwrdd yn ei ben.
  • Nerth arth yn ei phalfau.
  • Nerth ci yn ei ddant.
  • Nerth tarw yn ei ddwyfron.
  • Nerth ysguthan yn ei hadenydd.
  • Nerth gwraig yn ei thafod.
  • Ni ddaw henaint ei hunan.
  • O flewyn i flewyn yr â'r pen yn wyn.
  • O ddau ddrwg dewis y lleiaf.
  • Paham y llyf ci y maen? am nas gall ei gnoi.
  • Po cyfyngaf gan ddyn, eangaf fydd gan Dduw.
  • Pob diareb gwir, pob coel celwydd.
  • Ei le i bob peth a phob peth. yn ei le.
  • Po dyfnaf y môr, dyogelaf fydd i'r llong.
  • Pryn hen pryn eilwaith.
  • Rhoi'r càr o flaen y ceffyl.
  • Rhoi'r dorth a gofyn y dafell.
  • Trech gwan arglwydd na chadarn was.
  • Tyf y baban ac ni thyf ei ddillad.
  • Uchenaid gwrach ar ol eu huwd.
  • Unllygeidiog -wna frenin yn ngwlad y deillion.
  • Uwch pen na dwy ysgwydd.
  • Gwyneb trist drwg a'i herys.
  • Y ci y myner ei grogi dyweder ei fod yn lladd defaid.
  • Un yn ceisio ei gaseg a'i gaseg dano.
  • Y llaw a rydd a gynull.
  • Yn mhob clefyd y mae perygl.
  • Yr hoedl er cyhyd ei haros, & dderfydd yn ddydd ac yn nos.
  • Yr oen yn dysgu i'r ddafad bori.
  • Hwde i ti a moes i minau.
  • Anghall fel dall a dwyllir.
  • Angen a ddysg i hen redeg.
  • Drwg yw drwg a gwaeth yw gwaethaf.
  • Hir yw'r ffordd ni cherddwyd ond unwaith.
  • Drych i bawb ei gymydog.
  • Adwaenir y dyn wrth ei waith.
  • Y mae gobaith o alltudiaeth, nid oes gobaith o fedci.
  • Pob peth a ddaw trwy'r ddaear ond y marw mawr ei garchar.
  • Gwell gochel ymryson na'i ddial.
  • Gwell gwir na chelwydd.
  • Gwell tewi na dywedyd drwg.
  • Hawdd cymod lle bo cariad.
  • Melys, moes mwy.
  • Ceiniog a enillir ydyw'r geiniog a gynilir.

CAS BETHAU GWYR RHUFAIN:

  • Brenin heb ddoethineb
  • Marchog heb brofedigaeth.
  • Arglwydd heb gynghor
  • Gwraig heb feistroliaethwr
  • Cyffredin heb gyfraith
  • Gwasanaethwr heb ofn
  • Tlawd balch
  • Cyfoethog di-elusen
  • Ustus heb gyfiawnder
  • Esgob heb ddysg
  • Henddyn heb ddwyfoldeb
  • Ieuanc heb ostyngeiddrwydd
  • Doeth heb weithredoedd da.

DIAREBION AMAETHYDDOL

.
  • lonawr a dery i lawr.
  • Chwefror chwyth ni chwyd neidr oddiar ei nyth.
  • Mawrth a ladd.
  • Ebrill a fling.
  • Ebrill garw parchell marw.
  • Haid wenyn os yn Mai ei cair,
    A dalant lwyth wyth ŷch o wair.
  • Da haid Mehefin os da ei hoen,
    Am haid Gorphenaf ni rown ffloen.
  • Os yn mis Chwefror y tyf y pawr (porfa),
    Trwy'r flwyddyn wed'yn ni thyf e' fawr.
  • Os yn Mawrth y tyf y ddol,
    Gwelir llawndra ar ei ol.
  • Mis Mai oer a wna'n ddi-nâg
    'Scubor lawn a mynwent wâg.
  • Gwell gwel'd dodi mam ar elor
    Na gwel'd hinon deg yn Ionor.
  • Haid o wenyn yn Ngorphenaf
    Had rhedynen ei phris penaf.
  • Blwyddyn gneuog, blwyddyn leuog.
  • Gwanwyn a gwawn, llogell yn llawn.
  • Mai gwlybyrog gantho cair
    Llwythi llawn o ŷd a gwair.
  • Haner Medi yn sych a wna
    Seler lawn o gwrw da.


Nodiadau[golygu]