Cymru Fu/Priodas yn Nant Gwtheyrn

Oddi ar Wicidestun
Sôn am Ysprydion Cymru Fu
Priodas yn Nant Gwtheyrn
gan Isaac Foulkes

Priodas yn Nant Gwtheyrn
300 o Ddiarhebion Cymreig

PRIODAS YN NANT GWRTHEYRN.

Os bydd gan rywun eisiau gweled natur yn ei gwylltineb aruthr ac anngboeth, safed ar ben Craig y Llam — clogwyn anferth o fynyddoedd Eryri sydd yn gwallgof wthio ei drwyn i fôr lwerddon. Safed a'i wyneb tua'r môr, ac o'r tu cefn iddo bydd moelydd uchel yr Eifl, cribau y rhai a amgylchynir yn fynych gan gymylau; o'i flaen, yr eigion eang, yn ymgollli yn y gorwel las; odditano, y Graig erchyll amryw ugeiniau o latheni o ddyfnder, ac astellau culion ar hyd-ddi lle y bydd adar y môr yn eu hamser yn dodwy a deor, a'r lle y collodd aml un ei fywyd wrth ddringo i yspeibo y pethau gwirion o'u trysorau cywrain. Os gall efe daflu cipdrem tros ymyl y geulan ofnadwy hon, neu wrando'n ddiarswyd am bum mynyd ar ruad y tônau yn yr ogofau mawrion a gafniwyd ganddynt o dan y graig, y mae ganddo ewynau gwerth eiddigeddu wrthynt. Ar un llaw iddo bydd nentydd a moelydd, moelydd a nentydd, diddiweddd sir ramantus Caernarfon; ar y llall, glyn dwfn, fel pe buasai'r elfenau tanddaearol yn rhyw gyfnod bore wedid adwreiddio llosgfynydd o'r fan, a'i hyrddio wraidd ac oll i ganol yr eigion, gan adael NNT GWRTHEYRN yn engraifft o nerth y llaw Hollalluog oedd yn eu llywio.

Saif y Nant bon tua haner y ö'rodd rhwng Clynog Fawr a Nefyn. Amgylchynir dwy ochr ohoni gan elltydd caregog a serth, lle ni thyf dim ond grug egwein, eithin haner crispiedig, a chorachod o goed cyll, gwreiddiau y rhai a afaelant am eu bywyd yn y graig odditanynt rhag iddynt syrthio i lawr y goriwaered; ac ar y ddwy ochr arall gan Graig y Llam, a'r môr — yr hwn sydd yn golchi ei godreu ac yn yfed ei chornant fechan. Yna, medda'r hanes, yr ymneillduodd yr ben deyrn Prydeinig Gwrtheyrn rhag ofn ei ddeilaid, wedi iddo'n fradwrus ollwng eillion i feddiant ar lywodraeth Ynys Prydain; ac er hyny allan, ar ei enw ef y cyfenwir y Nant; ac yma y dybenwyd ei fywyd anfad gan fellten, yr hon a darawodd ei gastell, a syrthiodd yntau ei hun yn yr adfeilion. Dy wed Nennius "Iddo trwy ei fywyd afradlon dynu gwg y mynachod, ac iddynt hwythau benderfynu na chai farw fel y cyffredin o blant dynion; ac o ganlyniad, parasant iddo drengu tan arwyddion amlwg o ddigofaint y Nefoedd." Ar ganol y Nant, yn agos i'r môr, y mae bryn bychan naturiol, ond ei ben a'i amgylchedd yn dwyn ol llaw celfyddyd; ac yma, medd traddodiad, y safai hen amddiffynfa. Yr oedd yma hefyd domen o geryg wedi ei gorchuddio gan dywyrch a adwaenid o oes i oes wrth yr enw Bedd Gwrtheyrn; a phobl chwilfrydus yr ardal, tua dechreu y gannf ddiweddaf, a diriasant i'r domen hon, a daethant o hyd i arch yn cynwys esgyrn dyn tâl iawn, a phenderfynent eu bod yn perthyn i neb llai na'r hen frenin. Parodd hyn i lawer gredu fod gwir yn y traddodiad; a daeth lluaws mawr o ddyeithriaid i weled y Bedd, ac i syllu âr urdduniant y llanerch ddiddrain ac annghysbell hon.

Ond mor neillduedig y fan, yr oedd dau o deuluoedd yn preswylio yno, mewn dau fwthyn a safent gyferbyn a'u gilydd, un o bob tu i'r cornant— bythynod gwyngalchog oeddynt, tô gwellt, a gwedd oedranus arnynt oddiallan; gyda gerddi bychain o'u blaen lle byddai'r gwenyn diwyd yn yr haf yn casglu eu lluniaeth erbyn y gauaf, o flodeu'r pytatws. y briallu, a'r crinllys. Ac yr oedd preswylwyr y bythynod yn cymeryd gwersi oddiwrth y gwenyn — tŷ, a, gardd, a fferm fechan, trefnus; a diwydrwydd a rhag ddarbodaeth oeddynt eu nodweddiadau arbenig. Yr oedd y ddressar dderw fawr, a'r dysglau piwtar, yn y naill fwthyn fel y llall, yn loyw fel y ffrwd dryloyw; a'r ardd, a'r deisi bychain o ŷd a mawn, yn drefnus odiaeth, ac ystyried hefyd nad oedd eu taclusrwydd i foddio neb bron ond llygaid pobl Nant Gwrtheyrn yn unig. Ar fin y ffordd fawr a'r llwybr cyhoeddus y bydd y ffermwyr yn caru dangos ei hwsmonaeth; lle byddo ei daclusrwydd yn debyg o gael ei ganmol gan eraill.

Gant a haner o flynyddau yn ol, preswylid y bythynod hyn gan ddau deulu o'r enw Meredydd; un ohonynt gan Rhys Meredydd a'i ddwy chwaer — plant amddifaid; a'r llall gan Ifan Meredydd, hen ŵr gweddw, a'i unig blentyn Meinir Meredydd. yr oedd tadau y plant hyn yn ddau frawd, a'r ddau frawd hyn, trwy eu hynafiaid, oeddent feddianwyr y Nant oll, gyda'i chlytiau o ŷd-dir a'i gweirgloddiau bychain. Llanc gwridcoch, unionsyth, a hardd, oedd Rhys, eithr gwylaidd fel plentyn; a morwyn landeg, luniaidd, o duedd feddylgar a phrudd, oedd Meinir. Yr oedd unigedd tawel y golygfeydd o'i deutu wedi gwneud delw ohonynt eu hunain ar ei meddwl hithau — eangder y môr ar y naill ochr, a mawredd y mynyddau ar y llall; heb gyfeillesau ond ei dwy gyfnither, y rhai oeddynt afiach; y cyfan gyda'u gilydd yn dylanwadu ar feddwl llariaidd y wyryf swyngar, nes y teimlai ei hunan fel pe buasai mewn crefydd-dŷ, yn nghanol mynyddau, gyda'i fiwsig sobr, a chwiorydd wyneb-lwydion. Yr oedd Rhys a Meinir tua'r un oed, ond efe flwyddyn yn hŷn. Yr oeddynt yn cyd-chwareu hyd y perthi, yn cyd-ymdaith tua chyflawn faintioli; yn gyfeillion mawr pan yn blant, a phan aeth dyddiau plentyndod heibio, graddol a greddfol aeddfedodd eu cyfeillgarwch yn GARIAD — yn gariad disigl fel Craig y Llam, pur fel yr awel ar ei chopa, a chryf fel y môr ar dymhestl wrth ei godreu. Yn eu byd bychan hwy, nid oedd neb i ladratta serch y naill oddiar y llall — dim lle i eiddigedd roddi ei droed ysgymun i lawr, ac yr oedd pob peth yn rhagargoeli y terfynasai'r garwriaeth mewn glân ystâd briodas. Nid oedd dadl am gywirdeb dybenion y ddau, nac ychwaith am foddineb eu perthynasau i'r cymhariad, yr oedd y pwnc yn hollol yn nwylaw amgylchiadau. Ond yn ngwmni eu gilydd yr oedd nefoedd y cariadon — hyd y bryniau cylchynol, yn casglu cregyn ar y traeth, a chyda'u gilydd yn mrig yr hwyr ar dywydd tawel yn araf rwyfo mewn bad ar hyd y glanau; hefo'u gilydd ar y llechwedd amlwg yn syllu ar yr haul yn ymsuddo dros y gorwel, ac yna ty wallt ffrydiau serch i eneidiau eu gilydd, nes y byddai eu mân-drallodau yn marw, y dyfodiant yn wynfyd o'u blaen, a Nant Gwrtheyrn sobrddwys yn troi yn baradwys o'u cwmpas. Tan ddylanwad y Cariad hwn, gweddnewidid eu Nant yn Werddonau Llion ger eu bron; canai ei hadar fel adar gwynfyd, a'r coed a'r meusydd bychain a edrychent fel gwyrddlesni anfarwoldeb. Yn wir, meddai eu serch y fath angerddoldeb, fel yr oedd yn anmhosibl iddo gynud yn hir yn awyr dawchus y byd hwn, heb losgi ei hunan allan nes dyfod yn oer ni casineb, neu farweiddio'n farwor yn ymuniad defodol y ddau enaid mewn priodas.

Cariad o'r dosbarth olaf oedd yr eiddo Rhys a Meinir. Penodwyd y diwrnod, a dechreuwyd gwneud parotoadau ar ei gyfer. Y pryd hwnw nid oedd swydd y Gwahoddwr wedi ei dileu, na hen Ddefodau cynwynal y Priodasau Cymreig wedi llwyr ddiflanu o'r tir, er fod dosbarth mawr yn y wlad, a'r bobl ieuainc yn enwedig, yn dechreu diflasu arnynt. Yr oedd Rhys. oddiar ei wyleidd-dra naturiol, a Meinir, oherwydd ei phrudd-der cynhenid, yn erbyn dim rhialtwch; ond ni fynai'r hen ŵr glywed son am briodas heb yr "hen arferion." Felly, oddiar barch calon iddo ef, ymostyngasant i'r hen drefn; a phenderfynwyd ar Ifan y Cillau, gŵr ieuanc ffraeth a doniol, mab y fferm agosaf tros y mynydd, i gymeryd y swydd o Wahoddwr. Y mae anhebgor a dyledswydd y swydd hono wedi eu crybwyll eisoes yn ein Cyfres 1af, fel na raid i ni yn bresenol eu hadgoffa. Digon i'w dweyd ddarfod i Ifan y Gwahoddwr gael derbyniad croesawgar yn mhob man, ac addewidion helaeth am Bwyddion. Yr oedd yr anrhegion hyn yn cael eu cyflwyno y dydd cyn y briodas — dydd Gwener fyddai hwnw fynychaf, gan mai ar ddydd Sadwm fwyaf cyffredin y gweinyddai Hymen yn yr hen amserau wrth yr allorau Cymreig.

Adeg brysur yn Nant Gwrtheyrn oedd y dydd Gwener hwnw. yr oedd pawb ar eu goreu glas yn darparu ar gyfer dyfodiad y cymydogion caredig hefo'u Pwyddion; hyd yn nod yr hen wr methiantus yn ymlisgo o'i gornel i gynorthwyo y merched, cogio, er mwyn gwneud pobpeth yn drefnus. Yna daeth yn amser i'r dyeithriaid ddyfod; ac yr oedd yn bleser edrych arnynt o waelod y Nant yn cynllunio eu llwybrau i lawr y llechweddi serth. yr ieuanc yn cynorthwyo yr hen tros y ceryg, a'r hen yn eu dyddanu hwythau gyda chwedlau a dywediadau digrif a diniwaid; a'r naill fel y llall yn eu dillad goreu, yn dlawd a chyfoethog. Y capiau cambric, gyda'r ffril fawr; a'r hetiau befar yn ddu ddysglaer fel plu y fran, ac yn haner guddio yn fynych wynebau hynod o dlysion; y bais goch, a'r bedgwn glas yn ymsymud i lawr y goriwaered rhwng yr "eithin flodeu aur," a rhosynau cochion y grug; a haul nawn canol haf yn gwenu ar y cyfan, nes gwneud yr olygfa yn hynod o swynol a phrydferth. Yma, yr oedd cyfeilles yn crechwenu mewn iechyd a hawddgarwch wrth ddwyn ei hanrheg o iar a basgedaid o gywion; acw, yr hen wraig gloff wrth ei ffon yn hobian tan gosyn mynyddig o gaws. Rhai yn cyrchu llain o frethyn cartref, eraillyn gwyro tan becyn o flawd ceirch; merch y llaethwr yn prancio tan gunogaid o fenyn; merch y saer yn neidio gydag ystol drithroed ar ei braich; a'r eneth ddall o bentref Llithfaen yn cael ei harwain, gyda'i basgedaid o flodeu gwylltion, a, gasglodd trwy synwyr ei harogledd oddiar y gweunydd. cyfagos er mwyn addurno ystafell y briodasferch ar yr amgylchiad. Pawb wrth eu bodd— mor llawen â'r gog a ganai yn y llwyn gerllaw, mor brydferth â'r blodeu yn masged yr eneth ddall.

Yn y cyfamser, yr oedd hi yn brysur iawn yn y Nant. Meinir yn ymudo yr ychydig ddodrefn a brynasai gyda'i harian gweddill i dŷ Rhys; ac un o'i chwiorydd yntau yn dwyn ei dillad trosodd i dŷ ei hewythr, cany's hy'hi oedd i gymeryd gofal yr hen wr o hyny allan. Yna y briodas ferch a frysiai i dacluso ei thad — i fwclo ei esgidiau, ac i gyweirio ei wallt oedd fel llinynau o arian gwyn. Wrth Wneud hyny, dyrchodd ei llygaid gleision tlysion, as yllodd mor bryderus yn ei wyneb hawddgar nes y tybiodd ei fod yn edrych yn brudd, canys hwn oedd y diwrnod olaf iddi drigo tan yr un gronlwyd ag ef. A disgynodd deigryn mawr tryloyw ar ei ffedog stwff newydd wrth iddi fyfyrio mor ddiymadferth oedd ei rhiant; ac fod y ddyledswydd drafferthus, ond hyfryd er hyny, o'i wisgo a'i ddadwisgo am y pedair blynedd ddiweddaf ar derfynu." Nhad," ebai hi, "peidiwch a bod yn drist, mi a ddeuaf i edrych am danoch yn fynych, a byddaf bob amser o fewn cyrhaedd galw." Byddi, fy ngeneth i; byddi ngeneth anwyl i; y Nefoedd a dalo i ti dy garedigrwydd i'th hen dad diamddiffyn. Byddaf fi wedi myn'd toc, toc; ond bendith y Nef fyddo ar dy ben di byth, ngeneth anwyl i". Ac wrth feddwl am briodas ei ferch, a'i fedd ei hun, llifai'r dagrau tros ei ruddiau heirdd yn hidl. Ar hyny, dyma leisiau'r dyeithriaid yn tori ar eu clustiau, ac yn gyru Meinir ar ffo i'w hystafell i liniaru ei theimladau, a pheri i'r hen wr sychu ei ddagrau ac ymsionci "cynta' gallo".

Nid oes eisiau darfelydd cryf i dybied fod yno londer mawr wrth roddi a derbyn y Pwyddion. Dodwyd cig oen, a bara, a gwydriad da o fetheglin gerbron y bobl ddyeithr. Ewyllysid yn dda i'r pâr ieuanc, hir a dedwydd oes iddynt, ac (na bo ond ei grybwyll) llawer o deulu. Wrth yr ewyllysiad olaf hwn, neidiodd holl wyleidd-dra Meinir yn fflam i'w hwyneb. A oes rhywbeth tlysach na gwyleidd- dra diragrith? Y mae bob amser yn arwydd o burdeb a rhinwedd. Erbyn tua chwech o'r gloch, dechreuodd pawb feddwl am gychwyn adref, a chychwynasant yn nghanol y teimladau mwyaf cynes a charedig.

Yr oedd gwyleidd-dra Rhys wedi ei gadw rhag cymeryd. rhan o gwbl yn ngwaith y dydd hwn. Eithr wedi iddo orphen hefo'r gwair, a'i ddodi yn fydylau bychain i gynauafa dros dranoeth; ac i Meinir odro'r geifr a'r gwartheg duon, a nol dau oenig amddifad adref oddiar lechwedd y mynydd; cyn ei bod yn adeg iddi ddadwisgo ei thad, y cariadon a gymerasant y cyfleusdra o gael haner awr yn nghwmni eu gilydd. Rhodiasant law yn llaw hyd y llechweddau hyd oni ddaethant at hen geubren derwen oedd yn sefyll ar fryncyn glas gerllaw y môr. Mynych y cyrchasent yno i eistedd ar y gareg fawr oedd fei sedd o tan y ceubren. Yno'r eisteddasant gan ymddyddan am faterion tranoeth; a thra yn eistedd felly, syrthiodd llygad Meinir ar ei henw wedi ei dori ar risgl y pren o waith llaw Rhys, ac o tan hyny y geiriau.

"Priodwyd Gorphenaf 5"

Ond yn lle llawenhau wrth weled ôl llaw gelfyddgar ei hanwylyd, Meinir a edrychai ar y weithred fel yn temtio Rhagliniaeth, yn ol dull y wlad o siarad yn yr oes hono. "Rhys bach," ebai hi "hwyrach na phriodir mo honom ni, ar ol y cwbl. "

"Paham! fy ngeneth i, a ninau i briodi yforu," ebai yntau tan chwerthin.

" O! y mae llawer o bethau yn croesi ein bwriadau mwyaf pendant. Onid ydych yn cofio fy nhad er'stalm yn addaw ein cymeryd i Ŵylmabsant Nefyn; a'r dydd Sadwrn cyn yr wyl hono, yn cael ei daro gan y methiantglwyf, fel nas gallasai droi yn ei wely."

Gwelai Rhys mai ffolineb ydoedd dwyn dadl mor brudd yn mlaen y noson o flaen diwrnod mor lawen; ac yn fuan ymgollodd yr ymryson yn yr edrychiad serchus, gwasgiad y dwylaw cynes gan fywyd, a phrophwydoliaethau gobeithiol am y dyfodol.

Eithr dy wedir ddarfod i Meinir aros ar ol Rhys wrth y ceubren, a chyfnewidy gair "priodwyd," am "claddwyd."

Wel, pa fodd bynag, ar ol nos fer, yn ystod pa un ni roddes Meinir na Rhys yr un hunell i'w hamrantau, gan fel y meddylient ac y pryderentyn nghylch tranoeth, daeth "dydd y dyddiau," gyda'i brysurdeb a'i ddyddordeb, ar eu gwarthaf. Rhagarwyddai y bore ddiwrnod braf, ac yn yr hen amser rhagarwyddai diwrnod braf einioes heulog a llwyddianus. Yr oedd "haul ar fodrwy," fel "gwlaw ar yr arch," yn bethau a fawr ddymunid gan yr hen bobl.

Erbyn tua deg o'r gloch y bore hwnw, yr oedd y darpariad wedi ei gwblhau, a safai Meinir yn welw gan bryder wrth gadair ei thad. Syllai yn ddyfal tuag at ben y mynydd, lle yr oedd llwybr, ar hyd yr hwn y disgwyliai hi bob mynyd weled y Gwyr o wisgi oed yn dyfod i'w chyrchu tua'r llan. Y "gwyr" hyn oeddynt gyfeillion y priodfab, a ddeuent, yn ol hen ddefod, i gyrchu y briod- ferch i'r eglwys; ac yn ol yr un hen ddefod, yr oedd hithau i'w hysgoi a chymeryd arni ddianc rhagddynt. Yr oedd Rhys a hithau wedi trenfu pa fodd yr oedd hi i ysgoi ei herlidwyr, a'i gyfarfod ef ar y llwybr yn y coed oedd yn arwain at gefn yr eglwys. O'r diwedd, dacw nhw, ddwsin o lanciau gwridcoch iachus, yn prysuro i lawr yr allt; a'r eiliad y daethant i'r golwg, ffwrdd a Meinir am ei bywyd i ymofyn ymguddle ganddynt. Ni buont yn hir cyn cyrhaedd llawr y Nant; ond yr oedd yr aderyn wedi ffoi. Chwiliwyd pob man am dani — yr ysgubor fechan, yr ydlan ddistadl, oddeutu'r dâs fawn, y llwyni rhedyn tu cefn i'r tŷ, ac agenau'r graig tu cefn i hyny, — chwiliwyd y cwbl, ond yn ofer; a phan ar roddi'r ymchwil i fynu, disgynodd llygaid un o'r cwmni ar droed y ffoadures yn ymrithio allan oddi tan un o'r mydylau gwair yn y maes gerllaw, a rhoddodd y cwmni oll bloedd orfoleddus oherwydd y darganfyddiad. Ac awgrymai y floedd i Meinir mai ffolineb iddi aros yn hwy yn y fan yr ydoedd. Neidiodd i fynu, a disgynai'r gwair a'r meillion oddiwrth ei gwisg; syllodd ar ei hymlidwyr am fynyd, yn haner ofnus, haner awyddus i gael ei dal; ond gan wenu'n chwareus arnynt, ffwrdd a 'hi tua rhyw lwybr anhygyrch yn y goedwig, gan ddiflanu o'u golwg fel duwies y coed (nymph) neu ddrychiolaeth.

Yr oedd y briodas i gymeryd lle yn Nghlynog Fawr, trwy drefniad arbenig, am mai yno y priodasai tad Meinir ei mam, ac ewyllys yr hen ŵr oedd iddi hithau gael ei phriodi yn yr un lle. A'r fath wyl ydyw priodas mewn llan bychan, diog, mynyddig! Daw pob cnawd o'i fewn at eu drysau i weled yr orymdaith yn myned heibio; a bydd y plant wedi haner gwallgofi mewn digrifwch. Trethir y coed a'r ardd i anrhydeddu y digwyddiad. Yr oedd y llwybr rhwng porth y fynwent â'r eglwys wedi ei orchuddio gan gangau a blodeu; ac nid oedd y plant, cofiwch, heb ddisgwyl bendithion crynion am hyn. Yr oedd Dafydd Gloff, y Telyniwr, hefyd, gyda'r un disgwyliad clodwiw, wedi gosod ei hun ar gareg fedd, a'i offeryn cerdd yn ei law, yn barod i daro cainc wrth i'r cwmni fyned heibio; a'r "plant direidus," chwedl yntau, bron, bron a'i fyddaru gyda eu deisyfiadau am alaw ganddo, y dewraf rai o'r dyhirod bychain yn cyffwrdd â'r tanau weithiau, er mwyn lladrata tipyn o sŵn; a Deio, oni ddiangent, yn gosod ei fagl yn lled hwylus ar eu gwarau. Yr oedd rhai ,o'r cywion diriad a llawenfryd wedi dringo'r coed, gan y gallent oddiyno weled milldir o'r ffordd, a dyna lle 'roedd eu cyfoedion ar y llawr yn gofyn iddynt, "Welwch chwi nhw, lads! yden nhw yn dwad?" Ond nid oedd hanes am danynt. Tua'r amser yma hefyd dychrynwyd y dysgwylwyr hygoelus yn fawr gan waith un o'r plant, hogyn haner call, druan, yn taenu dyrnaid o lysiau gwenwynig hyd y llwybr, llysiau a deflid gan elynion a chydymgeiswy r siomedig — arwyddluniau o ddrwg- ewyllys iddynt gael bywyd adfydus. Er mor fechan oedd y weithred hon, eto yn nhyb y bobl ddysgwylgar hyny rhagarwyddai fod rhy w beth o'i le.

Ond yn y cyfamser, pa le yr oedd Rhys? Wel, yr oedd yn y fan apwyntiedig i gyfarfod ei anwylyd, yn foddfa o chwys gan bryder, ac yn methu dirnad na dyfeisio beth a allasai gadw ei Feinir cyhyd. Cerddai yn ol a blaen, curai ei fodiau yn y ddaear, a pho hwyraf yr elai'r dydd mwyaf yn y byd oedd ei benbleth yntau. Yr oedd yr haul eisoes wedi cyrhaedd ei awr anterth; a'r offeiriad, yn ol pob tebyg, wedi blino'n disgwyl, a dychwelyd adref. A pha beth oedd ei syndod pan ddychwelodd "Y gwyr o wisgi oed," a Meinir yn absenol! "Nenw'r anwyl, pa le maeMeinir?" " Ydi hi ddim gyda thi, Rhys!" ebynt hwythau un ac oll. "Y mae hi wedi chwareu cast gyda chwi a minau; yn rhywle yn y Nant y mae hi; rhedwch yn ol, rhedwch yn ol fel am eich bywyd, onide bydd yn rhyhwle!" "I ba beth y rhedwn yno? Nid oes yno yr un enaid byw ond dy ewythr, ac ni welodd ef mo honi er pan ddiangodd hi rhagom oddiwrth y mwdwl gwair." Safai Rhys fel delw; nis gwyddai yn iawn pa beth i'w wneud; a chan chwerthin math o chwerthiniad gwag, dywedai, "Wrantaf fi eu bod hi tu cefn i'r eglwys bellach, ond rhag ofn, mi a âf fy hunan tua'r Nant i chwilio am dani. rhedwch!" ac ymaith ag ef tuag adref fel ar aden y gwynt. Chwiliasant hwythau bob man oddeutu'r eglwys a'r fynwent, ond heb weled na chlywed dim oddiwrthi. Yr oedd Rhys yn benderfynol ei bod yn un o'r ddau fan; ond pan gyrhaeddodd adref, edrychodd yn hurt ar yr hen ŵr wrth gael ar ddeall ganddo nad oedd hi yno, canys yr oedd un aden i'w obaith wedi ei thori. Er hyny, eisteddodd i lawr wrth ochr ei ewythr, a suai ei hunan i heddwch wrth fyfyrio pa berygl allai ei gorddiwes mewn gyrfa mor fer. Yr oedd hefyd yn ganol dydd goleu; nid oedd na chors na phydew ar ei ffordd; na dynion drwg i'w niweidio mewn gwlad na chlybuwyd am yspeiliad pen ffordd na llofruddiaeth o'i mewn yn nghôf neb byw; yr oedd ef ei hun wedi dyfod ar hyd y llwybr y dylasai hi fyned ar hyd-ddo, a phe syrthiasai hi trwy ddamwain ar ei thaith, rhaid fuasai iddo ef ddyfod o hyd iddi. Yn fyr, yr oedd yr anmhosiblrwydd i ddim niwaid ddigwydd iddi, am enyd yn suo ei feddwl i ddyogelwch ac esmwythder. Ond yr eilad nesaf, neidiodd i fynu, "Y nefoedd fawr!" meddai, "paham yr eisteddaf yma?" fel y rhuthrai y dirgelwch ar eifeddwl, acy gwelai fod yr amser i briodi wedi myned heibio; ac yntau, ddylasai fod yn wr priod er's awr bellach, yn eistedd mor hamddenol yno i gyfnewid geiriau diles gyda'i ewythr; a hithau, pwy wyddai pa le?

Ymaith ag ef unwaith yn rhagor i fynu'r allt, a'i wyneb tua'r eglwys, i ymofyn os sylweddolwyd ei obaith olaf bron am ddyfod o byd i'r un a garai. Eithr, nid aethai nepell, oni chyfarfyddodd a'i gyfeillion; a'u golwg adfydus a siomedig yn bradychu'n ddioed i'w feddwl cynhyrfus ef nad oedd ei un anwyl wedi ei chael. Nid oedd eisiau gofyn nac ateb; yr oedd y ffaith alarus yn cael ei llefaru yn eu hwynebau. Edrychasant yn fudanod ar eu gilydd. Hylldremiodd Rhys o'i ddeutu fel un yn edrych am fan i ddianc rhag angau, heb le i guddio ei hunan ofnus; yna, ymdeimlai fel pe yn cerdded i nos ystormus — syrthiodd ar y ddaear, a gorweddai mewn llewyg pan y dynesasant ato, ac yn y sefyllfa hono y dygasant ef adref.

Y nos hono, gwelid goleuni yn ymsymud yn ol a blaen yn mhob cyfeiriad; a chlywid lleisiau yn galw ei henw, yr hyn a ddiaspedid gan y clogwyni, ac atebid gan ddallhuanod, neu gan bysgodwyr lluddedig yn nghyffiniau'r môr; chwiliwyd pob lle tebygol ac anhebygol hefyd, pob twmpath, pob ysgafell, ond yn gwbl ofer; cribau y creig anial a gwaelodion nentydd anhygyrch, ond dim y rhithyn lleiaf o'i hanes:

Chwilio pob man am dani,
A chwilio heb ei chael hi.

Ni ddaeth Meinir mwy i adloni llygaid ei hen dad diallu, nac i gysuro yspryd truenus ei chariad a'i chefnder, gan na welwyd ac na chlybuwyd dim mwy oddiwrthi na phe buasai'r ddaear wedi ei lladd wrthi 'i hun a'i chladdu yn y nos — ei chladdu ar ddydd ei phriodas, fel y rhagddywedasai hi yn gellweirus wrth Rhys y nos flaenorol o tan yr hen geubren.

Pan ddadebrodd Rhys y prydnawn hwnw o'i lewyg, ei lygaid a grwydrent yn wyllt ogwmpas yr ystafell, a gwelai ddarpariadau y briodas yn parhau i'w haddurno; nes y rhuthrodd y cwbl i'w feddwl eilwaith. Tywynai'r haul o fan ei fachludiad trwy y ffenestr fechan ar ei wyneb gwelw, a gwyddai oddiwrth hyny fod y dydd yn tynu i'w derfyn — mor ddymunol a chyson fuasai y fath olygfa i briodfab hapus; ac mor anghyson â'i sefyllfa ef, druan siomedig — llefarai wrtho fod y nos yn nesu, fod oriau heddychol y cyfnos wedi lledu eu hedyn euraidd ac adfywiol ar y byd, — ac yntau mewn clefyd, a'i ymenydd ar dân, yn dihoeni ar ei wely, ie, ei wely priodas — yn unig — a pha le yr oedd Meinir?

Yn unol ag arferiad yr oes hygoelus hono, ymofynwyd yn union deg am gymhorth dewinio. Tra yr oedd un chwaer yn gwylio gwely'r claf, prysurodd y llall gynted gallai at "gwraig hysbys," oedd yn byw mewn bwthyn bychan diaddurn yn uchel, uchel ar un o lechweddau yr Eifl — yn mhell uwchlaw rhodfeydd cyffredin dynion, yn myd y cymylau, y grug, a'r cigfranod. Dynes brudd hagr oedd hi, a'i hymddygiadau haner gwallgof, a'i dull neillduedig o fyw, yn peri i werin y parthau hyny gredu ei bod yn gwybod y dirgelion oll trwy ei chyfathrach â'r Un Drwg. Gerbron y feudwyes hon y daeth yr eneth ieuanc o Nant Gwrtheyrn; ac yr oedd ei hatebion, fel yr eiddo oraclau eraill o ran hyny, yn llawn o eiriau dau-ystyr neu diystyr. "A geir hi?" "Ceir." "Pwy ceiff hi? ac yn mha 'le, ac yn mha fodd!" Ysgydwodd y Ddewines ei phen. "A geiff y priodfab ei anwylyd?" "Ceiff." "Yn y nef neu ar y ddaear?" "Ar y ddaear." Diolch i Dduw," ebai'r chwaer ofergoelus, gan droi gwyn ei llygaid i fynu, plethu ei dwylaw ynnghyd, ac wylo o lawenydd." Ond pa bryd? O, pa bryd?" "Daw goleu o'r Nef, ag a'i dengys. Ni chwiliwch ychwaneg am dani; y Nef a'i dengys hi iddo ef — hwy a safant wyneb yn wyneb yn y goleuni nefol." "Pa hydy bydd hi oddiwrthym?" "Nid ydyw oddi wrthych." Ni fynai'r ddewines ddweydd im yn mhellach na hyn; a dychwelodd y forwyn ieuanc adref. Adroddodd wrth ei chwaer yr hanes, a'r geiriau a glywsai, ac wedi i'r ddwy eu pwyso yn nghlorianau pwyll,nis gallent wneud na choryn na sawdl ohonynt ac o ganlyniad, penderfynasant gadw y peth yn ddirgelwch, a gadael i amser eu hesbonio, os oedd esbonio arnynt hefyd.

Ond parhau yn llesmeiriol yr oedd Rhys, a'i lygaid fel ser safadwy yn ei ben; ni chymerai sylw o neb, a chauai ei ddwrn pan gynygid siarad âg ef. Ni ddarfu gymaint a gofyn beth oedd ffrwyth yr ymofyniad â'r ddewines, fel pe na fynasai ladd yr ychydig obaith oedd yn llechu eto yn ei fynwes. Yr oedd yn anmhosibl i'r edrychydd mwyaf disylw beidio canfod ynddo ar rai amserau ragarwyddion sicr o wallgofrwydd; canys yr oedd ei ymenydd yn prysur doddi tan ddylanwad gwres ei drallod a'i bryder. Bu yn y sefyllfa Yna am ddiwrnod a noswaith, weithiau'n waeth ac weithiau'n well, ond el waeth yn mynd yn hirach a'i well yn fyrach; a phan oedd cysgodau yr ail ddydd yn ymestyn, neidiodd i fynu, gwisgodd ei briodaswig am dano, ymaflodd yn mraich ei chwaer achydag egni ofnadwy ebychodd y gofyniad, "Gafwyd hi eto?" Ni fedrai'r eneth wirion rwygo ei galon drachefn gydag ateb nacaol; ac ni feiddiai ychwaith ei dwyllo â chelwydd; edrychodd edrychiad caruaidd i'w wyneb, a throdd ei phen draw i wylo'n hidl." Gafwyd hi? Gafwyd hi!" Naddo, naddo. " Adroddodd yntau y gair erchyll mewn gwaedd ddolefus uchel, nes oedd y creigiau cylchynaol yn diaspedain. Yna, gan sefyll ar drothwy yr ystafell fechan briodas, newydd ei gwyngalchu, newydd ei haddurno âg arluniau bychain a phwysiau serch; a chwrlid o glytwaith amryliw ar y gwely, gwaith llaw gelfyddgar yr un golledig, sibrydai: — "Dyma'r nos! dyma'r nos! a hithau heb gartref uwch ei phen; na fydded un byth ychwaith uwch fy mheninau!" A rhwygodd ei hunan o afael ei chwaer ofnus, a ffwrdd ag ef ar redeg tua'r coed ar y mynydd. Ni chymerai y sylw lleiaf o alwadau taeraf ei chwiorydd ar ei ol; a sylweddolwyd eu hofnau; yr oedd Rhys yn Wallgof!

Bu yn grwydryn gwyllt o'r awr hono allan. Ni ddychwelai i blith dynion ond pan fyddai newyn yn gwasgu arno; fel rhyw fwystfil gwyllt a orfodir gan newyn yn nryghin gauaf i gyniwair am ymborth o gwmpas trigfanau dyn. Yn y coedwigoedd anial, ac ogofeydd llaith y mynyddoedd, yr oedd ef yn breuddwydio ei fywyd ymaith, nes y daeth yn wrthddrych gresyndod a dychryn y sawl a edrychent arno. Yr oedd ei farf yn hir, ac yn britho yn gyflym; a'i ewinedd yn hirion fel ewinedd barcut. A thrwy ei fod yn esgeuluso ei hun, yn hir ymprydio, ac yn arwain bywyd gwyllt a direol, ei wyneb a grebychodd fel dail yr Hydref, y rhai oeddynt ei sedd y dydd a'i wely y nos. Ar rai adegau, gwaeddai nes byddai yr adsain yn rybedio o glogwyn i glogwyn, y gair hwnw oedd wrth wraidd ei holl drallod, "Naddo," a'r greadigaeth ddireswm o'i ddeutu a ddychrynai, a'r bugeiliaid yn eu hafod-dai a arswydent trwyddynt. Bryd arall, rhuthrai yn ol a blaen ar lan môr tymhestlog Rhagfyr, a'i donau brigwynion yn bygwth claddu yr adyn unig yn ei glafoerion. Yno y safai yn wlyb gan yr ewyn, ac yn rhuo allan gynddaredd cableddus fel pe buasai gyda'i lais cras am or-ruo cynddaredd yr eigion, yn erbyn y drefn galed hono a gelai rhagddo dynged ei anwylyd. Nid aeth i'w dŷ byth drachefn; ac oddiar ei hawl dreftadol i'r lle, ni oddefai i ddodrefnyn gael ei symud, nac i'r adeilad gael ei adgyweirio mewn un modd; ac felly y safai yn dadfeilio yn ddystaw, ac yn ddrychiolaeth o daclusrwydd dirywiedig, hyd oni ddarfu i wyntoedd cryfion o'r môr ysgubo rhan fawr o'r tô gwellt ymaith, ac y glasoddy muriau gwyngalchog oddifewn mor las â'r dywarchen oddi allan; ac yn y diwedd, y ddallhuan a'r ystlum a gyniweirient ei ystafelloedd, a'r llwynog a'r gath coed, yn eu tro, a epilient ac a udent ar y gwely priodas.

Ond er ei fod yn arwain bywyd y gwallgof, eto, er ei alar, yr oedd ei feddwl yn ymwybodol o'i holl drueni; a hyn sydd yn gwneud gwallgofrwydd y cystudd mwyaf arteithiol a ddichon gyfarfod dyn. Y gorpbwylldra hwnw sydd yn dryllio y teimladau naturiol, y serchiadau, y nwydau, a'r arferion, — heb anmharu ond ychydig ar y deall, aadwaenir gan rai meddygon wrth yr enw "Gwallgofrwydd Moesol;" a'r cyneddfau ynddo fel cyneddfau ambell feddwyn pan y byddo mewn man peryglus — yn gweled y geulan erchyll, ond heb allu i'w hysgoi, gan nad oes ganddo lywodraeth ar ei ysgogiadau. Y cysylltiad sydd yn bodoli rhwng y deall a'r aelodau wedi ymddyrysu a thra mae'r meddwl heb ei anmharu, y mae'r ymddygiadau yn hurt a direol. Anobaith, fel bedd, yn agor ei safn i lyncu'r enaid, a'r deall yn ymwybodol o hyny, eto heb allu i osgoi'r gyflafan o gael ei gladdu yn fyw. Dyma'r wedd erchyllaf ar wallgofrwydd; ac i ddanedd y math yma o'r anhwyldeb y syrthiodd Rhys.

Bu am fisoedd rai heb ddweyd gair wrth neb ond ei Gi. Math o gorgi defaid bychan oedd y ci hwn, yn hanu o dylwytho gwn enwog am eu ffyddlondeb i'w meistriaid, a'u greddf ddeallgar. Pan oedd Rhys yn ei bwyll, arferai y Cidwm ei ddilyn hyd y meusydd i aredig, ac hyd y mynydd i fugeilio. Anfynych y gwelid y ci heb ei feistr, na'r meistr heb y ci. A phan gollodd Rhys ei bwyll, ni chollodd cymdeithas Cidwm. Y lledfegyn gwirion a'i dilynai yn ei holl grwydriadau gwamal, heb ond ychydig luniaeth y dydd, ac yn gorwedd y nos wrth ei draed. Ceisiodd yr hen ŵr unwaith ddiddyfnu ei serch oddi wrth ei feistr trallodedig, trwy ei gau i fynu mewn congl o'r beudy; ond gwelwyd mai trengu mewn caethiwed y buasai yn fuan, gan mor swrth a digalon yr edrychai. Gollyngwyd ef yn rhydd, a chrwydrodd y coed oni ddaeth o hyd i'w feistr drachefn. Arferai Rhys siarad gydag ef fel pe buasai 'n Gristion o ddyn, a dweyd wrtho ei brofiad chwerw a'i helynt blin, a hynny mewn tôn mor alarus, nes byddai'r creadur yn edrych yn myw ei lygaid, ac yn udo'n dorcalonus fel pe buasai'n deall y cwbl. Ond pan ddaeth y gauaf oer, a'r barug gwyn i orchuddio'r ddaear bob bore, tra nad oedd caledfyd yn effeithio ond ychydig ar gyfansoddiad y gwallgof (wedi ei gryfhau gan ei wallgofrwydd), y ci truan a ddihoenodd, ac a drengodd o wir newyn ac anwyd; ac a ddisgynodd yn aberth i'w reddf ardderchog — ffyddlondeb. Yr oedd hyn yn ddyrnod arall i feddwl cystuddiol Rhys, gan ei fod yn colli ei unig' gydymaith ar wyneb daear. Yr oedd ei ymddygiad at y gelain farw yr engraifft fwyaf gyffrous o wallgofrwydd y clywsom erioed son am dani, ac yn ddangoseg alarus y fath greadur distadl a thruenus ydyw dyn wedi ei ymddifadu o'i synwyrau. Gwyliai drosti yn barhaus, cofleidiai hi, a dygai hi oddi amgylch yn ei freichiau am ddyddiau lawer, a thywalltai gwynfanau ei enaid uwch ei phen, nes y darfu i Ifan y Ciliau, ei Wahoddwr gynt, a dau o wyr cryfion eraill, o wir dosturi tuag ato, ruthro arno, a mynu claddu yr ysgerbwd mewn man anhysbys iddo.

Ar ol colli y cydymaith hwn, yr hen geubren hwnw ar gŵr y môr oedd ei gyfaill penaf. "Y mae mor debyg i mi!" meddai; wrtho'i hunan yn goddef holl gynddaredd yr ystormydd, felly finau; yn crino yn gyflym, felly finau; yn ysgwyd ei gangau bregus uwchben môr mawr, i ba un y syrth yn fuan, felly finau; bydd ef a minau wedi myn'd toc, a chyn pen ugain mlynedd (O! y mae'n chwithig meddwl y fath beth) daw cenedl i fynu ac a ddywed ' Dyma lle' roedd yr hen geubren! dacw lle talodd Rhys Meredydd ddyled drom ei natur!' Wrthyt ti, bellach, y tywalltaf chwerwder fy enaid; clywaist lawer o'm hymddyddanion serch, gwrando hefyd ar gwynfanau fy ngweddwdod. Ac os nad elli fy nghlywed, wel, nis gelli fy ngwawdio; ac os nad elli gydymdeimlo â mi, nis gelli ychwaith fy mradychu. A oes genyt ti ffynonell o ddagrau i'w dihysbyddu? Neu fynwes i'w dryllio'n chwilfriw gan ocheneidiau, neu galon i hollti'n ddwy tan ddyrnod siomedigaeth? O, gwyn dy fyd! Tan dy aden garuaidd yn ymgysgodaf y nos, ac y breuddwydiaf am fy Meinir. "

Ac yno y byddai ddydd a nos, yn neidio ac yn gorwedd, yn canu ac yn wylo, yn gweddio ac yn cablu, bob yn ail. Daeth ei chwiorydd yn fuan i ddeall pa le y deuent o hyd iddo, a mynych y dygent fwyd ger ei fron, ac y bwyteai yntau gyda rhaib un ar newynu; ond ni ddywedai air, ddim cymaint â diolch. Am hir wythnosau parhaodd yn y mudandod trwynsur hwn, eithr nid oedd caredigrwydd y chwiorydd yn lleihau — parhaent i weini i'w angenion gyda'r hunan-ymwadiad mwyaf canmoladwy. Pa fodd bynag, o'r diwedd, gwelent arwyddion sirioldeb ar ei wyneb prudd, diolchodd hefyd i'w chwaer yn wresog un tro, ac o radd i radd daeth i siarad yn lled rwydd. Gofynwyd iddo paham yr arosai tan y ceubren mwy nag yn rhy wle arall. Atebodd: " Am fy mod yn adwaen yr hen bren er's blynyddau, ac yn gweled Meinir yn fynychach trwy fy ngwsg odditano nag yn unman arall." Ac o dipyn i beth. cafwyd ganddo ddyfod gan belled â Nant Ifan Meredydd, i weled yr hen ŵr; eithr nid eisteddai i lawr, ac ni fwyteai ddim yno. Safai, a cherddai yn ol a blaen, am oriau weithiau; ond pan ddechreuai nosi, "Rhaidimi fyned," meddai," bydd hi'n dysgwyl am danaf yn union; oes genych chi rhyw genadwri ati, f'ewyrth?" "Dim, fy machgen i, ond y byddaf inau yn yr un byd â hithau yn fuan, fuan. "Fel hyn yr oedd ymenydd afiach Rhys yn cenedlu rhyw feddyliau gorphwyllog ei fod yn gweled ac yn ymddyddan â'i anwyldyd yn y nos, nes y teimlai ei hun yn ddedwydd am yr amser; eithr breuddwyd ydoedd, yn gadael ei feddwl twylledig yn fwy trallodus fyth.

Nid arosai byth yn y tŷ ar ddryghin ychwaith. Mor gynted ag y clywai y gwynt yn chwiban, ac y gwelai'r cymylau duon yn hofran uwch ben, ymaith ag ef, gan ddywedyd, "Bydd hi allan tan holl gynddaredd y dymhestl, a chreulondeb ynwyf fi fyddai aros i fewn." Mewn gwirionedd, yn y ddryghin yr oedd ei hindda; a theimlai'n ddedwyddach yn rhuad y taranau a flachiadau y mellt, pan yn wlyb drwyddo gan y gwlaw, na phan fyddai'r haul yn tywynu, a natur oll yn gwenu o'i ddeutu. Yr oedd y blaenaf yn fwy cydweddol â'i yspryd terfysglyd ef. Un prydnawn, tra y rhagarwyddai natur ystorm ddychrynllyd o fellt a tharanau, efe a safai yn nrws y tŷ, ar gychwyn i'w ddewisol fan, o tan yr hen geubren; a Gwyneth a aeth ato ac a ymbiliodd âg ef, am iddo er ei fywyd beidio a gadael diddosfan. "I ba beth yr arosaf, fy ngeneth wirion?" ebai ef," yr wyf mor gynefin â dychrynfeydd fel nad oes gan angau ei hun yr un dychryn i mi. Y mae, ystormydd o'r fath yma yn llai na dim wrth eu cydmaru â'r ymrysonau parhaus sydd yn y fynwes hon rhwng gobaith ac anobaith. Byddaf weithiau yn dewis angau yn hytrach nag einioes, ond pan ar gyflawni yr echryswaith, daw ataf y meddwl o'i bod hi hwyrach eto yn fyw, ac y byddwn yn ei gadael o'm hol; yna, penderfynaf fyw, a theimlaf y byd hwn yn oer a gwag hebddi. yr wyf yn debyg i'r betrisen drallodus yn gregan yn yr hwyr am ei chymar a fyddo wedi syrthio trwy rhyw law anhysbys yn ystod y dydd. Bryd arall, byddaf yn gweddio ar i Dduw tosturiol rwygo y llen hwn sydd yn gorchuddio fy llygaid, a datguddio ei thynged, ei gweddillion, ei bedd. Ni ddymunais hapusrwydd, canys y mae amser hapusrwydd wedi myned heibio arnaf am byth. O, mae fy nghynged yn galed na chawn hyn. Gweddiais am sicrwydd, hyd yn nod pe byddai ond sicrwydd anobaith; byddai hyny yn well na'r ellylldân hwn o obaith sydd yn peri i'm meddwl cythryblus grwydro hyd geulanau marwolaeth a chorsydd trueni. Na, yr ystorm i mi! a dichon y teifl rhyw fellteu oleuni ar ei thynged; ac yna byddaf farw yn dawel." A rhwygodd ei hun o'r gyfeillach hon, a fwrdd ag ef ar garlam tua'r ceubren. Ni buasai yn waeth i chwi geisio atal y ciconia (stork) rhag ufuddhau i'w reddf symudol anorchfygol na cheisio atal Rhys rhag myned i'r lle hwnw ar ystorm.

Ac, yn nhyb ei chwiorydd, nid oedd modd iddo ddewis lle mwy peryglus ar daranau na'r llecyn hwnw; gan fod yr hen bren wedi ei daro deirgwaith gan fellt yn ystod y deng mlynedd diweddaf. Safai yn min y môr, ar glogwyn uchel, ac yr oedd yn nod amlwg i'r elfen ddinystriol. Gan hyny, prysurodd ei chwaer ar ei ol, ar y bwriad o'i berswadio i ddychwelyd adref; neu o leiaf, ei gael o ddanedd y perygl. Wedi iddi gyrhaedd ato, cafodd ef yn eistedd yn hollol ddigyffro, tra yr oedd natur fel pe buasai mewn gwewyr, a'i gwyneb yn ddu fel canol nos. Pan rwygodd y fellten gyntaf fol y cwmwl tywyll, efe a chwarddodd; a phan afaelodd hi yn. ei law i'w anog i ddyfod ymaith, taflodd edrychiad caruaidd ddiolchgar arni, fel pe buasai yn dymuno cydnabod ei gofal dyfal ar ei ran, a chusanodd ei llaw, gan ddywedyd, "Gwyneth anwyl! Eithr pan erfyniodd hi arno mewn iaith ymbilgar arno dd'od i ochel rhag y dymhestl, "Na, Gwyneth bach," meddai," yr wyt yn meddwl fod hyn yn effeithio arnaf fi fel arnat ti? — dim o'r fath beth. Dos adre, eneth anwyl, gad rhyngwyf fi â'r storm; canys heddwch ydyw dryghin i mi, gan ei fod am yr amser yn boddi sŵn y storm sydd yma (gan gyfeirio at ei fynwes); y mae wedi bod y fath storm ddibaid yma, y fath daranfolltau yn rhuo, rhuo yma, fel O! achubwch, arbedwch fi byth rhag edrych eto ar yr awyr las, a daear feillionog! Ystorm i mi." Yna dyna fflachiad. "Rhed, eneth, rhed! Ymae'n beryglus. "

"A thithau hefyd. Yn wir, ni'th adawaf." Dyna fflam ddwyfol arall! dyna ebychiad arall digon nerthol i ddeffro meirw," ebai Rhys, gan adfeddianu ei ddifrawder arferol, "ond taranau a mellt egwein ein byd ni ydyw y rhai hyn; beth am y dydd hwnw pan y byddo natur yn ymddryllio, a'r greadigaeth ar dâu gan fellt; ac y gwelir ni oll wyneb yn wyneb. Tydi, yr Hwn a wyddost bob peth, gwrando ebychiad calonrwygol adyn truenus o ddyfnderau gwae ac anobaith, fy ngweddi olaf: 'Chwâl y gyfrinach erchyll hon, fel y mae'r fellten yn rhwygo y tywyllwch acw (dos adre, eneth, dos adre). Pâr i'r dydd hwn fod i mi yn debyg i'r dydd hwnw y datguddir y dirgelion oll. Tyngedaf y ddaear a'i thrigolion, y môr a'i feirwon, y nef a'i seintiau, i eiriol ar fy rhan. O! fy ngwraig, fy Meinir golledig! o'r cymylau acw, neu o'r dywarchen hon, yn llwch neu yn angel, deisyfaf, erfyniaf, gweddiaf, am dy weled — dy weled am fynyd — un gipdrem arnat, yna rhoddaf fy mhen ar y ddaear oer i farw. "

Cyn iddo bron orphen llefaru, dyna fellten gyda blaen ei haden yn ei daro'n gydwastad â'r llawr wrth fôn y pren; a chlywai Gwyneth drwst ofnadwy yn ei hymyl, fel trwst môr rew yn ymddryllio yn filiwn o ddamau; a phan agorodd hi ei llygaid, gwelodd olygfa a barodd iddi eu cau drachefn mewn llewyg. Yr oedd y pren wedi hollti o'i frig i'w fôn, gan ddangos geuedd mewnol, ffaith na wyddid o'r blaen; a thrwy yr hollt hi a welai wrthddrych erchyll, — ysgrwd (skeleton) yn sefyll yn syth yn y ceuedd — y penglog dignawd wedi glasu gan leithder, a'r esgyrn eraill wedi eu cànu gan yr hin, a llinynau o wisg fraenedig, gwisg briodas Meinir; ac esgyrn y breichiau yn sefyll i fynu yn syth; y cwbl yn llefaru am angau dychrynllyd. Yr oedd y briodasferch anffodus, ar ol myned tros y bryn hwnw lle y gwelsai ei thad hi ddiweddaf, wedi dringo i ben y ceubren, ar y bwriad o ysgoi ei hymlidwyr diwaid, ac wedi syrthio i'r ceuedd a methu dringo i fynu yn ol, gan lynu yno a marw, fel y collodd llawer eu bywydau mewn simneuau.

Amcanodd Gwyneth gelu yr olygfa rhag Rhys, yr hwn erbyn hyn oedd yn dechreu ymysgwyd o'i lewyg; ond yn ofer. Daeth yn mlaen tua'r fan, fel pe buasai'n gwybody cwbl; gwthiodd hi draw, nes y safai wyneb yn wyneb y priodfab curiedig a'r briodferch hir-golledig, a gwedd y byw wedi newid nemawr llai na gwedd y marw. Cyfeiriodd y gwallgofddyn â'i fys at y gwrthddrych sobr, a gwenodd ar ei chwaer y fath wên arswydus, a gyfleai y drychfeddwl o'i hyfrydwch a'i alar wrth gyfarfod yr un yr ymchwiliasai gymaint am dani — a'i chyfarfod felly! Datguddiwyd y gyfrinach o'r diwedd; a pha beth oedd ei deimladau ef nis gwyddis; nid hysbysodd hwynt ond gyda'r wên galonrwygol hono. Gan daflu cipolwg drachefn ar weddillion yr hon fu cyhyd yn absenol, eto yr holl amser mor agos, syrthiodd ar y llawr, a chyn pen ychydig fynydau yr oedd ei enaid helbulus wedi gadael ei farwol ran curiedig.! i'r cyfryw y mae marw yn felus. Arosodd y wên annaturiol hono ar ei wynebpryd pan yn gorph, wedi ei rhewi yno gan farwolaeth. Claddwyd y ddau yn yr un arch; ac os ar wahan mewn bywyd, yr oeddynt yn un yn angau.

Ni bu yr hen ŵr, tad Meinir, fyw ond ychydig fisoedd ar ol caffaeliad ei ferch; pwysodd y peth mor drwm ar ei babell wanllyd, fel y dadfeiliodd yn fuan. Edwinodd Gwendolen, chwaer hynaf Rhys, mewn darfodedigaeth, ac agorwyd y bedd iddi hithau. Geneth brudd fel yr helygen oedd hi. Gwyneth yn unig oedd yn aros, mewn llawn feddiant ar y Nant. Daeth yn llances wridgoch, er holl afiechyd bore ei hoes. Hi a ymbriododd gyda Ifan Huws y Ciliau, gwahoddwr yr anffodus Rhys; a bu'r ddau fyw i oedran teg, a chawsant farw ar obenydd, a blodeu'r pren almon yn addurn i'w penau.

Hwyrach y bydd ambell un yn gofyn pa le y mae moeswers y chwedl brudd flaenorol; nid oes genym ond gadael i'r cyfryw dynu ei gasgliadau ei hun oddiwrthi; gan mai nid ein dyledswydd ni ydyw gwneud chwedloneg yn ddamheg. Yr ydym yn ddyledus i'r Cambrian Quarterly Magazine, cyhoeddiad rhagorol ond prin iawn yn bresenol, am esgyrn a rhai o ddefnyddiau y BRlODAS YN NANT GWETHEYRN.


Nodiadau[golygu]