Neidio i'r cynnwys

Cymru Fu/Ceubren yr Ellyll

Oddi ar Wicidestun
Chwedl Rhitta Gawr Cymru Fu
Ceubren yr Ellyll
gan Isaac Foulkes

Ceubren yr Ellyll
Y Derwydd

CEUBREN YR ELLYLL.

Yn mharc ceirw Nannau, yn sir Feirionydd, y safai hen geubren derwen anferth o faint, adnabyddus trwy holl Gymru wrth yr enw Ceubren yr Ellyll. Cafodd yr enw hwn o herwydd fod Llafar Gwlad yn credu ei fod yn nythle ellyllon, bwciod y nos, &c., a'r sawl elent heibio iddo yn y nos a brysurent eu cerddediad, ac a ymdeimlent yn ofnus a chrynedig rhag gweled a theimlo rhai o'i breswylwyr annaearol.

Bu llawer tro ar fyd er pan felldigwyd y pren i fod yn gyfaneddle ysprydion. Tua dechreu y 15fed ganrif, yn amser rhyfeloedd Owen Glyndwr, yr oedd cefnder i'r arwr hwnw yn byw yn Nannau, o'r enw Hywel Sele, yr hwn nid oedd yn teimlo rhyw aiddgarwch mawr tros egwyddorion ei gyfathrachwr, er iddo Iwyddo i gadw hyny yn ddirgelwch. Yn ystod heddwch byr, bwriadodd arglwydd Glyndyfrdwy ymadloni ychydig wrth dreulio diwrnod neu ddau i hela ar ystâd ei gefnder. Cymerodd gydag ef gyfaill mynwesol o'r enw Madog, ac un neu ddau o'i wasanaethyddion, ac yr oeddynt yn hela ar eu taith wrth fyned. Wedi iddynt gyrhaedd hyd gyffiniau ystâd Naunau, pwy gyfarfyddodd yn ddamweiniol â hwynt ond Hywel, yntau hefyd yn hela wrtho ei hun. Wedi cyfarch gwell, cyfeiriasant eu camrau tua'r palas; a charw yn dygwydd croesi eu llwybr, darparasant oll at saethu ato. Hywel yn fradwrus, yn lle anelu at y carw, a drôdd ar ei sawdl, ac a amcanodd saethu ei gefnder, eithr yn ffous methodd yn ei amcan drygionus. Arweiniodd hyn i frwydr law-law rhwng y ddau, a chymaint trechach ydoedd Owen na Hywel, fel y lladdodd efe ef yn y fan. Cymerodd y drafodaeth hon le yn agos i'r hen geubren mawr, ac i hwnw y bwriasant y corph. Gosododd Owen ei gydymdeithion dan lŵ o ffyddlondeb na ddadguddient y gyfrinach hyd ar ol ei farwolaeth ef, ac yna dychwelasant yn brysur yn ol tua Glyndyfrdwy.

Parodd diflaniad sydyn a dyeithr Hywel Sele y trallod dwysaf yn ei deulu; chwiliwyd llawer am dano ond yn gwbl ofer; a'i foneddiges alarus a ymneillduodd oddiwrth y byd, ac anfynych yr elai allau o'i phreswylfa bruddaidd. Aeth blynyddau lawer heibio a'r dirgelwch yn aros yr un mor annhreiddiadwy. Pa fodd bynag, o'r diwedd gwelwyd marchog yn dirgymell ei farch blinedig i fynu yr allt tua Nannau. Madog ydoedd wedi ei ryddhau, trwy farwolaeth Owen, oddiwrth ei Iŵ o ffyddlondeb. Datguddiodd iddynt yr hanes oll, ac arweiniodd hwy at y ceubren, lle cafwyd esgyrn Hywel a'i gleddyf yn ei law ddeau. Claddwyd ef yn mynachlog gymydogaethol y Cymer, yn ol defodau y grefydd Babaidd, a chyflawnwyd gwasanaeth yr offeren, er mwyn rhoddi gorphwysfa i'w yspryd digofus; ond credai y werin bobl yn gadarn, am ugeiniau o flynyddau ar ol hyn, fod yspryd Hywel Sele, yn nghwmni lluaws o gyffelyb ddigofus ysprydion, yn ddiorphwys, ac yn mynychu Ceubren yr Ellyll, pa bryd bynag y caent gefn yr haul.