Cymru Fu/Y Derwydd

Oddi ar Wicidestun
Ceubren yr Ellyll Cymru Fu
Y Derwydd
gan Isaac Foulkes

Y Derwydd
Ystori Cilhwch ac Olwen

Y DERWYDD

.

[Yr ydym yn codi y dernyn canlynol o'r Greal, un o'r lluaws cyhoeddiadau rhagorol a ddygwyd allan dan nawdd, a chydag arian, Cymdeithasau y Gwyneddigion a'r Cymreigyddion yn Llundain. Ymddangosodd y Greal hwn yn y fl. 1805, agos i driugain mlynedd yn ol. Ei olygyddion oeddynt y gwladgarwyr anfarwol Owain Myfyr a'r Dr. Owen Pughe, y rhai a wnaethant fwy nag odid neb ar ran ein llenyddiaeth genedlaethol. Arbedasant rhag difancoll gynseiliau hanes y genedl fedd yr hen hanes cyfoethocaf o holl genedloedd gogleddbarth Ewrop, trwy gyhoeddiad, o hen lawysgrifau, y Myyyrian Archaeology. Arian Myfyr, ac athrylith y Dr., fu yn foddion i ddwyn y llyfr anmhrisiadwy hwn trwy y wasg y tro cyntaf. Achlesent eu cyd-genedl ar eu mynediad i'r Brifddinas, a chwilient am sefyllfaoedd cyfaddas iddynt; anfonent arian i gynorthwyo beirdd hen a methiantus yn Nghymru; cyhoeddent wobrau ar destunau cenedlaethol, er mwyn adfywio yr awen Gymreig; ac ystyir yr hanesyddiaeth sydd yn eu cyhoeddiadau yn safon gan lenyddion yr oes annghrediniol hon. Maddeuer i ni am droi oddiâr ein llwybr i daflu blodyn ar fedd dynion y dylem anrhydeddu eu coffadwriaeth — dynion fuasent yn addurn i unrhyw genedl dan haul.]

" Pan oedd cleddyf anorchfygol y Rhufeiniaid gwedi treiddio i eithafoedd pellaf Prydain, ac wedi gorllifo ei meusydd gleision â gwaed y godidocaf o'i haerwyr, Modred y doeth a chwiliodd am achles rhag gwythlondeb rhyfel. Yr oedd ef yn Dderwydd clodfawr oherwydd ei dduwioldeb a'i ddoethineb; ond, ysywaeth, ei dynged oedd iddo fyw i weled yr allor sanctaidd yn cael ei thaenellu â gwaed ei duwiol offeiriaid, a'r llwyni cysegredig jn cael eu halogi â thrythyllwch cadgwn creulawn anniwair. Y lloches a ddewisodd oedd ogof eang, wedi ei rhanu gan ddwylaw anian yn amrywiol ystafelloedd. Yr oedd y llwybr tywyll, graddol-estynedig, yn tywys iddi; ac oherwydd ei afrifed ddyrys gylchdroadau, yr oedd yn anhygyrch i bawb ond y sawl yr oedd llaw garedig y Derwydd yn eu harwain; felly, yr oedd y lle dirgel hwn yn noddfa i ddiniweidrwydd a rhinwedd. Yma yr oedd y wyryf ieuanc dyner yn ffoi rhag llathrudd, a'r wraig ddiwair rhag trais y gelynion; ac yma yr oedd y weddw a'r ymddifad yn ceisio diogelwch a chysur; yma hefyd yr oedd yr hen filwr dewrwych yn troi yn archolledig o'r frwydr, ac wedi ei iachau trwy dduwiol ofal y Derwydd, yn dychwelyd i'r ymladdfa gyda nerth a grym adnewyddol. Bob bore a hwyr y gwelid Modred yn ymgrymedig dan gyssegr-lwyn o dderwag oedd yn addurno y fron gerllaw ei drigfan ef: yno yr adeiladodd allor gysegrlan, ac yn ol arfer ei ddoeth a'i ddysgedig hynafìaid, a osododd arno offrwm sanctaidd o flawd. Wele, dyma fel yr oedd yn treulio ei ddyddiau mewn gweddi, myfyrfod, ac elusengarwch; ei ddiod oedd y dwfr o'r ffrwd ddysglaer ag oedd yn tarddu o'r graig, yn mha un yr oedd anian wedi llunio ei anedd ddiaddurn; a'i fwyd oedd y llysiau iachus oeddynt yn tyfu oddiamgylch ei breswylfod. Cyfryw a hyn oedd Modred y Derwydd, yn ymddygiad pa un yr oedd yn gysylltiedig ddiniweidrwydd mabandod a doethineb henaint.

"Un diwrnod, fel ag yr oedd yn crwydro yn mhellach na garferol i chwilio am lysiau meddyginiaethol, dygwyddodd iddo sylwi bod y ddaear gwedi ei mannu âg amryw ddefnynau o waed; ac wrth ganfod, ychydig o gamrau yn mhellach, bod y defnynau yn fwy ac yn amlach, ei hynawsedd a'i cymhellodd i'w dilyn. Hwy a' iharweinias ant ef i fan lle yr oedd dyn mewn arfwisg yn gorwedd yn estynedig ar y llawr. Yr oedd yn edrych fel pe buasai mewn llewyg; ac fel ag yr oedd ei wyneb yn ddiorchudd, canfu Modred ei fod yn mlodau ei ieuenctyd.

" Yr oedd y Derwydd yn gwybod wrth ei arfwisg ei fod yn perthyn i fyddin y Rhufeiniaid; ond tosturi tuag at y cyflwr gresynus a diymadferth ag yr oedd ef yn ei weled yuddo, a wnaeth iddo annghofìo yn union ei holl elyniaeth; fe a'i cyfododd ef yn ei freichiau, fe dywalltodd idd ei enau sychedig y meddyglyn adfywiol a oedd yn wastad yn ei ddwyn gydag ef, ychydig ddefnynau o ba un a'i hadfywiodd yn rhyfeddol; ond eto er hyn, yr oedd ef mor dra llesg a dirym, oherwydd iddo golli cymaint o waed, a bod iddo, er gwaethaf ei holl ymgais, fethu codi ar ei draed. Modred, pan ganfu y dyeithrddyn yn analluog i gyfodi heb ryw gymhorth mwy nag a allai ef weinyddu iddo ei hun, a brysurodd i'w ogof, ac a ddaeth yn ol yn ddiatreg a llanc ieuanc a elwid Gwydyr gydag ef. "Gwydyr oedd y gwrolaf o holl ieuenctyd Prydain a ddyrchafasant y cleddyf yn eofn a diarswyd i amddiffyn Rhyddid. Yr oedd anian wedi ffurfio ei gorph ef yn ei dull perffeithiaf, a gwedi rhoddi i'w ymarweddiad y fath foddusrwydd ag y mae celfyddyd yn fynych yn nacau i'w hanwylaf addurnwyr. Yr oedd gwedi rhoddi prawf o'i wroldeb mewn amryw o frwydrau a ymladdodd yn erbyn y gelyn cyffredin; ond yr oedd ei wrhydri bob amser yn unedig â hynawsedd a haelio ni. Gyda chymhorth yr arwrwas hwn y dygwyd y dyeithrddyn i ogof Modred; ond oherwydd mai Rhufeinydd oedd, hwy yn gyntaf a gymerasant ofal i roddi mwgwd arno ef, rhag iddo ddysgu y ffordd i'w hymguddia, a bod gwedi hyny yn foddion i'w niweidio.

"Gwedi ei ddwyn ef i'r ogof, hwy a gymerasant y mwgwd oddiar ei lygaid, a dattodasant ei arfwisg, ac a'i gosodasant ar Iwyth o fwswg esmwyth; yna y Derwydd a olygodd ei weliau ef, ac a ganfu y gellid, gydag ychydig o ofal, eu hiachau mewn byr amser; a gwedi gosod arnynt ryw lysiau o rinwedd diballadwy, efe a'i gadawodd dros ychydig i orphwyso. Ar ol treigliad o gylch awr, ailymwelodd âg ef, ac efe a gafodd y dyeithr gwedi dadebru cymaint trwy y feddyginiaeth a weinyddwyd i'w archollion ef, yn nghyda'r ychydig gwsg esmwyth o ba un deffrowyd ef ar ddyfodiad Modred i mewn, a'i fod yn gallu gofyn mewn liais isel a llesg i ddwylaw pwy yr oedd gwedi syrthio; ond pan gyntaf y deallodd mai Prydeiniaid oeddynt, fe ddangosodd ei wynebpryd nad oedd yn dysgwyl ond ychydig o drugaredd oddiar eu dwy- law. Y Derwydd, gan ddyfalu pa beth oedd yn treiglo yn ei feddwl, a ymegniodd i chwalu ymaith ei holl ofalon a'i ddrwg-dybiadau, fel hyn: — " Y gŵr ieuanc," ebai ef, "yr wyt yn nwylaw y rhai hyny ag y mae dy genedl di yn alw yn ddynion gwylltion; ond er mai dyeithriaid ydynt i'r celfyddydau golygus hyny a arferir gan genedloedd diwylliog i roddi gorc'hudd teg dros y dybenion mwyaf dichellgar a drygionus, nid yw y Prydeiniaid ddini yn annghydnabyddus â rhinweddau lletygarwch a hynawsedd; y maent yn caru buddugoliaeth; ond nid' ydynt byth yn ymhyfrydu yn ngwaed eu cydgreaduriaid; am hyny, gyr ymaith dy anesmwythder, a chred, tra byddot yn ogof Modred y Derwydd, y byddi yn ddiogel rag niwed a cham.

"Yr oedd y Rhufeinydd yn synu yn ddirfawr wrth weled yr haelioni annisgwyliadwy hyn; eto nid oedd yn medru llai nag amau y gallai yr ymddygiad hynaws yma fod yn fath o ragrith i gelu dybenion mwy gelyniaethol; ond fel ag yr oedd ef yn barod, gyda gwroldeb Rhufeinaidd, i gyfarfod ei dyngedfen yn llawen a thysgog, pa un bynag ai gwenu ai gwgu a wnai arno, ni ddyoddefodd i hyny aflonyddu tawelwch ei feddwl, yr hyn oedd, yn y fath gyflwr ag yr oedd ef ynddo, yn anhebgorol i adferu ei iechyd. Yn y bore, canfu y Derwydd fod ei westai gwedi gwellau yn rhyfeddol, yrhwn, ypryd hyny, a hysbysodd iddo mai swyddog yn myddin Rbufeiniaid oedd ef, a darfod iddo ymadael â'i wersyll, pa un oedd o gwmpas taith diwrnod oddiwrth y lle hyny, gyda phump eraill o'r un fyddin. Eu hamcan oedd, efe a addefodd, ceisio rhyw ysbysiad o sefyllfa y gelyn; ond ei ddynion, fel ag yr oedd yn tybio, wedi eu cyflogi gan un o'i gyd- swyddogion, rhyngddo a pha un y dygwyddodd ychydig o anghydfod, a droisant eu barfau fel llwyr fradwyr yn ei erbyn ef, ac a'u gadawsant ef megis marw yn y fan lle ei cafwyd gan y Derwydd. Efe a ddiolchodd o'i galon i'r Derwydd am ei fawr garedigrwydd tuag ato ef, ac yn ol deisyfiad Modred efe a'i dilynodd ef allan o'r ogof, yn mha le yr oedd gwedi ymgynull rifedi mawr o bobl o wahanol ryw ac oedran, newydd ddadymchwelyd o fod y boregwaith hwnw yn gwneuthur offrwm."