Cymru Fu/Iarlles Y Ffynon
← Y Diwyd a'r Diog | Cymru Fu gan Isaac Foulkes |
Nos Nadolig → |
IARLLES Y FFYNON
(Hen Fabinogi Gymreig.)
YR Ymherawdwr Arthur oedd yn Nghaerlleon-ar-Wysg, ac yn eistedd un diwrnod yn ei ystafell; a chydag ef Owen ab Urien, a Chynon ab Clydno, a Chai ab Cyner; a Gwenhwyfar a'i llaw-forwynion yn gwnio wrth y ffenestr. Ac os dywedir fod porthawr ar Lys Arthur, nid oedd yr un. Glewlwyd Gafaelfawr oedd yno yn gweithredu fel porthawr i groesawu ysp a phellenigion (gwesteion a dyeithriaid), ac i ddechreu eu hanrhydeddu, ac i fynegi moes y llys iddynt, ac i gyfarwyddo y sawl a ddeuent i'r llys neu i'r ystafell, neu a ddeuent yno am letty. Ac yn nghanol llawr yr ystafell yr oedd yr ymherawdwr Arthur yn eistedd ar deml o frwyn, a llen o bali melyn-goch o dano; a gobenydd o bali coch o dan ei benelin. Ar hyny ydywed Arthur, "Hawyr, pei na'm goganech," ebai ef, "mi a gysgwn tra fyddwn yn aros fy mwyd; ac ymddiddan a ellwch chwithau, a chymeryd ystenaid o fedd a golwythion o gig. gan Cai." A chysgu a wnaeth yr ymherawdwr. A gofynodd Cynon ab Clydno i Gai yr hyn a addawsai Arthur iddynt. "Minau a fynaf yr ymddiddan da addewsid i minau," ebai Cai. "Ha! wr," ebai Cynon, "gwell yw i ti wneuthur addewid Arthur yn nghyntaf; a'r ymddiddan goreu a wyddom ninau, ni a'i dywedwn i ti." Felly, aeth Cai i'r gegin ac i'r feddgell, a dychwelodd a chanddo ystenaid o fedd, a chwpan aur, a llonaid ei ddwrn o sciwars a golwython o gig arnynt. A chymeryd y golwython a wnaethant, a dechreu yfed y medd. "Yn awr," ebai Cai, "chwithau biau talu i minau fy ymddiddan." Cynon," ebai Owen, " tâl yr ymddyddan i Cai." "Diau," ebai Cynon, "hŷn gŵr a gwell ymddiddanwr wyt na mi, a mwy. & welaist o bethau godidog; tâl di yr ymddiddan i Cai." "Dechreu di," ebai Owain, " gyda'r hyn odidocach a wypych." "Mi a wnaf," ebai Cynon.
Unig fab fy nhad a'm mam oeddwn I; ac uchelgeisiol oeddwn, a mawr oedd fy rhyfyg. Ac ni thebygwn fod anhawsdra yn y byd a orfyddai arnaf; ac wedi i mi orfod ar bob anhawsdra ag oedd yn yr un wlad a mi, ym— gymerais à cherdded eithafoedd byd a diffeithwch. Ac yn y diwedd, dyfod a wnaethum i'r dyffryn tecaf yn y byd, a choed gogyfuwch ynddo, ac afon redegog oedd ar waelod y dyffryn, a llwybr ar hyd ei hystlys. Cerdded y llwybr â wnaethum hyd haner dydd; a'r partb arall o'r dyffryn a gerddais hyd y prydnawn; ac yna y daethum i faes mawr, ac yn mhen y maes yr oedd Caer fawr lewyrchedig, a llyn yn gyfagos i'r Gaer. A thua'r Gaer yr aethum, a gwelwn yno ddau was pengrych—felyn, a rhagtal (frontlet) aur am ben pob un o honynt; pais o bali melyn am bob un, a gwasgai (clasps ) o aur am fynyglau eu traed. Bwa o esgyrn Elephant oedd yn llaw pob un, llinynau y rhai oeddynt o giau hydd; pelydr eu saethau oeddynt o asgwrn morfil wedi eu haden gyda phlu y pawin (peacock). Penau aur oedd i'w saethau; a llafnau eu cylleill oedd o aur, a'u cainau o asgwrn morfil amryliwiog. Ac yr oeddynt yn saethu eu cylleill.
"Ac heb fod neppell oddiwrthynt mi a welwn ŵr pen— grych melyn, a'i farf newydd ei heilliaw; a phais a mantell o bali melyn am dano, ac ysnoden o eurliw yn mhen ei fantell, a dwy esgid o gordwal brith am ei draed, a dau gnap o aur yn eu cau. Ac mi a ddynesais ato, a chyfarch gwella wnaethum iddo; a chyn ddaed oedd ei foes nid cynt y cyferchais I iddo ef nag y cyfarchodd yntau well i minau. Ac efe a ddaeth gyda rai tua'r Gaer; ac nid oedd yno gyfanedd namyn ag oedd yn y neuadd. Ac yno yr oedd pedair morwyn ar hugain yn gwnio pali wrth ffenestr; a hyn a ddywedaf i ti, Cai, fod yn decach yr hacraf o honynt na'r decaf a welaist ti erioed yn Ynys Prydain. Yr anharddaf o honynt yn harddach oedd na Gwenhwyfar,' gwraig Arthur, pan fu harddaf erioed ddydd Nadolig neu ddydd y Pasg wrth yr offeren. Wrth fy nyfodiad cyfodasant, a chwech o honynt a gymerasant fy march, ac a ddiosgasant fy arwisg innau. A chwech ereill a gymerasant fy arfau ac a'u golchasant mewn llestr onid oeddynt cyn wyned a'r dim gwynaf. A'r trydedd chwech a ddodasant lieiniau ar y byrddau ac a arlwyasant fwyd. A'r pedwerydd chwech a ddiosgasant fy lluddedig wisg, a dodì gwisg arall am danaf, nid amgen crys o lian main, a phais a swrcot (surcoat} a mantell o bali melyn. A gosodasant obenyddiau o danaf ac o'm cylch wedi eu gorchuddio â. llian coch. Yna mi a eisteddais. A'r chwech hyny a gymerasant fy ngheffyl i'w ystablu a wnaethant hyny gystal a phe buasent yr ysweiniaid goreu y n Ynys Pry dain . Yna hwy a ddygasant im' i ymolchi gawgiau arian a dwfr ynddynt, a thywelau o lian gwyrdd a gwyn, ac mi a ymolchais. A daeth y gŵr a welswn gynneu ac a eisteddodd wrth y bwrdd, a minau yn nesaf iddo; a'r gwragedd oll is fy llaw oddieithr y rhai oeddynt yn gwasanaethu. Arian oedd y bwrdd, a llian oedd lleni y bwrdd. Ac nid oedd un llestr yn gwasanaethu ar y bwrdd namyn aur, neu arian, neu fueli (buffalo horn). A daeth bwyd ini; a dywedaf i ti, Cai, ni welais erioed fwyd a diod nad oedd. ef yno; eithr fod y bwyd a'r ddiod a welais yno yn rhagori ar ddim a welais erioed.
Bwyta a wnaethom hyd at haner y bwyd: ac ni ddywedodd na'r gŵr nac un o'r morwynion un gair wrthyf hyd hyny. A phan debygodd y gwr fod yn well genyf ymddiddan na bwyta, efe a ofynodd i mi pwy oeddwn; minau a ddywedais fod yn dda genyf gael un a ymddiddanai â mi, a deall nad oedd llefaru yn drosedd mawr yn y llys hwnw. "Ha! unben," ebai yntau, "nia ymddiddanasem â thi oni buasai ofn llstair ar dy fwyd, ond yn awr ni a ymddiddanwn â thi. "Yna mi a fynegais i'r gŵr pwy oeddwn a pheth oedd amcan fy ngherdded, a dywedyd fy mod yn ceisio a allai fy ngorchfygu, neu ynte a allwn i orchfygu pawb. Y dyn a edrychodd amaf tan wenu ac a ddywedodd, "Pe na thebyg'swn y deuai gormod gofid it', mi a fynegwn iti yr hyn yr ydwyt yn ei geisio." Hyn a barodd imi deimlo'n bryderus a thrist, a'r gŵr a adnabu hyny arnaf, "Os gwell genyt ti imi fynegi'th afles na'th les, mi a'i mynegaf it. Cwsg yma heno," ebai ef, " a chyfod yn fore i fynu, a chymer y ffordd y daethost ar hyd y dyffryn, oni ddelych i'r coed y daethost trwyddo. Ac ychydig yn y coed, fe gyferfydd gwahanffordd â thi, ar y tu dehau iti; cerdda hyd hono hyd oni ddelych i lanerch fawr o faes, a thŵr ar ganol y maes. A thi a weli ŵr du mawr ar ben y tŵr nad ydyw ddim llai na dau o wyr y byd hwn. Untroed y sydd iddo, ac un llygad, a hwnw yn nghanol ei dalcen. Y mae ffon o haiarn ganddo, a diau nad oes deu—wr yn y byd na chaffent eu baich yn y ffon hyny. Ac nid gwr hawddgar ydyw, eithr tra anhawddgar; ac wtwart (ceidwad) yw ar y coed hwnw. A thi a weli fil o anifeiljaid gwylltion yn pori o'i gylch. Gofyn dithau y ffordd iddo i fyned o'r llanerch, ac efe a rydd wrthgloch (ateb) wrthyt, ac a ddengys ffordd iti fel y ceffi yr hyn a geisi."
Hir oedd genyf y nos hono. A bore dranoeth, cyfodi a wnaethum a gwisgaw am danaf, ac esgyn ar fy march, a cherdded rhagof ar hyd y dyffryn i'r coed; ac mi a ddaethum i'r wahanffordd y dywedodd y dyn wrthyf am dani, a chyrhaeddais y llanerch. Ac yr oedd yn dair gwaith rhyfeddach genyf am yr anifeiliaid gwylltion oedd yno nag y dywedodd y gwr wrthyf y buasai. A'r gwr du oedd yno yn eistedd yn mhen yr orsedd. Dywedodd y gwr wrthyf ei fod yn fawr, mwy o lawer oedd efe na hyny. Y ffon haiarn y dywedasai y gwr wrthyf ei bod yn llwyth deu-ŵr, hysbys oedd genyf i, Cai, fod llwyth pedwar milwr ynddi. A hono oedd yn llaw y gŵr du. Ac ni ddywedai efe air wrthyf namyn a ofynwn iddo. Ac mi a ofynais iddo pa feddiant oedd ganddo ar yr anifeiliaid hyny. "Mi a ddangosaf i ti, ddyn bychan,' ebai ef; a chymeryd ei ffon yn ei law a tharaw carw â hi ddyrnod mawr, oni roddodd efe frefiad ddolefus, ac wrth ei frefiad ef, y daeth yno o anifeiliaid gyn amled â'r ser yn yr awyr. Yr oedd yn anhawdd i mi gael lle i sefyll yn y llanerch gyda hwynt—yn seirph a gwiberod ac amryfal anifeiliaid. Ac efe a edrychodd arnynt hwy, ac archodd iddynt fyned a phori; a gostwng eu penau a wnaethant hwythau iddo, fel y gwna gwas idd eu arglwydd.
Yna y dywed y gŵr du wrthyf, "A weli di, ddyn bychan, y meddiant sydd genyf fi ar yr anifeiliaid hyn." A gofyn fy ffordd iddo a wnaethum; garw a chroes a fu yntau, a gofynodd imi pa le y mynwn fyned. Minau ddywedais pâ ryw ŵr oeddwn, a pha beth a geisiwn. A mynegi a wnaeth yntau i mi: "Cymer," ebai ef, "y fordd tua phen uwchaf y coed, a cherdda yn erbyn yr allt uchod oni ddelych i'w phen; ac oddiyno ti a weli ystrad megys dyffryn mawr, ac yn nghanol yr ystrad ti a weli bren mawr, a glasach yw ei frig na'r ffynidwydd glasaf. O dan y pren hwnw y mae ffynon, ac yn ymyl y ffynon y mae llech o farmor, ac ar y llech y mae cawg arian wrth gadwyn arian, fel nad ellir eu gwahanu. Cymer dithau y cawg, a bwrw gawgiad o'r dwfr am ben y llech; yna ti a glywi dwfr mawr, nes y tebygi fod y nef a'r ddaear yn er grynu trwy y twrf. Ar ol y twrf y daw cawod mor ffyrnig fel y bydd yn anhawdd i ti ei goddef a byw. Cenllysg fydd y gawod, ac wedi yr el hon heibio y daw hindda, eithr ni adawodd ei chynddaredd yr un ddalen ar y pren heb eu dwyn. Yna y daw cawod o adar, a disgyn ar y pren a wnant: ac ni chlywaist ti erioed yn dy wlad dy hun gerdd cystal ag a ganant. A phan fo mwyaf dy fwyniant yn ngherdd yr adar, ti a glywi duchan a chwynfan yn dyfod ar hyd y dyffryn tuag atat. Ar hyny ti a weli farchog ar farch du pur, a gwisg a bali purddu am dano, ac ystondard (pennon) o lian purddu ar ei waywffon; ac efe a gyrch tu ag atat mor gynted ag y gallo. O ffoi di rhagddo ete a'th orddiwes; ac os arhosi di yno, a thi yn farchog, efe a'th edy yn bedystyr (ar draed); ac oni chei di ofid ganddo, ni raid iti ofyn gofid tra fyddi byw."
Ac mi a gymerais y ffordd hyd oni ddaethum i ben yr allt, ac oddiyno gwelwn fel y mynegasai y gwr du wrthyf, ac i ymyl y pren y daethum, a ffynon a welwn dan y pren, a'r lech farmor yn ei hymyl, a'r cawg arian wrth y gadwyn. Minau a gymerais y cawg, ac a fwriais gawgaid o'r dwfr am ben y llech, ac ar hyny wele'r twrf yn dyfod yn llawer mwy ffyrnig nag dywedasai y gŵr du wrthyf: ac ar ol y twrf gawod; a diau oedd genyf fi, Cai, ni ddiangasai na dyn na llwdn yn fyw ar a oddiweddai y gawod allan; canys ni safai yr un genllysgen o honi yn y croen nac yn y cig, hyd oni chyrhaeddai yr asgwrn. Ac mi a droais bedrain (flank) fy march tuag ati; a dodi swch fy nharian ar ben fy march a'i fwng, a dodi y rhan arall o honi uwch fy mhen fy hun. Ac felly y goroesais inau y gawod. A phan edrychais ar y pren, nid oedd un ddalen arno. daeth hindda: ac ar hyny, wele yr adar yn disgyn ar y pren ac yn canu; a hysbys yw genyf fi, Cai, na chlywais I gerdd cystal a hono na chynt na chwedi. A phan oedd Yna y fwyaf fy mwyniant yn gwrando yr adar, dyma duchan yn dyfod ar hyd y dyffryn tuag ataf, ac yn dywedyd, "Ha! farchog, beth ddaeth a ti yma? pa ddrwg a wneis i ti pan ddygit ti y fath niwaid i mi? Oni wyddost ti na adawodd y gawod heddyw na dyn na llwdn yn fyw trwy fy holl gyfoeth ar a gafodd allan?" Ar hyny, wele farchog ar farch purddu o dano, a gwisg o bali purddu am dano, ac arwydd (tabard) o lian purddu o'i gylch. Ac ymdaro a wnaethom, a chyn pen ychydig bwriwyd fi i lawr. Yna y marchog a ddododd ei waewffon o fewn ffrwyn fy march, ac ymdaith ymaith a'r ddau farch ganddo, a'm gadael inau yno. Ni ddangosodd efe gymaint o fawredd i mi a'm carcharu, ac nid yspeiliodd efe fi o'm harfau. Felly mi a ddychwelais ar hyd y ffordd y deuais. A phan ddaethum i'r llanerch yr oedd y gŵr du ynddi, fy nghyffes a roddafi ti, Cai, mae'n rhyfedd na thoddaswn yn llymaid rhag cywilydd gan gymaint o watwar a gefais gan y gŵr du. Ac i'r gaer y buaswn o nos gynt y daethum y nos hono. A llawenach fuwyd wrthy fy nos hon na'r nos cynt, a gwell i'm porthed; yr ymddiddan a fynwn gan wyr a chan wragedd a gawn, ac ni chrybwyllai neb ddim wrth y fam fy ymgyrch i'r ffynon; ac nis crybwyllais inau wrth neb. Ac yno y bum y nos hono. Pan godais dranoeth gwelwn farch (palfrey) gwineu-ddu, a ffroenau ganddo gan goched â'r ysgarlad. Ac wedi dodi o honwyf fy arfau, a gadael yno fy mendith, mi a ddychwelais i'm llys fy hun. Ac y mae'r march genyf eto yn yr ystabl acw, ac nis ymadawn ag ef am y march goreu yn Ynys Prydain.
Yn ddiau, Cai, ni chyffesodd dyn erioed ymgyrch mor ddianrhydedd iddo ei hun â hon. Y mae'n rhyfedd na chlywais i byth na chynt na chwedi am ungwr ond fy hunan a wyr ddim am yr ymgyrch, ac i hyn gymeryd lle o fewn cyfoeth yr Ymherawdwr Arthur heb i neb arall ei gael allan.
"Ha! unben," ebai Owen, "onid da fyddai cael allan y lle hwnw!"
"Myn llaw fy nghyfaill," ebai Cai, "mynych y dywedi di ar dy dafod yr hyn nis gwneli ar dy weithred."
"Diau, Cai", ebai Gwenhwyfar, "mai gwell fyddai dy grogi di na dywedyd o honot ymadrodd mor ddiraddiol wrth wr fel Owain."
Myn llaw fy ngyfaill, wreigdda," ebai Cai, "nid mwy dy barch di i Owain na minau."
Ar hyny, Arthur a ddeffrodd, a gofynodd os cysgasai efe ychydig.
Do, dalm o amser," ebai Owain.
"Ai amser i ni fyned at y byrddau?"
"Amser, arglwydd," ebai Owain.
Yna canu corn ymolchi a wnaethpwyd, a myned a wnaeth yr ymherawdwr Arthur a'i holl deulu i fwyta. Ac wedi darfod bwyta, Owain a enciliodd ymaith; a dyfod i'w letty a pharatoi ei farch a'i arfau a wnaeth. A phan welodd efe y dydd dranoeth, gwisgo ei arfau am dano, ac esgyn ar ei farch, a cherdded rhagddo hyd eithafoedd byd a thros ddiffaeth fynyddoedd a wnaeth. Yn y diwedd efe a adwaenodd glyn y mynegasai Cynon am dano, ac efe a gerddodd hyd y glyn gydag ystlys yr afon hyd oni ddaeth efe i'r dyffryn, a'r dyffryn a gerddodd hyd oni welai y gaer. Tua'r gaer yr aeth efe, a gwelai y gweision yn saethu eu cyllill fel y gwelsai Cynon hwynt, a'r gwr melyn a biau y gaer yn sefyll gerllaw. Ac mor fuan ag y cyfarchodd Owain well i'r gŵr melyn, y cyfarchodd y gwr melyn well iddo yntau.
Ac yn mlaen yr aeth efe at y Gaer; a phan ddaeth i'r ystafell, efe a welai y morwynion yn gwnïo pali mewn cadeiriau euraidd. A hoffach o lawer oedd gan Owain eu tecced a'u hardded nag y dywedodd Cynon iddo. A chyfodi a wnaethant i wasanaethu Owain fel y gwasanaethasant Cynon. A hoffach fu gan Owain ei borthiant na chan Cynon. Ac ar haner bwyta ymofynodd y gŵr melyn gan Owain pa gerdded oedd iddo. Ac Owain a ddywed wrtho y cwbl—"Ceisio y marchog sydd yn gwarchadw y ffynon yr ydwyf." A gwenu a wnaeth y gŵr melyn, a dweyd fod yn anhawdd ganddo fynegi i Owain y cerdded hwnw, fel y bu anhawdd ganddo ei fynegi i Cynon. Er hyny, efe a fynegodd y cwbl wrth Owain.
Ac i gysgu yr aethant. A bore dranoeth, yr oedd y morwynion wedi gwneuthur march Owain yn barod, a cherdded a wnaeth Owain rhagddo oni ddaeth i'r llanerch yr oedd y gŵr du ynddi. A rhyfeddach fu gan Owain faint y gŵr du na chan Cynon. A gofyn y ffordd a wnaeth Owain i'r gwr du. Yntau a'i mynegis. Ac Owain a gerddodd y ffordd fel Cynon oni ddaeth i ymyl y pren glas. Ac efe a welai y ffynon a'r llech yn ymyl y ffynon a'r cawg arni, ac efe a gymerodd y cawg, ac a fwriodd gawgiad o'r dwfr ar y llech. Ar hyny, dyma'r twrf, ac ar ol y twrf gawod. Mwy o lawer nag y dywedasai Cynon oeddynt. Wedi y gawod yr awyr a oleuodd, a phan edrychodd Owain ar y pren, nid oedd un ddalen arno. Ac ar hyny wele'r adar yn disgyn ar y pren, ac yn canu. A phan oedd digrifaf gan Owain gerdd yr adar, efe a welai farchog yn dyfod ar hyd y dyffryn, ac efe a baratodd i'w erbyn. Ac ymdaro yn ffyrnig a wnaethant. Ac wedi tori dau waywffon, diweinio cleddyfau, ac ymladd lafn yn llafn. Yna Owain a darawodd y marchog trwyei helm, a'i benffestin, a'r penguwch pwrcwin (visor) a thrwy y croen y cig a'r asgwrn oni chlwyfodd efe ei ymenydd. Yna adnabu y marchog du iddo dderbyn dyrnod angeuol; a throi pen ei farch a wnaeth, a ffoi. Ac Owain a'i hymlidiodd er nad yn ddigon agos i'w gyrhaedd â'r cleddyf. Ar hyny, Owain a welai Gaer fawr lewyrchedig; ac i borth y Gaer y daethant a gollyngwyd y marchog du i mewn, a gollyngwyd y ddor dyrchafiad ar Owain; yr hwn a darawodd ei farch tu cefn i'r cyfrwy, ac a'i torodd yn ddau haner trwyddo. A'r dôr a ddaeth hyd y llawr, a throellau yr yspardynau a darn o'r march oedd oddiallan, ac Owain a'r rhan arall o'r march oedd rhwng y ddau ddôr, a'r dôr arall oedd gauedig hefyd. Ac nid allai Owain fyned oddiyno, ac mewn cyfyng-gyngor yr oedd efe. Ac fel yr oedd Owain felly, efe a welai trwy gyswllt y ddôr heol gyferbyn ag ef, ac ystryd o dai o bob tu i'r heol, ac efe a welai forwyn pengrych-melyn, a rhagtal aur am ei phen, a gwisg o bali melyn am dani, a dwy wintas (esgid) o gordwal brith am ei thraed, a dyfod i'r porth yr ydoedd. A hi a archodd agoryd y porth. "Diau, unbennes," ebai Owain, "nid ellir agor i ti oddiyma, mwy nag y gelli dithau fy ngwared inau oddiyna." "Gwir," ebai'r forwyn, "y mae'n resyn nad ellir dy waredu di; a phob gwraig a ddylai dy wared, canys ni welais i neb ffyddlonach yn ngwasanaeth merched na thydi. Os cyfaill, cyfaill cywir; os cariad, goreu cariad ydwyt. Gan hyny," ebai hi, "yr hyn a allaf fi a wnaf fel y'th ryddhaer. Hwde di y fodrwy hon, a dod ar dy fys, a dod y maen hwn oddifewn dy law a chau dy ddwrn ar y maen, a chyhyd ag y cuddi di ef, efe a'th guddia dithau. Wedi iddynt ymgynghori, hwy a ddeuant i'th gymeryd a'th ddienyddio, a phan na welont dydi drwg fydd ganddynt. A minau a fyddaf ar yr esgynfan acw i'th aros di; a thydi a'm gweli I, er na welaf i dydi; tyred dithau a dod dy law ar ben fy ysgwydd i, ac yna canfyddaf dy ddyfod dithau ataf. A'r ffordd y delwyf fi oddiyno, tyred dithau gyda myfi."
Yna y forwyn a adawodd Owain, ac efe a wnaeth yr hyn oll a erchis hi ganddo. Ar hyny y daeth y gwyr o'r llys i geisio Owain ddienyddio; eithr pan ddaethant, ni welant ddim ond haner y march. A drwg oedd ganddynt hyny, a diflanu a wnaeth Owain o'u plith, a dyfod at y forwyn, a dodi ei law ar ei hysgwydd, a chychwyn a wnaeth hithau rhagddi, ac Owain gyda hi, oni ddaethant i ddrws llofft fawr odidog. A'r forwyn a agorodd y llofft, a myned i mewn a chau llofft a wnaethant; ac Owain a edrychodd ar hyd y llofft, ac nid oedd yn y llofft un hoel heb ei lliwio â lliw gwerthfawr. Ac nid oedd un ystyllen heb ddelw euraidd amryfal arni.
A’r forwyn a gyneuodd dân glo; a chymeryd cawg arian a dwfr ynddo a thywel o lian gwyn ar ei hysgwydd, a rhoddi dwfr i ymolchi a wnaeth hi i Owain. A dodi bwrdd arian goreuraidd ger ei fron, a llian melyn yn llian arno; a dyfod a'i giniaw iddo; a diau oedd gan Owain na welsai erioed neb ryw fwyd na welsai yno ddigon o hono, ond ei fod wedi ei goginio yn well yno nag y gwelsai yn un man arall erioed. Ac ni welsai erioed gymaint o fwyd a diod ag oedd yno. Ac nid oedd un llestr yn gwasanaethu arno namyn llestri o arian neu aur. Ac Owain a fwytaodd ac a yfodd onid oedd yn hwyr brydnawn. Ac ar hyny hwy a glywent swn mawr yn y Gaer. Ac Owain a ofynes i'r forwyn, "Pa waeddi yw hwn!" “ Dodi olew ar y gwrda biau y Gaer y maent," ebai'r forwyn. Ac i gysgu yr aeth Owain.
Ac yr oedd y gwely a ddarparesid iddo gan y forwyn yn deilwng i Arthur, o ysgarlad a gra (fur), a phali, a syndal, a llian. Ac am haner nos hwy a glywent ddiaspedain chwerw, "Pa swn yw hwn, weithion?" ebai Owain. "Y gŵr da biau y Gaer y sydd farw yr awrhon," ebai'r forwyn. A chyda thoriad y dydd y clywent ddiaspad a gweiddi an. feidrol eu maint, ac Owain a ofynodd i'r forwyn, "Pa ystyr sydd i'r gweiddi hwn? "Myned a chorff y gwr da biau y Gaer i'r llan y maent." Ac Owain a gyfododd i fynu, a gwisgo am dano, ac agor ffenestr ei lofft, ac edrych tua'r Gaer; ac ni welai nac ymyl nac eithaf i'r lluoedd oeddynt yn llenwi yr heolydd. Yr oeddynt yn llawn arfog, a gwragedd lawer gyda hwynt ar feirch ac ar draed, a chrefyddwyr y ddinas oll yn canu. A thebygai Owain fod yr awyr yn diaspedain gan y gweiddi a'r udgyrn a'r crefyddwyr yn canu. Ac yn nghanol y llu hwnw y gwelai efe yr elor, a llen o lian gwyn arni, a chanwyllau cwyr yn llosgi yn aml o'i chylch, ac nid oedd undyn tan yr elor yn llai na barwn cyfoethog. Diau oedd gan Owain na welsai erioed gynulleidfa gyn hardded a hono wedi ei gwisgo mewn pali, a seric (silk) a sandal.
Ac ar ol y llu hwnw, y gwelai efe wraig felen a'i gwallt dros ei dwy ysgwydd, ac wedi ei liwio â gwaed, a gwisg o bali melyn am dani wedi ei rhwygo, a dwy esgid o gordwal brith am ei thraed. A rhyfedd oedd na buasai ysig benau ei bysedd gan fel y maeddai ei dwylaw yn nghyd. A hysbys oedd gan Owain na welsai ef erioed wraig gan deced ped fuasai hi ar ei ffurf iawn. Ac uwch oedd ei diaspad nac oedd o ddyn na chorn yn y llu. A phan weles efe y wraig, enynu o'i chariad hi a wnaeth efe.
Yna y gofynodd Owain i'r forwyn pwy oedd y wraig. "Y nefoedd wyr," ebai'r forwyn, "gwraig y gellir dywedyd am dani ei bod y decaf o'r gwragedd, a'r ddiniweiraf, a'r haelaf, a'r ddoethaf, a'r foneddigeiddiaf, fy arglwyddes I yw hon acw, a IARLLES Y FFYNON y gelwir hi; gwraig yw i'r gwr a leddaist ti ddoe."
"Y nef wyr," ebai Owain, "mai y wraig a garaf fi fwyaf o bawb ydyw."
"Y nef a wyr," ebai'r forwyn, "hithau a geiff dy garu dithau nid ychydig."
Ar hyny, y forwyn a gyfododd, a chyneu tân glo, a llanw crochan â dwfr, a'i ddodi i dwymno, a chymeryd twel o lian gwyn, a'i ddodi am fwnwgl Owain, a chymeryd gorflwch o asgwrn elephant a chawg arian, a'i lanw o'r dwfr twymn, a golchi pen Owain. Yna hi a agorodd brenfol (wooden casket), ac a gymerth ellyn a'i charno asgwrn elephant, a dau ganawl (rivets) o aur ar yr ellyn; a hi a eilliodd ei farf ef, a sychu ei ben a'i fwnwgl â'r twel. Yna hi a gyfododd oddi ger bron Owain, a dyfod a'i giniaw iddo, a diau oedd gan Owain na chafodd efe erioed giniaw cystal a hwnw, na'i wasanaethu cystal. Ac wedi darfod o hono ei giniaw, y forwyn a gyweiriodd ei wely, "Dos yma", ebai hi, "i gysgu, a minau a af i garu trosot." Ac Owain a aeth i gysgu; a chau drws y llofft a wnaeth y forwyn, a myned tua'r Gaer. A phan y daeth yno, nid oedd yno namyn tristyd a gofal; a'r Iarlles ei hun yn yr ystafell, heb oddef oherwydd tristwch gweled dyn. A Luned a ddaeth ati gan gyfarch gwell iddi. Eithr yr Iarlles nid atebodd iddi. A'r forwyn a blygodd ger ei bron ac a ddywedodd, "Pabam nad atebych i mi heddyw?" "Luned," ebai'r Iarlles, "paham nad ymwelsit â mi yn fy ngofid? a minau a'th wnaethum di yn gyfoethog; yr oedd yn gam arnat na buasit yn dyfod; hyny fu yn gam ynot." Diau," ebe Luned, "ni thebygais I na buasai well dy synwyr nag y mae: ai da i ti alaru am y gŵr da hwnw, neu unpeth arall, nas gellych byth ei gael" "Rhyngof fi a Duw," ebai'r Iarlles, "nid oes dyn yn y byd cyffelyb iddo." "Gallet," ebai Luned, "gael gwr hagr â f'ai cystal neu well nag ef." "Rhyngof fi â Duw," ebai'r Iarlles, "pe na bai wrthun genyf peri dibenyddio un a fegais, mi a barwn dy ddihenyddio di am gyffelybu wrthyf beth mor annghywir â hyny; eithr dy ddiol di a wnaf.' "Da yw hyny genyf," ebai Luned, ebai Luned, nad oes gengt well rheswm tros dy waith yn gwneud hyny nag am fynegi o honof fi iti dy les lle nis medrit dy hun; a mefl iddi o honom ein dwy a ymgais gyntaf am heddwch, neu a wahoddo gyntaf y llall ati.
Ar hyny, Luned a aeth ymaith; a'r Iarlles a gyfododd ac a'i dilynodd at ddrws yr ystafell a phesychu yn uchel. A Luned a edrychodd drach ei chefn, a'r Iarlles a amneidiodd ar Luned, a daeth Luned drachefn at yr Iarlles. "Rhyngof fi a Duw," ebai'r Iarlles wrth Luned, "drwg yw dy anian; ac am mai fy lles I oeddit ti yn ei fynegi im', mynega pa ffordd f'ai hyny." "Mi a'i mynegaf," ebai hi, "ti a wyddost nad ellir cynal dy gyfoeth di namyn o filwriaeth ac arfau, ac am hyny cais yn ebrwydd a'u cynhalio." "Pa ffordd y gallaf i hyny ebai'r Iarlles. "Dywedaf," ebai Luned. "Oni elli di gynal y ffynon, ni elli di gynal dy gyfoeth; ni all neb gynal y ffynon, namyn un o deulu Arthur, a minau a af hyd i Lys Arthur, a mefl imi," ebai hi, "o deuaf oddiyno heb filwr a gadwo y ffynon yn gystal neu yn well na'r gwr a'i cedwis gynt.
"Anhawdd yw hyny," ebe'r Iarlles,—eithr dos a phrawf yr hyn a ddywedi."
Cychwyn a wnaeth Luned tan yr esgus o fyned i Lys Arthur, a daeth i'r llofft at Owain, ac yno y bu hi gydag Owain onid oedd yr amser iddi ddyfod o Lys Arthur. Yna hi a wisgodd am dani, a dyfod i ymweled a'r Iarlles. A llawen fu y Iarlles o'i gweled. "Chwedlau o Lys Arthur genyt?" ebai'r Iarlles. "Goreu chwedl genyf, arglwyddes," ebai hi, "caffael o honof fy neges. A pha bryd y myni di weled yr unben a ddaeth gyda mi?"
Tyred di ag ef am haner dydd y foru i ymweled â mi, a mi a baraf gynull y dref yn nghyd y pryd hwnw."
Luned a ddychwelodd adref. Am haner dydd dranoeth Owain a wsges am dano bais a swrcot (surcoat) a mantell o bali melyn, ac orffreis (band) lydan o eurlliw oedd ar ei fantell, a dwy esgid o gordwal brith am ei draed, a llun llew o aur ar eu claspiau. A dyfod a wnaethant hyd yn ystafell yr Iarlles.
A llawen fu yr Iarlles wrthynt; a hi a edrychodd yn graff ar Owain. "Luned," ebai hi, "nid oes olwg teithiwr ar y gwr hwn." Pa ddrwg yw hyny, arglwyddes?"
ebai Luned. "Rhyngof fi â Duw," ebai'r larlles, "ni ddwg un gŵr enaid fy arglwydd I o'i gorph namyu y gŵr hwn." "Goreu oll i ti, arglwyddes. canys pe na buasai ef drech na'th arglwydd di, ni ddygasai ef enaid dy ŵr. Nid ellir dim wrth hyny a aeth heibio, poed a fo." "Ewch chwi drachefn adref," ebai'r Iarlles, "a minau a gymeraf gynghor."
A thranoeth, hi a barodd ymgynull ei deiliaid oll i'r un lle. Yna hi a fynegodd iddynt fod yr iarlliaeth yn weddw, ac nad ellid ei chynal onid o rym march, ac arfau, a milwriaeth. "Minau a roddaf i chwi eich dewis ai un o honoch chwi a'm cymero I, ai caniatau a wnewch i mi gymeryd gŵr a gynhalio fy nghyfoeth o le arall." A hwynthwy a gawsant yn eu cynghor ganiatau iddi gymeryd gŵr o le arall. Yna y dug hithau Esgobion ac Archesgobion i wneuthur ei phriodas hi ag Owain. A gwŷr yr iarllaeth a roddasant warogaeth i Owain.
Ac Owain a gedwis y Ffynon trwy nerth cledd a gwaewffon. Ac fel hyn y cedwis efe hi: deuai yno farchog, Owain a'i dymchwelai, ac a'i gwerthai er ei lawn werth. A'r da hwnw a ranai Owain i'w farwniaid a'i farchogion, hyd nad oedd ŵr yn y byd gymaint ei gariad o fewn ei gyfoeth ag efo. A thair blynedd y bu efe felly.
Ac fel yr oedd Gwalchmai un diwrnod yn gorymdaith gyda'r ymherawdwr Arthur, edrych a wnaeth efe ar Arthur a'i weled yn drist gystuddiedig, yr hyn a ddoluriai Gwalchmai yn fawr—gweled Arthur yn y drych hwnw; ac efe a ddywedodd wrtho, "Arglwydd, pa beth a'th dristaodd di?" Ebai Arthur, "Hiraeth mawr y sydd arnaf am Owain, yr hwn a golles er's tair blynedd; ac o byddaf y bedwaredd flwyddyn heb ei weled, ni bydd fy enaid yn fy nghorph. Ac mi a wn mai trwy ymddiddan Cynon fab Clydno y collwyd Owain genym." "Ni raid i ti," ebai Gwalchmai, "gasglu dy luoedd yn nghyd er hyny, canys tydi a gwŷr dy dŷ a ellwch ddial Owain, os lladdwyd ef; neu ei ryddhau os ydyw yn ngharchar; ac os byw ydyw, ei ddwyn gyda thi." A chymeryd cynghor Gwalchmai a wnaed.
Yna Arthur a gwyr ei dŷ a baratoisant i fyned i ymofyn Owain; a'u rhif oedd tair mil heblaw y gwasanaethyddion. A Chynon ab Clydno oedd gyfarwyddwr iddynt. Ac Arthur a ddaeth hyd y Gaer y buasai Cynon ynddi. A phan ddaethant yno, yr oedd y gweision yn saethu yn yr un lle, a'r gŵr melyn gerllaw. A phan weles y gŵr melyn Arthur, cyfarch gwell, a'i wahodd; yntau a dderbyniodd y gwahoddiad. I'r Gaer yr aethant, ac er cynifer oeddynt ni wyddid dim oddiwrthynt yn y Gaer gan mor fawr ydoedd. A'r morwynion a godasant i'w gwasanaethu; a bai a welsant ar bob gwasanaeth erioed oddieithr gwasanaeth y gwragedd hyn. Ac nid oedd waeth wasanaeth gweision y merch y nos hono nag a fyddai ar Arthur yn ei lys ei hun.
Bore dranoeth, Arthur a gychwynes oddiyno, a Chynon yn gyfarwyddwr iddo; a hwy a ddaethant i'r lle yr oedd y gŵr du. A rhyfeddach oedd y gŵr du dan Arthur nag y tybiasai ei fod; a rhyfeddach o lawer ei faint nag y dywedasid wrtho ef. Hyd i ben yr allt y daethant, ac i'r dyffryn hyd y pren glas; ac yno y gwelsant y Ffynon, a'r cawg, a'r llech. Yna y daeth Cai at Arthur ac a ddywedodd wrtho, "Arglwydd, mia wn achos y cerdded hwn oll; ac erfyniaf arnat adael i mi fwrw y dwfr ar y llech a derbyn y gofid cyntaf a ddel." Ac Arthur a ganiataodd iddo. Yna Cai a fwriodd cawgaid o ddwfr ar y llech, a daeth twrf; ac ar ol y twrf, gawod; ac ni chlywsant erioed dwrf a chawod o fath y rhai hyny. Wedi peidio o'r gawod, yr awyr a oleuodd; a phan edrychasant ar y pren nid oedd yr un ddalen arno. Yna adar a ddisgynasant ar y pren; a diau oedd ganddynt na chlywsant erioed gerdd cystal a chan yr adar hyny. Ar hyny, gwelent farchog ar farch purddu, a gwisg o bali purddu am dano; a Chai a gerddodd i'w gyfarfod, ac a baratoddi'w dderbyn. Yna gornestu; ac ni bu hir yr ornest na ddymchwelodd Cai. A'r marchog a babelloedd, ac Arthur a'i lu a babellasant, y nos hono. A bore dranoeth, pan gyfodasant, gwelent arwydd i ornestu ar waewffon y marchog, a daeth Cai at Arthur, ac a ddywedodd wrtho, "Arglwydd," ebai ef, trwy gam y'm dymchwelwyd I ddoe; ac a fydd da yn dy olwg adael imi fyned heddyw eto a gornestu a'r marchog?". "Gadawaf," ebai Arthur. Cai a gyfarfyddodd y marchog. Ac yn y lle, Cai a ddymchwelwyd, a'r marchog a'i tarawodd ef gyda phen ei waewffon yn ei dalcen, nes y torodd efe ei helm a'i benffestin (headpiece) a'r croen a'r cig hyd yr asgwrn—cyfled a phen y baladr. A chai a ddychwelodd drachefn at ei gymdeithion.
Wedi hyn, holl lu Arthur a aethant allau y naill ar ol llall i ornestu a'r marchog hyd nad oedd neb o honynt heb eu dymchwelyd ganddo oddieithr Arthur a Gwalchmai. Ac Arthur a ymbarotodd i'r ornest. "Och! arglwydd", ebai Gwalchmai, "gad imi fyned i ymladd â'r marchog yn nghyntaf." Arthur a ganiatodd iddo, ac efe a aeth. Cwnsallt o bali oedd trosto ef a'i farch, hwn a ddanfonasid iddo gan ferch Iarll Rangyw: ac yn y wisg hon nid adwaenid ef gan un o'r llu. Ac ymgyrchu a wnaethant, a gornestu y dydd hwnw hyd yr hwyr; ac ni bu agos i'r un o honynt fwrw y llall i'r llawr.
A thranoeth yr ymladdasant a gwaewffyn cryfion ganddynt. Ac ni orfu yr un o honynt ar eu gilydd. A'r trydydd dydd, gornestu a wnaethant; a gwaewffyn cadarnfras cryfion gan bob un o honynt; ac enynn o lid a wnaethant, ac ymladd yn galed hyd haner dydd. Yna hwrdd a roddes pob un o honynt i'w gilydd oni thores holl genglau eu meirch, ac oni syrthiodd pob un tros grwpper ei farch i'r llawr. Cyfodi i fyny a wnaethant yn gyflym, a thynu cleddyfau, ac ail ddechreu ymffust. A diau oedd gan y nifer a'i gwelent hwynt felly na welsant erioed ddau ŵr cyn wyched â'r gwyr hyny, na chyn gryfed. Pe buasai yn dywyll nos, hi a fyddai yn oleu gan y tân o'u harfau. Ar hyny, dyrnod a roddes y marchog i Walchmai, hyd oni thores yr helm oedd ar ei wyneb, fel yr adnabu y marchog mai Gwalchmai oedd efe. Yna y dywedodd Owain, Arglwydd Gwalchmai, ni adwaenwn I dydi, o achos dy gwnsallt, a'm cefnder wyt,—hwde i ti fy nghleddyf a'm harfau," Tydi, Owain, y sydd arglwydd, a thydi a orfu; cymer di fy nghleddyf I," ebai Gwalchmai. Ar hyny, Arthur a'u canfu yn ymddiddan, ac a neshaodd atynt: "Fy arglwydd Arthur," ebai Gwalchmai "dyma Owain: efe a'm gorchfygodd, ac ni chymer efe fy arfau." "Fy arglwydd," ebai Owain, "efe a'm gorchfygodd I, ac ni chymer efe fy nghleddyf." "Moeswch i mi eich cleddyfau," ebai Arthur, "ni orfu yr un o honoch ar eich gilydd." Ac Owain a ddododd ei ddwylaw am wddf Arthur, ac ymgofleidio a wnaethant. A'r holl lu a ddaethant i weled Owain, ac i'w gofleidio. Ac fe fu agos a bod celanedd yn yr ymsang hwn.
A'r nos hono yr aethant oll i'w pabellau; a thranoeth Arthur a baratodd i ddychwelyd. Arglwydd," ebai Owain, "nid felly y mae'n iawn iti. Tair blynedd i'r amser hwn y daethum I oddiwrthyt ti, arglwydd; a'r lle hwn myfi a'i piau; ac er hyny hyd heddyw yr ydwyf fi yn darparu gwledd i ti, gan y gwyddwn y deuet i'm ceisio. A thi a ddeui gyda mi i fwrw dy ludded, tydi a'th wyr; a chwi a gewch enaint."
A hwy oll a ddaethant hyd i Gaer IARLLES Y FFYNON; a'r wledd y buwyd dair blynedd yn ei darpar a dreuliwyd mewn tri mis. Ni bu esmwythach iddynt wledd erioed na gwell na hono. Ac Arthur a ddarparodd i ymadael Yna Arthur a ddanfonodd genadau at yr Iarlles yn erfyn arni ollwng Owain i dd'od gydag ef am dri mis fel y dangosai efe ef i bendefigion a phendefigesau Ynys Prydain. A'r Iarlles a ganiatodd, er mai anhawdd fu hyny ganddi. A daeth Owain gydag Arthur i Ynys Prydain. Ac wedi ei ddyfod i blith ei genedl a'i gyfeillion, efe a arosodd am dair blynedd yn lle tri mis.
Ac fel yr oedd Owain, un diwrnod, yn bwyta ar y bwrdd yn Nghaerlleon ar Wysg, wele forwyn yn dyfod ar farch gwineu, mwng-orych, wedi ei orchuddio gan ffroth. Ei gwisg oedd o bali melyn; a'r ffrwyn a'r hyn a welid o'r cyfrwy, aur oedd oll. A hi a ddaeth hyd at Owain, ac a gymerth y fodrwy oddiam ei law; Fel hyn," ebai hi "y gwneir i'r twyllwr, y bradwr anghywir, a'r hocedwr, a'r difarf." Yna hi a drodd ben ei march ac a aeth ymaith. A daeth i gof Owain ei ymgyrch, a thristhau a wnaeth. Ac wedi darfod bwyta, efe a ddaeth i'w letty, ac mewn pryder y bu efe y nos hono. Tranoeth, efe a gyfodes; ac nid i'r llys y cyrchodd efe, namyn i eithafoedd byd a diffaeth fynyddoedd. Ac efe a fu felly hyd oni ddarfu ei ddillad oll, a hyd oni ddarfu ei gnawd o'r braidd, ac hyd oni thyfodd blew hirion trwyddo. Cyd-gerdded a wnai a bwystfilod, a chyd-ymborthi â hwynt, hyd onid oeddynt gynefin ag ef; nes o'r diwedd y gwanhaodd efe fel nad allai gydymdaith â hwynt. Yno dyfod o'r mynyddoedd i ddyffryn, a dyfod at y parc tecaf yn y byd, ac iarlles weddw oedd piau y parc.
Ac un diwrnod, aeth yr Iarlles a'i llawforwynion allan i orymdaith ger ystlys llyn ag oedd yn nghanol y parc, a gwelent yno eilun dyn a'i ddelw, a'i ofni a wnaethant. Er hyny, hwy a aethant ato, a'i deimlo, a'i edrych. Gwelent fod bywyd ynddo, er ei fod yn gwywo o flaen yr haul. A dychwelodd yr Iarlles i'r Castell, a chymerodd lonaid gorflwch o iraid gwerthfawr, ac a'i rhoddes i un o'i llawforwynion. "Dos," ebai hi, "a hwn genyt, a dwg y march acu a'r dillad genyt, a dod hwynt gerllaw y gwr a welsom gyneu. Ac ir ef a'r iraid hwn ar gyfer ei galon; ac o bydd enaid ynddo, efe a gyfyd gan yr iraid hwn. Gwylia hefyd beth a wnel efe."
A’r forwyn a ddaeth rhagddi, a rhoddes y cwbl o'riraid arno, a gadawodd y march a'r dillad wrth ei ymyl, ac a ymguddies i'w wylio. Ac yn mhen ychydig, hi a'i gwelai yn cosi ei freichiau, ac yn codi i fynu, ac yn edrych ar ei gnawd. Cywilyddiodd gan mor hagr oedd y ddelw ag oedd arno. Yna efe a ganfyddodd y march, a'r dillad, ac ymlithro tuag atynt a wnaeth a gwisgo y dillad am dano. A thrwy boen efe a esgynodd ar ei farch. Yna y forwyn a ddatguddiodd ei hun iddo, ac a gyfarchodd weil iddo, ac efe fu lawen o'i gweled. Ac efe a ofynodd iddi pa dir a pha le oedd hwnw. Hithau a ddywedodd, "Iarlles weddw a biau y Castell acw. Pan fu farw ei gŵr, efe a adewis iddi ddwy iarllaeth, a heddyw nid oes ar ei helw namyn yr un tŷ hwn ar nas dycodd iarll ieuangc ag sydd yn gymydog iddi am nad elai hi yn wraig iddo." "Truan ydyw hyny," ebai Owain; a'r forwyn ac Owain a ddaethant i'r Castell. Yno hi a'i dwg ef i ystafell esmwyth, ac a gyneuodd dân iddo, ac a'i gadawodd yno.
A'r forwyn a ddaeth at yr Iarlles, ac a roddodd iddi y gorflwch. "Ha! forwyn," ebai'r Iarlles, pa le mae'r enaint oll?" · Mi a'i harferais oll," ebai'r forwyn. "Ha! forwyn," ebai Iarlles, "nid hawdd genyf faddeu hyn i ti: diriaid oedd i mi dreulio gwerth saith ugain. punt o iraid gwerthfawr ar ddyn heb wybod pwy ydyw. Eithr gwasanaetha di arno oni adfero efe yn gwbl oll.
A'r forwyn a wnaeth hyny, gyda bwyd a diod, a thân, a gwely, ac enaint, onid oedd efe iach. Bu hyny yn mhen tri mis, a'r blew a aethant oddiar Owain, a gwynach oedd ei gnawd nag y buasai erioed o'r blaen.
Un diwrnod, clywed a wnaeth Owain gynhwrf yn y Castell, a swn dwyn arfau i mewn, a gofynodd i'r forwyn pa gynhwrf oedd hyny: "Yr iarll;" ebai hi, "y dywedais i ti, sydd yn dyfod wrth y Castell i geisio difa y wraig hon a llu mawr ganddo." A gofynodd Owain os oedd march ac arfau yn y Castell. "Oes," ebai'r forwyn, "y rhai goreu yn y byd." "A ei di," ebai Owain, " erchi benthyg march ac arfau fel y gallwyf fi fyned ac edrych ar y llu ?" "Af," ebai y forwyn. A'r forwyn a ddaeth at yr Iarlles ac a'i hysbysodd o'r hyn a ddywedasai Owain wrthi. A'r Iarlles a chwarddodd; dyro iddo y march a'r arfau am byth; ni bu ar fy helw erioed farch ac arfau cystal a hwynt; a da genyf fi iddo eu cymeryd rhag i'm gelynion eu cael y foru o'm hanfodd. Eithr nis gwn I beth a fyn efe a hwynt. A daethpwyd a march du godidog, a chyfrwy o ffawydd arno, a digon o arfau gŵr a march, i Owain. 'Yntau a'u gwisgodd am dano, ac a esgynodd ar ei farch. Yna efe a aeth ymaith a dau was gydag ef, ac iddynt geffylau ac arfau. A phan ddaethant i olwg llu yr Iarll, ni welent nac ol nac eithaf iddo. Ac Owain a ofynodd i'r gweision yn mha fyddin yr oedd yr Iarll ynddi. "Y fyddin y mae y pedwar ystondard melynion acw ynddi." ebai'r gweision, "dwy y sydd o'i flaen, a dwy o'i ol." Ie," ebai Owain, "ewch chwi yn ol, ac arhoswch fi wrth borth y Castell." A hwy a ddychwelasant; yntau a gerddodd rhagddo ar ei gyfer ar yr Iarll. Ac Owain a'i tynodd ef oddiar y cyfrwy, ac a drodd ben ei geffyl tua'r Castell; a thrwy ychydig o drafferth, dygodd ef at y porth lle yr oedd y ddau was. Ac i mewn yr aethant, ac Owain a wnaeth anrheg o hono i'r Iarlles, ac a ddywedodd, Wele dal i ti am yr iraid bendigaid."
A'r llu a babellasant o amgylch y castell, a'r Iarll a ddychwelodd i'r Iarlles ei dwy iarllaeth iddi drachefn, fel yr arbedid ei fywyd. Ac am ei ryddhad, efe a dalodd iddi haner ei gyfoeth ei hun, a'r cwbl o'r aur, a'i arian a'i dlysau, a gorfu roddi gwystlon heblaw hyny.
Ac ymaith y daeth Owain, er i'r Iarlles a'i holl ddeiliaid ei wahodd i aros; er hyny, efe a chwenychai yn hytrach gerdded rhagddo eithafoedd byd a diffaeth fynyddoedd. Ac fel yr oedd efe yn cerdded, efe a glywai ddisgrech fawr mewn coed. Ac efe a'i clywai ddwy waith a thair gwaith. Ac efe a ddaeth tua'r fan; a phan ddaeth, efe a welai glogwyn mawr yn nghanol y coed, a chraig lwyd oedd yn ystlys y clogwyn, a hollt oedd yn y graig, a sarph oedd yn yr hollt. A llew purddu oedd yn ymyl y graig: A phan geisiai y llew fyned oddiyno, y sarph a neidiai tuag ato i'w frathu. Ac Owain a ddadweiniodd ei gleddyf, ac a ddynesodd at y graig; ac fel yr oedd y sarph yn dyfod o'r graig, Owain a'i tarawodd a'r cleddrf, onid oedd yn ddau haner. Ac efe a sychodd ei gleddyf, ac a ddaeth i'w ffordd fel o'r blaen. Ac efe a welai y llew yn ei ganlyn, ac yn chwareu o'i gylch fel milgi a fagasai ef ei hun. A cherdded a wnaethont yn nghyd hyd hwyr y dydd. A phan ddaeth amser gan Owain i orphwys, efe a ddisgynodd oddiar ei farch, ac a'i gollyngodd i ddol goediog wastad; chyneu tân a wnaeth Owain. Ac erbyn iddo orphen cyneu y tân yr oedd y llew wedi casglu digon o danwydd iddo am deirnos. A diflanu a wnaeth y llew oddiwrtho. Yn mhen ychydig, dyma fe yn dychwelyd ac iwrch mawr godideg ganddo, ac a'i bwriodd gerbron Owain, ac a aeth am y tân ag ef.
Ac Owain a flingodd yr iwrch, ac a ddododd olwython o hono ar ferau o amgylch y tân. Y gweddill a roddodd efe i'r llew. Ac fel yr oedd Owain felly, efe a glywai och fawr eilwaith a thrydedd waith yn gyfagos iddo, ac Owain a ofynodd os och dyn bydawl oedd yr och a glywai. le," ebai'r llais. Pwy wyt ti?" ebai Owain. "Diau," ebai hi, "Luned wyf fi, llawforwyn IARLLES Y FFYNON.” Beth a wnei di yna?" ebai Owain. Fy ngharcharu," ebai hi, "yr ydys o achos marchog a ddaeth o Lys Arthur i fynnu yr Iarlles yn briod; ac efe a fu yspaid gyda hi, ac a ddaeth ar ymweliad â Llys Arthur, ac ni ddychwelodd byth drachefn. A'r mwyaf a garwn I yn y byd oedd efe. A'i oganu a wnaeth dau o weision ystafell yr Iarlles a'i alw yn dwyllwr; minau a'u hatebais nad allai eu deugorph hwy ymryson a'i uncorph e'. Ac am hyny carcharwyd fi yn y llestr maen hwn; a dywedasant wrthyf na byddai fy enaid yn fy nghorph oni ddeuai ef i'm gwared cyn pen dydd neillduol, ac nid pellach y dydd hwnw na threnydd. Ac nid oes imi neb a'i ceisia. Ei enw yw Owain ab Urien." A wyt ti yn sicr pe gwypai y marchog hwnw hyn y deuai efo i'th amddiffyn" "Yr wyf yn sicr," ebai hi.
A phan oedd y golwython yn barod, Owain a'i rhanodd rhyngddo ef â'r forwyn. A bwyta a wnaethant; ac wedi hyny ymddiddan onid oedd hi yn ddydd dranoeth. Tranoeth, Owain a ofynes i'r forwyn os oedd lle y gallai gael bwyd a llawenydd y noson hono. Oes, arglwydd." ebai hi, "dos yna drwodd, a cherdda y ffordd ger ystlys yr afon, ac yn mhen ychydig ti a weli Gaer fawr, a thyrau aml arni, a'r iarll a biau y gaer hono goreu gwr am fwyd ydyw yn y byd. Ac yno y gelli di fod heno.
Ac ni wylies gwyliwr ei arglwydd erioed yn gystal ag y gwylies y llew ar Owain y nos hono.
Yna Owain a gymerodd ei farch, ac a gerddodd rhagddo trwy y rhyd, oni weles efe y Gaer. Ac efe a aeth i mewn, a derbyniad anrhydeddus a gafodd. Gofalwyd am ei farch, dodwyd dogn dda o fwyd ger ei fron. A myned a wnaeth y llew i breseb y march i orwedd, hyd na lyfasai i neb o'r gaer fyned ar gyful ei geffyl. A diau oedd gan Owain nas gwelsai erioed wasanaeth cystalaga gawsai yno, er fod yno bawb cyn dristed a phe buasai angau yn. mhob un o honynt. A myned i fwyta a wnaethant; a'r iarll a eisteddai ar y naill ochr i Owain, a'i unig ferch ar yr ochr arall i Owain. A diau oedd gan Owain na welsai erioed forwyn harddach na hono. A'r llew a ddaeth ac a orweddodd rhwng deudroed Owain tan y ford; ac Owain a'i porthes a phob bwyd ag oedd ganddo yntau. Ac ni welodd Owain fai yno oddieithr tristwch y dynion. Ac ar haner bwyta, yr iarll a ddechreuodd gyfarch gwell i Owain, "Y mae yn amser i ti fod yn llawen," ebai Owain. Duw a wyr," ebai'r iarll," nad wrthyt ti yr ydym ni yn drist: namyn dyfod tristwchi'n gofal." "Beth yw hyny?" ebai Owain, " Dau fab oedd im', a myned a wnaethant ddoe i'r mynydd i hela. Yno y unae anghenfil, a lladd dynion a wna, a'u hysu; ac efe a ddaliodd fy meibion. Ac yforu y mae'r amser iddo ddyfod yma, ac oni roddaf fi y forwyn hon iddo, efe a ladd fy meibion yn fy ngwydd. Llun dyn sydd iddo, er nad ydyw efe lai na chawr.
"Diau," ebai Owain, "trist yw hyny; a pha un a wnei dithau" Duw a wyr," ebai'r iarll, "fod yn well genyf iddo ddyfetha fy meibion, a gafodd efe o'm hanfodd, na rhoddi fy merch iddo, o'm bodd, i'w llygru a'i dyfetha." Ac ymddiddan a wnaethant am bethau eraill.
Ac yno y bu Owain y noson hono. A bore dranoeth, hwy a glywent dwrf anfeidrol ei faint; sef twrf y gwr mawr yn dyfod, a'r ddau fab ganddo. A'r iarll a fynai gadw y Gaer rhagddo, a rhyddhau ei ddau fab. Yna Owain a ymarfogodd ac a aeth allan i ymladd â'r cawr; a'r llew a'i canlynodd. A phan weles y cawr Owain yn arfog, efe a gyrchodd tuag ato, ac ymladd ag ef; a gwell o lawer yr ymladdai y llew a'r gwr mawr nag Owain. Ac ebai y gŵr wrth Owain, "Ni byddai gyfyng arnaf ymladd gyda thi pe na byddai am yr anifail yna sydd gyda thi." Yna Owain a fwriodd y llew i'r Gaer, ac a gauodd y porth Ac a ddychwelodd i ymladd â'r gwr mawr, fel o'r blaen. A'r llew, yn clywed fod Owain yn cael y gwaethaf, a roddodd ddisgrech uchel, ac a ddringodd i fynu ar neuadd yr iarll, ac oddiar y neuadd ar y Gaer, ac oddiar y gaer efe a neidiodd onid oedd efe gydag Owain. A'r llew a roddodd ddymnod a'i balf i'r gŵr mawr onid oedd ei balf trwy bleth y ddwy glun, nes y gwelid ei ymysgaroedd yn llithraw allan. A'r cawr a syrthiodd yn farw, ac yna Owain a roddes ei ddau fab i'r iarll.
A'r iarll a wahoddodd Owain i aros yno. Eithr nis mynai efe, namyn dyfod rhagddo i'r ddol yr oedd Luned ynddi. Ac efe a welai yno dân mawr yn cyneu; a dau was hardd pengrych wineu yn myned â'r forwyn i'w bwrw i'r tân. Yntau a ofynodd iddynt pa beth a fynent â'r forwyn. A datgan yr amod a wnaethant iddo fel y datganasai y forwyn y nos cynt." Owain ni's gwaredodd hi; ninau a'i llosgwn hi." "Diau," ebai Owain, "marchog da oedd hwnw; a diau pe gwypai efe am gyfyngder y forwyn y deuai efe i'w hamddiffyn. Ond os cymerwch chwi fi yn ei le, mi a ymladdaf à chwi."Gwnawn" ebynt hwythau,“ myn y gwr a'n gwnaeth."
A myned a wnaethanti ymornestu âg Owain; a gofid a gafodd efe gan y ddeuwas. Ar hyny y llew a gynorthwyodd Owain, a hwy a orfuant ar y gweision. Yna y dywedasant hwythau, “Ha! unben nid oedd amod i ni ymladd namyn â thydi dy hun ; ac anhawddach ini ymladd â'r anifail nag â thydi.” Ac Owain a ddodes y llew yn lle y buasai y forwyn yn ngharchar, ac a wnaeth fur o feini ar y drws. Myned i ymladd â'r gwyr fel cynt, eithr ni ddaethai nerth ato. Yr oedd y ddeuwas yn ormod iddo, a'r llew fyth yn disgrechu am fod gofid ar Owain; nes o'r diwedd, efe a rwygodd y mur, ac a gafodd ei ffordd allan. Ac yn gyflym efe a laddodd y naill a'r llall o'r gweision: ac felly yr arbedwyd Luned rhag ei llosgi. Yna y daeth Owain a Luned gydag ef i gyfoeth IARLLES Y FFYNON. A phan y daeth yno, efe a gymerth yr Iarlles gydag ef i Lys Arthur. A hi fu ei wraig tra fu hi byw. A hwy a gymerasant y ffordd oedd yn arwain i lys y gŵr du traws. Ac Owain a ymladdodd ag ef, ac nid ymadawodd y llew ag Owain hyd oni orfu ar y du traws. A phan gyrhaeddodd efe Lys y gŵr du draws, efe a aeth i mewn i'r neuadd, ac yno efe a welai bedair gwraig ar hugain tlysaf a welodd neb erioed. Ac nid oedd y dillad oedd am danynt werth pedair ar hugain o arian; a chyn dristet oeddynt âg angau. Ac Owain a ofynodd ystyr eu tristwch. Hwythau a ddywedasant mai merched ieirll ooddynt, "a daethom yma bob un gyda'r gwr mwyaf a garem o'r byd. A phan ddaethom ni yma, ni a gawsom lawenydd a pharch; a'n gwneuthur yn feddw. A gwedi ein gwneuthur yn feddw, daeth y cythraul a biau y llys hwn, ac a laddodd ein gwyr oll, ac a ddygodd ein meirch ninau, a'n dillad, a'n haur, a'n harian. A chyrph ein gwyr ni sydd eto yn y tŷ hwn, a llawer o gelanedd gyda hwynt. A dyna i ti, unben, ystyr ein tristwch ni. A drwg yw genym dy ddyfod di yma, rhag digwydd drwg i tithau."
A thrist fu Owain wrth hyny, ac efe a aeth i orymdaith allan. Ac efe a welai farchog yn dyfod ato, ac yn ei gyfarch trwy lawenydd achariad fel pe buasai yn frawd iddo, a hwnw oedd y gwr du traws. "Duw a wyr," ebai Owain, "nad i gyrchu dy lawenydd y daethum i yma." "Duw a wyr," ebai yntau, "nas cei dithau ef." Ac yn y lle ymladd a wnaethant ac ymdaraw yn ffyrnig. Ac Owain a ddifarchodd y cawr, ac a rwymodd ei ddwylaw tu ol i'w gefn; ac efe a erfyniodd ei fywyd oddiar law Owain, ac fel hyn y dywedodd efe, "Fy arglwydd Owain," ebai ef, "yr oedd darogan y deuet ti yma i'm darostwug i. A thi a ddaethost, ac a orfuaist arnaf. Yspeiliwr a fum i yma, ac yspeildŷ fu fy nhŷ; eithr os rhoddi di i mi fy mywyd, mi a af yn ysbyttywr, ac a gynaliaf y tŷ hwn yn ysbytty i wan ac i gadarn, tra byddwyf byw, er daioni dy enaid di.” Ac Owain a gymerth hyny ganddo; ac yno y bu Owain y nos hono.
A thranoeth, y cymerth efe y pedair gwragedd ar hugain a'u meirch, a'u dillad, a'r da a'r tlysau ag oedd ganddynt, ac a ddaeth gyda hwynt byd yn llys Arthur. A llawen a fuasai Arthur o'i gael pan y collasai efe ef gynt, eithr llawer llawenach yn awr. Ac o'r gwragedd hyny, yr hon a fynai drigo yn llys Arthur, hi a drigai; a'r hon â fynai fyned ymaith, elai.
Ac o hyny allan, Owain a drigodd yn Llys Arthur, yn fawr ei barch fel penteulu; onid aeth efe ar ei gyfoeth ei hun, sef oedd hyny tri chant o frain a adawsai Cynferchyn iddo. Ac i'r lle y delai Owain gyda y rhai hyn, gorfod a wnai. A'r chwedl hon a elwir Chwedl IARLLES Y FFYNON