Cymru Fu/Y Diwyd a'r Diog

Oddi ar Wicidestun
Mân-gofion 2 Cymru Fu

gan Isaac Foulkes

Iarlles Y Ffynon


Y DIWYD A'R DIOG.

COFUS iawn genym y dydd hwn, am ddau a adwaenem yn dda pan yn ieuanc gartref, o'r gwahanol nodweddau hyn. Yr oedd preswylfa y diwyd am lawer o flynyddau gerllaw trigle ein rhieni. Os digwyddai iddo fod allan o waith, byddai yn anesmwyth ac annedwydd i'r eithaf iddo ei hun a'i deulu. Siaradai rhyngddo ag ef ei hunan, prociai y tân, ysgytiai y plant, ciciai y gath, a byddai rywyr i Begws, y wraig, hel y carnau o'i olwg. Ond os byddai ganddo olwg ar ddigon o waith o'i flaen, byddai mor llawen a'r côg, ac mor chwareüus a'r ebol. Byddai yn llonaid ffordd ddyn wrth fyned at ei waith y bore a dychwelyd adref yr hwyr. Gosodai ei freichiau yn mhleth, a'i het ar lechwedd ei ben, gan ganu fel y medrai:—

"Fe dyngai madyn eger
Pe ll'w'gai brenin Lloeger
Mi fyna ddafad ag oen gwyn,
Os hapia, erbyn swper.

Gweithio oedd dedwyddwch ei fywyd, ac yr oedd bod allan o waith yn chwerwach nag angau iddo. Cof genym i'n tad ein hanfon i ymofyn am dano at ryw waith ar adeg led segur arno, ac yr oedd yn bur ddrwg ei anwydau, fel yr arferai fod ar y tymhorau hyny: ond pan grybwyllasom ein neges, newidiai ei wedd, a dechreuai chwibanu yn fawreddus ryfeddol; "Ond," meddai yn y man, "ni wn i beth i ddweyd wrthat ti. Y mae Robert y Wern yna, eisio i mi fyn'd yno—a Richard y Cae Coed hefyd; ond aros di, dywed wrth dy dad mai acw y do i." Ni byddai yr hen walch yn foddlawn i addef byth ei fod allan o waith.

Bu yr hen greadur diwyd hwn fyw i oedran teg. Wedi iddo fyned yn rhy wan gan henaint i weithio am gyflog fel cynt, nid ymollyngodd ar y plwyf fel y cyffredin. Yr oedd yspryd gweithio mor fyw a nerthol ynddo ag erioed. Treuliodd flynyddau olaf ei oes ar hyd mynydd Hiraethog; efe oedd arglwydd darn mawr o'r mynydd hwnw. Adwaenid ef yn dda gan filoedd o ddefaid, a merlynod, a chornchwiglod yno. Yn yr haf, byddai yn tori ac yn cynauafu mawn i'w gwerthu. Efe oedd Rothchild mawr y byd yn y farchnadyddiaeth fawnog. Yn hâf gwresog y flwyddyn 1826 cafodd golledion dirfawr drwy i ran fawr o'r mynydd gymeryd tân, yr hwn a losgodd ugeiniau o Iwythi o'i fawn. Mawr oedd gofid a phrofedigaeth yr hen ŵr ar yr achlysur hwn. Yr oedd i'w weled yn fore iawn bob dydd yn myned i fyny i'r mynydd, ac ofnid y gwnaethai losg-aberth o hono ei hun yn nghanol ei fawn. Llawer brwydr galed a fu rhyngddo â'r elfen ddinystriol. Llosgodd ei haiarn gwthio, ei glustog, a'i raw fawn, yn golsion; a haner rostiodd yr hen ŵr ei hun yn y gwres lawer gwaith. Yn y gauaf, byddai hyd y mynydd yn tynu pabwyr, a'r nos ar ol dyfod adref yn eu pilio, ac elai Begws ar hyd y wlad i'w gwerthu hwy a'r ysgubau a wneid ganddo o'r pilion. Fel hyn y bu fyw hyd nes y daeth pilionen ei fywyd i'r pen.

Adwaenem gymydog a chyfoed i'r hen ŵr uchol, yr hwn yntau hefyd oedd yn nodedig ar gyfer ei weithgarwch, ei ddiwydrwydd, a'i onestrwydd; hen Gymro o'r hen ffasiwn oedd efe: pur afrywiog ei dymher, druan; a phan y cyffroid hono, yr hyn a ddigwyddai yn fynych, celai darn fawr o wlad wybod hyny, canys treiddiai ei floeddiadau uchel ac egrddigofus fel taranau trwy y fro. Yr oedd ganddo lais fel udgorn cryf, a gollyngai ef allan yn ei lawn nerth, pa bryd bynag y cynhyrfid ei natur. Yr oedd ar ei anifeiliaid ei ofn fel y gŵr drwg: rhedai y moch i ymguddio am eu bywyd pan ddelai i'w golwg. Llechai'r ieir a'r gwyddau mewn distawrwydd, pan glywent ei lais. Ciliai'r gwartheg rhagddo mewn dychryn pan y'i gwelent; canys yr oedd y creaduriaid oll wedi profi angerdd ei soriant lawer tro, pan wedi troseddu trwy dori i fanau annghyfreithlawn. Efe, bob amser, fyddai y cyntaf i fynu yn y fro. Byddai Dafydd wedi gweithio darn da o ddiwrnod, cyn i neb arall yn mron ddechreu ar ei orchwyl: a daliai wrthi hyd gan hwyred a'r hwyraf.

Yr oedd yr hen greadur hynod hwn yn nodedig am ei gywirdeb a'i onestrwydd hefyd, a mawr berchid ef ar y cyfrif hwnw. Yr oedd ganddo geffyl unwaith yn ei feddiant ag oedd yn peri mawr flinder iddo oblegyd ei fariaeth; torai dros bob clawdd, a gwnai ddifrod mawr ar ydau yr hen ŵr, ac ni allai ei feistroli â llyffetheiriau nac mewn un modd arall. Penderfynodd Dafydd ei werthu, os gallai; a bore ddiwrnod ffair, yn y pentref cyfagos, clymodd y llyffethair am wddf Sharper, ac arweiniodd ef yno. Yn mhen enyd daeth prynwr heibio, ac wedi dal sylw ar y ceffyl, a barnu y gwnaethai ei dro, ymofynodd yn nghylch y pris. "Ond beth sydd genych am ei wddf?" ebe fe. Llyffethair i roi am ei draed o, debyg," meddai Dafydd; os ydych yn meddwl ei brynu o, rhaid i chwi roi hon am ei goesau fo,—mi na' lw nad oes genych yr un clawdd ar eich helw a'i deil o." "Ond sut yr ydych mor ffol ac amlygu y peth am dano, a chwithau eisio ei werthu?" ebe y llall. "Oes y mae arnaf eisio ei werthu i'w grogi," meddai Dafydd; "ond y mae arnaf eisio i'r neb a'i pryno gael gwybod y gwir am yr hen ellyll." "Mi a roddaf i chwi eich pris am y ceffyl," ebai y gŵr; ond gellwch chwi gadw y llyffethair; gwnawn y tro yn burion, oblegyd ni chaiff gyfleusdra i dori cloddiau gyda mi; caiff ei gadw o'r ystabl i'r tresi, ac o'r tresi i'r ystabl." Y mae gwir brydferthwch mewn troion symlion a gonest o'r fath yma; ac y mae Dafydd o'r Gilfach yn deilwng o gael ei gadw mewn coffadwriaeth o'i herwydd.

Y mae addewidion twyllodrus cryddion, gwehyddion, a theilwriaid, wedi peri llawer o boen a theimladau drwg mewn teuluoedd yn Nghymru; ac nid anfynych y cyfyd y ddadl yn nghylch pa un ai gŵr y mynawyd, y nodwydd, neu y wenol, ydyw y mwyaf celwyddog o'r tri boneddwr. Tyr y crydd gynifer o addewidion am bar o esgidiau ag a fydd o bwythau ynddo cyn dechreu ar ei waith, a chwyra esgusion anwireddus drachefn mor barod a deheuig ag y cwyra ei edef. Addawa y teiliwr wasanaeth ei nodwydd ddeng waith i wneuthur pâr o ddillad i'r gŵr ieuanc, cyn y cyflawna; a bydd hwnw o herwydd y siomedigaethau yn ei ddirgel felldithio. Addawa y gwehydd weu corn o wlanen i haner cant o wragedd ar yr un pryd mor rhwydd ac mor rhigl ag y rhed ei wenol; a bydd y rhai hyny drachefn yn ei gablu ac yn gollwng eu tafodau arno fel y lifeiriant, oherwydd iddo eu twyllo âg addewidion gau. Brawd cyfan i'r lleill yw y panwr yntau. Y mae y drwg a'r niwed o gelwyddau o'r fath hyn wedi ei guddio o'r golwg i raddau helaeth gan gyffredinolrwydd yr arferiad o honynt. Ni feddylia y naill na'r llall bod dim allan o le yn y peth, ond y rhaid iddynt ei arfer i gadw eu cwsmeriaid, a'u cadw yn ddiddig; pan mewn gwirionedd y maent yn achosi cynhen ac yn cynyrchu teimladau digofus fwy na mwy.

Yn y teulu, ar yr aelwyd wrth fagu y plant—dyma feithrinfa gyntaf y drwg. Rhieni, drwy fân—gelwyddau a olygant yn ddiniwed—addaw a bygwth heb byth gyflawni—addysgant eu plant i fynu yn y gelfyddyd ddu o'u mabandod. Megir hwy fel hyn yn nghymdeithas celwydd; ymgynefinant â'r gwenwyn o'r bru, yr hwn a wenwyna ei holl gyfansoddiad moesol. Y mae cymdeithas fel hyn yn cael ei gwenwyno yn ei ffynonell. Y rhai a ddysgwyd fel hyn i gellwair âg anwiredd o'u mebyd, ac feithriniwyd o'r groth yn ei gwmpeini, a syrthiant dan ei ddylanwad o angenrheidrwydd; ac anhawdd iawn fydd eu deffro i ystyriaeth a theimlad o'r drwg, a'u cael i ymadael ag ef. Os yn mhen ffordd celwydd yr hyfforddir plentyn gan ei rieni gartref, nid at wirionedd yr ymgryfhâ hwnw ar y ddaear: odid fawr nad myned yn mlaen ar hyd-ddi a wna ar hyd ei oes. Yr unig feddyginiaeth i'r pla mawr yn ei holl raddau ydyw GWIRIONEDD.

Y llall, sef y Diog, nid oedd chwaith yn neppell oddi wrthym. Yr oedd y gwr hwn yn enwog mewn diogi— yr olwg arno yn wir ddelw o'r peth. Yr oedd yn ddyn corffol, cryf, ac iachus; ond ni fynai weithio. Arferai y diwyd a ddysgrifiwyd o'r blaen ddywedyd am dano, "Y mae diogi wedi myn'd i asgwrn mawr Ned." Credem yn ddilys y buasai yn dyoddef merthyrdod dros egwyddorion diogi a seguryd. Os ceid ganddo wneud diwrnod o waith, drwy ddirfawr ymdrech byddai yn chwythu ac yn tagu, yn tuchan ac yn gruddfan, nes y byddai yn boenus i fod o fewn lled cae iddo. Ymddangosai y diwrnod gweithio gyhyd a deng mlynedd yn ei olwg, a byddai gweithio un diwrnod mewn deng mlynedd yn orchest fawr iawn iddo ei chyflawni. Cenedlodd liaws o blant, oll yn ferched, ar ei wir lun a'i ddelw ei hun. Tympathau mawrion, afrosgo, annghymalog, anystwyth, cyffelyb i sachau cynfas wedi eu llenwi â manus, diog i berffeithrwydd ystyr y gair, oeddynt bob un. Nid oedd yn y tŷ, o ddodrefn, ond hen gwpwrdd tridarn, a math o fwrdd, a stol i bob un eistedd, a gwalanod o wellt neu o fanus, a chydau cardota. Unwaith yr ymollygent i'r gwellt, yn iach godi o hono, nes y byddai i eisio bwyd gnoi yn eu coluddion. Yna gwelid y tad a'i fintai ferched yn cymeryd bob un ei gwd, ac yn troi allan i lusgo eu heylau ar draws y wlad o dŷ i dŷ. Nodai y tad, fel blaenor y fyddin, ei chylch cardotëig i bob un o'r merched am y dydd, gan gymeryd y tai agosaf a mwyaf cyfleus dan ei ofal ei hun. Byddai ymladdfeydd dychrynllyd yn tori allan weithiau rhyngddynt, os digwyddai i rai cydau fod yn lled weigion, oblegyd drwgdybid perchenogion y cydau hyny gan y lleill, o fod yn euog o ddiogi ac esgeulusdra yn nghyflawniad gwaith y dydd. Yr oedd eu diogi yn felldith drom iawn ar y teulu annedwydd hwn. Gwrthddrychau dirmyg ac adgasrwydd yr holl blwyf oeddynt. Y dialedd trymaf a allai y naill fachgen ieuanc feddwl am dano i'w roddi ar y llall, pan wedi digio, fyddai danod un o ferched Ned yn gariad iddo; byddai hyny bob amser yn sicr o gyrhaedd i'r byw. Llawer ymladdfa ffyrnig a fu rhwng hoglanciau â'u gilydd oblegyd hyn. Pan fyddai yr holl ystôr o dafod drwg wedi ei dreulio, hon oedd yr olaf a'r benaf; ac nid oedd ond y dyrnau am dani wed'yn. Gwelais hyn, a mi ystyriais yn ddwys; edrychais arno, a chymerais addysg. Eto ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig blethu dwylaw i gysgu; felly y daw dy dlodi arnat fel ymdeithydd, a'th anghen fel gwr arfog."

IARLLES Y FFYNON

(Hen Fabinogi Gymreig.)

YR Ymherawdwr Arthur oedd yn Nghaerlleon-ar-Wysg, ac yn eistedd un diwrnod yn ei ystafell; a chydag ef Owen ab Urien, a Chynon ab Clydno, a Chai ab Cyner; a Gwenhwyfar a'i llaw-forwynion yn gwnio wrth y ffenestr. Ac os dywedir fod porthawr ar Lys Arthur, nid oedd yr un. Glewlwyd Gafaelfawr oedd yno yn gweithredu fel porthawr i groesawu ysp a phellenigion (gwesteion a dyeithriaid), ac i ddechreu eu hanrhydeddu, ac i fynegi moes y llys iddynt, ac i gyfarwyddo y sawl a ddeuent i'r llys neu i'r ystafell, neu a ddeuent yno am letty. Ac yn nghanol llawr yr ystafell yr oedd yr ymherawdwr Arthur yn eistedd ar deml o frwyn, a llen o bali melyn-goch o dano; a gobenydd o bali coch o dan ei benelin. Ar hyny ydywed Arthur, "Hawyr, pei na'm goganech,"


Nodiadau[golygu]