Cymru Fu/Man-gofion 1
← Margred Uch Ifan | Cymru Fu Man-gofion gan Isaac Foulkes Man-gofion |
Llewelyn, ein Llyw Olaf → |
MAN-GOFION.
Llyn y Dywarchen. — Rhwng Bettws Garmon â Drws y Coed, yn nghanol gwylltineb yr Eryri, y mae llyn wastadlefn o ddwfr gloywlas a adwaenir wrth yr enw llyn y Dywarchen. Dywed Giraldus Cambrensis fod ar y llyn hwn yn ei amser ef ynys fechan symudol o ffurfiad afreolaidd ac oddeutu naw llath o hyd. Ymddangosai fel darn o dorlan wedi i'r dwfr weithio o tani a'i rhyddhau oddiwrth y tir, ac yn cael ei chadw wrth ei gilydd gan wraidd y llysiau a'r brysg-goed a dyfent arni. Gyrid hi yn ol a blaen gan y gwynt, ac ar brydiau dechreuai ail-ymgydio wrth y lan; ond yn sydyn drachefn y gwynt a droai o gwmpas, ac, yn ol Giraldus, cyn y celai yr anifeiliaid a ddigwyddai bori arni gyfleusdra i fyned ymaith; o ganlyniad ni byddai ganddynt ond ymddiried yn nhrugaredd y gwynt am eu dychweliad i dir.
Squire y Graith. — Yn amser Rhyfeloedd y Rhosynau, yr oedd yr enwog Owen Tudur yn ngharchar yn Nghastell Brynbyga (Usk), yn Ngwent, am iddo bleidio teulu Lancaster. Yna aeth ei gefnder, Ieuan ab Meredydd, gyda mintai o gant o foneddigion Gwynedd, tuag yno gyda'r bwriad o'i ryddhau. Wedi llwyddo yn eu hamcan, a thra yn dychwelyd adref, ymosodwyd arnynt gan fintai luosog o bleidwyr teulu Yorc. Cymerodd gornest galed le rhyngddynt; ac Ieuan ab Meredydd a anerchodd ei gydymdeithion gan eu hadgoffa o ddewrder eu hynafiaid, ac atolygu arnynt ymddwyn yn deilwng o'u cenedl a'u gwlad; a diweddu gan obeithio na chelai oesau i ddyfod ddim dywedyd am y lle y sangent arno, "Dyma'r fan y ffodd cant o foneddigion Gwynedd!" ond dweyd yn hytrach "Dyma'r fan y lladdwyd cant o foneddigion Gwynedd wrth roddi ailfywyd i ddewrder eu cyndadau." Yna, gan fod rhai o'i gyfeillion wedi dyfod a'u meibion gyda hwynt, dododd y rhai hyny o'r tu cefn i'r fintai;" a'i feibion ei hunan ar y blaen, ac yntau a lywyddai y gâd. Llwyr orchfygwyd y gelynion, a'r Gwyneddwyr ni chollasant yr un bywyd; eithr derbyniodd Ieuan archoll ddofn dost yn ei wyneb, a adawodd ei hol arno tra y bu efe byw, ac am hyny y gelwid ef Squire y Graith.
Lleucu Llwyd oedd rian rinweddol, nodedig yn mhlith rhianod digyffelyb Cymru am ei glendid a'i phrydferthwch, yn byw yn Mhennal, ar lan yr afon Dyfi, yn y 14eg ganrif. Cerid hi â chariad pur gan Llywelyn Goch ab Meirig Hen o Nannau, gerllaw Dolgellau. Ond nid oedd ei thad mewn un modd yn foddlon i'r garwriaeth, ac ar bob cyfleusdra cymerai fantais i greu annghariad rhyngddynt. Un tro digwyddodd i Lewelyn Goch fyned ar daith i'r Deheubarth, a daeth ei thad at Lleucu gan ddywedyd wrthi er mwyn diddyfnu ei serch oddiwrth y bardd, fod Llewelyn wedi ymbriodi yno â merch arall. Pan glybu Lleucu hyn, y fath oedd ei gofid fel y syrthiodd ar y llawr mewn llewyg, ac y bu farw yn y fan. Dychwelodd Llewelyn; eithr efer ceisio darlunio ei deimladau pan ddeallodd fod prydferthwch ei lygaid ac eilun ei enaid wedi huno yn yr angau. Tan ei deimladau cyffrous ar y pryd, efe a gyfansoddes gywydd marwnad iddi, yr hwn a arddengys y galar dwysaf.
Gair Mwys. — Dafydd ab y llosgwrn a aeth at ei Athraw Pencerdd, sef oedd hwnw Einion Offeiriad, ar fedr ymresymu a chael addysg ganddo. A gofyn a orug y Pencerdd iddo a wyddai efe pa fodd i draethu gair mwys. Yntau, gan gwbl anobeithio cael ychwaneg o ymresymu ag ef, achos na wyddai pa fodd i ateb, a ddywedodd rhyngddo ag ef ei hun, ac mewn anobaith gresynol, "Duw a Mair a'm helpo!" Ond ni wyddai eto mai gair mwys oedd a ddywedasai. Eithr yr Athraw Pencerdd a'i croesawodd yn fawr gan ddywedyd, "Godidog y dy wedaist, dyna air mwys, canys ni wyddis pa un ai Duw a Mair a'm helpo, ynte Duw am air a'm helpo, yw y meddwl". Cyffelyb chwedl a ddywedir am Sion Tudur, y bardd o Lanelwy, pan gurodd efe hen wraig â pholgae, am iddi ddwyn pys o'i gae. Yr hen wraig a achwynodd wrth yr Esgob; yntau, gan holi Sion, a ofynodd yr achos iddo guro yr hen wraig. Sion a atebodd, "Ni wneis i ond ei churo am bys." Yr Esgob, gan dybied mai dywedyd yr oedd," Ni wneis ond ei churo â'm bys," sef â fy mys, a faddeuodd iddo.
Gwaithfoed. — Gwaithfoed, arglwydd Cilwyr a Cheredigion, oedd yn byw yn amser Edgar Frenin. A'r Edgar hwnw a ddanfones at dywysogion Cymru yn gorchymyn iddynt ei gyfarfod ef yn Nghaerlleon Gawr, a rhwyfo ei fâd ef ar y Ddyfrdwy. A Gwaithfoed a ddanfones ateb i Edgar gan ddywedyd na fedrai ef rwyfo ysgraff; a phe medrai, na wnelsai ond er gwaredu brenin neu wreng rhag angau. Edgar a ddanfones eilwaith ato, a chyrda hyny gorchymyn caeth; eithr ni roddai Gwaithfoed ateb am enyd i'r genad, a hwnw yn deisyf ateb a jíha beth a ddywedai wrth y brenin. "Dywed fel hyn wrtho," ebai Gwaithfoed, "Ofner na ofno angau." Ac yna y daeth Edgar ato, a rho'i llaw yn garedig iddo, ac ymhŵedd arno fod yn gâr a chyfaill iddo; a hyny a fu. Ac o hyny allan, arwyddair epil Gwaithfoed fu "Ofner na ofno angau."
Llewelyn ab Cadwgan. — Yn y flwyddyn 1399, daeth gŵr o Gymro (ac ni soniai o ba dylwyth yr hanai), o Ryfeloedd y Groes, i fyw i Gaerdyf. Ei enw oedd Llewelyn ab Cadwgan; a chymaint oedd ei haelfrydedd fel y rhoddai i bob tlawd a geisiai ganddo, neu a welai mewn eisio. Efe a wnaeth dŷ wrth yr hen Dŵr Gwyn at gynal cleifion a hen diallu. Efe a roddai'r maint a geisid gantho, nes rhoi'r cwbl; ac wedi hyny efe a roddes ei dŷ mawr a theg, a elwid y Plasnewydd, i'r Mathanaid, a rhoddes ei werth, nes darfu'r cyfan; ac yn y diwedd bu farw o newyn ac eisiau, ac ni roddai neb iddo, gan ddanod iddo ei wastraff ar gyfoeth.
Hen Gyfraith Gymreig. — Ymddengys oddiwrth hen gyfraith un o dywysogion Cymru, fod cath ddof yn greadur gwerthfawr a gwasanaethgar. Yr oedd ceiniog am un fechan cyn iddi agor ei llygaid; dwy geiniog o'r amser hwnw hyd oni ddaliai lygoden; a chymaint â hyny bedair gwaith pan ddeuai i'w chyflawn faintioli. Yr oedd hyny yn brisiau mawr iawn wrth gyferbynu gwerth arian y pryd hwnw a'u gwerth yn ein dyddiau ni. Dirwyid pawb a laddai gath y tywysog pan fyddai hi yn gwylied ystordy ŷd (granary), i dalu mamogiad, a'i chroen, a'ihoen; neu gymaint o wenith ag a fyddai yn ddigon o swm i guddio blaen ei chynffon trwy ei dy wallt ar y gath yn cael ei dal i fynu gerfydd ei chynffon a'i phen yn cyffwrdd y llawr.
Diwedd Dafydd ab Llewelyn. — Gwedi i'r Penwyn a'i feibion, am ddeg punt a buarth o wartheg, fradychu Dafydd brawd Llewelyn, Iorweth brenin Lloegr a ddaeth a'i gŵyn yn ei erbyn, fel yn erbyn un o'i ddeiliaid ei hun. Gorchymynodd un ar ddeg o ieirll a chant o farwniaid y deyrnas i'r frawdle; a'r brenin oedd yn bresenol. Nid oedd ynddynt deimlad nefolaidd drugaredd; ac yn marn John de Vaus, prif ynad Lloegr, yr oedd rhywbeth agos tu hwnt i ddychymygion trigolion uffern — iddo gael ei lusgo wrth gynffonau meirch drwy heolydd Amwythig i fan y dyoddefaint, am iddo geisio bradychu y brenin a'i gwnaeth yn farchog; iddo gael ei grogi am ladd Fulk Trigald a marchogion eraill yn nghastell Hawardin; a'i galon a'i gylla i'w llosgi, am iddo wneuthur y gelanedd ar ddydd Sul y blodau; a thori ei ben oddiwrth ei gorph, a'i aelodau i'w crogi i fynu, mewn pedwar lle cyhoeddus, mewn amryw fanau yn Lloegr o achos iddo fwriadu angau y brenin. Celain Dafydd a ddyoddefodd hyn i'r eithaf; a chymaint oedd gorfoledd y Saeson, fel y bu ymryson taer rhwng trigolion Caer Efrog a Chaer Wynt am yr anrhydedd o gael y fraich ddehau; ond yr anrheg gigyddlyd a farnwyd yn deilwng i Gaer Wynt; a'r aelodau eraill a ddanfonwyd ar frys gwyllt i Gaer Efrog, Bristol, a Northampton; ac er fod trigolion Caer Ludd mewn llawenydd, ei ben a osodwyd ar bawl yn y Twr Gwyn, yn agos i ben ei frawd. — Y Greal.
Athronddysg: —
- Yn y talcen y mae y deall.
- Yn y gwegil y mae y côf.
- Yn y iad y mae y dosparth.
- Yn y deall, a'r côf, a'r dosparth, yn un, y mae y pwyll.
- Yn yr ysgyfaint y mae'r anadl.
- Yn y ddwyfron y mae y chwaut.
- Yn yr afu y mae y gwres.
- Yn y gwythi y mae y gwaed.
- Yn y bustl y mae y digofaint.
- Yn y ddueg y mae y llawenydd.
- Yn y galon y mae y cariad.
- Yn y rhai hyn i gyd y mae y serch.
- Yn y serch y mae yr enaid.
- Yn yr enaid y mae y meddwl.
- Yn y meddwl y mae y ffydd.
- Yn y ffydd y mae Mab Duw.
- Yn Mab Duw y mae bywyd didranc.
- Yn mywyd didranc y mae gwynfyd anorphen.
A gwyn ei fyd y neb a wnelo yn iawn â'r yniau a ddodes Duw ynddo, er cyrhaeddyd gwynfyd anorphen hyd byth bythoedd. — Y Bardd Glas o'r Gadair a'i dywed.
Chwedl y Mynyddoedd. — Cof genyf wrth groesi gwahanol ranau o fynyddoedd Berwyn, pan yn fachgen, weled olion aredig mewn llawer o fanau. yn uchel a phell oddiwrth dai; yr oedd y grynau yn wastad ar i fynu yn erbyn y tir. A oes modd gwybod yn mha oesoedd y bu yr hen Gymry yn aredig y mynyddoedd ' Tybiwn i fod y lleoedd hyny yn rhy uchel i ddwyn cnwd yn awr; ond a oes rhyw gyfnewidiad yn hinsawdd ein gwlad rhagor yn yr hen oesoedd? Dywed Gutyn Peris, mewn ysgrif ger fy mron: "Yr oedd mynyddoedd Arfon yn goediog i'w cribau uchaf agos, hyd amser Edward y Cyntaf." Adiau fod Berwyn felly hefyd; canys y mae y mawndir yn llawn o goed, fel y gwyr y trigolion yn dda. ond yr wyf fi yn cymysgu pethau mi welaf, oblegyd y mae y tymhor y cwympodd coed y fawnog yn mhellach yn ol na'r hyn y cyfeiria G. Peris ato. — Cynddelw yn y Brython.
Chwedl y Cawri. — Y mae Berwyn hefyd yn hynod am ei Gawri. Mae Pant y Cawr yn agôs i Bistyll Rhaiadr, ond o dan Graig y Ferwyn y trigai y Cawr, meddai y chwedl.
Yr oedd y Gawres, y forwyn, ac yntau, unwaith yn cyrchu beichiau o Graig y Mwn i wneud pont dros "Bant y Cawr," ond cyn iddynt fyned neppell, canodd y ceiliog, â gorfu iddynt ffoi, a gadael "baich y Cawr," "baich y Gawres. " a "ffedogaid y forwyn." yn y man y gwelir hwy hyd y dydd hwn. Y mae Gwallter Mechain, yn Hanes Plwyf Llan, yn son am Rhuddlwm Gawr, a Chawr Myfyr, sef Cawri y Plwyf hwnw; ond ni wyddai, er ei fod agos a gwybod pob peth, yn mha le y trigai Cawr Berwyn. Dangosir ei wely hyd heddyw yn agos i Langan, rhwng Maen Gwynedd a Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Yr oedd post careg wrth ei obenydd, ac o dan hono, meddent hwy, y cadwai ei drysorau; a bu rhai mor hygoelus, yn fy nghof i, a dymchwelyd y golofn, a cheibio yn ddwfn oddi tani, mewn gobaith am yr hen gist a'r arian. —Yr un.
Yr Ogofau. — Nid wyf yn cofio ond am un chwedl ogofawl mewn cysylltiad â Berwyn; yr oedd hono yn Nghraig y Rhiwarth, ger Llangynog. Nis gwn a oes ogof yn y graig hono, ai nad oes, ond clywais y chwedl fod un yn y cŵr nesaf i Gwm Llanhafan, ac i ddynion ei theithio cyhyd ag y parhaodd pwys o ganwyllau, a bod yno hen wrach yn wastadol yn golchi dillad mewn padell bres!
Ogof ryfedd y cyfrifid "Ogof Tal Clegir," sef Ness Cliff, yn agos i'r Mwythig. I hono yr aeth rhyw Ned Puw dan ganu, ac nis gwelwyd ef mwyach; ond cofiwyd y dôn a ganai, a galwyd hi yn" Ffarwel Ned Puw. " — Yr un.
Cyfenwau Cymreig. — Cyn amser y frenhines Elizabeth. yr oedd cyfenwau y Cymry yn cynwys achau hirion, megys Hywel ab Iorweth ab Ifan, ac felly yn mlaen am saith neu wyth o genhedlaethau. Yr oedd y cyfreithwyr a'r ustusiaid Seisnig a ddeuent i Gymru i weinyddu y gyfraith, yn myned yn gynddeiriog wyllt yn erbyn yr achau hyn, gan na fedrent hwy, drueniiaid anhymig, ddim seinio yr ch a'r ll, na chofio yr enwau pereiddsain oeddynt yn dolenu y gadwen. Dywedir fod rhyw ustus yn amser Harri VIII., a flinid yn fynych gan yr achau hyn, wedi apelio at y Cymry am iddynt fabwysiadu rhyw gynllun tuag at gwtogi eu henwau, ac i amryw ufuddhau i'w gais. Ond yn yr Eisteddfod fawr a gynaliwyd yn Nghaerwys, yn 1568, trwy orchymyn a dirprwyaeth y frenhines Elizabeth, rhoddwyd gorchymyn ar y Cymry gymeryd ac ymarfer â chyfenwau teuluaidd, cyffelyb i gyfenwau deiliaid eraill ei Mawrhydi; ac fod i'r Beirdd a'r gwŷr wrth gerdd dafod, gynghori a threfnu a gweled hyny; ac o hyny allan y Cymry a gymerasant gyfenwau gwahanol, rhai herwydd eu tadau, eraill yn ol fel eu gelwid cyn hyny, megys Elis Jones a Sion Wyn; ac eraill oddiwrth y rhanau o'r wlad a drigianent, megys Huw Gonwy, a William Llŷn. A chyn hyny nid oedd gan y Cymry gyfenwau, eithr dangos âch a bonedd a wnelid; a'r lle ni cheid y cyfryw, dodid damwain o enw fel ,y cydnabyddid ef yn llys y Brenin, ac am hyny y dywedir llysenw. A'r dull cyfreithiol a gymerwyd i gadarnhau yr enwau hyn oedd eu rhoddi yn ysgrifenedig ar bapur i glarcod y Sesiynau, a cheiniog gyda hwynt, ac enw y drigfan; yna dodid yr enw ar register y llys, ac o hyny allan adwaenid y person a'i wehelyth tros byth wrth y cyfenw hwnw.